Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

Pennod 11

Tai

Nodau Strategol Perthnasol

b. Materion cymdeithasol a lles, ch. Hunaniaeth gymunedol, f. Adnoddau, ng. Diwylliant ac iaith

Amcanion Polisi
#

Rhestr Bolisïau
#

a. Y GOFYN O RAN TAI – sicrhau bod nifer y tai newydd a adeiledir yn ystod cyfnod y Cynllun yn diwallu anghenion y boblogaeth bresennol heb fynd y tu hwnt i’r cyfyngiadau amgylcheddol ar allu aneddiadau unigol i dyfu ymhellach

b. DOSBARTHIAD – sicrhau bod y rhan fwyaf o dai newydd yn cael eu lleoli’n agos i ardaloedd cyflogaeth a’r cyfleusterau a’r gwasanaethau sy’n bodoli eisoes mewn cymunedau

c. DEFNYDD CYNALIADWY O DIR – sicrhau bod cyn lleied ag sy’n bosibl o dir glas yn cael ei ddatblygu ar gyfer tai newydd, a bod y defnydd gorau’n cael ei wneud o dir llwyd

ch. DEWIS – sicrhau amrywiaeth o wahanol fathau o dai a deiliadaethau sy’n diwallu anghenion y boblogaeth leol, gan gynnwys tai fforddiadwy

HSG1 Cynigion Datblygu Tai Newydd

HSG2 Tai yng Nghroes Atti, Y Fflint

HSG2A Datblygiad Defnydd Cymysg Strategol: Tir i’r Gogledd-orllewin o Garden City

HSG2B Hen Felin Decstilau Treffynnon

HSG3 Tai ar Safleoedd nas Dyrannwyd y Tu Mewn i Ffiniau Aneddiadau

HSG4 Anheddau Newydd y Tu Allan i Ffiniau Aneddiadau

HSG5 Datblygiad Mewnlenwi Cyfyngedig y Tu Allan i Ffiniau Aneddiadau

HSG6 Anheddau Newydd yn lle Hen Rai y Tu Allan i Ffiniau Aneddiadau

HSG7 Newid Defnydd i Ddefnydd Preswyl y Tu Allan i Ffiniau Aneddiadau

HSG8 Dwysedd y Datblygiadau

HSG9 Cymysgedd a Mathau o Dai

HSG10 Tai Fforddiadwy y Tu Mewn i Ffiniau Aneddiadau

HSG11 Tai Fforddiadwy mewn Ardaloedd Gwledig

HSG12 Estyniadau a Newidiadau i Dai

HSG13 Rhandai

HSG14 Safleoedd Sipsiwn

HSG15 Ailddefnyddio / Addasu Tai Mawr / Hen Adeiladau Sefydliadau Preswyl y Tu Allan i Ffiniau Aneddiadau

Dangosyddion Perfformiad Polisi

Targedau

  1. Nifer a chyfran y tai newydd a adeiledir ar dir llwyd
  2. Achosion o gwblhau anheddau ar safleoedd annisgwyl
  3. Cyfartaledd dwysedd datblygiadau
  4. Nifer a chyfran y tai fforddiadwy ar safleoedd mawr o dai
  5. Yr angen cyffredinol am dai fforddiadwy wedi’i asesu trwy arolwg o anghenion y Sir o ran tai
  6. Achosion o gwblhau anheddau / cyflenwad 5 mlynedd
  7. % tai fforddiadwy a ddarperir ar bob safle datblygu mawr
  8. % twf mewn aneddiadau diffiniedig drwy gwblhau a chaniatáu anheddau ers gwaelodlin 2000 o gymharu â’r band twf dangosol
  9. Nifer y cartrefi a gymeradwywyd ar safleoedd nas dyrannwyd
  10. Nifer y cartrefi a gymeradwywyd ar safleoedd mewnlenwi ac mewn pentrefi bach
  11. Astudiaeth wedi’i diweddaru o gapasiti trefol/gwledig
  12. Prisiau/rhenti tai ar gyfartaledd o gymharu â chyfartaledd lefelau incwm

TARGED 6: Sicrhau lleiafswm o 30 tŷ yr hectar ar bob safle a ddyrannwyd

TARGED 7: Sicrhau bod 30% o’r tai ar bob safle mawr o dai yn dai fforddiadwy

 

11 Tai

Cyflwyniad

11.1 Mae Polisi Cynllunio Cymru (2011) yn datgan bod yn “Rhaid i’r system gynllunio ddarparu ar gyfer cyflenwad digonol a pharhaus o dir, sydd ar gael ac yn addas i’w ddatblygu i ddiwallu anghenion y gymdeithas. Rhaid iddo wneud hyn mewn ffordd sy’n ystyried egwyddorion ac amcanion cyffredinol cynaliadwyedd” (1.2.2).

11.2 Asesu a diwallu’r angen hwn yw un o swyddogaethau craidd y CDU, a darparu tai yw un o’r mathau mwyaf dwys a chynhennus o ddefnydd tir y mae’n rhaid i’r Cynllun ddarparu ar ei gyfer. Mae dyletswydd ar y Cynllun i sicrhau bod digon o dir yn cael ei gyflenwi ar gyfer tai, ond rhaid iddo wneud hynny mewn modd cynaliadwy i’r amgylchedd, sy’n cynnal hyfywedd a chymeriad aneddiadau, cymunedau a chefn gwlad.

11.3 Mae’r bennod hon yn ymdrin â nifer, lleoliad ac ansawdd y tai y mae eu hangen i ddiwallu anghenion Sir y Fflint yn y dyfodol. Caiff safleoedd eu hadnabod ar gyfer datblygu tai newydd, caiff ymrwymiadau ar ffurf safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio a/neu safleoedd a ddygwyd ymlaen o gynlluniau sy’n bodoli eisoes eu hystyried, a chaiff rhagdybiaethau eu llunio ynghylch cyfraniad tebygol safleoedd annisgwyl a safleoedd bach i’r cyflenwad. Mae’r polisïau hefyd yn tynnu sylw at yr amgylchiadau cyfyngedig lle caniateir datblygu tai y tu allan i ffiniau aneddiadau, ac mae rhai eraill yn rhoi sylw i ystyriaethau cymdeithasol, ac yn benodol i ddarparu tai fforddiadwy. Mae polisïau perthnasol eraill yn y Cynllun yn rhoi canllawiau ar faterion cysylltiedig megis dylunio, materion amgylcheddol a materion yn ymwneud â thrafnidiaeth, gwaith darparu seilwaith a chyfleusterau cymunedol a hamdden, a chyfraniadau datblygwyr.

11.4 Mynegwyd strategaeth y CDU ar gyfer darparu tai trwy ei bolisi Rhan 1, STR4 Tai, sy’n amlinellu’r prif nodau ar gyfer y polisïau manwl sydd yn y bennod hon:

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol a Rhanbarthol

11.5 Mae’n ofynnol i CDUau ystyried amcanestyniadau diweddaraf Llywodraeth Cymru ynghylch aelwydydd wrth ddarparu ar gyfer tai yn y dyfodol, ond dim ond un agwedd sy’n cyfrannu i’r broses yw amcanestyniadau. Mae’r Llywodraeth wedi nodi nad yw’r dull ‘rhagweld a darparu’ traddodiadol o ddarparu tai yn y dyfodol bellach yn briodol, ac y dylai Awdurdodau Lleol ystyried amryw faterion cymdeithasol ac economaidd a materion yn ymwneud â chapasiti amgylcheddol wrth wneud eu hasesiadau ynghylch tai. Yn gysylltiedig â hyn y mae’r angen i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu monitro’n effeithiol er mwyn gwneud yn siwr bod cyflenwad digonol o dir (ac adeiladau) yn cael ei gynnal a bod y broses o’u rhyddhau’n cael ei rheoli. Fel y mae Polisi Cynllunio Cymru yn datgan, “Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sicrhau bod digon o dir ar gael yn wirioneddol, neu y bydd digon ar gael yn y dyfodol, i ddarparu cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai”.

11.6 Mae Canllawiau Cynllunio Cenedlaethol yn pwysleisio’r angen i ddarparu ar gyfer cynifer o dai newydd ag sy’n bosibl mewn ardaloedd trefol. Mae hynny’n cynnwys defnyddio tir diffaith, tir nas defnyddir neu dir gwastraff (tir llwyd) yn ogystal ag ailddefnyddio adeiladau. Y nod yw hyrwyddo adfywio a lleihau’r pwysau i ddatblygu ar safleoedd tir glas ac mewn ardaloedd o gefn gwlad agored.

11.7 Mae Canllawiau Cynllunio Cenedlaethol hefyd yn mynnu bod awdurdodau lleol yn gweithredu trefn chwilio wrth adnabod safleoedd i’w dyrannu ar gyfer tai yn y CDU. Mae hynny’n golygu y dylid dyrannu tir a ddatblygwyd yn flaenorol neu adeiladau nas defnyddir ddigon, gan gynnwys tir cyflogaeth sydd dros ben, ar gyfer tai cyn defnyddio safleoedd tir glas.

11.8 Mae hyrwyddo datblygiadau defnydd cymysg, lleihau’r gofynion o ran lleoedd parcio ceir, annog dwysedd uwch a gwaith dylunio o safon, darparu ar gyfer dewis o dai (gan gynnwys rhai fforddiadwy) a gwarchod hunaniaeth ddiwylliannol a chymunedol hefyd yn amcanion Polisi Cenedlaethol.

11.9 Mae’r gwaith o baratoi’r Cynllun a’i yrru yn ei flaen hefyd wedi ystyried Cynllun Gofodol Cymru, yn enwedig mewn perthynas â gogledd-ddwyrain Cymru.

 

Cyd-destun Sir y Fflint

11.10 Amcangyfrifwyd y byddai poblogaeth Sir y Fflint yn 147,100 yn 2000, a rhagwelir y bydd yn cynyddu i 153,200 erbyn 2015 yn ôl amcanestyniadau’r Cyngor ei hun. Y ffigurau hyn oedd y wybodaeth orau posibl a oedd ar gael pan baratowyd y Cynllun, ac fe’u defnyddiwyd am nad oedd amcanestyniadau dibynadwy ynghylch aelwydydd ar gael gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’n amlwg o’r ffigurau hyn bod poblogaeth Sir y Fflint yn debygol o greu angen sylweddol am anheddau newydd yn ystod cyfnod y Cynllun, galw amcanestynedig o 7,400 o anheddau yn ystod oes y Cynllun. Bydd hynny’n ymdrin ag anghenion y bobl leol yn bennaf, ond mae hefyd yn darparu ar gyfer anghenion y sawl sy’n symud i’r ardal. Mae gan Sir y Fflint hanes o fewnfudo net sy’n adlewyrchu ei lleoliad ar y ffin, ei ffyniant economaidd cymharol a’i hamgylchedd atyniadol. Mae amcanestyniadau’r Cynllun wedi tybio y bydd cyfartaledd lefel y mewnfudo’n gyson â chyfartaledd y duedd flynyddol a welwyd bron trwy gydol yr 1990au.

11.11 Fodd bynnag, nid amcanestyniadau yw’r unig ystyriaeth wrth benderfynu ar angen CDU Sir y Fflint o ran tai. Er hynny, wrth ystyried amryw ffactorau megis argaeledd safleoedd tai cynaliadwy a’r dewis ohonynt, cyfraddau adeiladu tai, prisiau tai, a’r pwysau o’r tu allan i ddatblygu oherwydd lleoliad Sir y Fflint ar y ffin, ystyrir bod yr angen a ragwelir am 7,400 o gartrefi newydd yn briodol. Yn y pen draw, cafodd nifer y tai newydd y gellir eu dyrannu yn Sir y Fflint ei seilio ar allu ei threfi a’i phrif bentrefi i ymdopi’n gynaliadwy â datblygiadau newydd o ran tai, a defnyddiwyd amcanestyniadau fel meincnod i gymharu’r asesiad hwn ag ef.

11.12 Cafodd asesiad bras o aneddiadau Sir y Fflint ei gynnal o ran faint o ddatblygiadau newydd y gellid ymdopi’n synhwyrol ac yn gynaliadwy â hwy. Mae ystod eang o ffactorau, megis argaeledd cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol, addasrwydd mynediad a seilwaith o ran ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus a chyfyngiadau amgylcheddol, wedi eu hystyried wrth wneud yr asesiad hwn.

11.13 Gyda chymorth yr asesiad hwn, cafodd aneddiadau eu dosbarthu’n dair haen. Wrth lunio’r Cynllun, mae pob anheddiad wedi cael band twf dangosol sy’n adlewyrchu ei botensial cymharol i dyfu ar sail asesiad o gapasiti (gweler tabl 1). Mae prif aneddiadau trefol Sir y Fflint yn cynnwys ystod o wasanaethau a chyfleusterau, gyda chanol trefi’n cynnwys crynoadau sylweddol o safleoedd manwerthu a masnachu. Mae eu band twf arfaethedig rhwng 10% ac 20%. Mae’r ail gategori’n cynnwys y pentrefi mwy o faint (pob un â mwy na 200 o anheddau) sydd â chnewyllyn da o gyfleusterau, sy’n hawdd eu cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac sydd â rhywfaint o botensial i dyfu (8% - 15%). Mae polisi HSG3 yn mynnu y bydd angen cyfiawnhau unrhyw gynigion datblygu sy’n arwain at dwf o fwy na 15%, ar sail angen o ran tai. Mae’r categori pentrefi bach yn cynnwys yr aneddiadau lleiaf, sydd â chysylltiadau gwael â thrafnidiaeth gyhoeddus yn gyffredinol, sydd â chyfleusterau gwael, ac y mae llawer ohonynt wedi’u cyfyngu gan ddynodiadau amgylcheddol. Yn gyffredinol, bydd unrhyw dwf yn y band hwn wedi ei gyfyngu i uchafswm o 10% o’r stoc tai sy’n bodoli eisoes, lle bo hynny’n bosibl, a bydd angen hefyd i ddatblygiadau newydd ddiwallu anghenion lleol sydd wedi’u profi.

Tabl 1 – bandiau twf ar gyfer aneddiadau

Categori A - trefol (twf o 10 - 20%)

Bwcle

Treffynnon

Shotton/Aston

Cei Connah

Y Fferi Isaf

 

Y Fflint

Yr Wyddgrug

 

Categori B – lled-drefol / prif bentrefi (twf o 8 - 15%)

Ewlo

Mancot

Llaneurgain

Brychdyn

Garden City

Carmel

Saltney

Coed-llai

Caerwys

Mynydd Isa

Sychdyn

Treuddyn

Yr Hob/Caergwrle/ Abermor-ddu/Cefn-y-bedd

Pentre Catheral

Gwernymynydd

Bagillt

Sandycroft

New Brighton

Pen-y-ffordd/ Penymynydd

Drury a Burntwood

Ffynnongroyw

Penarlâg

Gronant

Pentre

Maes-glas

Mostyn (Maes Pennant)

 

Categori C – pentrefi bach (twf o 0 - 10%)

Higher Kinnerton

Rhosesmor

Afon-wen

Pentre Helygain

Coed-talon/Pontybotgin

Pontblyddyn

Gwernaffield-y-Waun

Cymau

Cadole

Pant-y-mwyn

Gwaunysgor

Alltami

Pen-y-ffordd

Gorsedd

Chwitffordd

Trelawnyd

Nercwys

Bretton

Trelogan/Berthen-gam

Nannerch

Dobs Hill

Rhyd-y-mwyn

Helygain

Llanfynydd

Mynydd y Fflint

Y Ffrith

Ysgeifiog

Rhewl Mostyn

Rhes-y-cae

Cilcain

Licswm

Llanasa

Brynffordd

Talacre

Gwesbyr

 

 

11.14 Mae’r dosbarthiad hwn yn cydnabod bod gan aneddiadau gyfleoedd a chyfyngiadau gwahanol ar gyfer datblygu, ac mae’n caniatáu sylfaen gynaliadwy ar gyfer dosbarthu a rheoli pa mor gyflym y caiff tai eu datblygu yn ystod cyfnod y Cynllun. Ar yr un pryd, mae’n cynnal priodweddau amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol aneddiadau Sir y Fflint, yn enwedig y pentrefi llai.

11.15 Oherwydd cyfyngiadau unigol, sy’n cynnwys argaeledd safleoedd addas, mynediad, a chapasiti’r rhwydwaith priffyrdd, mae wedi bod yn anodd dod o hyd i safleoedd newydd addas mewn rhai aneddiadau, ac ni lwyddwyd i gyrraedd lefel y band twf a awgrymwyd. Mewn aneddiadau eraill aethpwyd yn uwch na’r lefel a awgrymwyd, yn benodol oherwydd yr ymrwymiadau sy’n bodoli eisoes o ran tai.

 

Yr Angen o ran Tai

11.16 Mae strategaeth aneddiadau’r CDU yn gosod fframwaith i ganiatáu lefel gynaliadwy o dwf yn Sir y Fflint. Un agwedd sydd wedi deillio o hynny, sy’n bryder allweddol a fynegwyd wrth baratoi’r CDU, fu’r awydd i leihau cyfraddau codi tai yn Sir y Fflint er mwyn osgoi parhau â lefelau uchel y gorffennol o ddatblygu tai, a ystyrir yn anghynaliadwy. Byddai hynny’n cyd-fynd ag ailasesu’r cyflenwad o dir cyflogaeth yn y CDU, ac yn adlewyrchu’r broses o ad-drefnu economi Sir y Fflint i ryw raddau, sy’n debygol o ddigwydd yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Felly, mae’r Cynllun yn ceisio darparu ar gyfer angen lleol yn bennaf, ac ar gyfer mesur rhesymol o fewnfudo. Bwriedir mynd i’r afael â chynnydd ym mhrisiau tai ac achosion o allgáu cymdeithasol trwy fabwysiadu dull cadarn o sicrhau tai fforddiadwy.

11.17 Yn ogystal, dylai’r dull o ymdrin â thai ystyried yr angen i osgoi gorddatblygu mewn pentrefi, ac i warchod rhag gorfod darparu ar gyfer y galw am dai sy’n deillio o Swydd Gaer, yn arbennig yn ardaloedd y ffin o gwmpas Caer. Yn y gorffennol, mae galw o’r fath wedi arwain at dwf gormodol na ellir ei gynnal mewn rhai pentrefi.

11.18 O ystyried y ffactorau hyn gyda’i gilydd, cynigir bod angen 7,400 o anheddau ar gyfer cyfnod y Cynllun. Mae hynny’n darparu ar gyfer anghenion pobl leol, ond mae hefyd yn caniatáu ar gyfer rhywfaint o fewnfudo net gan ostwng lefelau tueddiadau’r gorffennol, y dangoswyd eu bod yn arwain at dwf anghynaliadwy o ran tai. Fel cyfartaledd blynyddol, mae’r ffigur hwn yn cyfateb i 493 annedd newydd y flwyddyn trwy gydol cyfnod y Cynllun, sydd 16% yn is na chyfartaledd cyfradd cwblhau tai Sir y Fflint ar gyfer y cyfnod o bum mlynedd hyd at ddyddiad dechrau’r Cynllun. Mae’r dull gweithredu hwn yn gwbl gyson â’r hyn a nodir yn y canllaw a fabwysiadwyd, sef Canllaw Cynllunio Rhanbarthol Gogledd Cymru (paragraff 7.3 Bydd y ddarpariaeth dai mewn Cynlluniau Datblygu Unedol …) ac sydd wedi cael ei ddilyn gan Awdurdodau Cynllunio Lleol eraill yng ngogledd Cymru.

11.19 Yn ystod ei 5 mlynedd cyntaf, mae’r Cynllun wedi ‘tangyflawni’ yn yr ystyr ei fod wedi tanddarparu ar gyfer tua 500 o dai. Os yw’r Cynllun am wireddu ei amcanion, mae angen darparu o hyd ar gyfer yr elfen hon o’r cyflenwad yn ystod gweddill cyfnod y Cynllun. Mae capasiti ychwanegol wedi dod i’r amlwg ar ffurf safle mawr defnydd cymysg, sy’n rhannol yn dir llwyd, yn Garden City. Effaith gyfunol y ddwy elfen hyn yw ei bod bellach yn bosibl cyflawni angen amcanestynedig gwreiddiol y Cynllun, sef 7,400, mewn modd cynaliadwy. Mae’r dull gweithredu hwn yn cynrychioli newid o’r dull ‘rhagweld a darparu’ traddodiadol i gyfeiriad dull ‘cynllunio, monitro a rheoli’. Gyda’r dull ‘cynllunio, monitro a rheoli’, mae’r Cynllun wedi mabwysiadu agwedd fwy gofalus at ddarparu tir ar gyfer tai, ar y sail y bydd gweithredu’r Cynllun yn cael ei fonitro’n fwy manwl trwy ei fframwaith monitro ac y bydd unrhyw dueddiadau neu faterion cyflawni a nodir yn cael sylw trwy adolygiadau rheolaidd o’r Cynllun.

 

Y Cyflenwad Tai

11.20 Mae angen rhoi sylw i nifer o ffactorau a rhagdybiaethau wrth ystyried sut y bydd yr angen am 7,400 o dai newydd yn cael ei ddiwallu o fewn CDU Sir y Fflint. Er y bydd cyfran sylweddol o’r ddarpariaeth yn golygu adnabod safleoedd ar gyfer tai newydd, bydd angen ystyried materion eraill hefyd, megis ymrwymiadau presennol a datblygu’r stoc tai sy’n bodoli eisoes trwy addasu, defnyddio tai gwag/segur, a newid defnydd.

11.21 Mae’r adran hon yn cyflwyno’r ‘fantolen’ dai, gan gymryd yr angen a nodwyd am 7,400 o dai ac egluro sut y mae wedi ei ddiwallu o gyflenwad hysbys sy’n bodoli eisoes neu gyflenwad a ddisgwylir, a chan nodi’r gweddill y bydd yn rhaid i’r CDU ei ddarparu ar ffurf safleoedd newydd. Dyma’r elfennau allweddol yn y fantolen:

11.22 Mae’r tabl canlynol (2) yn mesur yr elfennau uchod yn y cyflenwad ac yn eu tynnu o’r ffigur ynghylch angen o ran tai i roi nifer y tai newydd y bydd angen eu dyrannu ar safleoedd newydd yn y CDU. Mae’r tabl wedi ei ddiwygio i adlewyrchu’r sefyllfa a nodir yn Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai 2010. Bydd hynny’n golygu y bydd y newidiadau sydd wedi digwydd yn ystod deng mlynedd cyntaf cyfnod y Cynllun, ers y dyddiad sylfaenol (2000), yn gallu cael eu hystyried wrth benderfynu ar yr angen gweddilliol sydd i’w ddiwallu drwy ddyraniadau newydd ar gyfer tai.

Tabl 2: ‘Mantolen’ Angen am Dai y CDU

Fel yr oedd ym mis Ebrill 2010, gyda’r angen wedi’i ddiwygio

 

Angen (2000-2015)

 7,400

 

Namyn y tai a gwblhawyd:

2000-2001

474

2001-2002

239

2002-2004

621

2004-2005

347

2005-2006

318

2006-2007

317

2007-2008

494

2008-2010

478

 

3,288

 

Yr angen diwygiedig:

4,112

 

Namyn ymrwymiadau a lwfansau:

 

Safleoedd sydd wedi cael caniatâd cynllunio ac sydd mewn Cynlluniau Mabwysiedig

1,938

Safleoedd a ddyrannwyd mewn Cynlluniau Nas Mabwysiadwyd (Cynllun Lleol Drafft Gogledd Sir y Fflint yn unig)

0

Lwfans Safleoedd Bach (9 uned neu lai) 60/y flwyddyn

0*

Lwfans Safleoedd Annisgwyl (10 uned neu fwy) 50/y flwyddyn

250

 

2,188

 

Angen gweddilliol:

1,924

 

Dyraniadau newydd sy’n weddill yn y CDU**

2879

Nifer y dyraniadau sy’n ormod

955

Lwfans hyblygrwydd o 10% yn cyfrif am

740

Hyblygrwydd pellach

215

Lwfans Hyblygrwydd Gwirioneddol

13%

D.S. Yn cynnwys datblygiad defnydd cymysg strategol ar dir i’r gogledd-orllewin o Garden City (HSG2A)

 

* Mae lwfans ar gyfer safleoedd bach eisoes wedi’i gynnwys yn y ffigur o 1,938

** Dyraniadau’r CDU heb ganiatâd cynllunio ac sy’n cynnwys 650 uned i’r gogledd-orllewin o Garden City

 

11.23 Mae’r fantolen ddiwygiedig yn dangos, o ystyried y tai a gwblhawyd yn ystod deng mlynedd cyntaf cyfnod y Cynllun, bod angen diwygiedig am 4,112 o unedau yn 2010. Mae ymrwymiadau presennol (safleoedd sydd wedi cael caniatâd cynllunio a safleoedd a ddyrannwyd eisoes) ynghyd â lwfansau ar gyfer datblygu safleoedd bach a safleoedd annisgwyl yn ystod gweddill cyfnod y Cynllun, eisoes yn cyfrif am 2,188 uned neu 53% o’r angen diwygiedig. Mae hynny’n ddigonol i sicrhau bod tir ar gael mewn gwirionedd neu y bydd yn dod ar gael i ddarparu cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai.

 

Darparu Safleoedd Tai Newydd

11.24 Mae’r Cyngor Sir wedi mabwysiadu dull dilyniannol o asesu safleoedd posibl ar gyfer tai newydd, fel y nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru, ac mae’r dull hwnnw wedi cynnwys ailasesu safleoedd cyflogaeth sy’n bodoli eisoes. Cynhaliwyd arolygon i asesu argaeledd tir llwyd addas ar gyfer datblygu tai, ac er y gallai ardaloedd sylweddol o hen dir diwydiannol neu dir diwydiannol a danddefnyddir fodoli yn Sir y Fflint, nid yw’r safleoedd hyn yn addas ar gyfer datblygu tai oherwydd cyfuniad o gyfyngiadau, sef mynediad i’r priffyrdd a pherygl llifogydd. Lle bo hynny’n bosibl, mae safleoedd tir llwyd addas wedi eu dyrannu, ac o blith y safleoedd newydd a dyrannwyd yn y Cynllun, mae safleoedd tir llwyd (neu safleoedd sy’n rhannol yn dir llwyd) yn cyfrif am 37% o’r cyfanswm.

11.25 Mae’r safleoedd a nodwyd ym mholisïau HSG1 a HSG2A yn ddigonol i ddarparu 2,879 o unedau’n seiliedig ar y dwyseddau gweithio sy’n berthnasol i bob safle (30/ha mewn aneddiadau categori A, B ac C). Yn amlwg, mae hynny 955 yn fwy na’r ffigur ar gyfer angen gweddilliol (1,924), sy’n cyfateb i ‘orddarpariaeth’ neu hyblygrwydd o 13% mewn perthynas â’r ffigur gweddilliol a geisir. Er nad yw’r Cyngor yn bwriadu darparu gormod o safleoedd yn fwriadol, mae angen yr hyblygrwydd yn y ddarpariaeth o ran safleoedd newydd er mwyn darparu ar gyfer unrhyw faterion neu gyfyngiadau nas rhagwelwyd a allai godi, a fyddai’n golygu bod rhai safleoedd yn symud ymlaen yn y broses ddatblygu wrth i rai safleoedd lithro’n ôl. Mae lefel yr hyblygrwydd a ganiateir yn cyfateb i’r arfer safonol yn y mwyafrif o gynlluniau datblygu.

 

Polisïau

HSG1 Cynigion Datblygu Tai Newydd

Mae tir wedi ei ddyrannu ar gyfer datblygu tai newydd ar y safleoedd canlynol, fel y dangosir ar y map cynigion:

Cyf.

Anheddiad

Safle

Arwynebedd (hectar)

Cyfanswm nifer yr unedau

Tir llwyd

Aneddiadau Categori A

1

Bwcle

Mount Pool

0.8

15

Tir llwyd

2

Bwcle

Depo Whitley, Padeswood Road

0.89

27

-

3

Bwcle

Well Street

5.4

162

-

4

Bwcle

Somerfield

0.4

30

-

5

Cei Connah

Highmere Drive

5.4

162

-

6

Cei Connah

Llwyni Drive

4.6

138

-

7

Cei Connah

Gerllaw Fairoaks Drive, Mold Road

2.9

87

-

8

Cei Connah

Ffordd Llanarth

0.67

20

-

9

Y Fflint

I’r gogledd-orllewin o Ysgol Cornist Park

1.0

30

-

10

Y Fflint

Halkyn Road

1.6

48

-

11

Treffynnon

Ysbyty Lluesty

1.7

70

Tir llwyd

12

Treffynnon

I’r dwyrain o Halkyn Road

1.5

45

-

13

Yr Wyddgrug

Taylor's Tiles

0.1

18

Tir llwyd

14

Yr Wyddgrug

Queens Park, Hendy Road

1.7

51

-

15

Yr Wyddgrug

I’r gorllewin o Barc y Santes Fair, Rhuthin Road

1.5

45

-

16

Yr Wyddgrug

Upper Bryn Coch Lane

1.0

15

-

Aneddiadau Categori B

17

Bagillt

Wern Farm

1.5

 45

-

18

Brychdyn

I’r de o’r Parc Manwerthu

9.4

235

-

19

Brychdyn

Compound Site

1.8

54

Tir llwyd

20

Caerwys

Summerhill Farm, Drovers Lane

1.8

54

Tir llwyd

21

Drury a Burntwood

I’r de o Clydesdale Road, Drury

1.7

51

-

22

Ewlo

I’r gorllewin o Ysgol Gynradd Ewloe Green

0.8

24

-

23

Ewlo

I’r de o’r Larches

1.2

14

-

24

Ewlo

Y tu cefn i Bon Accord, Holywell Road

1.1

27

-

25

Maes-glas

Ysgol Maes-glas

0.4

12

Tir llwyd

26

Gronant

I’r dwyrain o Gronant Hill

0.9

27

-

27

Penarlâg

Overlea Drive

1.9

48

-

28

Yr Hob

Bridge Farm, Fagl Lane

1.9

57

-

29

Yr Hob

I’r gorllewin o Ysgol Abermor-ddu

1.3

39

-

30

Coed-llai

Hen safle Laura Ashley

1.0

30

Tir llwyd

31

Mostyn

Ffordd Pennant - i’r gorllewin

1.8

 54

Rhan yn dir llwyd

32

Mynydd Isa

Rose Lane

1.9

57

-

33

New Brighton

Y tu cefn i / gan gynnwys gorsaf betrol New Brighton

1.1

33

Rhan yn dir llwyd

34

Llaneurgain

Ffordd Cei Connah

1.8

45

-

35

Pentre Cathedral

Cae Eithin Farm

3.1

93

-

36

Pen-y-ffordd

White Lion

4.4

132

-

37

Pen-y-ffordd

Wood Lane Farm

7.1

213

-

38

Sychdyn

Yr hen waith trin carthion, Wat’s Dyke Way

2.1

63

-

Aneddiadau Categori C

39

Coed-talon

Iard yr Orsaf / Depo

1.9

57

Tir llwyd

40

Higher Kinnerton

Y briffordd

1.2

36

-

41

Pen-y-ffordd

Llys Dewi

0.5

15

-

 

11.26 Mae mwyafrif y safleoedd newydd a ddyrannwyd yn estyniadau cynaliadwy i aneddiadau ac ardaloedd trefol sy’n bodoli eisoes. Maent mewn aneddiadau categori A neu B, y tu mewn i ffiniau aneddiadau neu’n cyffwrdd â hwy, ac yn agos i ddatblygiadau sy’n bodoli eisoes, sy’n gallu hwyluso mynediad a darparu cysylltiadau â seilwaith hanfodol. Mae gan y safleoedd hyn hefyd fynediad da i gyfleusterau a gwasanaethau eraill, ac maent yn cael eu gwasanaethu’n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus. Mae gweddill y safleoedd sydd wedi’u dyrannu ar safleoedd tir glas ar ymylon aneddiadau sy’n bodoli eisoes.

11.27 O’r holl safleoedd newydd sydd wedi’u dyrannu yn y CDU, mae chwe safle tir llwyd/estyniad trefol mawr (99 neu fwy o dai) yn cyfrif am 36% (1,042) o gyfanswm y safleoedd newydd a ddyrannwyd. Mae tri o’r safleoedd hyn yn darparu 462 o anheddau, ac wedi’u lleoli ym mhrif aneddiadau Bwcle a Chei Connah. Mae gweddill y safleoedd mewn aneddiadau categori B cynaliadwy (Brychdyn a Phen-y-ffordd/Penymynydd).

11.28 At ei gilydd, mae 31% o’r safleoedd newydd wedi’u dyrannu yn y prif aneddiadau categori A, ac mae 66% yn yr aneddiadau categori B (gan gynnwys tir i’r gogledd-orllewin o Garden City – HSG2A). Mae’r 3% sy’n weddill yn ddyraniadau mewn pentrefi gwledig categori C ac yn dri safle mewn tri phentref ar wahân, ac mae’r tri ohonynt yn safleoedd tir llwyd.

11.29 Mae’r dosbarthiad hwn yn adlewyrchu’r awydd i reoli cyfradd a dosbarthiad gwaith datblygu yn y Sir, gan sicrhau bod lefel y datblygu arfaethedig yn briodol i faint a chymeriad pob anheddiad. Dim ond ychydig o enghreifftiau sy’n bodoli lle mae pentrefi gwledig yn gwneud unrhyw gyfraniad sylweddol i’r angen cyffredinol am dai, ac mae rhesymau penodol a chynaliadwy dros bob un ohonynt. Mae polisi HSG3 yn ceisio monitro a rheoli dosbarthiad a lefel y twf mewn aneddiadau categori B ac C trwy fynnu, mewn rhai amgylchiadau, bod tai newydd yn cael eu cyfiawnhau ar sail anghenion lleol.

11.30 Ar safleoedd mawr ac ar safleoedd lle mae gofynion datblygu penodol i’w hystyried, bydd y Cyngor yn paratoi brîff datblygu sy’n amlinellu’r materion perthnasol a’r gofynion ar gyfer ymdrin â’r materion hynny’n rhan o unrhyw gynigion datblygu. Bydd y rhain yn rhan o ganllawiau cynllunio atodol a gynhyrchir i ategu’r Cynllun, a byddant yn ystyriaethau perthnasol wrth benderfynu ar geisiadau sy’n gysylltiedig â datblygu’r safleoedd dan sylw. Cydnabyddir bod nifer o’r safleoedd yn agos i safleoedd Natura 2000. Bydd cynigion datblygu manwl ar safleoedd o’r fath yn cael eu hasesu’n drylwyr o ran eu heffeithiau ar ddynodiadau cadwraeth natur rhyngwladol, ac mae’n debygol y bydd angen Asesiad Priodol ar eu cyfer.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

HSG2 Tai yng Nghroes Atti, Y Fflint

Caniateir tai newydd yn rhan o’r datblygiad defnydd cymysg yng Nghroes Atti ar yr amod:

  1. bod cymysgedd o wahanol fathau o dai yn cael eu darparu, gan gynnwys cyfran briodol o dai fforddiadwy;
  2. bod y tai’n cael eu datblygu fesul cam yn ystod cyfnod y Cynllun; ac
  3. bod y tai’n ddatblygiad a fydd yn batrwm i’w ddilyn, o ran ei ansawdd a natur arloesol ei ddyluniad, ei gynllun, ei ffurf a’i swyddogaeth.

11.31 Mae hwn yn safle datblygiad defnydd cymysg mawr a gafodd ei ddyrannu’n wreiddiol yng Nghynllun Lleol Gogledd Sir y Fflint a’i ddwyn ymlaen i’r CDU. Mae caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygu’r safle wedi’i roi eisoes, ac felly bwriad penodol y polisi hwn yw sefydlu’r angen am fframwaith datblygu clir ar gyfer y safle.

11.32 Bydd y Cyngor yn sicrhau bod cyfleusterau hamdden a manwerthu a chyfleusterau cymdeithasol a chymunedol ategol yn cael eu darparu wrth godi’r tai newydd, trwy gynllunio a chytuno ar y datblygiad o’r cychwyn cyntaf. Mae’r Cyngor yn ceisio cael datblygiad ar y safle hwn a fydd yn batrwm i’w ddilyn ac a fydd yn gosod safonau newydd mewn perthynas â chysyniad, dyluniad, ffurf, cynllun a swyddogaeth y datblygiad, a fydd yn cael eu rhoi ar waith ar safleoedd datblygu eraill yn Sir y Fflint lle bo hynny’n briodol.

11.33 Mae lleoliad a graddau mathau o ddefnydd tir o fewn y safle, a’r dull o’u darparu yn y dyfodol, sy’n cynnwys gwarchod nodweddion tirwedd, wedi eu pennu mewn brîff datblygu manwl ar gyfer y safle, y cytunwyd arno rhwng y Cyngor a’r datblygwyr fel sail ar gyfer datblygu’r safle hwn. Er y bydd yn rhaid i ddatblygwyr gael eu harwain gan ofynion y brîff hwn, mae’r Cyngor yn barod i ystyried cynigion amgen ac ategol ar ffurf datganiad dylunio manwl sy’n seiliedig ar y canllawiau dylunio diweddaraf sydd ar gael, megis y rhai a geir yn TAN12 ac mewn arfer gorau mewn mannau eraill.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

HSG2A Datblygiad Defnydd Cymysg Strategol: Tir i’r Gogledd-orllewin o Garden City

Mae tir i’r gogledd-orllewin o Garden City, fel y dangosir ar y Map Cynigion, wedi’i ddyrannu fel safle Datblygiad Defnydd Cymysg Strategol. Bydd y datblygiad yn cael ei gyflawni’n raddol yn ystod cyfnod y Cynllun, a dylai gynnwys yr elfennau allweddol canlynol:

  1. 20-25 hectar o dir ar gyfer tai (o leiaf 650 o anheddau), y bydd disgwyl i 30% ohonynt fod yn dai fforddiadwy;
  2. 98 hectar o dir cyflogaeth, yn bennaf at ddibenion B8, a ategir gan ddibenion B1 a B2;
  3. Cyfleusterau ysgol sy’n well a/neu’n newydd, cyfleusterau iechyd, adeilad cymunedol, siopau cyfleustra, mannau dinesig a gofynion cymunedol perthnasol eraill;
  4. 40 hectar o barcdir sy’n cynnwys mannau agored anffurfiol a ffurfiol a mannau â chyfarpar ar gyfer y cyhoedd, sydd â llwybrau cerdded a beicio priodol sy’n eu cysylltu â’r tai, yr ardaloedd cyflogaeth a’r ardaloedd eraill oddi amgylch;
  5. Mynedfeydd gwell i’r safle ar gyfer cerbydau, gan gynnwys y potensial i uwchraddio cyfnewidfa Drome Corner er mwyn darparu ar gyfer cyfnewidfa gradd lawn ar wahân;
  6. Gwelliannau eraill angenrheidiol i’r seilwaith priffyrdd a’r rhwydwaith priffyrdd lleol i ddatblygu ar gyfer y traffig sy’n debygol o gael ei gynhyrchu gan y datblygiad;
  7. System ddraenio gynaliadwy a gwelliannau angenrheidiol i’r seilwaith draenio sy’n bodoli eisoes, er mwyn darparu ar gyfer y datblygiad;
  8. Darpariaeth well o ran trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau â’r safle.

Bydd angen i gynigion manwl ddangos bod y datblygiad arfaethedig yn ymgorffori mesurau priodol a derbyniol ar gyfer lliniaru perygl llifogydd, yn unol â’r datblygiad a nodwyd ac y cytunwyd arno ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn yr asesiad canlyniadau llifogydd a gynhaliwyd i gefnogi dyrannu’r safle hwn.

Bydd angen cynhyrchu brîff datblygu manwl a chytuno arno. Bydd angen i’r brîff gynnwys prif gynllun ar gyfer y datblygiad cyfan, datganiad dylunio, a rhestr sy’n nodi camau’r datblygiad a’r gwelliannau i’r seilwaith cysylltiedig, sy’n ofynnol yn ystod pob cam.

Bydd angen i’r cynigion datblygu manwl ddangos na fydd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol sylweddol ar adnoddau dwr, trwy gyflwyno asesiad adnoddau / echdynnu dwr.

11.34 Mae’r tir i’r gogledd-orllewin o Garden City mewn lleoliad strategol, nid yn unig yn Sir y Fflint ond hefyd mewn cyd-destun gofodol cenedlaethol ac is-ranbarthol. Mae’r safle gerllaw un o brif ganolfannau cyflogaeth y rhanbarth (Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy), mae mewn man strategol o fewn ardal ehangach Glannau Dyfrdwy, a chaiff ei wasanaethu’n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus a’r rhwydwaith ffyrdd lleol a chefnffyrdd.

11.35 Mae’r safle yn cynnwys ardaloedd sylweddol o dir llwyd a thir nas defnyddir ddigon, sy’n well o safbwynt y drefn ddilyniannol ar gyfer datblygu sawl math o ddefnydd. O ystyried y manteision cynaliadwy hyn, mae’r safle mewn lle da ar gyfer defnydd cymysg, ar yr amod y gellir goresgyn effeithiau dau fater allweddol, sef perygl llifogydd o gofio dynodiad parth llifogydd C1 y safle, a swm y traffig sy’n debygol o gael ei gynhyrchu gan y datblygiad ynghyd â chapasiti’r rhwydwaith i ddarparu ar ei gyfer.

11.36 Mae astudiaethau cynhwysfawr wedi dangos bod y ddau fater hyn wedi eu hasesu ac y gellir eu goresgyn i fodloni’r asiantaethau cyfrifol, er mwyn galluogi’r Awdurdod Cynllunio Lleol i gyfiawnhau’n llwyr dyrannu’r safle ar gyfer datblygiad defnydd cymysg. Mae adroddiadau cynhwysfawr ar gael fel dogfennau cefndir i ategu’n llawn y penderfyniad i ddyrannu’r safle ar gyfer datblygiad defnydd cymysg.

11.37 Ystyrir bod datblygiad preswyl ar y safle hwn yn dderbyniol dim ond oherwydd bod canlyniadau llifogydd wedi cael eu hasesu’n gadarn ac y gellir eu gostwng i lefel sy’n peri’r risg leiaf posibl i fywyd, ac sy’n effeithio ac yn tarfu cyn lleied ag sy’n bosibl ar bobl, eiddo a pherygl llifogydd yn gyffredinol. Mae hyn yn seiliedig ar gyngor Asiantaeth yr Amgylchedd a’r ffaith ei bod yn derbyn yr asesiad canlyniadau llifogydd a’r mesurau y mae’n eu cynnig.

11.38 Ystyrir mai hyrwyddo’r safle ar gyfer datblygiad defnydd cymysg yw’r ffordd orau a mwyaf cynaliadwy o gyflwyno cyfleoedd o ran datblygu economaidd i gynnal datblygiad economi Sir y Fflint ac economi’r is-ranbarth ehangach, gan gyflawni amcanion cynaliadwyedd eraill ar yr un pryd, megis lleoli tai yn agos i swyddi, lleihau’r angen i deithio mewn car, defnyddio tir a ddatblygwyd o’r blaen, ac adeiladu cymuned gydlynus.

11.39 Dylai cydbwysedd cymharol gwahanol fathau o ddefnydd o ran cyflogaeth gael eu sefydlu yn rhan o’r broses o gynhyrchu brîff datblygu ar gyfer y safle, a bydd yn ystyried ffactorau sy’n cynnwys dyheadau economaidd y Cyngor ar gyfer y safle, galw’r farchnad, cydnawsedd â mathau eraill o ddefnydd, y traffig a gynhyrchir a’i effaith, a’r broses raddol o ddatblygu cyflogaeth y mae a wnelo â mathau eraill o ddefnydd a gwelliant i’r seilwaith.

11.40 O ran y defnyddiau cymysg ar gyfer y safle, mae’r polisi yn nodi defnyddiau’r prif rannau, a fydd yn cael eu disgrifio’n fwy manwl yn y brîff datblygu, y prif gynllun a’r datganiad dylunio. Bydd angen i unrhyw gynigion ar gyfer defnyddiau nad ydynt wedi’u pennu yn y polisi gael eu cysylltu â’r datblygiad o safbwynt yr angen amdanynt, a bydd angen eu cyfiawnhau hefyd o safbwynt eu priodoldeb mewn perthynas â pholisïau cynllunio cenedlaethol a lleol perthnasol. Er mai bwriad polisi HSG2A yw nodi a llywio’r broses o ddarparu gofynion allweddol ar gyfer datblygu’r safle, bydd hynny hefyd yn cael ei lywio gan y broses o gynhyrchu brîff datblygu cynhwysfawr, prif gynllun a datganiad dylunio. Bydd y rhain yn tynnu ar wybodaeth allweddol sydd eisoes wedi’i pharatoi yn rhan o arfarniad cynllunio manwl o’r safle, a byddant yn cefnogi’r broses o gyflwyno ceisiadau cynllunio dilynol a phenderfynu yn eu cylch.

11.41 Cydnabyddir bod y safle’n agos i safleoedd Natura 2000. Bydd cynigion datblygu manwl ar y safle’n cael eu hasesu’n drylwyr o ran eu heffeithiau ar ddynodiadau cadwraeth natur rhyngwladol, ac mae’n debygol y bydd angen Asesiad Priodol ar eu cyfer.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

HSG2B Hen Felin Decstilau Treffynnon

Mae tir ar safle Hen Felin Decstilau Treffynnon, fel y dangosir ar y Map Cynigion, wedi’i ddyrannu’n safle datblygiad defnydd cymysg. Dylai’r datblygiad gynnwys yr elfennau allweddol canlynol:

  1. datblygiad tai sy’n ddwys ac sydd o safon;
  2. datblygiadau o ran twristiaeth;
  3. datblygiadau masnachol eraill.

ar yr amod:

a. bod y gwaith datblygu’n hyrwyddo potensial Dyffryn Maes-glas o ran twristiaeth;

b. nad yw’r gwaith datblygu’n niweidio ardaloedd neu nodweddion gwerthfawr o ran tirwedd, trefwedd, cadwraeth natur a hanes, a lle bo hynny’n bosibl, ei fod yn eu gwella;

c. bod y gwaith datblygu’n cynnwys llwybrau cerdded a beicio i gysylltu’r datblygiad â’r ardal oddi amgylch;

ch. bod y gwaith datblygu’n cynnwys gwaith tirlunio caled a meddal o safon.

Bydd angen cynhyrchu gwaith brîff datblygu manwl a chytuno arno. Bydd angen i’r brîff gynnwys prif gynllun a datganiad dylunio manwl.

11.42 Mae safle’r Hen Felin Decstilau’n gyfle i ddatblygu cynllun defnydd cymysg dwys o safon, a all wneud cyfraniad i anghenion yr ardal leol a’r Sir o ran tai. Ar yr un pryd, gall helpu i hwyluso twristiaeth neu ddatblygiadau masnachol eraill a fyddai’n gwella apêl Dyffryn Maes-glas o ran twristiaeth ac yn gwella’i werth unigryw o ran treftadaeth. Ar hyn o bryd, mae’r safle yn cynnwys tir ac adeiladau diffaith nas defnyddir ddigon, y mae gwerth o ran treftadaeth yn perthyn i rai ohonynt. Yn ôl astudiaethau a gynhaliwyd, y ffordd orau a mwyaf cynaliadwy o hyrwyddo’r safle a denu datblygiad o safon a fydd yn gwarchod gwerth yr ardal o ran treftadaeth, yw trwy gynllun defnydd cymysg. Yn y bôn, gallai nid yn unig arwain at ddatblygu’r safle ond gallai hefyd adfywio’r ardal leol yn ehangach.

11.43 Fodd bynnag, yn absenoldeb cynigion manwl neu frîff datblygu ar hyn o bryd, ac o ystyried cymeriad y safle a’r ardal sydd o’i amgylch a’r cymysgedd o gyfyngiadau sy’n bodoli, mae’n anodd mesur cymysgedd cyffredinol y datblygiad a allai gael ei ddenu i’r safle neu fesur yr elfennau unigol. Felly, mae’r polisi yn dyrannu’r safle fel safle datblygiad defnydd cymysg ac yn rhoi syniad o’r ystod o ddefnyddiau a fyddai’n debygol o fod yn dderbyniol arno. Bydd dyraniad o’r fath yn ei gwneud yn bosibl i’r safle gael proffil uwch o ran ennyn diddordeb datblygwyr, gan sicrhau ar yr un pryd bod gan y Cyngor reolaeth dros union faint a natur y cynigion datblygu. Er mai bwriad polisi HSG2B yw nodi a llywio’r broses o ddarparu gofynion allweddol ar gyfer datblygu’r safle, bydd angen iddo gael ei ategu drwy gynhyrchu brîff datblygu a datganiad dylunio cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar werth y safle o ran treftadaeth ac sy’n nodi sut y dylai’r gwaith o ddatblygu’r safle fynd rhagddo. Bydd hynny’n sail ar gyfer unrhyw geisiadau cynllunio dilynol.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

HSG3 Tai ar Safleoedd sydd heb eu Dyrannu o fewn Ffiniau Aneddiadau

Ar safleoedd sydd heb eu dyrannu o fewn ffiniau aneddiadau, caniateir tai newydd, newid defnydd adeiladau dibreswyl i anheddau, adfer neu ailosod anheddau presennol, a datblygiadau mewnlenwi, ar yr amodau canlynol:

a. o ran aneddiadau yng nghategori C, mae’n golygu adnewyddu neu ailosod annedd bresennol neu ddiwallu anghenion lleol profedig ac yn gronnol nid yw’n arwain at dwf dros 10% ers 2000.

b. o ran aneddiadau yng nghategori B, mae'n golygu adnewyddu neu ailosod annedd bresennol neu lle byddai'n gronnol yn arwain at fwy na 15% o dwf ers 2000, caiff y datblygiad ei gyfiawnhau ar sail angen tai, a

c. lle mae datblygiad tai yn dderbyniol mewn egwyddor mewn aneddiadau yng nghategori A, B ac C:

  1. nad yw’n arwain at ddatblygu tandem neu orddatblygu mewn perthynas â chymeriad y safle a’r ardal amgylchynol;
  2. nad yw’n gwrthdaro â darpariaeth dai y CDU ar gyfer y Sir dros gyfnod y Cynllun; a
  3. bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisi GEN1

11.44 Ffiniau aneddiadau sy’n diffinio ffin eithaf a ffurf prif fannau adeiledig tref neu bentref. Maen nhw wedi’u diffinio i amgáu prif drwch yr anheddau sy’n ffurfio cnewyllyn anheddiad. Yn y mwyafrif o achosion, mae grwpiau hwnt ac yma o dai, a datblygiadau hirgul, heb eu cynnwys o fewn ffiniau aneddiadau.

11.45 Yn y mwyafrif o amgylchiadau, bydd yn briodol caniatáu datblygiadau preswyl o fewn trefi a phentrefi sydd â ffiniau anheddiad sydd wedi’u nodi. Dylai unrhyw gynnig fod yn gymesur â maint anheddiad ac ni ddylai orlethu pentrefi llai neu gynrychioli gorddatblygiad oherwydd agosrwydd un annedd i un arall. Bydd cynigion i ddatblygu safleoedd mawr ar hap yn cael eu hystyried mewn perthynas ag argaeledd safleoedd a ddynodwyd a'u heffaith ar ddarpariaeth tai gyffredinol y CDU.

11.46 Mae'r Cynllun yn gyffredinol yn caniatáu datblygiadau tai o fewn ffiniau aneddiadau yn amodol ar sicrhau nad oes gormod o dai yn y Sir yng nghyd-destun y ffigwr gofyniad tai o 7,400 ar gyfer y Sir yn ystod cyfnod y cynllun, fel y nodir ym mholisi STR4. Mae strategaeth y Cynllun yn ceisio cyfeirio datblygiadau newydd i'r aneddiadau hynny, gan roi sylw i gategori anheddiad a gallu pob anheddiad i dderbyn twf newydd yn gynaliadwy. Mae lefelau o dwf sy’n sylweddol y tu hwnt i'r bandiau dangosol yn gwanhau'r strategaeth ofodol a'i nod o grynhoi datblygiad mewn ardaloedd mwy o faint a mwy hygyrch. Er mwyn hyrwyddo datblygu cynaliadwy a rheoli lleoliad datblygiadau, mae’r polisi hwn yn ymgorffori mecanwaith rheoleiddio cadarn i gyfyngu twf mewn aneddiadau llai.

11.47 Mewn aneddiadau categori C, mae maen prawf c. yn ei gwneud hi’n eglur y caiff tai ychwanegol eu caniatáu dim ond os byddan nhw’n cwrdd ag anghenion tai lleol profedig ac y dylent yn gronnol arwain at lai na 10% o dwf yn gyffredinol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd dadleuon o blaid cyfradd uwch o dwf i alluogi cynhwysiant cymdeithasol, ond dylai achosion o'r fath gael eu trin fel eithriad i'r polisi. Mae'r dull hwn yn unol â pholisi cenedlaethol sy'n cydnabod, er bod problem benodol â fforddiadwyedd tai yn yr ardaloedd gwledig, mae angen hefyd i ddatblygiadau ymgorffori egwyddorion cynaliadwy.

11.48 Mewn aneddiadau yng nghategori B, lle mae mwy o wasanaethau a chyfleusterau, mae maen prawf b. yn ei gwneud yn amlwg, yn achos datblygiad ychwanegol a fyddai'n arwain yn gronnol at fwy na 15% o dwf, y byddai angen ei gyfiawnhau ar sail yr angen am dai. Byddai’n rhaid i gyfiawnhad o safbwynt cwrdd â’r angen am dai gynnwys yr angen lleol am dai a/neu esboniad o pam y byddai’n rhaid i ddatblygiad ddigwydd mewn anheddiad categori B yn hytrach na chategori A, efallai y byddai'n cynnwys ailddatblygu safle tir llwyd. Unwaith eto mae’r dull hwn yn unol â pholisi cenedlaethol a byddai'n cyfeirio datblygiadau at y pentrefi mwy o faint yn yr ardaloedd gwledig lle gellir cefnogi’r gymuned leol, ei heconomi a’i gwasanaethau gan dwf ychwanegol.

11.49 Lle bo cynnig am dai yn cael ei wneud i fynd i'r afael ag anghenion lleol a nodwyd am dai, bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd nodi beth yw'r angen am dai y maen nhw’n yn ceisio ei ddiwallu. Os yw'r cynnig yn ceisio darparu cartref ar gyfer gweithiwr hanfodol y mae eu cyflogaeth yn mynnu eu bod yn byw mewn ardal benodol, bydd hi’n ofynnol i’r ymgeisydd gyflwyno manylion eu cyflogaeth i gefnogi eu cais. Bydd yr ACLl yn ystyried yr angen am brawf swyddogaethol ac ariannol i sefydlu bod yr angen yn ddilys ac a oes angen i rywun sy'n cymryd rhan yn y fenter fyw yn neu’n agos iawn at y gweithle. Os yw'r cynnig yn bwriadu darparu cartref neu gartrefi i fodloni'r angen am dai fforddiadwy, bydd angen i'r ymgeisydd ddarparu'r wybodaeth ganlynol i gefnogi cynigion datblygu fel a ganlyn: y nifer o anheddau; maint yr anheddau; amcangyfrif o gost gwerthu/rhentu ar gyfer yr anheddau; arwydd o fesurau i’w rhoi ar waith i gadw fforddiadwyedd yr eiddo; a'r cyfiawnhad dros y gost gwerthu/rhentu arfaethedig ar ffurf gwerthusiad ariannol cryno o'r datblygiad arfaethedig. Yn y ddau achos lle mae'r ACLl yn penderfynu rhoi caniatâd cynllunio, bydd yr ACLl yn mynd ati i osod amodau, a ble mae hynny’n briodol, gosod gofynion cyfreithiol i sicrhau y caiff unrhyw dai dilynol a ddarperir i gwrdd ag anghenion lleol eu cadw am gyhyd y bydd eu hangen gan y gymuned.

11.50 I weithredu fel mesur diogelu ac i fonitro llwyddiant y polisi, bydd y twf canrannol ar gyfer pob anheddiad o linell sylfaen 2000 yn cael ei fonitro’n flynyddol gan ystyried y canfyddiadau ffeithiol yn y Gyd-astudiaeth flynyddol ar Argaeledd Tir ar gyfer Tai.

11.51 Caiff datblygu tandem, sy'n cynnwys un ty yn union y tu ôl i dy arall ac yn rhannu'r un fynedfa, ei ystyried yn anfoddhaol oherwydd yr anawsterau o ran mynediad i'r ty yn y cefn a'r aflonyddwch a diffyg preifatrwydd a ddioddefir gan y ty yn y blaen.

11.52 Caiff datblygiadau newydd y tu hwnt i ffiniau aneddiadau eu gwrthwynebu ac eithrio mewn achosion penodol a amlinellir mewn polisïau sy'n dilyn.

 

Polisïau Allweddol Eraill:

 

HSG4 Anheddau Newydd y Tu Allan i Ffiniau Aneddiadau

Caniateir anheddau newydd y tu allan i ffiniau aneddiadau dim ond pan fyddant yn hanfodol i ddarparu cartref ar gyfer gweithiwr fferm neu weithiwr ym maes coedwigaeth sy’n gorfod byw yn ei weithle neu’n agos iawn iddo yn hytrach nag mewn annedd neu anheddiad cyfagos, ar yr amod:

a. bod holiadur sydd wedi’i lenwi’n briodol, a fydd yn destun asesiad annibynnol o’r angen swyddogaethol ac ariannol am yr annedd mewn perthynas â’r busnes, yn cyd-fynd â’r cynnig;

b. na ellir diwallu’r angen trwy addasu’n ddarbodus ac ailddefnyddio adeiladau sy’n bodoli eisoes ar y safle;

c. na chafwyd gwared ymlaen llaw ar annedd neu adeilad sy’n bodoli eisoes ar y fferm, a oedd yn addas i’w addasu, y gellid bod wedi’i ddefnyddio i ddiwallu’r angen hwn;

ch. bod yr annedd wedi’i leoli fel ei fod yn perthyn i adeiladau’r fferm neu’r ardal goedwigaeth sy’n bodoli eisoes, a bod ei ddyluniad, ei faint a’i olwg yn ystyried tirwedd yr ardal oddi amgylch; a

d. bod yr annedd arfaethedig yn briodol, o ran maint, arwynebedd llawr a math, i’r hyn y gall y fenter ffermio/coedwigaeth ei gynnal.

Bydd amod deiliadaeth yn cael ei osod ar yr annedd newydd, a chyfyngir cyfnod unrhyw ganiatâd cynllunio amlinellol i ddwy flynedd. Bydd angen i faterion a gadwyd yn ôl gael eu cymeradwyo o fewn dwy flynedd, a bydd angen i’r gwaith ddechrau o fewn tair blynedd i’r dyddiad penderfynu.

Os oes anheddau eraill o fewn fferm neu ardal goedwigaeth, gall y Cyngor geisio defnyddio cytundebau cyfreithiol i reoli eu deiliadaeth.

Bydd yn ofynnol i anheddau a ganiateir yn rhan o fentrau fferm neu goedwigaeth newydd, lle nad yw’r achos wedi’i brofi’n gyfan gwbl, fod yn anheddau dros dro am gyfnod o dair blynedd (neu nes bod y fenter wedi’i sefydlu’n llwyr), a bydd yn ofynnol eu symud o’r safle os yw’r fenter yn dod i ben.

11.53 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn rhoi pwyslais cryf ar reoli’n llym unrhyw waith datblygu anheddau newydd yng nghefn gwlad y tu allan i’r aneddiadau sy’n bodoli eisoes a nodir yn y CDU. Byddai datblygu tai’n wasgaredig, heb reolaeth, yn dinistrio cymeriad gwledig yr ardal o gefn gwlad, ac felly dim ond eithriadau cyfyngedig a ganiateir, sy’n cynnwys tai ar gyfer gweithwyr hanfodol yn bennaf.

11.54 Bydd y math hwn o dy fel arfer yn berthnasol i weithwyr fferm neu weithwyr coedwigaeth gan fod natur eu gwaith yn golygu bod arnynt angen annedd yn eu gweithle neu’n agos iddo, os nad oes annedd addas ar gael gerllaw. Fodd bynnag, ni all anghenion o ran amaethyddiaeth/coedwigaeth ynddynt eu hunain gyfiawnhau darparu anheddau newydd fel tai ymddeol ar gyfer ffermwyr/gweithwyr coedwigaeth.

11.55 Ym mhob achos, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr basio prawf swyddogaethol ac ariannol llym er mwyn cadarnhau a yw’r nodau a gafodd eu datgan, sef bod yn rhan o fenter fferm/coedwigaeth, yn ddilys a chadarnhau bod angen i unigolyn sy’n gysylltiedig â’r fenter fyw yn y gweithle neu’n agos iawn iddo, yn hytrach nag mewn anheddiad cyfagos. Bydd y Cyngor yn mynnu bod holiadur wedi’i lenwi’n cael ei gyflwyno i gyd-fynd ag unrhyw gais cynllunio; bydd yr holiadur yn cynorthwyo’r ymgeisydd i ddarparu’r wybodaeth mewn modd rhesymegol ac yn cynorthwyo’r Cyngor i asesu’r cynnig. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei hasesu gan ymgynghorwyr annibynnol a gyflogir gan y Cyngor. Mewn rhai sefyllfaoedd, gellid osgoi codi annedd newydd pe bai cyfle’n codi i brynu ty mewn pentref cyfagos neu addasu adeilad segur ar y safle yn llety addas. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod yr opsiynau hyn wedi’u harchwilio cyn cynnig annedd newydd. Gallai’r Cyngor gynnal ymchwiliad llawn i hanes y daliad os yw’n pryderu y gallai’r system gynllunio fod yn cael ei chamddefnyddio ac nad oes gwir angen am yr annedd arfaethedig. Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar y patrwm diweddar o ddefnyddio tir ac adeiladau, ac yn edrych a oes unrhyw anheddau newydd gael eu gwerthu o’r daliad.

11.56 Dylai dyluniad anheddau newydd fod o safon dda, a dylai ystyried y lleoliad a’r dirwedd gan gynnwys agosrwydd unrhyw adeiladau amaethyddol hyn cyfagos. Dylai maint yr anheddau fod yn gymesur ag anghenion swyddogaethol y fenter. Fel arfer ni chaniateir codi anheddau sy’n anghyffredin o fawr mewn perthynas ag anghenion y fenter, neu sy’n anghyffredin o ddrud i’w hadeiladu mewn perthynas â’r incwm y gallant ei gynnal yn yr hirdymor.

11.57 Pan fo’r annedd arfaethedig yn ymwneud â menter fferm neu goedwigaeth sydd newydd ei sefydlu, bydd y Cyngor yn rhoi caniatâd dros dro am y tair blynedd cyntaf ar gyfer defnyddio carafán neu fath arall o lety dros dro ar y safle, er mwyn rhoi amser i hyfywedd hirdymor y fenter gael ei sefydlu. Ni fydd caniatáu’r naill estyniad ar ôl y llall i ganiatâd dros dro yn dderbyniol yn gyffredinol.

11.58 Bydd unrhyw ganiatâd a roddir dan y polisi hwn yn destun amod deiliadaeth, a fydd yn mynnu bod deiliadaeth yr annedd newydd, ac os yw’n briodol, deiliadaeth anheddau eraill ar y daliad, yn cael ei chyfyngu i weithwyr hanfodol a’u dibynyddion. Mae’r Cyngor o’r farn bod dechrau adeiladu annedd gweithiwr hanfodol o fewn tair blynedd i unrhyw ganiatâd amlinellol yn rhesymol. Os na fydd hynny’n digwydd, bydd yr angen hanfodol yn cael ei amau.

 

HSG5 Datblygiad Mewnlenwi Cyfyngedig y Tu Allan i Ffiniau Aneddiadau

Mae’n bosibl y caniateir datblygiad mewnlenwi y tu allan i ffiniau aneddiadau ar gyfer un neu ddwy o unedau tai, ar yr amod bod y cynnig wedi’i fwriadu i ddiwallu angen lleol a brofwyd am dai a:

a. bod y datblygiad yn ymwneud â bwlch bach nad yw’n nodwedd bwysig o ran y dirwedd, cadwraeth natur, hanes nac amwynder arall o fewn grwp bach o dai, y gellir ei adnabod yn glir, mewn ffryntiad sydd wedi’i ddatblygu’n barhaus;

b. nad yw’n cynnwys nac yn estyn datblygiad hirgul sy’n bodoli eisoes, a fyddai’n niweidiol i gymeriad a golwg ardal o gefn gwlad agored, ac nad yw’n creu datblygiad tameidiog; a

c. bod y datblygiad yn parchu eiddo cyfagos a’r ardal oddi amgylch o ran ei leoliad, ei ffurf, ei ddyluniad a’i faint, ac nad yw’n golygu bod y safle’n cael ei orddatblygu.

11.59 Yn absenoldeb dyraniadau tai sylweddol mewn ardaloedd gwledig, a chan gydnabod yr angen i gadw rheolaeth lem ar ddatblygu tai y tu allan i ffiniau aneddiadau, mae angen sicrhau hefyd bod rhai cyfleoedd yn bodoli ar gyfer datblygiadau ar raddfa fach er mwyn diwallu anghenion cymdeithasol ac economaidd ardaloedd gwledig. Dylai unrhyw ddatblygiad newydd mewn ardaloedd gwledig fod â chysylltiad da â phatrwm presennol aneddiadau, gan leihau’r pwysau am ddatblygiadau gwasgaredig a datblygiadau sydd ar eu pen eu hunain.

11.60 Mae’r polisi hwn yn darparu cyfleoedd datblygu cyfyngedig a reolir yn llym mewn ardaloedd gwledig, trwy gyfyngu anheddau newydd i ddatblygiadau mewnlenwi uned sengl mewn grwpiau bach o dai y tu allan i ffiniau aneddiadau. Ni chaiff y grwpiau hyn o dai eu diffinio yn y Cynllun, a bydd pob cynnig datblygu dan y polisi hwn yn cael ei ystyried yn ôl ei deilyngdod ei hun. Yn unol â gofynion HSG3 mewn perthynas â thai newydd mewn aneddiadau categori C, bydd yn ofynnol i unrhyw dai newydd a ganiateir ar ffurf datblygiadau mewnlenwi mewn grwpiau bach o dai ddiwallu anghenion lleol o ran tai. Os bydd y cynnig yn ceisio darparu cartref ar gyfer gweithiwr hanfodol y mae ei swydd yn mynnu ei fod yn byw mewn lleoliad penodol, bydd yn angenrheidiol i’r ymgeisydd gyflwyno manylion am ei swydd i gefnogi ei gais. Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried a oes angen prawf swyddogaethol ac ariannol i gadarnhau a yw’r angen yn ddilys ac a oes angen i berson sy’n ymwneud â’r fenter fyw yn ei weithle neu’n agos iawn iddo. Os yw’r cynnig yn ceisio darparu cartref neu gartrefi i fodloni anghenion o ran tai fforddiadwy, bydd yn angenrheidiol i’r ymgeisydd ddarparu’r wybodaeth ganlynol i gefnogi’r cynigion datblygu: nifer yr anheddau; maint yr anheddau; amcan o gost gwerthu/rhentu’r anheddau; arwydd o’r mesurau a roddir ar waith i sicrhau bod yr eiddo’n parhau’n fforddiadwy; a chyfiawnhad dros y costau gwerthu/rhentu arfaethedig ar ffurf arfarniad ariannol cryno o’r datblygiad arfaethedig. Yn y ddau achos, pan fydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn penderfynu rhoi caniatâd cynllunio, bydd yr Awdurdod yn ceisio pennu amodau, a lle bo hynny’n briodol, pennu gofynion cyfreithiol er mwyn sicrhau bod unrhyw ddarpariaeth ddilynol o ran tai ar gyfer anghenion lleol yn cael ei chadw gyhyd ag y bydd ei hangen ar y gymuned.

11.61 Er mwyn bodloni gofynion y polisi hwn, mae’n rhaid i grwp o dai ffurfio ffryntiad adeiledig parhaus a/neu gnewyllyn o anheddau, er enghraifft ar groesffordd, a dylai gynnwys chwe annedd neu fwy. Rhaid sicrhau nad oes parseli unigol o gaeau yng nghanol grwp o dai. Yn yr un modd, caiff plot mewnlenwi o ran tai ei ddiffinio fel bwlch bach sydd â digon o le i un uned neu ddwy sy’n creu pâr, os dyna yw’r math mwyaf cyffredin o dy yn y grwp neu’r ffryntiad, o fewn llinell barhaus o ffryntiadau adeiledig. Mae’n rhaid i’r annedd mewnlenwi arfaethedig fod ar raddfa ac o gymeriad a maint cymharol i’r eiddo oddi amgylch, a rhaid iddo beidio â golygu bod y plot mewnlenwi’n cael ei orddatblygu.

11.62 Bydd ystyriaeth ofalus yn cael ei rhoi i effaith gronnol unrhyw gynigion datblygu dan y polisi hwn ar ffurf a chymeriad y grwp o dai sy’n bodoli eisoes. Bydd cynigion sy’n arwain at ddatblygiadau hirgul neu sy’n golygu bod datblygiadau hirgul yn parhau’n cael eu gwrthod.

 

HSG6 Anheddau Newydd yn Lle Hen Rai y Tu Allan i Ffiniau Aneddiadau

Dim ond dan yr amodau canlynol y caniateir codi annedd newydd yn lle hen annedd y tu allan i ffiniau aneddiadau:

a. bod gan yr adeilad sy’n bodoli eisoes hawliau defnydd cyfreithlon fel annedd;

b. bod modd byw yn yr annedd sy’n bodoli eisoes neu bod modd ei wneud yn addas i fyw ynddo heb wneud gwaith sy’n gyfystyr ag adeiladu annedd newydd;

c. nad oes diddordeb hanesyddol neu bensaernïol lleol sylweddol yn perthyn i’r annedd sy’n bodoli eisoes;

ch. bod yr annedd newydd o faint tebyg i’r annedd y mae’n bwriadu cymryd ei le, ac y dylai adlewyrchu cymeriad ac arddull adeiladu traddodiadol yr ardal leol o ran ei leoliad, ei ddyluniad, ei ffurf a’r deunyddiau a ddefnyddir; a

d. y dylai’r annedd newydd gael ei leoli ar safle’r annedd sy’n bodoli eisoes. Mewn achosion eithriadol, caiff lleoliad arall ei ystyried, os yw o fewn y cwrtil sy’n bodoli eisoes, neu gerllaw os bydd y cwrtil sy’n bodoli eisoes yn anymarferol oherwydd amodau ffisegol neu gyfyngiadau amgylcheddol, ar yr amod bod hynny’n golygu gwelliant amgylcheddol cyffredinol i’r safle presennol a’r safle arfaethedig.

11.63 Dan y polisi hwn, ni chaniateir codi anheddau newydd yn lle anheddau gwag sydd wedi eu gadael yn segur am gyfnod hir ac sydd wedi mynd yn adfeilion. Yn yr un modd, ni chaniateir codi anheddau newydd yn lle anheddau sydd wedi eu defnyddio fel llety gwyliau neu at ddibenion dros dro eraill. Derbynnir y gallai achlysuron godi pan fydd annedd sy’n bodoli eisoes y tu allan i ffiniau aneddiadau wedi’i leoli’n amhriodol neu’n brin o gyfleusterau, a fyddai’n golygu ei fod yn anaddas ar gyfer bywyd modern heddiw. Ym mhob achos, er mwyn bodloni gofynion y polisi hwn, rhaid bod gan yr annedd sy’n bodoli eisoes hawliau defnydd cyfreithlon fel annedd a rhaid bod modd byw ynddo yn ei gyflwr presennol neu bod modd ei wneud yn addas i fyw ynddo yn ôl safonau modern, heb orfod gwneud gwaith sy’n gyfystyr â gwaith ailadeiladu sylweddol.

11.64 Dylid lleoli’r annedd newydd, yn rhannol o leiaf, ar sail y strwythur blaenorol oni bai fod rhesymau da dros adleoli’r annedd (megis ymsuddiant). Mewn achosion o’r fath, bydd gofyn dymchwel yr annedd gwreiddiol pan symudir i’r annedd newydd. Ni ddylai’r annedd newydd fod yn llawer mwy na’r gwreiddiol, a bydd cynnydd o fwy na 50% yn arwynebedd y llawr yn annerbyniol yn gyffredinol. Dylid sicrhau bod yr annedd newydd yn gwella golwg y safle a’i gyffiniau trwy roi sylw manwl i raddfa a dyluniad sy’n briodol ar gyfer ei leoliad gwledig.

11.65 Mae llawer o dai, er nad ydynt yn adeiladau rhestredig, o ddiddordeb hanesyddol lleol ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i hynodrwydd lleol oherwydd eu hoedran, eu defnydd o ddeunyddiau traddodiadol neu ddyluniad brodorol, a’u cysylltiad yn y gorffennol â materion economaidd a diwylliannol. Pan fydd adeiladau o’r fath wedi’u nodi, gwrthwynebir eu dymchwel a chodi adeiladau newydd yn eu lle.

 

HSG7 Newid Defnydd i Ddefnydd Preswyl y Tu Allan i Ffiniau Aneddiadau

Caniateir newid defnydd adeilad dibreswyl sy’n bodoli eisoes y tu allan i ffiniau anheddiad yn annedd yn yr achosion canlynol yn unig:

a. os yw’n addas i’w ddefnyddio ar gyfer cyflogaeth, bod yr adeilad wedi ei hysbysebu am bris rhesymol i’w werthu neu’i brydlesu at ddiben cynhyrchu cyflogaeth, am o leiaf blwyddyn heb lwyddiant; neu

b. bod newid i ddefnydd preswyl yn eilbeth mewn cynllun i ailddefnyddio’r adeilad at ddiben busnes; neu

c. y byddai’r annedd a fyddai’n cael ei greu yn cyfrannu at angen a nodwyd am dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol.

ar yr amod:

  1. bod strwythur yr adeilad yn gadarn ac y gellir ei addasu heb ei estyn yn sylweddol, ei ailadeiladu’n helaeth neu’i newid yn allanol. Bydd angen arolwg strwythurol annibynnol manwl fel tystiolaeth i gefnogi’r cais;
  2. bod gan yr adeilad nodweddion pensaernïol a hanesyddol traddodiadol sy’n teilyngu cael eu cadw ac a gedwir yn rhan o’r cynllun;
  3. bod defnydd preswyl o’r adeilad a’r cwrtil yn sicrhau digon o breifatrwydd a lle o gwmpas anheddau, ac nad yw’n cael effaith annerbyniol ar gymeriad a golwg yr ardal oddi amgylch oherwydd ei leoliad, ei faint, ei ddyluniad, ei ffurf, ei ddefnydd o ddeunyddiau a thirlunio;
  4. bod safonau rhesymol o amwynder preswyl yn cael eu darparu gan y cynnig.

11.66 Bydd y Cyngor yn rhoi ystyriaeth garedig i newid defnydd adeiladau o werth pensaernïol neu hanesyddol sy’n bodoli eisoes yn ddefnydd preswyl, yn hytrach na gadael iddynt ddirywio. Oherwydd yr angen i sicrhau rheolaeth lem ar ddatblygu tai newydd y tu allan i ffiniau aneddiadau, dim ond adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol teilwng fydd yn cael eu hystyried ar gyfer gwaith addasu dan y polisi hwn. Pe bai adeiladau eraill heb unrhyw ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn cael eu hystyried, byddai’n arwain at yr hyn mae’r Cynllun a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol yn ceisio ei osgoi, sef gormod o anheddau newydd mewn ardaloedd o gefn gwlad agored. Mae llawer o adeiladau traddodiadol hyn yn eu hanfod yn atyniadol, ac oherwydd y defnydd a wneir o ddeunyddiau naturiol megis cerrig a llechi, maent yn ymdoddi i’w hamgylchedd naturiol.

11.67 Mae Canllawiau Cynllunio Cenedlaethol yn rhoi blaenoriaeth i addasu adeiladau gwledig ar gyfer defnydd sy’n ymwneud â chyflogaeth yn hytrach na defnydd preswyl, oni bai fod yr addasu i ddefnydd preswyl yn eilbeth mewn cynllun i ailddefnyddio’r adeilad at ddiben busnes, neu’i fod yn cyfrannu at angen a nodwyd am dai fforddiadwy. Mae’r polisi hwn yn ceisio gwahaniaethu rhwng adeiladau gwledig â defnydd economaidd sy’n bodoli eisoes, y gallai eu haddasu i ddefnydd preswyl gael effaith niweidiol ar yr economi leol, a’r adeiladau hynny nad oes iddynt ddefnydd economaidd mwyach. Fodd bynnag, oherwydd yr angen i arallgyfeirio’r economi wledig, rhaid i gynigion gael eu cefnogi gan ddatganiad gan yr ymgeisydd ynglyn â’r ymdrechion dilys a wnaed i hysbysebu’r eiddo i’w werthu neu’i brydlesu at ddefnydd sy’n ymwneud â chyflogaeth, gyda gwerthwyr eiddo cydnabyddedig a/neu mewn cylchgronau eiddo priodol, am bris rhesymol ac am o leiaf blwyddyn. Bydd hynny’n ofynnol dim ond pan fydd yr adeilad yn cael ei ystyried yn addas i’w ddefnyddio i gynhyrchu cyflogaeth gan ystyried nodweddion yr adeilad, y safle a’r hyn sydd o’i amgylch, a mynediad i gerbydau a’r rhwydwaith priffyrdd lleol.

11.68 Ni fydd pob adeilad yn addas ar gyfer newid defnydd. Efallai na fydd y rhai sydd wedi’u newid yn sylweddol ers eu codi’n wreiddiol neu nad ydynt o werth pensaernïol digonol yn deilwng i’w cadw neu’n rhy fach i’w haddasu heb eu hestyn yn helaeth. Mae’n rhaid i strwythur yr adeilad gwreiddiol fod yn gadarn, neu mae’n rhaid bod modd ei wneud yn gadarn heb orfod gwneud gwaith sy’n gyfystyr ag ailadeiladu. Bydd angen arolwg strwythurol gyda phob cynnig i gadarnhau cyflwr adeilad. Mae’n rhaid hefyd iddo allu darparu ar gyfer y defnydd newydd heb fod angen estyniadau sylweddol a allai ddinistrio’i gymeriad neu arwain at orddatblygu. Dylai’r pwyslais fod ar gadw’r agoriadau sy’n bodoli eisoes, ac ychwanegu estyniadau bach sy’n ategu’r cynllun addasu heb dynnu oddi wrtho. Bydd rhannu’r adeilad yn fwy nag un uned breswyl yn dibynnu ar ei faint a’r lle sydd ar gael o gwmpas yr adeilad, a’r graddau y mae’n addas i’w droi’n fwy nag un uned. Dylai pob cynllun gydymffurfio â safonau’r Cyngor ar gyfer lle o gwmpas anheddau, “Space Around Dwellings”, er mwyn sicrhau bod lle digonol rhwng anheddau presennol ac anheddau newydd arfaethedig.

11.69 Ym mhob achos, rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau sadrwydd yr adeilad yn ystod unrhyw waith addasu. Pe bai rhan o’r adeilad neu’r adeilad cyfan yn disgyn, am ba reswm bynnag, byddai’r caniatâd cynllunio’n ddi-rym.

 

Polisïau allweddol eraill

 

HSG8 Dwysedd y Datblygiadau

Caniateir datblygu tai newydd pan fydd dwysedd y datblygiad:

a. yn gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r tir sydd ar gael;

b. yn adlewyrchu nodweddion y safle a’r ardal oddi amgylch;

c. yn cynorthwyo i ddiwallu anghenion trigolion Sir y Fflint o ran ystod o wahanol fathau o dai;

ch. yn defnyddio egwyddorion dylunio o safon i gynyddu dwysedd gwaith datblygu heb beryglu ansawdd yr amgylchedd byw a ddarperir; a

d. yn darparu’n ddigonol ar gyfer preifatrwydd a lle o gwmpas anheddau.

11.70 Dylid ystyried yr holl dir a ddyrennir i’w ddatblygu yn adnodd gwerthfawr, a dylid ei ddefnyddio mewn modd mor effeithlon ag sy’n bosibl. Gall datblygiadau mwy dwys gynorthwyo i leihau’r tir y bydd ei angen i ddiwallu anghenion o ran tai yn y dyfodol. Ar safleoedd a ddyrannwyd, mae angen dwysedd net cyffredinol o ran tai sy’n cyfateb i o leiaf 30 annedd yr hectar yng nghategorïau A, B ac C. Dylai datblygwyr hefyd geisio darparu 30 annedd yr hectar ar safleoedd nas dyrannwyd mewn aneddiadau yng nghategorïau A a B, a 25 annedd yr hectar ar safleoedd mewn aneddiadau yng nghategori C. Fodd bynnag, cydnabyddir y bydd amgylchiadau unigol yn amrywio’n ôl lleoliad y safle a chymeriad yr ardal oddi amgylch, ond bydd y Cyngor yn sicrhau bod datblygwyr yn gwneud y defnydd gorau o dir neu adeiladau.

11.71 Trwy ddefnyddio dulliau dylunio arloesol, mae’n bosibl adeiladu tai mwy dwys heb beryglu ansawdd cyffredinol y cynllun. Wrth geisio sicrhau dwyseddau uwch, rhaid i ddatblygwyr ystyried gwaith dylunio da sy’n gwneud y defnydd gorau o’r tir, sy’n creu amgylchedd byw pleserus heb orddatblygu’r safle, ac sy’n darparu digon o fannau agored.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

HSG9 Cymysgedd a Mathau o Dai

Dylai pob datblygiad tai newydd ddarparu cymysgedd priodol o anheddau o wahanol fathau a maint er mwyn creu cymunedau cymysg sy’n gynhwysol o safbwynt cymdeithasol.

11.72Er mwyn diwallu amrywiaeth o anghenion yn Sir y Fflint, rhaid darparu ystod o dai ar safleoedd. Bydd y Cyngor yn disgwyl i ddatblygwyr ddarparu cymysgedd priodol o anheddau o wahanol fathau a maint i ddiwallu anghenion lleol o ran tai. Er mwyn sicrhau bod cymunedau cymysg a chytbwys yn cael eu creu, dylai datblygiadau tai newydd osgoi creu ardaloedd eang o dai sydd â nodweddion tebyg. Trwy ddylunio a chynllunio’n ofalus, dylai fod yn bosibl osgoi gwahaniaethu rhwng mathau gwahanol o dai a deiliadaethau. Ceir canllawiau pellach ar dai fforddiadwy ym mholisi HSG10.

 

HSG10 Tai Fforddiadwy y Tu Mewn i Ffiniau Aneddiadau

Lle bo angen y gellir ei ddangos am dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol, bydd y Cyngor yn ystyried hynny’n ystyriaeth berthnasol wrth asesu cynigion ynghylch tai. Pan fydd yr angen hwn yn bodoli, bydd y Cyngor yn trafod â datblygwyr i ddarparu 30% o dai fforddiadwy mewn cynlluniau addas neu briodol y tu mewn i ffiniau aneddiadau.

11.73 Lle bo diffyg y gellir ei ddangos o dai fforddiadwy mewn ardal benodol, bydd y Cyngor yn trafod â’r datblygwr i sicrhau cymysgedd priodol o dai fforddiadwy o wahanol fathau a deiliadaethau yn rhan o gynllun tai newydd. At ddibenion y Cynllun, diffinnir Tai Fforddiadwy fel tai sy’n cynnwys tai rhatach na phris y farchnad/tai disgownt a thai cymdeithasol i’w gwerthu a/neu’u rhentu, sydd ar gael i bobl na fyddent fel arall yn gallu fforddio tai sydd ar gael ar y farchnad agored. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud gwaith sylweddol i asesu Marchnad Dai Sir y Fflint er mwyn nodi anghenion y Sir o ran tai a chynllunio ar eu cyfer. Yn 2005, lansiodd Sir y Fflint ei Hasesiad Anghenion Tai a gynhaliwyd gan yr ymgynghoriaeth, Fordham Research Ltd. Roedd yr astudiaeth hon yn nodi’r angen am 808 o anheddau fforddiadwy bob blwyddyn, am gyfnod o bum mlynedd, yn dibynnu ar gryfder parhaus y farchnad dai. Mae’r farchnad dai wedi newid yn sylweddol ers 2004/05, ac o ganlyniad mae maint y galw a nodwyd gan astudiaeth Fordham wedi newid.

11.74 Yn 2008, cafodd drafft o Asesiad Marchnad Dai Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWHMA) ei gyhoeddi. Mae’r asesiad hwn yn astudiaeth ar y cyd sydd wedi’i chynnal mewn partneriaeth ag awdurdodau Cymreig cyfagos. Fel astudiaeth Fordham, daeth astudiaeth NEWHMA i’r casgliad bod nifer sylweddol o anghenion nas diwellir o ran tai yn Sir y Fflint. Er mwyn diwallu anghenion a nodwyd o ran tai, roedd astudiaeth NEWHMA yn argymell bod 480 o dai newydd yn cael eu codi yn Sir y Fflint bob blwyddyn hyd at y flwyddyn 2021. Mae NEWHMA yn argymell y dylai 38% o’r holl dai newydd a adeiledir yn Sir y Fflint fod yn gartrefi fforddiadwy penodol, ac y dylid cael mwy o amrywiaeth o ran mathau a deiliadaethau’r holl gartrefi a ddarperir i ddiwallu anghenion aelwydydd incwm isel, aelwydydd ag un person a dau berson, ac aelwydydd â phobl hyn a phobl anabl.

11.75 Er bod y Cyngor wedi ymrwymo o hyd i gynyddu nifer y tai fforddiadwy penodol sydd ar gael, mae Polisi HSG10 wedi’i ddatblygu i ddarparu ar gyfer newidiadau yn y farchnad a allai, fel arall, olygu bod darparu tai fforddiadwy’n anymarferol yn economaidd ar gyfer datblygwr. Yn hyn o beth, mae’r Polisi yn ceisio darparu o leiaf 30% o dai fforddiadwy ar safleoedd sy’n o leiaf 1.0 hectar o faint neu sydd â digon o le i 25 annedd. Mae hynny dipyn yn is na’r argymhellion sydd yn yr Arolwg Anghenion Tai a gynhaliwyd yn 2005, ond fe’i cyfiawnheir gan yr angen am bolisi cytbwys sy’n ystyried newidiadau economaidd anochel na ellir eu rhagweld, a all newid hyfywedd cynllun datblygu’n ddramatig.

11.76 Ar sail yr angen a nodwyd yn astudiaeth NEWHMA, ynghyd â chapasiti’r Sir i ddarparu ar gyfer datblygiadau tai newydd, rhagwelir yn rhesymol y gallai’r CDU, trwy amod cynllunio neu gytundeb cyfreithiol, sicrhau rhyw 1,000 o dai fforddiadwy yn ystod cyfnod y Cynllun.

11.77 Lle nad yw cynlluniau’n darparu ar gyfer 30% o dai fforddiadwy, bydd yn ofynnol i ddatblygwyr sicrhau y gellir cyfiawnhau y cynnig yn ddigonol i fodloni’r Cyngor ynglyn â pham y dylid gwneud eithriad i’r polisi. Bydd union natur a maint y ddarpariaeth o ran tai fforddiadwy’n destun trafodaethau cynnar rhwng y Cyngor a’r ymgeisydd.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

HSG11 Tai Fforddiadwy mewn Ardaloedd Gwledig

Y tu allan i ffiniau aneddiadau sy’n bentrefi, caniateir cynigion i ddatblygu tai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig dan yr amodau canlynol yn unig:

a. bod tystiolaeth o angen lleol dilys ar gael am ddarpariaeth o’r fath;

b. nad oes safleoedd neu eiddo arall addas ar gael y tu mewn i ffiniau aneddiadau i ddiwallu’r angen;

c. bod y cynlluniau’n cyffwrdd â ffiniau aneddiadau ac yn ffurfio estyniadau rhesymegol i aneddiadau, gan osgoi datblygiadau hirgul a thameidiog ac ymgorffori mesurau addas ar gyfer trin ffiniau a thirlunio;

ch. bod maint, dyluniad a chynllun y datblygiad arfaethedig yn sensitif, yn briodol i faint a chymeriad yr anheddiad a’i leoliad yn y dirwedd, ac yn adlewyrchu maint yr angen a nodwyd; a

d. y bydd y tai yn parhau’n fforddiadwy am byth ar gyfer y sawl sydd mewn angen, gan y byddant yn cael eu rheoli gan gymdeithas dai, y Cyngor Sir ac ymddiriedolaeth bona fide neu sefydliad tebyg.

11.78 Mae tai fforddiadwy’n arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig lle mae llai o waith adeiladu’n digwydd a lle mae tai’n ddrutach yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae’n debygol na fydd digon o safleoedd tai ar gael yn yr ardaloedd hyn i ddarparu elfen o dai fforddiadwy mewn datblygiadau mwy o faint. Mae’r polisi hwn yn eithriad i’r egwyddor gyffredinol na fydd tai newydd yn cael eu caniatáu y tu allan i ffiniau aneddiadau, ac mae’n gwneud darpariaeth arbennig i ryddhau safleoedd bach ar gyfer tai mewn ardaloedd gwledig y tu allan i ffiniau aneddiadau sy’n bentrefi na fyddent fel arall yn cael eu dyrannu yn y CDU a lle mae angen lleol a brofwyd. At ddibenion y polisi hwn, “pentrefi” yw’r aneddiadau categori B ac C sydd yn ardal wledig Sir y Fflint fel y diffinnir gan ardal LEADER+ Cadwyn Sir y Fflint a/neu’r ardal a ddiffinnir dan y Fenter Ardaloedd Gwledig Erthygl 33 a gynhelir gan Lywodraeth Cymru.

11.79 Mae’n rhaid i safleoedd gael eu lleoli’n union gerllaw cyrion y pentref, a rhaid iddynt barchu golwg ffisegol a nodweddion dylunio’r eiddo oddi amgylch. Ni ragwelir y bydd y ddarpariaeth ar y safleoedd hyn yn fawr nac yn anghytbwys â chymeriad, ffurf a swyddogaeth y pentref neu’r patrwm presennol o aneddiadau yn Sir y Fflint.

11.80 Mae’r diffiniad o dai fforddiadwy a amlinellir ym mharagraff 11.69 yr un mor berthnasol i’r polisi hwn, ac mae’n rhaid i gynigion ddangos bod angen dilys am y math hwn o dai yn yr ardal leol. Mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth ategol o’r angen gydag unrhyw gynnig.

11.81 Bwriedir i’r polisi hwn fod yn berthnasol i gynlluniau tai a all barhau’n fforddiadwy am byth, ac nid yw’n berthnasol i gynigion gan bobl leol am anheddau unigol y maent am eu hadeiladu eu hunain, lle na ellir gwneud cynigion boddhaol i sicrhau y bydd yr annedd yn parhau’n fforddiadwy yn yr un modd. Mae gallu rheoli deiliadaeth yr anheddau yn yr hirdymor, er mwyn i ddeiliaid dilynol allu cael budd, yn rhan hanfodol o’r polisi. Y ffordd fwyaf ymarferol o gyflawni hynny yw trwy gynnwys sefydliad megis y Cyngor Sir neu gymdeithas dai yn y gwaith, neu drwy ffurfio ymddiriedolaeth leol. Bydd disgwyl i’r sefydliad neu’r datblygwr ymrwymo i gytundeb adran 106 i sicrhau bod cartrefi yn parhau’n fforddiadwy.

 

HSG12 Estyniadau a Newidiadau i Dai

Caniateir estyniadau neu newidiadau i anheddau sy’n bodoli eisoes ar yr amod bod y cynnig:

a. yn eilbeth o ran maint a ffurf i’r annedd sy’n bodoli eisoes, ac nad yw’n golygu y bydd y safle’n cael ei orddatblygu;

b. yn parchu dyluniad a lleoliad yr annedd sy’n bodoli eisoes a’r ardal oddi amgylch; ac

c. na fydd yn cael effaith annerbyniol ar y bobl sy’n byw gerllaw.

11.82 Mae angen stoc o anheddau o amrywiol faint i ddiwallu anghenion y bobl leol, ac mae estyniadau a gwelliannau i anheddau yn ffordd ddilys o wneud anheddau’n fwy o faint ac yn fwy ymarferol. Nod y polisi hwn yw sicrhau bod estyniadau a newidiadau i anheddau sy’n bodoli eisoes, p’un a ydynt mewn ardal o gefn gwlad agored neu mewn ardal adeiledig, wedi’u dylunio i barchu’r bensaernïaeth frodorol a gwella’r eiddo sy’n bodoli eisoes a’r ardal oddi amgylch. Fel canllaw cyffredinol, ni ddylai estyniad i dy fod yn fwy na 50% o’r arwynebedd llawr gwreiddiol, ac ni fydd estyniadau o faint a chymeriad amhriodol yn cael eu caniatáu.

11.83 Wrth ystyried ceisiadau, bydd ystyriaethau’n ymwneud ag amwynder (y trigolion cyfagos a’r eiddo sy’n destun y cais) o’r pwys mwyaf. Er nad oes gan y system gynllunio, er enghraifft, yr hawl i warchod golygfeydd pobl, bydd y polisi hwn yn atal unrhyw effaith niweidiol ar eiddo cyfagos ac ar gymeriad yr eiddo a’r hyn sydd o’i amgylch. Mae rhagor o ganllawiau dylunio manwl ar gael, a byddant yn cael eu diweddaru gan y Cyngor fel canllawiau cynllunio atodol i ategu’r Cynllun hwn.

 

HSG13 Rhandai

Caniateir rhandy dan yr amodau canlynol yn unig:

a. ei fod yn cael ei greu trwy estyn annedd sy’n bodoli eisoes;

b. neu, ei fod yn addasiad o adeilad sy’n bodoli eisoes mewn cwrtil annedd; ac

c. bod ei ddefnydd yn atodol i ddefnydd preswyl yr annedd sy’n bodoli eisoes.

11.84 Llety yn y cwrtil preswyl, sydd wedi’i gysylltu â phrif annedd ac sy’n atodol iddo yw rhandy preswyl, ac mae’n rhaid iddo gael ei ddefnyddio i’r pwrpas hwnnw. Fel arfer, defnyddir rhandai o’r fath i ehangu’r lle byw neu’r lle cysgu yn y prif dy, lle bydd y prif ystafelloedd preswyl yn aros. Os bydd y cyfleusterau yn y rhandy’n troi’n hunangynhwysol ac yn annibynnol ar yr annedd gwreiddiol, bydd y Cyngor yn barnu bod newid defnydd wedi digwydd am fod y llety’n cael ei ddefnyddio fel annedd ar wahân. Ceir rhagdybiaeth gyffredinol yn erbyn datblygiadau preswyl newydd y tu allan i ffiniau aneddiadau, a bydd y polisi hwn yn cael ei weithredu’n llym mewn amgylchiadau lle ceisir newid defnydd rhandy.

 

HSG14 Safleoedd Sipsiwn

Caniateir datblygu safleoedd parhaol newydd ar gyfer sipsiwn dan yr amodau canlynol yn unig:

a. bod angen y gellir ei ddangos am y safle;

b. nad oes safleoedd eraill addas ar gael, sydd â chaniatâd cynllunio neu sydd wedi’u dyrannu, ar gyfer defnydd o’r fath;

c. bod sgrîn naturiol yn bresennol, neu y gellir sgrinio’r safle yn ddigonol;

ch. y gellir darparu gwasanaethau am gost resymol;

d. na cheir unrhyw effaith annerbyniol ar amwynder a chymeriad yr ardaloedd oddi amgylch o ganlyniad i swn, llygredd, traffig neu broblemau parcio; ac

dd. y dylai safleoedd o’r fath fod o fewn pellter rhesymol i’r prif gyfleusterau cymdeithasol a chyfleusterau siopa.

11.85 Mae Canllawiau Cynllunio Cenedlaethol yn mynnu bod CDUau yn darparu’n ddigonol ar gyfer anghenion teuluoedd sipsiwn o ran llety. Mae gan Sir y Fflint safle preswyl sy’n bodoli eisoes ar gyfer sipsiwn ar dir sydd wrth ymyl ffordd osgoi’r Fferi Isaf, ac nid oes bwriad i ddyrannu tir ar gyfer safle arall ar hyn o bryd.

11.86 Dylid profi bod angen safle parhaol ar gyfer carafanau sipsiwn mewn lleoliad parhaol, gan fod y galw am ddefnydd o’r fath yn newid dros amser. Mae’r polisi hwn yn gosod y meini prawf a ddefnyddir i asesu unrhyw gynigion ynghylch safleoedd newydd ar gyfer sipsiwn yn Sir y Fflint. Mae’r polisi yn ymwneud â safle sipsiwn neu deithwyr y bwriedir iddo fod yn llety preswyl parhaol hirdymor. Mae’r Cyngor yn aros am ganlyniad asesiad o anghenion sipsiwn a theithwyr, a gynhaliwyd ledled gogledd Cymru ar ran holl Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru. Pan fydd y wybodaeth hon ar gael, fe’i defnyddir yn rhan o’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer asesu cynigion ynghylch datblygu safleoedd newydd.

11.87 Dylai safleoedd gael eu lleoli ar brif lwybrau neu’n agos i brif lwybrau teithio sipsiwn er mwyn hwyluso mynediad, a dylai fod yn bosibl eu gwasanaethu â draeniau newydd a gwasanaethau angenrheidiol eraill heb orfod gwneud gwaith sylweddol i osod seilwaith newydd. Yn ddelfrydol, dylid lleoli safleoedd o’r fath yn agos i’r prif drefi, lle ceir cnewyllyn o gyfleusterau sy’n gallu gwasanaethu safleoedd sipsiwn.

 

HSG15 Ailddefnyddio/Addasu Tai Mawr/Hen Adeiladau Sefydliadau Preswyl y Tu Allan i Ffiniau Aneddiadau

Caniateir cynigion i ailddefnyddio/addasu tai mawr/hen adeiladau sefydliadau preswyl y tu allan i ffiniau aneddiadau yn anheddau dan yr amodau canlynol:

a. bod y cynnig yn cynnwys addasu, adnewyddu neu newid defnydd adeilad neu grwp o adeiladau o fewn yr un cwrtil;

b. bod y cynnig yn cadw unrhyw nodweddion pensaernïol a hanesyddol teilwng sy’n gysylltiedig â’r adeilad(au);

c. y bydd yn bosibl addasu’r adeilad(au) yn ymarferol heb fod angen estyniad sylweddol neu ddatblygiad newydd cysylltiedig;

ch. y bydd yn rhaid bod unrhyw ddatblygiad newydd sy’n gysylltiedig â’r cynnig yn atodol i’r prif gynllun addasu, yn eilbeth o ran maint a ffurf i’r adeilad(au) sy’n bodoli eisoes, na fydd yn golygu bod y safle’n cael ei orddatblygu, ac y bydd yn parchu dyluniad a lleoliad yr adeilad(au) sy’n bodoli eisoes a’r ardal oddi amgylch;

d. na fydd y cynnig yn cael effaith annerbyniol ar bobl sy’n byw gerllaw; ac

dd. y bydd y cynnig yn cael ei gefnogi gan ddatganiad dylunio manwl.

Yn y lle cyntaf, ac os ydynt yn addas i’w defnyddio ar gyfer cyflogaeth, mae’n rhaid i’r cynigion ddangos bod ymdrechion dilys wedi’u gwneud i hyrwyddo a marchnata’r adeilad(au) ar gyfer y defnydd hwnnw.

11.88 Efallai na fydd gan rai plastai mawr a hen adeiladau sefydliadau preswyl, megis ysgolion a chwfeiniau, ddefnydd presennol dichonadwy mwyach, ond y byddant, serch hynny, yn gwneud cyfraniad i leoliad a chymeriad yr ardal oddi amgylch. Bydd y polisi hwn yn caniatáu i’r adeiladau hynny gael eu haddasu i greu nifer o anheddau llai o faint, os bydd gofynion y polisi’n cael eu bodloni.

11.89 Yn aml, mae’r adeiladau hyn wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig a gallant gyfrannu at ddarparu tai fforddiadwy. Bydd y Cyngor yn annog cynnwys elfen o dai fforddiadwy yn rhan o gynllun addasu arfaethedig.

11.90 Cydnabyddir bod nifer o adeiladau sy’n perthyn i gylch gwaith y polisi hwn yn debygol o fod o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol. Mewn achosion o’r fath, bydd cynigion datblygu’n cael eu hasesu ar sail y polisïau yn y bennod Amgylchedd Hanesyddol er mwyn sicrhau bod cyd-destun hanesyddol yr adeiladau’n cael ei ystyried yn llawn trwy gydol y broses ddatblygu.

Brig y dudalen