Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

Pennod 16

Twristiaeth

Nodau Strategol Perthnasol

i. Twristiaeth

Amcanion y Polisi
#

Rhestr Bolisïau
#

a. LLEOLIAD – arwain datblygiadau twristiaeth i leoliadau sy’n hygyrch o’r prif aneddiadau drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gerdded, lle bynnag y bo hynny’n ymarferol

b. CYDNAWSEDD – hyrwyddo datblygiadau twristiaeth sy’n cael yr effaith niweidiol leiaf posibl ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig ac ar gymunedau lleol

c. ARALLGYFEIRIO GWLEDIG – hyrwyddo arallgyfeirio trwy dwristiaeth wledig ar raddfa fach

ch. GWELLA – sicrhau ansawdd gwell a lleihau effeithiau amgylcheddol rhai mathau o lety gwyliau trwy ganiatáu estyniadau bach

T1 Atyniadau i Dwristiaid

T2 Llety â Gwasanaeth i Dwristiaid

T3 Llety Hunanddarpar i Dwristiaid

T4 Safleoedd Gwyliau Newydd â Charafanau Sefydlog a Chabanau

T5 Estyn Safleoedd Gwyliau sy’n Bodoli Eisoes â Charafanau Sefydlog a Chabanau

T6 Safleoedd Carafanau Teithiol

T7 Safleoedd Gwersylla ar gyfer Pebyll

T8 Amodau Deiliadaeth ar gyfer Gwyliau

T9 Arallgyfeirio ar Raddfa Fach yn Seiliedig ar Dwristiaeth ar Ffermydd

T10 Dyffryn Maes-glas

Dangosyddion Perfformiad Polisi

Targedau

  1. Nifer y ceisiadau am lety gwyliau a ganiatawyd / a wrthodwyd
  2. Nifer a chyfran yr ail gartrefi
  3. Nifer, math a lleoliad datblygiadau twristiaeth
  4. Nifer y swyddi a grëwyd / cyfraniad i’r economi leol
  5. Nifer y tripiau a grëwyd yn ôl math o drafnidiaeth
  6. Gwelliannau i safleoedd carafanau sefydlog
  7. Arolygon llety i dwristiaid
  8. % o dir llwyd/adeiladau a ddatblygwyd
  9. Nifer y ceisiadau i ddileu/amrywio amodau deiliadaeth
  10. Nifer yr ymwelwyr

 

 

16 Twristiaeth

Cyflwyniad

16.1 Mae a wnelo twristiaeth yn bennaf â darparu atyniadau a llety sy’n galluogi pobl o’r tu allan i ardal y Cynllun i ymweld â Sir y Fflint. Mae twristiaeth wedi bod yn sector sy’n tyfu yn economi’r DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan adlewyrchu cynnydd yng ngallu pobl i symud, eu hincwm personol a’u hamser hamdden. Bu hefyd yn destun newidiadau sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf wrth i bobl droi eu cefn ar wyliau glan môr traddodiadol a throi at fathau newydd o atyniadau, llety a gweithgareddau i dwristiaid. Gall greu manteision sylweddol i’r economi leol gan ddod ag arian i ardal, darparu swyddi a chwarae rôl allweddol o ran datblygu gwledig ac adfywio trefol. Fodd bynnag, gall gael effeithiau negyddol hefyd o ran tagfeydd traffig, niwed i amgylcheddau naturiol sensitif ac amwynder trigolion. Felly, mae’n hanfodol bod fframwaith polisi cadarnhaol yn y Cynllun i annog datblygiad twristiaeth sy’n cynnwys egwyddorion cynaliadwyedd.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol

16.2 Dyma amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth:

16.3 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn ceisio sicrhau bod awdurdodau cynllunio yn darparu fframwaith ar gyfer cyfleusterau twristiaeth o ansawdd da sydd wedi’u lleoli’n dda. Dylai’r mannau a’r cyfleusterau a ddarperir mewn ardaloedd trefol a gwledig fod yn sensitif i anghenion defnyddwyr, dylent fod yn ddeniadol, dylent fod wedi’u dylunio’n dda, dylent gael eu cynnal a’u cadw’n dda, dylent gael eu gwarchod rhag troseddau a fandaliaeth, dylent fod yn ddiogel ac yn hygyrch i bobl ag anawsterau symud, a dylent fod yn hygyrch drwy amrywiaeth o ddulliau cynaliadwy o deithio, yn enwedig i’r sawl sy’n cerdded, sy’n beicio neu sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mewn ardaloedd gwledig, mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio bod yn rhaid i faint a natur datblygiadau o’r fath fod yn sensitif i’r amgylchedd lleol.

16.4 Yn unol ag egwyddorion cyffredinol, mae defnyddio tir a ddefnyddiwyd o’r blaen ac adeiladau sy’n bodoli eisoes yn arfer a gaiff ei annog. Yn adran 11.2, mae Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn nodi nifer o swyddogaethau eraill y dylai CDUau eu cyflawni, a chânt eu crynhoi isod:

16.5 Ceir rhagor o gyngor ym mharagraff 4 Canllawiau Cynllunio (Cymru) TAN 13 sy’n nodi y gall cynlluniau datblygu ddarparu canllawiau ar gyfleoedd ar gyfer prosiectau arloesol neu brosiectau mwy, cyfleusterau priodol ar gyfer cefn gwlad neu ardaloedd dynodedig, a chyfleusterau mewn trefi hanesyddol a chyrchfannau glan môr.

 

Cyd-destun Sir y Fflint

16.6 Mae’n bosibl bod twristiaeth yn rhan o’r economi leol nad yw wedi’i datblygu ddigon yn Sir y Fflint, oherwydd caiff y sir ei hanwybyddu’n aml gan ymwelwyr sydd ar eu ffordd tua’r gorllewin i atyniadau mwy adnabyddus Eryri a threfi glan môr gogledd Cymru. Fodd bynnag, mae atyniadau Sir y Fflint i dwristiaid yn ddelfrydol ar gyfer gwyliau byr, fel lleoedd i aros ynddynt ar y ffordd i rywle arall, neu fel lleoedd i fynd iddynt am y diwrnod. Maent yn cynnwys Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, cyrchfan glan môr traddodiadol Traeth Talacre, Parc Treftadaeth Dyffryn Maes-glas a Pharc Gwepra ynghyd â threfi marchnad traddodiadol megis yr Wyddgrug.

16.7 Cynhaliwyd yr arolwg llety twristiaeth diweddaraf ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru ym 1995, a nododd yr arolwg fod cyfanswm o 28,361 o leoedd gwely yn Sir y Fflint; roedd carafanau sefydlog yn cyfrif am 22,361 o’r lleoedd gwely hynny. Mae Model Gweithgarwch Economaidd Twristiaeth Scarborough wedi’i fabwysiadu gan Awdurdodau Gogledd Cymru, ac amcangyfrifodd fod cyfanswm gwariant twristiaeth yn Sir y Fflint yn cyfateb i £107m yn 2001 a bod y sir wedi cael tua 2.4m o ymweliadau gan dwristiaid. Amcangyfrifir bod tua 2,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn cael eu cynnal gan y diwydiant twristiaeth yn Sir y Fflint.

16.8 Mae Strategaeth Adfywio Sir y Fflint 2009-2020 a Strategaeth Twristiaeth Sir y Fflint 2008-2013 yn bwriadu gwireddu potensial twristiaeth yn y Sir drwy:

16.9 Mae’n hanfodol bod y Cynllun yn mabwysiadu dull cynaliadwy o ddatblygu twristiaeth fel bod anghenion y rhai sy’n ymweld â’r ardal yn cael eu diwallu mewn modd sy’n rhoi hwb cadarnhaol i warchod a gwella’r adnoddau naturiol a hanesyddol hyn. Mae hynny’n arbennig o bwysig, oherwydd mae’r apêl i dwristiaid yn aml yn seiliedig ar ansawdd yr amgylchedd naturiol, adeiledig a diwylliannol.

16.10 Bydd arwain datblygiadau tuag at aneddiadau sy’n bodoli eisoes yn cyfrannu nifer o fanteision sylweddol. Bydd yn gwarchod ardaloedd o harddwch naturiol, yn gwasgaru manteision economaidd datblygu twristiaeth ar draws ardal y Cynllun, ac yn lleihau’r angen i deithio mewn car gan leihau’r defnydd o safleoedd tir glas. Bydd mantais ychwanegol i hyn hefyd, sef sicrhau bod cyfleusterau twristiaeth ar gael i ddarparu ar gyfer anghenion y gymuned leol. Gorau oll os gellir ailddefnyddio tir llwyd ac adeiladau ar dir llwyd mewn ardaloedd trefol a gwledig, sy’n hygyrch o’r prif aneddiadau drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu ddulliau eraill o deithio.

16.11 O ystyried y duedd i gymryd gwyliau a gwyliau byr drwy gydol y flwyddyn, byddai cynigion twristiaeth sy’n ymestyn y tymor gwyliau neu sy’n darparu cyfleusterau tywydd gwlyb yn gwneud cyfraniad pwysig i dwristiaeth yn y Sir. Gallai hynny fod ar ffurf atyniadau pwrpasol newydd, neu welliannau i gyfleusterau twristiaeth sy’n bodoli eisoes.

16.12 Ceir potensial i integreiddio twristiaeth â gwelliannau amgylcheddol megis gwell mynediad i gefn gwlad, gwaith arallgyfeirio amaethyddiaeth ac ardaloedd gwledig, mentrau sy’n seiliedig ar ddiwylliant a threftadaeth, gweithgareddau awyr agored a gweithgareddau arbenigol. Mae’r Cynllun yn rhoi cefnogaeth a chanllawiau i fentrau twristiaeth wledig bach, oherwydd mae newidiadau yn y diwydiant amaeth yn mynnu bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i arallgyfeirio’r economi wledig er mwyn darparu cyfleoedd gwaith mewn ardaloedd gwledig.

 

Polisïau

T1 Atyniadau i Dwristiaid

Caniateir datblygu atyniadau newydd i dwristiaid, neu estyn atyniadau sy’n bodoli eisoes y tu mewn i ffiniau aneddiadau diffiniedig gan ddefnyddio tir ac adeiladau gwag neu segur neu dir ac adeiladau nas defnyddir, lle bo hynny’n ymarferol, neu caniateir eu datblygu y tu allan i derfynau aneddiadau diffiniedig os yw cael lleoliad gwledig yn hanfodol, drwy:

  1. ehangu atyniadau sy’n bodoli eisoes i dwristiaid; neu
  2. addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes; neu
  3. godi adeiladau newydd os yw’r cynnig yn dibynnu ar adnodd neu weithgaredd naturiol neu hanesyddol sydd wedi’i gyfyngu’n ddaearyddol ac nad oes unrhyw adeiladau addas sy’n bodoli eisoes ar gael;

ar yr amodau ym mhob achos:

  1. y byddai’r datblygiad yn briodol o ran maint, math a chymeriad i’w leoliad;
  2. na fyddai’r datblygiad yn gwneud niwed annerbyniol i adnoddau naturiol neu adeiledig hanesyddol yr ardal;
  3. y byddai’r datblygiad yn gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig lle bynnag y bo modd;
  4. y byddai’r datblygiad yn darparu ar gyfer anghenion ymwelwyr lleol yn ogystal â thwristiaid;
  5. lle bo hynny’n briodol, y byddai’r datblygiad yn hygyrch drwy amrywiaeth o ddulliau teithio, yn enwedig i’r sawl sy’n cerdded, sy’n beicio neu sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus; a
  6. na fyddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol sylweddol ar nodweddion neu ardaloedd gwerthfawr o ran tirwedd, cadwraeth natur neu hanes.

16.13 Mae’r polisi hwn yn ceisio arwain datblygiadau twristiaeth newydd tuag at aneddiadau sy’n bodoli eisoes a hyrwyddo ailddefnyddio tir ac adeiladau sy’n bodoli eisoes sy’n wag, sy’n ddiffaith neu nas defnyddir ddigon. Mewn mannau eraill, mae’r polisi yn cyfyngu’n gyffredinol ar ddatblygiadau twristiaeth i waith addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes ac estyn atyniadau sy’n bodoli eisoes i dwristiaid. Byddai datblygiad sy’n ymwneud ag “adnodd sydd wedi’i gyfyngu’n ddaearyddol” yn ddatblygiad sy’n gysylltiedig â nodweddion yr amgylchedd naturiol neu hanesyddol neu’r gweithgaredd awyr agored, a gallai gynnwys canolfannau ymwelwyr neu ganolfannau dehongli neu ddatblygiad sy’n gysylltiedig â gweithgareddau awyr agored. Bydd angen i bob cynnig y tu allan i aneddiadau sy’n bodoli eisoes brofi pam y mae lleoliad gwledig yn angenrheidiol.

16.14 Mae’r polisi yn ceisio sicrhau bod atyniadau i dwristiaid yn sensitif i’r hyn sydd o’u hamgylch o ran yr amgylchedd, diwylliant lleol ac anghenion y bobl leol. Rhaid i ddatblygiadau twristiaeth ddiwallu anghenion ymwelwyr â’r ardal heb beryglu’r asedau naturiol a diwylliannol sy’n sail i’r diwydiant nac effeithio’n andwyol ar amwynder trigolion lleol. Ble bynnag y bo modd, dylai cyfleusterau ddarparu hefyd ar gyfer anghenion y gymuned leol o ran hamdden. Bydd y nod hwn yn cael ei gynorthwyo drwy geisio sicrhau bod datblygiadau twristiaeth yn hygyrch drwy ddulliau teithio ar wahân i’r car.

 

T2 Llety â Gwasanaeth i Dwristiaid

Caniateir datblygu gwestai newydd a mathau eraill o lety newydd â gwasanaeth i dwristiaid, neu estyn rhai sy’n bodoli eisoes y tu mewn i aneddiadau. Y tu allan i ffiniau aneddiadau diffiniedig, caniateir datblygu drwy:

a. estyn gwesty hyfyw neu fath arall o lety hyfyw â gwasanaeth i dwristiaid, sy’n bodoli eisoes;

b. addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes:

  1. os yw strwythur yr adeilad yn gadarn a bod modd ei addasu heb ei ailadeiladu, ei estyn neu’i newid yn helaeth, sy’n waith a fyddai’n gyfystyr â chodi adeilad newydd;
  2. os cedwir unrhyw nodweddion hanesyddol neu bensaernïol traddodiadol o werth; a
  3. na ddylai unrhyw gwrtil sydd wedi’i gynnwys i ddarparu lle amwynder neu le parcio cysylltiedig, neu gyfleusterau eraill, niweidio cymeriad a golwg yr ardal;

ar yr amod ym mhob achos:

a. y byddai’r datblygiad yn briodol o ran maint, math a chymeriad i’w leoliad;

b. na fyddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol sylweddol ar amwynder trigolion cyfagos, defnyddwyr eraill tir/eiddo cyfagos na’r gymuned yn gyffredinol;

c. lle bo’n briodol, bod y datblygiad yn hygyrch drwy amrywiaeth o ddulliau teithio, yn enwedig i’r sawl sy’n cerdded, sy’n beicio neu sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus; ac

ch. na fyddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol sylweddol ar nodweddion neu ardaloedd gwerthfawr o ran tirwedd, cadwraeth natur neu hanes.

16.15 Mae’r polisi hwn yn ceisio gwella darpariaeth, ystod ac ansawdd llety â gwasanaeth i dwristiaid mewn lleoliadau priodol yn ardal y Cynllun, drwy hwyluso datblygiadau o’r fath y tu mewn i aneddiadau a’r tu allan i ffiniau aneddiadau drwy addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes neu estyn sefydliadau sy’n bodoli eisoes. Bydd y polisi yn sylfaen i alluogi gwaith estyn a gwella gwestai a gwestai bach sy’n bodoli eisoes o ran darparu lleoedd gwely neu gyfleusterau gwell megis cyfleusterau cynadleddau/busnes a chyfleusterau hamdden. Mae dull gweithredu o’r fath yn cefnogi economi trefi a phentrefi lleol; yn datblygu llai o safleoedd tir glas; ac yn defnyddio adnoddau adeiledig sy’n bodoli eisoes. Mae’r polisi hefyd yn lleihau’r angen i deithio, drwy sicrhau bod datblygiadau newydd yn hygyrch drwy ddulliau o deithio ar wahân i’r car.

16.16 Mae mathau o lety â gwasanaeth i dwristiaid yn amrywio o westai mawr o safon i lety gwely a brecwast ar fferm. Bydd math a maint y cyfleuster yn dibynnu ar gymeriad yr adeilad, y safle a’r ardal leol o safbwynt effaith weledol, a’r effaith ar amwynder o safbwynt swn, gweithgarwch ac oriau gweithredu. Bydd yr ystyriaethau hyn yn berthnasol i gynigion newydd ac i waith estyn adeiladau sy’n bodoli eisoes. Bydd cynigion sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig neu ardaloedd cadwraeth neu sydd mewn tirwedd sensitif, megis parciau a gerddi hanesyddol neu’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yn destun gwaith craffu manwl a fydd yn ystyried y polisïau sydd yn y penodau ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig.

 

T3 Llety Hunanddarpar i Dwristiaid

Caniateir llety hunanddarpar newydd i dwristiaid y tu mewn i aneddiadau diffiniedig. Y tu allan i ffiniau aneddiadau diffiniedig, caniateir datblygu drwy:

a. estyn cyfleusterau llety twristiaid sy’n bodoli eisoes; neu

b. addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes:

  1. os yw strwythur yr adeilad yn gadarn a bod modd ei addasu heb ei ailadeiladu, ei estyn neu’i newid yn helaeth, sy’n waith a fyddai’n gyfystyr â chodi adeilad newydd;
  2. os cedwir unrhyw nodweddion hanesyddol neu bensaernïol traddodiadol o werth; a
  3. na ddylai unrhyw gwrtil sydd wedi’i gynnwys i ddarparu lle amwynder neu le parcio cysylltiedig, neu gyfleusterau eraill, niweidio cymeriad a golwg yr ardal;

ar yr amod ym mhob achos bod yn rhaid i’r datblygiad:

a. fod yn briodol o ran maint, math a chymeriad i’r adeilad a’r safle a’i leoliad;

b. peidio â chael effaith andwyol sylweddol ar amwynder trigolion cyfagos, defnyddwyr eraill tir/eiddo cyfagos na’r gymuned yn gyffredinol;

c. lle bo’n briodol, bod yn hygyrch drwy amrywiaeth o ddulliau teithio, yn enwedig i’r sawl sy’n cerdded sy’n beicio neu sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus; ac

ch. peidio â chael effaith andwyol sylweddol ar nodweddion neu ardaloedd gwerthfawr o ran tirwedd, cadwraeth natur a/neu hanes.

16.17 Mae’r polisi hwn yn ceisio gwella darpariaeth ac ystod llety parhaol o safon i dwristiaid heb gynyddu’r pwysau ar y stoc tai sy’n bodoli eisoes mewn ardaloedd gwledig. Mae’n anodd diffinio maint estyniad ‘bach’ i gyfleusterau sy’n bodoli eisoes i dwristiaid, gan y bydd hynny’n dibynnu ar nodweddion yr adeiladau sy’n bodoli eisoes, y safle, yr hyn sydd o’i amgylch a’r estyniad arfaethedig.

16.18 Os caiff adeiladau gwledig eu hailddefnyddio fel llety i dwristiaid gallent wedyn fod yn anheddau parhaol yn hawdd. Dim ond mewn sefyllfaoedd prin iawn y mae canllawiau cynllunio’r llywodraeth yn caniatáu sefydlu cartrefi newydd mewn ardaloedd o gefn gwlad agored. Felly, mae’r polisi hwn yn rhoi canllawiau caeth ar gyfer ailddefnyddio adeiladau fel llety i dwristiaid. Gallai amgylchiadau godi pan fydd y Cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio i addasu adeiladau mewn ardaloedd gwledig yn llety gwyliau, lle na fyddai’r cynigion yn dderbyniol ar gyfer defnydd preswyl parhaus, er enghraifft, oherwydd safonau is y mannau parcio a’r cyfleusterau a ddarperir. Mewn amgylchiadau felly, gosodir amodau deiliadaeth gwyliau ar lety newydd i dwristiaid rhag i’r adeilad gael ei ddefnyddio fel annedd barhaol. Dylai’r adeiladau sy’n bodoli eisoes fod yn ddigon mawr i’w haddasu ar gyfer y defnydd a fwriedir heb fod angen gwneud gwaith estyn neu newid sylweddol, a dylid cadw unrhyw nodweddion pensaernïol neu hanesyddol o werth yn rhan o’r cynllun addasu. Er mwyn osgoi niweidio cymeriad yr adeilad, bydd unrhyw estyniadau pellach i’r adeilad yn cael eu rhwystro drwy ddileu’r hawliau datblygu a ganiateir mewn rhai amgylchiadau.

 

T4 Safleoedd Gwyliau Newydd â Charafanau Sefydlog a Chabanau

Yn ardal Talacre, Gronant a Gwesbyr ni chaniateir datblygu safleoedd gwyliau newydd â charafanau sefydlog neu gabanau yn yr ardal a nodir ar y map cynigion. Mewn mannau eraill, caniateir datblygu safleoedd gwyliau newydd â charafanau sefydlog neu gabanau:

a. os yw maint y cynnig ynghyd â nifer, lleoliad a chynllun yr unedau, y ffyrdd o gwmpas y safle a’r adeiladau gwasanaethu’n briodol i nodweddion y safle a’r ardal;

b. os yw’r cynllun yn cynnwys gwaith tirlunio mewnol a strwythurol sylweddol;

c. os na fyddai’r cynnig yn cael effaith andwyol sylweddol ar nodweddion neu ardaloedd gwerthfawr o ran tirwedd, cadwraeth natur neu hanes;

ch. lle bo’n briodol, os yw’r safle yn hawdd ei gyrraedd o’r rhwydwaith priffyrdd lleol ac yn hygyrch drwy amrywiaeth o ddulliau teithio, yn enwedig i’r sawl sy’n cerdded, sy’n beicio neu sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus; a

d. os na fyddai’r cynnig yn cael effaith andwyol sylweddol ar amwynder preswylwyr cyfagos, defnyddwyr eraill tir/eiddo cyfagos na’r gymuned yn gyffredinol.

16.19 Yn ogystal â’r angen i wella ansawdd carafanau a chabanau gwyliau’r ardal, rhaid hefyd ystyried yr effaith a gaiff safleoedd carafanau a chabanau gwyliau ar y dirwedd. Mae mwyafrif y safleoedd sy’n bodoli eisoes, a’r galw pennaf am safleoedd, yn yr ardaloedd mwyaf gwerthfawr o ran golygfeydd, lle mae’r capasiti i ddarparu ar gyfer datblygiadau pellach heb niweidio golwg y dirwedd yn sylweddol yn gyfyngedig. Ystyrir bod cymeriad agored yr arfordir a’r system twyni tywod o gwmpas Talacre, Gronant a Gwesbyr yn nodweddion pwysig y mae datblygu safleoedd carafanau eisoes wedi effeithio’n helaeth arnynt, ac nid yw’r polisi yn caniatáu safleoedd carafanau newydd yn yr ardal hon.

16.20 Bydd maint y cynnig yn dibynnu ar b’un a yw nifer, lleoliad a chynllun yr unedau yn briodol, o ystyried nodweddion y safle a’r hyn sydd o’i amgylch. Mae’n berthnasol nodi bod paragraff 16.23 yn berthnasol i bolisi T4 Safleoedd Gwyliau Newydd â Charafanau Sefydlog a Chabanau a pholisi T5 Estyn Safleoedd Gwyliau sy’n Bodoli Eisoes â Charafanau Sefydlog a Chabanau.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

T5 Estyn Safleoedd Gwyliau sy’n Bodoli Eisoes â Charafanau Sefydlog a Chabanau

Dim ond dan yr amodau canlynol y caniateir estyniadau cymedrol i safleoedd sy’n bodoli eisoes:

a. bod unrhyw gynnydd yn nifer yr unedau neu’r lleoedd ar gyfer carafanau’n fach iawn;

b. bod y cynnig yn ymwneud ag estyniad cymedrol i arwynebedd y safle;

c. bod y cynllun yn cynnwys gwaith tirlunio mewnol a strwythurol sylweddol, yn dangos gwelliant sylweddol i amgylchedd y safle a lleihad yn ei effaith ar y dirwedd oddi amgylch;

ch. bod y cynnig yn golygu cyfleusterau gwell ar y safle; a

d. na fyddai’r cynnig yn cael effaith andwyol sylweddol ar amwynder trigolion cyfagos, defnyddwyr eraill tir/eiddo cyfagos na’r gymuned yn gyffredinol.

Caniateir datblygu cabanau i’w rhoi yn lle carafanau sefydlog ac uwchraddio ac ailfodelu parciau sy’n bodoli eisoes yn gyffredinol, os yw’r cynigion yn gwella ansawdd cyffredinol y llety a golwg y safle.

16.21 Mae’r polisi yn caniatáu estyniadau cymedrol i barciau carafanau a chabanau sy’n bodoli eisoes, ar yr amod bod y dirwedd a’r amgylchedd yn cael eu gwella’n sylweddol a bod y cyfleusterau ar y safle’n cael eu gwella. Fel rheol, byddai lleoli a gosod unedau’n well, a gwella’r ffyrdd mewnol o gwmpas y safle, mannau parcio a thirlunio yn golygu mai’r un nifer, neu nifer ychydig yn llai, o unedau fyddai ar y safle. Fodd bynnag, cydnabyddir bod achosion prin lle gallai gwelliannau o’r fath olygu cynnydd yn nifer yr unedau neu’r lleoedd ar gyfer carafanau. Cyhyd â bod y cynnydd yn fach, h.y. dim mwy na 10%, ac nad yw’r cynnydd yn nifer yr unedau’n gwneud niwed annerbyniol i olwg y safle, bydd hynny’n dderbyniol. Dylai’r estyniad i’r arwynebedd fod yn gymedrol hefyd, h.y. tua 10%, er y bydd hynny’n dibynnu ar addasrwydd defnyddio unrhyw ffin neu sgrîn sy’n bodoli eisoes, neu adnabod ffin resymegol newydd, cyhyd â bod unrhyw ffin yn cael ei thirlunio mewn modd priodol. Efallai hefyd y bydd angen gwneud gwelliannau tirlunio i ffiniau eraill sy’n bodoli eisoes, er mwyn lleihau effaith weledol safleoedd. Amcan unrhyw gynllun tirlunio fydd sicrhau bod y datblygiad a’r safle’n integreiddio â’r dirwedd ehangach. Bydd angen gwybodaeth am ddylunio a mynediad ar y Cyngor, sy’n gymesur â maint a math y datblygiad a gynigir, i gyd-fynd â phob cais sy’n rhwym wrth y polisi hwn.

16.22 Bydd sylw penodol yn cael ei roi i gynigion ar gyfer estyniadau cymedrol ar hyd yr arfordir, o ystyried cymeriad gwastad ac agored yr arfordir, amlygrwydd datblygiadau, ac anhawster creu cynlluniau tirlunio sy’n briodol ar gyfer lleoliad arfordirol ond a all hefyd ddarparu sgrîn foddhaol. Er na chaniateir datblygiadau ‘newydd’ ar hyd yr arfordir, cydnabyddir na fydd gwelliannau sylweddol i olwg ac ansawdd y safleoedd sy’n bodoli eisoes yn debygol heb yr hyblygrwydd a’r cyfle ar gyfer buddsoddiad ychwanegol, a fydd yn bosibl drwy ganiatáu estyniadau bach.

16.23 Dim ond i ddefnydd tir ar gyfer carafanau sefydlog a strwythurau dros dro eraill a ddefnyddir at ddibenion gwyliau y mae polisïau T4 a T5 uchod yn berthnasol. Nid ydynt yn berthnasol i ddefnydd preswyl strwythurau o’r fath; mae’r polisïau sy’n ymdrin â’r defnydd hwnnw i’w cael yn y bennod ar dai. Mae Cylchlythyr 23/89 y Swyddfa Gymreig yn cynnwys cyfarwyddyd ynghylch y safonau enghreifftiol y dylid eu defnyddio ar gyfer dylunio a chynllunio safleoedd carafanau sefydlog ac ynghylch y cyfleusterau a’r amwynderau y dylent eu cynnwys. Gellir gosod amodau cynllunio ar safleoedd carafanau sefydlog neu gabanau a ganiateir er mwyn cyfyngu’r defnydd â wneir ohonynt i amseroedd penodol o’r flwyddyn ac i ddeiliadaeth gwyliau. Yn ogystal â chaniatâd cynllunio, yn gyffredinol bydd ar safleoedd carafanau angen trwydded safle gan yr awdurdod lleol.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

T6 Safleoedd Carafanau Teithiol

Dim ond dan yr amodau canlynol y caniateir safleoedd carafanau teithiol newydd:

a. na fyddai’r cynnig yn cael effaith andwyol sylweddol ar amwynder trigolion cyfagos, defnyddwyr eraill tir/eiddo cyfagos na’r gymuned yn gyffredinol;

b. bod maint y cynnig ynghyd â nifer, lleoliad a chynllun y lleiniau a’r ffyrdd o gwmpas y safle yn briodol i nodweddion y safle a’r ardal;

c. na fyddai’r cynnig yn cael effaith andwyol sylweddol ar nodweddion neu ardaloedd gwerthfawr o ran tirwedd, cadwraeth natur neu hanes;

ch. bod y cynllun yn cynnwys gwaith tirlunio mewnol a strwythurol sylweddol;

d. bod y safle’n agos i’r rhwydwaith priffyrdd lleol ac yn hawdd ei gyrraedd oddi yno;

dd. y defnyddir y safle ar gyfer carafanau teithiol, ac y caiff unrhyw garafanau teithiol eu symud o’r safle pan na fyddant yn cael eu defnyddio; ac

e. y gellir darparu unrhyw adeiladau gwasanaethu hanfodol y mae eu hangen yn yr adeiladau sydd yno eisoes, neu mewn adeiladau bach newydd sydd wedi’u lleoli a’u dylunio’n briodol.

Dim ond dan yr amodau canlynol y caniateir estyn safleoedd sy’n bodoli eisoes:

a. bod unrhyw gynnydd yn nifer y lleiniau’n fach iawn;

b. bod unrhyw estyniad i’r safle yn gymedrol;

c. bod y cynllun yn cynnwys gwaith tirlunio strwythurol mewnol ac allanol sylweddol, yn dangos gwelliant sylweddol i amgylchedd y safle a lleihad yn ei effaith ar y dirwedd oddi amgylch;

ch. bod y cynnig yn golygu cyfleusterau gwell ar y safle; a

d. na fyddai’r cynnig yn cael effaith andwyol sylweddol ar amwynder trigolion cyfagos, defnyddwyr eraill tir/eiddo cyfagos na’r gymuned yn gyffredinol; ac

dd. bod unrhyw garafanau teithiol yn cael eu symud oddi yno pan na fyddant yn cael eu defnyddio.

16.24 Mae’r polisi hwn yn ymwneud â defnyddio tir ar gyfer safleoedd carafanau teithiol, ac nid yw’n cyfeirio at ddarpariaeth ar gyfer carafanau preswyl neu garafanau sipsiwn / teithwyr yr oes newydd. Mae’n ceisio annog cynigion ar gyfer safleoedd carafanau teithiol, ond dim ond lle maent yn lleihau’r effaith ar yr ardal oddi amgylch naill ai drwy ddefnyddio dulliau sgrinio sy’n bodoli eisoes neu drwy fesurau tirlunio newydd yn rhan o’r cynnig. Yn ddelfrydol, dylid cynnwys cyfleusterau derbynfa neu wasanaethu mewn adeiladau sy’n bodoli eisoes neu mewn adeiladau bach newydd sydd wedi’u dylunio’n dda a’u lleoli’n briodol. Dylid lleoli unrhyw safleoedd newydd yn agos i’r rhwydwaith priffyrdd lleol, a dylai’r ffyrdd fod yn addas i’w defnyddio gan gerbydau sy’n tynnu carafanau neu gan gartrefi modur. Bydd cynigion ar gyfer safleoedd carafanau teithiol newydd o fewn y llain arfordirol yn destun gwaith craffu manwl i sicrhau na fydd cymeriad agored a golwg y dirwedd arfordirol yn cael eu niweidio. Bydd darpariaethau polisi L6 Yr Arfordir sydd heb ei Ddatblygu, yn arbennig o berthnasol.

16.25 Dylid defnyddio’r safleoedd at ddibenion carafanau teithiol yn unig, a gallai unrhyw ganiatâd cynllunio gynnwys amodau priodol i sicrhau bod carafanau’n cael eu symud oddi yno pan na fyddant yn cael eu defnyddio, er mwyn sicrhau nad yw’r safle’n cael ei ddefnyddio i storio carafanau yn yr awyr agored.

16.26 Mae Cylchlythyr 32/83 y Swyddfa Gymreig yn cynnwys cyfarwyddyd ynghylch safonau enghreifftiol y dylid eu defnyddio ar gyfer dylunio a chynllunio safleoedd carafanau teithiol ac ynghylch y cyfleusterau a’r amwynderau y dylent eu cynnwys. Yn ogystal â chaniatâd cynllunio, yn gyffredinol bydd ar safleoedd carafanau angen trwydded gan yr awdurdod lleol.

16.27 Mae’r polisi yn caniatáu estyn safleoedd carafanau teithiol sy’n bodoli eisoes. Ni ddylai unrhyw gynnydd yn nifer y lleiniau neu arwynebedd y safle fod yn fwy na 10%. Bydd cynyddu arwynebedd y safle’n dibynnu ar addasrwydd defnyddio unrhyw ffin neu sgrîn sy’n bodoli eisoes, neu adnabod ffin resymegol newydd, a gaiff ei thirlunio mewn modd priodol. Bydd sylw penodol yn cael ei roi i gynigion ar gyfer estyn safleoedd sy’n bodoli eisoes yn ardal yr arfordir, o ystyried cymeriad gwastad ac agored yr arfordir, amlygrwydd datblygiadau ac anhawster creu cynlluniau tirlunio sy’n briodol ar gyfer lleoliad arfordirol ond a all hefyd ddarparu sgrîn foddhaol. Fel y nodir ym mholisi D1, dylid cynnwys gwybodaeth am ddylunio gyda phob cais, sy’n gymesur â maint a math y datblygiad a gynigir.

 

T7 Safleoedd Gwersylla ar gyfer Pebyll

Caniateir safleoedd gwersylla newydd ar gyfer pebyll, neu caniateir estyn safleoedd sy’n bodoli eisoes, dan yr amodau canlynol yn unig:

a. bod y cynnig ar safle nad yw’n amlwg neu’i fod ar safle sydd wedi’i sgrinio’n dda, a/neu y gellid ei integreiddio â’r dirwedd drwy fesurau tirlunio;

b. y gellir darparu unrhyw adeiladau gwasanaethu hanfodol mewn adeiladau sy’n bodoli eisoes neu mewn adeiladau bach newydd sydd wedi’u lleoli a’u dylunio’n briodol; ac

c. na fyddai’r cynnig yn cael effaith andwyol sylweddol ar nodweddion neu ardaloedd gwerthfawr o ran tirwedd, cadwraeth natur neu hanes.

16.28 Er y gall cynigion ar gyfer safleoedd gwersylla ddarparu lle’n aml ar gyfer carafanau teithiol a phebyll, caiff gwersylla mewn pebyll ei ystyried ar wahân, oherwydd yn gyffredinol bydd cynigion o’r fath yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd a bydd eu gofynion o ran mynediad yn llai. Mae’r Cyngor am annog darpariaeth o’r fath, ac mae’n bosibl y bydd safleoedd gwersylla ar gyfer pebyll yn briodol yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol neu ar hyd yr arfordir, yn enwedig yn rhan o fesurau arallgyfeirio ffermydd neu’n gysylltiedig â gweithgareddau awyr agored.

16.29 Yn aml, bydd cynigion yn ymwneud â chymysgedd o leiniau pebyll a lleiniau carafanau teithiol, a bydd yn rhaid i geisiadau cynllunio ddangos a yw’r ardaloedd hyn ar wahân i’w gilydd (a nifer y lleiniau ym mhob un) ynteu a fydd unrhyw ardaloedd a rennir i ganiatáu ar gyfer hyblygrwydd o ran gweithredu’r safle. Fel rheol, bydd cynigion sy’n ymwneud â chymysgedd o garafanau teithiol a phebyll yn cael eu hasesu yn erbyn polisi T6 Safleoedd Carafanau Teithiol, o ystyried bod carafanau teithiol yn cael effaith fwy ar yr amgylchedd na phebyll yn gyffredinol.

16.30 Dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (fel y’i diwygiwyd), ni fydd angen caniatâd cynllunio ar dir a ddefnyddir ar gyfer gwersylla mewn pebyll am lai na 28 diwrnod y flwyddyn.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

T8 Amodau Deiliadaeth ar gyfer Gwyliau

Bydd amodau cynllunio’n cael eu gosod ar ganiatâd cynllunio a roddir ar gyfer llety hunanddarpar i dwristiaid, gan gynnwys adeiladau sydd wedi’u haddasu, carafanau a chabanau gwyliau, er mwyn:

a. cyfyngu’r ddeiliadaeth i ddefnydd gwyliau; neu

b. cyfyngu’r ddeiliadaeth i gyfnodau penodol o’r flwyddyn.

16.31 Mae’r Cynllun yn ceisio cynyddu nifer ac amrywiaeth y llety gwyliau sydd ar gael yn Sir y Fflint. Mae’n rhaid talu sylw hefyd i’r galw cynyddol am wyliau drwy gydol y flwyddyn, a’r manteision economaidd sydd i’w cael o ymestyn y cyfnod gwyliau traddodiadol yn ystod yr haf. Mae’r posibilrwydd y gallai llety gwyliau gael ei ddefnyddio fel arall fel cartref parhaol yn destun pryder o ystyried bod nifer o’r safonau a allai fod yn berthnasol i lety gwyliau, e.e. maint y man agored preifat, yn is na’r hyn sy’n dderbyniol ar gyfer llety preswyl parhaol.

16.32 Mae’r Cynllun yn ceisio rhwystro deiliadaeth barhaol mewn llety anaddas neu israddol megis carafanau, gan ystyried hefyd y pwysau y mae llety twristiaeth yn ei roi ar wasanaethau lleol. Yn yr achosion hyn, bydd amodau deiliadaeth dymhorol yn cael eu gosod ar lety newydd i dwristiaid, sy’n gwahardd defnyddio llety gwyliau fel cartref parhaol. Yn achos adeiladau parhaol, bydd defnyddio llety at ddibenion gwyliau yn unig, yn hytrach nag at ddefnydd preswyl parhaol, yn cael llai o effaith yn aml ar yr ardal oddi amgylch, ac mae’n rhoi llai o bwysau ar wasanaethau lleol megis ysgolion a gofal iechyd. Fodd bynnag, pe bai’r deiliaid yn defnyddio’r adeilad fel lleoliad ar gyfer mynd i’r gwaith, neu pe bai eu plant yn cael eu haddysgu’n lleol, byddai achos cryf dros ddadlau nad yw’r amod deiliadaeth ar gyfer gwyliau a osodwyd ar y llety’n cael ei barchu ac mae’n bosibl y gallai’r Cyngor gymryd camau gorfodi.

16.33 Er mwyn i’r Cyngor allu gorfodi amodau cynllunio o’r fath yn effeithiol, efallai y byddai’n briodol i’r ymgeisydd nodi sut y bydd y llety neu’r lleiniau’n cael eu cyfyngu i ddefnydd gwyliau. Bydd dod i gytundeb â’r Cyngor ynghylch sut y gellir monitro’r datblygiad heb wneud archwiliadau sy’n tarfu ar y deiliaid yn ddefnyddiol.

 

Polisïau allweddol eraill

 

T9 Arallgyfeirio ar Raddfa Fach yn Seiliedig ar Dwristiaeth ar Ffermydd

Caniateir cynigion twristiaeth ar ffermydd yn unol â pholisi RE5.

16.34 Er mwyn sicrhau eu bod yn goroesi yn y tymor hir, mae nifer o ffermydd yn ymgymryd â chynlluniau arallgyfeirio fel ffordd o ychwanegu at incwm y fferm. O safbwynt twristiaeth, gall hynny fod ar nifer o wahanol ffurfiau, e.e. llety â gwasanaeth neu lety hunanddarpar, gweithgareddau masnachol sy’n gysylltiedig â bwyd, gweithgareddau awyr agored neu gelf a chrefft. Ceir canllawiau priodol ar arallgyfeirio ar ffermydd yn seiliedig ar dwristiaeth ym mholisi RE5 ‘Arallgyfeirio ar Raddfa Fach ar Ffermydd’ yn y bennod Menter Wledig ac Amaethyddiaeth.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

T10 Dyffryn Maes-glas

Caniateir cynigion datblygu yn Nyffryn Maes-glas, neu wrth ei ymyl, fel y dynodir ar y map cynigion, os nad ydynt yn tynnu oddi wrth botensial y Dyffryn o ran twristiaeth neu’n niweidio ardaloedd neu nodweddion gwerthfawr o ran tirwedd, cadwraeth natur neu hanes.

16.35 Mae Dyffryn Maes-glas yn lleoliad hygyrch iawn sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i adnoddau diwylliannol yr ardal. Mae’n atyniad pwysig i dwristiaid, sy’n seiliedig yn bennaf ar ddehongliad hanesyddol o’r Dyffryn. Felly, bydd y Cyngor Sir yn ystyried yn ffafriol unrhyw gynigion sy’n cefnogi ei ddatblygiad parhaus fel cyrchfan i ymwelwyr, nad ydynt yn niweidio’r dirwedd, cadwraeth natur na’r nodweddion hanesyddol sy’n cyfrannu at ei gymeriad arbennig. Mae’n bosibl y bydd cynigion datblygu eraill yn cael eu caniatáu yn y Dyffryn, neu wrth ei ymyl, ar yr amod nad ydynt yn niweidio ei gymeriad arbennig na’i nodweddion.

16.36 Mae’r Cyngor yn arbennig o awyddus i wella’r cysylltiadau rhwng Dyffryn Maes-glas a thref farchnad hanesyddol Treffynnon.

 

Polisïau allweddol eraill:

Brig y dudalen