Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

Pennod 6

Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd

Nodau Strategol Perthnasol

d. Amgylchedd naturiol

Amcanion Polisi
#

Rhestr Bolisïau
#

  1. GWARCHOD COED A GWRYCHOEDD – gwarchod coed a gwrychoedd sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i fioamrywiaeth, apêl y dirwedd a mwynhad y cyhoedd ohoni

  2. RHEOLI COETIROEDD – cadw coed a choetiroedd sy’n bodoli eisoes a’u rheoli mewn modd sensitif

  3. PLANNU COED – cynyddu nifer y coed ac arwynebedd coetiroedd trwy sefydlu coetiroedd cymunedol a mentrau plannu eraill

TWH1 Datblygiadau sy’n Effeithio ar Goed a Choetiroedd

TWH2 Gwarchod Gwrychoedd

TWH3 Plannu a Rheoli Coetiroedd

Dangosyddion Perfformiad Polisi

Targedau

  1. Nifer y Gorchmynion Cadw Coed

  2. Ceisiadau a ystyrir dan reoliadau gwrychoedd

  3. Nifer y datblygiadau a ganiateir sy’n arwain at golli coed, coetiroedd a gwrychoedd

  4. Hyd a lled ac ansawdd y coetiroedd a geir

  5. Hyd a lled ac ansawdd y gwrychoedd a geir

  6. Nifer y cynlluniau sy’n defnyddio adnoddau coetiroedd

  7. Colli coetiroedd hynafol/lled-naturiol i ddatblygiadau

 

 

6 Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd


Cyflwyniad

6.1 Mae coed, coetiroedd a gwrychoedd yn rhan annatod o’r amgylchedd, maent yn bwysig ar gyfer cyfoethogi cymeriad tirwedd y Sir ac maent yn darparu cynefin hanfodol ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt. Yn ogystal, mae coetiroedd a reolir yn ofalus yn darparu pren a chynnyrch arall sy’n gallu bodloni galw lleol, darparu swyddi a chyfrannu at yr economi wledig. Mae coetiroedd hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer hamdden lle caniateir mynediad i’r cyhoedd.

6.2 Ceir llai o goed yn y dirwedd drefol, sy’n eu gwneud yn ased hynod o bwysig. Mae’n hanfodol, felly, bod coed nodedig mewn ardaloedd trefol yn cael eu cadw a’u hymgorffori’n ofalus mewn datblygiadau trefol. Am yr un rheswm, mae’n bwysig bod gwrychoedd, p’un a ydynt yn mynd trwy ganol safleoedd datblygu neu’n eu hamgylchynu, yn cael eu cadw, a lle bo angen, yn cael eu rheoli. Gall cadw’r nodweddion naturiol hyn yn ofalus ar ymylon aneddiadau leihau effaith datblygiadau ar y dirwedd oddi amgylch.

6.3 Yn ogystal â gwarchod y nodweddion hyn, nod pwysig i’r bennod hon yw gwella ansawdd y coed, coetiroedd a gwrychoedd a chynyddu eu harwynebedd. Bydd hynny’n cael ei gyflawni trwy gynlluniau rheoli cynaliadwy a gwaith plannu newydd, gyda’r Cyngor Sir yn gweithio mewn partneriaeth â’r Comisiwn Coedwigaeth a sefydliadau eraill i gynorthwyo tirfeddianwyr i sicrhau amgylchedd o ansawdd gwell.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol

6.4 Ym mharagraff 5.2.9 Polisi Cynllunio Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd coed, coetiroedd a gwrychoedd fel cynefinoedd bywyd gwyllt ac o safbwynt eu cyfraniad i gymeriad a harddwch y dirwedd. Cynghorir Awdurdodau Cynllunio Lleol i geisio gwarchod coed, grwpiau o goed ac ardaloedd o goetir sy’n werthfawr o ran treftadaeth naturiol neu sy’n cyfrannu at gymeriad ac amwynder ardal benodol.

 

Polisïau

TWH1 Datblygiad sy’n Effeithio ar Goed a Choetiroedd

Bydd y Cyngor yn gwarchod rhag datblygiad y coetiroedd a’r coed hynny yr ystyrir eu bod yn nodweddion pwysig o ran y dirwedd, y drefwedd a bywyd gwyllt lleol. Mewn achosion lle mae’r egwyddor o ddatblygiad yn effeithio ar goed neu goetir yn dderbyniol, bydd y Cyngor Sir yn mynnu:

  1. bod unrhyw goeden, grwpiau o goed neu goetiroedd o werth ar y safle neu wrth ei ymyl yn cael eu cadw, a bod unrhyw waith datblygu’n cael ei ymgorffori mewn modd sensitif o’u hamgylch;
  2. bod yr asesiad cyn-cynllunio o’r coed a’r datblygiad yn cydymffurfio â’r Safon Brydeinig, Canllaw ar gyfer Coed mewn Perthynas ag Adeiladu (BS 5837) 2005; a
  3. ble bynnag yr ystyrir bod cael gwared ar goed yn dderbyniol, bod coed eraill addas sy’n briodol i gymeriad yr ardal yn cael eu plannu rywle arall o fewn y safle.

6.5 Lle bo’n briodol, bwriedir i’r polisi hwn warchod coed a choetiroedd sy’n nodweddion deniadol ac sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i amrywiaeth y dirwedd a bywyd gwyllt, ac i ansawdd bywyd y bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal.

6.6 Mae’r polisi yn gwarchod coed, grwpiau o goed a choetiroedd pwysig ar safleoedd datblygu, sy’n aml mewn mwy o berygl o gael eu difrodi neu’u dinistrio na choed mewn mannau eraill. Yn ogystal, mae’r polisi’n ceisio sicrhau nad yw coed a gedwir yn cael eu peryglu yn yr hirdymor o ganlyniad i gynllunio a dylunio gwael o’u cwmpas oherwydd y datblygiad. Cyn penderfynu ar geisiadau datblygu, bydd angen digon o wybodaeth ar y Cyngor ynglyn â’r coed a’r datblygiad fel y gellir asesu effaith y datblygiad ar y coed yn gywir. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol ynglyn â gwarchod coed ar safleoedd datblygu yn cael eu cynhyrchu ar gyfer datblygwyr.

6.7 Bydd y Cyngor yn rhoi pwys arbennig ar warchod coetiroedd lled-naturiol hynafol a safleoedd coetiroedd hynafol a blannwyd gan eu bod yn gynefinoedd unigryw sy’n werthfawr iawn o ran bioamrywiaeth.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

TWH2 Gwarchod Gwrychoedd

Bydd gwrychoedd sy’n bwysig oherwydd eu gwerth o ran bywyd gwyllt neu’r dirwedd neu oherwydd eu gwerth hanesyddol neu archeolegol yn cael eu diogelu rhag difrod neu golled sylweddol. Pan fydd cynigion datblygu’n effeithio ar wrychoedd, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau eu bod, lle bynnag y bo modd, yn cael eu cadw a’u hymgorffori yng nghynllun y datblygiad.

6.8 Mae gwrychoedd yn nodwedd neilltuol o gefn gwlad sy’n cyfrannu at gymeriad a diddordeb y dirwedd. Mae nifer ohonynt yn dyddio’n ôl i’r adeg gyntaf pan gafodd tir ei amgáu, ac felly mae iddynt ddiddordeb hanesyddol hefyd. Mae gwrychoedd, yn enwedig gwrychoedd hyn, yn aml yn cynnwys amrywiaeth helaeth o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid, ac mae iddynt rôl bwysig o ran gwarchod a gwella bioamrywiaeth.

6.9 Roedd Rheoliadau Gwrychoedd 1997, a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 1997, yn rhoi pwerau newydd i Awdurdodau Cynllunio Lleol i warchod gwrychoedd pwysig yng nghefn gwlad trwy ddefnyddio cyfres o feini prawf. Wrth roi’r rheoliadau hyn ar waith, bydd y Cyngor Sir yn gweithredu i rwystro, a lle bo hynny’n angenrheidiol, i wrthod cynigion datblygu a fyddai’n arwain at golled neu ddifrod sylweddol i wrychoedd o’r fath. Pan fo’n hanfodol cael gwared ar wrych, rhaid darparu un arall addas yn ei le.

6.10 Mae’r polisi hefyd yn cydnabod y gall gwrychoedd nad ydynt yn gymwys i’w gwarchod dan y Rheoliadau Gwrychoedd fod yn rhan werthfawr o gymeriad y Sir o ran tirwedd a gwneud cyfraniad pwysig i fioamrywiaeth. Felly, bydd y Cyngor Sir yn sicrhau bod gwrychoedd yn cael eu cadw a’u rheoli mewn modd sensitif lle bynnag y bo hynny’n bosibl.

 

TWH3 Plannu a Rheoli Coetiroedd

Bydd cynigion ar gyfer rheoli a phlannu coetiroedd, gan gynnwys coetiroedd cymunedol, yn cael eu cefnogi cyhyd â:

a. bod y plannu’n parchu topograffi a chymeriad y dirwedd sy’n bodoli eisoes ac yn ymgorffori nodweddion tirwedd mewn gwaith dylunio tirwedd sy’n addas ac yn ddymunol;

b. bod coetir newydd yn adlewyrchu patrwm coed brodorol sy’n bodoli eisoes a’u cyfansoddiad o ran rhywogaethau;

c. bod ardaloedd amgylcheddol sensitif, cynefinoedd pwysig planhigion a bywyd gwyllt a safleoedd o ddiddordeb archeolegol neu ddaearegol yn cael eu gwarchod a’u hymgorffori mewn cynllun addas;

ch. bod y coetiroedd yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy a’u bod yn hygyrch i’r cyhoedd lle bynnag y bo hynny’n briodol.

6.11 Gall coetiroedd sydd wedi’u dylunio’n dda wneud cyfraniad cadarnhaol i batrwm y dirwedd a chynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt. I’r gwrthwyneb, gall coedwigoedd mawr o rywogaethau anfrodorol nad ydynt yn parchu cymeriad y dirwedd fod yn niweidiol i gefn gwlad a gallant hefyd ddisodli bywyd gwyllt sensitif.

6.12 Mae’r polisi yn adlewyrchu prif nodau Strategaeth Goedwigaeth Ddangosol Clwyd sy’n ceisio nodi’r lleoliadau a gaiff eu ffafrio ar gyfer plannu coetiroedd sylweddol; cynghori ynghylch y mathau o ardaloedd lle dylid osgoi plannu; ac annog tirfeddianwyr a thenantiaid i gynnal a chadw eu coetiroedd presennol, eu rheoli’n gynaliadwy a’u gwella. Mae’r Cyngor yn cefnogi gwaith Coed Cymru sy’n ymwneud â hyrwyddo rheoli coetiroedd sydd wedi’u hesgeuluso, er budd bioamrywiaeth, y dirwedd a’r economi wledig.

6.13 Dylai unrhyw waith plannu newydd adlewyrchu’r rhywogaethau sy’n bresennol yn yr ardal, er mwyn iddo gyd-fynd â chymeriad yr ardal. Argymhellir bod rhywogaethau coed brodorol yn cael eu plannu gan ddefnyddio stoc a hadau lleol lle bônt ar gael.

6.14 Gallai’r polisi gyfrannu at leihau effaith cynhesu byd-eang. Mae gwyddonwyr yn cydnabod mai cynnydd yn lefel y carbon deuocsid yn yr atmosffer yw prif achos cynhesu byd-eang, a gall y lefel hon ostwng pan fydd carbon yn cael ei ddal

Brig y dudalen