Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

Pennod 8

Bywyd Gwyllt a Bioamrywiaeth

Nodau Strategol Perthnasol

d. Amgylchedd naturiol

Amcanion Polisi
#

Rhestr Bolisïau
#

a. GWARCHOD BIOAMRYWIAETH – gwarchod safleoedd gwerthfawr o ran cadwraeth natur ac atal colli rhywogaethau a chynefinoedd pwysig

b. GWELLA BIOAMRYWIAETH – gwella a chreu cynefinoedd bywyd gwyllt ac adnoddau cadwraeth natur newydd

WB1 Gwarchod Rhywogaethau

WB2 Safleoedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol

WB3 Safleoedd Statudol o Bwysigrwydd Cenedlaethol

WB4 Safleoedd Lleol o Bwysigrwydd o ran Bywyd Gwyllt a Daeareg

WB5 Cynefinoedd Bywyd Gwyllt nas Dynodwyd

WB6 Gwella Buddiannau Cadwraeth Natur

Dangosyddion Perfformiad Polisi

Targedau

  1. Arwynebedd y tir a reolir yn weithredol at ddiben cadwraeth
  2. Arwynebedd pob cynllun Ardal Gweithredu Cynefin yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth
  3. Nifer y safleoedd o bwysigrwydd i gadwraeth natur, y mae datblygiad yn cael effaith andwyol arnynt
  4. Ceisiadau sy’n arwain at golli/difrodi: Ardal Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfa Natur Genedlaethol, Gwarchodfa Natur Leol, rhywogaethau a nodir mewn Cynlluniau Gweithredu Rhywogaeth yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth

TARGED 3: Lleihau’r golled neu’r difrod, o ganlyniad i ddatblygu, a wneir i safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, cenedlaethol neu sirol o ran daeareg a bywyd gwyllt/cadwraeth natur 

 

8 Bywyd Gwyllt a Bioamrywiaeth

Cyflwyniad

8.1 Yn ogystal â gwarchod tirweddau naturiol, un o swyddogaethau allweddol eraill y Cynllun hwn yw ei gyfraniad at warchod a gwella amrywiaeth daearegol (geoamrywiaeth) ac amrywiaeth biolegol (bioamrywiaeth). Mae mabwysiadu dull o ymdrin â’r amgylchedd naturiol, sy’n canolbwyntio ar fioamrywiaeth, yn cydnabod y rhyngweithio cymhleth rhwng rhywogaethau a’u cynefinoedd. Dylid pwysleisio bod rhywogaethau cyffredin a phrin fel ei gilydd yn chwarae rhan bwysig mewn systemau naturiol. Mae hierarchaeth o ddynodiadau ar lefel ryngwladol, genedlaethol a lleol yn bodoli yn Sir y Fflint, a rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried arwyddocâd cymharol y dynodiadau hynny wrth wneud penderfyniadau cynllunio, gan ystyried integriti systemau naturiol yn ogystal â phresenoldeb neu absenoldeb rhywogaethau a chynefinoedd nodedig.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol

8.2 Ym mharagraff 5.1.2 Polisi Cynllunio Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn pennu’r amcanion canlynol ar gyfer gwarchod a gwella’r dreftadaeth naturiol:

8.3 Mae adran 5.4 Polisi Cynllunio Cymru yn mynnu bod yn rhaid i CDUau nodi’r fframwaith polisi lleoliadol ar gyfer gwarchod a gwella’r dreftadaeth naturiol, a cheisio gwarchod a gwella’r dreftadaeth naturiol mewn ffyrdd sy’n dod â manteision i gymunedau lleol ac sy’n hybu cynnydd cymdeithasol ac economaidd. Dylai CDUau roi anogaeth i reoli’n briodol y nodweddion hynny yn y dirwedd sydd o bwys mawr i blanhigion ac anifeiliaid er mwyn ategu a gwella cydlyniant ecolegol rhwydwaith Natura 2000. Mae hynny’n cynnwys nodweddion sydd, oherwydd eu strwythur hirgul neu barhaus neu’u swyddogaeth fel “cerrig sarn” neu “goridorau bywyd gwyllt”, yn hanfodol ar gyfer mudo, gwasgaru a chyfnewid genynnau. Dylai polisïau roi pwys priodol ar ddynodiadau statudol ac anstatudol a llunio meini prawf ar gyfer asesu datblygiad. Yn ogystal dylid ceisio gwarchod, a lle bo hynny’n briodol, gwella bioamrywiaeth y tu allan i ardaloedd dynodedig.

 

Cyd-destun Sir y Fflint

8.4 Mae dwy ffordd allweddol y gall y CDU gyfrannu at hyrwyddo bioamrywiaeth yn Sir y Fflint - yn gyntaf trwy warchod safleoedd bywyd gwyllt dynodedig statudol ac anstatudol, ac yn ail trwy roi ystyriaethau amgylcheddol cyffredinol ar waith yn achos pob math o gynigion datblygu. Mae Sir y Fflint yn cynnwys llawer o wahanol fathau o gynefinoedd a dynodiadau cadwraeth natur, gydag Aber Afon Dyfrdwy a’i Gorlifdir yn fath strategol allweddol o gynefin.

8.5 Mae’r CDU yn ceisio sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei gynnal a’i wella er budd y trigolion presennol a chenedlaethau’r dyfodol. I’r perwyl hwnnw, mae’r polisïau sydd yn y bennod hon yn cefnogi gwarchod safleoedd dynodedig, a gwarchod nodweddion o bwysigrwydd ecolegol nas dynodwyd, megis coridorau bywyd gwyllt. Yn aml, bydd angen arolygon manwl o safleoedd mewn perthynas â chynigion datblygu pan fydd y Cyngor yn credu y gallai fod effaith sylweddol ar fywyd gwyllt, cynefin neu ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arall.

8.6 Yn ogystal â’r polisïau gwarchod hyn, mae’r Cynllun hefyd yn ceisio gwella gwerth safleoedd o ran cadwraeth natur lle byddai cynnig datblygu yn rhoi cyfle i ymgorffori mesurau o’r fath. Dylid nodi hefyd bod y polisïau canlynol yn cefnogi Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Sir y Fflint.

 

Polisïau

WB1 Gwarchod Rhywogaethau

Ni chaniateir datblygiad a fyddai’n cael effaith andwyol sylweddol ar rywogaethau pwysig neu’u cynefinoedd oni bai fod mesurau priodol yn cael eu cymryd i sicrhau eu diogelwch a’u hyfywedd hirdymor.

8.7 Mae presenoldeb rhywogaeth bwysig yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar gais cynllunio. Rhywogaethau a chynefinoedd pwysig yw’r rhai hynny a warchodir gan y gyfraith, a nodir fel rhywogaethau neu gynefinoedd â blaenoriaeth yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU neu Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Sir y Fflint. Mae enghreifftiau o rywogaethau a warchodir yn Sir y Fflint yn cynnwys ystlumod, moch daear, tylluanod gwynion, madfallod dwr cribog, dyfrgwn a rhai tegeirianau. Mae gan y rhain warchodaeth statudol dan ystod o ddeddfwriaeth ryngwladol a chenedlaethol, gan gynnwys Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol etc.) 1994, sy’n chwarae rhan allweddol yn y broses o gynnal bioamrywiaeth.

8.8 Pan fydd datblygiad yn cael ei ganiatáu, rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol fod yn fodlon y gellir diogelu diddordeb ecolegol safle’n ddigonol trwy gyfrwng amodau a/neu rwymedigaethau cynllunio priodol. Cyn y gall datblygiad sy’n effeithio ar rywogaeth dan warchodaeth Ewropeaidd fynd rhagddo, rhaid bodloni amodau a geir yn y Rheoliadau Cynefinoedd, sef bod angen y datblygiad er mwyn gwarchod iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd, neu am resymau eraill er budd cyhoeddus tra phwysig. Yn ogystal, rhaid dangos nad oes dewis boddhaol arall ac na fydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar gynnal statws cadwraeth ffafriol ar gyfer poblogaeth y rhywogaeth. Os caiff yr amodau hyn eu bodloni, gall Llywodraeth y Cynulliad roi trwydded i alluogi’r datblygiad i fynd rhagddo.

8.9 Mae’r polisi hwn yn ceisio gwarchod rhywogaethau mewn perthynas â datblygu a defnyddio tir, ac nid yw’n bwysicach na’r gofynion statudol ar gyfer gwarchod rhywogaethau a geir mewn Deddfau Seneddol neu trwy gyfraith Ewrop. Pan fydd y Cyngor yn mynnu bod mesurau lliniaru neu gydbwyso’n cael eu darparu, naill ai ar y safle neu ar dir cyfagos, bydd amodau’n cael eu cysylltu neu bydd rhwymedigaethau’n ofynnol i’w gwneud yn haws i rywogaeth oroesi, lleihau unrhyw aflonyddwch neu, yn niffyg popeth arall, darparu cynefin arall addas er mwyn sicrhau bod y rhywogaeth honno’n cael ei diogelu.

 

WB2 Safleoedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol

Ni chaniateir datblygu oni bai:-

a) y gellir dangos na fydd y datblygiad yn cael effaith andwyol sylweddol ar unrhyw safle Ramsar neu safle Natura 2000 (gan gynnwys Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig arfaethedig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, ymgeiswyr am Ardaloedd Cadwraeth Arbennig; neu

b) y gellir dangos, yn dilyn asesiad priodol, na fydd y datblygiad yn cael effaith andwyol ar integriti unrhyw safle Ramsar neu safle Natura 2000.

8.10 Caiff y polisi hwn ei gyfeirio at safleoedd y mae iddynt werth ecolegol o bwysigrwydd rhyngwladol, neu safleoedd y gellid nodi bod iddynt werth o’r fath. Yn Sir y Fflint, mae gan Aber Afon Dyfrdwy nifer o ddynodiadau o’r fath, a dangosir y rhain ar y map cynigion. Mae’r aber wedi’i ddynodi yn safle Ramsar dan y Confensiwn ar Wlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol, ac yn Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig dan Gyfarwyddeb Adar y Gymuned Ewropeaidd (79/409/EEC) oherwydd ei bwysigrwydd fel safle gaeafu i boblogaethau sylweddol o adar hirgoes ac adar dwr sy’n mudo. Mae Aber Afon Dyfrdwy hefyd wedi’i ddynodi yn ymgeisydd am Ardal Cadwraeth Arbennig dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd (92/43/EEC). Diben y dynodiadau hyn yw hyrwyddo cadwraeth a defnydd doeth o wlyptiroedd, ac arafu’r broses raddol o golli cynefinoedd sydd o bwysigrwydd rhyngwladol.

8.11 Pwrpas asesiad priodol, fel sy’n ofynnol gan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Rheoliadau Cynefinoedd, yw canfod a fyddai datblygiad, o ystyried pwysigrwydd y safle o ran cadwraeth, yn cael effaith andwyol ar integriti’r safle dynodedig. Yr hyn a olygir wrth integriti safle yw cydlyniant ei strwythur a’i swyddogaeth ecolegol, sy’n ei alluogi i gynnal y rhywogaeth, y cynefin neu’r casgliad o gynefinoedd y cafodd ei ddosbarthu o’u herwydd. Gall cynigion gael effaith sylweddol ar werth ecolegol safle, naill ai’n unigol neu o ganlyniad i ddatblygiadau cronnol. Caiff canllawiau manwl ynglyn â safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol eu rhoi mewn tabl ym Mholisi Cynllunio Cymru – Nodyn Cyngor Technegol 5.

8.12 Pan fydd y Cyngor Sir, mewn ymgynghoriad â Chyngor Cefn Gwlad Cymru, yn amau ei bod yn debygol y bydd yr effaith a gaiff datblygiad ar ardal ddynodedig yn niweidiol, dylid cynnwys gwybodaeth ategol addas am yr effaith amgylcheddol gyda’r ceisiadau cynllunio. Bydd angen Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol mewn rhai achosion. Proses yw hon lle caiff gwybodaeth am effeithiau amgylcheddol sylweddol tebygol rhai mathau o ddatblygiad ei chasglu, ei hasesu a’i hystyried wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ai peidio.

8.13 Pan fydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol o’r farn y bydd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar integriti’r safle mewn modd na ellir ei oresgyn trwy amodau neu rwymedigaethau cynllunio, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol am resymau’n ymwneud â budd cyhoeddus tra phwysig y dylid rhoi caniatâd cynllunio. Gallai’r rhesymau hynny gynnwys rhai sydd o natur gymdeithasol neu economaidd, a rhaid iddynt fod yn fwy pwysig na phwysigrwydd ecolegol y dynodiad. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd yn angenrheidiol sicrhau mesurau cydbwyso i warchod y rhwydwaith o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sydd ledled y gymuned.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

WB3 Safleoedd Statudol o Bwysigrwydd Cenedlaethol

Bydd Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn cael eu gwarchod. Bydd rhagdybiaeth yn erbyn unrhyw ddatblygiad, naill ai o fewn safle neu’n agos iddo, a fyddai’n cael effaith andwyol sylweddol ar ddiddordeb y safle o ran cadwraeth natur.

8.14 Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn bwysig yn genedlaethol, ac maent wedi’u dynodi’n statudol oherwydd eu diddordeb biolegol neu ddaearegol. Mae rhai o’r Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn Sir y Fflint hefyd o bwysigrwydd rhyngwladol, ac am y rheswm hwnnw mae dynodiadau ychwanegol wedi’u rhoi iddynt. Dangosir y Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar y map cynigion.

8.15 Mae pwysigrwydd allweddol safleoedd a ddynodwyd oherwydd eu diddordeb o ran cadwraeth natur yn golygu bod yn rhaid i gynigion datblygu ynddynt, neu gynigion datblygu sy’n debygol o effeithio arnynt, fod yn destun gwaith craffu arbennig. Lle byddai cynnig penodol yn effeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, bydd yn rhaid dangos na fyddai’r effaith yn niweidiol ar nodweddion y safle sydd wedi haeddu cael eu dynodi. Mae canllawiau’r Llywodraeth yn nodi y gallai Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gael eu difrodi’n ddifrifol gan ddatblygiadau y tu allan i’w ffiniau.

8.16 O ganlyniad, ni ddylid rhoi caniatâd cynllunio mewn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oni bai fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn fodlon na fydd gwerth y Safle o ran cadwraeth natur yn cael ei beryglu o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig, neu bod ffactorau perthnasol eraill yn ddigonol i fod yn bwysicach nag ystyriaethau’n ymwneud â chadwraeth natur, os yw hynny’n unol â chanllawiau cynllunio cenedlaethol. Pan fydd datblygiad yn cael ei ganiatáu, bydd y Cyngor yn ystyried defnyddio amodau neu rwymedigaethau cynllunio i sicrhau bod diddordeb y safle o ran cadwraeth natur yn cael ei warchod a’i wella.

 

WB4 Safleoedd Lleol o Bwysigrwydd o ran Bywyd Gwyllt a Daeareg

Bydd Safleoedd Bywyd Gwyllt a Safleoedd Daearegol o Bwysigrwydd Rhanbarthol yn cael eu gwarchod. Ni roddir caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy’n debygol o gael effaith andwyol sylweddol ar eu gwerth o ran cadwraeth natur neu ddaeareg.

8.17 Yn ogystal â safleoedd dynodedig statudol, ceir nifer o gynefinoedd a nodweddion daearegol pwysig o ddiddordeb lleol sy’n gwneud cyfraniad hanfodol i fioamrywiaeth a geoamrywiaeth y Sir. Mae’r Cyngor Sir yn cadw cofrestr gyfredol o’r safleoedd lleol anstatudol hyn.

8.18 Mae nifer o’r rhain yn dod dan bwysau i newid, a gallent gael eu dinistrio gan ddatblygiadau naill ai ar y safle neu’n agos iddo. Felly, bydd diddordeb o ran cadwraeth natur yn ystyriaeth mewn achos lle gallai cynnig datblygu effeithio ar safle sydd o bwysigrwydd lleol o ran bywyd gwyllt neu ddaeareg. Fodd bynnag, ni chaiff caniatâd cynllunio ei wrthod os bydd ffactorau perthnasol eraill yn ddigonol i fod yn bwysicach na buddiannau’n ymwneud â chadwraeth natur, os yw hynny’n unol â chanllawiau cynllunio cenedlaethol. Gellir pennu amodau neu rwymedigaethau cynllunio i atal effeithiau andwyol sylweddol ar fywyd gwyllt, cynefinoedd neu nodweddion ffisegol pwysig. Yn achos datblygiadau mwy o faint, gallai hynny olygu integreiddio nodweddion a chynefinoedd gwerthfawr mewn cynigion.

 

WB5 Cynefinoedd Bywyd Gwyllt nas Dynodwyd

Bydd datblygiad yn cael ei ganiatáu ar yr amod na fydd yn cael effaith andwyol sylweddol ar fywyd gwyllt a chynefinoedd o bwysigrwydd lleol.

8.19 Ceir nifer o safleoedd nas dynodwyd sydd â gwerth sylweddol o ran cadwraeth natur ac sy’n cynrychioli elfennau hanfodol ym mioamrywiaeth y Sir. Mae enghreifftiau’n cynnwys cyrsiau dwr naturiol, nentydd neu afonydd a’u glannau, glaswelltiroedd heb eu gwella, gwlyptiroedd, rhostiroedd grugog a choetiroedd (yn enwedig rhai hynafol, lled-naturiol). Gall rhai o’r cynefinoedd hyn fod yn gymharol brin yn ardal y Cynllun, a gellid ystyried eu bod yn werthfawr o safbwynt lleol iawn, er enghraifft, y cynefin dan sylw yw’r unig bwll sydd ar ôl wrth ymyl tref neu bentref penodol. Yn aml, bydd yn ofynnol i ddatblygwyr gynnal arolygon manwl o blanhigion ac anifeiliaid er mwyn galluogi’r Cyngor i ganfod a fyddai cynnig yn dderbyniol.

8.20 Gall safleoedd o’r fath fod yn werthfawr yn eu rhinwedd eu hunain, neu gallent fod yn cyflawni swyddogaeth bwysig mewn perthynas ag ardaloedd cyfagos. Er enghraifft, efallai fod nodwedd yn ffurfio coridor bywyd gwyllt sy’n cysylltu ardaloedd sy’n hanfodol ar gyfer rhai rhywogaethau. Yn ogystal ag ardaloedd yng nghefn gwlad, gall safleoedd trefol fod o werth i fywyd gwyllt. Yn fwyaf arbennig, dylid diogelu coridorau gwyrdd mewn ardaloedd adeiledig, a allai fod dan bwysau sylweddol. Gallai eu datblygu achosi goblygiadau difrifol y tu hwnt i’r safle dan sylw. Gall hyd yn oed safleoedd tir llwyd, er gwaethaf eu golwg salw’n aml, fod o ddiddordeb ecolegol sylweddol.

8.21 Fodd bynnag, ni chaiff caniatâd cynllunio ei wrthod os bydd ffactorau perthnasol eraill yn ddigonol i fod yn bwysicach na buddiannau’n ymwneud â chadwraeth natur, os yw hynny’n unol â chanllawiau cynllunio cenedlaethol. Bydd amodau a chytundebau’n cael eu defnyddio i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol i fuddiannau’n ymwneud â chadwraeth natur.

 

WB6 Gwella Buddiannau Cadwraeth Natur

Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn caniatáu i fesurau sy’n gwella gwerth ardal o ran cadwraeth natur gael eu hymgorffori mewn cynigion datblygu.

8.22 Yn ogystal â chyfleoedd i warchod cynefinoedd, mae’r polisi hwn yn cydnabod y bydd cyfleoedd yn codi i gynyddu bioamrywiaeth a geoamrywiaeth yn Sir y Fflint. Er bod defnyddio tir ar gyfer datblygu wedi lleihau cynefinoedd bywyd gwyllt yn raddol, ceir cyfleoedd i wella gwerth ecolegol trwy ddylunio cynigion datblygu’n ofalus.

8.23 Bydd cynigion sy’n gwella gwerth safleoedd o ran cadwraeth natur yn cael eu hannog. Pan fydd datblygiad newydd yn mynd rhagddo, gall tirlunio a phlannu sensitif, creu, cynnal a chadw a rheoli nodweddion tirwedd sy’n bwysig i fywyd gwyllt, ac addasu ardaloedd diffaith yn grefftus ddarparu cynefinoedd estynedig. Bydd y Cyngor Sir yn cefnogi cynigion i sefydlu gwarchodfeydd natur lleol mewn lleoliadau addas. Bydd angen i ddatblygiadau ar raddfa fwy ystyried sut y gellir gwella nodweddion sy’n bodoli eisoes, gan edrych yn strategol ar y safle.

Brig y dudalen