Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

Pennod 14

Menter Wledig ac Amaethyddiaeth

Nodau Strategol Perthnasol

a. Economi, b. Materion cymdeithasol a lles, ch. Hunaniaeth gymunedol, ng. Diwylliant ac iaith

Amcanion y Polisi
#

Rhestr Bolisïau
#

a. ADNODDAU – diogelu a gwella’r economi amaethyddol drwy warchod y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas a galluogi datblygiadau angenrheidiol ar ffermydd

b. ARALLGYFEIRIO – cynnal cymunedau gwledig trwy hwyluso arallgyfeirio amaethyddol a datblygu mentrau gwledig bach

c. CYDNAWSEDD – sicrhau bod unrhyw ddatblygiad yn cael cyn lleied ag sy’n bosibl o effaith niweidiol ar yr amgylchedd naturiol a chymeriad gwledig yr ardal

RE1 Gwarchod Tir Amaethyddol

RE2 Adeiladau Newydd ar gyfer Amaethyddiaeth a Choedwigaeth

RE3 Unedau Da Byw Dwys

RE4 Mentrau Gwledig Bach

RE5 Arallgyfeirio ar Raddfa Fach ar Ffermydd

Dangosyddion Perfformiad Polisi

Targedau

  1. Nifer y cynlluniau arallgyfeirio a ganiateir
  2. Adeiladau gwledig yn cael eu haddasu i ddibenion cyflogaeth/masnachol
  3. Arwynebedd y tir amaethyddol a gollir i ddatblygiadau, yn ôl gradd
  4. Nifer yr adeiladau amaethyddol/coedwigaeth a ganiateir
  5. Gwaith monitro effeithiau amgylcheddol
  6. Y swyddi/cyfoeth a grëir
  7. Y cymorth grant y manteisir arno
  8. Newidiadau yn nifer y ffermydd, eu maint, eu strwythur a’u math

 

 

14 Menter Wledig ac Amaethyddiaeth

Cyflwyniad

14.1 Mae’r anawsterau yn y diwydiant amaeth a’r pwyslais cynyddol ar yr angen i gynnal cymunedau gwledig wedi cyfeirio sylw at ddulliau o wella ac amrywio’r economi wledig. Er hynny, mae’n anochel y bydd amaethyddiaeth yn parhau’n brif ddefnyddiwr tir mewn ardaloedd gwledig, a bydd yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Sir y Fflint. Bydd hefyd yn dylanwadu’n fawr ar gymeriad gwledig a golwg rhan helaeth o’r Sir. Mae’r bennod hon yn cynnwys polisïau i ddarparu fframwaith cadarnhaol ar gyfer datblygiadau amaethyddol a gwarchod y tir gorau a mwyaf amlbwrpas er mwyn sicrhau na fydd cenedlaethau’r dyfodol yn cael eu hamddifadu o adnoddau naturiol pwysig.

14.2 Fodd bynnag, nid yw’r diwydiant bellach yn cynnig cyfleoedd gwaith ar yr un lefel ag yr oedd yn y gorffennol. Felly, mae polisïau wedi’u cynnwys hefyd i hwyluso’r broses o ddatblygu ystod o fentrau eraill, sy’n dderbyniol o safbwynt amgylcheddol, a fydd yn helpu i gynnal ac amrywio’r economi leol a chymunedau lleol gan warchod rhinweddau traddodiadol cefn gwlad, trwy alluogi pobl i barhau i fyw a gweithio mewn ardaloedd gwledig. Mae’r Cynllun hefyd yn darparu’n benodol ar gyfer mentrau arallgyfeirio ar ffermydd er mwyn hwyluso hyfywedd ffermydd yn y tymor hir.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol

14.3 Prif fwriad Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo datblygu cynaliadwy. O safbwynt ardaloedd gwledig, mae’r blaenoriaethau polisi canlynol wedi’u pennu:

14.4 Dyma amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd o ran menter wledig:

14.5 O safbwynt menter wledig mae Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai cynlluniau datblygu:

14.6 Wrth ddrafftio’r bennod hon, ystyriwyd dau bapur ymchwil hefyd, sef ‘Yr Economi Wledig a'r System Gynllunio’ a ‘Farm Diversification and the Planning System’ a oedd yn rhan o Raglen Ymchwil Gynllunio Cymru Llywodraeth Cymru (a elwir yn Rhaglen Datblygu Polisi Cynllunio Cymru bellach).

 

Cyd-destun Sir y Fflint

14.7 Mae cynlluniau blaenorol wedi ceisio dyrannu safleoedd penodol ar gyfer datblygu gwledig y tu mewn i bentrefi, neu’n agos iddynt, heb fawr o lwyddiant. Mewn ardaloedd gwledig mae’n anodd sicrhau bod y cyflenwad yn cyfateb i’r galw. Felly mae dull gweithredu cadarnhaol o ran polisi, sy’n cefnogi mentrau arallgyfeirio gwledig, yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus na dyrannu safleoedd penodol. Mae hynny’n cydnabod natur embryonig nifer o fentrau busnes mewn ardaloedd gwledig, sy’n seiliedig ar weithgareddau, safleoedd, sgiliau lleol neu adnoddau lleol sy’n bodoli eisoes.

14.8 Ceir mentrau eraill sy’n berthnasol i Sir y Fflint, sy’n perthyn yn anuniongyrchol i faterion defnydd tir y mae iddynt rôl o ran cynnal ac arallgyfeirio’r economi leol. Mae menter Coed Cymru yn ceisio annog gwell defnydd o goed caled Cymreig drwy gyflenwi marchnadoedd newydd a chynhyrchu cynnyrch â gwerth ychwanegol. Mae mentrau eraill yn ceisio hyrwyddo bwydydd lleol a chynnyrch eraill â gwerth ychwanegol. Bu’r Fenter Trefi Bychain a Phentrefi yn gweithredu mewn nifer o bentrefi yng ngogledd y Sir gan dargedu busnesau bach gwledig, a llwyddodd i greu mentrau economaidd lleol a mentrau cymunedol.

14.9 Mae Strategaeth Adfywio’r Sir (2009-2020) yn darparu’r cyd-destun lle bydd polisïau’r Cynllun yn ceisio sicrhau arallgyfeirio ac adfywio gwledig. Mae nodau allweddol y Strategaeth yn cynnwys:

 

Polisïau

RE1 Gwarchod Tir Amaethyddol

Ni chaniateir datblygiadau a fyddai’n golygu colli tir amaethyddol Gradd 1, 2 neu 3a oni bai:

a. bod angen tra phwysig am y datblygiad;

b. na ellir darparu ar gyfer y datblygiad ar dir diffaith, tir nad yw’n dir amaethyddol, neu dir amaethyddol o radd is; neu

c. bod gan y tir o radd is sydd ar gael werth neu ddynodiad amgylcheddol sy’n bwysicach na’r ystyriaethau amaethyddol.

14.10 Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mesurau i leihau’r bwyd a gaiff ei gynhyrchu wedi arwain at ormodedd o dir amaethyddol. Er hynny, ni ellir tybio y bydd y sefyllfa hon yn parhau yn y tymor hir. Gallai codi ymwybyddiaeth o effeithiau amgylcheddol rhai dulliau amaethu modern arwain at ailgyflwyno arferion llai dwys a mwy o alw am dir unwaith eto. Felly, mae’n bwysig bod y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas yn cael ei warchod rhag datblygiadau na ellir eu gwrthdroi.

14.11 Caiff tir amaethyddol ei ddosbarthu o ran ansawdd, ar sail Dosbarthiad Tir y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd. Fodd bynnag, o ystyried ei raddfa, dim ond syniad bras o ansawdd amaethyddol darn penodol o dir y gall y Map Dosbarthu Tir Amaethyddol ei roi’n aml. Mewn achosion lle gallai datblygiadau dresmasu ar dir amaethyddol ‘gorau ac amlbwrpas’ bydd angen pennu ei ddosbarth gwirioneddol ar sail arolwg manwl o’r safle. Pan fydd cynigion datblygu’n effeithio ar 20 hectar neu fwy o dir amaethyddol, cynghorir datblygwyr tir amaethyddol i ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch y tebygolrwydd y gallai eu safle gynnwys darnau sylweddol o dir amaethyddol ‘gorau ac amlbwrpas’. Pan fydd hynny’n wir, dylai’r ymgeisydd ymgynghori â’r awdurdod lleol ynghylch p’un a oes mantais mewn comisiynu gwaith arolwg maes gan ymgynghorwyr arbenigol, ac ymgynghori ynghylch gofynion yr arolwg.

14.12 Nid yw colli tir amaethyddol ‘gorau ac amlbwrpas’ yn debygol o gael ei ystyried oni bai fod angen tra phwysig i’r datblygiad ddigwydd. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos na ellir darparu ar gyfer y datblygiad ar dir diffaith, tir nad yw’n dir amaethyddol, neu dir amaethyddol o radd is os oes tir o’r fath ar gael ac os yw’n addas ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Fodd bynnag, ni fydd defnyddio tir amaethyddol o radd is yn dderbyniol pan fydd iddo werth neu ddynodiad amgylcheddol (o ran tirwedd, bywyd gwyllt, hanes neu archeoleg) sy’n bwysicach na’r ystyriaethau amaethyddol. Ym mhob achos lle bydd cynnig datblygu’n effeithio ar dir amaethyddol, bydd angen ystyried maint, strwythur a hyfywedd uned y fferm a lleoliad y datblygiad arfaethedig er mwyn lleihau aflonyddwch diangen i amaethyddiaeth a strwythur y fferm.

 

RE2 Adeiladau Newydd ar gyfer Amaethyddiaeth a Choedwigaeth

Caniateir codi adeiladau newydd ar gyfer amaethyddiaeth neu goedwigaeth, neu estyn adeiladau sy’n bodoli eisoes:

a. os oes galw rhesymol amdanynt ar gyfer dibenion sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth neu goedwigaeth o fewn uned y fferm neu’r goedwig;

b. os byddant, lle bynnag y bo modd, wedi’u lleoli yn agos i grwp sy’n bodoli eisoes o adeiladau o fewn uned y fferm neu’r goedwig, ac os byddant wedi’u cysylltu’n dda â hwy;

c. os bydd lleoliad, dyluniad, deunyddiau a gorffeniad allanol yr adeiladau’n gydnaws ag adeiladau cyfagos a chymeriad gwledig yr ardal leol; ac

ch. os caiff y cynigion, yn achos da byw sy’n cael eu ffermio’n ddwys, eu hasesu yn erbyn polisi RE3.

14.13 O ystyried pwysigrwydd y diwydiant amaethyddol lleol, mae’n amlwg y bydd cynigion yn codi ar gyfer adeiladau y mae eu hangen i gynnal neu wella effeithlonrwydd neu hyfywedd ffermydd neu gydymffurfio â deddfwriaeth newydd sy’n ymwneud â’r amgylchedd, hylendid a lles. Gellir cyflawni rhai datblygiadau amaethyddol heb fod angen caniatâd cynllunio o safbwynt hawliau datblygu a ganiateir sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a choedwigaeth, er y dylid pwysleisio bod hynny’n berthnasol i ddibenion diwallu anghenion amaethyddiaeth a choedwigaeth yn hytrach na dibenion arallgyfeirio ar ffermydd.

14.14 Yn gyffredinol, bydd cynigion ar gyfer datblygiadau’n ymwneud ag amaethyddiaeth a choedwigaeth yn cael eu hystyried yn garedig. Lle bynnag y bo modd, dylid naill ai addasu neu estyn yn sensitif yr adeiladau sy’n bodoli eisoes o fewn y fferm, cyn ystyried codi adeiladau newydd. Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau bod adeiladau fferm newydd yn gydnaws â’r dirwedd. I’r perwyl hwnnw bydd lleoliad, dyluniad a golwg allanol adeiladau newydd yn cael eu hystyried mewn perthynas â gofynion amaethyddol, eu perthynas ag adeiladau sy’n bodoli eisoes a’r amgylchedd naturiol.

14.15 Os ystyrir bod adeiladau a ganiateir fel rheol dan ddarpariaethau Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir 1995 (fel y’i diwygiwyd) yn cael effaith berthnasol oherwydd eu maint, eu dyluniad, eu deunyddiau a’u lleoliad, bydd angen cyflwyno manylion i’r awdurdod cynllunio lleol yn unol â’r weithdrefn gymeradwyo o flaen llaw yn y Gorchymyn.

 

RE3 Unedau Da Byw Dwys

Ni chaniateir datblygiadau sy’n gysylltiedig â magu a chadw da byw’n ddwys, gan gynnwys estyn neu addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes, oni bai:

a. eu bod wedi’u lleoli o leiaf 400 metr oddi wrth ffin anheddiad neu adeilad a warchodir, oni ellir gweithredu mesurau lliniaru boddhaol;

b. eu bod wedi’u dylunio a’u lleoli fel eu bod yn lleihau unrhyw effaith amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw effaith ar gymeriad a golwg y safle a’r hyn sydd o’i amgylch; ac

c. bod y rhwydwaith priffyrdd (gan gynnwys mynedfa ac allanfa’r safle) yn ddigonol i ddarparu’n ddiogel ar gyfer y math o draffig a swm y traffig a gynhyrchir gan y cynnig.

14.16 Mae datblygiadau sy’n gysylltiedig â magu a chadw dofednod, moch neu dda byw eraill yn ddwys yn aml yn arwain at amryw broblemau. Yn benodol, gall math a maint cynigion o’r fath fod yn ddifrifol o niweidiol i olwg y dirwedd, gallant gynhyrchu traffig sylweddol, gan gynnwys cerbydau nwyddau trwm, a all achosi problemau difrifol o ran diogelwch ar y ffyrdd pan fydd angen defnyddio lonydd cul gwledig i gael mynediad a gall cadw llawer iawn o dda byw mewn amodau cyfyng achosi problemau o ran swn, llwch a drewdod o elifion. Felly, mae angen rheoli eu lleoliad yn ofalus.

14.17 Mae rhai mathau o ddatblygiadau, megis tai, ysgolion ac ysbytai, yn arbennig o sensitif i niwsans ac aflonyddwch, a chânt eu cyfrif yn ‘adeiladau a warchodir’ yng Ngorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir 1995 (fel y’i diwygiwyd). Er lles iechyd ac amwynder y cyhoedd, nid ystyrir yn gyffredinol ei bod yn briodol caniatáu datblygiad sy’n ymwneud â magu da byw’n ddwys o fewn 400 metr i adeiladau o’r fath, oni ellir gweithredu mesurau lliniaru boddhaol i leihau neu ddileu unrhyw niwsans neu effeithiau eraill y datblygiad i lefel dderbyniol.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

RE4 Mentrau Gwledig Bach

Caniateir datblygu mentrau gwledig bach y tu allan i ffiniau aneddiadau drwy:

a. addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes:

  1. os yw strwythur yr adeilad yn gadarn a bod modd ei addasu heb ei ailadeiladu’n helaeth neu’n llwyr, sy’n waith a fyddai’n gyfystyr â chodi adeilad newydd;
  2. os yw’r adeilad yn addas ar gyfer ei ailddefnyddio at y diben penodol; a
  3. os cedwir unrhyw nodweddion hanesyddol neu bensaernïol traddodiadol cynhenid o werth yn yr adeilad;

b. datblygu tir ar ymyl ffiniau aneddiadau categori ‘B’ ac ‘C’:

  1. os nad oes rhagor o safleoedd neu adeiladau addas ar gael naill ai o fewn ffin anheddiad cyfagos neu ar dir llwyd;
  2. os yw’n benodol ar gyfer gweithgaredd gwledig na ellir ei leoli mewn man arall;
  3. os oes cysylltiad da rhwng y datblygiad a ffurf yr anheddiad ac nad yw’n gwaethygu datblygiad hirgul neu’n creu patrwm datblygu tameidiog; a
  4. os caiff ffin anheddiad newydd rhesymegol ei ffurfio, gan ddefnyddio nodweddion sy’n bodoli eisoes lle bo modd, neu fesurau addas ar gyfer trin ffiniau, a ategir gan fesurau tirlunio sensitif.

Ym mhob achos:

a. dylai ffurf, maint, dyluniad, lleoliad a deunyddiau’r datblygiad barchu cymeriad y safle a’r hyn sydd o’i amgylch;

b. ni ddylai’r datblygiad gael effaith andwyol sylweddol ar nodweddion neu ardaloedd gwerthfawr o ran tirwedd, cadwraeth natur neu hanes;

c. ni ddylai’r datblygiad gynnwys storfeydd allanol neu weithrediadau a fyddai’n niweidiol i amwynder preswyl neu gymeriad a golwg yr ardal;

ch. dylai’r datblygiad ddarparu lle boddhaol i barcio, gwasanaethu a throi ar y safle ar gyfer y math o draffig a swm y traffig sy’n debygol o gael ei gynhyrchu ac sy’n gallu cael ei wasanaethu’n foddhaol gan y rhwydwaith priffyrdd; a

d. lle bynnag y bo modd, dylai’r datblygiad fod yn hygyrch i amrywiaeth o ddulliau teithio, yn enwedig y sawl sy’n cerdded, sy’n beicio neu sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

14.18 Mae’r polisi hwn yn cydnabod nad yw bob amser yn bosibl adnabod yr ardaloedd gwledig lle bydd yr angen am arallgyfeirio cyflogaeth yn codi yn y dyfodol. Felly, yn hytrach na dyrannu safleoedd cyflogaeth penodol lle na fydd galw byth yn codi efallai, mae’n gosod meini prawf ar gyfer asesu cynigion datblygu gwledig wrth iddynt godi.

14.19 Gall mentrau bach chwarae rhan hanfodol o ran hyrwyddo economi wledig sy’n fwy amrywiol. Gyda dyfodiad technoleg newydd, mae’r ystod o fusnesau y gellir eu lleoli’n llwyddiannus mewn ardaloedd gwledig yn cynyddu. Ar wahân i fentrau traddodiadol sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, yn aml gellir cyflawni gweithgareddau masnachol a gweithgareddau gweithgynhyrchu ysgafn eraill yn y wlad heb achosi aflonyddwch annerbyniol.

14.20 Nid yw’r polisi wedi’i anelu at y datblygiadau hynny y dylid eu lleoli mewn aneddiadau neu ddyraniadau neu ardaloedd cyflogaeth penodol oherwydd eu maint a’u math. Yn hytrach, mae’n ceisio diwallu anghenion mentrau llai y mae arnynt angen lleoliad gwledig am amrywiaeth o resymau, er enghraifft, oherwydd yr angen i fod yn agos i adnodd, safle neu weithlu, neu oherwydd natur y cynnyrch neu’r gwasanaeth a gynigir. Nid yw’r polisi hwn yn fwriadol yn ceisio diffinio beth yw ‘bach’, oherwydd rhaid asesu pob cynnig ar sail ei rinweddau ei hun gan ystyried lleoliad, nodweddion y safle (gan gynnwys adeiladau) a’r hyn sydd o’i amgylch, a natur a dwysedd y cynnig.

14.21 Yn gyffredinol, byddai’n well gan y Cyngor weld datblygiad gwledig newydd naill ai o fewn ffiniau pentrefi neu drwy ailddefnyddio ac addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes a thir llwyd yn sensitif. Yn gyffredinol, bydd datblygiad o’r fath yn cael ei ganiatáu oni bai fod gwrthwynebiadau penodol megis anghydnawsedd gweledol, swn, drewdod, gormod o draffig yn cael ei gynhyrchu neu ddiogelwch ar y ffyrdd yn cael ei beryglu. Fodd bynnag, yn achos addasiadau, mae’n hanfodol bod yr adeiladau sy’n bodoli eisoes yn addas ar gyfer eu hailddefnyddio at y diben penodol a gynigir. Ni fydd cynigion sy’n ymwneud ag adeiladau a strwythurau dros dro neu rai parod o ansawdd gwael yn cael ymateb ffafriol yn gyffredinol. Mewn rhai achosion, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau gwelliannau i olwg allanol adeiladau o’r fath yn rhan o’r cynllun.

14.22 Derbynnir nad yw bob amser yn bosibl ailddefnyddio tir llwyd neu adeiladau ar dir llwyd. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae’n bosibl y caniateir datblygiadau bach newydd ar safleoedd tir glas wrth ymyl ffin anheddiad, ar yr amod bod y defnydd arfaethedig yn un sydd, oherwydd ei natur, yn dibynnu ar fod mewn lleoliad gwledig. Gallai defnydd o’r fath gynnwys prosesu cynnyrch bwyd lleol, neu fusnesau sy’n gysylltiedig â choetiroedd a choedwigaeth, y mae angen iddynt fod yn agos i ffynhonnell y deunyddiau crai. Fodd bynnag, gwrthwynebir y datblygiadau hyn os na fydd eu maint, eu lleoliad a’u dyluniad yn parchu patrymau anheddu sy’n bodoli eisoes, neu pe baent yn cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd y bobl leol neu’n niweidio cymeriad naturiol neu hanesyddol yr ardal.

14.23 Nod y polisi yw hwyluso cynlluniau cyflogaeth gwledig dilys, ac ni fydd y Cyngor yn ymateb yn ffafriol i gynigion sbeciannol nad oes ganddynt ddefnydd na defnyddiwr penodol.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

RE5 Arallgyfeirio ar Raddfa Fach ar Ffermydd

Caniateir cynigion arallgyfeirio ar raddfa fach ar ffermydd, sy’n cynnwys addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes, gwneud gwaith cyfyngedig i estyn adeiladau sy’n bodoli eisoes, ac mewn amgylchiadau eithriadol, codi adeiladau newydd bach:

a. os bydd y gweithgaredd arallgyfeirio arfaethedig yn cael ei redeg ar y cyd â phrif fusnes y fferm;

b. os na fyddai’r cynnig yn cael effaith andwyol sylweddol ar nodweddion neu ardaloedd gwerthfawr o ran tirwedd, cadwraeth natur neu hanes;

c. os byddai’r cynnig yn hygyrch, lle bo modd, i amrywiaeth o ddulliau teithio, yn enwedig y sawl sy’n cerdded, sy’n beicio neu sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus;

ch. os bydd unrhyw gynigion manwerthu ar raddfa fach, yn berthnasol i waith y fferm neu gynllun arallgyfeirio’r fferm, ac yn digwydd mewn adeilad sy’n bodoli eisoes ar y fferm, ac na fyddant yn gwneud niwed annerbyniol i siopau neu ganolfannau lleol;

d. os nad yw’r cynnig yn cynnwys storfeydd allanol neu weithrediadau a fyddai’n niweidiol i amwynder preswyl neu gymeriad a golwg yr ardal;

dd. os darperir lle boddhaol i barcio, gwasanaethu a throi ar y safle ar gyfer y math o draffig a swm y traffig sy’n debygol o gael ei gynhyrchu ac sy’n gallu cael ei wasanaethu’n foddhaol gan y rhwydwaith priffyrdd;

e. yn achos addasiadau:

  1. bod yr adeilad yn addas ar gyfer ei ailddefnyddio at y diben penodol; a
  2. y cedwir unrhyw nodweddion hanesyddol neu bensaernïol traddodiadol cynhenid sydd o werth; ac

f. yn achos adeiladau newydd, bod maint, lleoliad, dyluniad a deunyddiau’r adeiladau yn briodol i’r safle a’r hyn sydd o’i amgylch, a bod cysylltiad da rhwng yr adeiladau newydd a’r adeiladau sy’n bodoli eisoes o fewn prif ran y fferm.

14.24 Er mwyn sicrhau eu bod yn goroesi yn y tymor hir, mae nifer o ffermydd yn ymgymryd â chynlluniau arallgyfeirio fel ffordd o ychwanegu at incwm y fferm. Gall cynlluniau o’r fath fod ar nifer o wahanol ffurfiau, e.e. llety â gwasanaeth neu lety hunanddarpar, gweithgareddau masnachol sy’n gysylltiedig â bwyd a choed, defnydd busnes, storio a dosbarthu, ac atyniadau i dwristiaid megis gweithgareddau awyr agored neu gelf a chrefft. Nid yw’r polisi hwn yn fwriadol yn ceisio diffinio beth yw ‘bach’, oherwydd rhaid asesu pob cynnig ar sail ei rinweddau ei hun gan ystyried lleoliad, nodweddion y safle (gan gynnwys adeiladau) a’r hyn sydd o’i amgylch, a natur a dwysedd y cynnig.

14.25 Rhoddir ffafriaeth i gynigion sy’n ymwneud ag addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes neu wneud gwaith cyfyngedig i estyn adeiladau sy’n bodoli eisoes. Yn achos addasiadau, mae’n hanfodol bod yr adeiladau sy’n bodoli eisoes yn addas ar gyfer eu hailddefnyddio at y diben penodol a gynigir. Ni fydd cynigion sy’n ymwneud ag adeiladau a strwythurau dros dro neu rai parod o ansawdd gwael yn cael ymateb ffafriol yn gyffredinol. Mewn rhai achosion, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau gwelliannau i olwg allanol adeiladau o’r fath yn rhan o’r cynllun.

14.26 Os nad oes unrhyw adeiladau yn bodoli eisoes y gellir eu hestyn neu’u haddasu, gellid ystyried codi adeilad newydd bach. Rhaid bod cysylltiad da rhwng unrhyw adeiladau newydd ac adeiladau sy’n bodoli eisoes o fewn prif ran y fferm, a rhaid i faint, lleoliad, dyluniad a deunyddiau’r adeilad fod yn sensitif i’r safle a’r hyn sydd o’i amgylch.

14.27 Rhaid i’r elfen arallgyfeirio gael ei rhedeg ar y cyd â phrif ddefnydd y fferm, ac mae’n bosibl y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno ‘cynllun fferm’ er mwyn dangos sut y mae’r cynnig yn cyd-fynd â busnes y fferm a beth fydd cyfraniad y gweithgaredd i hyfywedd y fferm. Bydd cynnwys manylion yr arallgyfeirio arfaethedig mewn ‘cynllun fferm’ yn hwyluso’r broses o asesu manteision ac anfanteision y cynnig, a gallai gyflymu’r broses benderfynu.

14.28 Er bod y cyfleoedd i leihau’r defnydd a wneir o geir a chynyddu’r defnydd a wneir o drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio’n fwy cyfyngedig mewn ardaloedd gwledig, ystyrir y dylai cynlluniau arallgyfeirio fod yn hygyrch drwy ddulliau teithio ar wahân i geir, lle bo’n bosibl.

14.29 Mewn rhai achosion, efallai y bydd manwerthu’n cael ei ganiatáu os yw’n gysylltiedig â busnes y fferm neu’r gweithgaredd arallgyfeirio, e.e. gwerthu cynnyrch fferm neu gynnyrch bwyd â gwerth ychwanegol, gwerthu celf a chrefft neu werthu offer sy’n gysylltiedig â gweithgaredd awyr agored penodol. Dylai’r gweithgaredd manwerthu barhau’n atodol i brif fusnes y fferm, ac ni ddylai niweidio siopau lleol neu siopau pentref sy’n bodoli eisoes, na chanolfannau siopa’r ardal.

14.30 Ystyrir paratoi nodyn cyfarwyddyd cynllunio atodol ar arallgyfeirio ar ffermydd. Yn ogystal ag egluro ystyriaethau cynllunio’n fwy manwl, gallai’r nodyn fynd i’r afael â materion eraill sy’n debygol o godi mewn cynigion arallgyfeirio ar ffermydd, megis rheoli adeiladu, gwarchod y cyhoedd, trwyddedu a chysylltiadau, gan gynnwys datblygu economaidd, i symleiddio’r broses.

14.31 Nod y polisi yw hwyluso cynlluniau arallgyfeirio dilys ar ffermydd, ac ni fydd y Cyngor yn ymateb yn ffafriol i gynigion sbeciannol nad oes ganddynt ddefnydd na defnyddiwr penodol.

 

Polisïau allweddol eraill:

Brig y dudalen