Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

Pennod 18

Mwynau

Nodau Strategol Perthnasol

f. Adnoddau

Amcanion Polisi
#

Rhestr Bolisïau
#

a. CEFNOGI’R ECONOMI – sicrhau bod modd i adnoddau mwynol gael eu cloddio’n gynaliadwy i ddiwallu anghenion yr economi leol, ranbarthol a chenedlaethol

b. EFFAITH CLODDIO – gwarchod ardaloedd sensitif rhag datblygiadau amhriodol o ran mwynau a lliniaru effaith datblygiadau o ran mwynau ar yr amgylchedd

c. DIOGELU ADNODDAU – gwarchod adnoddau mwynol rhag cael eu sterileiddio a sicrhau defnydd priodol o fwynau

ch. ADFER – sicrhau bod safleoedd a ddefnyddir at ddibenion mwynau’n cael eu hadfer i’r safonau uchaf posibl

MIN1 Arwain Datblygiadau o ran Mwynau

MIN2 Datblygiadau o ran Mwynau

MIN3 Rheoli Gweithrediadau’n ymwneud â Mwynau

MIN4 Adfer ac Ôl-ofal

MIN5 Safleoedd Segur ac Anweithredol a Safleoedd Dan Orchymyn Datblygu Interim

MIN6 Adolygu Caniatadau Mwynau

MIN7 Chwilio am Fwynau

MIN8 Gwarchod Buddiannau o ran Mwynau

MIN9 Pyllau Benthyg

MIN10 Clustogfeydd Mwynau

Dangosyddion Perfformiad Polisi

Targedau

  1. Statws banciau tir mwynau a chloddio o gronfeydd a ganiateir

 

 

18 Mwynau

Cyflwyniad

18.1 Mae mwynau fel adnodd yn elfennau pwysig o’r cynllun datblygu, ynghyd â’r drafodaeth ar ddatblygu cynaliadwy. Er mwyn datblygu economi a ffordd o fyw gynaliadwy, mae datblygu cynaliadwy yn mynnu bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Er na all y cynllun datblygu, ynddo’i hun, fynd i’r afael â’r holl heriau sy’n rhan o’r drafodaeth hon, gall geisio dylanwadu ar batrymau defnydd tir, a thrwy gyfyngu ar effeithiau niweidiol datblygiadau newydd ar yr amgylchedd ehangach, gall helpu i sicrhau bod pobl Sir y Fflint yn mwynhau ansawdd bywyd diogel ac iach.

18.2 Mae mwynau’n adnoddau cenedlaethol pwysig, ac mae eu defnyddio yn gwneud cyfraniad hanfodol i ffyniant y genedl. Er y gall cloddio mwynau darfu ar yr amgylchedd, dim ond lle’u darganfyddir y gellir eu cloddio. Mae cloddio mwynau yn esgor ar heriau sylweddol i awdurdodau cynllunio sy’n ceisio hybu datblygu economaidd a chynnal ansawdd yr amgylchedd lleol ar yr un pryd. Mae polisïau o fewn y cynllun datblygu’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng yr holl anghenion hyn, gan geisio lliniaru effeithiau datblygiadau o ran mwynau ac atal datblygiadau mewn lleoliadau sensitif lle byddai cloddio mwynau a gweithgareddau cysylltiedig yn cael effaith annerbyniol.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol

18.3 Mae Polisi Cynllunio Mwynau (Cymru) a gynhyrchwyd ym mis Rhagfyr 2000, ynghyd â Nodyn Cyngor Technegol Mwynau (Cymru) (MTAN) 1: Agregau (2004), yn gosod y fframwaith polisi ar gyfer yr holl bolisïau mwynau sydd yng Nghynlluniau Datblygu Unedol Cymru. Fel y cyfryw, wrth benderfynu ar geisiadau ar gyfer datblygiadau o ran mwynau, bydd yn bwysig ystyried y polisïau cenedlaethol mewn perthynas â’r cynllun datblygu.

18.4 Yn benodol, mae Polisi Cynllunio Mwynau (Cymru) yn mynnu:

  1. Adnoddau mwynol o fewn ardal yr awdurdod, a chronfeydd sydd â chaniatâd cynllunio;
  2. Dosbarthiad lleol, rhanbarthol a chenedlaethol pob mwyn a gwaith cynhyrchu pob mwyn, ynghyd â’i arwyddocâd o fewn ardal yr awdurdod;

18.5 Mae Polisi Cynllunio Mwynau (Cymru) yn pwysleisio mai rôl yr Awdurdod Cynllunio Mwynau yw “ … sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng y nod o sicrhau y gwneir defnydd gofalus o adnoddau cyfyngedig, a diogelu’r amwynderau presennol a’r amgylchedd. Rhaid cyfyngu unrhyw effeithiau ar y cymunedau lleol a’r amgylchedd, ac wedi hynny dylid eu lleddfu i safon dderbyniol. Mewn rhai ardaloedd, efallai na fydd cloddio mwynau’n dderbyniol”. Dyma bum egwyddor allweddol Polisi Cynllunio Mwynau (Cymru):

  1. Darparu adnoddau mwynau i fodloni anghenion cymdeithas a gwarchod adnoddau rhag cael eu sterileiddio.
  2. Amddiffyn ardaloedd o bwysigrwydd i dreftadaeth naturiol neu adeiledig.
  3. Cyfyngu ar effaith amgylcheddol cloddio am fwynau.
  4. Sicrhau adfer o safon uchel ac ôl-ddefnydd buddiol.
  5. Annog defnydd effeithlon a phriodol o fwynau ac ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau addas.

18.6 Roedd Adroddiad Blynyddol Gweithgor Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn 2003 yn nodi’r cyflenwad a’r galw am agregau ar gyfer y diwydiant adeiladu. Ar sail amcangyfrifon blaenorol o’r galw am fwynau a’r cyfraddau cloddio, ystyrir bod gogledd Cymru yn elwa o gronfeydd sylweddol o agregau a thywod a graean. Yn wir, mae gogledd-ddwyrain Cymru (gan gynnwys Sir y Fflint) yn elwa o fanc tir 33 blynedd ar gyfer calchfaen a 14 blynedd ar gyfer tywod a graean (ar ddyddiad sylfaenol 2003). Mae’n amlwg bod y cronfeydd mwynau yng ngogledd Cymru yn eang ac yn debygol iawn o fodloni’r galw am fwynau yn y dyfodol y tu hwnt i oes y Cynllun Datblygu Unedol, yn arbennig o ystyried caniatadau newydd ar gyfer mwynau mewn awdurdodau cyfagos.

18.7 Ystyrir bod y banc tir ar gyfer y rhanbarth a’r is-ranbarth yn ddigonol i ddiwallu’r angen yn y dyfodol. Fel y cyfryw, nid yw CDU Sir y Fflint yn nodi’r angen am waith cloddio newydd ar gyfer mwynau yn ystod cyfnod y Cynllun, ac nid yw chwaith yn bwriadu pennu dyraniadau ar gyfer gwaith cloddio newydd ar gyfer mwynau. Bydd unrhyw gynigion yn y dyfodol ar gyfer cloddio mwynau yn cael eu penderfynu ar sail polisïau’r Cynllun, a’r Datganiad Technegol Rhanbarthol pan fydd ar gael, a fydd yn darparu cyfeiriad i’r rhanbarth ar gyfer diwallu anghenion o ran mwynau yn y dyfodol heb beryglu asedau amgylcheddol megis Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a chapasiti amgylcheddol y Sir.

 

Polisïau

 

MIN1 Arwain Datblygiadau o ran Mwynau

Bydd cynigion ar gyfer tynnu, gweithio, prosesu a/neu adennill mwynau’n cael eu hasesu ar sail yr angen am weithfeydd mwyn newydd a gallu’r safleoedd sy’n bodoli eisoes i fodloni’r galw. Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ddefnyddio deunyddiau eilaidd a deunyddiau wedi’u hailgylchu a gwastraff mwynau.

Lle bo angen eglur y gellir ei ddangos am ddeunyddiau sylfaenol, rhoddir blaenoriaeth i:

a. ddyfnhau gweithfeydd mwyn sy’n bodoli eisoes; a

b. estyn gweithfeydd mwyn i’r ochr.

18.8 Mae mwynau’n hanfodol i economi’r Deyrnas Unedig ac i Sir y Fflint. Mae’n bwysig bod y system gynllunio yn hwyluso’r diwydiannau cloddio a phrosesu mwynau er mwyn sicrhau cyflenwad parhaus o fwynau ar gyfer y farchnad a diogelu adnoddau mwynol o safon rhag cael eu defnyddio fel deunyddiau gradd is. Bydd yr Awdurdod Cynllunio Mwynau yn ceisio sicrhau bod adnoddau mwynol yn cael eu cloddio a’u defnyddio mewn modd cynaliadwy er mwyn gwneud cyfraniad priodol i anghenion cymdeithas.

18.9 O ystyried y banc tir eang ar gyfer agregau, ni chaniateir estyniadau pellach i safleoedd sy’n bodoli eisoes ac ni chaniateir safleoedd cloddio newydd, ac eithrio mewn amgylchiadau prin ac eithriadol. Gallai sefyllfa o’r fath godi, er enghraifft, lle gellir dangos yn eglur bod cyflenwad o agreg o fath penodol ar gael, neu lle mae gweithredwyr, yn unochrog, yn barod i ildio’r caniatadau sy’n gysylltiedig â chronfeydd presennol a ganiateir trwy gytundebau cynllunio neu Orchmynion Gwahardd. Er mwyn sicrhau bod mwynau’n cael eu defnyddio’n briodol, bydd yn rhaid i gynigion ddangos bod angen am y mwyn sydd i’w gloddio. Mae hon yn ystyriaeth allweddol, a bydd cynigion a fydd yn methu â dangos yr angen yn cael eu gwrthod. Er mwyn dangos yr angen, dylai datblygwyr ystyried yr economi leol, ranbarthol a chenedlaethol, y cyflenwad presennol o fwynau, a gallu cyflenwadau presennol i fodloni galw presennol y farchnad a’r galw a ragwelir. Lle bydd galw’n cael ei nodi, bydd yn rhaid i ddatblygwyr ddangos bod angen deunyddiau wedi’u tynnu o’r tir yn hytrach nag adnoddau eilaidd neu adnoddau wedi’u hailgylchu. Mae cyfyngiadau ar ddefnyddio deunyddiau gwastraff wedi’u hailgylchu, ac mae’r Cyngor yn cydnabod na fydd yn briodol i bob cynnig ystyried y posibilrwydd hwn, er enghraifft, y cynigion hynny lle mae angen mwyn o ansawdd uchel.

18.10 Oherwydd natur hirdymor gweithfeydd mwyn, weithiau bydd caniatáu dyfnhau gwaith mwyn sy’n bodoli eisoes neu’i estyn i’r ochr yn fwy cynaliadwy ac yn fwy derbyniol yn amgylcheddol na chaniatáu datblygu gweithfeydd mwyn newydd. Mae’r CDU yn defnyddio dull dilyniannol o ymdrin â chynigion ar gyfer datblygu gweithfeydd mwyn newydd, gan ffafrio defnyddio deunyddiau eilaidd neu wedi’u hailgylchu’n gyntaf; dyfnhau gweithfeydd sy’n bodoli eisoes yn ail, ar yr amod nad yw hynny’n cael effaith andwyol annerbyniol ar ddwr daear neu fuddiannau amgylcheddol eraill; estyn gweithfeydd sy’n bodoli eisoes i’r ochr yn drydydd, ar yr amod nad yw’r estyniad yn cael effaith andwyol annerbyniol ar gymunedau sy’n bodoli eisoes nac ar fuddiannau eraill o ran tirwedd, hanes a’r amgylchedd; a datblygu gweithfeydd mwyn newydd yn olaf.

18.11 Wrth ddefnyddio’r dull dilyniannol, bydd angen asesu effaith pob un o’r opsiynau a ffefrir, yn unol â’r set gyfan o bolisïau mwynau (yn enwedig MIN2) a gweddill y cynllun datblygu, er mwyn sicrhau bod y datblygiad o safon dderbyniol, ei fod wedi’i leoli’n briodol, a bod effeithiau andwyol y datblygiad yn cael eu lliniaru a’u lleihau.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

MIN2 Datblygiadau o ran Mwynau

Bydd cynigion ar gyfer tynnu, gweithio, prosesu a/neu adennill mwynau’n cael eu hasesu yn ôl y meini prawf canlynol:

a. ni fydd y datblygiad yn cael effaith andwyol sylweddol ar y buddiannau pwysig canlynol:

  1. Aber Afon Dyfrdwy;
  2. Comin Treffynnon a Mynydd Helygain;
  3. safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol neu leol o ran yr amgylchedd, cadwraeth natur, tirwedd a/neu dreftadaeth.

b. ni ddylai datblygiadau o ran mwynau ddigwydd yn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, yn amodol ar yr archwiliad mwyaf trwyadl ac ar allu i ddangos ei fod er budd y cyhoedd;

c. nid effeithir yn sylweddol ar amwynder pobl leol;

ch. nid yw hyfywedd economaidd yr ardal yn cael ei beryglu;

d. ymyrraeth weledol o ganlyniad i waith ar y safle, y ffaith bod twmpathau o rwbel yn cael eu creu, neu bresenoldeb cyfarpar a pheiriannau;

dd. effaith gweithrediadau’n ymwneud â mwynau ar sadrwydd y tir;

e. rheoli a gwaredu gwastraff mwynau’n foddhaol; ac

f. effeithiau cronnol gweithrediadau’n ymwneud â mwynau, gan gynnwys safleoedd gweithredol neu safleoedd sydd â chaniatâd, yn yr ardal leol.

18.12 Mae’r polisi hwn yn ceisio lleoli datblygiadau o ran mwynau i ffwrdd oddi wrth leoliadau sensitif er mwyn gwarchod y gymuned a’r amgylchedd. Ni ddylai datblygiadau o ran mwynau ddigwydd yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Rhaid i gynigion datblygu’n ymwneud â mwynau fod yn destun yr archwiliad mwyaf trwyadl, a rhaid iddynt ddangos eu bod er budd y cyhoedd cyn y caniateir iddynt fynd rhagddynt. Rhoddir ystyriaeth i’r ffactorau a amlinellir ym mharagraff 21 Polisi Cynllunio Mwynau (Cymru) wrth asesu cynigion. Bydd cynigion yn ymwneud â mwynau, sydd wrth ymyl yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol neu’n agos iddi, ac a allai effeithio ar ei lleoliad, yn cael eu hasesu’n ofalus i benderfynu a yw’r effaith ar yr amgylchedd ac ar amwynder yn dderbyniol. Yn yr achosion eithriadol lle rhoddir caniatâd, bydd yr Awdurdod Cynllunio yn ceisio sicrhau bod y gweithredwr yn cadw at y safonau uchaf o safbwynt datblygu ac o safbwynt gweithrediadau.

18.13 Bydd ymyrraeth weledol gwaith datblygu mwynau yn cael ei hasesu o ran yr effeithiau sy’n deillio o’r gwaith ar y safle, diwygiadau i’r tirffurf ac unrhyw gyfarpar a pheiriannau cysylltiedig. Lle bo sadrwydd tir yn debygol o fod yn broblem, bydd yn ofynnol cael adroddiad sadrwydd tir, sy’n nodi’r problemau sy’n berthnasol i’r ardal leol a sut y byddant yn cael eu goresgyn. Bydd yn ofynnol i ddatblygwyr benderfynu sut y bydd gwastraff mwynau sy’n deillio o’r gwaith cloddio’n cael ei reoli a’i waredu. Bydd angen cael asesiad o effeithiau cronnol cynigion ychwanegol, sy’n ystyried safleoedd gweithredol a safleoedd sydd â chaniatâd yn y cyffiniau. Dylai’r asesiad geisio nodi a yw’r camau lliniaru arfaethedig yn ddigonol i fynd i’r afael â’r effeithiau a nodwyd ac a oes angen mesurau ychwanegol. Disgwylir i ddatblygiadau o ran mwynau fodloni holl ofynion y polisi, fel y’u nodir uchod. Os gwneir hynny, bydd yn ofynnol bod manylion y cais yn bodloni gofynion MIN3.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

MIN3 Rheoli Gweithrediadau’n ymwneud â Mwynau

Ar yr amod bod meini prawf polisïau MIN1 a MIN2 yn cael eu bodloni, caniateir gweithfeydd mwyn:

a. os gall y rhwydwaith priffyrdd sy’n bodoli eisoes ddarparu ar gyfer y traffig ychwanegol heb gael effaith andwyol sylweddol;

b. os nad yw symudiadau cerbydau’n ôl ac ymlaen i’r safle yn achosi niwed annerbyniol i amodau byw trigolion cyfagos;

c. os nad yw gwaith ffrwydro yn achosi niwed annerbyniol i’r ardal oddi amgylch oherwydd dirgryndod;

ch. os na fydd swn o’r gwaith tynnu, gweithio, prosesu a/neu adfer mwynau’n tarfu’n sylweddol ar leoliadau sy’n sensitif i swn;

d. os na fydd llwch, mwg a mygdarth o weithrediadau prosesu a thrin yn cael effaith andwyol ar leoliadau sensitif ac ar y llystyfiant oddi amgylch; ac

dd. os na fyddent yn cael effaith andwyol sylweddol ar ddraeniad y tir, adnoddau dwr daear na chyflenwadau dwr.

18.14 Mae’r Awdurdod Cynllunio Mwynau yn gyfrifol am y dasg o fonitro caniatadau mwynau yn y Sir er mwyn sicrhau bod gweithrediadau unrhyw waith mwyn yn cydymffurfio â chaniatadau amodol. Caiff amodau eu drafftio er mwyn sicrhau bod effaith gweithredwyr mwynau’n cael eu lleihau gymaint ag sy’n bosibl. Mae’n bwysig, felly, bod datblygwyr yn sicrhau bod cynigion yn bodloni’r meini prawf uchod ar gyfer gweithrediadau. Er mwyn asesu effaith y traffig a gynhyrchir gan y datblygiad, bydd yr Awdurdod Cynllunio Mwynau yn disgwyl i ddatblygwyr gyflwyno manylion am nifer y symudiadau a ddisgwylir gan gerbydau, ynghyd â’u llwybrau teithio arfaethedig. Mae lleoliadau sy’n sensitif i swn yn cynnwys anheddau preswyl a gerddi, mannau addoli, sefydliadau addysgol, ysbytai neu sefydliadau tebyg, a ffermydd da byw. Caiff lleoliadau sensitif eu diffinio yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1991, ac maent yn cynnwys, ymhlith eraill, ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, henebion cofrestredig, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Safleoedd Ewropeaidd.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

MIN4 Adfer ac Ôl-ofal

Mae’r Awdurdod Cynllunio Mwynau yn mynnu bod cynllun adfer ac ôl-ofal yn cyd-fynd â phob cynnig datblygu’n ymwneud â mwynau. Bydd cynllun o’r fath yn nodi’r gwaith cynnal a chadw a gwella byrdymor a hirdymor ar gyfer y safle. Dylai’r cynllun fynd i’r afael â’r meini prawf canlynol a chyfeirio’n llawn atynt:

a. camau i gyflawni gwaith a fydd yn cyfyngu ar effaith gweithrediadau gweithfeydd mwyn ar yr amgylchedd oddi amgylch;

b. amserlen sy’n rhoi manylion camau graddol i adfer y safle i’r safonau uchaf mwyaf ymarferol;

c. yr ôl-ddefnydd arfaethedig; ac

ch. dyluniad terfynol y tirffurf, gan ystyried y topograffi oddi amgylch a chymeriad y dirwedd.

18.15 Mae adfer safle gwaith mwyn yn ystyriaeth allweddol i’r Awdurdod Cynllunio Mwynau, ac ni fydd ceisiadau nad ydynt yn cynnwys y manylion angenrheidiol (fel y nodwyd yn y polisi uchod) yn cael caniatâd cynllunio. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hannog i adfer safleoedd gyda’r bwriad o wneud y defnydd gorau posibl ohonynt at ddibenion cadwraeth natur a gweithgareddau hamdden anffurfiol (h.y. llynnoedd cychod, llwybrau cerdded, ac ati).

 

Polisi allweddol arall

 

MIN5 Safleoedd Segur ac Anweithredol a Safleoedd Dan Orchymyn Datblygu Interim

Bydd yr Awdurdod Cynllunio Mwynau yn ceisio sicrhau bod pob safle segur ac anweithredol a phob safle dan orchymyn datblygu interim o safbwynt mwynau’n bodloni safonau cynllunio modern o safbwynt eu gweithrediadau ac o safbwynt adfer safle.

18.16 Mae gan Sir y Fflint nifer o safleoedd sydd â chaniatâd ar hyn o bryd i gloddio mwynau. Mae rhai o’r caniatadau hyn yn dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd (cyn 1939). Mae caniatadau hanesyddol yn peri cryn broblem i’r Awdurdod Cynllunio Mwynau, gan eu bod yn cynnwys amodau rhy annigonol o lawer i reoli eu datblygiad. Mae’n bosibl nad oes gan ganiatadau hanesyddol amodau sy’n ymwneud, er enghraifft, â ffrwydro; symudiadau cerbydau sy’n gwasanaethu’r safle; adfer y safle; a/neu ailddefnyddio’r safle. Lle bo safonau modern wedi’u hepgor, bydd yr Awdurdod Cynllunio Mwynau yn ceisio sicrhau datblygiad o safon well, sy’n bodloni nodau ac amcanion y Cynllun hwn ac sy’n cydymffurfio â’i bolisïau. Mae’r Cyngor wedi cadarnhau gorchmynion gwahardd ar 18 o safleoedd segur, a dim ond dau safle segur sy’n parhau, yn Grange, Pantasaph a Mount Pool, Bwcle.

 

MIN6 Adolygu Caniatadau Mwynau

Bydd yr Awdurdod Cynllunio Mwynau yn cynnal asesiad blynyddol o’r holl safleoedd segur a’r safleoedd sydd heb eu gweithio ers 10 mlynedd, er mwyn nodi eu cyfraniad posibl i’r banc tir a’r tebygolrwydd y gellid eu hailagor. Lle bo hynny’n briodol, bydd gorchmynion gwahardd yn cael eu cyflwyno dan adran 102 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

18.17 Oherwydd gwaith ehangu aneddiadau, twf aneddiadau newydd a phwysigrwydd cydnabyddedig buddiannau eraill, gorfodir yr Awdurdod Cynllunio Mwynau i ailystyried ambell ganiatâd a roddwyd ganddo yn y gorffennol i gloddio mwynau. Mae gan Awdurdodau Cynllunio Mwynau yr awdurdod i adolygu caniatadau cynllunio sy’n bodoli eisoes a’u haddasu neu’u dirymu. Mewn achosion o’r fath, os bydd yr Awdurdod Cynllunio Mwynau yn niweidio gwerth safle mwynau o ran asedau, bydd yn rhaid iddo dalu iawndal i berchnogion y safle. Er bod y llwybr hwn yn un drud, gall fod yn angenrheidiol cymryd y camau hyn pan fo ailagor ac ailgychwyn gweithrediadau’n fygythiad gwirioneddol i gymunedau Sir y Fflint.

 

MIN7 Chwilio am Fwynau

Bydd yr Awdurdod Cynllunio Mwynau yn caniatáu gwaith chwilio dros dro ar yr amod nad yw’n cael effaith andwyol sylweddol ar yr amgylchedd a bod y safle’n cael ei adfer yn llawn i’w gyflwr gwreiddiol.

18.18 Fel rheol, caiff cynigion ar gyfer tyllau turio, gwaith cloddio at ddibenion profi, neu unrhyw ddatblygiadau eraill at ddibenion chwilio eu caniatáu dros dro, ar yr amod nad yw’r datblygiad yn fygythiad i’r amgylchedd. Pe gallai cyrsiau dwr, dwr daear neu adnoddau dwr eraill gael eu llygru, bydd yn rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Mwynau ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd cyn caniatáu’r datblygiad. Fel rheol, disgwylir y bydd caniatâd yn cael ei roi dros dro am dri mis, a rhaid i estyniadau y tu hwnt i’r cyfnod hwn gael eu trafod â’r Awdurdod Cynllunio Mwynau a’u cyfiawnhau yn llawn gan y datblygwr.

 

MIN8 Gwarchod Buddiannau o ran Mwynau

Er mwyn sicrhau bod adnoddau mwynol y gwyddys amdanynt yn cael eu diogelu i’w defnyddio yn y dyfodol, mae Ardaloedd Diogelu Mwynau wedi eu nodi ac fe’u dangosir ar y map cynigion.

Bydd angen i unrhyw ddatblygiad y tu mewn i Ardal Diogelu Mwynau, nad yw’n ymwneud â mwynau, ddarparu tystiolaeth o’r graddau y gallai sterileiddio adnoddau mwynol neu gyfyngu ar y broses o’u gweithio. Os na chaiff y dystiolaeth ei darparu neu os yw’n dangos y bydd effaith annerbyniol ar adnoddau mwynol, bydd y cais yn cael ei wrthod. Fodd bynnag, os ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn dra phwysig, ystyrir yr egwyddor o rag-gloddio’r mwynau.

18.19 Ceir dyddodion sylweddol o adnoddau mwynol pwysig yn y Sir. Mae’n bwysig bod yr adnoddau mwynol hyn yn cael eu diogelu er mwyn sicrhau eu bod ar gael yn y dyfodol. Bydd datblygiadau a gynigir mewn Ardaloedd Diogelu Mwynau yn cael eu hasesu i sicrhau nad ydynt yn sterileiddio adnoddau mwynol, naill ai trwy ddatblygu dros ddyddodion a nodwyd neu trwy gyfyngu ar waith cloddio mwynau yn y dyfodol. Yn yr Ardal Diogelu Mwynau bydd ymgynghoriad rhwng yr Awdurdod Cynllunio Mwynau, y diwydiant mwynau ac eraill yn cael ei gynnal cyn bod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar rai ceisiadau cynllunio nad ydynt yn ymwneud â mwynau.

18.20 Mae Polisi MIN8 yn ceisio sicrhau bod unrhyw fuddiannau o ran mwynau’n cael eu diogelu’n ddigonol rhag cael eu sterileiddio a’u colli’n ddianghenraid. Er nad yw’r map cynigion ond yn nodi Ardaloedd Diogelu Mwynau ar gyfer craig galed a dyddodion tywod a graean, bydd y polisi hwn hefyd yn berthnasol i ddiogelu mwynau ynni. Mae’n annhebygol y bydd defnyddio mwynau ynni megis glo yn fater o bwys yn ystod cyfnod y Cynllun hwn, ond gallai fod o bwys mawr i Sir y Fflint yn y dyfodol. Efallai mai ardaloedd megis y Parlwr Du a safle Pwll Glo’r Parlwr Du yw’r enghreifftiau gorau o’r mannau lle bydd angen ystyried gwarchod gwythiennau glo dwfn rhag cael eu datblygu’n ddianghenraid a’u sterileiddio wedyn.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

MIN9 Pyllau Benthyg

Bydd cynigion ar gyfer datblygu pyllau benthyg yn cael eu caniatáu:

a. os oes manteision amgylcheddol amlwg i’w hennill; a

b. os gellir eu datblygu yn unol â pholisïau cynllunio mwynau.

18.21 Gweithfeydd mwyn dros dro yw pyllau benthyg, a ddatblygir i gyflenwi prosiect adeiladu penodol. Gall pyllau benthyg gynnig manteision amgylcheddol sylweddol o’u cymharu â chael mwynau o gronfeydd sy’n bodoli eisoes. Dylent fod yn agos i’r prosiect, a gorau oll os gallant ddarparu’r deunydd yn uniongyrchol heb orfod defnyddio ffyrdd cyhoeddus. Mae angen i fanteision amgylcheddol eglur ddeillio o ddefnyddio pwll benthyg, a dylai’r gwaith adfer fod o safon uchel.

 

MIN10 Clustogfeydd Mwynau

Mae Clustogfeydd Mwynau wedi eu nodi ar y map cynigion yn seiliedig ar bellter lleiaf o 100m ar gyfer gweithfeydd tywod a graean (a gweithfeydd eraill os nad oes ffrwydro’n cael ei ganiatáu), a 200m ar gyfer chwareli craig galed. Ni fydd datblygiadau sensitif neu ddatblygiadau y tu mewn i Glustogfeydd Mwynau ar gyfer gwaith cloddio newydd ar gyfer mwynau yn cael eu caniatáu.

18.22 Cafodd yr egwyddor o Glustogfeydd ei sefydlu ym Mholisi Cynllunio Mwynau (Cymru) er mwyn gwarchod defnydd tir neu ddatblygiadau sydd fwyaf sensitif i effaith gweithrediadau’n ymwneud â mwynau, trwy sefydlu pellter gwahanu rhwng mathau o ddefnydd tir a allai wrthdaro â’i gilydd. Ystyr datblygiad sensitif yw unrhyw adeilad y mae pobl ynddo’n rheolaidd, ac mae’n cynnwys ardaloedd tai, hostelau, mannau cyfarfod, ysgolion ac ysbytai, lle dylid disgwyl safon dderbyniol o amwynder. Bydd clustogfeydd hefyd yn helpu i atal adnoddau mwynol rhag cael eu sterileiddio. Fel y cyfryw, mae’n debygol hefyd y bydd datblygiadau a gynigir yn y Clustogfeydd yn cael eu hasesu dan Bolisi MIN8 os byddant y tu mewn i’r Ardal Diogelu Mwynau.

18.23 Mae hyd a lled y Clustogfeydd wedi’u diffinio ar sail y pellteroedd lleiaf a nodir yn MTAN 1. Maent yn dangos yn eglur yr ardaloedd lle mae’n debygol y bydd gwrthdaro rhwng mwynau a mathau eraill o ddatblygiadau. Ni ddylai unrhyw ddatblygiad sensitif nac unrhyw waith cloddio newydd ar gyfer mwynau ddigwydd mewn Clustogfeydd. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd datblygiadau eraill sy’n llai sensitif i effaith gweithrediadau’n ymwneud â mwynau, er enghraifft, diwydiant, swyddfeydd a rhai datblygiadau atodol sy’n gysylltiedig â gwaith mwyn, yn dderbyniol yn y Glustogfa.

Brig y dudalen