Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

Pennod 7

Tirweddau

Nodau Strategol Perthnasol

d. Amgylchedd naturiol

Amcanion Polisi
#

Rhestr Bolisïau
#

a. TIRWEDDAU GWLEDIG – gwarchod a gwella cefn gwlad

b. MANNAU GWYRDD – gwarchod mannau agored gwerthfawr mewn aneddiadau

c. HYNODRWYDD TIRWEDD – gwarchod a gwella hynodrwydd lleol y dirwedd

ch. TIRWEDD WEDI DIRYWIO – hyrwyddo a chefnogi gwelliant amgylcheddol

L1 Cymeriad Tirweddau

L2 Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

L3 Mannau Gwyrdd

L4 Tir Comin

L5 Cynlluniau Gwella Amgylcheddol

L6 Yr Arfordir sydd heb ei Ddatblygu

Dangosyddion Perfformiad Polisi

Targedau

  1. Arwynebedd y mannau agored sydd ar agor i’r cyhoedd a enillwyd/a gollwyd

  2. Achosion o ganiatáu cais yn groes i bolisi yng nghefn gwlad/mewn rhwystr glas/mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol/arfordir sydd heb ei ddatblygu

  3. Arwynebedd y mannau gwyrdd fesul 1000 o bobl mewn ardaloedd trefol

  4. Nifer y datblygiadau newydd a’r math o ddatblygiadau newydd mewn ardaloedd o gefn gwlad agored/mewn rhwystrau glas/mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol/ar yr arfordir sydd heb ei ddatblygu

  5. Nifer y cynlluniau gwella amgylcheddol

  6. Ceisiadau lle mae asesiad o’r dirwedd wedi’i gynnwys

  7. Asesiad LANDMAP

 

 

7 Tirweddau

Cyflwyniad

7.1 Mae ansawdd llawer o dirwedd Sir y Fflint yn ased y dylid ei warchod. Mae’n adlewyrchu ecoleg, diwylliant a threftadaeth yr ardal ac yn cyfrannu at ansawdd bywyd pobl ac ymdeimlad o le. Mae gan Sir y Fflint amrywiaeth eang o dirweddau sy’n amrywio o lannau Aber Afon Dyfrdwy, trwy barthau o dir amaethyddol, tir comin agored a dyffrynnoedd coediog bach, i lethrau Bryniau Clwyd. Mae’r ystod hon o dirweddau yn darparu amrywiaeth sylweddol dros bellter byr, ac mewn mannau mae’n cynnig golygfeydd eang ar draws y Sir ac Aber Afon Dyfrdwy, draw i Gilgwri a thu hwnt. Mae’r polisïau yn y bennod hon yn ceisio gwarchod cymeriad a hynodrwydd lleol y dirwedd trwy gadw ei nodweddion cynhenid, a lle bo hynny’n bosibl, hybu gwelliannau iddi trwy’r broses gynllunio.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol

7.2Ym mharagraff 5.1.2 Polisi Cynllunio Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn pennu’r amcanion canlynol ar gyfer gwarchod a gwella’r dreftadaeth naturiol:

7.3 Mae adran 5.4 Polisi Cynllunio Cymru yn mynnu bod yn rhaid i gynlluniau datblygu nodi’r fframwaith polisi lleoliadol ar gyfer gwarchod a gwella’r dreftadaeth naturiol, a cheisio gwarchod a gwella’r dreftadaeth naturiol mewn ffyrdd sy’n dod â manteision i gymunedau lleol ac sy’n hybu cynnydd cymdeithasol ac economaidd. Dylai cynlluniau datblygu roi anogaeth i reoli’n briodol y nodweddion hynny yn y dirwedd sydd o bwys mawr i blanhigion ac anifeiliaid. Dylai polisïau roi pwys priodol ar ddynodiadau statudol ac anstatudol a llunio meini prawf ar gyfer asesu datblygiad. Yn ogystal dylid ceisio gwarchod, a lle bo hynny’n briodol, gwella’r dirwedd y tu allan i ardaloedd dynodedig.

 

Cyd-destun Sir y Fflint

7.4 Wrth asesu effaith cynigion ar y dirwedd, bydd y Cynllun yn ystyried Strategaeth Dirwedd y Sir a baratowyd yn 1996. Mae’r Strategaeth yn nodi 12 math gwahanol o dirwedd ac yn disgrifio’r nodweddion tirwedd unigol sy’n ffurfio eu cymeriadau neilltuol. Disodlwyd y Strategaeth hon gan LANDMAP, sydd ar gael yn awr i ddarparu cronfa ddata o ardaloedd cymeriad tirwedd a gwerthuso ansawdd tirwedd yn fwy manwl.

7.5 Cafodd Bryniau Clwyd eu dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn 1985, sy’n gydnabyddiaeth genedlaethol o ansawdd arbennig yr ardal hon o ucheldir. O ran gwarchod tirwedd, mae gan yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yr un lefel o statws a gwarchodaeth â Pharciau Cenedlaethol. Bydd nodweddion tirwedd ac adeiladau traddodiadol yn cael eu cadw, a dylai datblygiadau newydd gynnwys manylion brodorol a defnyddio deunyddiau adeiladu lleol a phlanhigion priodol i’r ardal. Mae ardaloedd llai mewn aneddiadau ac o’u hamgylch, sy’n bwysig o ran eu tirwedd, wedi eu dynodi’n “fannau gwyrdd” a byddant yn cael eu gwarchod rhag datblygiad. Er bod 159 wedi’u nodi, nid yw’r rhestr yn gyflawn a bydd ardaloedd tebyg nas nodwyd eto ond sy’n bodloni’r meini prawf dethol yn cael eu gwarchod hefyd. Bydd gwelliannau i’r dirwedd mewn perthynas â chynigion a rhaglenni arfaethedig hefyd yn cael eu hannog. Oherwydd cymeriad arbennig tirwedd yr arfordir ac effaith prosesau naturiol y môr arni, mae polisi olaf y bennod yn mynd i’r afael â materion arfordirol a’r dulliau o ymdrin â phwysau datblygu yn y lleoliad penodol hwn.

7.6 Ni ddylid ystyried y polisïau tirwedd sydd yn y Cynllun hwn ar eu pen eu hunain ond fel rhan o becyn o fesurau sy’n cynnwys y Strategaeth Cefn Gwlad, y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth a Chynllun Rheoli’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Polisïau

L1 Cymeriad Tirweddau

Rhaid i ddatblygiadau newydd gael eu dylunio i gynnal neu wella cymeriad a golwg y dirwedd.

7.7 Mae tirwedd Sir y Fflint yn ganlyniad canrifoedd o weithgarwch dynol, ac o’r herwydd, mae’n adnodd anadnewyddadwy y dylid ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae pob tirwedd gan gynnwys tirweddau nas dynodwyd yn bwysig, a bydd polisïau’r Cynllun yn ceisio sicrhau bod cymeriad a nodweddion penodol pob tirwedd yn cael eu gwarchod rhag datblygiad neu’n ceisio sicrhau bod y nodweddion cymeriad hynny a nodwyd yn cael eu gwarchod neu’u cadw yn y datblygiad newydd. Gall ffermdir bryniog, deniadol neu dir wedi dirywio ar gyrion ardaloedd trefol fod yn werthfawr iawn yn lleol, er y bydd y pwyslais yn achos y cyntaf ar warchod, ac yn achos yr ail ar wella. Mae’r lleoliadau sydd fwyaf tebygol o gael eu datblygu ar gyrion ardaloedd trefol, ac felly mae’n bwysig ystyried tirlunio clustogfeydd er mwyn lleihau effaith datblygiadau newydd ar yr ardaloedd o gefn gwlad o gwmpas aneddiadau. Yn gyffredinol, bydd hynny’n golygu plannu coed a llwyni brodorol a gwarchod y llystyfiant sy’n bodoli eisoes.

7.8 Mae’r polisi hwn yn ceisio sicrhau bod datblygiadau newydd yn ystyried nodweddion o fewn y dirwedd sy’n llunio ei chymeriad a’i hynodrwydd lleol. Bydd y rhain yn amrywio o ardal i ardal a gallant, er enghraifft, gynnwys ffermdir bryniog wedi’i fritho â gwrychoedd, coetiroedd bach, pyllau, waliau cerrig sych neu forfa heli arfordirol wastad Aber Afon Dyfrdwy. Yn hyn o beth, mae lleoliad y dirwedd ac achosion posibl o darfu ar yr olygfa o fannau pell yn ystyriaethau pwysig. Pan fydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried bod hynny’n briodol, bydd yn rhaid i ymgeiswyr ddangos bod arfarniad o’r dirwedd wedi ei gyflawni a’i ystyried mewn cynigion datblygu. Yn yr achosion hyn, dylid mynd i’r afael ag effaith y datblygiad ar y dirwedd oddi amgylch, a dylid paratoi cynllun tirlunio sy’n gysylltiedig â dyluniad y datblygiad.

7.9 Mae Strategaeth Dirwedd Sir y Fflint (1996) yn ymdrin â phob rhan o Sir y Fflint ac yn nodi mathau o dirwedd yn y Sir a’u nodweddion tirwedd unigol. Defnyddir y strategaeth i asesu effaith datblygiad ar nodweddion tirwedd unigol, yn ogystal â’r goblygiadau ehangach i gymeriad y dirwedd. Mae’r Cyngor wedi diweddaru’r strategaeth hon â’r system LANDMAP. Mae hon yn fethodoleg asesu tirwedd sy’n gwerthuso’r dirwedd mewn amryw ffyrdd, er enghraifft, o safbwynt gweledol a synhwyraidd, ac o safbwynt bioamrywiaeth, hanes ac archeoleg, er mwyn datblygu cronfa ddata o wybodaeth sy’n sylfaen ar gyfer penderfyniadau ynghylch rheolaeth, cadwraeth a pholisi. Mae’r system LANDMAP yn cael ei mabwysiadu ar gyfer rheoli tirwedd ledled Cymru.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

L2 Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Dim ond dan yr amodau canlynol y caniateir datblygiad mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) neu ddatblygiad sy’n effeithio arni:

  1. rhaid i’r datblygiad gynnal, a, lle bo hynny’n bosibl, wella harddwch naturiol, bywyd gwyllt ac etifeddiaeth ddiwylliannol yr AHNE, ynghyd â gwarchod ei llonyddwch naturiol; a
  2. bydd y datblygiad yn cael ei ddylunio i safon uchel gan ddefnyddio deunyddiau a phlanhigion traddodiadol.

Bydd datblygiadau mawr yn yr AHNE yn destun archwiliad trwyadl, ac ni fyddant yn cael eu caniatáu oni bai fod angen tra phwysig o safbwynt budd cenedlaethol a brofwyd ac nad oes safleoedd amgen ar gael.

7.10 Mae Bryniau Clwyd wedi eu dynodi’n AHNE oherwydd ansawdd y dirwedd sy’n cynnwys mathau neilltuol a gwrthgyferbyniol o olygfeydd ucheldir gan gynnwys rhostir, creigiau calchfaen, coetir a ffermdir bryniog. Dim ond rhan fechan o’r ardal gyfan 61 milltir sgwâr sydd yn ardal y Cynllun. Prif amcan cynllunio’r polisi hwn yw gwarchod a gwella harddwch naturiol AHNE Bryniau Clwyd er budd cenedlaethol. Mae gan AHNEau yr un statws â Pharciau Cenedlaethol o ran tirwedd a harddwch eu golygfeydd. Bydd pwyslais yn cael ei roi ar gadw ac estyn tirweddau a deunyddiau traddodiadol ac adeiladau brodorol lleol. Mae Cyngor Sir y Fflint yn rhan o Gydbwyllgor Ymgynghorol AHNE Bryniau Clwyd, sydd wedi cynhyrchu Cynllun Rheoli AHNE ar gyfer yr ardal ddynodedig. Mae’r Cynllun Rheoli, a baratowyd fel un o ofynion statudol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, yn amlinellu’r fframwaith polisi y bydd amcanion ar gyfer yr AHNE yn cael eu cyflawni oddi mewn iddo. Mae hefyd yn cynnwys cyngor defnyddiol ynghylch ystod o faterion mewn perthynas â’r AHNE.

7.11 Bydd sylw penodol yn cael ei roi i ganiatáu ffurfiau cynaliadwy ar ddatblygiadau sydd wedi’u dylunio’n dda sy’n parchu pensaernïaeth leol a brodorol ac sy’n defnyddio deunyddiau adeiladu lleol, traddodiadol megis cerrig a llechi. Fel rheol, dylai cynigion a ganiateir mewn ardaloedd o gefn gwlad agored fod wedi’u dylunio yn y fath fodd fel eu bod yn lleihau unrhyw ymyrraeth weledol, swn neu fathau eraill o ymyrraeth, megis llygredd golau. Bydd datblygiadau y tu allan i’r AHNE, ond sy’n debygol o gael effaith andwyol arni, hefyd yn cael eu hystyried dan y polisi hwn.

 

Polisïau allweddol eraill

 

L3 Mannau Gwyrdd

Dynodwyd y safleoedd a restrir isod yn fannau gwyrdd ar y map cynigion:

Anheddiad

Cyf.

Man Gwyrdd

Alltami

1

Tir comin o fewn ffin yr anheddiad

Afon-wen

2

Hen reilffordd

Bagillt

3

Gerllaw Eglwys y Santes Fair

 

4

Gerllaw Ysgol Merllyn

 

5

Tir rhwng Wern Ucha a Bryn Dyrys

 

6

Llys Maesteg

 

7

Victoria Road

Bretton (a Pharc Manwerthu Brychdyn)

8

Clustogfa tirwedd Parc Brychdyn

 

9

Lawnt Bentref ar Gyffordd Bretton Road / Bretton Lane

Brychdyn

10

Ardaloedd o gwmpas tanffordd Broughton Hall Road

 

11

Landsdown Road

 

12

Brookes Avenue

 

13

Ffordd Cledwen

Brynffordd

14

Gerllaw Eglwys Sant Mihangel

Bwcle

15

Mount Pool

 

16

I’r gorllewin o Barc Elfed

 

17

I’r dwyrain o’r Beeches

 

18

Tir comin o fewn ffin yr anheddiad

 

19

Parc Etna

 

20

I’r gorllewin o Elfed Drive

 

21

Mill Lane

 

22

Princess Avenue

 

23

West View

 

24

Laurel Drive / Hawthorne Avenue

 

25

Clwb Criced Lane End

 

26

Chester Road

 

27

Forest Walk

 

28

Forest Walk (2)

 

29

Meadow View, Little Mountain

 

30

The Flash

Burntwood/Drury

31

Tir gerllaw Daulwyn Road

 

32

Tir rhwng Burntwood Road a Meadow Avenue

Caerwys

33

Gerllaw Eglwys Sant Mihangel

Carmel

34

Gerllaw Celyn Farm

 

35

Carmel Road

 

36

Tan y Coed

Coed-talon / Pontybotgin

37

Ardaloedd o gwmpas Byr Brook

Cei Connah

38

Prince’s Tip gynt

 

39

Tir y tu cefn i Ffordd Llanarth / Maengwyn Avenue

 

40

I’r gogledd o Church Street

 

41

Tir yn Barmouth Close

 

42

I’r gorllewin o Wepre Drive a Richmond Road

 

43

Granby Court

 

44

Central Park

 

45

Gerllaw Broadoak Wood

 

46

Tir y tu cefn i Fynwent Bryn Road

 

47

Llwyni Drive

 

48

Ffordd Cae Llwyn

Ewlo

49

Lawnt Bentref, Parc Dewi Sant

 

50

Parcdir rhwng y parc busnes a’r tai

 

51

Hafn rheilffordd nas defnyddir i’r gogledd o Chester Road

 

52

I’r dwyrain o Level Road

 

53

I’r gorllewin o Level Road

 

54

Pwll Chester Road

 

55

I’r de o Bronte Grove

 

56

I’r gorllewin o Longfellow Avenue

 

57

Safle i’r dwyrain o Level Road (gyferbyn â Lawnt y Pentref)

 

58

Gwely traciau hen reilffordd

 

59

Carlines Avenue

 

60

Maple Crescent

Y Fflint

61

Swinchiard Brook

 

62

Oddi ar Henry Street

 

63

Chapel Street

 

64

Knights Green

 

65

Tudor Avenue

 

66

Pen Goch Hill

 

67

Gyferbyn ag Ysgol Chester Road

 

68

Maes Chwarae Pentre

 

69

Croes Atti Lane

 

70

Man Gwyrdd London Road

 

71

Windsor Drive

Mynydd y Fflint

72

Lawnt Bentref

 

73

School Lane / Y Waun

Garden City

74

Oddi ar Kingsley Road

Gorsedd

75

Gerllaw’r Ficerdy

Maes-glas

76

Gerllaw Swyddfa’r Post

 

77

Gerllaw Glan y Don

 

78

Park Hall Road

 

79

Tan y Felin (2)

 

80

Cairnton Crescent

 

81

Bagillt Road

Gronant

82

Tir ym mhen dwyreiniol y pentref

 

83

I’r dwyrain o Gronant Hill

 

84

Bethesda Street

Gwaunysgor

85

Tir gerllaw Eglwys y Santes Fair

Gwernaffield-y-Waun

86

Gyferbyn â’r Miners Arms

 

87

Cae Rhug Lane

Penarlâg

88

Overlea Drive

 

89

Mwnt Truemans Hill

Helygain

90

Canol y Pentref

Higher Kinnerton

91

The Chase

 

92

Cae Pêl-droed y Briffordd

Treffynnon

93

Fron Park

 

94

Pen y Maes Road

 

95

I’r gogledd o’r Beeches

 

96

Pen Dyffryn Maes-glas

 

97

Pistyll

Coed-llai

98

Gerllaw Ffordd Siarl

 

99

Maes y Meillion

 

100

Llys Ann

 

101

Sycamore Drive

Licswm

102

Gerllaw Capel y Berthen

Mancot

103

Leeches Close

 

104

Hawarden Way

 

105

Mancot Way

 

106

Leaches Lane

Yr Wyddgrug

107

I’r dwyrain o Park Avenue

 

108

Bailey Hill

 

109

Alyn Meadow

 

110

Parc Alun oddi ar King Steet

 

111

I’r gogledd o Gas Lane

 

112

Gerllaw Maes Bodlonfa

 

113

I’r gorllewin o Ffordd Dolgoed

 

114

Upper Bryn Coch Lane

 

115

Tir rhwng Llys y Foel ac Ystâd Ddiwydiannol Bromfield

 

116

I’r dwyrain o Synthite

 

117

Maes Gwern

 

118

Neuadd y Sir

 

119

Ffordd Dolgoed

 

120

Victoria Park

 

121

Gas Lane

 

122

Maes y Dre

 

123

Rheilffordd a Dolydd Afon Alun

Mostyn (Maes Pennant)

124

Y Gerddi, Maes Pennant

 

125

Ffordd Ysgubor

Mynydd Isa

126

I’r gogledd o Bryn Road

 

127

Gerllaw Bryn Road

 

128

Moelwyn  Close

 

129

Ysgol Babanod Wat’s Dyke

 

130

Vale Drive

 

131

Chamber’s Lane ac Alyndale Avenue

 

132

I’r de o Foel Gron

 

133

Parc Heol Fammau

New Brighton

134

Tir gerllaw’r A494

Llaneurgain

135

I’r de o’r Ficerdy

 

136

Ffordd Gwynedd

 

137

Llys y Wennol

Pentre Helygain

138

Canolfan Gymunedol

 

139

Lôn y Fron

Pen-y-ffordd a Phenymynydd

140

Green Park

 

141

Melwood Close

Rhes-y-cae

142

Gerllaw Capel Ebeneser

 

143

I’r de o School House

Rhosesmor

144

I’r dwyrain o Mold Road

Rhyd-y-mwyn

145

I’r gogledd o Eglwys Sant Ioan

Saltney

146

Chester Road a’r sianel ddraenio

 

147

Park Avenue

 

148

Balderton Brook

 

149

Tegid Way

Sandycroft

150

Factory Road

 

151

Crofters Park

Shotton/Aston

152

Alexander Street

 

153

North Street

 

154

Central Drive

 

155

Shotton Lane

Sychdyn

156

I’r gogledd o’r Fawnog

 

157

Bryn Hyfryd

Treuddyn

158

Queen Street

Ysgeifiog

159

Gyferbyn â’r Fox Inn


O fewn yr ardaloedd hyn, yr unig ddatblygiadau a ganiateir yw’r rhai nad ydynt yn achosi niwed annerbyniol i swyddogaeth neu werth yr ardaloedd fel mannau gwyrdd nac yn bygwth eu gwerth i’r gymuned.

7.12 Mae mannau gwyrdd yn ardaloedd o fannau agored sydd ar agor i’r cyhoedd, ac unrhyw dir preifat arall sydd o werth i’r gymuned leol o fewn aneddiadau ac yn union gerllaw iddynt. Maent yn ychwanegu at gymeriad trefi a phentrefi ac at fwynhad y trigolion lleol. Gall ardaloedd o’r fath fod yn bwysig ar gyfer bywyd gwyllt neu oherwydd eu gwerth cyffredinol o safbwynt hamdden, neu’n syml, fel yr unig ardal werdd mewn amgylchedd sydd fel arall yn drefol. Mae’r prif resymau dros ddynodi ardaloedd o’r fath fel a ganlyn:

7.13 Mae 159 o ardaloedd o fannau gwyrdd wedi’u nodi yn y Cynllun, a byddant yn cael eu gwarchod rhag unrhyw fath o ddatblygiad sy’n debygol o effeithio ar eu swyddogaeth fel man gwyrdd. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd lleoedd eraill, y daw eu gwerth yn amlwg efallai yn ystod cyfnod y Cynllun. Pe bai’r mannau hynny’n bodloni un neu fwy o’r meini prawf uchod, bydd camau’n cael eu cymryd i’w gwarchod rhag unrhyw ddatblygiad a fyddai’n tanseilio’u rhinweddau arbennig.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

L4 Tir Comin

Dim ond dan yr amodau canlynol y caniateir datblygu ar dir comin:

  1. mae’r datblygiad yn cadw ac yn gwella golwg, cymeriad agored, cadwraeth natur a gwerth hanesyddol y tir comin; a
  2. mae’r datblygiad yn cynnal a chadw mynediad cyhoeddus lle bo hynny’n briodol.

7.14 A siarad yn gyffredinol, mae tir comin yn dir sy’n eiddo i un person, y mae gan berson arall yr hawl i arfer hawliau comin arno, e.e. pori ei anifeiliaid. Caiff y tir ei gofrestru dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965, ac mae hefyd yn rhwym wrth warchodaeth statudol arbennig. Mae Tir Comin yn werthfawr i wahanol sectorau o’r gymuned – mae’n rhan bwysig o economi amaethyddol Cymru, yn adnodd hamdden gwerthfawr ac yn elfen hanfodol o’i hadnoddau naturiol a hanesyddol. Caiff Cofrestr Tir Comin a Lawntiau Pentref ei chadw gan y Cyngor Sir. Prif swyddogaeth y Cyngor Sir yn y cyswllt hwn yw cynnal y gofrestr i’w harchwilio gan y cyhoedd, chwilio’r gofrestr wrth ymateb i geisiadau gan y cyhoedd a thrawsgludwyr, ac ymdrin â cheisiadau am ddiwygiadau i’r gofrestr. Ceir cryn dipyn o dir comin yn Ardal Mynydd Helygain, lle mae llawer o fwyngloddio plwm yn y gorffennol wedi creu tirwedd unigryw. Ar hyn o bryd, mae gan y cyhoedd hawl mynediad yn genedlaethol i tuag 20% o’r tir comin, a cheir mynediad anffurfiol i nifer o diroedd comin eraill. Mae gan y cyhoedd hawl mynediad ar droed i bob darn o dir comin cofrestredig yn unol â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, er y bydd cyfyngiadau mewn rhai ardaloedd er mwyn gwarchod buddiannau’n ymwneud â rheoli tir neu fywyd gwyllt. Mae’r polisi yn ceisio cynnal y sefyllfa sydd ohoni ac annog rheolaeth briodol ar dir comin pan gwyd cyfle. Mae rhywfaint o waith sy’n effeithio ar dir comin yn perthyn i feysydd sydd y tu allan i’r system gynllunio, ond caiff ei reoleiddio gan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 ac mae angen caniatâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’w gyflawni.

 

L5 Cynlluniau Gwella Amgylcheddol

Caniateir cynigion ar gyfer cynlluniau gwella tirwedd cyhyd â’u bod:

  1. yn cael eu dylunio’n sensitif; a
  2. yn gydnaws â’u lleoliad ac unrhyw fuddiannau hanesyddol neu fuddiannau o ran bioamrywiaeth.

7.15 Mae’r polisi hwn yn ceisio gwella golwg tir wedi dirywio neu dir nad yw’n cael ei ddefnyddio ddigon. Bydd y Cyngor yn dilyn rhaglen o waith gwella amgylcheddau trefol a gwledig, ac yn cefnogi mathau o ddatblygiadau sy’n gwella’r amgylchedd yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt waethaf.

7.16 Mae angen penodol i wella amgylchedd coridor Aber Afon Dyfrdwy, lle gallai gwelliannau gael eu hymgorffori wrth ddatblygu llwybrau cerdded ar hyd yr arfordir neu lwybrau beicio ar hyd glannau Afon Dyfrdwy. Bydd clirio safleoedd diffaith anghydnaws, cynlluniau adfer a gwelliannau i’r dirwedd yn cael eu hannog. Mewn ardaloedd trefol, bydd sylw arbennig yn cael ei roi i wella ansawdd mannau agored, gan gynnwys gwelliannau dros dro i ardaloedd na ellir eu hailddatblygu ar unwaith.

 

Polisïau allweddol eraill:

L6 Yr Arfordir sydd heb ei Ddatblygu

Dim ond dan yr amodau canlynol y caniateir datblygiad ar yr arfordir sydd heb ei ddatblygu:

a. gellir dangos bod lleoliad arfordirol yn hanfodol;

b. mae’n gwarchod ac yn gwella cymeriad agored yr arfordir;

c. ni fyddai’n achosi niwed annerbyniol i ardaloedd cadwraeth natur, y dirwedd neu fioamrywiaeth;

ch. ni fydd angen mesurau helaeth i warchod yr arfordir; a

d. ni fyddai mewn perygl o ddioddef llifogydd ac ni fyddai’n achosi cynnydd annerbyniol mewn erydiad neu lifogydd neu’n tarfu ar brosesau arfordirol naturiol.

7.17 At ddiben y polisi hwn, ystyrir mai’r arfordir sydd heb ei ddatblygu yw’r tir sydd heb ei ddatblygu a’r aber sydd i’r gogledd o’r A548. Mae’r ffordd hon yn cydredeg â’r forlin. Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad newydd oni ellir profi y tu hwnt i amheuaeth bod lleoliad arfordirol yn hanfodol ac na all y gweithgarwch gael ei gynnal yn unman arall. Mae gan ardal y Cynllun forlin tua 13 milltir ar hyd glannau Aber Afon Dyfrdwy, lle mae diwydiant a thai wedi eu lleoli’n draddodiadol er mwyn manteisio ar y tir gwastad. Oherwydd ei natur, mae’r arfordir sydd heb ei ddatblygu yn aml mewn perygl o ddioddef llifogydd, ac felly bydd cynigion ar gyfer datblygu ar hyd yr arfordir yn cael eu hystyried yn unol â’r canllawiau a geir yn TAN 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd (Gorffennaf 2004).

7.18 Caiff y rhan fwyaf o’r tir gerllaw’r aber ei warchod gan arglawdd. Fodd bynnag, yng ngogledd ardal y Cynllun, mae’r system dwyni yn Nhalacre yn ffurfio amddiffynfa naturiol rhag y môr. Mae hon yn rhan o’r system dwyni led-naturiol olaf sy’n weddill ar arfordir gogledd Cymru. Felly, mae’n hynod bwysig sicrhau na fydd unrhyw gynigion newydd yn y twyni, neu’n agos iddynt, yn amharu ar ei swyddogaeth. Oherwydd bod Môr Iwerddon ac Afon Dyfrdwy yn cyfarfod yma, mae prosesau erydu a gwaddodi naturiol arbennig o gymhleth yn digwydd yn Aber Afon Dyfrdwy.

7.19 Dylid ystyried cynlluniau ac asesiadau amgylcheddol perthnasol, megis Strategaeth Aber Afon Dyfrdwy, Cynllun Rheoli Traethlin Cell 11 ac asesiadau morwedd, wrth ystyried cynigion ar gyfer yr arfordir sydd heb ei ddatblygu, gan fod effeithiau rhai gweithgareddau’n gallu bod yn sylweddol, a gallant fod yn gysylltiedig â phwysau am ddatblygiad amhriodol.

 

Polisïau allweddol eraill:

Brig y dudalen