Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

Pennod 10

Mynediad a Chysylltiadau

Nodau Strategol Perthnasol

h. Trafnidiaeth a mynediad

Amcanion Polisi
#

Rhestr Bolisïau
#

a. PATRYMAU DATBLYGU – annog dull effeithlon o ran yr amgylchedd o ddosbarthu defnydd tir, gan sicrhau bod patrymau datblygu yn lleihau’r angen i ddefnyddio car

b. DEWIS AC INTEGREIDDIO – annog a hybu rhwydwaith trafnidiaeth amrywiol ac integredig gan ddarparu ar gyfer anghenion arbennig a dulliau eraill o deithio, megis beicio a cherdded

c. TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS – annog gwaith ehangu a gwella’r ddarpariaeth o ran trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn rhan o gynigion datblygu newydd

ch. RHEOLI A GOSTEGU TRAFFIG – gwella diogelwch, effeithlonrwydd ac ansawdd amgylcheddol trwy annog dulliau o reoli a gostegu traffig mewn datblygiadau newydd

d. ADNODDAU – gwneud y defnydd mwyaf effeithlon ac effeithiol o’r ffyrdd sy’n bodoli eisoes cyn mynd ati i wella ffyrdd neu adeiladu ffyrdd newydd

dd. YNNI – ceisio lleihau’r ynni a ddefnyddir, trwy leihau nifer y teithiau a wneir mewn ceir preifat

AC1 Cyfleusterau ar gyfer Pobl Anabl

AC2 Darpariaeth ar gyfer Cerddwyr a Hawliau Tramwy Cyhoeddus

AC3 Darpariaeth ar gyfer Beicwyr

AC4 Cynlluniau Teithio ar gyfer Datblygiadau sy’n Cynhyrchu Llawer o Draffig

AC5 Cyfleusterau Newydd / Gwell ar gyfer Trafnidiaeth Gyhoeddus

AC6 Gorsafoedd Rheilffyrdd

AC7 Gwarchod Rheilffyrdd nas Defnyddir

AC8 Bysiau

AC9 Darparu Cyfleusterau Newydd ar gyfer Cludo Nwyddau ar Reilffyrdd

AC10 Dociau Mostyn

AC11 Dociau / Glanfeydd Eraill

AC12 Parth Diogelu Maes Awyr

AC13 Mynediad ac Effaith Traffig

AC14 Gostegu Traffig

AC15 Rheoli Traffig

AC16 Gwella Ffyrdd / Dylunio Ffyrdd Newydd

AC17 Llwybrau a Ddiogelir

AC18 Darpariaeth o ran Parcio a Datblygiadau Newydd

AC19 Cilfannau ac Ardaloedd Picnic

AC20 Meysydd Parcio Lorïau

AC21 Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat

AC22 Lleoli Peirianwaith

AC23 Datblygiadau Newydd ac Ymyrryd â Signalau Telathrebu

AC24 Gosod Ceblau

Dangosyddion Perfformiad Polisi

Targedau

  1. Gostyngiad yn nifer neu % y teithiau a wneir mewn ceir
  2. Lefelau’r defnydd a wneir o drafnidiaeth gyhoeddus
  3. Datblygiadau newydd ar safleoedd mawr sydd o fewn 250m i arhosfan bysiau
  4. Nifer y datblygiadau sy’n cynhyrchu llawer o draffig, y darperir cynllun teithio ar eu cyfer
  5. Cynnydd yn y nifer sy’n teithio ar feic
  6. Y lleoedd parcio a ddarperir yn unol â’r safonau parcio sy’n pennu’r nifer uchaf o leoedd parcio
  7. Y mastiau telathrebu a ganiateir / a rennir
  8. Y cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus a weithredir
  9. Hyd a lled y rhwydwaith beicio (km)
  10. Nifer y datblygiadau sy’n gysylltiedig â maes awyr
  11. Nifer y datblygiadau sy’n gysylltiedig â phorthladd
  12. Patrymau teithio i’r gwaith/ysgol
  13. Hyd/cyflwr hawliau tramwy cyhoeddus
  14. Cyfran y datblygiadau sy’n darparu ar gyfer pobl ag anghenion arbennig
  15. Y ddarpariaeth cludo nwyddau/Y defnydd o ddarpariaeth cludo nwyddau ar reilffyrdd/dŵr

TARGED 5: Mabwysiadu Strategaeth Rheoli Parcio

 


10 Mynediad a Chysylltiadau

Cyflwyniad

10.1 Ceir cyswllt anorfod rhwng mynediad a thrafnidiaeth a defnydd tir, ac mae mynediad a thrafnidiaeth yn thema allweddol yn y Cynllun Datblygu Unedol. Bydd y patrymau datblygu yr ydym yn eu gosod heddiw, ynghyd â’r patrymau a etifeddwyd gennym, yn parhau ymhell i mewn i’r ganrif nesaf. Os bydd polisïau defnydd tir yn caniatáu datblygiadau sy’n parhau’n wasgaredig ac sy’n golygu dibyniaeth helaeth ar gar, mae’n bosibl y bydd polisïau eraill i leihau effaith trafnidiaeth ar yr amgylchedd yn llai effeithiol neu’n costio mwy. Mae trafnidiaeth yn ganolog i’r modd y mae’r llywodraeth yn ystyried cynllunio defnydd tir ar hyn o bryd, ac awgryma hynny y dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried sut i leihau’r angen i deithio a lleihau dibyniaeth ar geir preifat. Mae trafnidiaeth integredig hefyd yn thema ganolog, ac mae tair agwedd yn perthyn iddi:

10.2 Mae poblogrwydd parhaus ceir preifat, yn aml ar draul dulliau eraill o deithio, yn her enfawr i’r amcan sy’n ymwneud â datblygu cynaliadwy. Mae newid yn hinsawdd y byd, adnoddau’n cael eu dihysbyddu, llygredd, afiechyd, cynefinoedd yn cael eu colli, mwy o ddamweiniau, difrod i adeiladwaith adeiladau, a llai o gystadleurwydd economaidd i gyd wedi’u cysylltu â’r cynnydd diddiwedd yn nifer y teithiau a wneir mewn ceir. Gall hefyd waethygu anghydraddoldeb, gan nad yw’r sawl sydd heb gerbyd yn gallu cael mynediad i amryw o gyfleoedd a gwasanaethau. Felly, mae’r cynllun yn ceisio hyrwyddo dulliau mwy cynaliadwy o deithio, megis beicio a cherdded a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Er hynny, rhaid i’r Cynllun hwyluso’r defnydd mwyaf effeithlon o system ffyrdd y Sir mewn modd sy’n seiliedig ar wella diogelwch, lleihau tagfeydd a lleihau effaith amgylcheddol traffig ar y ffyrdd.

10.3 Mae’r diwydiant telathrebu yn tyfu ac yn newid yn sydyn ar hyn o bryd, gan newid ein ffordd o fyw yn sylweddol. Gall y ffaith bod y graddau y mae gwybodaeth ar gael wedi gwella olygu bod gan bobl fynediad i amrywiaeth mwy helaeth o wasanaethau nag erioed o’r blaen. Gallai hynny olygu manteision sylweddol i’r amgylchedd hefyd, oherwydd gallai cynnydd mewn gweithgareddau megis teleweithio helpu i leihau’r angen i deithio. Er hynny, rhaid i ddatblygiadau newydd ym maes telathrebu gael eu cyflawni mewn modd sy’n gydnaws â’r dirwedd a chadwraeth natur.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol

10.4 Nod Strategaeth Drafnidiaeth Cymru gan Lywodraeth Cymru, sef Cymru’n Un: Cysylltu’r Genedl (2008), yw “hyrwyddo rhwydweithiau trafnidiaeth cynaliadwy sy’n gwarchod yr amgylchedd ac eto’n cryfhau bywyd economaidd a chymdeithasol ein gwlad”. Mae hynny’n adlewyrchu meddylfryd ehangach y Cynulliad yn y ddogfen Cymru’n Un.

10.5 Mae amcanion Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer trafnidiaeth, fel y nodir yn fersiwn ddiwygiedig Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 18: Trafnidiaeth, fel a ganlyn:

10.6 Mae’r Cynulliad yn mynnu y dylai cynlluniau datblygu:

10.7 O ran telathrebu, ‘dylai cynlluniau datblygu nodi polisïau a chynigion ar gyfer lleoli datblygiadau telathrebu, gan neilltuo safleoedd ar gyfer datblygiadau mawr a chynnwys polisïau sy’n seiliedig ar feini prawf i arwain datblygiadau telathrebu pan fydd safleoedd heblaw am y rhai a nodir yn y cynllun yn cael eu cynnig. Dylai’r meini prawf fod yn ddigon hyblyg i ddarparu ar gyfer newidiadau technegol. Gallent fod yn berthnasol i leoliad a golwg offer, gan gynnwys gofynion lleoli a thirweddu, a ddyluniwyd i gyfyngu i’r eithaf yr effaith ar amwynder, mewn modd sy’n gyson â gofynion gweithredol’ (Polisi Cynllunio Cymru 2011).

 

Canllawiau Trafnidiaeth Cenedlaethol

10.8 Roedd yn ofynnol i bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru gynhyrchu Cynllun Trafnidiaeth Lleol 5 mlynedd. Cafodd Cynllun Trafnidiaeth Lleol Sir y Fflint 2001 – 2006, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym mis Awst 2000, ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’i wneud yn statudol dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Cyhoeddwyd Adroddiadau Cynnydd Blynyddol ar y cynllun ar ôl hynny ym mis Mehefin 2002, 2003, 2004 a 2005. Mae’r Cynllun yn archwilio’r sefyllfa bresennol o safbwynt trafnidiaeth ac yn egluro gweledigaeth a dyheadau’r Cyngor Sir ar gyfer trafnidiaeth ynghyd â’r strategaethau a’r camau i’w gwireddu dros y 5 mlynedd nesaf a thu hwnt. Dylai Cynllun Trafnidiaeth Lleol Sir y Fflint a’r CDU a’i strategaeth ofodol ategu ei gilydd, a dylent sicrhau dull cydgysylltiedig o gynllunio trafnidiaeth a defnydd tir.

10.9 Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru “Cysylltu’r Genedl: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru”, sef strategaeth drafnidiaeth y Llywodraeth i Gymru. Bydd y Llywodraeth hefyd yn cynhyrchu’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, sy’n gynllun ar gyfer swyddogaethau trafnidiaeth yng Nghymru gyfan y mae Llywodraeth y Cynulliad yn gyfrifol amdanynt. Mae’r swyddogaethau hynny’n cynnwys cefnffyrdd a rheilffyrdd. Erbyn hyn, bwriedir i Gynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol ddisodli’r Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol sy’n bodoli eisoes (a gynhyrchwyd gan Awdurdodau Lleol ar gyfer eu hardaloedd) yn ystod 2008. Mae hynny’n adlewyrchu angen i gynllunio gwelliannau o ran trafnidiaeth yn rhanbarthol, gan gydnabod bod llawer o broblemau trafnidiaeth ar draws Cymru yn achosi problemau trawsffiniol i Awdurdodau Lleol.

10.10 Bydd pedwar Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yng Nghymru, a bydd un o’r cynlluniau hynny’n ymdrin â’r chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru. Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yng ngogledd Cymru yn cael ei ddatblygu gan Taith, sef partneriaeth drafnidiaeth rhwng y chwe awdurdod lleol hyn, ac mae’r cynllun yn strategaeth ar gyfer gwneud gwelliannau i’r system drafnidiaeth yng ngogledd Cymru dros y 25 mlynedd nesaf. Mae’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn sefyll ochr yn ochr â’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol hwn sy’n gofalu am yr holl swyddogaethau eraill o ran trafnidiaeth yn ein rhanbarthau. Mae’r cysylltiad hwn rhwng y ddau gynllun yn arbennig o bwysig gan fod cynifer o’r llwybrau strategol sydd yn y rhanbarth yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru. Mae’r llwybrau hyn yn bwysig yn lleol i’r bobl sy’n byw wrth eu hymyl ac sy’n eu defnyddio i ddiwallu eu hanghenion cyffredinol o ran trafnidiaeth.

10.11 Yn ogystal, rhaid i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gysylltu’n agos â nodau ac amcanion Cynllun Gofodol Cymru, sy’n ceisio darparu agenda ar gyfer datblygu Cymru mewn modd cynaliadwy dros yr 20 mlynedd nesaf ac ar gyfer y cynlluniau datblygu manylach a gynhyrchir gan y Cynghorau sy’n ymdrin â rhanbarth gogledd Cymru. Mae ardal Taith yn cynnwys y gogledd-orllewin, y gogledd-ddwyrain a rhan o ganolbarth Cymru, a ddiffinnir gan Gynllun Gofodol Cymru. Ceir cysylltiadau agos rhwng timau Consortiwm Taith ac ardaloedd y Cynllun Gofodol er mwyn sicrhau bod y cynlluniau’n gydnaws â’i gilydd.

 

Cyd-destun Sir y Fflint

10.12 Wrth nodi’r patrymau a’r systemau trafnidiaeth sy’n bodoli eisoes yn y Sir (a thu hwnt) mae angen ystyried y ffactorau canlynol:

10.13 Y patrwm datblygu sy’n bodoli eisoes – Mae’r patrwm datblygu a’r systemau trafnidiaeth sy’n bodoli eisoes yn dibynnu ar ei gilydd, ac mae hynny’n cyfyngu cryn dipyn ar allu’r system cynllunio defnydd tir i greu patrymau trafnidiaeth mwy cynaliadwy. Yn wahanol i Gaer neu Wrecsam, er enghraifft, nid oes gan Sir y Fflint un brif ganolfan. Mae’r boblogaeth fwyaf yng nghanol a dwyrain y Sir, o gwmpas y Fflint, yr Wyddgrug, Bwcle a Glannau Dyfrdwy. Yn ogystal, mae Aber Afon Dyfrdwy yn rhoi patrwm anheddu hirgul sy’n ymestyn ar draws Sir y Fflint o’r dwyrain i’r gogledd-orllewin. Mewn mannau eraill, mae gorllewin a de Sir y Fflint yn ffurfio ardal wledig sylweddol a mwy gwasgaredig a nodweddir yn bennaf gan bentrefi llai o faint.

10.14 Y berthynas rhwng Sir y Fflint a’r ardaloedd cyfagos – Mae cysylltiadau rhanbarthol ac is-ranbarthol hefyd yn rhan bwysig o gyd-destun gofodol Sir y Fflint. Yn Sir y Fflint y mae’r cysylltiadau trafnidiaeth strategol rhwng gogledd Cymru a Lloegr. Yn wir, mae ffordd yr A55 yn rhan o Rwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd yr E22, sy’n cysylltu Dulyn â chyfandir Ewrop. Gan fod y Sir yn hygyrch iawn o safbwynt coridor yr M56, caiff ei chysylltu’n weithredol â rhanbarth ehangach gogledd-orllewin Lloegr. Mae cysylltiad agos rhyngddi a gorllewin Swydd Gaer a Chilgwri o safbwynt cyflogaeth a thai, a cheir llawer o gymudo dros y ffin. Mae rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn darparu cysylltiadau pwysig rhwng gogledd Cymru a gweddill y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol.

10.15 Y rhwydwaith trafnidiaeth sy’n bodoli eisoes – I raddau helaeth mae cyd-destun trafnidiaeth Sir y Fflint yn adlewyrchu ei phatrwm anheddu, ei choridorau trafnidiaeth a’i chanolfannau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r strategaeth ofodol yn tynnu sylw at yr angen i ystyried ble mae’r lleoliadau mwyaf cynaliadwy o safbwynt y dylanwad a gaiff trafnidiaeth ar batrymau teithio. Yn benodol, gellir gweld coridorau trafnidiaeth gyhoeddus yn y mannau canlynol:

10.16 Mae llawer o gyfnewidfeydd allweddol o ran trafnidiaeth yn y Sir, gan gynnwys Shotton (rheilffordd Wrecsam i Bidston gyda gwasanaethau rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a gwasanaethau bws lleol), y Fflint (gorsaf reilffordd a gwasanaethau bws lleol) a Mostyn (porthladd/rheilffordd). Ceir cyfnewidfeydd bach ar reilffordd Wrecsam i Bidston yng Nghefn-y-bedd, Caergwrle, Pen-y-ffordd, Little Mountain (Bwcle) a Phenarlâg. Yn ogystal, ceir canolfannau trafnidiaeth yng ngorsafoedd bysiau’r Wyddgrug a Threffynnon.

10.17 Yr A55(T), A494(T) a’r A548 yw’r ffyrdd allweddol yn y Sir. Mae cwblhau’r A55 drwy Sir y Fflint, ac yn fwy diweddar adeiladu Pont Sir y Fflint sy’n cysylltu’r A548 â Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a’r M56 drwy’r A550 ymysg y datblygiadau allweddol diweddar o ran seilwaith. Cafodd ffyrdd osgoi pwysig eu hadeiladu yn yr Wyddgrug, Pen-y-ffordd ac o gwmpas cymunedau ar hyd yr A548.

10.18 Daeth Adroddiad Astudiaeth o Drafnidiaeth y Fferi Isaf ym mis Medi 2000 i’r casgliad na fyddai opsiynau cludo teithwyr yn datrys y problemau traffig yn yr ardal hon ar eu pen eu hunain, ac na fyddai cyfleoedd i gludo nwyddau ar y rheilffyrdd yn lleihau’n sylweddol y traffig sydd ar y gefnffordd. Roedd yr adroddiad yn argymell y dylid annog a gweithredu cynlluniau trafnidiaeth werdd a mentrau beicio ochr yn ochr ag opsiynau eraill. Mae mesurau eraill yn cynnwys cynllun trafnidiaeth gyhoeddus sy’n ymateb i’r galw er mwyn gwasanaethu Parth Menter Glannau Dyfrdwy. Daw Blaenraglen Cefnffyrdd 2000 i’r casgliad bod angen cynyddu capasiti ar yr A494/A550 yn ardal y Fferi Isaf yn y tymor byr i ganolig er mwyn lleihau’r tagfeydd sy’n gwaethygu a’r problemau o ran diogelwch traffig ar y ffordd. Agorodd cynllun lledu’r A494/A550 rhwng Parc Glannau Dyfrdwy a Drome Corner ym mis Tachwedd 2004. Roedd Blaenraglen Cefnffyrdd 2002 yn cadarnhau llwybr dewisol Llywodraeth Cymru rhwng Drome Corner ac Ewlo, ond yn dilyn Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus i’r llwybr arfaethedig cafwyd cyhoeddiad ym mis Mawrth 2008 a oedd yn nodi nad oedd yn fwriad mwyach mynd ar drywydd y cynllun a oedd yn destun yr ymgynghoriad. Felly, nid yw union oblygiadau gwaith lledu’r A494/A550 rhwng Drome Corner ac Ewlo yn hysbys ar hyn o bryd.

10.19 Yn ystod oes y Cynllun, bwriedir ffurfio cyswllt trafnidiaeth oddi ar y ffordd rhwng Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a Chaer (y cyfeirir ato fel Cyswllt Caer â Glannau Dyfrdwy). Mae’n bosibl y bydd y cyswllt hwn yn cael effaith sylweddol ar batrymau trafnidiaeth yn y rhan hon o ardal y Cynllun. Yn ogystal, bwriedir creu llwybr beicio’r Mileniwm rhwng Lerpwl a Chaergybi, a gydlynir gan Sustrans yn rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae rhannau o’r llwybr hwn wedi’u creu yn Sir y Fflint gan ymestyn i Gaer tua’r dwyrain ac i Gonwy a Sir Ddinbych tua’r gorllewin. Yn y cyd-destun ehangach, gallai llwybrau a rhwydweithiau beicio lleol eraill gysylltu â’r prif lwybr canolog hwn.

 

Cynnwys / Strategaeth y CDU

10.20 Cydnabyddir bod llawer o’r pwerau rhagweithiol sy’n ymwneud â thrafnidiaeth yn nwylo’r Cyngor fel Awdurdod Priffyrdd a darparwyr gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn bennaf, yn hytrach nag yn y cynllun datblygu neu’r broses rheoli cynllunio. Er hynny, gall y CDU chwarae rôl allweddol o ran darparu fframwaith polisi ar gyfer rheoli lleoliad datblygiadau newydd, eu dyluniad a’r defnydd a wneir ohonynt. Fodd bynnag, bydd angen i hynny gael ei ategu gan newid yn y dewisiadau y bydd pobl yn eu gwneud ynghylch eu ffordd o fyw a buddsoddiad sylweddol mewn dulliau eraill o deithio.

10.21 At ei gilydd, bydd y cynigion ynghylch trafnidiaeth yn deillio o Gynllun Trafnidiaeth Lleol Sir y Fflint a’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol sydd ar ddod. Mae’r cynigion sydd wedi’u pennu ar gyfer y Sir yn ystod cyfnod y Cynllun wedi’u hegluro a’u gwarchod yn y CDU. Yn y tymor byr bydd y pwyslais, o ran ffyrdd, ar wneud gwell defnydd o’r priffyrdd sy’n bodoli eisoes a gwneud mân welliannau i’r rhwydwaith, yn hytrach na chael rhaglen helaeth ar gyfer adeiladu ffyrdd newydd. Felly, mae tir wedi’i ddiogelu ar gyfer gwneud nifer o welliannau i ffyrdd. Mewn aneddiadau sy’n bodoli eisoes, bydd hynny’n golygu mesurau rheoli a gostegu traffig. O ran trafnidiaeth gyhoeddus, caiff tir ei ddiogelu ar gyfer Cyswllt Caer â Glannau Dyfrdwy ar hyd yr hen reilffordd o Lannau Dyfrdwy i Mickle Trafford.

10.22 Gall y CDU hefyd gefnogi a gwarchod cyfleusterau ar gyfer trosglwyddo nwyddau i drenau neu longau (megis yn Nociau Mostyn) fel dulliau mwy cynaliadwy o gludo nwyddau. Cefnogir parhau i ddefnyddio maes awyr Penarlâg fel cyfleuster gwerthfawr ar gyfer gwasanaethau awyr.

 

Polisïau

AC1 Cyfleusterau ar gyfer Pobl Anabl

Ni chaniateir cynigion datblygu oni chaiff cyfleusterau priodol eu darparu i ddiwallu anghenion arbennig pobl ag anableddau.

10.23 Dylai pob datblygiad fod yn gwbl hygyrch i bob grwp o bobl yn y gymuned. Er hynny, caiff pobl ag anawsterau symud neu anableddau eraill eu hatal yn aml rhag chwarae rôl lawn ac annibynnol mewn cymdeithas am nad yw tir, adeiladau, trafnidiaeth a chyfleusterau eraill yn hygyrch iddynt. O gynllunio, dylunio a defnyddio deunyddiau’n ofalus, gellir adeiladu safleoedd ac adeiladau sy’n ei gwneud yn bosibl integreiddio cyfleusterau’n sensitif ac yn ddiffwdan er lles pobl ag anghenion arbennig a phobl sy’n cario plant bach a bagiau, sydd hefyd yn cael eu rhwystro’n aml oherwydd mynediad gwael. Wrth ddylunio meysydd parcio newydd, dylid ystyried yn llawn anghenion pobl sydd ag anawsterau symud. Yn benodol, rhaid neilltuo digon o le’n agos i’r cyfleuster dan sylw ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, a fyddai fel arall yn cael eu rhwystro’n annheg rhag defnyddio’r cyfleusterau. Ceir manylion pellach yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor ar safonau parcio.

10.24 Gall safonau sy’n galluogi pobl ag anableddau i gael mynediad i adeiladau a’u defnyddio gael effaith sylweddol ar ddyluniad a golwg yr adeiladau hynny. Mae Rheoliadau Adeiladu a Chanllawiau a Safonau Prydeinig yn gosod y safonau ar gyfer mynediad i bob dosbarth o adeiladau. Mae mabwysiadu dull gweithredu cynhwysol o’r cychwyn cyntaf yn lleihau’r angen i wneud addasiadau dilynol i adeiladau newydd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (fel y’i diwygiwyd yn 2005). Bwriad y Cyngor yw diweddaru ei Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol cyfredol ar fynediad i bawb, Access for All, ar ffurf Canllawiau Cynllunio Atodol.

 

AC2 Darpariaeth ar gyfer Cerddwyr a Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Dim ond dan yr amodau canlynol y caniateir cynigion datblygu:

  1. ceir mynediad drwy gerdded, sy’n ddiogel, sy’n uniongyrchol ac sydd yn y golwg, i’r prif lwybrau lleol ar gyfer cerddwyr;
  2. yn achos datblygiad mawr sydd ar agor i’r cyhoedd, ceir arwyddion a llwybrau hawdd eu canfod yn ôl ac ymlaen i gyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus ac amwynderau lleol eraill; ac
  3. caiff unrhyw hawliau tramwy cyhoeddus sy’n bodoli eisoes eu cadw a’u hintegreiddio mewn modd sensitif wrth dirlunio’r safle. Pan fernir bod angen gwyriad neu ddarpariaeth arall, dylid dylunio a lleoli’r gwyriad neu’r ddarpariaeth fel eu bod o leiaf yr un mor gyfleus a phleserus â’r ddarpariaeth flaenorol, a dylid cwblhau’r gwyriad cyn i’r datblygiad ddechrau.

10.25 Gall sicrhau darpariaeth ddigonol i gerddwyr ym mhob datblygiad newydd helpu i leihau’r ddibyniaeth ar geir preifat, gan ddarparu dull arall diogel, iach a chynaliadwy o deithio i’r rhan fwyaf o’r gymuned, naill ai at ddibenion hamdden neu ddibenion mwy ymarferol. Byddai “datblygiad mawr sydd ar agor i’r cyhoedd” yn cynnwys swyddfeydd mawr, cyfleusterau manwerthu neu ddatblygiad diwydiannol, er enghraifft, ac mae’r polisi hwn yn ceisio sicrhau y darperir ar gyfer symud yn ddiogel o gwmpas y safle ac ar gyfer cysylltiadau yn ôl ac ymlaen i’r safle. Byddai hynny’n berthnasol hefyd i ddatblygiadau preswyl mawr. Rhaid ystyried mynediad pobl ag anawsterau symud i hawliau tramwy cyhoeddus.

10.26 Drwy holl ardal y Cynllun, ceir rhwydwaith helaeth o lwybrau troed a llwybrau ceffylau cyhoeddus, sy’n draddodiadol wedi darparu mynediad diogel a chyfleus oddi mewn i ardaloedd trefol a gwledig a rhyngddynt. Gallai hawliau tramwy fod yn werthfawr mewn ffyrdd eraill hefyd, oherwydd gallant fod yn rhan o gymeriad ardal neu gallant fod yn goridorau gwyrdd pwysig. Os bwriedir cynnal cyfleoedd i gerdded, naill ai at ddibenion hamdden neu ddibenion mwy ymarferol, dylid cadw’r holl lwybrau sy’n bodoli eisoes. Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i sicrhau bod y rhwydwaith ar agor i’r cyhoedd ei ddefnyddio a’i fwynhau.

10.27 Nid yw caniatâd cynllunio yn golygu caniatâd i gau neu wyro llwybr troed. Dylid ystyried cadw hawl tramwy gyhoeddus a’i hymgorffori mewn datblygiad mewn modd sensitif o’r cychwyn cyntaf yn ystod y broses ddylunio. Pan fydd yn gwbl angenrheidiol gwyro llwybr, dylai unrhyw ddarpariaeth arall gael ei dylunio i ystyried angen defnyddwyr am fynediad uniongyrchol a diogel, a dylid cwblhau’r gwyriad cyn i’r datblygiad ddechrau. Yn aml bydd yn briodol gwella darpariaeth.

 

AC3 Darpariaeth ar gyfer Beicwyr

Bydd yn ofynnol i gynigion datblygu newydd ddarparu’r canlynol os yw hynny’n briodol:

  1. mynediad diogel a chyfleus ar feic i’r rhwydwaith priffyrdd lleol neu unrhyw lôn/llwybr beicio presennol neu arfaethedig yn yr ardal;
  2. llwybrau hawdd eu hadnabod ag arwyddion da yn ôl ac ymlaen i gyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus ac amwynderau a chyfleusterau lleol eraill; ac
  3. cyfleusterau beicio, parcio a storio.

10.28 Gall sicrhau darpariaeth ddigonol i feicwyr mewn datblygiad newydd helpu i leihau’r ddibyniaeth ar geir preifat, gan ddarparu dull iach, cymharol rad a chyfeillgar i’r amgylchedd o deithio ar gyfer llawer o aelodau’r gymuned. Gall o leiaf ddarparu adnodd hamdden gwerthfawr.

10.29 Bydd y Cyngor yn diffinio safonau parcio beiciau ar y lefelau sy’n angenrheidiol i fodloni targedau ar gyfer cynyddu lefelau beicio, a bydd yn gwneud hynny ar ffurf Canllawiau Cynllunio Atodol. Mae’r datblygiadau sy’n debygol o fod yn gymwys i’w hystyried dan y polisi hwn yn cynnwys cynigion yn ymwneud â chyflogaeth, siopa, hamdden, twristiaeth a datblygu cymunedol, a datblygiadau tai sy’n cynnwys mwy na 30 uned. Disgwylir i ddatblygiadau mewn prif orsafoedd rheilffyrdd a bysiau gynnwys cyfleusterau beicio. Mae’r mathau o gyfleusterau y disgwylir i ddatblygwyr eu darparu yn cynnwys cyfleusterau parcio a storio diogel dan do; wynebau ffyrdd a lonydd wedi’u marcio; ac arwyddion, golau a chyfleusterau cawod/newid. Dylid dylunio a lleoli llwybrau beicio i ddarparu mynediad uniongyrchol a diogel. Caiff manylion ynghylch lefel ofynnol y ddarpariaeth eu pennu i gyd-fynd â natur y cynnig datblygu penodol. Dylid cyfeirio at Strategaeth Feicio Sir y Fflint a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Mehefin 1999.

10.30 Bydd y Cyngor yn gweithio tuag at greu rhwydwaith cynhwysfawr o lwybrau beicio diogel a hygyrch a fydd, gobeithio, yn gwella ansawdd bywyd yn Sir y Fflint trwy:

10.31 Mae’r llwybrau beicio sy’n bodoli eisoes yn cynnwys y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a Rhwydwaith Beicio Glannau Dyfrdwy. Mae’r cynigion yn cynnwys gwneud gwelliannau i’r Rhwydwaith a chreu cysylltiadau ag ardaloedd mwy gwledig.

 

AC4 Cynlluniau Teithio ar gyfer Datblygiadau sy’n Cynhyrchu Llawer o Draffig

Caiff datblygiadau sy’n debygol o greu nifer sylweddol o deithiau eu caniatáu cyhyd â bod cynllun teithio’n cael ei gyflwyno gyda’r cynnig, sy’n egluro pa fesurau a gaiff eu gweithredu i ostwng nifer y teithiau a wneir mewn car i lefel foddhaol, o safbwynt:

a. y ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr, beicwyr a thrafnidiaeth gyhoeddus;

b. trefniadau eraill, megis trefniadau ffurfiol ar gyfer rhannu ceir a gwasanaethau bws preifat;

c. rhaglen weithredu; ac

ch. gweithdrefnau monitro ac adolygu.

Yn achos cynigion amlinellol neu sbeciannol, bydd angen i’r Cyngor sicrhau y caiff Cynllun Teithio ei gyflwyno naill ai yn ystod cyfnod sy’n ymdrin â materion a gadwyd yn ôl, neu ar adeg arall y cytunwyd arni, a hynny naill ai trwy gael amod cynllunio neu ganiatâd cyfreithiol.

10.32 Yn aml, caiff llawer iawn o deithiau eu creu gan ddatblygiadau mawr o ran cyflogaeth, manwerthu, hamdden a thwristiaeth, a bydd llawer o’r teithiau hyn yn digwydd mewn ceir preifat. Mae’r Polisi yn ymwneud â’r datblygiadau hynny sy’n debygol o greu galw i deithio mewn car, a fyddai’n anghynaliadwy. Trwy ddewis lleoliad yn ofalus, a sicrhau cynllun, dyluniad a mesurau rheoli priodol, gellid gwneud llawer o’r teithiau hynny mewn dulliau sy’n fwy cynaliadwy na char.

10.33 Er mwyn asesu’r potensial i leihau teithiau mewn car, bydd angen i bob datblygiad o’r fath gyflwyno cynllun teithio yn rhan o’r cais cynllunio. Mewn achosion lle mae angen asesiad trafnidiaeth hefyd (polisi AC13), gellid cyfuno’r ddau er mwyn cynnal archwiliad mwy trylwyr o’r gofynion o ran teithio ac effeithiau’r datblygiad. Dylai’r Cynllun Teithio nodi’r seilwaith cyfredol ar gyfer trafnidiaeth a phatrymau teithio cyfredol, asesu’r potensial i gyflwyno dulliau eraill o deithio, a nodi sut y gellid gweithredu hynny a’i fonitro wedyn. Bydd disgwyl i ddatblygiadau o’r fath ddangos y gellir cyflawni a chynnal gostyngiad boddhaol yn nifer y teithiau a wneir mewn car.

10.34 Gall y dull hwn o weithredu gynnig manteision i ddatblygiadau sy’n bodoli eisoes a datblygiadau newydd o safbwynt:

10.35 Cydnabyddir, yn achos cynigion datblygu amlinellol neu sbeciannol, ei bod yn anymarferol mynnu bod Cynllun Teithio yn cael ei gyflwyno heb gael gwybodaeth fanwl am y defnyddiwr terfynol. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd yn fwy priodol i Gynllun Teithio gael ei gyflwyno yn ystod cam y materion a gadwyd yn ôl neu ar ryw adeg arall y cytunwyd arno o flaen llaw, pan geir digon o wybodaeth i lunio Cynllun Teithio ac egluro’r systemau gweithredu a monitro. Bydd y Cyngor yn defnyddio amodau cynllunio neu gytundebau cyfreithiol i gael Cynlluniau Teithio.

 

AC5 Cyfleusterau Newydd / Gwell ar gyfer Trafnidiaeth Gyhoeddus

Ni chaniateir cynigion ar gyfer cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus newydd a gwell oni bai eu bod:

a. wedi’u lleoli’n gyfleus i wasanaethu canol trefi a phentrefi, lleoliadau preswyl, lleoliadau cyflogaeth, ardaloedd hamdden a lleoliadau gwledig pwysig;

b. yn hygyrch i gerddwyr, beicwyr a’r sawl sydd ag anawsterau symud; ac

c. wedi’u dylunio i hwyluso dulliau diogel a hawdd o gyfnewid rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth a gwasanaethau.

10.36 Gall datblygu cyfleusterau newydd a gwell ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys gorsafoedd a llwybrau bysiau a rheilffyrdd, sicrhau bod holl aelodau’r gymuned yn cael cynnig mynediad gwell i swyddi, gwasanaethau a chyfleoedd hamdden. Er mwyn iddynt fod mor effeithiol ag sy’n bosibl, dylent ddarparu cysylltiadau uniongyrchol rhwng y prif ardaloedd lle mae’r boblogaeth a chanolfannau manwerthu a chyflogaeth, a dylent fod yn gwbl hygyrch i bawb, waeth beth fo’u gallu i symud. Dylent hwyluso trosglwyddo rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth a gwasanaethau. Fodd bynnag, bydd angen o hyd i gynigion o’r fath fodloni polisïau trwy’r Cynllun cyfan o safbwynt gwarchod yr amgylchedd adeiledig a naturiol. Yn aml, bydd gan orsafoedd rheilffyrdd gymeriad brodorol penodol o safbwynt eu pensaernïaeth, a dylid gwarchod hynny lle bynnag y bo’n ymarferol.

10.37 Disgwylir i welliannau neu gyfleusterau newydd gynnwys nifer o elfennau. O ran ‘symud’, dylai fod ganddynt gyfleusterau parcio ceir a beiciau, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer pobl ag anableddau a chyfleusterau ar gyfer bysiau moethus a thacsis, mesurau gostegu a rheoli traffig i leihau gwrthdaro posibl, arwyddion sensitif a dull diogel a chyfleus o symud rhwng platfformau. O ran ‘amgylchedd yr orsaf’, dylai gwelliannau neu gyfleusterau newydd gynnwys cyfleusterau gwell, megis mannau aros a chyfleusterau prynu tocynnau dan do, gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, toiledau cyhoeddus a lluniaeth, ynghyd â goleuadau a gwaith tirlunio sensitif.

 

AC6 Gorsafoedd Rheilffyrdd

Dim ond dan yr amodau canlynol y caniateir datblygiad newydd mewn gorsafoedd rheilffyrdd neu’n agos iddynt:

a. lle na fydd y datblygiad yn golygu bod aelodau’r cyhoedd yn colli cyfleusterau gorsaf;

b. lle na fydd y datblygiad yn golygu colli lefel annerbyniol o leoedd parcio ceir cyhoeddus;

c. lle na fydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar yr orsaf neu’r ardaloedd oddi amgylch mewn modd a fyddai’n effeithio ar hyfywedd gwasanaethau yn y tymor hir; ac

ch. lle na fydd y datblygiad yn peryglu’r defnydd a wneir o’r orsaf yn awr, neu’r defnydd y gellid ei wneud ohoni yn y dyfodol, ar gyfer symud nwyddau.

Croesewir datblygiadau sy’n gwella gorsafoedd rheilffyrdd sy’n bodoli eisoes a/neu sy’n creu gorsafoedd rheilffyrdd newydd a chyfleusterau cysylltiedig.

10.38 Nod y polisi yw hwyluso ac annog y defnydd a wneir o reilffyrdd, drwy warchod cyfleusterau sy’n bodoli eisoes. Mae’r rhannau hynny o reilffordd Arfordir Gogledd Cymru a rheilffordd Bidston i Wrecsam sy’n rhedeg drwy Sir y Fflint yn asedau pwysig, a bydd yn hanfodol eu gwarchod a’u gwella os bwriedir sicrhau bod dewis ehangach o wahanol fathau o drafnidiaeth ar gael yn y dyfodol.

10.39 Gallai colli cyfleusterau gorsafoedd a phlatfformau drwy eu haddasu i ddibenion eraill, neu gallai lleihau nifer y lleoedd parcio penodedig a geir, atal teithwyr posibl rhag gwneud y defnydd mwyaf posibl o’r rheilffordd. Yn yr un modd, gallai unrhyw beth sy’n amharu ar y lle gweithredol sydd o gwmpas yr orsaf beryglu’r potensial ar gyfer symud nwyddau, a fydd yn dod yn fwyfwy pwysig wrth ymdrechu i annog dulliau teithio sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.

10.40 Bydd y Cyngor yn croesawu cynigion datblygu a fydd yn gwella gorsafoedd rheilffyrdd a chyfleusterau sy’n bodoli eisoes, neu a fydd yn darparu gorsafoedd neu gyfleusterau newydd neu ryw welliant arall a fyddai’n llesol i’r modd y caiff y rheilffordd ei gweithredu.

 

AC7 Gwarchod Rheilffyrdd nas Defnyddir

Ni chaniateir datblygu pe byddai hynny’n golygu na ellir ailddefnyddio coridorau rheilffyrdd nas defnyddir, os oes gobaith rhesymol:

a. y gellid ailagor y rheilffordd ar gyfer system reilffordd ysgafn neu drwm; neu

b. y gellid parhau i ddefnyddio’r rheilffordd fel coridor trafnidiaeth ar gyfer y sawl sy’n cerdded, beicio neu farchogaeth, neu y gellid ei defnyddio at y dibenion hynny yn y dyfodol; neu

c. y gellid adfer y rheilffordd fel parc hirgul; neu

ch. y gellid defnyddio’r rheilffordd fel coridor bywyd gwyllt.

Dylai unrhyw gais i ddatblygu a fyddai’n peryglu integriti rheilffordd nas defnyddir gynnwys asesiad sy’n dangos nad oes gobaith rhesymol y bydd un o’r defnyddiau a nodwyd yn a. i ch. yn digwydd.

Caiff y darn o’r hen wely rheilffordd rhwng Dee Marsh a Mickle Trafford yn Sir y Fflint ei ddiogelu i hwyluso datblygu cyswllt trafnidiaeth Glannau Dyfrdwy-Caer.

10.41 Nod y polisi hwn yw gwarchod rheilffyrdd nas defnyddir, er mwyn caniatáu’r posibilrwydd o’u hailddefnyddio at eu diben blaenorol neu’u defnyddio at ddibenion newydd megis llwybrau troed, llwybrau beicio, llwybrau ceffylau neu goridorau bywyd gwyllt, oherwydd pan fydd adnodd o’r fath wedi’i golli mae’n annhebygol y bydd yn cael ei adfer. Dylai unrhyw geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiad ar reilffordd nas defnyddir, neu ddatblygiad a fyddai’n effeithio ar reilffordd nas defnyddir, gynnwys asesiad i ganfod a oes unrhyw obaith rhesymol y gallai’r rheilffordd gael ei hailddefnyddio.

10.42 Mae’r rheilffordd nas defnyddir rhwng Deeside Marsh a Mickle Trafford yn darparu cyfle i greu Cyswllt Trafnidiaeth Caer-Glannau Dyfrdwy. Yn wreiddiol, cafodd y llwybr ei gynnig fel system bws tywys i ddarparu system drafnidiaeth gyhoeddus sy’n fodern, yn dawel ac yn gyfeillgar i’r amgylchedd, ond mae gan y llwybr botensial hefyd i fod yn llwybr cerdded a beicio.

10.43 Mae rheilffyrdd eraill nas defnyddir yn cynnig cryn botensial i greu cyfleoedd hamdden a theithio nad oes angen car ar eu cyfer, sy’n cysylltu ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig â’i gilydd. Mae potensial enfawr yn perthyn i Lwybr Arfordirol Afon Dyfrdwy hefyd. At hynny, pe bai amgylchiadau economaidd yn newid o blaid rheilffyrdd, byddai rheilffyrdd segur yn cynnig opsiwn y gellid ei ddefnyddio’n hawdd ar gyfer datblygu gwasanaethau newydd.

10.44 Er hynny, hyd yn oed pan na chânt eu defnyddio, mae rheilffyrdd o’r fath yn cyflawni swyddogaeth werthfawr fel coridorau a chynefinoedd bywyd gwyllt, a dylid dylunio unrhyw ddatblygiad newydd yn ofalus er mwyn lleihau’r niwed a wneir i’r amgylchedd naturiol. Bydd y polisi hefyd yn ceisio gwarchod llwybrau o’r fath pan fydd dulliau wedi’u sefydlu i’w defnyddio at ddibenion hamdden.

 

AC8 Bysiau

Bydd yn ofynnol i gynigion datblygu gael eu gwasanaethu’n ddigonol gan drafnidiaeth gyhoeddus, lle bo hynny’n briodol, naill ai drwy wasanaethau bws sy’n bodoli eisoes neu drwy ddarparu gwasanaethau bws newydd neu estynedig.

Ni chaniateir cynigion datblygu a fyddai’n effeithio ar orsafoedd bysiau presennol neu arfaethedig, neu gyfleusterau eraill oddi ar y stryd ar gyfer teithwyr bysiau, oni ellir dangos:

a. nad yw’r cyfleuster sy’n bodoli eisoes ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn angenrheidiol bellach; neu

b. bod y cyfleuster sy’n bodoli eisoes ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei wella; neu

c. y gellir gwneud darpariaeth arall addas, yn amodol ar bolisi AC5 (Cyfleusterau Newydd / Gwell ar gyfer Trafnidiaeth Gyhoeddus).

10.45 Mae maint cyfyngedig rhwydwaith rheilffyrdd Sir y Fflint yn golygu bod llawer o drefi a phentrefi’r Sir yn dibynnu ar wasanaethau bws i ddiwallu eu hanghenion o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd yn hanfodol gwarchod y cyfleusterau sy’n bodoli eisoes a’r seilwaith cysylltiedig os bwriedir cynnal a gwella lefelau gwasanaeth. Er hynny, gallai achlysuron godi lle gellir adleoli gorsafoedd bysiau neu gyfleusterau cyfredol er mwyn ailddatblygu’r safle sy’n bodoli eisoes, cyhyd â bod darpariaeth arall addas yn cael ei gwneud yn amodol ar y meini prawf ym mholisi AC5. Mewn achosion o’r fath, disgwylir y bydd gwelliant cyffredinol yn ansawdd y cyfleuster/gwasanaeth.

10.46 Ac eithrio datblygiadau ‘bach’ eu natur a datblygiadau mewn lleoliadau gwledig anghysbell, bydd disgwyl yn gyffredinol i ddatblygiadau gael eu lleoli’n agos i lwybrau da o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Mewn achosion lle mae’n debygol y bydd cynigion datblygu newydd yn cynhyrchu llawer o deithiau, megis datblygiadau’n ymwneud â manwerthu, hamdden, cyflogaeth, tai a thwristiaeth, bydd digonolrwydd gwasanaethau lleol yn ffactor. Os yw gwasanaethau lleol yn annigonol i wasanaethu’r datblygiad arfaethedig, bydd y Cyngor yn defnyddio amodau cynllunio a/neu rwymedigaethau cynllunio i sicrhau gwasanaethau newydd neu welliannau priodol i wasanaethau sy’n bodoli eisoes. Gall mesurau megis neilltuo lle ar ffyrdd i fysiau a darparu cyfleusterau megis cilfannau, mannau troi, mannau aros dan do ac arddangosfeydd gwybodaeth, helpu i wneud bysiau’n fwy deniadol a gwella effeithiolrwydd polisïau eraill y bwriedir iddynt annog llai o ddefnydd o’r car.

 

AC9 Darparu Cyfleusterau Newydd ar gyfer Cludo Nwyddau ar Reilffyrdd

Caiff cynigion i ddatblygu seidins newydd neu well ar gyfer cludo nwyddau ar reilffyrdd eu caniatáu:

a. os byddant, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, yn defnyddio tir a ddefnyddir eisoes at ddiben diwydiannol neu a ddyrannwyd ar gyfer hynny, neu dir llwyd arall sy’n addas;

b. os yw’r mynediad a’r rhwydwaith priffyrdd oddi amgylch yn gallu darparu’n ddigonol ar gyfer natur a swm y traffig a gynhyrchir;

c. pe na byddai swn, dirgryndod na mwg yn cael effaith andwyol ar ardal breswyl neu amwynder arall; ac

ch. ch. pe na byddai’r cynigion yn arwain at niwed andwyol sylweddol i nodweddion neu ardaloedd gwerthfawr o ran tirwedd, cadwraeth natur neu hanes neu ansawdd dwr.

Caiff tir ei ddiogelu ar y map cynigion i hwyluso darn o reilffordd sy’n rhedeg o’r dwyrain tua’r gogledd yn Shotton.

Caiff datblygiad newydd sy’n golygu llawer o waith symud deunyddiau a nwyddau ei annog i ddefnyddio’r rheilffyrdd lle bynnag y bo hynny’n bosibl neu’n ymarferol.

10.47 O gofio mai’r cynnydd yn swm y nwyddau a gludir ar y ffyrdd yw un o’r agweddau mwyaf niweidiol sy’n perthyn i dueddiadau cludo diweddar, mae’r Cyngor yn awyddus i annog gwaith trosglwyddo nwyddau o’r ffyrdd i’r rheilffyrdd. Gall datblygu cyfleusterau cludo nwyddau ar reilffyrdd yn agos i brif ganolfannau gweithgynhyrchu a mannau dosbarthu ddarparu dull o gludo nwyddau sy’n lanach, sy’n fwy diogel ac sy’n defnyddio llai o ynni, yn enwedig pan gaiff nwyddau eu cludo’n gymharol bell neu’n bell iawn. Ceir tri lleoliad yn ardal y Cynllun, yn Nociau Mostyn, Parc Busnes Maes-glas a gwaith sment Padeswood, a allai fod yn arbennig o addas ar gyfer y math hwn o ddatblygiad. Ym mhob achos, bydd yn rhaid sicrhau bod y cynigion yn dderbyniol o safbwynt swm a natur y traffig a’i effaith ar amwynder lleol. Byddai angen bodloni polisïau perthnasol eraill y Cynllun hefyd.

10.48 Fel egwyddor gyffredinol, caiff datblygiad newydd sy’n golygu llawer o waith symud deunyddiau a nwyddau ei annog i ddefnyddio’r rheilffyrdd lle bynnag y bo hynny’n bosibl neu’n ymarferol.

10.49 Mae darn o reilffordd newydd yn Shotton, sy’n rhedeg o’r dwyrain tua’r gogledd gan gysylltu Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru â’r rheilffordd o Bidston i Wrecsam, yn welliant allweddol i’r seilwaith, a bydd o gymorth sylweddol i gynyddu’r defnydd a wneir o’r rheilffordd i gludo nwyddau. Byddai hynny’n gwella mynediad ar reilffordd i ardal ddiwydiannol fawr yn sylweddol, a byddai’n sicrhau bod gan nwyddau fynediad uniongyrchol i’r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol yn hytrach na’u bod yn pasio drwy Wrecsam. Gallai cynllun o’r fath fod o rywfaint o fantais hefyd i wasanaethau teithwyr. Felly, caiff tir ei ddiogelu ar y map cynigion i hwyluso’r darn hwn o reilffordd.

 

AC10 Dociau Mostyn

Caniateir ehangu a gwella’r cyfleusterau ar gyfer cludo nwyddau dros y dwr yn Nociau Mostyn:

a. os ystyriwyd trosglwyddo nwyddau o’r ffyrdd i’r rheilffyrdd neu rhwng badau afon a badau môr;

b. os yw’r seilwaith trafnidiaeth yn ddigonol i wasanaethu’r datblygiad; ac

c. os nad yw’r datblygiad yn gwneud niwed annerbyniol i integriti ecolegol a hanesyddol Aber Afon Dyfrdwy, ei integriti o safbwynt hamdden a’r dirwedd, nac ansawdd y dwr a’r aer.

10.50 Mae datblygu Dociau Mostyn yn gyfle ardderchog i gynyddu’r nwyddau a gaiff eu cludo ar y môr, gan leihau’r effaith a gaiff lorïau trwm ar y gymuned leol. Fodd bynnag, ni fydd manteision o’r fath yn cael eu gwireddu oni chaiff cyfleoedd eu creu i ddefnyddio’r rheilffordd neu Afon Dyfrdwy fel modd i gludo a dosbarthu nwyddau. Gallai cludo mwy o nwyddau ar y môr a’r rheilffyrdd, a chydgysylltu’r gwaith hwnnw, wneud cyfraniad pwysig i bolisi trafnidiaeth gynaliadwy.

10.51 Bydd angen sicrhau na fydd buddiannau Aber Afon Dyfrdwy o ran bywyd gwyllt, y dirwedd, agweddau hanesyddol a hamdden yn cael eu llesteirio gan weithgareddau a fydd yn dilyn unrhyw waith datblygu pellach a wneir yn y dociau. Mae egwyddor arweiniol 9.3a Strategaeth Aber Afon Dyfrdwy o blaid parhau i weithredu ym Mhorthladd Mostyn, ond mewn modd cynaliadwy lle dylai unrhyw waith a wneir i ehangu’r cyfleusterau sy’n bodoli eisoes leihau’r effeithiau andwyol ar yr amgylchedd ac unrhyw ddefnydd arall, gan gynnwys defnydd at ddibenion hamdden, ar hyd Aber Afon Dyfrdwy.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

AC11 Dociau / Glanfeydd Eraill

Caniateir defnyddio a datblygu cyfleusterau dociau a glanfeydd eraill i drafod nwyddau neu at ddibenion hamdden:

a. os yw’r seilwaith trafnidiaeth yn ddigonol i wasanaethu’r datblygiad; a

b. os nad yw’r datblygiad yn niweidio integriti ecolegol ac ansawdd y dwr a’r aer yn Aber Afon Dyfrdwy ac Afon Dyfrdwy.

10.52 Gallai fod cyfleoedd i drafod nwyddau yng nglanfa Corus yng Ngwaith Dur Shotton. Gallai dociau Cei Connah hefyd fod yn lle y gellir ei ddefnyddio naill ai ar gyfer fflyd fwy o gychod pysgota neu at ddibenion hamdden. Byddai angen seilwaith digonol o ran trafnidiaeth ar gyfer unrhyw gynigion o’r fath, a byddai angen sicrhau na fyddent yn niweidio Aber Afon Dyfrdwy ac Afon Dyfrdwy sydd wedi’i dynodi erbyn hyn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn ymgeisydd am Ardal Cadwraeth Arbennig oherwydd ei phwysigrwydd i bysgod sy’n mudo, yn enwedig poblogaethau o bysgod eogaidd. Bydd nodau ac egwyddorion arweiniol Strategaeth Aber Afon Dyfrdwy yn ystyriaeth bwysig. Mae llawer o’r dociau a’r glanfeydd sy’n weddill o bwysigrwydd hanesyddol ac archeolegol, a byddai angen i gynigion datblygu mewn achosion o’r fath gael eu hasesu yn erbyn polisi HE7.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

AC12 Parth Diogelu Maes Awyr

Ni chaniateir datblygiad a fyddai’n peryglu dulliau diogel ac effeithlon o weithredu Maes Awyr Penarlâg ac RAF Sealand.

10.53 Maes Awyr Penarlâg yw’r unig faes awyr sifil gweithredol yn Sir y Fflint. Fe’i defnyddir gan Airbus UK Ltd a Raytheon PLC ac at ddibenion teithiau hedfan preifat. Ceir maes glanio hefyd yn RAF Sealand, ond fe’i defnyddir fel ysgol hyfforddi gleidwyr yn unig.

10.54 Yn y ddau achos, mae angen rheoli lleoliad a maint datblygiadau yng nghyffiniau llwybrau hedfan awyrennau er mwyn osgoi rhwystrau ffisegol neu bethau a allai dynnu sylw. Mae Parth Diogelu wedi’i nodi ar gyfer Maes Awyr Penarlâg ac RAF Sealand, a chreffir yn agos ar gynigion datblygu yn y parthau hyn er mwyn sicrhau na fyddent yn effeithio ar ddulliau diogel ac effeithlon o weithredu’r maes awyr a’r maes glanio. Ymgynghorir â’r Awdurdod Hedfan Sifil neu’r Weinyddiaeth Amddiffyn, fel y bo’n briodol.

 

AC13 Mynediad ac Effaith Traffig

Dim ond dan yr amodau canlynol y caniateir cynigion datblygu:

a. pan fydd y ffyrdd sy’n arwain i’r safle o safon ddigonol i gymryd y traffig y mae’r datblygiad yn debygol o’i gynhyrchu, heb beryglu diogelwch, iechyd ac amwynder y cyhoedd; a

b. pan fydd y datblygwr yn gallu darparu mynediad diogel ar gyfer cerbydau yn ôl ac ymlaen i’r prif rwydwaith priffyrdd.

Pan ystyrir bod hynny’n angenrheidiol, bydd y Cyngor yn mynnu asesiad trafnidiaeth sy’n cynnwys asesiad o effaith traffig.

10.55 Er mwyn sicrhau nad yw datblygiad newydd yn cynyddu’r risg o anaf, afiechyd neu niwsans, bydd yn hanfodol asesu’n llawn oblygiadau tebygol unrhyw draffig ychwanegol a gynhyrchir. Yn ogystal â gallu darparu mynediad diogel uniongyrchol yn ôl ac ymlaen i’r safle, rhaid i’r datblygwr ofalu na fydd y teithiau ychwanegol gan gerbydau yn ôl ac ymlaen i’r safle’n achosi tagfeydd neu aflonyddwch annerbyniol ymhellach i ffwrdd. Ystyrir cyflymder traffig, digonolrwydd lleiniau gwelededd, agosrwydd i gyffyrdd, cyfyngiadau parcio yn ogystal â ffactorau eraill perthnasol.

10.56 Os ystyrir y bydd angen creu capasiti newydd o ran ffyrdd ar gyfer y datblygiad, disgwylir i’r datblygwr ddarparu’r seilwaith ychwanegol angenrheidiol. Gyda datblygiadau mwy o faint, efallai y bydd angen cyflwyno asesiad trafnidiaeth gyda’r cynnig. Byddai angen i’r asesiad asesu effaith y traffig a gynhyrchir gan y datblygiad ac asesu digonolrwydd unrhyw fesurau lliniaru a gyflwynir yn rhan o’r cynnig.

 

AC14 Gostegu Traffig

Bydd y Cyngor Sir yn mynnu bod mesurau gostegu traffig priodol yn cael eu gweithredu ym mhob datblygiad newydd lle ceir pryder posibl am ddiogelwch ar y ffyrdd i gerddwyr, beicwyr a cherbydau, naill ai o fewn y datblygiad neu ar strydoedd cyfagos.

10.57 Gall gweithredu mesurau gostegu traffig effeithiol arwain at fwy o ddiogelwch ar y ffyrdd yn ogystal â gwella’r amgylchedd a gwella ansawdd bywyd y bobl sy’n byw mewn datblygiadau newydd neu’n eu defnyddio. Fodd bynnag, rhaid i gynlluniau gostegu traffig gael eu dylunio’n dda, rhaid iddynt gyd-fynd â chymeriad yr ardal a rhaid iddynt fod yn briodol ar gyfer amgylchiadau penodol pob achos, neu gallent hwy eu hunain arwain at broblemau’n ymwneud â diogelwch, tagfeydd a’r amgylchedd. Mae datblygiadau preswyl, manwerthu a chyflogaeth, ysgolion a chyfleusterau cymunedol, a datblygiadau sy’n agos i lwybrau a chyfleusterau hamdden yn enghreifftiau priodol o achosion lle bydd mesurau gostegu traffig yn angenrheidiol. Byddai’n bosibl ystyried creu parthau 20 milltir yr awr neu ‘barthau cartrefi’, sef ardaloedd bach lle caiff cyflymder traffig ei ostwng a lle rhoddir mwy o flaenoriaeth i gerddwyr a beicwyr. Yn ogystal, gellid ystyried creu ‘lonydd tawel’ mewn ardaloedd gwledig, lle caiff is-ffyrdd eu ‘rhannu’ gan gerddwyr, beicwyr, y sawl sy’n marchogaeth a’r sawl sy’n gyrru cerbydau modur. Er hynny, er mwyn osgoi creu problemau pellach mewn mannau eraill, rhaid cymryd gofal i sicrhau bod unrhyw gynlluniau’n cael eu dylunio’n addas a’u gweithredu yn unol ag unrhyw strategaeth gyfredol neu arfaethedig ar gyfer yr ardal gyfan.

 

AC15 Rheoli Traffig

Caniateir cynigion ar gyfer cynlluniau integredig ar gyfer rheoli traffig os byddant:

a. yn lleihau tagfeydd ac yn gwella llif y traffig;

b. yn lleihau’r gwrthdaro rhwng cerddwyr, beicwyr a cherbydau;

c. yn cyfrannu at leihau twf traffig; ac

ch. yn gwella diogelwch ac ansawdd amgylcheddol trefi a phentrefi.

10.58 Gall gweithredu mesurau rheoli traffig wella ansawdd bywyd i bobl leol yn ogystal â gwella ansawdd ac apêl y Sir i ymwelwyr a buddsoddwyr. Gall gwneud defnydd mwy effeithlon o’r rhwydwaith ffyrdd sy’n bodoli eisoes arwain at welliannau amgylcheddol cost-effeithiol heb orfod adeiladu ffyrdd newydd. Yn aml, bydd cynlluniau o’r fath yn canolbwyntio ar ganolfannau siopa trefi neu ardaloedd, ond byddant hefyd yn briodol ar gyfer rhannau o ffyrdd neu gyffyrdd sy’n beryglus neu lle ceir tagfeydd neu wrthdaro rhwng defnyddwyr ffyrdd. Dylai Cynlluniau Rheoli Traffig weithio tuag at leihau cynnydd gwirioneddol mewn traffig neu leihau’r cyflymder y mae traffig yn cynyddu, yn unol â’r targedau a nodwyd yng Nghynllun Trafnidiaeth Lleol Sir y Fflint a’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol sydd ar ddod.

 

AC16 Gwella Ffyrdd / Dylunio Ffyrdd Newydd

Ni chaiff cynlluniau gwella ffyrdd neu ffyrdd newydd eu hystyried oni bai fod cynlluniau gostegu neu reoli traffig yn ymarferol, a rhaid i’r cynlluniau dan sylw arwain at wella:

a. diogelwch ar y ffyrdd;

b. amodau amgylcheddol;

c. hygyrchedd; ac

ch. integreiddio.

Dylai cynlluniau o’r fath gael eu cyfeirio a’u dylunio yn y fath fodd fel:

  1. na fyddant yn achosi niwed annerbyniol i’r amgylchedd naturiol, o ystyried y dirwedd, cadwraeth natur, a’r tirffurf a’r ddarpariaeth sgrinio sy’n bodoli eisoes;
  2. na fyddant yn achosi niwed annerbyniol i’r amgylchedd adeiledig, o ystyried materion sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth, tirweddau, parciau a gerddi hanesyddol, gweddillion archeolegol a threfwedd;
  3. y byddant yn cadw neu’n ailgyflwyno nodweddion ffiniau traddodiadol;
  4. y byddant yn cynnwys mesurau a deunyddiau tirlunio addas;
  5. y byddant yn darparu ar gyfer cerddwyr, beicwyr a thrafnidiaeth gyhoeddus a phobl eraill sy’n defnyddio’r ffyrdd, os yw hynny’n briodol;
  6. na fyddant yn achosi niwed annerbyniol i amwynder preswyl;
  7. y byddant yn ystyried ffurf a phatrwm aneddiadau, gan osgoi gwahanu cymunedau a chreu cynseiliau ar gyfer datblygiadau niweidiol; ac
  8. na fyddant yn niweidio ansawdd yr aer na’r dwr.

10.59 Yn y lle cyntaf, dylid defnyddio cynlluniau gostegu neu reoli traffig i fynd i’r afael â phroblemau cyfredol sy’n ymwneud â phriffyrdd. Os nad yw hynny’n ymarferol, gellir ystyried gwneud gwelliannau i ffyrdd neu adeiladu ffyrdd newydd, ar yr amod bod y cynllun yn gwella diogelwch ar y priffyrdd, yn gwella amodau amgylcheddol ac yn gwella hygyrchedd yn yr ardal leol. Bydd angen asesu cynlluniau’n ofalus er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â phroblemau penodol yn hytrach na’u bod yn creu lefelau annerbyniol o gynnydd mewn traffig yn y dyfodol.

10.60 Pan fydd yr egwyddor o wella ffordd neu adeiladu ffordd newydd wedi’i sefydlu, bydd angen rhoi sylw gofalus i lwybr a dyluniad y ffordd er mwyn sicrhau bod unrhyw effeithiau amgylcheddol yn cael eu lleihau neu’u dileu drwy fesurau lliniaru. Dylid cynnig darpariaeth a fydd yn sicrhau bod y sawl nad ydynt yn defnyddio car, sy’n cynnwys cerddwyr, beicwyr a bysiau, yn gallu defnyddio’r ffordd. Mewn ardaloedd lle ceir defnydd cyfredol neu bryderon penodol ynghylch diogelwch, dylid sicrhau darpariaeth ar gyfer y sawl sy’n marchogaeth a cherbydau a gaiff eu tynnu gan geffylau. Dylid rhoi sylw arbennig i ddarparu croesfannau diogel os yw’r cynllun yn mynd ar draws hawliau tramwy cyhoeddus, gan gynnwys darparu ar gyfer ceffylau os yw hynny’n briodol. Bydd y deunyddiau, yr arferion adeiladu, y gorffeniadau a’r rhywogaethau cynhenid a ddefnyddir yn rhan o gynlluniau tirlunio’n hollbwysig mewn lleoliadau gwledig a threfol sensitif, yn enwedig mewn perthynas â’r modd yr ymdrinnir â ffiniau. Dylai cynlluniau ystyried y bywyd gwyllt a gaiff ei golli a chynnwys mesurau lliniaru priodol yn rhan o’r broses ddylunio a gweithredu. Mewn rhai achosion lle ceir problemau’n ymwneud â chael gwared ar ddwr wyneb neu lle ceir goblygiadau o ran llifogydd, bydd angen i gynlluniau ffyrdd gynnwys systemau draenio cynaliadwy.

 

AC17 Llwybrau a Ddiogelir

Bydd y tir canlynol, fel y dangosir ar y map cynigion a’r cynlluniau mewnosod, yn cael ei ddiogelu ar gyfer gwneud gwelliannau i ffyrdd yn y dyfodol:

a. A548 Gwelliannau Maes-glas - Ffynnongroyw (Cam 1)

b. Ffordd Gyswllt Plough Lane, Shotton

c. A550/A541 Ffordd Osgoi yr Hob a Chaergwrle

ch. A494/A550 Drome Corner - Ewlo

10.61 Mae’r gwelliannau arfaethedig uchod i ffyrdd wedi’u cynnwys yn rhaglen ffyrdd Cyngor Sir y Fflint.

10.62 Mae ffordd yr arfordir, yr A548, yn ffordd bwysig sy’n rhedeg trwy ardal y Cynllun, gan ei bod yn cysylltu llawer o’r prif ganolfannau poblogaeth â safleoedd cyflogaeth pwysig. Mae’n cario mwyfwy o draffig diwydiannol a thraffig gwyliau, ac yn ystod misoedd yr haf mae’n dueddol o ddioddef tagfeydd difrifol mewn rhai mannau. Gall dylunio gwelliannau cyfyngedig yn ofalus sicrhau bod traffig yn symud yn ddiogel ac yn effeithlon ar hyd y ffordd. Yn ystod oes y Cynllun, mae’n debygol y bydd yr A548 yn dod yn gefnffordd. Bydd Cam 2 Cynllun Gwella’r A548, er nad yw yn y rhaglen ffyrdd ar hyn o bryd, yn ymestyn i Ffynnongroyw gan gynnwys ffordd gyswllt â Dociau Mostyn.

10.63 Mae pentrefi’r Hob, Caergwrle, Abermor-ddu a Chefn-y-bedd yn dioddef tagfeydd traffig a’r problemau sy’n gysylltiedig â hynny, gan eu bod ar gyffordd yr A550 a’r A541 sy’n cario traffig i Wrecsam ac oddi yno ar lwybrau sydd wedi’u cysylltu â Glannau Dyfrdwy a’r Wyddgrug. Mae’r pentrefi hyn yn agos i’r B5373 sy’n gwasanaethu Ystâd Ddiwydiannol Llai ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Ceir llwybr a ffefrir ac a ddiogelir ar gyfer ffordd osgoi i’r cymunedau hyn, fel y nodir ar y map cynigion, a fyddai’n sicrhau bod gwelliannau eraill sy’n gysylltiedig â phriffyrdd a’r amgylchedd yn gallu cael eu gwneud yn y cymunedau hyn.

10.64 Mae’r A494/A550 yn rhan allweddol o’r prif rwydwaith ffyrdd sy’n darparu cysylltiadau â’r rhwydwaith traffyrdd yng ngogledd-orllewin Lloegr. Mae llawer iawn o draffig yn defnyddio’r ffyrdd hyn, ac mae ganddynt hanes gwael o ran diogelwch. Felly, caiff cynigion eu cynnwys yn y Cynllun i ledu’r ffordd rhwng Drome Corner ac Ewlo er mwyn cynyddu capasiti a gwella diogelwch. Yn ystod oes y Cynllun, mae’n bosibl y bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i Gyfnewidfa Ewlo ar yr A494/A55. Caiff y cynllun ei gynnwys yn atodiad 2004 Blaenraglen Cefnffyrdd y Cynulliad (2002) fel cynllun Cam 2. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal Astudiaeth o Drafnidiaeth Gogledd-ddwyrain Cymru i nodi’r ddarpariaeth o ran trafnidiaeth y bydd ei hangen yn yr ardal yn y dyfodol.

Mae’r prif rwydwaith priffyrdd yn cynnwys y ffyrdd canlynol:

Mae’r rhwydwaith priffyrdd craidd yn cynnwys y ffyrdd canlynol:

 

AC18 Darpariaeth o ran Parcio a Datblygiadau Newydd

Rhaid i bob datblygiad newydd, gan gynnwys achosion o newid defnydd, ddarparu nifer briodol o leoedd parcio’n unol â Safonau Parcio Cyngor Sir y Fflint, a fydd yn pennu’r nifer uchaf o leoedd parcio. Gellir lleihau’r gofynion:

a. os yw’r datblygiad yng nghanol tref;

b. os yw’r datblygiad o fewn 300 metr i feysydd parcio cyhoeddus sy’n bodoli eisoes, sydd â digon o le gwag ac sy’n hygyrch i bawb sy’n eu defnyddio;

c. os nad oes angen lleoedd parcio ar y safle ar gyfer y datblygiad;

ch. os yw’r datblygwr wedi cytuno â’r Awdurdod Cynllunio Lleol i gyfrannu swm cymudedig sy’n cyfateb i gost gyfredol darparu lleoedd parcio anweithredol; a

d. os caiff darpariaeth arall ei gwneud ar gyfer defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded, neu drefniadau eraill megis trefniadau ffurfiol ar gyfer rhannu ceir neu wasanaethau bws preifat;
ar yr amod na fyddai ardaloedd preswyl oddi amgylch neu ardaloedd eraill yn dioddef oherwydd cynnydd yn y nifer sy’n parcio ar y stryd.

Y math o ddefnydd tir

Safon

A1 – Siopau

Manwerthwyr bwyd <2,500m²  

1 lle parcio car i bob 14m² o arwynebedd llawr gros

Siopau bach <1,000m²

1 lle parcio car i bob 15m² o arwynebedd llawr gros

Manwerthwyr nad ydynt yn gwerthu bwyd

1 lle parcio car i bob 20m² o arwynebedd llawr gros

Archfarchnadoedd >2,500m²

1 lle parcio car i bob 20m² o arwynebedd llawr gros

Garejis (gan gynnwys canolfannau teiars a chanolfannau atgyweirio) a gorsafoedd petrol

3 lle parcio i bob cilfach wasanaeth + 2 le parcio ar gyfer canolfan MOT+ lleoedd parcio ychwanegol ar gyfer siop ar y safle (gweler ‘siopau bach’)

Ystafell arddangos ceir mewn garej

1 lle parcio i bob 40m² o ardal arddangos a gwerthu

A2 – Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol

Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol

1 lle parcio car i bob 20m² o arwynebedd llawr gros

A3 – Bwyd a diod

Tŷ tafarn, clwb trwyddedig,

bwyty, caffi a siop cludfwyd poeth ac ati

1 lle parcio car i bob 4m² o arwynebedd llawr cyhoeddus net

 

Cyfleuster ‘gyrru drwodd’ ar gyfer prynu bwyd parod

1 lle parcio car i bob 7.5m² o arwynebedd llawr gros net

B1 – Busnes

Busnes, gan gynnwys swyddfeydd

1 lle parcio car i bob 30m² o arwynebedd llawr gros

B2 – Diwydiant cyffredinol

Diwydiant cyffredinol

1 lle parcio car i bob 50m² o arwynebedd llawr gros

B8 – Storio

Storio a dosbarthu

1 lle parcio car i bob 100m² o arwynebedd llawr gros

C1 – Gwestai

Gwestai

1 lle parcio car i bob gwely, gan gynnwys gwelyau staff + 1 lle parcio car i bob 3 aelod o staff dibreswyl + lleoedd parcio ychwanegol ar gyfer ystafelloedd cynnal digwyddiadau ac ati (gweler defnyddiau A3) ac ystafelloedd a ddefnyddir at ddibenion ymgynnull a hamdden (gweler defnyddiau D2) os ydynt ar gael i’w defnyddio gan y cyhoedd

C2 – Sefydliadau preswyl

Sefydliadau preswyl

1 lle parcio car i bob 3 lle gwely + 1 lle parcio car i bob aelod o staff

C3 – Anheddau

Tŷ 1 ystafell wely

1.5 lle parcio car i bob uned

Tŷ 2 ystafell wely

2 le parcio car i bob uned

Tŷ 3 ystafell wely

Tŷ >3 ystafell wely - 3 lle parcio car i bob uned

Fflatiau

1 lle parcio car i bob uned + 1 lle parcio car i bob 2 uned ar gyfer ymwelwyr

Anheddau i bobl hŷn / anheddau neu fflatiau ymddeol

1 lle parcio car i bob uned + 1 lle parcio car i bob 3 uned ar gyfer ymwelwyr

Tai gwarchod

Tai gwarchod

1 lle parcio car i bob 3 uned + mynediad i ambiwlans

D1 – Sefydliadau dibreswyl

Gwasanaethau meddygol / iechyd

4 lle parcio car i bob ystafell ymgynghori + 1 lle parcio car i bob 2 aelod o staff

Addysg – cyn-ysgol (gan gynnwys crèche, meithrinfa ddydd neu ganolfan ddydd)

1 lle parcio car i bob 25m² o arwynebedd llawr gros + 1 lle parcio car i bob aelod o staff

Addysg – Ysgolion cynradd ac uwchradd ¹

1.5 lle parcio car i bob ystafell ddosbarth

Colegau Chweched Dosbarth ac Addysg Bellach

1 lle parcio car i bob 4 myfyriwr

Orielau celf, amgueddfeydd a llyfrgelloedd

1 lle parcio car i bob 25m² o arwynebedd llawr gros

Mannau addoli

1 lle parcio car i bob 5 sedd neu 1 lle parcio car i bob 10m² o arwynebedd llawr cyhoeddus

Neuadd ymgynnull

1 lle parcio car i bob 4m² o arwynebedd llawr cyhoeddus

D2 – Ymgynnull a hamdden

Sinema, neuaddau dawns, cyfleusterau cynadledda, bingo, canolfannau cymryd rhan mewn chwaraeon neu wylio chwaraeon ac ati

1 lle parcio car i bob 4 sedd ar gyfer awditoria neu

1 lle parcio car i bob 15m² o arwynebedd llawr gros ar gyfer neuadd ddawns neu ganolfan chwaraeon

¹ Ar gyfer ysgolion cynradd, rhaid gwneud darpariaeth hefyd yng nghwrtil y datblygiad ar gyfer gadael a chasglu’r plant yn ddiogel, gan ddefnyddio systemau cylchredol os yw hynny’n bosibl.

 

10.65 Gall darparu digon o leoedd parcio oddi ar y stryd sicrhau nad yw datblygiadau newydd yn creu pwysau i barcio’n anhrefnus ar y briffordd, a allai beryglu diogelwch a gwrthdaro ag anghenion trigolion a busnesau lleol. I’r perwyl hwnnw, mae gan y Cyngor safonau parcio cyfredol y gellir eu gweithredu yn achos y rhan fwyaf o wahanol fathau o ddefnydd, a bydd disgwyl i ddatblygwyr lynu wrthynt o safbwynt nifer ac ansawdd y lleoedd parcio a ddarperir.

10.66 Fodd bynnag, gallai darparu gormod o leoedd parcio rwystro datblygiadau mwy dwys ac atal pobl rhag defnyddio dulliau mwy cynaliadwy o deithio. Mae’r ddarpariaeth o ran lleoedd parcio ceir yn dylanwadu’n helaeth ar y drafnidiaeth y bydd pobl yn ei dewis, a gallai darparu gormod o leoedd parcio annog pobl i barhau i ddefnyddio’u ceir. Gyda hynny mewn golwg, bydd y safonau parcio ceir cyfredol yn pennu’r nifer uchaf o leoedd parcio y dylid eu darparu, ac ni chaniateir i’r ddarpariaeth fod yn fwy na’r nifer honno. Bydd nifer y lleoedd parcio a ddarperir yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys y math o ddatblygiad sydd dan sylw a’i agosrwydd i feysydd parcio cyhoeddus. Ni fydd sefyllfaoedd lle bydd cerbydau’n cael eu parcio ar ffyrdd o gwmpas y datblygiad oherwydd bod nifer y lleoedd parcio a ddarperir yn is yn dderbyniol. Caiff y safonau llawn, gan gynnwys manylion pellach ynghylch sut y cânt eu gweithredu, eu hegluro mewn Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ar wahân wedi’i deilwra.

10.67 Mewn rhai amgylchiadau, bydd angen ystyried y posibilrwydd o dalu swm cymudedig i’r Cyngor yn lle darparu lleoedd parcio, gan ystyried amgylchiadau penodol y datblygiad a’r ardal leol. Defnyddir y swm cymudedig i:

10.68 Ceir cyfleoedd hefyd i leihau gofynion o ran parcio os yw’r datblygiad yn ceisio gwella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau i feicwyr a cherddwyr, neu drefniadau eraill megis gwasanaethau bws preifat i’r gwaith neu gynlluniau ffurfiol ar gyfer rhannu ceir, sy’n lleihau’r traffig a gynhyrchir o ran ceir. Mae polisi AC4 yn mynnu bod ystyriaethau o’r fath yn cael eu hegluro mewn cynllun teithio ar gyfer pob datblygiad sy’n cynhyrchu llawer o deithio.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

AC19 Cilfannau ac Ardaloedd Picnic

Caniateir cynigion ar gyfer datblygu cilfannau ac ardaloedd picnic ar gyfer ceir a charafanau teithiol:

a. os oes gan y safle ddefnydd adeiledig yn awr, neu os oedd ganddo ddefnydd o’r fath yn y gorffennol, nad yw bellach yn hyfyw’n economaidd;

b. os caiff cyfleusterau digonol eu darparu o ran toiledau, diogelwch, gwybodaeth i dwristiaid a chyfleusterau picnic;

c. os bydd unrhyw ddatblygiad adeiledig cysylltiedig yn eilbeth i brif swyddogaethau’r safle fel lle picnic/gorffwys a lle gwybodaeth i dwristiaid; ac

ch. os caiff effaith y datblygiad ei lleihau drwy sgrinio’r dirwedd, gosod arwyddion mewn modd sensitif a defnyddio deunyddiau addas ar gyfer yr arwyneb.

10.69 Yn ystod misoedd yr haf, bydd llawer o bobl yn mynd drwy Sir y Fflint ar eu ffordd i gyrchfannau gwyliau ar Arfordir Gogledd Cymru ac yn Eryri. Er hynny, dim ond nifer gyfyngedig o gilfannau a geir ar hyn o bryd, sydd â mynediad diogel a chyfleus i’r prif ffyrdd. Gallai cyhoeddi cyfres o lwybrau a theithiau hamdden drwy Sir y Fflint olygu bod angen cyfleusterau o’r fath.

10.70 Gallai datblygu porth priodol mewn modd sensitif, gan ymgorffori cyfleusterau gwybodaeth i dwristiaid, lle gorffwys a chyfleusterau picnic, annog mwy o bobl i fanteisio ar yr atyniadau niferus sydd gan Sir y Fflint i’w cynnig, gan gynyddu gwariant yn yr ardal ac amlygu cyfleoedd gwyliau sy’n agosach i brif ddalgylchoedd trefol Lerpwl a Manceinion. Yn ogystal, gallai darparu cyfleusterau mewn modd a reolir helpu i leihau’r achosion o barcio ar ymylon glaswellt neu dir comin, sy’n niweidio amgylcheddau sensitif.

 

AC20 Meysydd Parcio Lorïau

Caniateir meysydd parcio lorïau, sy’n caniatáu i lorïau aros am gyfnod byr neu dros nos, ar yr amod bod yr angen am feysydd parcio o’r fath wedi’i brofi. Fe’u caniateir:

a. ar ystadau diwydiannol sy’n bodoli eisoes; neu

b. lle byddai eu datblygu yn arwain at wella cyfleusterau sy’n bodoli eisoes;

c. lle na fyddent yn dyblygu cyfleusterau sy’n bodoli eisoes yn ardal y Cynllun nac yn gwasanaethu’r un briffordd; neu

ch. lle nad oes unrhyw safleoedd eraill addas ar gael.

Ym mhob achos, dim ond dan yr amodau canlynol y byddai datblygiad o’r fath yn cael ei ganiatáu:

  1. bod gan y safle fynedfa ac allanfa ddwyffordd uniongyrchol i ddwy ochr yr A55, yr A548 neu’r A494, sy’n sicrhau nad oes yn rhaid i lorïau fynd drwy ardaloedd preswyl;
  2. bod y cyfleuster wedi’i gyfyngu, o ran ei fath, ei faint a’i natur, i’r hyn sy’n angenrheidiol i fodloni’r galw a brofwyd, a’i fod yn briodol o ystyried cymeriad a golwg y safle a’r ardal leol;
  3. bod unrhyw ddatblygiad adeiledig cysylltiedig yn eilbeth i brif ddefnydd y safle fel lle gorffwys;
  4. bod cyfleusterau toiledau a nodweddion diogelwch digonol wedi’u hymgorffori yn y safle;
  5. bod y safle’n ymdoddi i’r dirwedd neu bod modd lleihau’n foddhaol unrhyw effaith weledol a gaiff y datblygiad, drwy sgrinio’r dirwedd, gosod arwyddion mewn modd sensitif a defnyddio deunyddiau addas ar gyfer yr arwyneb;
  6. nad yw’r datblygiad yn achosi niwed annerbyniol i ansawdd yr aer neu’r dwr; ac
  7. na fyddai’r datblygiad yn achosi unrhyw niwed annerbyniol i amwynder preswyl.

10.71 Ar hyn o bryd, nid oes digon o fannau gorffwys cyfleus a diogel i yrwyr lori sy’n teithio i brif safleoedd cyflogaeth y Sir neu sy’n mynd drwy’r ardal ar eu ffordd yn ôl ac ymlaen i ogledd-orllewin Cymru ac Iwerddon.

10.72 O gael cymeradwyaeth gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru, gallai creu safleoedd eraill diogel sydd wedi’u dylunio’n dda ac sydd wedi’u lleoli’n ofalus ddarparu cyfleuster hanfodol i yrwyr sy’n teithio’n bell, gan wella diogelwch y system gefnffyrdd a lleihau’r pwysau ar briffyrdd oddi amgylch. Oherwydd bod meysydd parcio lorïau’n gweithredu 24 awr y dydd, ac oherwydd eu defnydd dwys o dir a maint y traffig a’r math o draffig ydyw, ychydig o safleoedd derbyniol a geir sydd â mynediad diogel a chyfleus i ddwy ochr priffordd fawr ac nad ydynt yn niweidio’r dirwedd neu amwynder preswyl.

 

AC21 Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat

Caniateir darparu’r cyfleusterau canlynol ar gyfer tacsis:

a. mannau codi/gollwng teithwyr a mannau aros yn rhan o bob datblygiad masnachol a chymunedol newydd a phob datblygiad newydd ar gyfer siopa, cyflogaeth a hamdden;

b. swyddfeydd anweithredol, cyhyd â bod digon o leoedd parcio ar gael oddi ar y stryd ac, mewn mannau preswyl:

  1. bod dyluniad a lleoliad y mast radio yn dderbyniol o safbwynt gweledol ac nad yw’r modd y mae’n gweithredu yn niweidio amwynder; a
  2. mai dim ond un cerbyd sy’n gysylltiedig â’r cynnig, ac nad yw’r ffaith bod cerbydau’n symud yn ôl ac ymlaen i’r safle yn creu perygl ar y briffordd nac yn arwain at golli amwynder.

c. swyddfeydd gweithredol ar yr amod:

  1. bod digon o leoedd parcio neu fannau codi/gollwng teithwyr a mannau aros ar gael oddi ar y stryd;
  2. na fyddai’r cynnig yn niweidio bywiogrwydd na hyfywedd canolfannau siopa trefi neu ardaloedd; a
  3. na fyddai’r cynnig yn niweidio amwynder unrhyw eiddo preswyl oherwydd symudiadau cerbydau, swn ac oriau gweithredu.

Mewn rhai amgylchiadau, gellir rhoi caniatâd dros dro er mwyn darparu cyfle i asesu effaith y cynnig.

10.73 Mae’r polisi yn cydnabod y gall tacsis ddarparu dull gwerthfawr o deithio i bobl ag anableddau neu bobl ag anawsterau symud, neu’r sawl sy’n byw mewn ardaloedd sy’n bell o rwydweithiau mwy confensiynol o drafnidiaeth gyhoeddus, neu yn ystod adegau o’r dydd pan fydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus wedi gorffen.

10.74 Er hynny, gall swyddfeydd tacsis gael effaith niweidiol ar ardal, yn dibynnu ar y math o swyddfa a geir. Bydd swyddfeydd anweithredol yn cynnwys swyddfeydd busnesau tacsis bach nad oes ganddynt ystafell aros ond a gaiff eu gweithredu gan ddefnyddio system radio. Yn aml, bydd y busnesau hyn yn cynnwys un cerbyd yn unig ac yn gweithredu o amryw leoliadau gan gynnwys ardaloedd preswyl, yn amodol ar rai trefniadau diogelu’n ymwneud â’r offer mast radio a’r effaith ar amwynder preswyl, yn enwedig o safbwynt oriau gweithredu.

10.75 Mae swyddfeydd gweithredol yn cynnwys swyddfeydd sydd ag ystafelloedd aros i’r cyhoedd ac ystafelloedd gorffwys i’r gyrwyr. Mae’r rhain yn fusnesau mwy o faint sy’n cynnwys nifer o gerbydau, ac yn aml byddant yn gweithredu 24 awr y dydd. Bydd yr ystod o leoliadau sy’n debygol o fod yn dderbyniol yn llai, ond byddant yn cynnwys canol trefi a chanolfannau ardal, ardaloedd masnachol cymysg ac ardaloedd cyflogaeth. Yng nghanol trefi ac mewn canolfannau ardal, ni ddylai cynigion niweidio eu bywiogrwydd a’u hyfywedd, e.e. drwy greu ffryntiadau difywyd. Er hynny, mae angen eu lleoli mewn man cyfleus, sy’n golygu mai ardaloedd ar y cyrion fyddai’r dewis gorau. Bydd angen i gynigion ystyried unrhyw eiddo preswyl yn yr ardal, e.e. fflatiau uwchben siopau, a’r effaith a geir ar eu hamwynder o safbwynt swn, gweithgarwch ac oriau gweithredu, gan ystyried natur defnyddiau eraill yn y cyffiniau. Yn gyffredinol, ni fydd swyddfeydd gweithredol yn dderbyniol mewn ardaloedd preswyl.

10.76 Ym mhob achos, bydd angen lleoedd parcio a/neu fannau codi/gollwng teithwyr oddi ar y stryd. Er mwyn monitro effaith y cynnig ar gymeriad yr ardal, amwynder unrhyw eiddo preswyl a’r rhwydwaith priffyrdd lleol, efallai y bydd angen rhoi caniatâd dros dro.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

Telathrebu

AC22 Lleoli Peirianwaith

Caniateir gosod peirianwaith telathrebu:

a. os na cheir unrhyw bosibilrwydd rhesymol o rannu’r cyfleusterau sy’n bodoli eisoes neu o ddefnyddio adeiladau neu strwythurau addas sy’n bodoli eisoes;

b. os cymerwyd camau boddhaol i leihau effaith weledol yr offer ac unrhyw seilwaith cysylltiedig;

c. os yw ar gael i’w ddefnyddio fel cyfleuster a rennir; ac

ch. os yw’r cynigion yn cynnwys darpariaeth ddigonol ar gyfer adfer y safle’n gyfan gwbl a gofalu amdano pan roddir y gorau i’w ddefnyddio.

Os cynigir gosod peirianwaith o’r fath mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol neu’n agos iddi, ni fydd y cynnig yn cael ei ganiatáu oni ellir profi nad oes safleoedd eraill boddhaol ar gael.

10.77 Caiff y cyfyngiadau technegol ac economaidd sy’n wynebu gweithredwyr telathrebu eu cydnabod, a bwriedir i’r polisi hwn gael ei ddehongli a’i weithredu o fewn y terfynau dan sylw. Er hynny, gall seilwaith telathrebu amharu’n sylweddol ar y dirwedd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig mwy sensitif. Wrth ystyried cynigion ar gyfer seilwaith newydd, rhaid i ddatblygwyr gysylltu’n fuan â’r Cyngor i drafod materion sy’n ymwneud â lleoli a dylunio, cyn cyflwyno cais cynllunio.

10.78 Rhoddir cryn bwys yng nghanllawiau’r llywodraeth ar y graddau y gellir rhannu mastiau telathrebu ac ar sicrhau y ceir cyn lleied ag sy’n bosibl o fastiau a safleoedd peirianwaith o’r fath. Bydd y Cyngor yn gosod amodau ar ganiatadau cynllunio i’r diben hwn. Gosodir amodau hefyd i sicrhau darpariaeth ar gyfer adfer y safle’n gyfan gwbl a gofalu amdano pe bai gweithredwr yn rhoi’r gorau i ddefnyddio’r cyfleuster telathrebu.

10.79 Wrth ystyried dyluniad peirianwaith, bydd ei uchder, unrhyw ddatblygiadau atodol ac unrhyw waith sgrinio yn bwysig. Rhaid cymryd gofal felly i sicrhau bod dyluniad a lleoliad cyfleusterau newydd yn lleihau’r effaith weledol o olygfannau oddi amgylch. Mae’n bosibl mai dulliau dylunio a thirlunio creadigol fydd yr ateb mwyaf derbyniol os nad oes modd osgoi lleoli peirianwaith ar safle sensitif o ran tirwedd. Mewn lleoliadau sensitif, gofynnir i ddatblygwyr gyflwyno astudiaeth ddichonoldeb a gyflawnwyd gan weithiwr proffesiynol annibynnol sydd â chymwysterau priodol, i gyfiawnhau’r modd y bwriedir darparu a lleoli’r cyfleuster newydd.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

AC23 Datblygiadau Newydd ac Ymyrryd â Signalau Telathrebu

Ym mhob datblygiad newydd, rhaid cymryd camau i osgoi ymyrryd yn annerbyniol ar signalau telathrebu sy’n bodoli eisoes.

10.80 Gall trosglwyddyddion radio neu offer trydanol eraill achosi ymyrraeth drydanol, ond anaml y bydd hynny’n fater cynllunio. Gall ymyrraeth ffisegol ddigwydd pan fydd strwythurau mawr neu amlwg yn rhwystro neu’n adlewyrchu signalau. Dylid ymdrechu i leoli a dylunio mathau eraill o ddatblygiadau er mwyn osgoi’r posibilrwydd hwn.

10.81 Mewn achosion lle mae cynigion datblygu’n debygol o amharu ar signalau teledu, dylid ymgynghori’n llawn â’r awdurdodau darlledu cyn gynted ag sy’n bosibl.

 

AC24 Gosod Ceblau

Mewn cynigion i ddatblygu tai, sy’n ymwneud â mwy na 10 uned, ac mewn datblygiadau manwerthu, datblygiadau masnachol a datblygiadau diwydiannol mawr, rhaid darparu ar gyfer gosod ceblau neu gwndidau yn ystod y gwaith adeiladu, os yw hynny’n briodol.

10.82 Dylai’r sawl sy’n cynnig datblygiadau mawr, megis tai, swyddfeydd, cyfleusterau diwydiannol a chyfleusterau manwerthu, gynnal trafodaethau â gweithredwyr cyfleusterau telathrebu i ganfod beth allai eu hanghenion fod yn y dyfodol. Yna, gellir darparu’n briodol o flaen llaw ar gyfer gosod cwndidau a cheblau yn ystod y gwaith adeiladu er mwyn lleihau unrhyw amharu a allai ddigwydd yn y dyfodol.

10.83 Ym mhob cynnig telathrebu lle ystyrir claddu ceblau, tynnir sylw at yr effeithiau posibl ar weddillion archeolegol ac at y coed sydd yno eisoes neu at goed sydd newydd gael eu plannu.

 

Polisïau allweddol eraill:

Brig y dudalen