Nodau Strategol Perthnasol |
|
Mae’r holl nodau strategol yn berthnasol |
|
Amcanion Polisi |
Rhestr Bolisïau |
|
STR1 Datblygiadau Newydd |
Dangosyddion Perfformiad Polisi |
Targedau |
|
|
3.1 Strategaeth y Cynllun, sy’n cynnwys gweledigaeth gyffredinol, nodau a themâu’r strategaeth, ynghyd â’u mynegiant gofodol ‘ar lawr gwlad’, yw’r sylfaen ar gyfer polisïau Rhan 1 y Cynllun neu’r polisïau strategol. Y rhain yw’r polisïau arwain allweddol ar faterion pwysig neu feysydd pwnc, ac maent yn darparu fframwaith polisi strategol ar gyfer y polisïau mwy manwl yn Rhan II y Cynllun.
Bydd yn ofynnol i ddatblygiadau newydd:
a. gael eu lleoli, yn gyffredinol, o fewn ffiniau aneddiadau, dyraniadau, parthau datblygu, prif ardaloedd cyflogaeth a safleoedd tir llwyd addas sy’n bodoli eisoes, a dim ond pan fo’n rhaid cael lleoliad mewn ardal o gefn gwlad agored y cânt eu caniatáu y tu allan i’r ardaloedd hynny;
b. cynnwys gwaith dylunio o safon uchel sy’n briodol ar gyfer yr adeilad, y safle a’r lleoliad, gwneud y defnydd mwyaf effeithlon posibl o adnoddau, lleihau’r defnydd o adnoddau anadnewyddadwy a lleihau’r gwastraff a’r llygredd a gynhyrchir;
c. creu amgylchedd diogel, iach a saff, a gwarchod safonau amwynder preswyl a mathau eraill o amwynder;
ch. parchu hunaniaeth gymunedol a chydlyniant cymdeithasol, gan gynnwys digonolrwydd a hygyrchedd cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol;
d. parchu ystyriaethau amgylcheddol ffisegol a naturiol megis llifogydd a sadrwydd tir;
dd. lleihau neu ddileu llygredd i’r aer, y dŵr a’r tir; ac
e. cael eu hasesu o ran gweithredu’n rhagofalus, lle bydd cynigion datblygu a fyddai’n cael effaith amgylcheddol, gymdeithasol, economaidd neu ddiwylliannol sylweddol ac ansicr yn cael eu gwrthod yn absenoldeb y wybodaeth orau sydd ar gael sy’n profi y gellir dileu neu liniaru’r effaith trwy fesurau rheoli risg priodol.
Er mwyn hwyluso system ddiogel, effeithlon ac integredig ar gyfer trafnidiaeth a chyfathrebu, a gwella hygyrchedd ledled y Sir, disgwylir i unrhyw ddatblygiad newydd, lle bo hynny’n ymarferol, ymgorffori’r gofynion canlynol:
a. lleihau nifer a hyd teithiau, yn enwedig mewn car preifat;
b. gwneud y defnydd gorau o ffyrdd sy’n bodoli eisoes a mynd i’r afael â thagfeydd a materion yn ymwneud â diogelwch, trwy fesurau gostegu a rheoli traffig;
c. sicrhau bod defnydd effeithlon yn cael ei wneud o drafnidiaeth gyhoeddus a’i bod yn cael ei gwella;
ch. sicrhau bod dulliau eraill o deithio, gan gynnwys beicio a cherdded, yn bosibl;
d. hwyluso trosglwyddo nwyddau o’r ffyrdd i reilffyrdd neu ddŵr; ac
dd. hwyluso darparu a defnyddio telathrebu.
Bydd y Cynllun yn hwyluso economi amrywiol a chynaliadwy trwy’r dulliau canlynol:
a. darparu 300 hectar o dir cyflogaeth gydol cyfnod y Cynllun;
b. darparu ystod o safleoedd cyflogaeth o wahanol fathau a maint;
c. sicrhau bod datblygiadau sy’n creu swyddi newydd yn bosibl, yn bennaf o fewn neu wrth ymyl aneddiadau sy’n bodoli eisoes, mewn prif ardaloedd cyflogaeth, mewn parthau datblygu, ar safleoedd dynodedig ac ar safleoedd tir llwyd addas, a thrwy addasu adeiladau gwledig yn sensitif a thrwy fentrau arallgyfeirio gwledig priodol eraill;
ch. sicrhau bod safleoedd ac adeiladau sy’n bodoli eisoes ar gyfer cyflogaeth, lle bo hynny’n angenrheidiol ac yn ymarferol, yn cael eu cadw ar gyfer cyflogaeth; a
d. ehangu’n briodol unrhyw gwmnïau a busnesau sy’n bodoli eisoes.
Bydd y Cynllun yn ceisio darparu ar gyfer anghenion y Sir o ran tai trwy’r dulliau canlynol:
a. darparu 7,400 o anheddau newydd yn ystod cyfnod y Cynllun;
b. dosbarthu tai newydd ledled y Sir ar sail hierarchaeth aneddiadau sy’n cynnwys categorïau A (canolfannau trefol), B (lled-drefol / prif bentrefi) ac C (pentrefi gwledig / bach);
c. darparu ystod o safleoedd tai o wahanol fathau a maint, gan gynnwys safleoedd allweddol yn y Fflint, yr Wyddgrug, Bwcle, Cei Connah, Pen-y-ffordd, Brychdyn a Mancot;
ch. darparu ystod o dai, gan gynnwys tai fforddiadwy a thai anghenion arbennig, pan fo angen y gellir ei ddangos; a
d. gwneud y defnydd mwyaf effeithlon ac effeithiol o safleoedd tai a’r stoc tai sy’n bodoli eisoes, a hwyluso’r broses o droi adeiladau sy’n bodoli eisoes yn dai lle bo hynny’n briodol.
Bydd y Cynllun yn ceisio cynnal a gwella bywiogrwydd, apêl a hyfywedd canol trefi, canolfannau ardal a chanolfannau lleol sy’n bodoli eisoes trwy:
a. fabwysiadu dull dilyniannol o leoli datblygiadau manwerthu newydd fel bod canol y dref, yna safleoedd ar gyrion y canol, ac yna canolfannau ardal / canolfannau lleol yn cael eu hystyried a’u diystyru cyn ystyried lleoliadau y tu allan i’r canolfannau hynny;
b. gwrthwynebu datblygiadau a fyddai’n niweidio bywiogrwydd, apêl a hyfywedd canolfannau cyfagos;
c. hwyluso ystod eang o gyfleusterau siopa, adloniant, trafnidiaeth a hamdden a chyfleusterau masnachol, cymunedol a diwylliannol priodol mewn canolfannau penodol, sy’n gymesur â’u maint a’u cymeriad;
ch. nodi safleoedd ar gyfer datblygiadau masnachol ym Mharc Manwerthu Brychdyn, Bwcle, Cei Connah, y Fflint a’r Wyddgrug;
d. defnyddio lloriau uchaf ar gyfer defnydd preswyl neu ddefnydd priodol arall; ac
dd. ceisio sicrhau gwelliannau amgylcheddol.
Bydd datblygiadau sy’n gwella twristiaeth yn y Sir yn cael eu caniatáu dan yr amodau canlynol:
a. bod anghenion ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd yn cael eu diwallu;
b. eu bod ar raddfa ac o’r math sy’n briodol i’r ardal leol; ac
c. lle bo hynny’n bosibl, eu bod naill ai’n cynorthwyo i adfywio tir llwyd neu adeiladau, neu’n cyfrannu at arallgyfeirio gwledig.
Bydd amgylchedd naturiol Sir y Fflint yn cael ei ddiogelu trwy’r dulliau canlynol:
a. gwarchod cymeriad agored a golwg y rhwystrau glas strategol o gwmpas aneddiadau a rhyngddynt;
b. gwarchod a gwella cymeriad, golwg a nodweddion cefn gwlad agored a’r arfordir sydd heb ei ddatblygu;
c. gwarchod a gwella ardaloedd, nodweddion a choridorau cadwraeth natur, bioamrywiaeth ac ansawdd y dirwedd mewn ardaloedd trefol a gwledig fel ei gilydd, gan gynnwys mannau gwyrdd trefol;
ch. gwarchod a gwella Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd;
d. gwarchod a gwella Aber Afon Dyfrdwy;
dd. gwarchod a gwella’r amgylchedd dŵr; ac
e. gwarchod ansawdd y tir, y pridd a’r aer.
Bydd amgylchedd adeiledig y Sir yn cael ei warchod a’i wella o safbwynt y canlynol:
a. lleoliad ac integriti amgylchedd hanesyddol y Sir, gan gynnwys adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth, archeoleg a thirweddau, parciau a gerddi hanesyddol; a
b. adfywio ardaloedd trwy wella, adnewyddu ac ailddatblygu tir llwyd ac adeiladau priodol, addas yn sensitif.
Dylai cynigion datblygu ystyried, a lle bo hynny’n briodol, atgyfnerthu’r iaith Gymraeg a hunaniaeth ddiwylliannol y gymuned a’r ardal.
Bydd yn ofynnol i ddatblygiadau wneud y defnydd gorau o adnoddau trwy:
a. ddefnyddio tir llwyd ac adeiladau addas, lle bynnag y bo hynny’n ymarferol, yn hytrach na thir glas neu dir y mae gwerth ecolegol neu amgylcheddol neu werth o ran hamdden yn perthyn iddo;
b. gwneud y defnydd mwyaf effeithlon ac ymarferol o adeiladau a thir o safbwynt dwysedd, lleoliad a chynllun;
c. tynnu a thrin adnoddau mwynol, gan gynnwys agregau eilaidd, ar yr amod nad ydynt yn cael effaith annerbyniol ar yr amgylchedd ac amwynder, a thrwy warchod adnoddau mwynol rhag datblygiadau er mwyn diogelu cyfraniad Sir y Fflint at gwrdd â’r galw rhanbarthol a chenedlaethol;
ch. lleihau’r adnoddau a’r gwastraff sy’n cael eu cynhyrchu, eu cludo a’u gwaredu yn unol â’r hierarchaeth rheoli gwastraff sy’n seiliedig ar leihau, ailddefnyddio ac adfer deunyddiau (gan gynnwys ailgylchu a chompostio), adennill ynni trwy wneud defnydd effeithiol o wres gwastraff, a gwaredu gwastraff yn ddiogel gan ddefnyddio’r egwyddor agosrwydd;
d. defnyddio dulliau glân, adnewyddadwy a chynaliadwy o gynhyrchu ynni lle bo hynny’n dderbyniol o ran yr amgylchedd, yn hytrach na chynhyrchu ynni anadnewyddadwy, a chynnwys mesurau effeithlonrwydd ynni a chadwraeth mewn datblygiadau newydd;
dd. gwarchod adnoddau dŵr; ac
e. lle bynnag y bo modd, defnyddio deunyddiau eilaidd ac wedi’u hailgylchu yn rhan o ddatblygiadau newydd.
Bydd anghenion y Sir o ran chwaraeon, hamdden ac adloniant yn cael eu diwallu trwy:
a. sicrhau bod cyfleusterau newydd ar raddfa ac o’r math sy’n briodol i’r ardal leol, ac yn achos cynigion datblygu mawr, bod dull dilyniannol o leoli safleoedd yn cael ei fabwysiadu fel bod canol trefi ac yna safleoedd ar gyrion y canolfannau’n cael eu hystyried a’u diystyru cyn ystyried safleoedd eraill;
b. atal datblygiadau a fyddai’n tanseilio swyddogaeth neu werth mannau gwyrdd dynodedig neu goridorau neu rwydweithiau gwyrdd sydd heb eu dynodi, oni bai fod mesurau lliniaru boddhaol yn gallu cael eu llunio;
c. sicrhau bod rhandiroedd, meysydd chwarae, ardaloedd chwarae ac ardaloedd hamdden anffurfiol sy’n bodoli eisoes, ynghyd â mannau agored eraill at ddibenion hamdden, yn cael eu cadw ar gyfer y defnydd hwnnw lle bo hynny’n angenrheidiol ac yn ymarferol;
ch. mynnu bod ardaloedd chwarae, a chyfleusterau eraill, yn cael eu darparu’n rhan o ddatblygiad preswyl newydd;
d. dyrannu safleoedd newydd ar gyfer ardaloedd chwarae awyr agored;
dd. gwarchod a gwella gwerth Coridor Aber Afon Dyfrdwy o safbwynt hamdden;
e. gwarchod a gwella hawliau tramwy cyhoeddus sy’n bodoli eisoes;
f. diogelu hen reilffyrdd nas defnyddir pan fo gobaith realistig o’u defnyddio mewn modd arall at ddibenion hamdden neu ddibenion sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth.