Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

Pennod 13

Cyflogaeth

Nodau Strategol Perthnasol

a. Economi, f. Adnoddau

Amcanion Polisi
#

Rhestr Bolisïau
#

a. MAINT AC ANSAWDD - sicrhau bod digon o dir ar gael i ddarparu mynediad i ystod o gyfleoedd gwaith hirdymor o safon ar gyfer pobl leol

b. LLEOLIAD - arwain datblygiadau masnachol a diwydiannol newydd i safleoedd priodol yn y prif ganolfannau poblogaeth ac wrth eu hymyl er mwyn lleihau’r angen i deithio mewn car

c. AILDDEFNYDDIO TIR - crynhoi datblygiadau cyflogaeth ar dir diffaith neu dir nas defnyddir ddigon

ch. CYDNAWSEDD - sicrhau bod unrhyw ddatblygiad yn cael cyn lleied ag sy’n bosibl o effaith niweidiol ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig a’r gymuned leol

EM1 Dyraniadau Tir Cyflogaeth Gyffredinol

EM2 Dyraniadau Safleoedd o Ansawdd Uchel

EM3 Parthau Datblygu a Phrif Ardaloedd Cyflogaeth

EM4 Lleoliad Datblygiadau Cyflogaeth Eraill

EM5 Ehangu Busnesau sy’n Bodoli Eisoes

EM6 Gwarchod Tir Cyflogaeth

EM7 Diwydiant sy’n Gymydog Gwael

Dangosyddion Perfformiad Polisi

Targedau

  1. % Y datblygiadau cyflogaeth newydd ar safleoedd tir llwyd
  2. Y tir cyflogaeth a ddatblygir yn ôl dosbarthiadau defnydd (B1, B2, B8)
  3. Cyfraddau cymryd tir ar gyfer cyflogaeth
  4. Datblygiadau a ganiateir ar safleoedd cyflogaeth dynodedig yn groes i bolisi
  5. Swyddi a grëwyd

 

 

13 Cyflogaeth

Cyflwyniad

13.1 Un o nodau allweddol y Cynllun yw “creu economi ffyniannus a chynaliadwy sy’n darparu ystod eang o gyfleoedd gwaith o safon ar gyfer pobl leol”. Er na all y Cynllun ei hun bennu lefelau cyflogaeth y dyfodol, gall ddylanwadu ar berfformiad economaidd drwy weithredu cynigion a pholisïau defnydd tir yn llwyddiannus.

13.2 Mae gan y Cynllun rôl hanfodol i’w chwarae o ran darparu ar gyfer datblygiadau cyflogaeth yn y Sir a’u hannog, er mwyn adfywio ac ehangu’r economi leol ac ysgogi cyfleoedd gwaith i sicrhau ffyniant economaidd y Sir yn y dyfodol a lles ei thrigolion. Fodd bynnag, mae’r un mor bwysig cydbwyso’r nod hwn â’r angen i warchod yr amgylchedd a’r dirwedd.

13.3 Mae’r bennod hon yn ymwneud yn bennaf â diwydiant, swyddfeydd a warysau. Caiff ffynonellau eraill cyflogaeth, megis siopa, twristiaeth a menter wledig, sylw ym mhenodau eraill y Cynllun.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol

13.4 Amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yw gwella llwyddiant economaidd ardaloedd trefol a chefn gwlad. Mae hynny’n cynnwys helpu busnesau i gynyddu eu cystadleurwydd, cefnogi menter, annog amrywiaeth yn yr economi leol a hyrwyddo’r defnydd o dechnolegau newydd.

13.5 Mae paragraff 7.1.7 Polisi Cynllunio Cymru yn cynghori awdurdodau lleol i sicrhau:

13.6 Mae paragraff 7.2.1 yn cynghori awdurdodau cynllunio lleol, wrth ddynodi tir ar gyfer anghenion cyflogaeth i ystyried datblygu graddol a’r seilwaith sydd ar gael. Mae hefyd yn argymell adolygu’r holl ddyraniadau nad ydynt ar gyfer tai, er mwyn ystyried ai gwell byddai defnyddio rhywfaint o’r tir hwn ar gyfer tai neu ddatblygiadau defnydd cymysg. Mae paragraff 7.2.2 yn rhoi pwyslais ar ffafrio safleoedd tir llwyd, agosrwydd i ddatblygiadau trefol sy’n bodoli eisoes, y gallu i gyrraedd trafnidiaeth gyhoeddus a’r rhwydwaith o brif ffyrdd a chyfleusterau telathrebu o ansawdd da fel egwyddorion cynaliadwyedd allweddol i’w hystyried wrth ddethol lleoliadau cyflogaeth allweddol. Ceir canllawiau pellach ynghylch hyrwyddo busnesau y tu allan i safleoedd cyflogaeth allweddol a gwerth datblygiadau defnydd cymysg. Mae paragraff 7.2.7 yn cydnabod pwysigrwydd gwrthwynebu unrhyw ddefnydd arall ar safleoedd allweddol o safbwynt cynnal banc o dir diwydiannol.

13.7 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn mynnu y dylai CDUau osod polisïau sy’n annog datblygu economaidd sy’n parchu’r amgylchedd ac sy’n gyfrifol yn gymdeithasol; nodi amrywiaeth a dewis o safleoedd i fodloni gwahanol anghenion economaidd a chyflogaeth; a nodi meini prawf eglur ar gyfer asesu cynigion am ddatblygiadau economaidd newydd. Dylai CDUau hefyd gynnwys, ymhlith pethau eraill, bolisïau ar annog datblygu tir ac adeiladau a ddatblygwyd o’r blaen, sy’n wag neu nas defnyddir yn llawn, ac ymdrin â datblygiadau peryglus a diwydiannau a allai lygru.

 

Cyd-destun Sir y Fflint

13.8 Mae llwyddiant cymharol economi Sir y Fflint heddiw yn adlewyrchu ymdrechion amlasiantaeth gydag adnoddau da i ddenu buddsoddiad newydd sylweddol a swyddi i’r ardal, yn dilyn digwyddiadau anffodus dechrau’r 1980au pan fethodd y diwydiannau tecstilau a dur.

13.9 Mae Sir y Fflint yn ganolbwynt allweddol i economi ranbarthol ehangach gogledd Cymru a Gogledd orllewin Lloegr gan ei bod, er enghraifft, yn darparu swyddi gweithgynhyrchu ‘gwerth uchel’ ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac yn Airbus ym Mrychdyn. Mae rhai dangosyddion economaidd allweddol yn awgrymu bod economi Sir y Fflint yn gryf ac yn perfformio’n dda ar hyn o bryd: mae diweithdra yn gymharol isel, ac mae Cynnyrch Mewnwladol Crynswth a gweithgarwch economaidd yn gymharol uchel.

13.10 Fodd bynnag, mae gwendidau yn economi'r Sir o hyd, megis pocedi o ddiweithdra uchel ac amddifadedd mewn rhannau trefol a gwledig o’r Sir; cymwysterau isel y gweithlu; llawer o ddibyniaeth ar swyddi gweithgynhyrchu; a diwylliant gwan o fentro.

13.11 Mae Strategaeth Adfywio Sir y Fflint (2009-2020) yn darparu’r cyd-destun lle bydd polisïau’r Cynllun yn ceisio sicrhau bod economi Sir y Fflint yn datblygu ac yn cael ei hadfywio’n barhaus. Mae egwyddorion allweddol y Strategaeth yn cynnwys:

13.12 Maint a lleoliad y tir a ddarperir ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol yw’r materion allweddol y dylai’r CDU fynd i’r afael â hwy yng nghyd-destun Strategaeth Adfywio Sir y Fflint a Pholisi Cynllunio Cymru. Y prif nod yw sicrhau datblygu cynaliadwy ac arallgyfeirio mewn perthynas â’r economi leol drwy ddarparu ystod addas o safleoedd cyflogaeth o wahanol fathau a maint mewn lleoliadau sy’n hygyrch i bobl sy’n cerdded, yn beicio neu’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, pryd bynnag y bo modd.

 

Gofynion o ran Tir ar gyfer Cyflogaeth

13.13 Caiff y gofynion o ran tir ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol eu seilio ar ffactorau meintiol ac ansoddol. Mae’r elfen feintiol yn cynnwys asesiad o angen ar sail cyfraddau cymryd tir ar gyfer cyflogaeth yn y Sir yn y gorffennol, sy’n adlewyrchu’r galw a datblygiadau dros y 10 mlynedd rhwng 1990 a 2000. Yn nhermau rhifau, mae hynny’n gyfwerth â chyfradd cymryd tir ar gyfer cyflogaeth sy’n cyfateb i rhwng 12 a 19 hectar y flwyddyn, yn dibynnu ar b’un a gaiff datblygiadau unigryw mawr eu cynnwys (e.e. terminws BHP a Powergen). Dros gyfnod y Cynllun, mae hynny’n golygu bod angen rhwng 207 a 328 hectar o dir gan gynnwys lwfans ar gyfer hyblygrwydd (15%) i ddarparu ar gyfer yr angen i gynnig ystod o ddewisiadau o safleoedd ar gyfer gwahanol sectorau diwydiannol, darparu seilwaith, a darparu ar gyfer achosion o oedi yn y broses o gynnig safleoedd.

13.14 Wrth nodi’r ddarpariaeth fwyaf cynaliadwy yn yr ystod hon, dylid nodi mai terminws BHP yn 1993 oedd y datblygiad ‘mawr’ diwethaf yn y Sir o safbwynt cymryd tir. Hefyd, yn dilyn yr ymchwiliad cyhoeddus i gais cynllunio Shotwick Road, roedd yr Arolygydd yn teimlo nad oedd yr angen tra phwysig am ddatblygiad o’r maint hwn (dros 60 ha) wedi’i brofi. Yn yr hinsawdd bresennol, byddai felly’n ymddangos yn afrealistig seilio’r angen am dir ar gyfer cyflogaeth ar gyfraddau cymryd tir yn y gorffennol, sy’n cynnwys pob datblygiad unigryw mawr (pen uchaf yr ystod). Fodd bynnag, er ei bod yn ymddangos bod y galw am safleoedd mawr wedi lleihau, ni ellir diystyru’n llwyr y gallai fod datblygiadau yn y dyfodol y bydd angen safleoedd mawr arnynt.

13.15 Er hynny, ystyrir hefyd ei bod yn afrealistig asesu’r tir y bydd angen ei ddarparu ar gyfer cyflogaeth mewn termau meintiol yn llwyr ac ar sail tueddiadau’r gorffennol yn unig a allai newid dros amser. Dylid darparu ar gyfer ffactorau ansoddol eraill, megis y canlynol:

13.16 I ddarparu ar gyfer yr ystod o senarios y bydd y ffactorau uchod yn eu cynhyrchu’n ddi-os, mae’n fwy priodol ystyried lefel o ddarpariaeth o ran tir ar gyfer cyflogaeth yn agosach i ben uchaf yr ystod (207ha i 328ha). Felly, mae’r Cynllun yn nodi bod angen tua 300 hectar o dir ar gyfer cyflogaeth yn ystod cyfnod y Cynllun. Ni fyddai darpariaeth ar lefel o’r fath yn atal mewnfuddsoddiad newydd ond byddai’n fwy cynaliadwy.

 

Darparu Tir ar gyfer Cyflogaeth

13.17 Mae ymrwymiadau sy’n bodoli eisoes a’r dyraniadau a etifeddwyd o Gynllun Lleol Alun a Glannau Dyfrdwy a Chynllun Lleol Drafft Gogledd Sir y Fflint yn dylanwadu’n gryf ar y broses o ddarparu tir ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, ar ffurf dyraniadau yn y CDU. Roedd lefel y dyraniadau tir ar gyfer cyflogaeth yn y Cynlluniau hynny’n gymharol uchel, oherwydd ei bod wedi’i seilio ar gyfnod o weithgarwch economaidd sylweddol a chyfraddau uchel o gymryd tir ar gyfer cyflogaeth. Gan fod y CDU yn pennu angen cymharol is am dir ar gyfer cyflogaeth, mae bron yn anochel y bydd cyfran sylweddol o’r dyraniadau sy’n bodoli eisoes yn ffurfio’r ddarpariaeth o ran tir yn y CDU. Fodd bynnag, rhaid cydnabod nad yw rhai o’r safleoedd hyn ar gael yn gyffredinol, oherwydd eu bod yn cael eu cadw at ddibenion ehangu. Mae eraill wedi bod yn wag am gyfnod hir, sy’n codi cwestiynau ynghylch a ydynt yn addas i fodloni gofynion cyfredol o ran datblygu economaidd, pa mor hwylus ydynt i’w marchnata, neu a ellir goresgyn y cyfyngiadau sy’n effeithio ar eu datblygiad. Mae archwiliad beirniadol o’r safleoedd hyn wedi’i gynnal er mwyn nodi’r dyraniadau hynny y mae angen eu dwyn ymlaen i’r CDU a’r ardaloedd net o dir y gellir ystyried yn realistig eu bod ar gael (lle mae hynny’n hysbys) a hepgor y safleoedd hynny nad ydynt bellach yn addas i’w dwyn ymlaen fel dyraniadau tir ar gyfer cyflogaeth. Mae’r safleoedd hynny wedi eu hasesu er mwyn gweld a ydynt yn addas ar gyfer defnydd arall.

13.18 Mae cynlluniau blaenorol wedi darparu ar gyfer safleoedd strategol, safleoedd o safon a safleoedd lleol, ac ystyrir bod y math hwn o ddarpariaeth yn dal yn briodol. Lle bo’n bosibl, mae safleoedd tir llwyd wedi’u nodi at ddibenion cyflogaeth yn rhan o’r ddarpariaeth hon. Mae tua 294 hectar o’r dyraniadau sy’n bodoli eisoes ar gyfer cyflogaeth (gan gymryd bod ardal ddatblygu 36.5 hectar yn Warren Hall) wedi’i ddwyn ymlaen i’r Cynllun, ond nid yw 32 hectar o’r tir hwnnw ar gael yn gyffredinol, oherwydd ei fod wedi’i glymu gan fusnesau sy’n bodoli eisoes at ddibenion ehangu. Mae dyraniadau newydd o 47 hectar wedi eu gwneud i fynd i’r afael â’r diffyg tybiedig. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio tir llwyd unwaith eto; manteisio ar gyfleoedd i lunio clystyrau busnes o gwmpas y sector awyrofod ym Mrychdyn; a chydnabod y galw cynyddol am safleoedd o safon gan sectorau’r economi y mae Sir y Fflint bellach yn ceisio eu denu.

13.19 Er bod cyfanswm y dyraniadau’n fwy na’r ffigwr ‘targed’ ar gyfer angen, nid yw rhywfaint o’r tir ar gael yn gyffredinol, ac mae cyfran cymharol fawr o’r cyfanswm (98 hectar) yn cynnwys un safle i’r gogledd-orllewin o Garden City, y gallai gymryd rhywfaint o amser i’w gynnig. Fodd bynnag, bernir bod lefel y ddarpariaeth yn dderbyniol o ystyried bod capasiti posibl i ddatblygu ymhellach ar gyfer cyflogaeth yn y Parthau Datblygu a’r Prif Ardaloedd Cyflogaeth sy’n bodoli eisoes, yn enwedig o amgylch safle Corus (Tata bellach), er mwyn darparu’r hyblygrwydd sy’n ofynnol i fodloni unrhyw ddiffygion a allai godi.

13.20 Mae’r canlynol yn crynhoi’r ddarpariaeth o ran tir ar gyfer cyflogaeth o’i chymharu â’r angen:

 

Polisïau

EM1 Dyraniadau Tir Cyflogaeth Gyffredinol

Mae’r safleoedd canlynol, fel y diffinnir ar y map cynigion wedi’u dyrannu ar gyfer defnydd cyflogaeth B1, B2 a B8, oni nodir yn wahanol:

  1. os yw’r cynnig o fath a maint sy’n briodol ar gyfer y safle a’r hyn sydd o’i amgylch;
  2. os na fydd y cynnig yn achosi niwed annerbyniol i amwynder preswyl neu amwynder arall neu’n cyfyngu ar ddefnydd tir cyfagos;
  3. os bydd y cynnig yn darparu lle boddhaol i barcio, gwasanaethu a throi ar y safle a bod y rhwydwaith priffyrdd (gan gynnwys y fynedfa a’r allanfa) yn ddigonol i ddarparu’n ddiogel ar gyfer y math o draffig a swm y traffig a gynhyrchir gan y cynnig; ac
  4. nad yw’r cynnig yn cael unrhyw effaith andwyol sylweddol ar integriti safleoedd cadwraeth natur, y dirwedd a nodweddion hanesyddol.

 

Cyf.

Anheddiad / Lleoliad

Safle

Arwynebedd (ha)

Sylwadau

  1. 1

Brychdyn

Parc Awyrofod Caer

15.5 

Cadw’r dyraniad. Llywodraeth Cymru yn ailddatblygu safle tir llwyd.

  1. 2

Brychdyn

Manor Lane/Estyniad Parc Penarlâg

18.2

Dyraniad newydd i’r de o’r parc diwydiannol sy’n bodoli eisoes i ddarparu ar gyfer datblygiadau sy’n deillio o’r sector awyrofod a galluogi gwell mynediad.

  1. 3

Bwcle

Mount Pleasant Road (gogledd)

2.0

Lleihau’r dyraniad gwreiddiol.

  1. 4

Bwcle

Tir i’r gogledd o Orsaf Bwcle

0.6

Cadw fel dyraniad.

  1. 5

Bwcle

Drury New Road

1.4

Dyraniad newydd i adlewyrchu’r tir gwag i’r gogledd o’r ffordd i mewn i hen ffatri Optec.

  1. 6

‘Caer’

Parc Cyflogaeth Gorllewin Caer

1.3

Cadw fel dyraniad.

  1. 7

Cei Connah

Hen Orsaf Drydan

12.8        

Cadw’r dyraniad ond ei hepgor o Barth Datblygu Glannau Dyfrdwy.

  1. 8

Cei Connah

Crumps Yard, Dock Road

4.0

Dyraniad newydd er mwyn defnyddio safle tir llwyd unwaith eto.

  1. 9

Glannau Dyfrdwy

Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Cam II

11.6

Cadw’r gweddill fel dyraniad.

  1. 10

Glannau Dyfrdwy

Tir i’r gogledd o Shotton Paper 

24.0 

Cadw fel dyraniad. Ond nid yw ar gael yn gyffredinol.

  1. 11

Glannau Dyfrdwy

Tir i’r dwyrain o Shotton Paper

32.0

Cadw fel dyraniad.

  1. 12

Glannau Dyfrdwy

Tir i’r gogledd-orllewin o Garden City

98.0

Cadw’r dyraniad sy’n bodoli eisoes ond fel rhan o gynllun defnydd cymysg dan HSG2A. Mae angen seilwaith mawr arno. Mae angen Brîff Datblygu.

  1. 13

Maes-glas

Parc Busnes Maes-glas Cam I

1.3

Cadw’r dyraniad, ond nid yw’r tir ar gael yn gyffredinol.

  1. 14

Maes-glas

Parc Busnes Maes-glas Rhan II

6.1

Cadw’r dyraniadau. Ond nid yw 5.0 hectar ar gael yn gyffredinol.

  1. 15

Maes-glas

Parc Busnes Maes-glas Rhan III

6.4

Cadw’r dyraniadau.

  1. 16

Maes-glas

Parc Busnes Maes-glas (III) Estyniad

6.6

Cadw’r dyraniad fel estyniad i’r Parc Busnes. 

  1. 17

Yr Wyddgrug

Ystâd Ddiwydiannol Broncoed

1.1

Cadw’r dyraniad. 

  1. 18

Yr Wyddgrug

Parc Busnes yr Wyddgrug

5.3

Cadw’r dyraniadau. Cyfyngu i ddefnydd B1 a defnydd B2 o safon.

  1. 19

Mostyn

Gerllaw Dociau Mostyn

4.5 

Cadw fel dyraniad.

  1. 20

Y Fferi Isaf

Parc Busnes Expressway

0.7

Cadw fel dyraniad.

  1. 21

Y Fferi Isaf

Chester Road East

3.8

Lleihau’r dyraniad gwreiddiol.

  1. 22

Rhyd-y-mwyn

Ystâd Ddiwydiannol Antelope

1.1 

Cadw fel dyraniad.

  1. 23

Saltney

River Lane

2.2

Cadw fel dyraniad.

  1. 24

Saltney

Tir i’r dwyrain o Saltney Ferry Road

14.6

Cadw fel dyraniad.

  1. 25

Sandycroft

Prince William Avenue

1.8

Lleihau’r dyraniad gwreiddiol.

  1. 26

Shotton

Rowley’s Drive

1.8

Cadw fel dyraniad. Y cyfan wedi’i glustnodi – dim tir ar gael yn gyffredinol. Defnydd B1, B2 (effaith isel) a B8.

 

Cyfanswm

 

278.7

Dyraniadau sy’n bodoli eisoes a ddygwyd ymlaen - 255.1 hectar
Dyraniadau safleoedd newydd - 23.6 hectar
Tir nad yw ar gael yn gyffredinol - 32.1 hectar

 

13.21 Mae’r dyraniadau tir ar gyfer cyflogaeth gyffredinol yn cynnwys safleoedd lleol yn bennaf y bwriedir iddynt ddarparu ar gyfer ystod o ddefnydd busnes B1, defnydd diwydiannol B2 a defnydd warws B8 o wahanol fathau a maint. Tir i’r gogledd-orllewin o Garden City yw’r dyraniad safle mwyaf, ac mae’n rhan o ddatblygiad defnydd cymysg newydd dan bolisi HSG2A. Mae wedi’i leoli wrth ‘Borth Gogleddol’ y Sir, yn agos i’r prif gysylltiadau cyfathrebu, a dylid ei ddatblygu i safon uchel.

13.22 Mae mwyafrif y dyraniadau wedi’u cysylltu’n dda â’r prif ardaloedd trefol a’r coridorau trafnidiaeth, sy’n rhoi mynediad da i bobl leol i ystod o swyddi ac sy’n cyfrannu at leihau hyd a nifer y siwrneiau i’r gwaith. Yn y cyfamser, mae’r dyraniadau ym Mostyn a Rhyd-y-mwyn yn darparu cyfleoedd gwaith mewn cymunedau mwy gwledig ac yn ychwanegu at y datblygiadau sy’n bodoli eisoes yn yr ardaloedd hyn.

13.23 Mae safleoedd tir llwyd yn cyfrif am dros 60% o’r dyraniadau tir ar gyfer cyflogaeth. Mae dyraniadau newydd yn cynnwys safleoedd ym Mrychdyn, Bwcle a Chei Connah. Bwriad safle Manor Lane/Estyniad Parc Penarlâg yw hwyluso datblygiadau sy’n deillio o’r sector awyrofod a galluogi gwell mynediad o’r B5125 i’r ystadau diwydiannol sy’n bodoli eisoes ym Mharc Penarlâg ac oddi ar Manor Lane. Er bod y safle’n cynnwys y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas, ystyrir bod angen tra phwysig am y datblygiad. Caiff prosiectau sy’n gysylltiedig ag awyrofod eu gyrru’n bennaf gan eu hagosrwydd i’w cwsmeriaid. Felly, bydd angen eu lleoli ar y cyd ar ffurf parc cyflenwi pwrpasol. Mae’r dyraniad yn estyniad naturiol i’r Parth Datblygu Maes Awyr, ac mae ganddo ffiniau ffisegol sydd wedi’u diffinio’n dda. Nid ystyrir bod unrhyw safleoedd tir llwyd, neu dir o ansawdd amaethyddol llai yn y cynlluniau neu’r ardal ehangach, yn bodloni’r meini prawf ar gyfer datblygiad o’r fath. Caiff brîff datblygu ei gynhyrchu ar gyfer safle Manor Lane/Estyniad Parc Penarlâg, a fydd yn cynnwys materion megis gwarchod nodweddion tirwedd a chadwraeth natur.

13.24 Bydd y graddau y mae defnydd diwydiannol trwm a defnydd warws (B2 a B8) yn dderbyniol mewn ardaloedd sensitif o’r safleoedd a ddyrannwyd dan y polisi hwn (yn enwedig Parc Busnes yr Wyddgrug) yn cael ei farnu ar sail union natur y datblygiad a’i effaith bosibl ar yr amgylchedd adeiledig a naturiol.

13.25 Cydnabyddir bod sawl un o’r safleoedd wrth ymyl safleoedd Natura 2000. Caiff cynigion datblygu manwl ynghylch safleoedd o’r fath eu hasesu’n drylwyr o ran eu heffeithiau ar ddynodiadau rhyngwladol o ran cadwraeth natur ac mae’n debygol y bydd angen Asesiad Priodol ar eu cyfer.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

EM2 Dyraniadau Safleoedd o Ansawdd Uchel

Bydd y safleoedd canlynol, fel y diffinnir ar y map cynigion, yn cael eu diogelu fel safleoedd cyflogaeth o safon ar gyfer lleoli defnydd B1:

  1. Warren Hall, Brychdyn - 36.5 hectar
  2. Safle DARA, Sealand - 18.5 hectar
  3. Parc Dewi Sant, Ewlo - 2.2 hectar
  4. Estyniad Parc Busnes yr Wyddgrug - 5.0 hectar

Caniateir datblygiad ar yr amodau canlynol:

  1. ei fod yn cynnwys mesurau tirlunio helaeth sy’n parchu ac yn cadw unrhyw nodweddion sy’n bodoli eisoes, sydd o ddiddordeb o ran tirwedd, hanes neu gadwraeth natur;
  2. nad yw’n ddwys; a
  3. bod ei gynllun, ei leoliad, ei ddyluniad a’i ddeunyddiau o’r ansawdd gorau.

13.26 Mae Safleoedd o Safon wedi’u bwriadu yn bennaf ar gyfer denu cwmnïau yn y sector ‘uwch-dechnoleg’ a’r sector ymchwil a datblygu, neu swyddfeydd crand (defnydd B1) y mae angen amgylchedd o safon arnynt. Yn ogystal â dwyn y dyraniadau sy’n bodoli eisoes ymlaen yn Warren Hall a Pharc Dewi Sant, cynigir dyraniadau newydd ar gyfer Sealand a’r Wyddgrug i gydnabod y galw cynyddol am safleoedd o safon gan sectorau’r economi y mae Sir y Fflint yn ceisio eu denu bellach.

13.27 Os a phan fydd DARA yn cwtogi ei weithrediadau, bydd ei safle yn cynnig cyfle i ddarparu amgylchedd busnes o safon wrth y Porth i’r Sir. Mae’r tir yn yr Wyddgrug yn estyniad naturiol oddi ar y brif ffordd ganolog sy’n gwasanaethu’r Parc Busnes sy’n bodoli eisoes. O ystyried agosrwydd y safle i ddatblygiad preswyl ar ei ffin ogleddol, a thopograffi’r safle, bydd Brîff Datblygu yn cael ei baratoi a fydd yn rhoi sylw i faterion megis cynllun, dyluniad, deunyddiau a thirlunio er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd adeiledig a naturiol yn cael ei warchod yn ddigonol. Mae caniatadau cynllunio heb eu defnyddio ar gyfer tua 3 hectar o dir at ddefnydd swyddfeydd ym Mharc Gwledig Llaneurgain, i’w ychwanegu at ddyraniadau Safleoedd o Safon.

 

EM3 – Parthau Datblygu a Phrif Ardaloedd Cyflogaeth

Caniateir y mathau canlynol o ddatblygiadau cyflogaeth mewn parthau datblygu a phrif ardaloedd cyflogaeth, fel y diffinnir ar y map cynigion:

  1. B1 defnydd busnes;
  2. B2 diwydiant cyffredinol;
  3. B8 storio a dosbarthu.

dan yr amodau canlynol:

  1. nad yw’r safle wedi’i ddyrannu at ddiben penodol o ran cyflogaeth oherwydd polisi EM1 neu EM2;
  2. bod y cynnig o fath a maint sy’n briodol ar gyfer y safle a’r hyn sydd o’i amgylch;
  3. na fydd y cynnig yn cael effaith andwyol sylweddol ar amwynder preswyl neu amwynder arall, neu’n cyfyngu’n annerbyniol ar ddefnydd tir cyfagos;
  4. bod y cynnig yn darparu lle boddhaol i barcio, gwasanaethu a throi ar y safle a bod y rhwydwaith priffyrdd (gan gynnwys y fynedfa a’r allanfa) yn ddigonol i ddarparu’n ddiogel ar gyfer y math o draffig a swm y traffig a gynhyrchir gan y cynnig; a
  5. nad yw’r cynnig yn cael unrhyw effaith andwyol sylweddol ar integriti safleoedd cadwraeth natur, y dirwedd a nodweddion hanesyddol.

13.28 Mae’r polisi hwn yn ceisio nodi ar y map cynigion yr ardaloedd lle mae’r rhan fwyaf o’r datblygiadau cyflogaeth yn debygol o ddigwydd. Cafodd y cysyniad o ddyraniadau Parthau Datblygu ei ddwyn ymlaen o Gynllun Lleol Alun a Glannau Dyfrdwy. Fodd bynnag, maent wedi’u had-drefnu fel na fyddant ond yn cynnwys ardaloedd yn y Sir sy’n wirioneddol strategol o ran eu pwysigrwydd economaidd. Ystyrir bod y 3 ardal ganlynol yn bodloni’r dull gweithredu hwn:

13.29 Mae’r Prif Ardaloedd Cyflogaeth yn cynnwys cymysgedd o:

13.30 Trwy adnabod ardaloedd allweddol lle bydd datblygiad newydd ar gyfer cyflogaeth yn dderbyniol yn gyffredinol, mae’r Cynllun yn ceisio rhoi mwy o sicrwydd a chysondeb ac osgoi’r angen i nodi nifer o ddyraniadau neu ymrwymiadau bach. Mae’r polisi yn berthnasol i ddefnydd tir, adeiladu o’r newydd, addasu, ailddatblygu ac estyn neu ehangu. Yn yr ardaloedd hyn, bydd datblygiadau ar gyfer cyflogaeth yn dderbyniol yn gyffredinol, oni bai eu bod wedi’u dyrannu ar gyfer defnydd penodol yn rhinwedd polisi arall. Fodd bynnag, bydd angen o hyd i gynigion fod o fath a maint sy’n parchu’r amgylchedd lleol ac amwynder defnydd arall y tir a thrigolion. Yn yr un modd, rhaid bod y rhwydwaith priffyrdd lleol yn gallu darparu ar gyfer swm a natur y traffig sy’n debygol o gael ei gynhyrchu. Bydd cynigion sy’n ddatblygiadau sy’n cynhyrchu llawer o draffig yn cael eu hasesu yn erbyn polisi AC4 er mwyn asesu sut y maent yn ceisio lleihau siwrneiau mewn ceir.

13.31 Cydnabyddir bod sawl un o’r safleoedd wrth ymyl safleoedd Natura 2000. Caiff cynigion datblygu manwl ynghylch safleoedd o’r fath eu hasesu’n drylwyr o ran eu heffeithiau ar ddynodiadau rhyngwladol o ran cadwraeth natur, ac mae’n debygol y bydd angen Asesiad Priodol ar eu cyfer.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

EM4 Lleoliad Datblygiadau Cyflogaeth Eraill

Caniateir cynigion datblygu newydd ar gyfer datblygiadau diwydiannol, swyddfeydd a warysau sy’n digwydd y tu allan i safleoedd a ddyrannwyd, Parthau Datblygu neu Brif Ardaloedd Cyflogaeth:

  1. y tu mewn i ffin ddiffiniedig anheddiad;
    neu os ydynt y tu allan i ffiniau diffiniedig aneddiadau
  2. drwy addasu adeiladau addas; neu
  3. drwy ailddatblygu tir llwyd, tir nas defnyddir ddigon neu dir gwag addas;

dan yr amodau canlynol:

  1. bod maint a dyluniad y datblygiad yn gydnaws â’r hyn sy’n union o’i amgylch;
  2. bod y defnydd arfaethedig yn briodol i’r lleoliad ac nad yw’n peri unrhyw niwed i amwynder preswyl neu ardaloedd preswyl a nodweddion pwysig o ran tirwedd, cadwraeth natur a hanes;
  3. bod y cynnig yn darparu lle boddhaol i barcio, gwasanaethu a throi ar y safle a bod y rhwydwaith priffyrdd (gan gynnwys y fynedfa a’r allanfa) yn ddigonol i ddarparu’n ddiogel ar gyfer y math o draffig a swm y traffig a gynhyrchir gan y cynnig; a
  4. bod y mannau storio allanol wedi’u sgrinio o olwg y cyhoedd.

13.32 Gellir lleoli nifer o fusnesau mewn aneddiadau, ar yr amod eu bod o faint a dyluniad priodol ac nad ydynt yn bygwth amwynder preswyl. Mewn pentrefi gallant helpu i greu ystod fwy amrywiol o swyddi i wneud iawn am y rhai a gollir efallai ym maes amaethyddiaeth. Fodd bynnag, mae’n hanfodol nad yw cynigion yn niweidio ansawdd yr amgylchedd lleol a bod y mynediad a chyfleusterau parcio yn foddhaol. Bydd maint y datblygiad a ganiateir dan y polisi hwn yn dibynnu ar ei leoliad. Mewn pentrefi gwledig yn gyffredinol, bydd angen i ddatblygiadau fod yn rhai bach er mwyn iddynt ymdoddi i’r hyn sy’n union o’u hamgylch, a rhag iddynt niweidio ansawdd bywyd lleol. Fodd bynnag, mae amgylchiadau’n debygol o godi, yn enwedig mewn trefi, lle gallai datblygiadau mawr fod yn dderbyniol ar yr amod nad oes unrhyw effaith niweidiol ar yr ardal leol.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

EM5 Ehangu Busnesau sy’n Bodoli Eisoes

Y tu allan i safleoedd a ddyrannwyd, Parthau Datblygu neu Brif Ardaloedd Cyflogaeth, caniateir ehangu busnesau diwydiannol dan yr amodau canlynol yn unig:

a. ei fod wedi’i leoli ar dir y tu mewn i ffin safle sy’n bodoli eisoes neu’n cyffwrdd â hi;

b. bod unrhyw ddatblygiad newydd yn eilbeth i’r busnes presennol;

c. bod maint y datblygiad i gyd wedi’i gronni yn gydnaws â’r safle a’r hyn sydd o’i amgylch;

ch. bod cysylltiad ffisegol rhwng y datblygiad a maint, patrwm a ffurf y datblygiad sy’n bodoli eisoes;

d. bod unrhyw ffin newydd safle yn rhesymegol ac yn defnyddio nodweddion sy’n bodoli eisoes lle bo modd, neu’n cynnwys dulliau addas o drin y ffin, a ategir gan fesurau tirlunio sensitif; ac

dd. bod y cynnig yn briodol i’r lleoliad ac nad yw’n achosi niwed annerbyniol i amwynder preswyl neu ardaloedd preswyl a nodweddion pwysig o ran tirwedd, cadwraeth natur a hanes.

13.33 Mewn nifer o amgylchiadau, bydd yn briodol caniatáu i gwmnïau estyn eu busnes presennol, yn enwedig gan fod ehangu ar y safle yn rhatach nag adleoli a’i fod yn gwneud y defnydd gorau o’r seilwaith sy’n bodoli eisoes, ac felly’n arbed adnoddau. Mae dull gweithredu o’r fath yn rhan allweddol o Strategaeth Adfywio bresennol y Cyngor. Mewn Parthau Datblygu a Phrif Ardaloedd Cyflogaeth, nid oes problem yn debygol o ran ehangu cwmnïau presennol, ond mewn lleoliadau eraill megis ardaloedd defnydd cymysg, aneddiadau bach neu leoliadau gwledig, bydd angen asesu effaith yr ehangu’n fwy gofalus. Bydd cynigion yn cael eu gwrthwynebu pe bai’r ffaith bod y cwmni’n ehangu’n barhaus yn arwain at ddefnydd mwy dwys, a fyddai’n effeithio’n annerbyniol ar: amwynder preswyl, mynediad, tirwedd, trefwedd neu’r amgylchedd.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

EM6 Gwarchod Tir Cyflogaeth

Caniateir sefydlu defnydd nad yw’n ymwneud â chyflogaeth neu ddefnydd manwerthu ar dir neu mewn adeiladau sy’n bodoli eisoes sydd wedi’u dyrannu ar gyfer cyflogaeth dan yr amodau canlynol yn unig:

a. nad oes unrhyw safle addas arall ar gael ar gyfer y datblygiad arfaethedig;

b. nad yw’r safle neu’r adeilad bellach yn cael ei ystyried yn addas ar gyfer dibenion cyflogaeth;

c. na fyddai’n golygu gostyngiad annerbyniol yn y cyflenwad a’r ystod o safleoedd cyflogaeth yn yr ardal; neu

ch. y byddai’r cynnig yn golygu y byddai defnydd nad yw’n cydymffurfio ag amodau, neu ddefnydd a allai achosi llygredd, yn cael ei ddileu neu’i symud yn foddhaol o’r safle neu’r adeilad.

13.34 Mae cynnal cyflenwad digonol o dir ac adeiladau cyflogaeth B1, B2 a B3 yn ardal y Cynllun yn bwysig. Gallai ei golli olygu gostyngiad cronnol mewn cyfleoedd gwaith yn lleol, gan orfodi pobl i deithio ymhellach i chwilio am waith a niweidio’r cysylltiadau busnes a’r rhwydweithiau cefnogi sy’n bodoli eisoes. Nod y polisi yw atal colli tir cyflogaeth i ddibenion megis tai a manwerthu, y gellir eu lleoli mewn mannau eraill.

13.35 Fodd bynnag, mae’r polisi yn cydnabod y bydd amgylchiadau lle byddai rhwystro defnydd neu ddatblygiad arall yn afresymol. Byddai angen bodloni nifer o feini prawf megis argaeledd safleoedd addas eraill ar gyfer y cynnig a ph’un a yw’r safle neu’r adeilad sy’n bodoli eisoes yn parhau i gael ei ystyried yn addas i’w ddefnyddio at ddibenion cyflogaeth, o ystyried ffactorau megis ei leoliad, ei hygyrchedd, ei faint, ei gyfluniad a’i gyflwr. Mae p’un a fyddai colli’r safle neu’r adeilad yn niweidio gallu’r ardal leol neu’r anheddiad i ddenu datblygiad cyflogaeth oherwydd diffyg ystod o safleoedd neu adeiladau, yn faen prawf arall. Senario delfrydol yw un lle nad yw defnydd presennol y safle neu’r adeilad yn cydymffurfio ag amodau neu lle gallai achosi llygredd, h.y. mae ganddo’r gallu i niweidio, neu mae eisoes yn niweidio, amwynder trigolion lleol neu ddefnydd tir neu’r amgylchedd drwy lygredd swn, lefel y traffig neu effaith arall. Mewn achosion o’r fath, gallai dileu neu symud y defnydd nad yw’n cydymffurfio ag amodau i safle addas, sy’n bosibl drwy ganiatáu defnydd arall, arwain at fantais gyffredinol.

 

EM7 Diwydiant sy’n Gymydog Gwael

Caniateir datblygiad a allai achosi llygredd, a allai fod yn beryglus neu a allai niweidio amwynder yn sylweddol, ar y safleoedd canlynol yn unig:

  1. safleoedd cyflogaeth a ddyrannwyd dan bolisi EM1 ac a gaiff eu caniatáu dan bolisi EM3, EM4 ac EM5; neu
  2. safleoedd tir llwyd addas neu dir diffaith, tir nas defnyddir ddigon neu dir gwag;

dan yr amodau canlynol:

  1. nad yw’r safle i’w weld yn amlwg neu’i fod wedi’i sgrinio’n dda;
  2. na fyddai’n cyfyngu’n sylweddol ar ddefnydd neu ddatblygiad y tir oddi amgylch;
  3. ei fod o fath a maint sy’n gydnaws â’r safle a’r ardal oddi amgylch;
  4. na fyddai’n achosi niwed annerbyniol i dirwedd, trefwedd, yr amgylchedd hanesyddol neu naturiol, amwynder preswyl neu iechyd a diogelwch y cyhoedd; a
  5. bod y cynnig yn darparu lle boddhaol i barcio, gwasanaethu a throi ar y safle a bod y rhwydwaith priffyrdd (gan gynnwys y fynedfa a’r allanfa) yn ddigonol i ddarparu’n ddiogel ar gyfer y math o draffig a swm y traffig a gynhyrchir gan y cynnig.

13.36 Fel rheol diwydiannau sy’n gymdogion gwael, megis diwydiannau sy’n trin ac yn storio deunyddiau gwastraff, iardiau sgrap, iardiau glo a phrosesau diwydiannol penodol, yw’r rhai sy’n peri’r perygl mwyaf i ansawdd dwr ac aer, planhigion ac anifeiliaid, neu iechyd a diogelwch. Er bod y Cyngor yn rhoi blaenoriaeth uchel i greu gwaith, ni fydd hynny’n cael ei wneud ar draul diogelwch y cyhoedd neu ansawdd yr amgylchedd. Caiff safleoedd cyflogaeth sydd wedi’u dyrannu dan bolisi EM1 (er nad i gyd) eu hystyried yn lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer diwydiannau o’r fath, ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â’r polisi hwn a pholisïau perthnasol eraill y Cynllun. Mae’n bosibl hefyd bod safleoedd addas eraill yn y Sir, megis tir llwyd a thir diffaith, tir gwag a thir nas defnyddir ddigon, gan gynnwys safleoedd sy’n gysylltiedig â gwaith mwyngloddio yn y gorffennol.

13.37 Rhaid pwysleisio, fodd bynnag, y bydd cynigion sy’n gysylltiedig â defnydd o’r fath yn destun asesiad trylwyr ym mhob achos, er mwyn penderfynu beth fydd eu heffeithiau tebygol. Mewn nifer o achosion bydd angen Asesiad Amgylcheddol, a gellir cyflogi ymgynghorwyr arbenigol i asesu effaith bosibl cynnig. Mewn achosion lle na fydd angen asesiad ffurfiol bydd angen gwybodaeth ategol o hyd er mwyn i benderfyniad deallus gael ei wneud ynghylch effeithiau’r datblygiad (Polisi GEN5).

 

Polisïau allweddol eraill:

Brig y dudalen