Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

Pennod 4

Ystyriaethau Datblygu Cyffredinol

Nodau Strategol Perthnasol

Mae’r holl nodau strategol yn berthnasol

Amcanion Polisi
#

Rhestr Bolisïau
#

  1. DATBLYGU CYNALIADWY – sicrhau bod datblygiadau’n cael eu lleoli a’u cyflawni yn y modd mwyaf cynaliadwy

  2. GWARCHOD CEFN GWLAD AGORED – sicrhau bod cefn gwlad agored yn cael ei warchod rhag achosion lle gallai datblygiadau dresmasu arno, yn enwedig yn y mannau hynny lle mae’r dref a’r wlad yn cyfarfod â’i gilydd

  3. ASESU EFFAITH DATBLYGU - sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i effeithiau datblygu ar strwythur cymdeithasol a diwylliannol cymunedau, a’r amgylchedd

GEN1 Gofynion Cyffredinol ar gyfer Datblygu
GEN2 Datblygiadau y Tu Mewn i Ffiniau Aneddiadau
GEN3 Datblygiadau mewn Ardaloedd o Gefn Gwlad Agored
GEN4 Rhwystrau Glas
GEN5 Asesiadau Amgylcheddol
GEN6 Yr Iaith Gymraeg a’r Diwylliant Cymreig

Dangosyddion Perfformiad Polisi

Targedau

  1. Swm y datblygiadau a’r math o ddatblygiadau mewn ardaloedd o gefn gwlad agored/ar dir llwyd mewn ardaloedd o gefn gwlad agored

  2. Arwynebedd net Rhwystrau Glas a gollir i ddatblygiadau

  3. Canran y siaradwyr Cymraeg yn Ardal y Cynllun

TARGED 1: Dim un achos o golli tir rhwystrau glas i ddatblygiadau
TARGED 2: Dim un achos o ddatblygu mewn ardaloedd o gefn gwlad agored yn groes i bolisi

 

4 Ystyriaethau Datblygu Cyffredinol


Cyflwyniad


4.1 Yn y system ‘dan arweiniad y cynllun’, bwriedir i CDUau ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau rhesymegol a chyson. Mae Adran 54A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn datgan fel a ganlyn: mewn achosion lle dylid ystyried y cynllun datblygu wrth wneud unrhyw benderfyniad dan y Deddfau Cynllunio, y dylai’r penderfyniad gael ei wneud yn unol â’r cynllun oni bai fod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall. Yn y cyd-destun hwn, bydd yn rhaid i’r CDU, trwy ei bolisïau, roi cryn sicrwydd i ddatblygwyr a’r cyhoedd ynglŷn â natur y datblygiadau a ganiateir mewn lleoliadau penodol.

4.2 Er mwyn sicrhau bod y system cynllunio defnydd tir yn cael ei gweithredu mewn modd rhesymegol a theg, a bod patrymau datblygu’r dyfodol yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau cymunedau Sir y Fflint, bydd y Cyngor Sir yn ymdrechu i weithredu polisïau CDU Sir y Fflint lle bynnag y byddant yn berthnasol.

4.3 Felly, ni ddylid ystyried polisïau’r CDU ar eu pen eu hunain, gan mai nod cyffredinol datblygu cynaliadwy yw sicrhau dull integredig o gynllunio, sy’n ystyried holl oblygiadau posibl unrhyw gynnig. Felly, bydd yn rhaid i ymgeiswyr ac eraill sy’n defnyddio’r Cynllun ystyried yr holl bolisïau a’r holl gynigion perthnasol, oherwydd gallai methiant i fodloni’r gofynion hyn gyfiawnhau rhesymau dros wrthod y cynnig, pan nad oes unrhyw ystyriaethau perthnasol hollbwysig eraill.

4.4 Er bod y CDU yn cynnwys polisïau penodol ar leoli ac ar ddefnydd tir, ceir hefyd ofynion cynllunio cyffredinol penodol sy’n berthnasol ac y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth ystyried cynigion datblygu, oherwydd gyda’i gilydd, eu rheoleiddio yw swyddogaeth graidd y system gynllunio. Mae’r polisïau canlynol yn diffinio’r gofynion cyffredinol hyn ac yn amlygu’r meini prawf y dylai pob cynnig datblygu fynd i’r afael â nhw.

Polisïau

Ystyriaethau Datblygu Cyffredinol

GEN1 Gofynion Cyffredinol ar gyfer Datblygu

Dylai datblygiad y mae angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer ac sy’n cydymffurfio â pholisïau eraill y Cynllun gael ei leoli ar dir, neu mewn adeiladau addas, sy’n bodloni’r gofynion canlynol:

a. dylai’r datblygiad gyd-fynd â’r safle a’r hyn sydd o’i amgylch o ran lleoliad, maint, gwaith dylunio, cynllun, defnydd o le, deunyddiau, golwg allanol a thirlunio;

b. dylai’r datblygiad ystyried diogelwch personol a chymunedol wrth ddylunio a chynllunio’r datblygiad a mannau cyhoeddus/preifat;

c. ni ddylai’r datblygiad gael effaith andwyol sylweddol ar rywogaethau a chynefinoedd bywyd gwyllt cydnabyddedig, coetiroedd, nodweddion eraill y dirwedd, trefweddau, y dreftadaeth adeiledig, nodweddion o ddiddordeb archeolegol, na’r amgylchedd naturiol a hanesyddol cyffredinol;

ch. ni ddylai’r datblygiad gael effaith andwyol sylweddol ar ddiogelwch ac amwynder preswylwyr cyfagos, defnyddwyr eraill tir/eiddo gerllaw, na’r gymuned yn gyffredinol, o ganlyniad i gynnydd mewn gweithgarwch, aflonyddwch, sŵn, llwch, dirgryndod, perygl, neu effeithiau andwyol llygredd;

d. lle bo hynny’n briodol, dylai’r datblygiad ddarparu mynediad diogel a chyfleus ar gyfer cerddwyr, beicwyr, pobl ag anableddau, a cherbydau, ynghyd â digon o leoedd parcio mewn lleoliadau addas a lle i wasanaethu/troi;

dd. ni ddylai’r datblygiad gael effaith annerbyniol ar y rhwydwaith priffyrdd o ganlyniad i broblemau sy’n codi o greu traffig, a dylai gynnwys mesurau gostegu traffig lle bo hynny’n briodol;

e. lle bo hynny’n briodol, dylai fod gan y datblygiad fynediad cyfleus i drafnidiaeth gyhoeddus, a, lle bo hynny’n bosibl, dylai gysylltu’n dda â llwybrau i gerddwyr a beicwyr;

f. rhaid i’r datblygiad ystyried digonolrwydd gwasanaethau cyhoeddus sy’n bodoli eisoes (e.e. nwy, dŵr, trydan) a gellir darparu seilwaith newydd o fewn amser rhesymol ac am y gost leiaf posibl i’r cyhoedd;

ff. ni ddylai’r datblygiad achosi problemau/bod yn agored i broblemau sy’n gysylltiedig â draenio, sadrwydd tir, halogi, neu lifogydd, naill ai ar y safle neu oddi arno;

g. ni ddylai’r datblygiad niweidio tir neu adeiladau sy’n cael eu diogelu ar gyfer dibenion eraill, neu ni ddylai amharu ar ddatblygu neu ddefnyddio tir cyfagos; ac

ng. ni ddylai’r datblygiad olygu bod y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlddefnydd yn cael ei golli’n barhaol, os oes tir addas a ddatblygwyd eisoes neu dir o radd amaethyddol is ar gael.

4.5 Nod y polisi hwn yn y pen draw yw sicrhau bod cymunedau cynaliadwy’n cael eu datblygu, trwy sicrhau bod ansawdd a gwaith dylunio cynigion datblygu a gyflwynir o’r safon uchaf posibl, bod y cynigion yn cael eu gweithredu mewn modd cyfrifol a phriodol, a’u bod hefyd yn cael yr effeithiau andwyol lleiaf posibl ar eu hamgylchedd ffisegol, cymdeithasol ac economaidd.

4.6 Mae’r meini prawf yn ganllaw defnyddiol ar gyfer rheoli datblygu i’r rhai sy’n cyflwyno ceisiadau cynllunio neu gynigion datblygu. Er bod y rhestr o feini prawf yn gynhwysfawr, nid yw’n cynnwys pob posibiliad, a dylid ei defnyddio ar y cyd â pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y Cynllun lle bo hynny’n briodol.

 

Y Berthynas rhwng Datblygu a Ffiniau Aneddiadau

GEN2 Datblygiadau y Tu Mewn i Ffiniau Aneddiadau

Fel rheol, caniateir datblygu o fewn aneddiadau a ddiffinnir gan ffiniau aneddiadau, fel y dangosir ar y map cynigion.

4.7 Bwriad ffiniau aneddiadau yw gosod cyfyngiadau eglur i drefi, pentrefi ac ardaloedd trefol. O safbwynt cynllunio, maent yn diffinio hyd a lled yr ardaloedd trefol lle bydd datblygiadau newydd, mewn egwyddor, yn cael eu caniatáu’n amodol ar bolisïau yn y cynllun ac ystyriaethau cynllunio perthnasol. Yn achos tai, ceir cyfyngiadau a osodir gan HSG3.

4.8 Dangosir y ffiniau ar y map cynigion. Nid oes ffin anheddiad wedi’i diffinio ar gyfer pob grŵp o dai, oherwydd ystyrir nad ydynt yn ddigon mawr a/neu nad oes ganddynt ddigon o gapasiti i ymdopi â thwf yn y dyfodol mewn modd boddhaol.

Polisïau allweddol eraill:

 

GEN3 Datblygiadau mewn Ardaloedd o Gefn Gwlad Agored

Ni fydd cynigion datblygu y tu allan i ffiniau aneddiadau, dyraniadau, Parthau Datblygu a Phrif Ardaloedd Cyflogaeth yn cael eu caniatáu, ac eithrio ar gyfer y canlynol:

a. tai gweithwyr hanfodol (polisi HSG4);

b. datblygiadau mewnlenwi ar raddfa fach, sy’n cynnwys un neu ddwy o unedau tai mewn grŵp o anheddau a nodir (polisi HSG5);

c. gwaith addasu, estyn ac ailddefnyddio adeiladau (polisïau HSG7, RE4, ac RE5);

ch. anheddau newydd yn lle hen rai (polisi HSG6);

d. cynlluniau eithrio tai fforddiadwy wrth ymyl pentrefi sy’n bodoli eisoes (polisi HSG11);

dd. cynlluniau eithrio mentrau gwledig bach wrth ymyl ffiniau aneddiadau sy’n bodoli eisoes (RE4 ac RE5);

e. datblygiad sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth, echdynnu mwynau, arallgyfeirio gwledig, twristiaeth, hamdden ac adloniant, a mannau addysgol a sefydliadol sy’n bodoli eisoes, ar yr amod nad oes unrhyw effaith annerbyniol ar yr amgylchedd cymdeithasol, naturiol ac adeiledig;

f. gwaith hanfodol sy’n gysylltiedig ag ymgymerwyr statudol, yn amodol ar yr ystyriaethau amgylcheddol priodol;

ff. gwaith ehangu datblygiad cyflogaeth sy’n bodoli eisoes (EM5); ac

g. datblygiad arall sy’n briodol ar gyfer cefn gwlad agored, a lle mae’n hanfodol cael lleoliad cefn gwlad agored yn hytrach na lleoliad mewn man arall.

4.9 Fel rheol, cyfeirir at unrhyw ddatblygiad sydd y tu allan i ffiniau aneddiadau neu ddyraniadau datblygu a dynodiadau datblygu eraill (Parthau Datblygu a Phrif Ardaloedd Cyflogaeth) fel datblygiad mewn ‘cefn gwlad agored’, ac oherwydd yr angen i warchod cefn gwlad rhag datblygu anghynaliadwy, ni chaniateir datblygiadau newydd yn gyffredinol. Fodd bynnag, ceir rhai amgylchiadau penodol iawn, a amlinellir gan y polisi hwn ac a eglurir yn llawnach mewn man arall yn y Cynllun, lle gallai datblygiad newydd gael ei ganiatáu. Caiff datblygiad ‘priodol’ mewn cefn gwlad agored ei gyfyngu fel rheol i gynigion ar gyfer estyniadau i anheddau, gwaith addasu, datblygiadau mewn perthynas â diwydiannau amaethyddol a choedwigaeth, a defnydd hamdden megis meysydd chwarae. Bydd datblygiad hanfodol yn cynnwys gwaith sy’n gysylltiedig â chyfleustodau, megis piblinellau a cheblau sy’n gorfod mynd trwy gefn gwlad agored ac na ellir eu gosod yn unman arall.

4.10 Bydd datblygiad yn y cyswllt hwn yn cynnwys estyn gerddi preswyl i mewn i gefn gwlad, na fydd yn cael ei ganiatáu fel rheol oherwydd yr effeithiau andwyol y gallai eu cael ar gymeriad cefn gwlad. Pan roddir caniatâd ar gyfer estyniadau bach, mae’n bosibl y bydd Hawliau Datblygu a Ganiateir yn cael eu dileu er mwyn osgoi cyflwyno mathau trefol o ddatblygiadau, megis garejis ac estyniadau tai, yn y dirwedd wledig.

 

GEN4 Rhwystrau Glas

Mae’r ardaloedd canlynol wedi eu dynodi yn rhwystrau glas ar y map cynigion:

1

Gronant – Talacre – Gwesbyr – Ffynnongroyw

10

Yr Wyddgrug – Gwernymynydd

2

Carmel – Gorsedd

11

Yr Wyddgrug – Mynydd Isa/Sychdyn/New Brighton

3

Y Fflint – Bagillt

12

Cei Connah – Pentre Catheral – Ewlo - Shotton

4

Y Fflint – Cei Connah

13

Shotton – Mancot – Penarlâg – Ewlo

5

Y Fflint – Mynydd y Fflint

14

Penarlâg – Mancot – Maes Awyr Penarlâg – Saltney (De Afon Dyfrdwy)

6

Mynydd y Fflint – Llaneurgain

15

Brychdyn – Maes Awyr Penarlâg – Saltney – Ffin Swydd Gaer

7

Gwernaffield-y-Waun – Pant-y-mwyn

16

Sealand – Ffin Swydd Gaer (Gogledd Afon Dyfrdwy)

8

Treffynnon – Carmel

17

Bwcle – Little Mountain – Dobs Hill – Drury – Penarlâg – Ewlo

9

Treffynnon – Maes-glas – Bagillt

18

Yr Hob – Caergwrle

 

Dim ond lle bydd datblygiad yn cynnwys y canlynol y caiff ei ganiatáu o fewn rhwystrau glas:

a. datblygiad y gellir ei gyfiawnhau mewn perthynas ag amaethyddiaeth neu goedwigaeth;

b. cyfleusterau hanfodol ar gyfer chwaraeon a hamdden awyr agored, neu fynwentydd;

c. gwaith cyfyngedig i estyn anheddau sy’n bodoli eisoes, eu newid neu adeiladu rhai newydd yn eu lle;

ch. datblygiad cyfyngedig i fewnlenwi tai er mwyn diwallu angen a brofwyd am dai lleol neu gynlluniau eithrio tai fforddiadwy;

d. arallgyfeirio ar raddfa fach ar ffermydd;

dd. ailddefnyddio adeiladau sy’n bodoli eisoes; ac

e. defnydd/datblygiad gwledig priodol arall lle mae lleoliad gwledig yn hanfodol.

f. ar yr amod na fydd yn:

  1. yn cyfrannu at gyfuno aneddiadau; nac
  2. yn peri niwed annerbyniol i gymeriad agored a golwg y rhwystr glas.

4.11 Wrth lunio’r Cynllun, ac yng ngoleuni’r cyfarwyddyd ym mharagraff 4.7.1 Polisi Cynllunio Cymru (Chwefror 2011), mae ystyriaeth fanwl wedi ei rhoi i briodoldeb dynodi lleiniau glas yng Nghymru, yn hytrach na pharhau i ddefnyddio rhwystrau glas. Mae rhwystrau glas wedi bod yn weithredol ledled yr hen Sir Clwyd ers sawl blwyddyn, ac maent yn chwarae rôl debyg i leiniau glas wrth warchod ardaloedd allweddol o dir agored a rhwystro aneddiadau rhag cyfuno. Y gwahaniaeth allweddol rhyngddynt yw bod rhwystrau glas yn ddynodiadau lleol, anstatudol, ac maent fel rheol yn llai parhaol na lleiniau glas sy’n adnodd cynllunio cenedlaethol, statudol.

4.12 Sir wledig yw Sir y Fflint ar y cyfan, ac mae’r llain arfordirol fwy trefol a rhan ddwyreiniol y Sir yn cynnwys nifer helaeth o aneddiadau bach a chanolig eu maint sy’n agos i’w gilydd ac a gaiff eu gwahanu gan ‘barthau’ cul o dir. O’u cymharu â’r ehangder mawr o dir sy’n lleiniau glas o gwmpas trefi mwy o faint, dinasoedd a chytrefi yn Lloegr, caiff rhwystrau glas eu hystyried yn fwy priodol ar gyfer daearyddiaeth Sir y Fflint.

4.13 Barnwyd bod y rhwystrau glas sy’n bodoli eisoes yn Sir y Fflint yn rhy niferus ac yn rhy helaeth, sy’n gwanhau’r polisi i warchod yr ardaloedd hynny o gefn gwlad agored y mae dynodiad rhwystr glas yn hanfodol ar eu cyfer ac yn ddynodiad y gellir ei gyfiawnhau’n llwyr. Felly, wrth baratoi’r Cynllun, cynhaliwyd adolygiad strategol a chyson o’r rhwystrau glas sy’n bodoli eisoes i sicrhau bod y rhai sydd yn y CDU yn angenrheidiol ac yn rhai y gellir eu cyfiawnhau. Felly, mae nifer a maint y rhwystrau glas yn y Cynllun wedi eu lleihau er mwyn sicrhau eu bod yn fwy strategol o ran gwarchod ardaloedd allweddol yn unig o dir, lle mae cadw cymeriad agored a golwg y tir yn hanfodol.

4.14 Yn ogystal, wrth geisio sicrhau dull mwy strategol o weithredu, maent wedi’u dynodi gyda’r bwriad eu bod yn goroesi’n gyffredinol y tu hwnt i gyfnod y Cynllun yn yr un modd â lleiniau glas. Rhaid ystyried y penderfyniad i gadw (ac adolygu) rhwystrau glas mewn cyd-destun is-ranbarthol, lle cafodd penderfyniad Sir Ddinbych a Wrecsam i beidio â dynodi lleiniau glas ei gefnogi gan yr Arolygwyr Ymchwilio perthnasol. Felly, mae dull cyson o weithredu’n cael ei ddefnyddio ledled gogledd-ddwyrain Cymru.

4.15Mae rhwystrau glas wedi’u nodi rhwng aneddiadau ac o’u cwmpas, ac yn yr ardal arfordirol yng ngogledd y Sir. Bwriedir iddynt:

a. ddiogelu’r cefn gwlad sydd o amgylch neu’r arfordir sydd heb ei ddatblygu rhag i fwy o ddatblygiadau dresmasu arnynt;

b. rhwystro trefi neu bentrefi cyfagos rhag cyfuno;

c. cadw cymeriad arbennig trefi hanesyddol;

ch. cynorthwyo i adfywio trefi;

d. gwarchod prif gyffyrdd rhag datblygiadau a fyddai’n anghydnaws â’r hyn sydd o’u hamgylch ac yn amharu ar olwg cyffordd yn ei lleoliad gwledig.

4.16 Mae’n bwysig rhwystro aneddiadau cyfagos ond gwahanol rhag cyfuno, trwy gyfyngu ar unrhyw ffurf ar ddatblygiad a fyddai’n tresmasu ar gymeriad agored yr ardal o gefn gwlad sydd rhyngddynt. Bydd atal trefi a phentrefi rhag ymestyn hefyd yn annog defnydd mwy dwys o dir gwag neu dir nas defnyddir ddigon mewn aneddiadau.

4.17 Ceir nifer o wahanol ffyrdd o ddefnyddio tir a nifer o wahanol fathau o ddatblygiad a ganiateir fel rheol mewn cefn gwlad agored, a allai gael eu caniatáu mewn rhwystrau glas, ac mae’r rheini fel a ganlyn:

a. datblygiad sy’n gysylltiedig â gweithrediadau amaethyddol neu goedwigaeth lle mae’n hanfodol i’r datblygiad fod yn y lleoliad penodol hwnnw (polisi HSG4) ond na fyddai’n peri niwed annerbyniol i natur agored y rhwystr glas;

b. cyfleusterau hanfodol ar gyfer chwaraeon a hamdden neu mewn perthynas â mynwentydd (polisïau SR1, CF2) ar yr amod bod unrhyw ddatblygiad adeiledig yn cael ei gyfyngu gymaint ag sy’n bosibl a’i leoli, ei ddylunio a’i dirlunio fel nad yw’n peri niwed annerbyniol i natur agored y rhwystr glas;

c. gwaith estyn anheddau sy’n bodoli eisoes, eu newid neu adeiladu rhai newydd yn eu lle (polisïau HSG6, HSG12) ar yr amod bod lleoliad, maint a ffurf unrhyw ddatblygiad yn parchu cymeriad a golwg yr anheddau sy’n bodoli eisoes ac unrhyw anheddau cyfagos, ynghyd â’r safle a’i amgylchedd, o ran peidio â pheri niwed annerbyniol i natur agored y rhwystr glas;

ch. datblygiadau mewnlenwi cyfyngedig o ran tai, sy’n cynnwys un neu ddau anheddiad mewn grŵp o anheddau a ddiffinnir yn glir (polisi HSG5), neu gynlluniau eithrio tai fforddiadwy ar gyrion aneddiadau sy’n bodoli eisoes (polisi HSG11), ar yr amod na fyddai’r datblygiad yn peri niwed annerbyniol i natur agored y rhwystr glas;

d. cynlluniau arallgyfeirio ar raddfa fach ar ffermydd (polisi RE5) nad ydynt yn rhai sbeciannol ac nad ydynt yn golygu codi adeiladau newydd neu estyniadau neu wneud gweithgarwch ychwanegol a fyddai’n peri niwed annerbyniol i natur agored y rhwystr glas;

dd. gwaith ailddefnyddio adeiladau sy’n bodoli eisoes (polisïau HSG7, RE4) ar yr amod bod yr adeiladau yn sylweddol, yn barhaol ac yn addas ar gyfer y defnydd a fwriedir, ac na fyddai natur y defnydd nac unrhyw estyniad neu addasiad i’r adeilad yn peri niwed annerbyniol i natur agored y rhwystr glas;

e. defnydd neu ddatblygiad priodol arall y mae lleoliad gwledig yn hanfodol ar ei gyfer, na fyddai’n peri niwed annerbyniol i natur agored y rhwystr glas.

4.18 Gellir cael eglurhad llawnach o ddull y Cynllun o ymdrin â rhwystrau glas mewn papur cefndir ar wahân y gellir gwneud cais am gopi ohono.

 

Asesu Effeithiau Amgylcheddol Datblygiadau

GEN5 Asesiadau Amgylcheddol

Rhaid sicrhau bod cynigion datblygu sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, ac nad oes angen asesiad ffurfiol ar eu cyfer dan ddeddfwriaeth arall, yn cynnwys gwybodaeth ategol addas am effeithiau amgylcheddol.

4.19 Asesu Effeithiau Amgylcheddol yw’r broses ffurfiol a ddefnyddir i gasglu, asesu ac ystyried gwybodaeth am effeithiau amgylcheddol sylweddol tebygol rhai mathau o ddatblygiad, er mwyn penderfynu a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ai peidio.

4.20 Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999 (fel y’u diwygiwyd) a Chylchlythyr y Swyddfa Gymreig 11/99 ‘Asesu Effeithiau Amgylcheddol’ yn diffinio pryd y mae angen asesiad amgylcheddol dan Atodlenni 1 a 2. Rhaid i ddatblygiadau Atodlen 1 fod yn destun Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol bob amser, a byddant yn cynnwys datblygiadau mawr megis gorsafoedd trydan ac ati. Bydd angen Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol ar ddatblygiadau a restrir yn Atodlen 2 os byddant yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd oherwydd ffactorau megis maint, natur a/neu leoliad. Mae enghreifftiau’n cynnwys rhai mathau o weithgareddau amaethyddol, megis ffermio dofednod, datblygiadau sy’n golygu echdynnu o’r tir, a rhai mathau o ddiwydiannau gweithgynhyrchu. Yn unol â Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Diwygio) (Cymru) 2008, gall Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol fod yn ofynnol ar gyfer ceisiadau ynghylch materion a gadwyd yn ôl. Mae’r Cyngor yn bwriadu diweddaru ei Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol ar Asesu Effeithiau Amgylcheddol ar ffurf Canllawiau Cynllunio Atodol.

4.21 Os nad yw datblygiad yn dod dan y naill Atodlen na’r llall ond bod posibilrwydd o hyd y gallai gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, rhaid cyflwyno gwybodaeth ategol addas gyda’r cynigion, a fydd yn caniatáu i’r Cyngor asesu effeithiau amgylcheddol y datblygiad yn iawn.

 

Gwarchod yr Iaith Gymraeg a Hunaniaeth Ddiwylliannol

GEN6 Yr Iaith Gymraeg a’r Diwylliant Cymreig

Rhaid i gynigion datblygu mewn ardaloedd sydd â hunaniaeth gref o safbwynt yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig:

  1. beidio â pheri niwed amlwg i gymeriad y gymuned honno;
  2. a, lle bo hynny’n briodol, ceisio atgyfnerthu hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol y gymuned honno.

4.22 Mae’r iaith Gymraeg yn rhan o gyfansoddiad cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Adeg Cyfrifiad 2001, roedd tua 21.4% o boblogaeth Sir y Fflint yn meddu ar o leiaf un sgil mewn perthynas â’r iaith Gymraeg o gymharu â chyfartaledd o 28.4% yng Nghymru a chyfartaledd o 40% yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, mae’r iaith yn fwy cyffredin mewn rhai rhannau o’r Sir, ac felly rhaid ystyried yr effaith y gallai datblygiad ei chael ar gymunedau yn y CDU.

4.23 Mae’r iaith Gymraeg yn fwy cyffredin yng nghymunedau gwledig Sir y Fflint, gydag oddeutu traean y boblogaeth yn siarad Cymraeg mewn cymunedau megis Treuddyn, Trelawnyd, Gwaunysgor ac Ysgeifiog. Fodd bynnag, mae cyfran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg yn amrywio’n sylweddol, gyda dim ond 6% neu 7% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg mewn cymunedau megis y Fferi Isaf, Brychdyn a Sealand, sy’n agos i’r ffin â Lloegr.

4.24 Mae strategaeth y Cynllun yn cydnabod bod angen cefnogi a gwarchod hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol leol, a nod Polisi GEN6 yw sicrhau y bydd yn ofynnol i’r datblygwr, mewn unrhyw achos lle gallai niwed sylweddol ddigwydd o ganlyniad i gynigion datblygu, gyflwyno gwybodaeth ategol sy’n asesu ac yn egluro effeithiau tebygol y cynnig ar hunaniaeth o safbwynt yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.

4.25 Mae’r Cyngor yn disgwyl am ganlyniadau’r astudiaeth Cynllunio a’r Iaith Gymraeg, a gomisiynwyd gan nifer sylweddol o Awdurdodau Unedol ac a gefnogwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y Cyngor yn defnyddio’r wybodaeth hon i baratoi Canllawiau Cynllunio Atodol a fydd yn rhoi arweiniad ar y dulliau o asesu a mesur effeithiau a ‘niwed amlwg’ ymysg pethau eraill.

4.26 Nid yw’r ffaith bod ymgeisydd yn siarad Cymraeg ai peidio yn ystyriaeth gynllunio berthnasol, ac ni fydd yn effeithio ar y dull arferol o weithredu polisïau cynllunio perthnasol.

Brig y dudalen