Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

Pennod 19

Ynni, Gwastraff a Llygredd

Nodau Strategol Perthnasol

e. Ynni, ff. Llygredd, g. Gwastraff

Amcanion Polisi
#

Rhestr Bolisïau
#

a. ARBED YNNI – hyrwyddo gostyngiad yn y defnydd o adnoddau ynni

b. YNNI ADNEWYDDADWY – diogelu adnoddau cyfyngedig gwerthfawr trwy ddefnyddio ffynonellau cynaliadwy o ynni

c. LLYGREDD – gwarchod a gwella ansawdd yr aer, y tir a’r dŵr

ch. LLEIHAU GWASTRAFF – annog gostyngiad yn swm y gwastraff a gynhyrchir, a chefnogi cynlluniau sy’n ailddefnyddio ac yn ailgylchu deunyddiau gwastraff

d. GWAREDU GWASTRAFF – annog dulliau gwaredu gwastraff sy’n cael yr effaith leiaf posibl ar yr amgylchedd

dd. DŴR – annog rheoli a defnyddio adnoddau dŵr yn gynaliadwy

e. LLIFOGYDD - gwarchod cymunedau rhag perygl llifogydd, rhwystro datblygiadau amhriodol a fyddai mewn perygl annerbyniol o ddioddef llifogydd, a sicrhau nad yw datblygiadau’n cynyddu perygl llifogydd mewn mannau eraill. Lle bo’n briodol, arwain datblygiadau i ffwrdd oddi wrth orlifdiroedd, a lleihau a lliniaru effeithiau llifogydd trwy waith dylunio priodol.

EWP1 Cynhyrchu Ynni’n Gynaliadwy

EWP2 Effeithlonrwydd Ynni mewn Datblygiadau Newydd

EWP3 Ynni Adnewyddadwy mewn Datblygiadau Newydd

EWP4 Datblygiadau Tyrbinau Gwynt

EWP5 Dulliau Eraill o Gynhyrchu Ynni Adnewyddadwy

EWP6 Ardaloedd Chwilio ar gyfer Cyfleusterau Rheoli Gwastraff Newydd

EWP7 Rheoli Gwastraff yn Gynaliadwy

EWP8 Rheoli Datblygiadau a Gweithrediadau Gwastraff

EWP9 Datblygiadau Newydd a Chyfleusterau Rheoli Gwastraff

EWP10 Ailddefnyddio Gwastraff Datblygiadau

EWP11 Datblygu Ar Safleoedd Tirlenwi neu Wrth eu Hymyl

EWP12 Llygredd

EWP13 Niwsans

EWP14 Tir Diffaith a Halogedig

EWP15 Datblygu Tir Ansad

EWP16 Adnoddau Dŵr

EWP17 Perygl Llifogydd

Dangosyddion Perfformiad Polisi

Targedau

  1. % y sgîl-gynhyrchion gwastraff a ailgylchir (pen uchaf yr hierarchaeth)
  2. Lefelau gronynnau gwenwynig (NO2) fel y diffinnir mewn gwaith Rheoli Ansawdd Aer
  3. Ceisiadau ar gyfer datblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl llifogydd
  4. Datblygiadau sy’n arwain at gynhyrchu ynni o adnoddau adnewyddadwy
  5. Arwynebedd y tir halogedig a adfywiwyd/ailddatblygwyd
  6. % yr adeiladau newydd sy’n llwyddo i sicrhau graddau arbed ynni uchel

TARGED 9: Dim datblygiadau agored iawn i niwed mewn ardaloedd perygl llifogydd lle ceir perygl annerbyniol o lifogydd

 

19 Ynni, Gwastraff a Llygredd

Cyflwyniad

19.1 Mae ynni, gwastraff a llygredd yn elfennau pwysig o’r cynllun datblygu, ac yn allweddol i’r drafodaeth ar ddatblygu cynaliadwy. Er mwyn datblygu economi a ffordd o fyw gynaliadwy, mae datblygu cynaliadwy yn mynnu bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Er na all y cynllun datblygu, ynddo’i hun, fynd i’r afael â’r holl heriau sy’n rhan o’r drafodaeth hon, gall geisio dylanwadu ar batrymau defnydd tir, a thrwy gyfyngu ar effeithiau niweidiol datblygiadau newydd ar yr amgylchedd ehangach, gall helpu i sicrhau bod pobl Sir y Fflint yn mwynhau ansawdd bywyd diogel ac iach.

19.2 Ynni – Mae cymdeithas yn ddifrifol o ddibynnol ar gyflenwad parod o ynni, ac mae cynhyrchu’r ynni hwnnw a’i ddefnyddio yn cael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd. Mae’r bennod hon yn cynnwys polisïau y bwriedir iddynt annog gwaith arbed ynni trwy gefnogi cynigion sy’n ymgorffori cynlluniau a dyluniadau rhad-ar-ynni, ac y bwriedir iddynt annog gwaith datblygu dulliau o gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Bydd defnyddio ynni adnewyddadwy, yn hytrach na ffynonellau mwy confensiynol, yn helpu i wrthbwyso’r defnydd o adnoddau cyfyngedig ac yn cyfyngu ar y nwyon ty gwydr niweidiol sy’n cael eu rhyddhau i’r atmosffer. O ganlyniad, mae’r Cynllun yn gryf o blaid cynhyrchu ynni o ffynonellau adnewyddadwy os yw ei leoliad a’r modd y mae’n gweithredu yn dderbyniol yn amgylcheddol.

19.3 Llygredd - Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn diffinio llygru’r amgylchedd fel a ganlyn, rhyddhau (i dir, aer, dwr neu unrhyw gyfrwng amgylcheddol arall) o ganlyniad i unrhyw broses, sylweddau sy’n medru achosi niwed i fodau dynol neu unrhyw organebau byw eraill a gynhelir gan yr amgylchedd. Mae targedau ar gyfer lefelau llygredd yn cael eu gosod yn rhyngwladol trwy, er enghraifft, Gytundebau Uwchgynadleddau’r Ddaear a Chyfarwyddebau’r Gymuned Ewropeaidd, a bydd hynny’n parhau. Wrth ystyried llygredd, mae’r Cynllun yn ceisio dilyn dull rhagofalus o weithredu, h.y. peidio â chaniatáu datblygiadau os yw’n parhau’n aneglur a fyddant yn cael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd. Er hynny, caiff polisïau eu cyfyngu i sefyllfaoedd lle byddai llygredd yn amharu ar ddefnyddir tir yn awr ac yn y dyfodol. Yn gyntaf, mae’r Cynllun yn ceisio peidio ag annog datblygiadau newydd sy’n agos i ffynonellau llygredd presennol, er lles iechyd, diogelwch ac amwynder y cyhoedd. Yn ail, mae’n ceisio rheoli datblygu defnydd newydd sy’n debygol o gynhyrchu llygredd ychwanegol. Yn genedlaethol, mae asiantaethau megis Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn rhoi safonau ar waith a gaiff eu pennu gan ddeddfwriaeth y Llywodraeth. Bydd y Cyngor yn ymgynghori ac yn cydweithio â’r cyrff hyn wrth gymryd ei gamau ei hun i orfodi safonau’n ymwneud â llygredd.

19.4 Gwastraff – Mae pob aelwyd a busnes yn Sir y Fflint yn cynhyrchu deunyddiau gwastraff, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu gwaredu mewn safleoedd tirlenwi. Mae polisïau Ewropeaidd a’r llywodraeth genedlaethol yn ceisio dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi. Mae cyngor y Llywodraeth o blaid dull cynaliadwy o reoli gwastraff, lle mae’r hierarchaeth wastraff ynghyd ag egwyddorion eraill, megis y Dewis Amgylcheddol Ymarferol Gorau, yr Egwyddor Agosrwydd a Dadansoddi Cylch Bywyd, yn penderfynu sut y caiff gwastraff ei drin a/neu’i waredu. Yn fyr, bydd y Cynllun yn ceisio sicrhau bod gwastraff yn cael ei reoli er mwyn gwneud yn fawr o’i werth fel adnodd ac er mwyn gwrthbwyso’r defnydd o adnoddau cyfyngedig newydd. Bydd angen parhaus am safleoedd tirlenwi, ac o’r herwydd bydd yn bwysig bod polisïau cynllunio yn sicrhau bod safleoedd tirlenwi a datblygiadau eraill sy’n ymwneud â gwastraff yn cael eu lleoli mewn mannau priodol, lle gellir lleihau eu heffeithiau andwyol. Fodd bynnag, er y bydd polisïau’n ceisio sicrhau bod gan Sir y Fflint ddigon o gapasiti i ymdrin â’i gwastraff ei hun, ni fydd y polisïau’n annog unrhyw gyfleusterau ychwanegol i ddarparu ar gyfer gwastraff o fannau eraill. Yr eithriad i hynny fydd y cyfleusterau gwastraff hynny a fydd yn rheoli gwastraff yn rhan o gais gogledd Cymru i gynyddu hunangynhaliaeth ranbarthol o ran ymdrin â’r gwastraff y mae’n ei gynhyrchu.

19.5 Dwr – Mae’r amgylchedd dyfrol yn adnodd sylweddol ac amrywiol, ac mae gan y system gynllunio rôl bwysig i’w chwarae o ran ei ddiogelu. Mae gweithgareddau defnydd tir yn cael effaith yn hawdd ar ddwr, naill ai trwy effeithio ar y broses o storio a chyflenwi dwr daear, neu’n fwy uniongyrchol trwy lygru ac echdynnu dwr. Bydd natur, maint a lleoliad datblygiadau newydd yn cael effeithiau amrywiol ar ddyfroedd arfordirol, afonydd, camlesi, llynnoedd, pyllau, nentydd a dwr tanddaearol. Bydd y Cynllun yn ceisio rhwystro datblygiadau sy’n bygwth yr asedau naturiol gwerthfawr hyn, oni bai fod camau priodol yn cael eu cymryd i liniaru unrhyw ganlyniadau niweidiol sy’n gysylltiedig â’r datblygiad.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol - Ynni

19.6 Amcan polisi ynni Llywodraeth y DU yw sicrhau cyflenwad sicr, amrywiol a chynaliadwy o ynni am brisiau cystadleuol sy’n gyson â pholisïau economaidd ehangach; hyrwyddo effeithlonrwydd ynni ac iechyd a diogelwch; a diogelu’r amgylchedd lleol a byd-eang yn llwyr ac yn briodol. Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau’r polisïau datblygu economaidd cryfaf er mwyn cynnal twf a ffyniant yng Nghymru, a chydnabod o ran hynny bwysigrwydd ynni glân fel sbardun economaidd ac fel modd i hybu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy.

19.7 Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori y dylai pob awdurdod cynllunio lleol hwyluso datblygu pob math o ynni adnewyddadwy, ynghyd â mesurau effeithlonrwydd ynni a chadwraeth, lle maent yn dderbyniol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol.

19.8 Caiff Awdurdodau Cynllunio Lleol eu cynghori i:

19.9 Mae ystyriaeth wedi ei rhoi i’r cyngor mwy manwl a geir yn TAN 8: Ynni Adnewyddadwy. Yn y cyd-destun hwn, mae’n ofynnol i bolisi cynllunio ar bob lefel hwyluso’r broses o gyflawni targedau penodol Llywodraeth Cymru o ran cynhyrchu trydan adnewyddadwy ar gyfer Cymru, sef 4 awr terawat y flwyddyn erbyn 2010 a 7 awr terawat y flwyddyn erbyn 2020.

 

Polisïau - Ynni

 

EWP1 Cynhyrchu Ynni’n Gynaliadwy

Bydd rhagdybiaeth o blaid cynlluniau ynni adnewyddadwy, ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion perthnasol eraill y Cynllun.

19.10 Mae cynhyrchu ynni glân a chynaliadwy yn hollbwysig o ran mynd i’r afael â chynhesu byd-eang a lleihau effaith hirdymor y newid yn yr hinsawdd ar yr amgylchedd byd-eang a lleol. Amcanion y Polisi Ynni i Gymru, sy’n datblygu, yw lleihau’r ynni a ddefnyddir a hwyluso’r gwaith o ehangu ynni adnewyddadwy. Yn y pen draw, yr amcanion dan sylw fydd lleihau’r angen am adnoddau cyfyngedig, lleihau allyriadau nwyon ty gwydr ac annog datblygu economi ynni carbon isel.

19.11 Mae’r polisi hwn yn ceisio annog gwaith datblygu ffynonellau adnewyddadwy o ynni i fodloni targedau cenedlaethol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon ty gwydr (40% erbyn 2020) ac ar gyfer ehangu ynni adnewyddadwy i wrthbwyso’r defnydd a wneir o danwydd ffosil (15% erbyn 2010). Felly, ni fydd cynigion ar gyfer systemau ynni sy’n seiliedig ar danwydd ffosil yn cael eu hannog.

 

EWP2 Effeithlonrwydd Ynni mewn Datblygiadau Newydd

Ym mhob datblygiad newydd, rhaid i’r Cyngor fod yn fodlon bod camau digonol wedi’u cymryd o ran lleoliad, gwedd, ffurf a dyluniad adeiladau newydd i sicrhau bod cyn lleied ag sy’n bosibl o ynni ac adnoddau’n cael eu gwastraffu wrth godi a defnyddio adeiladau.

19.12 Mae arbed ynni’n allweddol i leihau’r defnydd a wneir o ynni a gwarchod yr amgylchedd byd-eang rhag allyriadau nwyon ty gwydr niweidiol. Mae TAN 12: Dylunio yn hyrwyddo cynlluniau safle a dyluniadau adeiladu rhad-ar-ynni ar gyfer pob adeilad newydd er mwyn arbed ynni a gwrthbwyso gwaith llosgi tanwydd ffosil, tra mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi dyhead Llywodraeth Cymru i symud tuag at adeiladau cynaliadwy a digarbon. Mae arbed ynni trwy ddylunio yn cynnig potensial mawr i wneud llawer o arbedion o ran ynni. Gellir trosglwyddo’r arbedion hyn yn uniongyrchol i’r gymuned drwy filiau gwresogi is. Ceir manteision mawr y gellid eu sicrhau ar gyfer yr amgylchedd hefyd, oherwydd gallai gostyngiad yn y galw am ynni olygu ei bod yn bosibl cau gorsafoedd trydan confensiynol. Er mwyn gwireddu potensial gwaith arbed ynni, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod datblygwyr yn dangos bod ystyriaeth ddigonol wedi ei rhoi i faterion megis: lleoliad, dwysedd a chyfeiriad adeiladau; gwelliannau sy’n ymwneud â’r ficrohinsawdd; cyfleoedd i ailddefnyddio deunyddiau wrth adeiladu; dulliau adeiladau ynni isel; inswleiddio o safon uchel; cyfleoedd ar gyfer systemau gwresogi solar goddefol; a’r defnydd o oleuadau ynni isel. Bydd y Cyngor yn diweddaru nodyn cyfarwyddyd cynllunio lleol sy’n bodoli eisoes ar effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy.

19.13 Mae’r polisi hwn yn ychwanegol at ofynion presennol Rhan L y Rheoliadau Adeiladu, ond nid yw’n ceisio’u dyblygu na’u disodli. Mae’r Rheoliadau Adeiladu yn gosod safonau gorfodol ar gyfer dylunio a chodi adeiladau, sy’n cynnwys agweddau ar iechyd, diogelwch a’r amgylchedd, a chânt eu diweddaru’n gyson i adlewyrchu newidiadau mewn safonau gofynnol a datblygiadau mewn technoleg. Mae gan y system gynllunio rôl bwysig ac ategol i’w chwarae yn y gwaith o wella cynaliadwyedd datblygiadau a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd, trwy hyrwyddo dyluniadau rhad-ar-ynni mewn ffordd gadarnhaol. Gallai hynny gynnwys agweddau penodol i safle, nad yw’r Rheoliadau Adeiladu yn mynd i’r afael â hwy, er enghraifft, lleoliad mewn perthynas â microhinsawdd, gwaith dylunio ar gyfer gwresogi solar goddefol a gweithredol, cyfeiriad mewn perthynas â goleuni’r haul, cysgod rhag prifwyntoedd, a chamau i annog y defnydd o ddeunyddiau adeiladu mwy cynaliadwy na ddefnyddiwyd llawer o ynni i’w cynhyrchu.

 

EWP3 Ynni Adnewyddadwy mewn Datblygiadau Newydd

Bydd yn ofynnol i bob datblygiad preswyl a dibreswyl newydd mawr ymgorffori cyfarpar cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle, er mwyn lleihau’r allyriadau carbon a ragwelir o leiaf 10%, ac eithrio mewn achosion:

  1. lle na fyddai hynny’n ymarferol o ystyried y math o ddatblygiad, ei leoliad a’i ddyluniad;
  2. lle byddai’n cael effaith andwyol ar amwynder, a fyddai’n fwy na manteision y dechnoleg; neu
  3. lle nad yw’n bosibl ymgorffori dulliau o gynhyrchu ynni adnewyddadwy i gyflawni’r 10% llawn.

Ym mhob achos arall, bydd y Cyngor yn annog defnyddio ynni adnewyddadwy ym mhob math o ddatblygiad.

19.14 Mae adeiladau a datblygiadau newydd mawr yn cynnig potensial sylweddol i ymgorffori technolegau ynni adnewyddadwy, megis dyluniadau solar goddefol, systemau solar i wresogi dwr, celloedd ffotofoltäig, tyrbinau gwynt, cynlluniau gwres a phwer cyfun a chynlluniau gwresogi cymunedol. Dylid integreiddio technolegau o’r fath yng ngham dylunio unrhyw brosiect, gan fod hynny’n llawer mwy effeithiol na cheisio’u hychwanegu’n nes ymlaen a’i fod hefyd yn lleihau costau. Gallai ymgorffori technolegau ynni adnewyddadwy ddigwydd ar ffurf cynllun cymunedol, neu gallai fod yn rhan annatod o anheddau neu adeiladau unigol, yn dibynnu ar y datblygiad arfaethedig.

19.15 Gosododd Llywodraeth y DU darged o 10% ar gyfer cynhyrchu trydan y DU o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2010, a disgwylir y bydd y ganran hon yn cael ei chynyddu yn y dyfodol. Mae’r polisi hwn yn ceisio cefnogi’r targed hwn, yn unol â phryderon cynyddol am effaith allyriadau CO2 a’r polisi cynllunio cenedlaethol diweddar. Gall defnyddio ffynonellau adnewyddadwy o ynni ar gyfer datblygiadau preswyl a dibreswyl gynnig amrywiaeth a chyflenwad sefydlog o ynni’n ogystal â lleihau allyriadau niweidiol, ac mae’n rhan bwysig o’r ‘hierarchaeth ynni’. Caiff gwaith ymgorffori mesurau i leihau allyriadau CO2 10% ei gydnabod yn gyffredinol fel y ‘rheol 10%’. Bellach, mae’n ofynnol cael datganiadau dylunio statudol ar gyfer y mwyafrif o geisiadau cynllunio, fel adnodd i sicrhau bod goblygiadau datblygiadau newydd o ran cynaliadwyedd yn cael eu hamlinellu’n glir gyda chynigion datblygu. Felly, bydd y Cyngor yn mynnu datganiad dylunio sy’n ymgorffori’r mesurau y seilir/y gellir seilio asesiad o darged y polisi arnynt. Dylid nodi bod y ffigur o 10% yn ymwneud â chyfanswm y galw am ynni gan y datblygiad, sy’n cynnwys allyriadau ‘a reoleiddir’ (y mae Rhan L y Rheoliadau Adeiladu yn ymdrin â hwy) ac allyriadau ‘nas rheoleiddir’ (megis yr ynni a ddefnyddir i goginio ac a ddefnyddir gan offer a goleuadau).

19.16 Cydnabyddir bod rhai technolegau ynni adnewyddadwy yn gallu cael effeithiau negyddol yn ogystal ag effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd, ac nad yw pob technoleg yn addas ar gyfer pob safle a datblygiad. Felly, bydd y Cyngor yn asesu manteision y cynnig o ran ynni mewn perthynas â graddau’r effaith niweidiol ar amwynder.

19.17 Yn gyffredinol, derbynnir mai’r diffiniad o ‘ddatblygiadau mawr’ mewn perthynas â’r rheol 10% yw’r diffiniad o ddatblygiad mawr a geir yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (fel y’i diwygiwyd). O ran datblygiad dibreswyl, mae’r Gorchymyn yn diffinio datblygiad mawr fel un sy’n fwy na 1,000 metr sgwâr, ac o ran datblygiad preswyl, mae’n ei ddiffinio fel un sy’n cynnwys 10 annedd neu fwy.

19.18 Ochr yn ochr â chynhyrchu ynni adnewyddadwy, dylai dyluniad a chynllun datblygiadau newydd leihau’r galw am ynni a chynyddu effeithlonrwydd ynni. Y dull a dderbynnir ar gyfer cyfrifo’r ynni a arbedir yw mesur allyriadau carbon. Y sail ar gyfer y cyfrifiad 10% yw defnydd ynni’r adeilad arfaethedig fesul metr sgwâr wedi’i luosi ag arwynebedd llawr y datblygiad. Bydd Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol wedi’i ddiweddaru, sy’n ymwneud ag ynni adnewyddadwy, yn ymhelaethu ar ofynion y polisi hwn.

19.19 Bydd y polisi hwn yn cael ei weithredu’n ychwanegol at y safonau cenedlaethol ar gyfer adeiladau cynaliadwy, a gyflwynwyd yn ddiweddar, fel y’u nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru a TAN 22. Bellach, ceir gofyniad cenedlaethol sy’n mynnu bod yn rhaid i geisiadau am 5 annedd neu fwy, sy’n dod i law ar 1 Medi 2009 neu wedi hynny, fodloni Lefel 3 y Cod Cartrefi Cynaliadwy ac ennill 6 chredyd dan Ene1 - Cyfradd Allyriadau Anheddau, a bod yn rhaid i geisiadau am 1 annedd neu fwy, a ddaw i law ar 1 Medi 2010 neu wedi hynny, fodloni’r safonau hyn hefyd. Yn yr un modd, bydd ceisiadau a ddaw i law ar 1 Medi 2009 neu wedi hynny ar gyfer datblygiadau dibreswyl sydd ag arwynebedd llawr o 1,000 metr sgwâr neu fwy, neu a fydd yn cael eu codi ar safle ag arwynebedd o un hectar neu fwy, yn gorfod bodloni safon ‘Da Iawn’ Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu ac ennill y credydau gorfodol ar gyfer ‘Rhagorol’ dan Ene 1 – Lleihau Allyriadau CO2. Gellir bodloni’r gofynion cenedlaethol hyn heb ddefnyddio unrhyw ddull o gynhyrchu ynni adnewyddadwy, ac felly mae’r polisi hwn yn eu hategu. Dylid nodi po fwyaf yw’r graddau y caiff datblygiad ei ddylunio i fod yn ddatblygiad rhad-ar-ynni, y lleiaf o gapasiti cynhyrchu y bydd ei angen i fodloni’r targed 10%.

 

EWP4 Datblygiadau Tyrbinau Gwynt

Bydd yn ofynnol i gynigion ar gyfer tyrbinau gwynt unigol, clystyrau gwynt neu ffermydd gwynt fodloni’r meini prawf canlynol:

a. ni ddylai’r datblygiad gael ei leoli mewn ardal sensitif o bwysigrwydd cenedlaethol neu ranbarthol o ran yr amgylchedd, tirwedd neu dreftadaeth, ac ni fyddai’n cael effaith andwyol sylweddol ar ardal o’r fath;

b. ni fydd y datblygiad, ar y cyd â datblygiadau tyrbinau gwynt eraill, yn cael effaith gronnol niweidiol ar y dirwedd;

c. bydd effaith y datblygiad ar amaethyddiaeth, coedwigaeth, hamdden ac unrhyw ddefnydd tir arall yn cael ei lleihau er mwyn caniatáu i’r defnydd sy’n bodoli eisoes barhau’n ddirwystr;

ch. bydd y tyrbinau wedi’u dylunio’n briodol er mwyn osgoi neu liniaru unrhyw effeithiau amgylcheddol annerbyniol, gan gynnwys swn, adlewyrchiad golau, cryndod cysgod ac unrhyw effaith ar fywyd gwyllt;

d. bydd camau digonol yn cael eu cymryd i osgoi, neu lle bo hynny’n bosibl, i liniaru ymyrraeth electromagnetig ag unrhyw systemau sy’n bodoli eisoes ar gyfer trosglwyddo neu dderbyn signalau;

dd. lle bo angen datblygu adeiladau atodol cysylltiedig, bydd y strwythurau’n cael eu dylunio’n sensitif er mwyn gwella cymeriad ac ansawdd yr ardal leol; ac

e. bydd darpariaeth ddigonol wedi’i gwneud yn y cynllun ar gyfer adfer y safle a gofalu amdano pan roddir y gorau i’w ddefnyddio.

19.20 Mae tyrbinau gwynt yn defnyddio symudiadau naturiol yr atmosffer i gynhyrchu trydan rhad a glân. Mae’r dull hwn o gynhyrchu trydan yn gynaliadwy ac yn darparu cyflenwad diddiwedd o ynni ar gyfer poblogaeth Sir y Fflint a’i busnesau, ac yn y pen draw, er budd ei heconomi. Bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod cynigion yn sensitif i anghenion y gymuned leol, a bod y gymuned leol yn cael budd o ddatblygiadau o’r fath, e.e. trwy daliadau symiau cymudedig i gefnogi cynlluniau cymunedol.

19.21 Mae’r polisi hwn yn ceisio hybu datblygiadau tyrbinau gwynt gan sicrhau ar yr un pryd bod ardaloedd dynodedig a safleoedd, nodweddion a rhywogaethau eraill o ddiddordeb cydnabyddedig o ran cadwraeth natur yn cael eu gwarchod. Felly, bydd yn bwysig bod datblygwyr yn bodloni holl ofynion y polisi er mwyn sicrhau y ceir datblygiadau sensitif sydd wedi’u dylunio’n dda, mewn lleoliadau priodol. Mae hefyd yn debygol y bydd angen datganiad amgylcheddol i gyd-fynd â chynigion tyrbinau gwynt.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

EWP5 Dulliau Eraill o Gynhyrchu Ynni Adnewyddadwy

Bydd yn ofynnol i gynigion ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy trwy ddulliau heblaw tyrbinau gwynt fodloni’r meini prawf canlynol:

a. ni ddylai’r datblygiad arfaethedig, gan gynnwys ei faint, ei leoliad, ei ddyluniad a’i ddeunyddiau, gael effaith annerbyniol ar yr hyn sydd o’i amgylch o safbwynt pwysigrwydd y dirwedd, amwynder gweledol, cadwraeth natur neu dreftadaeth;

b. bydd effaith y datblygiad ar dir amaethyddol yn cael ei lleihau trwy sicrhau bod peirianwaith priodol yn cael ei leoli o fewn safleoedd presennol ac ar arwynebau caled sy’n bodoli eisoes;

c. mewn ardaloedd sensitif lle mae cysylltiadau uwchben y tir yn cael effaith andwyol annerbyniol ar y dirwedd, caiff llinellau a phibellau cysylltu eu lleoli dan y ddaear; ac

ch. bydd y datblygiad yn defnyddio’r rhwydwaith trafnidiaeth sy’n bodoli eisoes ac ni fydd yn cael effaith andwyol ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, a bydd traffig yn cael ei gyfyngu i weithredu yn ystod oriau priodol yn y dydd.

19.22 Mae’r polisi hwn yn ceisio ysgogi gwaith datblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy, megis ynni bio-màs, ynni dwr, ynni geothermol neu ynni solar, ble bynnag y maent yn briodol. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn diffinio ynni adnewyddadwy fel “y ffynonellau hynny o ynni, ar wahân i danwydd ffosil neu danwydd niwclear, sydd ar gael yn barhaus ac yn gynaliadwy yn ein hamgylchedd”.

19.23 Mae lleoli cynlluniau cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ystyriaeth arbennig o bwysig, gan mai’r lleoliadau mwy sensitif o safbwynt amgylcheddol yw’r rhai mwyaf hyfyw o safbwynt economaidd yn aml. Ym mhob achos, ni chaiff datblygiad ei ganiatáu oni bai fod y Cyngor yn fodlon bod digon o ofal wedi’i gymryd i leihau’r ymyrraeth weledol trwy leoli a dylunio’r datblygiad yn briodol.

19.24 Wrth ystyried cynlluniau ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy, bydd y Cyngor Sir yn ystyried Polisi Cynllunio Cymru a TAN 8: Ynni Adnewyddadwy. Efallai y bydd angen datganiad amgylcheddol dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999, fel y’u diwygiwyd, ar gyfer datblygiadau mwy o faint, neu rai sy’n effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd. Mewn achos lle nad oes angen datganiad amgylcheddol, bydd angen o hyd cyflwyno astudiaeth fanwl o faterion megis swn neu effaith weledol gyda’r cais cynllunio.

19.25 Mewn amgylchiadau lle mae effaith y cynigion ar yr amgylchedd lleol yn ansicr, a lle mae’r Cyngor yn ystyried bod angen gwerthuso effaith cynigion o’r fath dros gyfnod hwy, efallai y bydd y Cyngor yn rhoi caniatâd dros dro.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

Polisi Cynllunio Cymru - Gwastraff

19.26 Yr Awdurdod Cynllunio Lleol yw Awdurdod Cynllunio Gwastraff Sir y Fflint hefyd, ac mae’n gyfrifol am weithredu amcanion statudol sy’n deillio yn y bôn o Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff Ewropeaidd 1975. Dyma’r amcanion: sicrhau bod gwastraff yn cael ei adennill neu’i waredu heb beryglu iechyd pobl, niweidio’r amgylchedd, achosi niwsans oherwydd swn neu arogleuon, neu gael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig; darparu ar gyfer sefydlu rhwydwaith integredig a digonol o gyfleusterau rheoli gwastraff; sicrhau bod gwastraff yn cael ei reoli yn y cyfleuster priodol agosaf i’w ffynhonnell; annog atal a lleihau gwastraff, a lleihau natur niweidiol gwastraff; ac annog adennill gwastraff trwy ailgylchu, ailddefnyddio neu brosesau eraill, gyda golwg ar echdynnu deunyddiau crai eilaidd a defnyddio gwastraff fel ffynhonnell ynni.

19.27 Mae Yn Gall gyda Gwastraff: Strategaeth Wastraff Genedlaethol Cymru, Polisi Cynllunio Cymru, TAN 21: Gwastraff, a Chynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru i gyd yn gosod gofynion ar yr Awdurdod Cynllunio Gwastraff i ystyried a datblygu’r canlynol: adnabod safleoedd ar gyfer cyfleusterau gwastraff neu ardaloedd lle gallai cyfleusterau o’r fath fod yn addas; pennu dull cynaliadwy o reoli gwastraff; ystyried cynigion ynghylch rheoli gwastraff ar sail yr Hierarchaeth Wastraff; yr egwyddor agosrwydd; y Dewis Amgylcheddol Ymarferol Gorau; a hunangynhaliaeth ranbarthol.

19.28 Mae TAN 21: Gwastraff yn seiliedig ar egwyddorion sylfaenol rheoli gwastraff yn gynaliadwy, ac mae’n mynnu y dylai’r system cynllunio defnydd tir gynnig fframwaith cynllunio sy’n ei gwneud yn bosibl darparu’n ddigonol ar gyfer cyfleusterau rheoli adnoddau gwastraff er mwyn diwallu anghenion cymdeithas o ran ailddefnyddio, adfer a gwaredu gwastraff; cynorthwyo i ddiwallu anghenion byd busnes ac annog cystadleurwydd; annog rheoli gwastraff yn sensitif, gwella ansawdd cyffredinol yr amgylchedd ac osgoi peryglon i iechyd a diogelwch pobl; parchu’r angen i warchod ardaloedd o werth dynodedig o ran tirwedd a chadwraeth natur rhag datblygiadau amhriodol; parchu’r angen i warchod amwynder y gymuned, ac amwynder defnydd a defnyddwyr tir cyfagos y mae cyfleusterau rheoli gwastraff presennol neu arfaethedig yn effeithio arnynt; lleihau effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o ymdrin â gwastraff, ei gludo a’i waredu; ystyried pa gyfleusterau newydd a allai fod yn angenrheidiol, yng ngoleuni sgîl-gynhyrchion gwastraff (y rhai presennol a’r rhai a ragwelir); a sicrhau bod cyfleoedd i ymgorffori cyfleusterau ailddefnyddio/ailgylchu mewn datblygiadau newydd yn cael eu hystyried yn iawn.

 

Polisïau - Gwastraff

 

EWP6 Ardaloedd Chwilio ar gyfer Cyfleusterau Rheoli Gwastraff Newydd

Dylai cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff newydd gael eu lleoli’n ddelfrydol yn y lleoliadau canlynol: Ystâd Ddiwydiannol Ewloe Barn, Chwarel Parry a Chwarel Pinfold Lane, Alltami; Chwarel Springhill, Bagillt; Mount Pleasant Road (Gogledd), Bwcle; Hen Orsaf Drydan, Cei Connah; Crumps Yard, Dock Road, Cei Connah; Tir i’r dwyrain o Shotton Paper, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy; Tir wrth ymyl Safle Compostio Gwastraff Gwyrdd, Parc Busnes Maes-glas; Wrth ymyl Dociau Mostyn, Mostyn; Chwarel Parc Bychan, Rhosesmor; River Lane, Saltney; Prince William Avenue, Sandycroft; a Pharth Datblygu Glannau Dyfrdwy.

Pan fydd cynnig yn cael ei wneud i ddatblygu safle yn unrhyw un o’r lleoliadau a nodwyd, fel y’u rhestrir uchod, bydd caniatâd yn cael ei roi ar yr amod bod y cynnig yn bodloni polisïau perthnasol eraill y Cynllun, yn enwedig EWP7 ac EWP8.

19.29 Mae Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cynnwys y data a’r amcanestyniadau gorau sydd ar gael ynghylch gwastraff ar gyfer gogledd Cymru, ac mae ei ganfyddiadau’n sylfaen dystiolaeth bwysig ar gyfer gweithredu polisïau gwastraff yn y CDU. Roedd sgîl-gynhyrchion gwastraff Sir y Fflint yn 1998/99 yn rhyw 560,000 tunnell, a oedd yn cyfateb i 25% o holl sgîl-gynhyrchion gwastraff gogledd Cymru ac a oedd yn fwy na sgîl-gynhyrchion gwastraff unrhyw ardal awdurdod arall yn y rhanbarth. Mae Adolygiad 1af y Cynllun Gwastraff yn nodi bod cyfanswm sgîl-gynhyrchion gwastraff gogledd Cymru yn 2004/5 yn 2.9 miliwn tunnell, ac y bydd sgîl-gynhyrchion gwastraff yn codi i 3 miliwn tunnell erbyn 2012/2013. Nid yw’r Adolygiad 1af hwn yn rhoi data penodol am sgîl-gynhyrchion gwastraff awdurdodau lleol unigol, ond mae’n debyg y bydd Sir y Fflint, fel awdurdod lled-drefol sydd â chyfleusterau gweithgynhyrchu o bwysigrwydd rhyngwladol a chenedlaethol, yn parhau’n un o brif gynhyrchwyr gwastraff gogledd Cymru.

19.30 Nid yw’r Cynllun Gwastraff Rhanbarthol nac Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi nodi gydag unrhyw sicrwydd beth yw’r opsiwn strategol mwyaf priodol ar gyfer rheoli sgîl-gynhyrchion gwastraff yn y dyfodol, ac o ganlyniad nid yw’n bosibl rhagfynegi’n rhesymol gywir faint a pha fathau o gyfleusterau rheoli gwastraff y mae eu hangen yn Sir y Fflint. Fodd bynnag, yn seiliedig ar y rhagolygon rhanbarthol o’r capasiti sy’n ofynnol, a’r ffigurau cymryd tir generig a roddwyd ar gyfer mathau unigol o gyfleusterau rheoli gwastraff, mae’r Cyngor yn ystyried bod Polisi EWP6 yn darparu ar gyfer digon o dir i ddiwallu anghenion tebygol y dyfodol yn ystod cyfnod y Cynllun. Mae Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru a’r Adolygiad 1af wedi cadarnhau na all capasiti presennol y rhanbarth ddelio â’r sgîl-gynhyrchion gwastraff cyfredol a bod angen capasiti newydd sylweddol.

19.31 Mae’r polisi hwn yn ceisio arwain datblygiadau i leoliadau sydd â’r potensial i ddarparu ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff. Mae’r lleoliadau a enwir yn y polisi yn cynnwys safleoedd cloddio mwynau sy’n weithredol ac nas defnyddir; dyraniadau cyflogaeth o ansawdd gwael; a Pharth Datblygu Glannau Dyfrdwy. Mae’r lleoliadau wedi cael eu harchwilio, ac ystyrir bod ganddynt nodweddion addas i ddarparu ar gyfer cyfleuster rheoli gwastraff. Nid yw’r lleoliadau a nodir yn ddyraniadau ffurfiol ar gyfer datblygiadau rheoli gwastraff, ond fe’u bwriedir fel ardaloedd chwilio a ffefrir (o ran cynllunio) ar gyfer cyfleusterau o’r fath. Bydd yn rhaid i unrhyw ymgeisydd sy’n ceisio datblygu defnydd gwastraff yn unrhyw un o’r lleoliadau a nodir gynnal asesiadau i gyfiawnhau addasrwydd y lleoliad.

19.32 At ddibenion y polisi hwn, mae’r term ‘cyfleusterau rheoli gwastraff’ yn derm generig sy’n cyfeirio at bob defnydd sy’n ymwneud â gwastraff, o safleoedd amwynder dinesig a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff, i safleoedd compostio (gan gynnwys rhesgompostio) a safleoedd diwydiannol sydd wedi’u dylunio’n arbennig i drin gwastraff, megis Gweithfeydd Triniaeth Fiolegol Fecanyddol, Gweithfeydd Ynni o Wastraff a Safleoedd Tirlenwi. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu fesul achos, a bydd sicrhau bod cynigion yn sensitif i anghenion yr ardal leol yn ystyriaeth bwysig. Felly, dylai datganiad sy’n cyfiawnhau’r cynnig gyd-fynd â phob cynnig ar gyfer cyfleuster gwastraff newydd. Mewn perthynas â chynigion mawr (un hectar neu fwy o ran maint yn y cais) a datblygiadau mawr megis safleoedd tirlenwi, bydd angen asesiad sy’n gwerthuso ai’r safle dan sylw yw’r dewis gorau ar gyfer y defnydd arfaethedig. Ym mhob achos o’r fath, dylai’r ymgeisydd ystyried y rhestr o leoliadau yn y polisi, a dylai roi ystyriaeth i safleoedd eraill yn y Sir nad ydynt wedi’u nodi yma.

19.33 Ni ragwelir y bydd angen pob un o’r ardaloedd chwilio a nodwyd, ac mae’r Cynllun, yn fwriadol, wedi nodi mwy o safleoedd na’r hyn y mae ei angen er mwyn sicrhau digon o hyblygrwydd o safbwynt datblygu seilwaith rheoli gwastraff integredig a digonol a fydd yn gallu trin sgîl-gynhyrchion gwastraff y dyfodol. Mae’r dull hwn yn gyson ag Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru, sydd wedi nodi gorddarpariaeth sylweddol fel ‘lwfans diogelwch’. Mae’r Cyngor yn hyderus, ar sail y wybodaeth a geir yn Adolygiad 1af Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru, bod y safleoedd a nodir yn y polisi hwn yn cynnwys darpariaeth ddigonol.

19.34 Cydnabyddir bod gan nifer o’r ardaloedd chwilio ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff y potensial i niweidio safleoedd Natura 2000. Caiff cynigion datblygu manwl ynghylch safleoedd o’r fath eu hasesu’n drylwyr i fesur eu heffeithiau ar ddynodiadau rhyngwladol o ran cadwraeth natur, ac mae’n debygol y bydd angen Asesiad Priodol ar eu cyfer.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

EWP7 Rheoli Gwastraff yn Gynaliadwy

Bydd cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff newydd yn destun profion trylwyr i sicrhau:

a. bod angen y cyfleusterau arfaethedig er mwyn diwallu angen a nodwyd yn y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol;

b. bod y cyfleusterau’n ceisio trin a/neu waredu gwastraff mor agos ag sy’n ymarferol bosibl i ffynhonnell y gwastraff;

c. bod y cynnig yn ystyried y potensial i gludo gwastraff trwy ddulliau eraill heblaw ar y ffyrdd; ac

ch. y dylai’r cyfleusterau drin a/neu waredu gwastraff gan ddefnyddio’r dewis amgylcheddol ymarferol gorau.

19.35 Mae rheoli gwastraff yn gynaliadwy yn cynnig cyfle enfawr i’r economi leihau costau, cynyddu’r graddau y caiff adnoddau eu hailddefnyddio a gwella ansawdd yr amgylchedd. Bydd yn bwysig bod cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff newydd yn ceisio defnyddio gwastraff yn briodol, gan sicrhau y gwneir y gorau o botensial llawn adnoddau gwastraff mewn modd sy’n effeithlon ac yn dderbyniol o ran yr amgylchedd.

19.36 Bydd yr hierarchaeth wastraff yn ystyriaeth allweddol ar gyfer pob cynnig. Mae’r hierarchaeth wastraff yn brawf dilyniannol y gellir ei ddefnyddio gyda chynigion i drin, prosesu a/neu waredu gwastraff er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon ac ymarferol posibl. Er enghraifft, mae’r hierarchaeth wastraff yn annog ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau gwastraff yn gyntaf, ac yna defnyddio opsiynau llai ffafriol megis llosgi gwastraff gan adennill ynni. Yr opsiwn olaf un yn yr hierarchaeth wastraff yw tirlenwi. Ni chaniateir gwaredu gwastraff mewn safle tirlenwi oni bai fod yr holl opsiynau eraill wedi eu hystyried yn gyntaf.

19.37 Disgwylir i gynigion ar gyfer cyfleusterau gwastraff newydd, safleoedd gwaredu ac ati ystyried yr hierarchaeth wastraff yn llawn er mwyn dangos y bydd gwastraff yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon a derbyniol o ran yr amgylchedd. Wrth benderfynu ar geisiadau, bydd y Cyngor yn asesu cynlluniau i sicrhau eu bod yn cynrychioli’r Dewis Amgylcheddol Ymarferol Gorau. Ni chaniateir cynlluniau sy’n ceisio gwaredu gwastraff trwy losgi, oni bai fod cynigion ar gyfer cynhyrchu ynni yn cyd-fynd â hwy.

19.38 Wrth leoli cyfleusterau rheoli gwastraff newydd, bydd pwys mawr yn cael ei roi ar yr ‘egwyddor agosrwydd’ a’r angen i leoli cyfleusterau’n agos i ffynhonnell y gwastraff.

19.39 Y prif destunau a fydd yn dylanwadu ar reoli gwastraff yn Sir y Fflint yw Cynllun Gwastraff Trefol Sir y Fflint, sy’n cael ei baratoi ar hyn o bryd gan y Cyngor, a Chynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru (Adolygiad 1af). Bydd y CDU yn ceisio hwyluso sgîl-gynhyrchion gwastraff trefol (h.y. gwastraff o gartrefi) ynghyd â sgîl-gynhyrchion gwastraff eraill (h.y. rhai masnachol a diwydiannol yn bennaf) trwy arwain datblygiadau i leoliadau a nodwyd yn EWP6, mewn modd sy’n sensitif i anghenion amwynder preswyl a’r amgylchedd.

 

EWP 8 Rheoli Datblygiadau a Gweithrediadau Gwastraff

Bydd cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff newydd yn cael eu caniatáu ar yr amod bod y meini prawf canlynol yn cael eu bodloni:

a. nid yw’r datblygiad yn cael effaith andwyol sylweddol, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ar nodweddion cydnabyddedig y dirwedd, safleoedd gwerthfawr o ran cadwraeth natur, a/neu safleoedd/ardaloedd o bwysigrwydd hanesyddol, archeolegol a/neu bensaernïol;

b. nid yw’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar iechyd ac amwynder defnyddwyr tir cyfagos;

c. mae mesurau wedi eu cynnwys yn y cynigion i liniaru unrhyw effeithiau andwyol, gan gynnwys tirlunio a sgrinio priodol a chamau i ddiogelu neu ailosod hawliau tramwy cyhoeddus;

ch. mae cynllun adfer manwl wedi ei gyflwyno, ynghyd â chynnig ynghylch ôl-ddefnydd priodol a buddiol;

d. nid yw’r datblygiad yn cael effaith andwyol sylweddol ar gyrsiau dwr, ansawdd yr aer a’r pridd, a phlanhigion ac anifeiliaid; ac

dd. nid yw’r datblygiad nac unrhyw draffig cysylltiedig yn arwain at aflonyddwch annerbyniol i gymunedau lleol oherwydd swn, drewdod, dirgryndod, mwg neu lygredd aer.

19.40 Gall rheoli gwastraff a gweithredu safleoedd gwaredu gwastraff gael effeithiau sylweddol ar ddefnydd tir neu fwynhad o dir. Diben y polisi hwn yw rheoli lleoliad cynigion ar gyfer llosgyddion gwastraff, safleoedd tirlenwi, neu gyfleusterau ar gyfer trosglwyddo gwastraff ac ailgylchu ac ailbrosesu deunyddiau. Dylid sicrhau mai’r brif flaenoriaeth o ran rheoli gwastraff yw lleihau’r gwastraff a gynhyrchir, neu fel arall, annog ffyrdd o ailgylchu ac ailddefnyddio gwastraff yn y man lle caiff ei gynhyrchu, lle maent yn hyfyw’n economaidd. Dim ond gwastraff na ellir ei reoli trwy ddulliau o’r fath y dylid ymdrin ag ef yn ganolog, neu y dylid ei waredu trwy ei losgi (gan adennill ynni) neu’i roi mewn safle tirlenwi.

19.41 Wrth hwyluso datblygu rhwydwaith integredig o weithfeydd gwastraff a chyfleusterau gwaredu, bydd y Cyngor o blaid defnyddio’r ‘egwyddor agosrwydd’. Yn ôl yr egwyddor hon, dylai gwastraff gael ei waredu yn agos i’r man lle caiff ei gynhyrchu, gan leihau effeithiau trafnidiaeth gysylltiedig felly. Y nod yn y pen draw fydd sicrhau hunangynhaliaeth ranbarthol.

19.42 Mewn amgylchiadau o’r fath, dylid cymryd gofal mawr i sicrhau na chaiff unrhyw brosesau effaith niweidiol ar ansawdd bywyd na’r amgylchedd, ac y gellir adfer yn llawn unrhyw dir yr effeithir arno, pan ddaw’r gwaith i ben. Bydd camau digonol yn cael eu cymryd i osgoi, lleihau neu wella, cyhyd ag y bo’n ymarferol, effeithiau llygredd o elifion, trwytholchion neu nwy tirlenwi. Yn benodol, lle ceir darpariaeth ar gyfer echdynnu nwy tirlenwi o safleoedd gwaredu gwastraff, rhaid i ddyluniad y cynllun sicrhau nad yw presenoldeb pibellau nwy a mannau casglu’n niweidio gwaith adfer ac ôl-ddefnydd ar y safle.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

EWP 9 Datblygiadau Newydd a Chyfleusterau Rheoli Gwastraff

Bydd yn ofynnol i geisiadau sy’n ymwneud â datblygu dau hectar neu fwy o dir ddarparu ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff priodol.

19.43 Mae nifer o fanteision amgylcheddol ynghlwm wrth ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau gwastraff o’u cymharu â dulliau gwaredu traddodiadol. Ar wahân i’r ffaith y ceir llai o berygl llygredd o drwytholchion, nwy tirlenwi neu allyriadau llosgyddion, gall ailgylchu gwastraff arbed ynni sylweddol.

19.44 Mae’r polisi hwn yn ceisio annog darparu cyfleusterau ailgylchu a chompostio newydd, yn enwedig mewn lleoliadau a ddefnyddir gan lawer iawn o bobl yn ddyddiol. I’r diben hwn, dylai pob safle manwerthu mawr, cyfleusterau hamdden megis sinemâu a chanolfannau chwaraeon, a datblygiadau tai newydd mawr ddarparu ar gyfer mannau ailgylchu a/neu gompostio sydd wedi’u dylunio’n dda ac sy’n hygyrch. Gall meysydd parcio mawr yng nghanol trefi fod yn lleoliadau priodol hefyd.

19.45 Mae’n hanfodol bod pob cyfleuster newydd wedi’i ddylunio i leihau fandaliaeth, y perygl o anaf, sbwriel ac aflonyddwch cyffredinol. Dylai ceisiadau cynllunio gynnwys manylion llawn am waith tirlunio cysylltiedig, a ddylai gael ei ddylunio i liniaru effaith weledol a chlywedol y safle ar yr ardal oddi amgylch.

 

EWP10 Ailddefnyddio Gwastraff Datblygiadau

Ni roddir caniatâd cynllunio ar gyfer cynigion datblygu mawr oni ddangoswyd bod ystyriaeth wedi ei rhoi i rwystro neu leihau gwastraff, ac y gellir rheoli’n gynaliadwy unrhyw wastraff sy’n debygol o godi yn ystod pob cam o’r gwaith datblygu.

19.46 Mae’r polisi hwn yn ceisio lleihau’r gwastraff a gynhyrchir ar safleoedd datblygu mawr sy’n ymwneud â chreu 2,500 metr sgwâr (gros) o arwynebedd llawr diwydiannol neu fasnachol; newid defnydd neu gyflawni gwaith datblygu gweithredol ar fwy nag un hectar o dir; neu safleoedd ceisiadau cynllunio sy’n fwy nag un hectar. Bydd pob cynnig o’r fath yn destun asesiad o sgîl-gynhyrchion gwastraff er mwyn: a) sefydlu beth yw natur a swm y gwastraff sy’n debygol o gael ei gynhyrchu yn ystod pob cam o’r gwaith datblygu, o baratoi’r safle i’r broses o’i weithredu, a lle bo hynny’n briodol, ei adfer; b) sicrhau bod y gwastraff hwnnw’n gallu cael ei reoli’n unol ag egwyddorion cynaliadwyedd trwy gydol oes y datblygiad; ac c) sicrhau, lle bo hynny’n briodol, bod y datblygiad yn ymgorffori elfennau o’r gwastraff adeiladu ar y safle, er enghraifft defnyddio cerrig, concrit a brics gwastraff mewn seiliau adeiladau, meysydd parcio a llwybrau troed.

 

EWP11 Datblygu Ar Safleoedd Tirlenwi neu Wrth eu Hymyl

Fel rheol, caniateir cynigion ar safleoedd sydd naill ai ar safleoedd tirlenwi gweithredol neu flaenorol neu wrth eu hymyl, os ydynt yn cydymffurfio â’r gofynion canlynol:

a. rhaid cynnal ymchwiliad priodol i benderfynu ar bresenoldeb gwirioneddol neu bosibl nwyon, trwytholchion a/neu lygryddion tirlenwi eraill ar y tir sydd i’w ddatblygu;

b. rhaid i’r gwaith paratoi tir ac unrhyw gamau unioni a/neu ragofalu addas gael eu cymeradwyo cyn i’r gwaith datblygu sylfaenol ddechrau; ac

c. os yw’r safle’n cael ei ddatblygu ar gyfer defnydd agored i niwed, gan gynnwys defnydd preswyl, rhaid dangos bod y safle tirlenwi’n anadweithiol, yn ddiogel ac nad yw’n cynhyrchu nwy bellach.

19.47 Bwriedir i’r polisi hwn sicrhau yr ymchwilir i unrhyw broblemau o safbwynt nwy tirlenwi ar safle ac y rhoddir sylw iddynt pan fydd cynigion datblygu’n cael eu hystyried. Os yw nwy tirlenwi yn broblem, neu os gallai fod yn broblem ar y safle sydd i’w ddatblygu, byddai angen gweithredu camau adfer neu ragofalu addas cyn i’r gwaith datblygu ddechrau. Bydd cael cyngor proffesiynol priodol yn hanfodol.

19.48 Gall y Cyngor, fel yr awdurdod cynllunio lleol, ofyn am wybodaeth berthnasol ychwanegol am nwy tirlenwi, naill ai pan fydd yn ystyried cais am ganiatâd cynllunio, neu’n nes ymlaen trwy osod amod priodol ar y caniatâd cynllunio perthnasol.

19.49 Dan Orchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988 (fel y’i diwygiwyd), mae’n ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag Awdurdodau Gwaredu Gwastraff (Awdurdodau Rheoleiddio Gwastraff erbyn hyn) ynghylch datblygiadau o fewn 250 metr i safle tirlenwi, sydd naill ai’n weithredol neu sydd wedi cau yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Bydd sylw arbennig yn cael ei roi i ddatblygiadau sy’n effeithio ar safleoedd o’r fath.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol - Llygredd

19.50 Amcanion Llywodraeth Cymru (paragraff 13.1.2 Polisi Cynllunio Cymru) yw:

19.51 Mae CDUau yn gyfryngau pwysig ar gyfer hyrwyddo gwarchodaeth amgylcheddol, a dylent ei gwneud yn bosibl ystyried yr effeithiau y gallai datblygiadau arfaethedig eu cael ar ansawdd aer neu ddwr, a’r effeithiau y gallai ansawdd aer neu ddwr eu cael ar ddatblygiadau arfaethedig. Mae paragraff 13.11.1 yn datgan y dylai awdurdodau cynllunio lleol … gydweithio’n agos â’r awdurdodau rheoli llygredd wrth baratoi’r cynlluniau hyn …”. Mae paragraff 13.11.2 yn nodi’r ffactorau canlynol:

 

Polisïau - Llygredd

 

EWP 12 Llygredd

Bydd datblygiad newydd sy’n sensitif i lygredd neu berygl, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn cael ei ganiatáu dim ond mewn ardaloedd lle nad yw gweithgareddau sy’n bodoli eisoes yn peri risg bosibl o effeithiau o’r fath.

Caniateir datblygiad newydd a fyddai’n creu risg ychwanegol o lygredd neu berygl, dan yr amodau canlynol yn unig:

a. na fyddai’n creu nac yn cynyddu risg i’r cyhoedd yn gyffredinol y tu allan i ffiniau’r safle; a

b. na fyddai’n gosod cyfyngiadau sylweddol ar ddefnyddio neu ddatblygu’r tir oddi amgylch.

Bydd amodau’n cael eu gosod ar y datblygiad i sicrhau bod y safle, pan roddir y gorau i’w ddefnyddio, yn cael ei adfer a’i ailddefnyddio, ac y bydd hynny’n cynnwys camau priodol i ymdrin ag unrhyw halogi sydd ar y safle.

19.52 Nod cyffredinol y Cynllun yw lleihau llygredd. Er bod asiantaethau eraill yn rheoli ac yn gorfodi’r prosesau a’r sylweddau a ddefnyddir mewn unrhyw ddatblygiad penodol, gall y system gynllunio chwarae rhan bwysig o ran sicrhau nad yw unrhyw ddatblygiad sy’n llygru neu sy’n beryglus yn effeithio neu’n cyfyngu ar ddefnydd arall o’r tir, naill ai’n awr neu yn y dyfodol. Gall rhai mathau o ddatblygiadau, megis ysgolion, ysbytai a thai, fod yn arbennig o sensitif i beryglon amgylcheddol, ac mae’r polisi hwn yn ceisio’u gwarchod rhag risgiau o’r fath mewn dwy ffordd.

19.53 Yn gyntaf, mae’n ceisio lleihau’r gwrthdaro rhwng ffynonellau presennol llygredd neu berygl, a buddiannau eraill. Er mwyn gweithredu’n rhagofalus, bydd datblygiadau sensitif yn cael eu gwrthwynebu yng nghyffiniau ardaloedd yr effeithir arnynt. Er enghraifft, ni chaniateir datblygiadau mewn lleoliadau lle byddai’n arwain at yr angen am waith rheoli llygredd o safon uwch.

19.54 Yn ail, mae’n ceisio sicrhau bod unrhyw weithgareddau newydd a allai lygru neu a allai fod yn beryglus yn cael eu lleoli’n sensitif, a bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i warchod defnyddwyr presennol y tir a defnyddwyr posibl y safle yn y dyfodol. Mae’n debygol, felly, mai dim ond nifer gyfyngedig o leoliadau fydd yn cael eu hystyried yn briodol ar gyfer lleoli datblygiad o’r fath. Gofynnir am gyngor gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, lle bo hynny’n briodol, ynghylch y materion sy’n ymwneud â gweithgareddau peryglus.

19.55 Er mwyn sicrhau bod y cyfundrefnau rheoli cynllunio a rheoli llygredd yn cael eu rhoi ar waith mewn modd lle mae’r naill yn ategu’r llall, bydd y Cyngor yn ystyried cyngor arbenigol Asiantaeth yr Amgylchedd sydd, fel y Cyngor, â chyfrifoldeb penodol am orfodi safonau rheoli llygredd. Wrth ystyried pa mor dderbyniol yw cynnig, bydd y Cyngor, lle bo hynny’n briodol, yn mynnu bod datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno.

19.56 Pan fydd caniatâd yn cael ei roi, bydd yn destun amodau sy’n gwarchod defnydd cyfagos ac sy’n caniatáu adfer y safle ar gyfer ôl-ddefnydd priodol mewn modd sy’n cynnwys yr holl fesurau angenrheidiol a phriodol i oresgyn unrhyw halogi. Rhaid i hynny gael ei wneud cyn i neb adfeddiannu’r safle.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol – Swn a Golau

19.57 Dylid llunio polisïau CDUau i sicrhau, cyhyd ag y bo’n ymarferol, bod yn rhaid i ddatblygiadau sy’n sensitif i swn, megis ysbytai, ysgolion a thai, gael eu dylunio yn y fath fodd fel bod lefelau swn y tu mewn i’r datblygiadau hynny ac o’u cwmpas yn cael eu cyfyngu. Dylid lleoli datblygiadau o’r fath i ffwrdd oddi wrth ffynonellau presennol o swn sylweddol neu ddatblygiadau sydd wedi’u rhaglennu. Yn ogystal, dylid llunio polisïau i sicrhau, cyhyd ag y bo modd, bod datblygiadau a allai fod yn swnllyd yn cael eu lleoli mewn ardaloedd lle na fydd swn yn ystyriaeth mor bwysig, neu lle gellir lleihau ei effaith. Dylai awdurdodau cynllunio lleol fabwysiadu polisïau ar gyfer golau hefyd, gan gynnwys rheoli llygredd golau, mewn CDUau.

 

Polisïau – Swn a Golau

 

EWP 13 Niwsans

Caiff datblygiad sy’n sensitif i swn, dirgryndod, arogl, llwch neu lygredd golau, ac y bwriedir ei leoli’n agos i ffynonellau presennol o niwsans, megis rheilffyrdd, ffyrdd, meysydd awyr neu weithgareddau diwydiannol, ei ganiatáu dim ond os gall y datblygwr ddangos y bydd mesurau digonol yn cael eu gweithredu i liniaru unrhyw effeithiau andwyol posibl.

Caiff cynigion sy’n debygol o gynyddu swn, dirgryndod, arogl, llwch neu lygredd golau eu caniatáu dim ond os yw’r datblygwr wedi dangos na fydd unrhyw effaith niweidiol ar ddefnyddwyr y tu allan i ffin y safle, a allai fod yn sensitif i niwsans o’r fath.

19.58 Mae niwsans oherwydd swn, dirgryndod, arogl a llwch yn achos cwynion yn aml. Gall gael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd, a gall beri niwed i’r amgylchedd adeiledig a naturiol fel ei gilydd. Safleoedd diwydiannol mawr, gweithfeydd echdynnu mwynau a ffyrdd yw’r ffynonellau mwyaf cyffredin o niwsans, ond gallant gynnwys datblygiadau llai o faint hefyd, megis siopau gwerthu bwyd neu gyfleusterau chwaraeon a hamdden.

19.59 Er nad yw’n bosibl dileu ffynonellau niwsans yn llwyr, mae’r polisi hwn yn ceisio sicrhau bod pob datblygiad sy’n sensitif i niwsans yn cael ei wahanu oddi wrth weithgareddau cymdogion gwael, lle bo hynny’n ymarferol. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai amgylchiadau lle gall datblygwyr gymryd camau priodol i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol. Gellir cyfyngu ar yr oriau gweithredu, gellir gosod rhwystrau yn y dirwedd neu rwystrau ffisegol eraill, a gellir cyflwyno technoleg i sicrhau nad yw ansawdd bywyd yn cael ei danseilio. Bydd unrhyw fesurau o’r fath yn cael eu sicrhau trwy amodau a rhwymedigaethau cynllunio, y dylid eu gweithredu’n rhan annatod o unrhyw ddatblygiad.

19.60 Gall golau amharu’n sylweddol ar yr hyn sydd o’i amgylch, yn enwedig mewn ardaloedd o gefn gwlad agored. Mae goleuadau sydd wedi’u lleoli a’u dylunio’n wael yn achosi ‘gwawl’, a gallant effeithio ar amwynder yr ardaloedd oddi amgylch. Dylai llygredd posibl o ddisgleirdeb a golau sy’n gollwng gael ei leihau yn nyluniad datblygiad newydd, a dylai manylion goleuo unrhyw gynlluniau â goleuadau allanol gael eu cynnwys yn rhan o’r cais cynllunio. Un o fanteision ychwanegol cynlluniau goleuo gwell fydd gostyngiad mewn troseddau a’r risg o droseddau.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol – Tir Halogedig

19.61 Dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried natur, maint a hyd a lled unrhyw halogi a allai beryglu iechyd. Mae paragraff 13.6.1 Polisi Cynllunio Cymru yn datgan bod yn “rhaid ystyried materion mewn perthynas â halogi tir wrth baratoi cynlluniau datblygu, er mwyn sicrhau:

19.62 Mae paragraff 13.6.3 Polisi Cynllunio Cymru yn datgan: “Efallai y bydd cynlluniau yn nodi bod angen bodloni’r awdurdod cynllunio lleol bod modd goresgyn, mewn modd rhesymol, unrhyw halogi gwirioneddol neu halogi posibl. Dylid cynnwys hefyd bolisïau ar gyfer adfer a datblygu tir sydd eisoes yn llygredig, yn ogystal â safleoedd diffaith”.

 

Polisïau – Tir Halogedig

 

EWP14 Tir Diffaith a Halogedig

Caniateir adennill ac ailddefnyddio tir diffaith a halogedig:

a. os caiff camau priodol eu cymryd i ymdrin ag unrhyw halogi ar y safle:

  1. gan sicrhau nad oes unrhyw berygl gweddilliol yn parhau ar y safle ar gyfer y sawl a fydd yn cael y tir yn y dyfodol; a
  2. gan leihau, cyn belled ag y bo modd, unrhyw waith gwaredu deunydd gwastraff halogedig oddi ar y safle; a

b. os gellir cymryd camau i nodi a diogelu unrhyw fuddiannau pwysig o ran cadwraeth natur a hanes sydd ar y safle.

19.63 Gall tir diffaith fod yn salw a gall atal buddsoddi. Fodd bynnag, mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylid rhoi blaenoriaeth i adennill tir diffaith a thir gwastraff, gan arbed safleoedd tir glas gwerthfawr, dod â chyfleusterau’n agosach i’w gilydd, lleihau’r angen i deithio, a helpu i oresgyn malltod.

19.64 Fodd bynnag, mae llawer o dir diffaith – wedi’i adael yn halogedig, a’r datblygwr yn hytrach na’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gyfrifol am benderfynu i ba raddau y mae’r tir yn halogedig. Cyn penderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer safleoedd y gwyddys, neu yr amheuir yn gryf, eu bod wedi’u halogi, bydd y Cyngor yn mynnu bod y datblygwr yn ymchwilio i’r safle er mwyn: asesu natur a maint y broblem; nodi camau gwella penodol i ymdrin ag unrhyw berygl; a diogelu unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol ac unrhyw ddefnydd cyfagos. Bydd amodau cynllunio yn nodi’r holl gamau angenrheidiol a phriodol ar gyfer goresgyn unrhyw halogi, a bydd yn rhaid i’r rhain gael eu cyflawni cyn i neb feddiannu’r safle.

19.65 Gall cadwraeth natur fod o bwys neilltuol ar safleoedd diffaith, oherwydd er gwaethaf eu golwg salw’n aml, mae cryn dipyn o ddiddordeb o ran cadwraeth natur yn perthyn i nifer o ardaloedd o dir gwastraff. Cyn penderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer safleoedd y gwyddys fod cryn dipyn o ddiddordeb o ran cadwraeth natur yn perthyn iddynt, rhaid cynnal archwiliad amgylcheddol i nodi unrhyw ddiddordeb o ran cadwraeth natur sydd ar y safle, ac i egluro sut y gellid darparu ar gyfer ei gadw a’i wella. Rhoddir caniatâd i symud nodweddion gwerthfawr sy’n bodoli eisoes o ran bywyd gwyllt i fannau eraill trwy gyfrwng mesurau lliniaru, dim ond os yw’n amhosibl eu cadw ar y safle ac os yw adleoli’n dechnegol bosibl ac yn dderbyniol yn ecolegol. Os na fydd y gofyniad hwn yn cael ei fodloni, ac os nad oes unrhyw ystyriaethau tra phwysig, gellir gwrthod y cais cynllunio ar sail rhesymau’n ymwneud â chadwraeth natur yn unig. Gall safleoedd fod o bwysigrwydd hanesyddol neu archeolegol hefyd, a dylid asesu eu gwerth cyn caniatáu unrhyw waith adennill.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol – Tir Ansad

19.66 Mae paragraff 13.8.2 Polisi Cynllunio Cymru yn datgan: “Gan hynny, wrth baratoi eu cynlluniau, dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried natur, graddfa a graddau ansadrwydd tir, a allai achosi risgiau uniongyrchol i fywyd ac iechyd, adeiladau ac adeiladwaith, neu a allai achosi peryglon anuniongyrchol sy’n gysylltiedig â thir sy’n symud, er enghraifft bod nwyon yn dianc o safleoedd tirlenwi neu fwyngloddiau”. Mae paragraff 13.8.4 yn datgan: “Gall cynlluniau nodi y bydd angen bodloni’r awdurdod cynllunio lleol bod safle’n sad, neu fod modd goresgyn, yn rhesymol, unrhyw ansadrwydd gwirioneddol neu bosibl”.

 

Polisïau – Tir Ansad

 

EWP15 Datblygu Tir Ansad

Caniateir datblygu tir ansad dim ond os gellir dangos bod camau priodol wedi’u cymryd, neu y byddant yn cael eu cymryd, i sicrhau diogelwch hirdymor.

Ni chaniateir datblygiad newydd a fyddai’n creu perygl o ansadrwydd tir, oni bai:

  1. bod camau’n cael eu cymryd i ddileu’r perygl o ansadrwydd; a
  2. na fyddai’n rhoi defnyddwyr tir cyfagos a’r cyhoedd yn gyffredinol mewn perygl.

19.67 Mae’r Cynllun yn ceisio atal caniatáu datblygiadau ar safleoedd sydd mewn perygl o ddioddef ansadrwydd o ganlyniad i fwyngloddio, tirlenwi, tirlithriadau, erydu neu unrhyw ymsuddiant arall.

19.68 Y datblygwr yn hytrach na’r awdurdod cynllunio lleol sy’n gyfrifol am benderfynu ar raddau ac effeithiau unrhyw ansadrwydd, a lle bo hynny’n ofynnol dylai’r wybodaeth honno gael ei chyflwyno gyda’r cais. Lle bo angen, bydd amodau cynllunio’n mynnu bod mesurau’n cael eu rhoi ar waith i oresgyn ansadrwydd, a rhaid cyflawni’r rhain yn rhan o’r datblygiad.

19.69 Bydd pob cais yn cael ei benderfynu ar sail y wybodaeth sydd ar gael i’r awdurdod cynllunio lleol, ac ni fydd hynny’n golygu nad yw’r safle’n ansad.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol – Adnoddau Dwr

19.70 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn cynghori y dylai awdurdodau cynllunio lleol hyrwyddo mwy o effeithlonrwydd a rheoli’r galw am adnoddau dwr. Yn benodol, mae Polisi Cynllunio Cymru yn mynnu bod y Cynllun:

 

Polisïau – Adnoddau Dwr

 

EWP16 Adnoddau Dwr

Bydd datblygiad a fyddai’n gwella’r seilwaith sy’n bodoli eisoes ar gyfer trin a chyflenwi dwr yn cael ei ganiatáu ar yr amod na fyddai’n cael effaith andwyol annerbyniol ar fuddiannau lleol o ran amwynder, tirwedd, cadwraeth natur neu dreftadaeth.

Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad arall sy’n effeithio ar adnoddau dwr oni bai ei fod yn bodloni’r meini prawf canlynol:

a. ni fyddai’n cael effaith andwyol uniongyrchol neu anuniongyrchol sylweddol ar gapasiti a llif systemau dwr daear, dwr wyneb neu ddwr arfordirol;

b. ni fyddai’n peri risg annerbyniol i ansawdd dwr daear, dwr wyneb neu ddwr arfordirol;

c. byddai ganddo fynediad i gyflenwad digonol o ddwr, carthffosiaeth a chyfleusterau trin carthion sydd naill ai’n bodoli eisoes neu a fydd yn cael eu darparu mewn pryd i wasanaethu’r datblygiad, heb niweidio’r dwr sy’n cael ei echdynnu ar hyn o bryd, ansawdd dwr, pysgodfeydd, amwynder neu gadwraeth natur; ac

ch. dangosir bod camau digonol wedi eu cymryd wrth ddylunio adeiladau newydd i sicrhau bod cyn lleied ag sy’n bosibl o adnoddau dwr yn cael eu gwastraffu, trwy ymgorffori mesurau addas ar gyfer defnyddio dwr yn effeithlon ac arbed dwr.

19.71 Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru sy’n gyfrifol am yr amgylchedd dyfrol. Mae gan yr Asiantaeth rôl statudol i sicrhau defnydd priodol o adnoddau dwr yng Nghymru, a sicrhau ansawdd dwr croyw, dwr morol, dwr wyneb a dwr tanddaearol. Dylai datblygwyr gysylltu â’r Asiantaeth mewn perthynas â chynigion datblygu a allai gael effaith andwyol ar lif a/neu ansawdd dwr er mwyn osgoi oedi posibl a/neu achos lle gallai’r cais gael ei wrthod.

19.72 Mae cynhesu byd-eang yn debygol o gael effaith sylweddol ar hinsawdd Cymru. Mae’r effeithiau wedi’u teimlo eisoes, gyda chyfnodau hwy o dywydd sych cynnes, cyfnodau llai aml o law, a chyfnodau o law mwy dwys. Mae’r tebygolrwydd o gael llai o law yn ystod misoedd yr haf yn fater arwyddocaol, a bydd yn rhoi mwy o bwysau ar gyflenwadau dwr sy’n bodoli eisoes, yn enwedig yn ystod hafau hir, sych. Er mwyn sicrhau y bydd cyflenwad dwr digonol ar gael yn y dyfodol, dylai’r cynllun datblygu ystyried cynigion yng ngoleuni’r system hydrolegol bresennol a newidiadau posibl yn y dyfodol. Wrth ystyried effeithiau datblygiadau newydd ar hydroleg, dylid rhoi sylw arbennig i’r llifoedd mewn sianelau dwr sy’n bodoli eisoes a gwerth y systemau hyn o ran cadwraeth natur.

19.73 Yn gryno, caniateir cynigion ar gyfer datblygiadau newydd sy’n rhoi pwysau ar gapasiti’r cyflenwad dwr presennol ac ar y seilwaith trin dwr a charthion, ar yr amod bod y seilwaith angenrheidiol yn ei le, neu y bydd yn cael ei ddarparu i’w gwasanaethu. Mae’r pwysau cynyddol ar y seilwaith ac ar fyd natur yn ystyriaeth bwysig, a disgwylir i ddatblygiadau newydd ddangos bod ystyriaeth ddigonol yn cael ei rhoi i gadwraeth adnoddau dwr ac i warchod ansawdd dwr.

19.74 Mae cynigion sy’n ceisio gwella a chynyddu capasiti’r seilwaith dwr a charthffosiaeth, gan gynnwys seilwaith bach sy’n gwasanaethu adeiladau unigol, yn debygol o gael eu caniatáu ar yr amod nad ydynt yn gwrthdaro â pholisïau ynglyn â’r amgylchedd, y dirwedd neu amwynderau eraill.

19.75 Lle bo’n bosibl, dylid defnyddio cyfleuster carthffosiaeth / cyfleuster trin carthion cyhoeddus digonol i gael gwared ar garthion. Ni chaniateir datblygiad lle mae’n debygol y bydd llif yr elifion carthion a gynhyrchir ganddo’n fwy na chapasiti’r cyfleuster trin carthion perthnasol. Fel rheol, ni chaniateir gosod cyfleusterau preifat (e.e. tanciau carthion a charthbyllau) lle bo cyfleusterau cyhoeddus ar gael. Pan fydd gosod cyfleusterau o’r fath yn dderbyniol mewn ardaloedd lle nad oes system garthffosiaeth, rhaid i gyflwr y ddaear fod yn addas a rhaid bod digon o dir yno i ddarparu system ddraenio ddigonol trwy’r isbridd. Fel arfer, bydd angen caniatâd ffurfiol gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer gollyngiadau o gyfleusterau preifat.

19.76 Cyfrifoldeb Dwr Cymru yw systemau trin carthion cyhoeddus, a dylai darpar ddatblygwyr gysylltu â hwy i drefnu cysylltiad â gwasanaethau sy’n bodoli eisoes neu i ddarparu seilwaith newydd. Bydd angen cael caniatâd ar wahân gan Ddwr Cymru hefyd i ollwng carthion i’r system garthffosiaeth gyhoeddus. Bydd y Cyngor yn ymgynghori â’r ymgymerwr dwr a charthion mewn achosion priodol, er mwyn sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar gael, neu y gellir cyflwyno darpariaeth ddigonol, i gefnogi datblygiad penodol.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol – Perygl Llifogydd

19.77 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn datgan ym mharagraff 13.3.1: “Wrth baratoi eu cynlluniau datblygu, dylai awdurdodau cynllunio lleol ymgynghori ag awdurdodau cyfagos ac Asiantaeth yr Amgylchedd a sicrhau nad yw’r datblygiad ei hun mewn perygl, ac nad yw ychwaith yn cynyddu’r perygl o lifogydd unrhyw le arall … Wrth lunio polisïau a chynigion ar gyfer eu hardaloedd, rhaid i awdurdodau cynllunio lleol gydnabod bod adnoddau’r llywodraeth ar gyfer prosiectau amddiffyn rhag llifogydd ac amddiffyn yr arfordir yn cael eu neilltuo i ddiogelu datblygiadau ‘sydd eisoes yn bodoli’, ac nad ydynt ar gael i ddarparu amddiffynfeydd ar gyfer datblygiadau posibl yn y dyfodol.” Mae paragraff 13.3.2 yn datgan: “Yn achos gorlifdiroedd sy’n ddirwystr ar hyn o bryd, a lle mae dwr yn llifo adeg llifogydd, ni ddylid caniatáu datblygiadau adeiledig ac eithrio mewn achosion cwbl eithriadol. Dylid cyfyngu unrhyw ddatblygiadau o’r fath i seilwaith trafnidiaeth a chyfleustodau hanfodol … Dylai awdurdodau cynllunio lleol gydnabod na fyddai’n addas lleoli rhai mathau o ddatblygiadau, fel ysgolion, ysbytai, datblygiadau preswyl, a gwasanaethau brys mewn rhai ardaloedd sydd wedi’u diffinio fel rhai sydd mewn perygl mawr o lifogydd. Wrth baratoi eu cynlluniau datblygu, dylai awdurdodau cynllunio lleol sicrhau bod y tir yn cael ei ddyrannu’n briodol mewn ardaloedd o’r fath”.

 

Polisïau – Perygl Llifogydd

 

EWP 17 Perygl Llifogydd

Bydd datblygiadau a fyddai’n ceisio lleihau effaith ac amlder perygl llifogydd i ardaloedd sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd yn cael eu cefnogi’n gyffredinol, ar yr amod:

a. bod dyluniad a chymeriad y gwaith yn briodol i’r ardal leol:

b. nad yw’r gwaith yn cael effaith andwyol ar fuddiannau o bwysigrwydd sydd wedi’i gydnabod o ran cadwraeth natur a hamdden; ac

c. nad yw’r gwaith yn cynyddu perygl llifogydd mewn man arall.

Caniateir datblygiadau eraill mewn ardaloedd sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd ar yr amod bod y Cyngor yn ystyried bod modd cyfiawnhau’r datblygiad a’i fod yn fodlon:

a. y gellir rheoli canlyniadau unrhyw lifogydd yn effeithiol

b. na fyddai’r datblygiad yn cynyddu perygl llifogydd mewn man arall

c. bod mesurau lleihau neu liniaru priodol wedi’u hymgorffori yn y cynnig ac y byddant ar gael gydol oes y datblygiad;

ch. na fyddai’n cael unrhyw effeithiau andwyol ar integriti amddiffynfeydd rhag llifogydd llanwol ac afonol.

19.78 Mae gan gynhesu byd-eang oblygiadau amlwg ar gyfer system dywydd Cymru, ac mae hefyd yn cynyddu’r potensial ar gyfer llifogydd eithafol. Mae TAN 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd (2004) wedi ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru i gydnabod problem gynyddol llifogydd. Wrth lunio cynigion a/neu gyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau, dylai ymgeiswyr ystyried y cyngor a’r canllawiau manwl a geir yn TAN 15. Bydd y Cyngor, mewn ymgynghoriad ag Asiantaeth yr Amgylchedd, yn gwrthwynebu datblygiadau mewn ardaloedd sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd, oni ellir dangos bod y defnydd arfaethedig yn addas ar gyfer yr ardal leol ac y gellir ei gyfiawnhau yno. At ddibenion EWP17, mae ardal sydd mewn perygl o dioddef llifogydd yn ardal perygl llifogydd parth C, C1, C2 yn TAN 15. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylai’r cynnig ddarparu camau i warchod y datblygiad rhag llifogydd a lleihau llifogydd, neu ddarparu camau digolledu’n rhan o’r cynnig datblygu, a fydd yn para am oes y datblygiad; sicrhau na fydd unrhyw ddefnyddwyr agored i niwed yn dioddef unrhyw effaith andwyol sylweddol; dangos na cheir unrhyw effaith andwyol sylweddol ar systemau hydrolegol, gan gynnwys effeithiau ar gapasiti sianelau dwr sy’n bodoli eisoes, llifoedd mewn sianelau dwr o’r fath, a buddiannau’r systemau hynny o ran cadwraeth natur.

19.79 Gall defnyddio systemau draenio cynaliadwy wneud cyfraniad sylweddol i leihau’r posibilrwydd o lifogydd a lleihau maint llifogydd. Lle bo hynny’n ymarferol, dylid ystyried defnyddio systemau draenio cynaliadwy ym mhob cynnig datblygu newydd, ond yn enwedig mewn ardaloedd, neu wrth ymyl ardaloedd, sydd â phroblemau llifogydd yn barod neu a allai ddioddef problemau o’r fath. Bydd defnyddio systemau draenio cynaliadwy hefyd yn briodol mewn lleoliadau sy’n sensitif yn amgylcheddol, o ran gwella’r amgylchedd a gwella amwynderau. Mae’r Cyngor yn bwriadu diweddaru ei Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol ar systemau draenio cynaliadwy, ar ffurf Canllawiau Cynllunio Atodol.

19.80 Mewn ‘ardaloedd problemus’ neu ardaloedd sy’n debygol o beri risg i ardaloedd adeiledig sy’n bodoli eisoes, dylid mynnu bod pob datblygiad sy’n golygu gosod arwynebau anhydraidd yn ymgorffori dyluniadau cynaliadwy priodol. Yn benodol, gallai dyluniadau gynnwys arwynebau caled hydraidd (e.e. meysydd parcio); ffosydd cerrig; ardaloedd storio dros dro (e.e. pyllau); a/neu bantiau sy’n caniatáu storio, trawsgludo lleol ac ymdreiddio. Lle bo hynny’n briodol, dylai cynigion ar gyfer adeiladau newydd sicrhau hefyd bod eu dyluniad yn lliniaru effaith llifogydd trwy ddiogelu tu allan a thu mewn adeiladau rhag llifogydd. Gallai mesurau o’r fath wneud cyfraniad sylweddol i reoli dwr yn gynaliadwy yn Sir y Fflint, gan arbed nifer o gymunedau rhag cael eu gorlifo, sicrhau bod cymunedau a busnesau newydd wedi’u diogelu rhag llifogydd, a helpu bywyd gwyllt a’r amgylchedd lleol hefyd trwy gynyddu lefelau storio dwr daear, codi’r lefel trwythiad a darparu cyrsiau dwr sydd â chyflenwadau mwy cynaliadwy o ddwr trwy gydol y flwyddyn.

Brig y dudalen