Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

Pennod 5

Dylunio

Nodau Strategol Perthnasol

c. Iechyd, ch. Hunaniaeth Gymunedol, dd. Amgylchedd Adeiledig

Amcanion Polisi
#

Rhestr Bolisïau
#

  1. ANSAWDD – sicrhau’r safonau adeiladu a dylunio gorau posibl er lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol

  2. HYNODRWYDD LLEOL – diogelu a gwella hunaniaeth bensaernïol unigryw ardaloedd y Cynllun

  3. DYLUNIO I ATAL TROSEDDU – creu mannau ac adeiladau saff a diogel

D1 Ansawdd y Dylunio, Lleoliad a Chynllun
D2 Dylunio
D3 Tirlunio
D4 Goleuadau Awyr Agored
D5 Atal Troseddu
D6 Celfyddyd Gyhoeddus
D7 Hysbysebion Awyr Agored

Dangosyddion Perfformiad Polisi

Targedau

  1. % y ceisiadau sydd â datganiadau dylunio wedi’u cymeradwyo

  2. Nifer y gwobrau dylunio a enillwyd ar gyfer datblygiadau newydd

 


5 Dylunio

Cyflwyniad

5.1 Mae dylunio da er lles pawb. Mae’n sicrhau bod yr amgylchedd adeiledig yn ymateb i anghenion a dyheadau’r sawl sy’n ei ddefnyddio, p’un a ydynt yn byw neu’n gweithio yn yr ardal neu’n ymweld â hi. Mae’n ymestyn ymhell y tu hwnt i ystyriaethau syml yn ymwneud ag arddull, ac mae’n cynnwys gwelliannau mewn effeithlonrwydd o ran adeiladu a chostau cynnal a chadw synhwyrol. Trwy hyrwyddo’r safonau uchaf o ran dylunio ym mhob datblygiad newydd, gall y Cynllun helpu i wella ansawdd a hynodrwydd trefi a phentrefi Sir y Fflint gan ddenu buddsoddiad a thwristiaeth o’r tu allan, atgyfnerthu balchder dinesig a chyhoeddus, a hyrwyddo datblygu cynaliadwy.

 

Polisi Cynllunio Cenedlaethol

Mae TAN 12 “Dylunio” yn archwilio’r hyn a olygir wrth ddylunio:

“y berthynas rhwng holl elfennau’r amgylchedd naturiol ac adeiledig. I greu datblygiad cynaliadwy, rhaid i’r dylunio fynd y tu hwnt i estheteg a chynnwys agweddau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y datblygiad, gan gynnwys adeiladu, gweithredu a rheoli’r datblygiad, a’i berthynas â’i gwmpasoedd.”

 

Polisïau

D1 Ansawdd y Dylunio, Lleoliad a Chynllun

Rhaid i bob datblygiad ymgorffori safonau dylunio da. Dim ond dan yr amodau canlynol y bydd datblygiad yn cael ei ganiatáu:

a. mae’n parchu maint y datblygiadau sydd o’i gwmpas; mae ei leoliad a’i gynllun yn gwneud y defnydd gorau o dir, yn lleihau’r angen i deithio, ac yn darparu amgylchedd diogel a deniadol;

b. mae o’r dwysedd net uchaf sy’n briodol i’w leoliad a’i swyddogaeth;

c. mae cysylltiad da rhyngddo a thopograffi, gwedd, microhinsawdd, patrwm strydoedd, cyfeiriad a golygfeydd lleol;

ch. mae’n creu aliniadau a ffryntiadau cadarnhaol a deniadol ar gyfer adeiladau;

d. mae’n darparu’n ddigonol ar gyfer lle o amgylch adeiladau, lleoli adeiladau, parcio creadigol a thirlunio;

dd. mae’n gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau, yn lleihau’r defnydd o adnoddau anadnewyddadwy ac yn lleihau’r gwastraff a’r llygredd a gynhyrchir; ac

e. caiff gwybodaeth am ddylunio, sy’n gymesur â maint y datblygiad arfaethedig a’r math o ddatblygiad arfaethedig ei chynnwys gyda’r cynnig.

5.2 Mae pob datblygiad newydd yn effeithio ar sut yr ydym yn teimlo am y byd sydd o’n cwmpas. Dylai popeth a adeiladwn ymateb i anghenion ymarferol y rhai sy’n ei ddefnyddio, ac ar yr un pryd dylai wneud cyfraniad cadarnhaol i hynodrwydd ac awyrgylch ein trefi, ein pentrefi a’n cefn gwlad. Yn fyr, dylai adeiladu fod yn gyfystyr â gwella, oherwydd bydd yr hyn a adeiladwn heddiw yn cael ei etifeddu gan genedlaethau’r dyfodol.

5.3 I’r perwyl hwn, bydd disgwyl i ymgeiswyr am ganiatâd cynllunio ddangos sut y maent wedi ystyried egwyddorion dylunio yn eu cynigion datblygu. Dylent o leiaf ddarparu cynlluniau, gweddluniau a, lle bo hynny’n briodol, persbectifau sy’n darlunio lleoliad y datblygiad yn ei gyd-destun ehangach, yn ogystal â darparu dyluniad y cynnig penodol a’i berthynas â mannau ac adeiladau cyfagos. At hynny, bydd angen i ymgeiswyr ddarparu datganiad ysgrifenedig byr sy’n amlinellu eu dull o ddylunio ac sy’n dangos sut y mae hynny’n cyfrannu at amcanion a pholisïau’r Cyngor Sir.

5.4 Cynghorir ymgeiswyr i ymgynghori â’r Cyngor Sir ar ddechrau’r broses ddatblygu er mwyn ei gwneud yn haws ystyried materion dylunio yn llawn. Gallai hynny helpu i osgoi unrhyw oedi costus, a chynorthwyo i gyflymu’r broses gynllunio a sicrhau bod y cyhoedd yn parhau i dderbyn datblygiad newydd angenrheidiol.

5.5 Mae Canllawiau Cynllunio Atodol yn darparu dehongliad pellach o bolisïau cynlluniau datblygu fel cymorth i benderfynu ar geisiadau cynllunio. Mae’r Cyngor yn ystyried bod cyfiawnhad lleol dros ganllawiau dylunio ac y gallent fod yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

5.6 Mae gan y Cyngor Sir amrywiaeth o ganllawiau dylunio ar ystod o faterion, ac mae wedi cynhyrchu cyfres o Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol. Ar ôl mabwysiadu’r CDU, mae’r Cyngor yn bwriadu mabwysiadu’n ffurfiol gyfres gynhwysfawr o Ganllawiau Cynllunio Atodol, sydd i’w gweld ym mholisi IMP4 ac Atodiad 2.

5.7 Bydd yn ofynnol i ddatblygwyr gynhyrchu briffiau datblygu ar gyfer pob safle pwysig neu sensitif neu os yw’r datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Bydd rhai briffiau datblygu’n cael eu cynhyrchu ar y cyd â’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Mewn achosion o’r fath, disgwylir i gynigion fodloni gofynion y brîff perthnasol, a lle bo hynny’n briodol, bydd amodau’n cael eu defnyddio i sicrhau cydymffurfiaeth. Caiff briffiau datblygu eu defnyddio i amlinellu gofynion dylunio cynaliadwy.

5.8 Gall y dewis o leoliad, y modd y caiff safleoedd eu trefnu, dwysedd a chyfeiriad adeiladau, a chynllun seilwaith cysylltiedig i gyd ddylanwadu’n fawr ar ansawdd naturiol ac ansawdd gweledol ac esthetig yr amgylchedd ehangach. Dylai datblygiad gael ei leoli mewn modd sy’n golygu ei fod yn osgoi cael effaith niweidiol ar unrhyw nodweddion sydd o werth sylweddol o safbwynt cadwraeth natur neu o safbwynt hanesyddol neu bensaernïol.

5.9 Mae’r polisi hwn yn cydnabod bod lleoliad datblygiad newydd yn cyfrannu at ansawdd yr amgylchedd lleol a’r amgylchedd byd-eang fel ei gilydd. Gall lleoli a dylunio adeiladau newydd yn ofalus gynorthwyo i wneud y defnydd mwyaf effeithlon o dir, lleihau’r angen i deithio a’r defnydd o ynni, gwarchod cymeriad a golwg y dirwedd, a sefydlu ymdeimlad pleserus o le ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.

5.10 Dylai dylunio da sicrhau bod datblygiad newydd yn lliniaru’r hyn sy’n achosi newid yn yr hinsawdd. Mae ansawdd y dylunio, lleoliad a chynllun datblygiad yn effeithio ar ei anghenion o ran ynni, gwresogi ac oeri, ac felly dylai datblygiad newydd gael ei ddylunio i leihau allyriadau carbon a nwyon ty gwydr eraill. Mae rhywfaint o newid yn yr hinsawdd eisoes yn anochel, felly dylai datblygiad newydd allu addasu’n effeithiol i dywydd eithafol (e.e. llifogydd a thymheredd uwch) yn ystod ei oes, a bod yn ddigon gwydn i’w wrthsefyll. Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen ystyried mesurau lliniaru ac addasu yn gynnar yn y broses ddylunio.

5.11 Wrth leoli datblygiad newydd, rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i gynllun adeiladau sy’n bodoli eisoes a’r lle sydd o’u hamgylch. Dylai gwaith dylunio strydoedd adlewyrchu pwysigrwydd cynnal a chadw ffryntiadau adeiledig, gan atgyfnerthu ffurf drefol o ansawdd da, a dylai cynllun ystadau geisio sicrhau bod cerddwyr mor ddiogel ag sy’n bosibl, lleihau cyflymder traffig a gwella ansawdd cyffredinol y datblygiad.

5.12 Dylai dwysedd unrhyw ddatblygiad adlewyrchu’r angen i wneud y defnydd gorau o dir, gan osgoi gorddatblygu. Yn hytrach na mynnu dwysedd unffurf safonol ledled ardal y Cynllun, y nod fydd sicrhau amrywiaeth mewn perthynas ag agosrwydd trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau. Er enghraifft, dylai defnydd dwysedd uwch fod yn agos i’r stryd fawr ac i arosfannau bysiau.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

D2 Dylunio

Ni chaniateir datblygiad oni bai:

  1. fod yr adeilad a’r strwythurau arfaethedig o safon dda o ran dylunio, ffurf, maint a deunyddiau; a
  2. bod y datblygiad yn gwarchod cymeriad ac amwynder yr ardal leol ac yn ychwanegu at ansawdd a hynodrwydd yr ardal leol.

5.13 Yn aml, bydd datblygiad newydd llwyddiannus yn un sy’n integreiddio’n llwyr â’r hyn sydd o’i amgylch. Trwy ymgorffori technegau a deunyddiau adeiladu brodorol, gall y datblygiad ychwanegu at gymeriad lleol hynod pentref neu dref, gan atgyfnerthu ymdeimlad hollbwysig o le gan gadw ei hunaniaeth unigryw ar yr un pryd. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol ar ddefnyddio dyluniad modern ac arloesol, ac ar faterion mwy cyffredinol megis lliw, gwead, ffurf a deunyddiau, yn cael eu cynhyrchu gan y Cyngor.

5.14 Gall defnyddio deunyddiau priodol wneud cyfraniad gwerthfawr hefyd i’r amgylchedd naturiol. Mae codi adeiladau yn waith sy’n defnyddio llawer o adnoddau’r ddaear, drwy ddihysbyddu deunyddiau crai cyfyngedig a thrwy ddefnyddio ynni i gynhyrchu deunyddiau a rhedeg a chynnal a chadw adeiladau.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

D3 Tirlunio

Lle bo hynny’n briodol, bydd yn ofynnol i ddatblygiadau newydd gynnwys cynllun tirlunio caled a meddal sy’n ystyried:-

a. cymeriad tirwedd neu drefwedd yr ardal leol;

b. topograffi’r safle;

c. gwedd, microhinsawdd a’r math o bridd;

ch. nodweddion artiffisial a naturiol sy’n bodoli eisoes;

d. coed a llystyfiant sy’n bodoli eisoes;

dd. y defnydd o rywogaethau a deunyddiau brodorol;

e. triniaeth briodol i ffiniau; a

f. buddiannau o ran cadwraeth natur.

Yn achos cynigion datblygu dros dro, ni chaiff y rhain eu caniatáu oni ddarperir yn ddigonol ar gyfer adfer y safle’n gyfan gwbl a gofalu amdano pan roddir y gorau i’w ddefnyddio.

5.15 Mae tirlunio da yn elfen hanfodol o ddatblygiad llwyddiannus. Bydd tirlunio’n cael ei drin fel rhan annatod o gyd-destun cyffredinol y datblygiad yn hytrach na chynnig i blannu fesul tipyn o gwmpas y safle. Yn ogystal, dylai tirlunio caled gael ei ddylunio i adlewyrchu cymeriad lleol yr ardal oddi amgylch. Byddai angen asesiad strategol o’r dirwedd ar gyfer datblygiadau ar raddfa fwy, a byddai arfarniad manwl o safle, a allai gynnwys agweddau megis effeithiau gweledol ar olygfeydd, nodweddion hanesyddol, topograffi, microhinsawdd, gwedd, a chynyddu bioamrywiaeth, yn briodol ar gyfer datblygiadau eraill.

5.16 Weithiau, efallai y bydd angen plannu ychydig bellter oddi wrth adeilad er mwyn darparu sgrîn addas neu lenwi bwlch mewn gwrych neu linell o goed. Gall tirlunio hefyd ddarparu clustogfa effeithiol sy’n gwarchod buddiannau defnyddwyr tir cyfagos ac sy’n meddalu ymylon ardaloedd trefol sy’n galed fel arall.

5.17 Bydd canllawiau atodol ar nodweddion tirwedd, dewis rhywogaethau, patrwm plannu a’r defnydd o dirlunio caled yn cael eu mabwysiadu yn ystod cyfnod y Cynllun.

5.18 Mewn ardaloedd trefol a chynlluniau newydd mwy o faint ar safleoedd tir glas, mae gan dirlunio caled rôl arbennig o bwysig i’w chwarae o ran gwella ansawdd gweledol datblygiadau. Dylai arddull, nifer a lleoliad dodrefn stryd, ansawdd a’r dewis o ddeunyddiau ar gyfer palmentydd ac arwynebau eraill, wella safon yr adeiladau a’r strydoedd oddi amgylch. Dylid cymryd gofal i osgoi gorlenwi lle’n ddiangen, manylion di-chwaeth, gwahaniaethau mawr o ran lliw neu wead, a gormod o amrywiaeth anhrefnus. Creu dyluniad cyson sy’n ategu’r ymdeimlad unigryw o le sy’n perthyn i unrhyw leoliad, ac sy’n helpu i ddiffinio’r ymdeimlad hwnnw, ddylai fod yn nod cyffredinol.

5.19 Mae egwyddor cynaliadwyedd yn golygu y dylai’r amgylchedd naturiol a hanesyddol fod yn ystyriaeth bwysig wrth gynllunio a gweithredu cynlluniau tirlunio. Lle bo hynny’n bosibl, dylai’r amgylchedd hanesyddol gael ei hyrwyddo mewn modd sensitif mewn cynlluniau. Gall tirlunio hefyd wella gwerth cyffredinol safle o ran cadwraeth, a dylid defnyddio rhywogaethau brodorol o stoc leol yn hytrach na rhywogaethau anfrodorol nad ydynt yn rhai lleol. Dylai cynlluniau tirlunio ac adfer gael eu defnyddio hefyd i gyflawni camau gweithredu a nodwyd mewn Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth cenedlaethol a lleol.

5.20 Gallai cynigion dros dro, er enghraifft, gynnwys cynlluniau ynni adnewyddadwy a seilwaith telathrebu. Yn ogystal, mewn achosion lle ceir ansicrwydd ynglyn ag effaith bosibl y cynigion, caniatâd cynllunio dros dro fydd fwyaf addas yn aml. Bydd amodau’n cael eu gosod ar gyfer caniatâd o’r fath, a fydd yn mynnu cynllun adfer y cytunir arno gan y naill ochr a’r llall, naill ai pan roddir y caniatâd neu pan fydd cyfnod y defnydd cymeradwy yn dod i ben. Fel rheol, byddai’r Cyngor yn disgwyl i safleoedd y rhoddwyd y gorau i’w defnyddio at ddibenion amaethyddol gael eu hadfer at ddibenion ffermio, yn enwedig lle effeithir ar dir amaethyddol o ansawdd uchel. Fodd bynnag, er mwyn hyrwyddo bioamrywiaeth, bydd y Cyngor yn mynnu bod datblygwyr yn llunio cynlluniau adfer sy’n rhoi sylw dyledus i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth safle yn ôl lleoliad y safle, y modd y bwriedir ei ddefnyddio wedyn, a’i gyfyngiadau ffisegol. Yn ogystal, bydd yn ofynnol i gynlluniau adfer ddiogelu ansawdd cynhenid ardaloedd o dir a allai fod o ansawdd amaethyddol uchel.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

D4 Goleuadau Awyr Agored

Ni fydd datblygiad yn cael ei ganiatáu oni bai fod unrhyw oleuadau cysylltiedig yn cael eu cyfyngu i’r isafswm sy’n angenrheidiol i:

  1. sicrhau diogelwch y cyhoedd;
  2. hwyluso mwynhad o gyfansoddiad ffisegol a gweledol y datblygiad a’r ardal o’i amgylch; ac
  3. atal llygredd golau drwy greu gormod o ddisgleirdeb.

5.21 Gall cynigion datblygu gynnwys goleuadau awyr agored am resymau diogelwch, ac mae goleuadau’n cynnig cyfle gwych i wella dyluniad. Gall golau artiffisial ddramateiddio adeiladau, gwella mannau agored a gwella diogelwch y cyhoedd, ond mae’n debygol y bydd gormod o olau’n ‘gwynnu’ manylion pensaernïol ac yn dinistrio’r hyn a allai fod yn ddiddorol yn y mannau rhwng adeiladau, ac yn creu disgleirdeb ac yn gwyrdroi lliwiau. Er hynny, gall prinder golau greu cyfleoedd i droseddu a pheri i bobl bryderu am eu diogelwch wedi iddi dywyllu. Beth bynnag fo’u lefel gyffredinol, gall goleuadau sydd wedi’u gosod yn wael daflu gormod o olau tuag i fyny gan leihau diogelwch, gwastraffu ynni a tharfu ar awyr y nos.

5.22 Mewn ardaloedd trefol, dylid gosod lampau newydd ar adeiladau neu ddodrefn stryd lle bo’n bosibl er mwyn osgoi creu gormod o rwystrau. Wrth ystyried yr angen am oleuadau stryd newydd, dylid ystyried y ffynonellau golau sy’n bodoli eisoes, megis golau a adlewyrchir o adeiladau sydd wedi’u llifoleuo, cyn cynnig darpariaeth ychwanegol.

5.23 Mewn ardaloedd gwledig, dylid cyfyngu unrhyw oleuadau i’r hyn sy’n wirioneddol angenrheidiol ar gyfer diogelwch ar y priffyrdd. Y tu allan i aneddiadau, yn enwedig, dylai unrhyw oleuadau ffyrdd angenrheidiol gael eu dylunio’n ofalus er mwyn lleihau eu heffaith ar yr ardal sy’n union o’u hamgylch a’r dirwedd wledig ehangach yn ystod y nos.

 

Polisïau allweddol eraill:

 

D5 Atal Troseddu

Ni fydd datblygiad newydd yn cael ei ganiatáu oni bai fod mesurau priodol i leihau’r risg o droseddu wedi cael eu hymgorffori’n sensitif yn y cynnig lle bo hynny’n briodol.

5.24 Mae rheidrwydd statudol ar y Cyngor Sir i ystyried Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 fel ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, ac mae hefyd yn rhwym wrth Strategaeth Lleihau Trosedd ac Anhrefn Heddlu Gogledd Cymru/Cyngor Sir y Fflint, sy’n strategaeth ar y cyd. Mae dyluniad a chynllun datblygiad newydd yn cynnig cyfle i helpu i leihau’r risg o droseddu ac ofn troseddu yn erbyn unigolion neu eiddo. Gall mesurau o’r fath fod yn rhai ffisegol neu seicolegol, a gall eu hansawdd leihau costau cynnal a chadw tymor hir. Bydd angen tystiolaeth ar y Cyngor o sut y mae mesurau wedi’u hymgorffori yn y dyluniad i gyflawni hyn yn rhan o unrhyw gais am ddatblygiad newydd.

5.25 Dylai cynllun safleoedd datblygu gynyddu’r potensial ar gyfer goruchwyliaeth naturiol trwy osgoi ardaloedd cudd a sicrhau bod mannau parcio a mannau cyhoeddus eraill wedi’u goleuo’n dda a bod modd eu gweld o eiddo cyfagos. Dylid dylunio llwybrau troed mewn modd sy’n sicrhau diogelwch cerddwyr, a dylid osgoi creu mynediad ar wahân i gefn eiddo. Gall gosod bolardiau, potiau planhigion a meinciau mewn ardaloedd siopa a chyflogaeth atal pobl rhag gyrru cerbydau i mewn trwy ddrysau neu ffenestri siopau er mwyn dwyn nwyddau. Gall elfennau fel hyn, o’u dylunio’n ofalus, wella amgylchedd cyffredinol canol trefi.

5.26 Fodd bynnag, bydd bob amser angen cysoni’r dyhead i atal troseddu a’r amcan sy’n ymwneud â gwarchod a gwella ansawdd gweledol ardal. O ganlyniad, dylai’r mesurau diogelwch fod mor ddisylw ag sy’n bosibl. Er enghraifft, dylai unrhyw deledu cylch cyfyng ac offer goleuo gael eu hymgorffori’n sensitif yn yr adeiladau a’r strwythurau sy’n bodoli eisoes. Ar y cyfan, ni chaniateir caeadau allanol o ddur solet ar ffryntiadau siopau. At hynny, ni ddylid defnyddio gwaith atal troseddu fel esgus i ddileu’r angen am dirlunio. Mewn gwirionedd, gall plannu llwyni a choed ynddo’i hun fod yn rhwystr i dresmaswyr posibl. Darperir canllawiau atodol ar y mater hwn yn rhan o’r canllawiau a gynhyrchir mewn perthynas â thirlunio sy’n fater ehangach.

 

D6 Celfyddyd Gyhoeddus

Bydd y Cyngor yn mynnu bod celfyddyd gyhoeddus yn cael ei hymgorffori ym mhob datblygiad pwysig sydd ar agor i’r cyhoedd.

5.27 Gall celfyddyd gyhoeddus wneud cyfraniad dramatig i’r amgylchedd lleol. Gall fywiogi mannau dinesig yn ogystal ag ychwanegu diddordeb ac amrywiaeth at ddatblygiadau cyflogaeth, datblygiadau manwerthu neu ddatblygiadau cymunedol newydd mawr. Gall comisiynu cynlluniau megis cerfddelwau, ffynhonnau, cerfluniau, waliau patrymog, gwaith brics, lloriau, tirlunio creadigol a dodrefn stryd wella delwedd ardal, gan hyrwyddo hynodrwydd lleol, atgyfnerthu balchder dinesig a lleihau achosion o fandaliaeth. Mae’r Cyngor Sir wedi mabwysiadu a diweddaru Strategaeth Gelfyddydau, a bydd yn ceisio darparu gwaith celf addas lle byddai’n esgor ar fanteision cymdeithasol, esthetig, diwylliannol ac addysgol. Croesewir trafodaethau rhwng datblygwyr a Swyddog Cadwraeth a Dylunio, llyfrgelloedd ac adrannau Diwylliant a Threftadaeth y Cyngor er mwyn llunio cynlluniau addas.

 

D7 Hysbysebion Awyr Agored

Caniateir hysbysebion awyr agored y mae angen caniatâd ar eu cyfer:

  1. os ydynt wedi’u dylunio a’u lleoli’n sensitif o ran amwynder a diogelwch y cyhoedd; a
  2. os yw’r ymgeisydd wedi darparu digon o wybodaeth i ddangos na fyddant yn cael effaith niweidiol ar:
  1. gymeriad neu ddefnydd unrhyw adeilad neu’r dirwedd / y drefwedd oddi amgylch;
  2. gallu unrhyw ffurf ar drafnidiaeth i weithredu’n ddiogel; a
  3. gallu cerddwyr i symud o le i le.

5.28 Mae’r polisi hwn yn ceisio darparu sylfaen gyson ar gyfer ystyried cynigion, gan gydbwyso gofynion busnesau lleol â’r angen i warchod amwynder lleol a diogelwch.

5.29 Rhaid bob amser i hysbysebion gael eu dylunio a’u gosod fel eu bod yn gydnaws â’u lleoliad. Mewn ardaloedd a ddynodwyd yn arbennig, megis Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Ardaloedd Cadwraeth, Ardaloedd Rheolaeth Arbennig ar Hysbysebion, neu ar Adeiladau Rhestredig, rhoddir pwys ychwanegol ar ystyriaethau’n ymwneud ag amwynder. Caiff arwyddion mynediad i bobl anabl, os ydynt wedi’u dylunio a’u lleoli’n briodol, eu cefnogi er mwyn cydnabod dymuniad y Cyngor i hyrwyddo darpariaeth o ansawdd uchel i bobl ag anawsterau symud. Er mwyn asesu effaith debygol cynigion, bydd angen manylion ar y Cyngor ynghylch maint, deunyddiau, lliw, dulliau goleuo, safle a nifer yr hysbysebion arfaethedig. Fel rheol, dylai hysbysebion gael eu cyfyngu i enw’r busnes a’r hyn y mae’n ei gyflawni. Er mwyn hyrwyddo cymeriad ieithyddol y Sir, bydd arwyddion dwyieithog yn cael eu croesawu.

5.30 Mae’n arbennig o bwysig osgoi gosod myrdd o arwyddion cyfeirio ymlaen llaw. I’r perwyl hwnnw, pan wneir cais am arwyddion ar gyfer nifer o fusnesau mewn un lleoliad, bydd y Cyngor yn gofyn iddynt rannu arwyddion, a lle bo hynny’n briodol, bydd yn ceisio ad-drefnu’r arwyddion sy’n bodoli eisoes. Dylai ymgeiswyr sy’n gwneud cais am arwyddion ar gyfer cyfleusterau i dwristiaid gysylltu ag Adran Briffyrdd y Cyngor Sir er mwyn gweld a allent fod yn gymwys ar gyfer arwydd gwyn ar frown.

5.31 Bydd cynigion ynghylch hysbysebion yn cael eu hasesu ar sail unrhyw ganllawiau cynllunio atodol a fabwysiedir yn ddiweddarach gan y Cyngor Sir. Disgwylir i geisiadau am flaenau newydd i siopau gydymffurfio â’r Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol ar flaenau siopau a’u hysbysebion.

 

Polisïau allweddol eraill:

Brig y dudalen