Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

RHESTR O DERMAU

a

acer – darn o dir sy’n gyfwerth â 0.4047 hectar neu 4047 metr sgwâr (43,563 troedfedd sgwâr).

achosion o gwblhau anheddau – pan fydd caniatâd cynllunio wedi’i weithredu’n llwyr; cyfeirir atynt fel rheol wrth gofnodi a monitro gwaith codi tai, h.y. pan fydd annedd wedi’i adeiladu’n llawn.

adeilad rhestredig – adeilad, neu unrhyw strwythur arall yng nghwrtil yr adeilad, sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y dylid ei gadw, ac sydd ar restr a lunnir gan Cadw. Mae angen caniatâd ar gyfer gwaith sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig neu’u lleoliadau, beth bynnag fo’r angen am ganiatâd cynllunio.

adfer – y broses o adfer datblygiad neu weithgaredd megis cloddio neu dirlenwi, yn dilyn diwedd ei oes ddefnyddiol, naill ai i’w gyflwr gwreiddiol neu i ddefnydd neu olwg arall gan ddefnyddio isbridd, uwchbridd a mesurau tirlunio.

adfywio – y broses o roi bywyd newydd i ardal trwy fuddsoddi mewn adnewyddu adeiladau sy’n bodoli eisoes, datblygu o’r newydd a darparu seilwaith newydd. Gelwir y broses hon weithiau’n adnewyddu trefol.

adnewyddu – y broses o fuddsoddi mewn adeiladwaith ffisegol adeilad er mwyn sicrhau ei fod o safon briodol.

adnodd cyfyngedig – adnodd a fydd wedi’i golli am byth pan fydd wedi’i ddefnyddio’n llwyr.

adnoddau adnewyddadwy – adnoddau neu ynni o lifoedd naturiol a pharhaus yn yr amgylchedd, na ellir eu dihysbyddu. Maent yn cynnwys ffynonellau solar, gwynt, dwr a ffynonellau geothermol yn ogystal â deunydd planhigion (bio-màs).

adnoddau eilaidd – unrhyw ddeunydd wedi’i ailgylchu y gellir ei ddefnyddio yn lle adnoddau sylfaenol neu agregau.

addasu – pan fydd defnydd newydd yn cael ei roi i adeilad sy’n bodoli eisoes, e.e. adeilad amaethyddol yn cael ei addasu ar gyfer defnydd preswyl.

aelwydydd – nifer y bobl sy’n byw mewn annedd fel uned sengl, h.y. maent yn rhannu cyfleusterau domestig a threfniadau cadw ty (mae tueddiadau diweddar wedi dangos nifer gynyddol o aelwydydd bach neu aelwydydd ag un person hyd yn oed).

agenda 21 – y broses a sefydlwyd o ganlyniad i Uwchgynhadledd y Ddaear Rio yn 1990, gyda’r amcan o geisio gweithredu ar faterion yn ymwneud â datblygu cynaliadwy ar lefel leol.

agregau – cloddio a phrosesu deunydd lleol i’w ddefnyddio fel deunydd llenwi neu adeiladu, e.e. craig wedi’i malu, tywod a graean.

angen gweddilliol – y tai ychwanegol y mae angen eu hadeiladu yn ystod cyfnod unrhyw Gynllun, ar ôl ystyried caniatadau sy’n bodoli eisoes ac unrhyw lwfans ar gyfer safleoedd bach neu waith addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes.

angen lleol am dai – yn y Cynllun hwn, caiff y term Angen Lleol am Dai ei ddefnyddio i ddisgrifio anghenion dau grwp allweddol o ran tai. Y grwp cyntaf yw ‘gweithwyr’ y mae angen iddynt fyw mewn ardal leol benodol, megis gweithwyr fferm, gweithwyr pysgodfeydd a gweithwyr ym maes coedwigaeth, sydd ar hyn o bryd yn byw’n rhy bell o’u gwaith i fod yn ymarferol (e.e. oherwydd eu bod yn magu anifeiliaid). Yr ail grwp yw aelwydydd nad oes ganddynt eu tai eu hunain, neu sy’n byw mewn tai annigonol neu anaddas ac nad oes ganddynt fodd ariannol i ddarparu ar gyfer eu hanghenion eu hunain yn y farchnad dai heb gymorth.

ailgylchu – y broses o ddidoli gwastraff yn ôl ei fath fel y gellir ei ailddefnyddio at ddibenion eraill.

amaethyddiaeth – tir a ddefnyddir ar gyfer ffermio gwartheg godro a da byw, tyfu ffrwythau, tyfu hadau, bridio ar gyfer ffwr neu grwyn, garddwriaeth, tir pori, meithrinfeydd a choetir, lle mae’r defnydd hwnnw’n atodol i ffermio’r tir.

amcanestyniad – dadansoddiad o dueddiadau blaenorol fel sail ar gyfer rhagamcanu tueddiadau’r dyfodol, e.e. twf y boblogaeth.

amod cynllunio – wrth roi caniatâd cynllunio, bydd yn angenrheidiol yn aml i agweddau gael eu rheoli neu’u gweithredu mewn modd neilltuol neu bydd yn angenrheidiol cael cymeradwyaeth wedyn gan yr awdurdod cynllunio lleol. Caiff y rhain eu nodi mewn amodau sydd ynghlwm wrth y dystysgrif penderfyniad.

amwynder – ansawdd bywyd canfyddedig o safbwynt y gwerth a roddir ar le neu fan.

annedd gweithiwr fferm – annedd i’w ddefnyddio gan weithiwr fferm (neu weithiwr ym maes coedwigaeth), lle mae’n hanfodol i’r person hwnnw fyw yn ei weithle. Mae’r annedd fel rheol yn rhwym wrth amod neu gytundeb cyfreithiol sy’n cyfyngu ar ddeiliadaeth yr annedd.

arallgyfeirio ar ffermydd – ehangu mentrau amaethyddol i gynnwys gweithgareddau masnachol newydd er mwyn gwella, neu o leiaf gynnal, hyfywedd daliadau sy’n bodoli eisoes.

archeoleg – astudiaeth o’r gorffennol trwy ddadansoddi gweddillion (gweler Heneb Gofrestredig).

archwiliadau iechyd – asesu canol tref ar sail amrywiaeth eang o feini prawf er mwyn mesur ei fywiogrwydd, ei apêl a’i hyfywedd.

ardal amgylcheddol sensitif – ardal o dirwedd a ddiffinnir yn lleol, lle mae grantiau ar gael ar gyfer arferion amaethyddol sy’n parchu’r amgylchedd lleol.

Ardal Cadwraeth Arbennig – Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig â dynodiad ychwanegol dan y Gyfarwyddeb Ewropeaidd ar Warchod Cynefinoedd Naturiol a Ffawna a Fflora Gwyllt, er mwyn cynnal neu adfer cynefinoedd naturiol a rhywogaethau â blaenoriaeth, sydd, gydag Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, yn ffurfio rhwydwaith ‘Natura 2000’ yr Undeb Ewropeaidd o gynefinoedd sydd o bwysigrwydd Ewropeaidd o ran cadwraeth natur.

ardal gadwraeth – ardal sydd wedi’i dynodi oherwydd ei diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, ac y dymunir cadw neu wella ei chymeriad neu’i golwg.

Ardal Gwarchodaeth Arbennig – Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig â dynodiad ychwanegol dan y Gyfarwyddeb Ewropeaidd ar Warchod Adar Gwyllt, oherwydd yr angen i warchod adar sydd dan fygythiad a’u cynefinoedd.

ardal o harddwch naturiol eithriadol – caiff ardal o harddwch naturiol eithriadol ei dynodi’n statudol fel ardal o bwysigrwydd cenedlaethol oherwydd ei harddwch naturiol, y dylid ei gadw a’i wella.

arfarniad – y broses o bwyso a mesur strategaeth, polisïau a chynigion y Cynllun ar sail amcanion cynaliadwyedd er mwyn sicrhau y bydd y Cynllun yn gweithio i wireddu datblygu cynaliadwy.

arfarniad amgylcheddol – y broses o nodi effaith amgylcheddol polisïau a chynigion cynllun datblygu, ei meintioli, ei phwyso a’i mesur, ac adrodd yn ei chylch (mae bellach wedi’i ddisodli gan arfarniad cynaliadwyedd).

arfarniad cynaliadwyedd – proses o asesu cynllun datblygu’n systematig ar sail amrywiaeth o feini prawf, er mwyn sicrhau y bydd yn cyflawni datblygu cynaliadwy.

arfordir sydd heb ei ddatblygu – y tir a’r aber sydd heb eu datblygu i’r gogledd o’r A548.

arolwg adran 105 – arolygon a gynhelir gan Asiantaeth yr Amgylchedd (Cymru) dan ddarpariaethau Deddf Adnoddau Dwr 1991 i bennu ardaloedd sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd a phennu graddau’r perygl, er mwyn llywio gwaith paratoi cynlluniau datblygu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio.

asesiad amgylcheddol strategol – proses sy’n ofynnol gan Gyfarwyddeb yr UE i sicrhau bod unrhyw effeithiau amgylcheddol sylweddol sy’n codi o bolisïau, cynlluniau a rhaglenni yn cael eu nodi, eu hasesu, eu lliniaru, eu rhannu â’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau, a’u monitro.

asesiad o effeithiau amgylcheddol – y broses o gasglu, asesu ac ystyried gwybodaeth am effeithiau amgylcheddol tebygol mathau penodol o ddatblygiadau (yn rhinwedd eu maint, eu math a’u natur) wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ai peidio.

asesiad o effeithiau traffig – asesiad sy’n ofynnol er mwyn llywio’r broses o ystyried cais cynllunio lle mae datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol ar lif traffig. Bydd yn asesu llif y traffig presennol a chapasiti’r rhwydwaith priffyrdd i ymdopi â’r datblygiad, boed hynny gyda mesurau lliniaru neu hebddynt. Mewn rhai achosion, bydd angen Asesiad o Effeithiau Traffig sydd hefyd yn ystyried hygyrchedd y datblygiad drwy wahanol ddulliau o deithio.

asesiad priodol – asesiad sy’n ofynnol dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer unrhyw gynnig sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar Safle Ewropeaidd. Mae’n seiliedig ar ystyriaethau gwyddonol yn unig er mwyn canfod a fyddai’r cynnig yn cael effaith andwyol ar integriti’r Safle.

asesiadau o effeithiau manwerthu – gyda phob cais am ddatblygiadau manwerthu ag arwynebedd llawr gros sydd dros 2,500 metr sgwâr, mae’n ofynnol cael astudiaeth i asesu’r dull dilyniannol o ddewis safle, argaeledd safleoedd eraill, yr effaith economaidd ar ganol trefi, a hygyrchedd trwy ystod o ddulliau teithio.

asiantaeth yr amgylchedd – Asiantaeth yr Amgylchedd (Cymru) yw’r corff a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i fod yn gyfrifol am waith rheoleiddio amgylcheddol er mwyn sicrhau bod aer, dwr a phridd o ansawdd priodol.

atodol – defnydd o dir ac adeiladau sy’n wahanol yn dechnegol i’r prif ddefnydd, ond sy’n llai pwysig ac sy’n cael ei ganiatáu oherwydd ei gysylltiad â’r prif ddefnydd.

 

b

banc tir – stoc o dir a fwriedir ar gyfer diben penodol (megis cynnal a chadw cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai), neu yn achos mwynau, nifer y caniatadau ar gyfer tynnu a gweithio cronfeydd mwynau, a fynegir yn aml yn nhermau nifer y blynyddoedd o gyflenwad.

BBaCh – y byrfodd a roddir i fusnesau bach a chanolig eu maint sy’n cael eu hystyried yn elfennau allweddol o economi leol gynaliadwy.

bioamrywiaeth – amrywiaeth yr holl bethau byw sy’n bodoli mewn ardal neu gynefin penodol.

brodorol – lle mae gan ardal arddull pensaernïol penodol neu ddull penodol o ddefnyddio deunyddiau neu nodweddion, y mae modd eu hadnabod, sy’n rhoi ymdeimlad unigryw o le iddi.Defnyddir y term hefyd i ddisgrifio deunyddiau adeiladu neu rywogaethau planhigion lleol sy’n hanu o ardal benodol.

bywiogrwydd – mesur o ba mor brysur neu fywiog yw canol tref ar adegau gwahanol o’r dydd, o safbwynt bod yn ddeniadol i fusnesau a siopwyr.

 

c

Cadw – asiantaeth weithredol Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n gyfrifol am warchod, cadw a hyrwyddo gwerthfawrogiad o amgylchedd hanesyddol Cymru.

cadwraeth natur – term cyffredinol a ddefnyddir ar gyfer gwaith gwarchod a gwella’r amgylchedd naturiol (planhigion ac anifeiliaid).

cais amlinellol – cais cynllunio am ganiatâd cynllunio amlinellol i sefydlu egwyddor datblygiad penodol yn unig, gyda’r awdurdod cynllunio lleol yn mynd ati wedyn i gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl, cyn i’r gwaith datblygu ddechrau.

cais cynllunio – cais a gyflwynir i’r awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd i ddatblygu, ac sy’n cynnwys ffi (lle bo angen).

cais llawn / manwl – cais cynllunio heb unrhyw faterion a gadwyd yn ôl i’w cymeradwyo wedyn.

caniatâd cynllunio – lle mae’r awdurdod cynllunio lleol yn cymeradwyo datblygiad yn unol â thystysgrif penderfyniad a all nodi, neu beidio, yr amodau cynllunio y bydd angen i’r datblygiad eu bodloni.

canllawiau cynllunio atodol – canllawiau cynllunio atodol anstatudol a gynhyrchir gan awdurdod cynllunio lleol i ategu’r polisïau a’r cynigion sydd yn y CDU. Bwriedir iddynt fod yn ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Gallant gynnwys canllawiau dylunio, canllawiau ar bynciau arbennig neu friffiau cynllunio safleoedd.

canllawiau cynllunio rhanbarthol – canllawiau cynllunio a gynhyrchir ar lefel ranbarthol ar sail gydweithredol a gwirfoddol gan Swyddogion Cynllunio Gogledd Cymru, er mwyn ymdrin â materion o bwysigrwydd strategol na ellir mynd i’r afael yn ddigonol â hwy mewn ardaloedd gweinyddol unigol.

capasiti amgylcheddol – gallu amgylchedd penodol i gynnal datblygiad heb achosi gormod o niwed.

cefn gwlad agored – term a ddefnyddir i ddisgrifio tir sydd y tu allan i ffin anheddiad tref neu bentref ac nad yw dyraniad neu ddynodiad arall ar gyfer datblygu’n effeithio arno.

cefnffordd – Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n gyfrifol am gefnffyrdd a thraffyrdd. Maent yn ffyrdd o safon sy’n cludo llawer iawn o draffig sy’n teithio pellter hir rhwng trefi a dinasoedd.

cludo nwyddau – symud nwyddau ar y ffyrdd, y rheilffyrdd, ar ddwr neu yn yr awyr.

clustogfa – ardal a ddiffinnir o gwmpas safleoedd mwynau er mwyn gwarchod defnydd tir a datblygiadau sensitif oddi amgylch rhag effeithiau gweithrediadau’n ymwneud â mwynau.

coetir cymunedol – coetiroedd amlbwrpas a ddatblygir ac a reolir i ddarparu cyfleoedd hamdden a mynediad i’r cyhoedd a gwella’r dirwedd a chadwraeth natur.

colledion – cyfeirir at golledion yn aml yng nghyd-destun faint o wariant, a gynhyrchir yn lleol, sy’n mynd ar nwyddau manwerthu a gwasanaethau sydd y tu allan i’r sir.

cwrtil – yr ardal y gellir ei diffinio o amgylch adeilad, yn rhinwedd perchenogaeth, defnydd a chynllun ffisegol, lle ceir tir a strwythurau sy’n gysylltiedig â’r adeilad, e.e. gardd o amgylch ty. (O safbwynt adeilad rhestredig, caiff unrhyw adeilad neu strwythurau eraill sydd yng nghwrtil yr adeilad eu hystyried yn rhestredig hefyd.)

cyd-astudiaeth argaeledd tir ar gyfer tai – astudiaeth flynyddol o gyflenwad tir ar gyfer tai, a gydgysylltir gan yr Is-adran Dir yn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac sy’n cynnwys yr awdurdod cynllunio lleol, y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, darparwyr cyfleustodau cyhoeddus ac adeiladwyr tai, er mwyn monitro faint o dir a ddefnyddir i adeiladu tai a faint o dir a fydd ar gael yn y dyfodol.

cyfarwyddyd erthygl 4 – y modd y gall awdurdod cynllunio lleol, yn amodol ar gael caniatâd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gyfyngu ar hawliau datblygu a ganiateir. Fe’i defnyddir yn aml i warchod cymeriad a golwg ardaloedd cadwraeth trwy atal effaith niweidiol gronnol newidiadau bach i eiddo.

cyfarwyddyd polisi cynllunio – cyfarwyddyd a gynhyrchir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi gwybodaeth i awdurdodau cynllunio lleol ac eraill ynglyn â pharatoi cynlluniau datblygu ac ystyried ceisiadau cynllunio. Y ddogfen allweddol yn hynny o beth yw Polisi Cynllunio Cymru.

cyfradd cymryd tir – cyfeirir at hynny fel rheol yng nghyd-destun monitro’r gyfradd datblygu tir ar gyfer tai, cyflogaeth neu ddatblygiadau eraill.

Cyngor Cefn Gwlad Cymru – ymgynghorydd statudol y Cynulliad ar gynnal harddwch naturiol, bywyd gwyllt a’r cyfle i fwynhau’r awyr agored yng Nghymru ac ar hyd dyfroedd ei glannau.

cymdeithas dai – sefydliad di-elw sy’n darparu tai sydd i’w rhentu neu’u gwerthu neu sy’n gysylltiedig â chynlluniau rhannu ecwiti, am bris rhatach na phris y farchnad (yn aml cyfeirir at gymdeithasau tai fel landlordiaid cymdeithasol cofrestredig).

Cymdeithas Genedlaethol Caeau Chwarae – corff sy’n ceisio caffael, gwarchod a gwella caeau chwarae a mannau eraill at ddibenion hamdden, er budd cymunedau lleol (fe’i gelwir bellach yn ‘Fields in Trust’ – ‘Meysydd Chwarae Cymru’ yng Nghymru).

cynefin – safle neu ardal lle mae planhigyn neu anifail penodol yn byw ac yn cael ei gynnal (cyfeirir ato’n aml yng nghyd-destun rhywogaethau a warchodir).

cynhesu byd-eang – y broses, y cyfeirir ati’n aml fel y newid yn yr hinsawdd, lle mae patrymau tywydd y byd yn newid ac yn dod yn fwy anodd eu rhagweld, ynghyd â chynnydd hirdymor yn lefel y môr.

cynllun datblygu unedol (CDU) – mae’n ofynnol bod cynllun datblygu statudol yn cael ei baratoi gan bob awdurdod cynllunio lleol unedol, sy’n cynnwys polisïau Rhan 1 strategol a pholisïau Rhan 2 manwl neu leol ynghyd â chynigion sy’n ymwneud â datblygu a defnyddio tir. Mae’r cynlluniau datblygu unedol hyn yn disodli’r system flaenorol o gynlluniau fframwaith a chynlluniau lleol.

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth – y gofyniad i awdurdodau lleol baratoi cynllun i gadw a gwella bioamrywiaeth ardal.

cynllun teithio – cynllun a lunnir gyda’r amcan o leihau teithio mewn car, naill ai mewn datblygiad sy’n bodoli eisoes neu ddatblygiad arfaethedig, er mwyn sicrhau manteision economaidd ac amgylcheddol a manteision o ran iechyd.

cynllun trafnidiaeth lleol – cynllun sy’n nodi strategaeth, blaenoriaethau a rhaglen weithredu’r Cyngor ar gyfer trafnidiaeth er mwyn gwella system drafnidiaeth y Sir.

cynllun trafnidiaeth rhanbarthol – cynllun a baratowyd gan Taith ar ran y chwe awdurdod lleol sydd yng ngogledd Cymru, a fydd yn sicrhau gwelliannau i’r system drafnidiaeth yn ystod y 25 mlynedd nesaf.

cynlluniau gwres a phwer cyfun – cynlluniau sy’n defnyddio technoleg i adennill ynni, boed ar ffurf gwres neu bwer, o wastraff neu ffynonellau eraill o fio-màs.

cynllunio, monitro, rheoli – dull o ddarparu tai, lle mae’r awdurdod cynllunio lleol yn cynllunio ar gyfer lefel benodol o ddarpariaeth o ran tai, yn monitro’r cyflenwad a’r galw am dai yn rheolaidd, ac yn gwneud addasiadau os oes angen.

cytundeb adran 106 – cytundeb cyfreithiol rhwng Cyngor ac ymgeisydd (a thrydydd partïon weithiau) i sicrhau bod camau penodol, sy’n berthnasol i’r datblygiad, yn cael eu cyflawni’n briodol, lle na ellir eu gorfodi trwy amod cynllunio.

 

d

datblygiad – mae adran 55 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn diffinio datblygiad fel achos o gyflawni gwaith adeiladu, gwaith peirianyddol, gwaith mwyngloddio neu weithrediadau eraill mewn tir, ar dir, dros dir neu dan dir, neu wneud unrhyw newid o bwys i ddefnydd unrhyw adeiladau neu dir arall.

datblygiad defnydd cymysg – datblygiad sy’n cynnwys cymysgedd o ddefnydd masnachol, defnydd manwerthu a defnydd preswyl, ymysg mathau eraill o ddefnydd.

datblygiad hirgul – datblygiad sy’n ymestyn y llinell o anheddau sy’n bodoli eisoes ar hyd ffordd i mewn i gefn gwlad agored, gyda mynedfeydd unigol oddi ar y ffordd honno.

datblygiad masnachol – datblygiad sy’n gysylltiedig â phrynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau, sy’n cynnwys y mathau canlynol o ddefnydd: siopau (A1); gwasanaethau ariannol a phroffesiynol (A2); gwerthu bwyd a diod (A3); swyddfeydd (B1); gwestai, gwestai bach a hostelau (C1); defnydd yn ymwneud ag ymgynnull a hamdden, h.y. sinemâu, neuaddau cyngerdd, neuaddau bingo, neu neuaddau casino a dawns (D2); defnydd hamdden unigryw arall, e.e. theatrau, arcedau neu ganolfannau difyrion neu ffeiriau pleser; defnydd manwerthu unigryw arall, e.e. golchdai, siopau glanhau dillad, gorsafoedd petrol, lleoedd gwerthu cerbydau modur, busnesau tacsis, busnesau hurio cerbydau modur, marchnadoedd a chyflenwyr adeiladwyr.

datblygiad masnachol nad yw’n ddatblygiad manwerthu – datblygiad sy’n gysylltiedig â phrynu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau, sy’n cynnwys pob math o ddatblygiadau masnachol (gweler y diffiniad uchod) ar wahân i ddefnydd A1 a ddiffiniwyd yng Ngorchymyn Dosbarthiadau Defnydd 1987, fel y’i diwygiwyd.

datblygiad mewnlenwi – datblygu safle gwag neu fwlch mewn ffryntiad sydd wedi’i ddatblygu’n sylweddol neu grwp o anheddau.

datblygiad talgrynnu – datblygiad sy’n ffurfio estyniad rhesymegol i anheddiad, sy’n cyd-fynd â’i ffurf a’i gymeriad presennol. Dylai greu ffin resymegol y gellir ei hamddiffyn, ac ni ddylai dresmasu’n sylweddol ar ardal o gefn gwlad agored.

datblygiad tir cefn – datblygu tir y tu cefn i eiddo ffryntiad sy’n bodoli eisoes, sydd fel rheol yn golygu is-rannu gerddi cefn.

datblygu a ganiateir – gwaith datblygu nad oes angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer, fel y nodir gan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir.

datblygu cynaliadwy – datblygu sy’n bodloni anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

datblygu economaidd – y broses lle mae awdurdod lleol yn gweithio i gryfhau ac amrywio economi rhanbarth neu ardal, fel rheol yng ngoleuni strategaeth datblygu economaidd.

datganiad amgylcheddol – y ddogfen a lunnir yn dilyn asesiad o effeithiau amgylcheddol, ac sy’n cyd-fynd â’r cais cynllunio.

defnydd unigryw – defnydd nad yw’n perthyn i unrhyw Orchymyn Dosbarthiadau Defnydd ac a ddisgrifir o’r herwydd fel defnydd unigryw (sui generis) – dosbarth ar ei ben ei hun, e.e. ystafelloedd arddangos ceir, gorsafoedd petrol.

demograffeg – astudiaeth a dadansoddiad o’r boblogaeth, sydd fel rheol yn cynnwys adnoddau ystadegol a thechnegau modelu neu ragfynegi.

diogelu – gwarchod safle, ardal neu nodwedd, naill ai yn ei ddefnydd presennol neu ar gyfer defnydd yn y dyfodol (e.e. Ardal Diogelu Mwynau).

dosbarthu tir amaethyddol – y broses a ddefnyddid gan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gynt, sef Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig erbyn hyn, i bennu ansawdd tir amaethyddol. Caiff y tir gorau a mwyaf amlbwrpas, sydd i’w gadw fel adnodd cenedlaethol, ei ddosbarthu fel tir gradd 1, 2 a 3a.

dull / egwyddor o weithredu’n rhagofalus – y rhagdybiaeth y gallai datblygiad neu weithgaredd fod yn niweidiol i’r amgylchedd, oni ellir profi i’r gwrthwyneb.

dull dilyniannol – prawf a weithredir yn bennaf gyda chynigion ar gyfer datblygiadau manwerthu ond hefyd gyda mathau eraill o ddatblygiadau er mwyn sicrhau nad oes unrhyw safleoedd eraill addas yng nghanol y dref neu ar gyrion canol y dref.

dulliau o deithio – gwahanol ddulliau o deithio, megis car, beic, bws, trên, cwch ac ati.

dwr budr – dwr sy’n cynnwys gwastraff a gynhyrchir gan ddatblygiad, y mae’n rhaid ei drin, o’i gyferbynnu â dwr sy’n rhedeg oddi ar wyneb datblygiadau, e.e. arwynebau caled a thoeau, nad oes angen ei drin yn gyffredinol.

dwr daear – dwr a gedwir mewn dyfrhaenau ac a ddefnyddir fel dwr yfed, y dylid gwarchod ei ansawdd.

dwr ffo – dwr sy’n llifo oddi ar ddatblygiadau, e.e. o arwynebau caled a thoeau.

dwysedd – fel rheol, cyfeirir at ddwysedd yng nghyd-destun nifer yr anheddau ar safle datblygu fel nifer yr anheddau yr hectar (mae’r llywodraeth yn argymell lleiafswm o 30 annedd yr hectar / 12 annedd yr acer).

dynodiad – pan fydd ardal yn cael ei dynodi’n ffurfiol gan statud, e.e. safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, neu derm cyffredinol a ddefnyddir am bolisïau y gellir eu plotio’n ddaearyddol ar fap cynigion, e.e. rhwystr glas, ardal gadwraeth ac ati.

dyraniad – tir sydd wedi’i nodi, ei ddynodi’n barth neu’i ddiogelu ar gyfer defnydd penodol neu fath penodol o ddatblygiad mewn cynllun datblygu.

 

e

ecoleg – astudiaeth o bethau byw mewn perthynas â’u hamgylchedd neu’r hyn sydd o’u hamgylch.

egwyddor agosrwydd – cyfeirir ati fel arfer yng nghyd-destun gwastraff, lle dylid gwaredu gwastraff neu’i reoli / ailgylchu mor agos ag sy’n bosibl i’r man lle caiff ei gynhyrchu, er mwyn ei atal rhag cael ei allforio i ardaloedd eraill ac er mwyn lleihau’r angen i’w gludo.

 

f

‘Fields in Trust’ (‘Meysydd Chwarae Cymru’ yng Nghymru) – sefydliad annibynnol sy’n gweithio ledled y DU ac sy’n ceisio gwarchod a gwella mannau a chyfleusterau chwarae a chwaraeon yn yr awyr agored (sef y Gymdeithas Genedlaethol Caeau Chwarae gynt).

ffin anheddiad – adnodd cynllunio i ddiffinio hyd a lled ardaloedd trefol lle bydd datblygiadau newydd, mewn egwyddor, yn cael eu caniatáu’n amodol ar bolisïau’r Cynllun ac ystyriaethau cynllunio perthnasol. Nid oes gan bob grwp o dai ffin anheddiad sydd wedi’i diffinio ar eu cyfer, gan y bernir nad ydynt yn ddigon mawr a/neu nad oes ganddynt ddigon o gapasiti i ddarparu’n foddhaol ar gyfer twf yn y dyfodol.

ffryntiadau eilaidd – rhannau o ganol tref, y tu allan i’r prif ffryntiadau siopa, sy’n cynnwys cymysgedd o ddatblygiadau masnachol a lle nad manwerthu yw’r elfen amlycaf.

 

g

gofodol – mynegi tueddiadau, polisïau neu gynigion fel y maent yn ymddangos ar lawr gwlad, e.e. nodi ardaloedd cyfyngiadau neu dwf.

gorchymyn cadw coed – gwarchodaeth gyfreithiol a roddir i goeden yr ystyrir ei bod o werth sylweddol o ran amwynder, sy’n golygu y bydd angen caniatâd yr awdurdod cynllunio lleol i docio’r goeden, ei blaendorri neu’i thorri i lawr.

gorchymyn dosbarthiadau defnydd – mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (a ddiwygiwyd) yn gosod y prif fathau o ddefnydd tir mewn gwahanol gategorïau’n seiliedig ar natur a nodweddion pob un. Yn gyffredinol ni fydd angen caniatâd cynllunio i newid defnydd tir neu adeilad o fewn dosbarth, ond bydd angen caniatâd i newid defnydd rhwng dosbarthiadau gwahanol.

gorddatblygu – datblygu na ellir darparu’n foddhaol ar ei gyfer mewn safle, ac a fyddai’n cael effaith annerbyniol ar ddeiliaid neu ddefnyddwyr y datblygiad arfaethedig ac ar ddatblygiad neu ddefnydd tir oddi amgylch.

gorddwysáu – pan fydd defnydd neu weithgaredd penodol yn cynyddu i’r fath raddau fel ei fod yn cael effeithiau annerbyniol ar briffyrdd ac amwynder, ac ar fuddiannau amgylcheddol a buddiannau eraill.

gorfodi – y modd y rheoleiddir achosion o dorri rheolau cynllunio neu achosion o fethu â chydymffurfio ag amodau sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio, naill ai trwy drafod, unioni neu gymryd camau cyfreithiol.

gorlifdir – ardal o dir isel wrth ymyl cwrs dwr neu’r môr, sydd naill ai’n gorlifo’n naturiol neu’n gorlifo trwy waith dylunio.

gostegu traffig – mesurau i arafu traffig, megis mesurau lleihau cyflymder, trin wyneb ffyrdd neu gulhau ffyrdd, sydd fwyaf cyffredin mewn ardaloedd preswyl er mwyn gwella diogelwch i gerbydau a defnyddwyr eraill priffyrdd, yn enwedig cerddwyr.

gwarchodfa natur genedlaethol – ardal o bwysigrwydd cenedlaethol neu ryngwladol ar gyfer cadwraeth natur, ac sy’n cael ei rheoli’n unol â chytundeb rheoli â thirfeddianwyr a deiliaid tir.

gwarchodfa natur leol – safle neu ardal y mae’r awdurdod cynllunio lleol wedi datgan ei fod / ei bod yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i gadwraeth natur, bywyd gwyllt lleol neu ddiddordeb daearegol, sy’n darparu cyfleoedd ar gyfer addysg a mwynhad gan y boblogaeth leol.

h

hectar – darn o dir sy’n gyfwerth â 2.471 acer neu 10,000 metr sgwâr (10,7642 troedfedd sgwâr).

heneb gofrestredig – safle neu nodwedd archeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol sydd ar gofrestr a baratowyd gan Cadw. Bydd angen i ddatblygiad sy’n debygol o effeithio ar heneb gofrestredig gael caniatâd heneb gofrestredig gan Cadw hefyd, beth bynnag fo’r angen am ganiatâd cynllunio.

hierarchaeth aneddiadau – system dosbarthu aneddiadau, sy’n seiliedig ar asesiad o ffactorau megis maint, cyfluniad, cyfleusterau a gwasanaethau, sy’n rhoi arwydd o lefel y twf y bydd yn rhaid darparu ar ei gyfer yn ystod cyfnod y Cynllun.

hygyrchedd – pa mor rhwydd yw hi i bobl gyrraedd datblygiadau neu gyfleusterau y maent yn dymuno’u defnyddio.

hyfywedd – er bod y term hwn yn berthnasol i fusnesau unigol neu weithgareddau masnachol, caiff ei ddefnyddio’n fwy cyffredin wrth benderfynu ar iechyd canol tref o safbwynt ei allu i barhau i fasnachu, denu buddsoddiad a gwella ac addasu dros amser.

hysbyseb – mae’n debygol y bydd angen caniatâd hysbysebu ar unrhyw air, llythyren, model, arwydd, placard, bwrdd, hysbysiad neu ddyfais, p’un a ydynt wedi’u goleuo ai peidio, y bwriedir iddynt fod yn hysbyseb.

 

l

lwfans hyblygrwydd – arfer sy’n berthnasol i ddarpariaeth unrhyw Gynllun ar gyfer tai, er mwyn darparu ar gyfer yr elfennau hynny o’r cyflenwad tai sy’n symud yn eu blaen yn arafach nag a ragwelwyd neu nad ydynt yn symud yn eu blaen o gwbl o ganlyniad i broblemau perchenogaeth neu isadeiledd, problemau ffisegol neu broblemau marchnata.

llain las – polisi statudol sy’n ceisio gwarchod cymeriad agored cefn gwlad o gwmpas ardaloedd adeiledig am gyfnod o 30 mlynedd o leiaf cyn y caiff ei adolygu.

lliniaru – mesurau a fydd yn lleddfu neu’n gwella sefyllfa, problem neu effaith.

llwybr troed – llwybr i gerddwyr, sydd fel rheol ar wahân i’r briffordd, o’i gyferbynnu â throedffordd sy’n rhedeg ochr yn ochr â phriffordd.
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adran yr Economi a Thrafnidiaeth – swyddogaeth y Cynulliad yw darparu, cynnal a diogelu cyfleoedd cyflogaeth a chyflawni cynlluniau adfywio ledled Cymru.

 

m

mannau gwyrdd – ardaloedd o dir sydd mewn ardaloedd trefol neu’n agos iddynt fel rheol, ac sy’n cael eu gwarchod yn rhinwedd eu gwerth o ran amwynder, hamdden neu gadwraeth natur.

materion a gadwyd yn ôl – rhaid i’r materion na chawsant eu hystyried yn rhan o gais amlinellol gael eu hystyried yn rhan o gais dilynol ynghylch materion a gadwyd yn ôl, a allai gynnwys lleoliad, dyluniad, golwg allanol, mynediad a gwaith tirlunio.

menter trefi bychain a phentrefi – menter gan Adran yr Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, y bwriedir iddi hyrwyddo cynaliadwyedd a ffyniant trefi bach a phentrefi yn ardaloedd gwledig gogledd Sir y Fflint, yn bennaf trwy gefnogi datblygiadau gan fusnesau neu fudiadau cymunedol.

mesur rheoli risg – nodi lefel a natur risg, perygl neu effaith, a llunio mesurau a fydd yn gallu rheoli’r risg yn dderbyniol.

mudo – mae symudiadau parhaol trigolion rhwng ardaloedd, siroedd neu wledydd yn ffactor allweddol wrth benderfynu ynghylch darparu tai yn y dyfodol.

 

n

newid defnydd – mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer rhai newidiadau yn y defnydd o dir neu adeiladau, fel y nodir yng Ngorchymyn Dosbarthiadau Defnydd 1987 (gweler Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd).

nodyn cyngor technegol (TAN) – dogfen a gynhyrchir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu cyngor ychwanegol ynghylch agweddau allweddol ar bolisi a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru.

 

o

ôl-ddefnydd – y defnydd y bydd safleoedd mwynau neu wastraff yn dychwelyd iddo yn y pen draw neu’n cael eu defnyddio ar ei gyfer.

 

p

parc / gardd / tirwedd hanesyddol – dynodiad Cadw anstatudol sy’n ymwneud â pharciau, gerddi a thirweddau y dylid eu gwarchod yn rhinwedd eu diddordeb hanesyddol neu ddiddordeb arall.

peirianwaith / sylwedd peryglus – adeilad neu broses sy’n cynnwys neu sy’n defnyddio sylweddau sy’n ffrwydrol, yn wenwynig, yn fflamadwy neu’n garsinogenig, ac sy’n cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

perygl llifogydd – mae’r tebygolrwydd y bydd datblygiad presennol neu arfaethedig yn dioddef llifogydd yn seiliedig fel rheol ar asesiad a gynhelir gan Asiantaeth yr Amgylchedd (gweler arolygon adran 105).

prif strydoedd siopa – strydoedd neu ffryntiadau lle ceir defnydd manwerthu’n bennaf, yr ystyrir ei bod yn ddymunol ei gadw.

 

rh

rhagolwg – ymarfer ystadegol i amcangyfrif y twf tebygol a’r newidiadau mewn poblogaethau ac aelwydydd fel un o’r ffactorau a ystyrir wrth benderfynu ar lefel y tai y bydd eu hangen yn ystod cyfnod y Cynllun.

rhannu ecwiti – system a weithredir gan Landlord Cymdeithasol Cofrestredig i alluogi deiliaid i brynu cyfran o’r eiddo (hyd at uchafswm y cytunwyd arno) a thalu rhent am y gweddill, er mwyn iddynt allu ymuno â’r farchnad eiddo trwy werthu’r gyfran y maent yn berchen arni’n ôl i’r landlord.

rheoli traffig – mesurau i reoli llif cerbydau’n well, p’un a yw hynny mewn mannau lle ceir tagfeydd neu mewn mannau lle mae diogelwch ar y ffyrdd yn wael, gan wneud gwell defnydd felly o’r lle sydd eisoes ar gael ar y ffyrdd, cyn bod gwelliannau neu ffyrdd newydd yn cael eu hystyried.

rhwydwaith beicio cenedlaethol – llwybr beicio strategol ar gyfer y DU, sy’n cael ei gydgysylltu gan Sustrans ac sy’n defnyddio cyllid gan Gomisiwn y Mileniwm. Cyfeirir ato’n aml fel Llwybr Beicio’r Mileniwm. Mae cangen ohono’n mynd ar hyd arfordir Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

Rhwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd – rhwydwaith o briffyrdd Ewropeaidd o bwysigrwydd rhyngwladol sy’n cysylltu porthladdoedd â dinasoedd mawrion. Maent yn cynnwys yr A55(T).

rhwymedigaethau – cytundeb cyfreithiol (cyfeirir ato fel rheol fel cytundeb adran 106) rhwng yr awdurdod cynllunio lleol a datblygwr, ac fe’i defnyddir i reoli materion sy’n ymwneud â chynllunio na ellir eu cyflawni trwy amodau sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio.

rhwystr glas – dynodiad polisi lleol neu anstatudol sy’n nodi ardaloedd o dir agored y mae’n bwysig gwarchod eu cymeriad a’u golwg er mwyn rhwystro aneddiadau rhag uno ac er mwyn gwarchod ardaloedd o gefn gwlad agored, pan nad yw’r polisïau cynllunio arferol yn cynnig digon o warchodaeth.

rhywogaethau a warchodir – rhywogaeth anifail neu blanhigyn a warchodir yn statudol yn y DU neu’r Undeb Ewropeaidd oherwydd ei phrinder neu’i phwysigrwydd neilltuol.

 

s

safle annisgwyl – safle sy’n dod ar gael i’w ddatblygu yn ystod cyfnod y Cynllun ond nad yw wedi’i ddyrannu mewn cynllun datblygu (cyfeirir ato fel rheol yng nghyd-destun datblygiadau preswyl).

safle bywyd gwyllt – gweler safle anstatudol o bwysigrwydd i gadwraeth natur.

safle mawr – term (gan ystyried y diffiniad yn y Gyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai) a ddefnyddir i ddisgrifio safleoedd tai sy’n cynnwys 10 annedd neu fwy.

Safle o Bwysigrwydd i Gadwraeth Natur – dynodiad anstatudol lleol o bwysigrwydd i gadwraeth natur yn lleol. Safle bywyd gwyllt yw’r mwyaf cyffredin.

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – ardal dan warchodaeth, a nodwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn ardal o bwysigrwydd cenedlaethol o ran bywyd gwyllt, planhigion, anifeiliaid neu nodweddion daearegol neu ffisiolegol.

Safle Ramsar – safle gwlyptir neu safle arfordirol o bwysigrwydd rhyngwladol (yn arbennig fel cynefin adar dwr) a ddynodwyd gan y Cynulliad dan Gonfensiwn Ramsar Ewrop ar Wlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol.

safleoedd bach – term (gan ystyried y diffiniad o ‘safle mawr’ yn y Gyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai) a ddefnyddir i ddisgrifio safleoedd tai sy’n cynnwys 9 annedd neu lai.

Safleoedd Daearegol a Geomorffaidd Pwysig Rhanbarthol – safleoedd anstatudol lleol y bernir eu bod yn cynnwys nodweddion daearegol neu geomorffaidd pwysig.

seilwaith – darparu ffyrdd, carthffosydd, trydan, golau a chyflenwad dwr ar y lefel fwyaf sylfaenol, ond mae hefyd yn golygu darparu gwasanaethau a chyfleusterau gan gynnwys gwasanaethau a chyfleusterau addysg, iechyd a chymunedol.

siopa cyfleus – siopa am nwyddau sy’n darfod, is eu gwerth, megis bwyd a phapurau newydd, sy’n cael eu prynu’n aml.

siopa cymharol – siopa am nwyddau â gwerth uwch neu nwyddau parhaol megis dodrefn, dillad a nwyddau trydanol, lle mae’r cwsmer yn cymharu nwyddau a siopau.

Statws Ardal Ganolradd – ardal a ddynodir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, lle mae cymorth ar gael i gefnogi buddsoddiadau sy’n creu swyddi.

strategaeth / cynllun cymunedol – mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol gynhyrchu strategaeth gymunedol i hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ei ardal a chyfrannu at gyflawni datblygu cynaliadwy.

swm cymudedig – un taliad gan ddatblygwr i awdurdod lleol er mwyn cyfrannu at gost darparu cyfleuster oddi ar safle, megis maes parcio neu fan agored, lle bo’n anymarferol ei ddarparu ar y safle.

system ddraenio drefol gynaliadwy – darparu systemau draenio sy’n fwy caredig i’r amgylchedd, trwy leihau dwr ffo, arafu dwr ffo, a hidlo dwr er mwyn helpu i leihau perygl llifogydd a lleihau’r llygryddion sy’n effeithio ar ansawdd dwr daear.

 

t

tai amlfeddiannaeth – tai â nifer o breswylwyr nad ydynt yn perthyn i’w gilydd ac nad ydynt yn byw gyda’i gilydd fel un aelwyd (llety tebyg i fflatiau un ystafell ond yn rhannu cyfleusterau cegin ac ystafell ymolchi).

tai cymdeithasol – tai sy’n cael cymhorthdal gan Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (awdurdod lleol, cymdeithas dai, ymddiriedolaeth neu gorff elusennol arall), naill ai i’w rhentu neu i’w prynu trwy drefniant cyd-berchnogaeth, sy’n aml yn targedu grwpiau cymdeithasol penodol.

tai fforddiadwy – tai sydd i’w rhentu neu’u prynu neu sy’n gysylltiedig â chynlluniau rhannu ecwiti, a fydd yn parhau i fod ar gael am byth am bris rhatach na phris y farchnad ar gyfer y sectorau hynny o’r gymuned nad ydynt yn gallu fforddio tai ar y farchnad agored.

Taith – cyd-fwrdd y chwe awdurdod yng ngogledd Cymru sy’n cydweithio i sicrhau gwelliannau sylweddol a phwysig i drafnidiaeth gyhoeddus ledled y rhanbarth.

tir comin – tir lle mae’r berchenogaeth, yn draddodiadol, wedi bod yn rhwym wrth ‘hawliau comin’, dros yr un ardal, a ddelir gan unigolion a elwir yn ‘gominwyr’ sydd â hawl i ddefnyddio’r tir hwnnw.

tir diffaith – tir neu adeiladau a ddatblygwyd yn flaenorol ond sydd wedi’u gadael i fynd i gyflwr gwael, ac nad ydynt yn cael eu defnyddio neu na ellir eu defnyddio mwyach heb eu hadfer.

tir glas – tir nad oes unrhyw beth wedi’i adeiladu arno’n flaenorol.

tir halogedig – tir sydd wedi’i lygru o ganlyniad i ddefnydd diwydiannol, cemegol neu waith gwaredu gwastraff yn y gorffennol, neu oherwydd ymbelydredd sy’n digwydd yn naturiol. Mae hynny’n ei wneud yn anaddas i’w ddatblygu heb waith adfer priodol i leihau neu ddileu peryglon i ddeiliaid a defnyddwyr sy’n dilyn.

tir llwyd (a ddatblygwyd yn flaenorol) – safle sydd ar gael i’w ddatblygu, a ddatblygwyd yn flaenorol.

tir y Goron – tir sy’n eiddo i’r llywodraeth.

tirlenwi – gwaredu gwastraff mewn tyllau yn y ddaear, e.e. hen chwareli.

trafnidiaeth integredig – system drafnidiaeth gynhwysfawr lle gellir teithio’n hawdd ar fathau gwahanol a rhwng mathau gwahanol o drafnidiaeth.

trefwedd – y cymysgedd cyfun o adeiladau, mannau a nodweddion eraill sydd, gyda’i gilydd, yn creu ymdeimlad o le.

 

y

ymrwymiadau – safleoedd lle mae caniatâd cynllunio’n bodoli; cyfeirir atynt fel rheol yng nghyd-destun ffigurau tai a chyflogaeth.

ystyriaethau cynllunio perthnasol – ffactorau i’w hystyried wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, sy’n perthyn yn deg ac yn rhesymol i’r cynnig ac sy’n faterion cynllunio megis materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Brig y dudalen