Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

Pennod 9

Amgylchedd Hanesyddol

Nodau Strategol Perthnasol

dd. Amgylchedd adeiledig

Amcanion Polisi
#

Rhestr Bolisïau
#

a. GWARCHOD – gwarchod yr amgylchedd hanesyddol a’r tirweddau hanesyddol sy’n werthfawr yn lleol ac a gydnabyddir yn genedlaethol, a hybu’r gwaith o’u hatgyweirio a’u rheoli

b. DEALL – cael gwybodaeth gywir am hyd a lled a natur asedau hanesyddol er mwyn galluogi cadwraeth gadarn

c. GWELLA – hybu datblygiadau newydd o gymeriad priodol ledled y Sir, yn enwedig mewn ardaloedd cadwraeth a/neu wrth adfer adeiladau hanesyddol

ch. DEFNYDD CYNALIADWY – hyrwyddo gwaith defnyddio ac ailddefnyddio adeiladau ac ardaloedd hanesyddol, nad yw’n cael effaith andwyol ar eu nodweddion pensaernïol neu hanesyddol arbennig

d. ADFYWIO – hyrwyddo amcanion economaidd y Cyngor trwy ddefnyddio gwaith atgyweirio adeiladau a nodweddion hanesyddol a gwella ardaloedd hanesyddol fel sylfaen ar gyfer adfywio trefi a chymunedau o safbwynt economaidd

HE1 Datblygiadau sy’n Effeithio ar Ardaloedd Cadwraeth

HE2 Datblygiadau sy’n Effeithio ar Adeiladau Rhestredig a’u Lleoliadau

HE3 Gwaith Dymchwel mewn Ardaloedd Cadwraeth

HE4 Adeiladau o Ddiddordeb Lleol

HE5 Gwarchod Tirweddau Cofrestredig, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig

HE6 Henebion Cofrestredig a safleoedd eraill sy’n Safleoedd Archeolegol o Bwysigrwydd Cenedlaethol

HE7 Safleoedd eraill sy’n Safleoedd o Bwysigrwydd Archeolegol Llai

HE8 Cofnodi Nodweddion Hanesyddol

Dangosyddion Perfformiad Polisi

Targedau

  1. Cynnydd yn nifer ardaloedd cadwraeth ac arfarniadau
  2. Apeliadau a wrthodwyd oherwydd effaith andwyol ar ardaloedd cadwraeth a thirweddau hanesyddol
  3. Adeiladau rhestredig newydd, wedi’u colli ac mewn perygl
  4. Ceisiadau a ganiateir am ganiatâd adeilad rhestredig
  5. Ceisiadau a ganiateir i ddatblygu mewn ardaloedd cadwraeth
  6. Nifer yr adeiladau ar y gofrestr adeiladau mewn perygl mewn ardaloedd cadwraeth
  7. Cofnodion a wneir lle mae datblygiadau sy’n effeithio ar safleoedd dynodedig, ardaloedd cadwraeth neu dirweddau hanesyddol yn mynd rhagddo

TARGED 4: Lleihau’r golled neu’r difrod, o ganlyniad i ddatblygu, a wneir i safleoedd dynodedig, tirweddau hanesyddol ac adeiladau o bwysigrwydd rhyngwladol, cenedlaethol neu sirol o ran treftadaeth, a sicrhau bod gwaith cofnodi digonol yn mynd rhagddo cyn i unrhyw newid ddigwydd

 

9 Amgylchedd Hanesyddol

Cyflwyniad

9.1 Mae gan Sir y Fflint hanes cyfoethog ac amrywiol a adlewyrchir yn ei thoreth o weddillion archeolegol a’i hadeiladau a’i thirweddau hanesyddol. Yn ogystal â chyfrannu’n sylweddol at ein dealltwriaeth o’r gorffennol a’r presennol, mae’r asedau unigryw hyn yn hynod bwysig ar gyfer hamdden ac adloniant.

9.2 Mae’r polisïau yn y bennod hon yn ceisio gwarchod ardaloedd cadwraeth, adeiladau rhestredig ac adeiladau neu strwythurau eraill sydd o ddiddordeb hanesyddol neu leol, yn ogystal â thirweddau, parciau a gerddi hanesyddol, henebion cofrestredig ac ardaloedd o weddillion archeolegol posibl. Mae hefyd yn bwysig cydnabod y nodweddion o ddiddordeb lleol sy’n ychwanegu cyfoeth a hynodrwydd lleol at gymeriad hanesyddol y Sir. Efallai nad yw’r rhain bob amser wedi eu dynodi’n ffurfiol, ond byddant yn cael eu gwarchod gan ypolisïau yn y Cynllun.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol

9.3 Ym mharagraff 6.1.1 Polisi Cynllunio Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn pennu’r amcanion canlynol ar gyfer gwarchod a gwella’r amgylchedd hanesyddol:

9.4 Mae paragraff 6.4.1 Polisi Cynllunio Cymru yn mynnu bod CDUau yn nodi polisïau ar gyfer cadw a gwella’r amgylchedd hanesyddol, ynghyd â’r ffactorau y mae’n rhaid eu hystyried wrth asesu ceisiadau cynllunio. Dylai CDUau gynnwys polisïau ar gyfer gwarchod a gwella safleoedd o ddiddordeb archeolegol a’u lleoliadau. Dylai polisïau hefyd fynd i’r afael â dymchwel, addasu, estyn ac ailddefnyddio adeiladau rhestredig a’u cwrtilau, gyda rhagdybiaeth gyffredinol o blaid cadw adeiladau rhestredig.

9.5 Mae canllawiau cenedlaethol hefyd yn datgan y dylai CDUau nodi’n eglur y bydd cynigion datblygu’n cael eu barnu’n ôl eu heffaith ar gymeriad a golwg ardaloedd cadwraeth, er mwyn sicrhau bod y datblygiad yn cyd-fynd â diddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig yr ardaloedd hynny.

9.6 Mae’n bwysig nodi nad oes unrhyw ofyniad statudol i ystyried darpariaethau cynllun datblygu wrth ystyried ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth (mae’r Llysoedd wedi derbyn nad yw adran 54A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn berthnasol). Er hynny, mae Polisi Cynllunio Cymru yn cynghori fel a ganlyn: “Dylai cynlluniau datblygu gynnwys polisïau ar warchod yr amgylchedd adeiledig sy’n berthnasol i benderfyniadau rheoli datblygu ac y dylid eu hystyried wrth benderfynu ar geisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig ac am gydsyniad ardal gadwraeth”.

 

Cyd-destun Sir y Fflint

9.7 Ardaloedd Cadwraeth – Mae dulliau rheoli ardaloedd cadwraeth wedi’u hymgorffori yn Neddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yw ardal gadwraeth, y byddai’n ddymunol cadw neu wella ei chymeriad neu’i golwg. Bwriedir i ddynodiadau warchod ardaloedd cadwraeth rhag datblygiadau niweidiol graddol, sy’n gallu newid cymeriad yr ardal gadwraeth yn ei chyfanrwydd neu ardaloedd llai oddi mewn iddi.

9.8 Mae 31 o ardaloedd cadwraeth yn ardal y Cynllun, ac mae pob un i’w gweld ar y Cynlluniau Mewnosod. Maent yn amrywio o ganol trefi marchnad i bentrefi bach, parciau hanesyddol, a chasgliadau o adeiladau hanesyddol, ac maent yn cynnwys: canol trefi’r Fflint, yr Wyddgrug a Threffynnon; rhannau o bentrefi Cadole, Caerwys, Cilcain, Ffynnongroyw, Gorsedd, Gwaunysgor, Gwesbyr, Helygain, Llanasa, Nannerch, Nercwys, Llaneurgain, Trelawnyd, Chwitffordd, Ysgeifiog, Penarlâg a Chaergwrle; ac ardaloedd cadwraeth llai o faint yng Ngadlys, Glanyrafon, Kinsale Hall, Leeswodd Hall, Lygan y Wern, Oakenholt Hall, Pantasaph, Plas Bellin, Plas Onn, Abaty Talacre a’r Wern.

9.9 Bydd y Cyngor yn cyflawni’r canlynol mewn perthynas ag ardaloedd cadwraeth:

9.10 Bydd arfarniadau cymeriad yn cael eu cynnal ym mhob ardal gadwraeth er mwyn nodi’r elfennau pensaernïol neu hanesyddol hanfodol sydd i’w gwarchod. Bydd cynigion datblygu yn cael eu barnu’n ôl pa mor dda y maent yn bodloni’r amcanion sy’n ymwneud â chadw neu wella’r cymeriad arbennig. Bydd ardaloedd cadwraeth newydd yn cael eu dynodi’n unol â’r meini prawf a nodwyd yng Nghylchlythyr 61/96 y Swyddfa Gymreig.

9.11 Pan fydd yr arfarniadau wedi’u cwblhau, bydd adolygiadau achlysurol yn cael eu cynnal a bydd cynlluniau rheoli / gwella yn cael eu cynhyrchu i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau a nodwyd.

9.12 Mae’r Cyngor Sir hefyd wedi ymrwymo i wella golwg a chynnal cymeriad ardaloedd cadwraeth trwy’r Grant Adeiladau Hanesyddol a Menter Treftadaeth Trefwedd Treffynnon. Nid yw’r systemau grantiau hyn wedi’u targedu’n benodol at ardaloedd cadwraeth, ond maent wedi bod yn werthfawr mewn dynodiadau o’r fath.

9.13 Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol – Mae Cadw yn llunio rhestr o adeiladau a strwythurau sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol. Caiff yr “adeiladau rhestredig” hyn, y mae dros 868 ohonynt yn ardal y Cynllun, eu hystyried yn adeiladau sydd o bwysigrwydd cenedlaethol. (Mae nifer yr adeiladau rhestredig yn newid dros amser wrth i adeiladau gael eu tynnu oddi ar y rhestr neu’u hychwanegu ati.) Os ydynt o ddiddordeb eithriadol cânt eu rhestru fel rhai Gradd 1, os ydynt o ddiddordeb arbennig cânt eu rhestru fel rhai Gradd 2, ac os ydynt o ddiddordeb mwy nag arbennig cânt eu rhestru fel rhai Gradd 2*. Dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, mae’n ofynnol i’r Cyngor dalu sylw arbennig i adeiladau rhestredig a’r graddau y byddai’n ddymunol cadw adeiladau rhestredig, eu lleoliad, neu unrhyw nodweddion o ddiddordeb archeolegol neu hanesyddol arbennig sydd ganddynt. Cyfeiria’r ddeddfwriaeth hon hefyd at gadw lleoliad adeilad rhestredig ac adeiladau yng nghwrtil adeilad rhestredig (er na chaiff pob adeilad cwrtil ei warchod drwy ei restru).

9.14 Tirweddau, Parciau a Gerddi Hanesyddol – Er bod pwysigrwydd golygfeydd a bywyd gwyllt cefn gwlad Cymru wedi’i gydnabod a’i werthfawrogi ers tro byd, dim ond yn ddiweddar y mae ei bwysigrwydd hanesyddol wedi cael cydnabyddiaeth gyfartal drwy lunio’r Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, a luniwyd gan Cadw, ICOMOS (y Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd) a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys Rhan 1 Parciau a Gerddi, Rhan 2.1 Tirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol a Rhan 2.2 Tirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig. Yn Sir y Fflint ar hyn o bryd, ceir 23 o barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig ac un dirwedd hanesyddol (Comin Treffynnon a Mynydd Helygain), ynghyd â ffin ddwyreiniol tirwedd hanesyddol eithriadol Dyffryn Clwyd. Ar hyn o bryd, cofrestr anstatudol yw hi ac nid oes unrhyw ddulliau ychwanegol o reoli cynllunio’n effeithio ar yr ardaloedd dynodedig. Cefnogir y gofrestr gan bolisi HE5, sy’n ceisio sicrhau bod yr asedau pwysig hyn yn cael eu cadw, eu gwarchod a’u rheoli.

9.15 Safleoedd o Ddiddordeb Archeolegol – Mae gweddillion archeolegol yn adnodd bregus y mae terfyn iddo. Maent yn amrywio o adfeilion castell y Fflint i olion adeiladau ac arteffactau llai crand. Mae’r Cyngor Sir yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol y safleoedd hyn, ac mae’n awyddus i wneud yn fawr o’u gwerth addysgol, eu gwerth o ran dehongli a’u gwerth posibl o ran twristiaeth.

9.16 Ar hyn o bryd, mae tua 100 o Henebion Cofrestredig o’r fath yn ardal y Cynllun. Fodd bynnag, mae Polisi Cynllunio Cymru (2011) yn cydnabod nad yw pob safle o bwysigrwydd cenedlaethol sy’n haeddu cael ei gadw wedi’i restru, ac mae’n pwysleisio y dylai cynlluniau datblygu gynnwys polisïau i warchod henebion a gweddillion archeolegol cofrestredig ac anghofrestredig. Mae Canllawiau Cenedlaethol mwy manwl ar gael yng Nghylchlythyr 60/96 y Swyddfa Gymreig.

9.17 Cofnodi Nodweddion Hanesyddol – Ceir polisi terfynol yn y bennod hon sy’n ymwneud â chofnodi nodweddion o ddiddordeb hanesyddol cyn ac wrth weithredu cynnig datblygu.

 

Polisïau

HE1 Datblygiadau sy’n Effeithio ar Ardaloedd Cadwraeth

Ni chaniateir datblygiad sydd mewn lleoliad ardal gadwraeth neu sy’n effeithio ar leoliad ardal gadwraeth oni bai ei fod yn cadw neu’n gwella cymeriad neu olwg yr ardal ddynodedig.

9.18 Rhaid i ymgeiswyr ddangos sut y bydd cynigion datblygu sydd mewn ardaloedd cadwraeth neu sy’n effeithio arnynt yn cadw neu’n gwella cymeriad neu olwg arbennig yr ardal.

9.19 Dylai swmp a sylwedd unrhyw adeiladau newydd neu estyniadau gyfateb i faint yr adeiladau oddi amgylch, a dylai’r deunyddiau adeiladu allanol fod yn briodol i’r ardal gadwraeth.

9.20 Bydd y Cyngor hefyd yn ystyried lleoliad ehangach yr ardal gadwraeth o ran trefwedd neu dirwedd. Yn benodol, bydd cynigion ar gyfer datblygiadau a fyddai’n weladwy o ardal gadwraeth yn cael eu rheoli er mwyn sicrhau bod golygfeydd i mewn i’r ardal ac allan ohoni’n cael eu cadw.

9.21 Bydd sylw arbennig yn cael ei roi i warchod cynllun adeiladau a phatrymau lleiniau, toeau a nenlinellau, coed, mannau agored, tirweddau dynodedig a nodweddion eraill sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at gymeriad neu olwg arbennig ardal.

9.22 Mae’n arbennig o bwysig i ardaloedd cadwraeth mewn canolfannau masnachol bod gwaith datblygu’n cael ei reoli mewn modd penodol a chadarnhaol. Ar yr un pryd, rhaid i ddatblygiad newydd gadw neu wella priodweddau pensaernïol, gweledol a hanesyddol arbennig yr ardal gadwraeth. Er enghraifft, mae dylunio blaenau siopau’n dda a rheoli hysbysebion yn dda yn elfennau hanfodol o’r broses o gadw natur arbennig ardaloedd cadwraeth.

9.23 Mae dynodi Ardal Gadwraeth yn gwarchod coed i ryw raddau, hyd yn oed os nad ydynt yn rhwym wrth Orchymyn Cadw Coed. Mae angen 6 wythnos o rybudd cyn gwneud unrhyw waith ar goed mewn ardaloedd cadwraeth; mae hynny’n rhoi amser i’r Cyngor ystyried a ddylid cyflwyno Gorchymyn Cadw Coed.

9.24 Bydd y graddau y mae adeiladau’n cyfrannu’n gadarnhaol neu fel arall at gymeriad neu olwg arbennig ardal gadwraeth yn cael eu hasesu wrth i arfarniadau o’r ardal gadwraeth gael eu paratoi.

9.25 Ym marn y Cyngor mae nifer o fân newidiadau, megis gosod drysau a ffenestri newydd yn lle hen rai, adeiladau estyniadau a gosod dysglau lloeren, yn niweidiol i gymeriad a golwg yr ardal gadwraeth. Lle ceir tystiolaeth bod Hawliau Datblygu a Ganiateir yn fygythiad, bydd y Cyngor, lle bo hynny’n berthnasol, yn ceisio cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i ddefnyddio cyfarwyddiadau Erthygl 4 (nid oes angen cadarnhad ar gyfer pob cyfarwyddyd Erthygl 4). Bydd hynny’n dileu Hawliau, sy’n golygu y bydd yn rhaid i berchnogion yn yr ardal gadwraeth wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer gwaith datblygu a ganiateir fel rheol dan rannau 1 a 2 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, a bydd hefyd yn caniatáu rheolaeth dynnach ar ddatblygu mewn ardaloedd cadwraeth.

 

HE2 Datblygiadau sy’n Effeithio ar Adeiladau Rhestredig a’u Lleoliadau

Bydd unrhyw ddatblygiad sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig neu’u lleoliadau, gan gynnwys newidiadau mewnol neu allanol neu newid defnydd, yn cael ei ganiatáu dan yr amodau canlynol yn unig:

  1. na cheir unrhyw effaith andwyol ar gymeriad a golwg bensaernïol neu hanesyddol arbennig yr adeilad nac ar leoliad adeilad rhestredig.
  2. y gellir dangos bod colli neu ddifrodi ei adeiladwaith hanesyddol yn anochel, bod hynny wedi’i leihau, a bod unrhyw waith sy’n golygu colli neu guddio’r rhannau o adeilad rhestredig sy’n cyfrannu at ei ddiddordeb yn cael ei gofnodi gan arolwg ffotograffig neu ddarluniadol; ac
  3. y byddai newid defnydd adeilad neu strwythur rhestredig yn golygu ei fod yn fwy tebygol o oroesi, ac na fydd y newidiadau’n niweidio ei gymeriad neu’i ddiddordeb arbennig.

9.26 Gall lleoliad adeilad rhestredig fod yn gyfyngedig i’w amgylchedd uniongyrchol, ond gall hefyd gynnwys tir sydd rywfaint o bellter oddi wrtho. Y ffordd orau o’i warchod a’i wella yw trwy reoli datblygu’n ofalus, gan gynnwys rheoli gwelliannau i briffyrdd, dylunio elfennau megis dodrefn stryd yn sensitif, a thirlunio. I’r perwyl hwnnw, bydd y Cyngor Sir yn disgwyl i ddatblygwyr gyflwyno ceisiadau digon manwl i alluogi asesiad llawn o effaith y cynigion. Ni fydd ceisiadau amlinellol yn cael eu hystyried yn dderbyniol mewn amgylchiadau o’r fath.

9.27 Mae angen Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer newid, estyn a gwneud rhai atgyweiriadau sy’n effeithio ar gymeriad mewnol neu allanol adeilad rhestredig. Gall gwaith o’r fath gynnwys mân atgyweiriadau (mae Cylchlythyr 61/96 y Swyddfa Gymreig yn cynnwys cyngor mwy manwl). Mae Cylchlythyr 61/96 hefyd yn nodi y dylid gwneud pob ymdrech resymol i gynnal y defnydd presennol, neu os nad yw hynny’n bosibl, i ganfod defnydd newydd ymarferol a phriodol ar gyfer adeiladau rhestredig. Mae’r Cyngor Sir yn rhannu’r farn y dylid atgyweirio ac ailddefnyddio adeiladau rhestredig, lle bo hynny’n bosibl, yn hytrach na’u dymchwel.

9.28 Dylai pob cynnig i estyn adeilad gyd-fynd â maint yr adeilad sy’n bodoli eisoes a bod yn gydnaws ag ef, a dylai gynnwys bwriad i ddefnyddio deunyddiau a thechnegau adeiladu traddodiadol. Mae’r Cyngor Sir wedi cynhyrchu canllawiau cynllunio atodol ar egwyddorion atgyweirio adeiladau hanesyddol, “Historic Buildings – Principles of Repair”, i gynghori perchnogion a datblygwyr ynghylch sut i drin adeiladau hanesyddol ac adeiladau rhestredig. At hynny, bydd yn ymdrechu i gynnal a chadw ei adeiladau rhestredig ei hun mewn modd sy’n esiampl o arfer da.

9.29 Yn gyffredinol nid yw atodiadau modern, megis antenâu teledu lloeren, paneli solar a blychau mesuryddion, yn gweddu i adeiladau rhestredig, ac mewn mannau amlwg gallant amharu’n sylweddol ar olwg neu gymeriad yr adeilad. Mae newid eu defnydd i ddefnydd preswyl, yn enwedig yn achos adeiladau fferm neilltuol, yn arbennig o anodd heb beri niwed sylweddol i’w cymeriad traddodiadol. Lle bo angen, bydd y Cyngor yn cefnogi llacio rheoliadau adeiladu, safonau priffyrdd a safonau eraill er mwyn osgoi niweidio cymeriad adeiladau rhestredig.

9.30 Ni chaniateir dymchwel, neu ddymchwel yn sylweddol, adeilad neu strwythur rhestredig neu unrhyw strwythur perthnasol o fewn cwrtil adeilad rhestredig oni ellir cyflwyno achos eithriadol ynglyn â pham na ellir cadw’r adeilad neu’r strwythur. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y rhoddir caniatâd ar gyfer gwaith dymchwel o’r fath, a dim ond pan fydd y Cyngor yn fodlon bod pob ymdrech wedi’i gwneud i ddarganfod defnydd newydd addas a fyddai’n cynyddu’r tebygolrwydd y byddai’r adeilad yn goroesi. Ni chaniateir dymchwel adeilad rhestredig os yr unig reswm dros wneud hynny yw bod yr adeilad yn anniogel neu nad oes modd dod o hyd i ddefnydd arall rhesymol iddo. Gall amgylchiadau economaidd newid dros amser, neu gallai cymorth grant ariannol ddod ar gael i gyflawni unrhyw waith angenrheidiol.

9.31 Yn yr amgylchiadau eithriadol pan ganiateir dymchwel adeilad rhestredig, ni all y gwaith fynd rhagddo nes bod gofynion adran 8 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 wedi’u cyflawni. Gellir llunio cofnodion manwl o’r adeilad cyn dechrau ar y gwaith dymchwel. Os ymgynghorir â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, bydd y Comisiwn wedi rhoi gwybod a yw am lunio cofnod o’r adeilad ai peidio. Rhaid cytuno ar gynllun ailddatblygu neu adfer cyn dymchwel.

 

HE3 Gwaith Dymchwel mewn Ardaloedd Cadwraeth

Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad sy’n golygu bod adeilad(au) neu strwythur(au) mewn Ardal Gadwraeth yn cael eu dymchwel yn sylweddol neu’n llwyr oni bai y bydd y gwaith dymchwel ac unrhyw adeilad a gynigir yn ei le yn cadw neu’n gwella cymeriad neu olwg yr ardal.

9.32 Mae cymeriad Ardaloedd Cadwraeth yn deillio o nifer o nodweddion, gan gynnwys adeiladau a strwythurau. Mae dynodiad ardal gadwraeth yn cynnwys rheoli gwaith dymchwel, a all olygu bod angen caniatâd ardal gadwraeth. Er nad oes unrhyw ddyletswydd statudol i ystyried y cynllun datblygu mewn perthynas â chaniatâd ardal gadwraeth, mae ceisiadau o’r fath fel rheol yn gysylltiedig â cheisiadau cynllunio ar gyfer cynigion datblygu y dylid gwneud penderfyniad yn eu cylch yn unol â’r cynllun dan Adran 54A. Pan fydd hynny’n digwydd, bydd asesiad yn cael ei gynnal o effaith y cynnig ar gymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth. Wrth gynnal asesiad o’r fath, bydd y Cyngor yn ceisio cadw’r adeiladau hynny sy’n cyfrannu at yr ardal gadwraeth. Mae Adran 91 Cylchlythyr 61/96 y Swyddfa Gymreig yn rhoi manylion y meini prawf sydd i’w defnyddio wrth asesu ceisiadau cynllunio a Chaniatâd Ardal Gadwraeth.

 

HE4 Adeiladau o Ddiddordeb Lleol

Ni chaniateir dymchwel neu newid unrhyw adeilad neu strwythur sydd yn y Rhestr o Adeiladau o Ddiddordeb Lleol oni bai fod y meini prawf canlynol yn berthnasol:

  1. mewn achos o ddymchwel, bod strwythur yr adeilad yn anniogel, na ellir ei wneud yn ddiogel heb ymgymryd â llawer iawn o waith newid neu ailadeiladu, ac na ellir ei adnewyddu am gost sy’n rhesymol o ystyried graddau ei ddiddordeb. Dylai dyluniad yr adeilad newydd fod cystal â’r un sydd wedi’i ddymchwel neu’n well; neu
  2. mewn achos o newid ac estyn adeilad, na ddylai’r gwaith gael effaith andwyol ar gymeriad pensaernïol neu hanesyddol yr adeilad.

9.33 Diben y polisi hwn yw gwarchod adeiladau neu strwythurau nad ydynt wedi’u rhestru ar hyn o bryd ond sydd, er hynny, yn cael eu hystyried yn werth eu cadw oherwydd y cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud i’r amgylchedd lleol. Gallai’r rhain gynnwys: adeiladau neu grwpiau o adeiladau a restrwyd yn flaenorol fel adeiladau Gradd 3 (nad oedd yn rhoi unrhyw warchodaeth statudol); adeiladau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau, pobl neu weithgareddau hanesyddol lleol pwysig; ac adeiladau sy’n cyfrannu at leoliad adeilad rhestredig.

9.34 Mae’r Cyngor Sir yn cynnal rhestr o bob “adeilad o ddiddordeb lleol” o’r fath, gan roi rhesymau dros eu cynnwys. Ni chaniateir eu dymchwel oni bai y byddai cost eu hatgyweirio lawer yn uwch na’u gwerth hanesyddol neu bensaernïol. Bydd y Cyngor yn mynnu bod safon ac ansawdd dyluniad yr adeilad newydd gystal â’r un sydd wedi’i ddymchwel neu’n well.

9.35 Pan fydd caniatâd yn ofynnol a phan fydd newidiadau’n cael eu caniatáu wedyn, bydd angen cymryd gofal i sicrhau nad yw’r newidiadau hynny’n niweidiol i gymeriad hanesyddol yr adeilad. Bydd sylw’n cael ei roi yn arbennig i sicrhau bod unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn cael eu cadw a bod yr holl waith newydd yn gweddu i gymeriad yr adeilad gwreiddiol a’i leoliad o ran dyluniad, maint a deunyddiau.

9.36 Mewn amgylchiadau eithriadol pan ganiateir dymchwel adeilad, rhaid llunio cofnodion manwl o’r adeilad cyn dechrau ar y gwaith.

 

HE5 Gwarchod Tirweddau Cofrestredig, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig

Bydd datblygiad sy’n effeithio ar dir yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru ac ardaloedd cyfagos, yn enwedig parthau eu lleoliad hanfodol a’u golygfeydd arwyddocaol, ynghyd â pharciau a gerddi hanesyddol o ddiddordeb lleol, yn cael ei ganiatáu ar yr amod na fydd yn cael unrhyw effaith andwyol ar eu cymeriad, eu golwg neu’u lleoliad hanesyddol arbennig.

9.37 Cydnabyddir bod tirweddau hanesyddol yn gyffredinol yn ymestyn dros ardaloedd sylweddol o dir, ac mai dim ond y datblygiadau mwyaf sy’n debygol o gael effaith ar gymeriad y dirwedd. Felly, ni fydd datblygiad mewn tirwedd gofrestredig, sy’n dderbyniol o safbwynt polisïau eraill y Cynllun, yn cael ei ganiatáu pe bai’n cael effaith fwy na lleol ar yr ardal a nodir yn y Gofrestr. Yn hytrach, bydd y Cyngor Sir yn annog gwarchod y dirwedd. Dylid cynnwys digon o fanylion gyda phob cais sy’n effeithio ar dirweddau, parciau a gerddi hanesyddol er mwyn bodloni’r Cyngor na fydd y cynigion yn amharu ar olygfeydd naill ai yn yr ardal ddynodedig, i mewn iddi neu allan ohoni, gan gynnwys Parth ei Lleoliad Hanfodol, fel y nodir yn y Gofrestr. Bydd lefel arwyddocâd effeithiau datblygu ar dirwedd hanesyddol yn cael ei hasesu trwy ddefnyddio Asesiad o Arwyddocâd Effeithiau Datblygu ar Dirwedd Hanesyddol (ASIDOHL).

9.38 Pan ganiateir gwaith adfer, dylai fod yn seiliedig ar ymchwil hanesyddol drylwyr. I’r perwyl hwnnw, mae’n bosibl y bydd y Cyngor Sir yn mynnu bod ymchwiliad pensaernïol neu archeolegol digonol yn cael ei gynnal cyn y bydd yn rhoi caniatâd cynllunio.

9.39 Mae rhestr o Barciau a Gerddi Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol ar gael, sydd wedi bod yn ddefnyddiol wrth ystyried penderfyniadau ac apeliadau cynllunio. Nod y Cyngor yw edrych ar yr amgylchedd hanesyddol a’i ystyried yn gyfannol. Gan fod y parciau a’r gerddi lleol hyn, y tu mewn neu’r tu allan i ardaloedd dynodedig, yn gwneud cyfraniad pwysig i hanes a hynodrwydd lleol y Sir, dylid eu diogelu rhag effeithiau niweidiol datblygiadau.

 

HE6 Henebion Cofrestredig a safleoedd eraill sy’n Safleoedd Archeolegol o Bwysigrwydd Cenedlaethol

Ni chaniateir datblygiad a fyddai’n symud, yn difrodi neu’n cuddio Heneb Gofrestredig neu safle archeolegol arall o bwysigrwydd cenedlaethol, neu’u lleoliad.

9.40 Rhaid ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch unrhyw gynnig datblygu sy’n debygol o effeithio ar Heneb Gofrestredig, a rhaid gofyn am Ganiatâd Heneb Gofrestredig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer unrhyw waith arfaethedig i Heneb Gofrestredig. Mae’r polisi hwn yn ceisio sicrhau bod gweddillion archeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol yn cael eu cadw, a cheir rhagdybiaeth o blaid eu cadw yn y fan a’r lle. Er mwyn cyflawni hynny, rhaid cyflwyno gwerthusiad maes archeolegol trylwyr o effaith unrhyw gynnig sy’n debygol o effeithio ar safle archeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol, cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud ar gais cynllunio. Bydd yn ofynnol i’r datblygwr ddarparu’r gwerthusiad ar ei draul ei hun yn unol â manyleb a ddarperir gan y Cyngor Sir.

9.41 Dylai gwerthusiad o’r fath geisio diffinio cymeriad a chyflwr unrhyw henebion neu weddillion o fewn safle’r cais, ac effaith debygol y datblygiad arfaethedig ar nodweddion o’r fath. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn bosibl lleihau effeithiau’r datblygiad arfaethedig yn foddhaol trwy ailddylunio’r cynnig. Mewn achosion eithriadol, lle bydd y Cyngor Sir yn penderfynu na ellir cyfiawnhau cadw’r gweddillion archeolegol yn y fan a’r lle, bydd yn rhaid i’r Cyngor fod yn fodlon bod darpariaeth briodol a boddhaol ar gael i ymchwilio i’r gweddillion a’u cofnodi.

 

HE7 Safleoedd eraill sy’n Safleoedd o Bwysigrwydd Archeolegol Llai

Bydd datblygiad sy’n effeithio ar safleoedd a lleoliadau safleoedd y gwyddys neu yr amheuir eu bod o ddiddordeb archeolegol lleol a/neu ranbarthol yn cael eu caniatáu dan yr amodau canlynol yn unig:

  1. bod asesiad archeolegol wedi ei gynnal, cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud ynglyn â’r cynnig, sy’n bodloni’r Cyngor ac sy’n gwerthuso pwysigrwydd cynhenid y gweddillion; a
  2. bod yr angen i gadw’r diddordeb a nodwyd yn llai pwysig na’r angen am y datblygiad arfaethedig.

Pan fydd datblygiad yn effeithio ar weddillion ond na ellir cyfiawnhau eu cadw yn y fan a’r lle, bydd yn rhaid i waith cloddio a/neu gofnodi gael ei wneud sy’n bodloni’r Cyngor, cyn i’r gwaith datblygu ddechrau.

9.42 Mae’r polisi hwn yn ceisio gwarchod gweddillion archeolegol eraill sydd o bwysigrwydd llai na phwysigrwydd cenedlaethol, ond sydd er hynny’n bwysig. Lle bo ymchwil yn dangos bod gweddillion archeolegol yn debygol o fod, ni fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ynghylch cynigion datblygu nes bod gwerthusiad maes archeolegol addas wedi’i gyflawni i benderfynu a yw’r gweddillion o bwysigrwydd lleol neu ranbarthol. Bydd yn ofynnol i’r datblygwr ddarparu’r gwerthusiad ar ei draul ei hun, yn unol â manyleb a ddarperir gan y Cyngor Sir, a bydd yn ofynnol iddo nodi’r angen am y datblygiad.

9.43 Mae’r polisïau hyn yn ceisio gwarchod pob nodwedd archeolegol bwysig, p’un a ydynt yn gofrestredig ai peidio, rhag unrhyw ddatblygiad a fyddai’n difrodi eu cymeriad hanesyddol. Maent yn berthnasol i bob safle a restrir yn y Cofnodion Safleoedd a Henebion sydd, yn ogystal â safleoedd cofrestredig, hefyd yn dangos pob safle arall y gwyddys neu yr amheuir ei fod yn safle archeolegol.

9.44 Bydd y Cyngor wedyn yn ystyried pwysigrwydd cynhenid y gweddillion ar sail yr angen am y datblygiad. Pan ystyrir bod y gweddillion archeolegol yn ddigon pwysig i haeddu cael eu gwarchod, neu pan nad yw’r gofyniad am asesiad wedi’i fodloni, bydd caniatâd cynllunio’n cael ei wrthod (Cylchlythyr 60/96).

9.45 Gall Llywodraeth Cymru roi cymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer Caniatâd Heneb Gofrestredig. Fodd bynnag, gallai’r Cyngor Sir barhau i wrthod caniatâd cynllunio ar sail diddordeb archeolegol lleol. Mae’r Cyngor Sir yn cefnogi cadw gweddillion archeolegol yn y fan a’r lle yn hytrach na chloddio, sy’n gam y dylid ei gymryd yn niffyg popeth arall yn unig. Mae’n bosibl i waith datblygu fynd rhagddo gyda’r gweddillion archeolegol yn cael eu cadw yn y fan a’r lle, a dylai trafodaethau gael eu cynnal â’r Cyngor Sir yn gynnar yn y broses, er mwyn lleihau unrhyw wrthdaro posibl lle bo modd. Pan nad yw cadw gweddillion archeolegol yn y fan a’r lle yn ymarferol, dylid cloddio a chofnodi cyn neu yn ystod y gwaith datblygu. Dylid symud unrhyw nodweddion y mae’n bosibl eu cadw, ond a fyddai fel arall yn cael eu dinistrio, i le diogel cyn i’r gwaith datblygu ddechrau.

9.46 Bydd y Cyngor Sir yn ceisio camau lliniaru trwy gytundeb â’r datblygwyr. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid gosod amodau ar y caniatâd cynllunio er mwyn gwahardd datblygu nes bod y gwaith archeolegol gofynnol wedi’i gwblhau.

 

HE8 Cofnodi Nodweddion Hanesyddol

Ni chaniateir datblygu oni bai fod darpariaeth ar gyfer cofnodi’n ddigonol unrhyw nodweddion hanesyddol y mae’r datblygiad yn debygol o effeithio arnynt.

9.47 Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob datblygiad a fyddai’n effeithio ar nodweddion tirwedd pensaernïol, archeolegol neu hanesyddol gwerthfawr. Bydd y Cyngor yn mynnu bod ymchwiliad pensaernïol neu archeolegol digonol yn cael ei gynnal cyn i ganiatâd cynllunio gael ei roi, ac mewn nifer o achosion bydd yn mynnu bod cofnodion manwl yn parhau i gael eu cadw wrth i’r gwaith gael ei gyflawni. Bydd yn ofynnol cyhoeddi’r canlyniadau wedi hynny.

Brig y dudalen