Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

2 Y Strategaeth

Cyflwyniad

2.1 Mae angen mwy o dai, swyddi, cyfleusterau a seilwaith ar Sir y Fflint o hyd. Ar yr un pryd, mae’r Cyngor yn hynod ymwybodol o’r angen i warchod a gwella treftadaeth ac amgylchedd adeiledig a naturiol Sir y Fflint. Mae asesu anghenion y gymuned yn golygu cysoni’r galwadau hyn, sy’n aml yn gwrthdaro, ac nid yw’n dasg hawdd o gwbl.

2.2 Mae’r polisïau a geir yn y Cynllun hwn yn ceisio dod o hyd i’r cydbwysedd hwn trwy strategaeth sydd wedi’i gosod o fewn canllawiau cynllunio cenedlaethol a rhanbarthol ac sy’n cynnwys nifer o themâu strategol y mae’r cysyniad o ddatblygu cynaliadwy yn greiddiol iddynt. Mae hynny’n llinyn cyson trwy’r Cynllun cyfan wrth ddiffinio’r strategaeth a chyfeiriad ar gyfer y Cynllun, a goblygiadau gofodol hynny.

2.3 Mae strategaeth glir Cynllun yn darparu’r fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi ac yn egluro sut y mae materion yn cydberthyn i’w gilydd. Mae’n sicrhau cysondeb yn y modd yr ymdrinnir â chynigion datblygu wrth iddynt godi yn ystod oes y Cynllun. At hynny, wrth nodi’n bendant set o nodau ac amcanion sydd wedi’u diffinio’n glir, gall strategaeth feithrin hyder defnyddwyr y Cynllun yn y Cynllun, a rhoi sylfaen eglur y gellir ei defnyddio i fesur perfformiad y Cynllun a’i wella dros amser.

 

Themâu’r Strategaeth

2.4 Bydd y CDU o gymorth i wneud Sir y Fflint yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo, gan gyfoethogi ansawdd bywyd ei phreswylwyr trwy wella eu lles cymdeithasol ac economaidd a chan sicrhau ar yr un pryd bod y dreftadaeth amgylcheddol a diwylliannol arbennig yn cael ei chadw ar gyfer y dyfodol.

2.5 Mae pedair prif thema wrth wraidd strategaeth y Cynllun, sydd gyda’i gilydd yn gosod agenda gyson i’r Cynllun ei dilyn:

2.6 Gyda’i gilydd, mae elfennau hanfodol y rhain wedi’u troi’n brif weledigaeth ar gyfer y Cynllun:

Meithrin datblygu cynaliadwy sy’n gallu gwella ansawdd bywyd yn Sir y Fflint heb achosi niwed cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol na niwed i adnoddau ar gyfer cenedlaethau’r presennol na’r dyfodol

2.7Mae cyfres o nodau strategol wedi’u diffinio sy’n cefnogi’r weledigaeth hon ac sy’n llunio’r fframwaith y mae’r polisïau yn y Cynllun hwn yn deillio ohono. Ceir tri nod swyddogaethol sy’n diffinio rôl a swyddogaeth y Cynllun o ran cynorthwyo i ddiwallu anghenion y gymuned a sicrhau canlyniadau cynaliadwy.

 

Nodau Strategol

a. economi – creu economi ffyniannus a chynaliadwy sy’n darparu ystod eang o gyfleoedd gwaith o safon ar gyfer pobl leol.

b. materion cymdeithasol a lles – sicrhau cyfle i’r holl drigolion lleol gael tai, gwasanaethau, siopau a chyfleusterau hamdden a chwaraeon o safon.

c. iechyd – hyrwyddo a hwyluso datblygu amgylchedd diogel ac iach.

ch. hunaniaeth gymunedol – gwarchod bywyd cymunedol trwy gyfyngu ar ddatblygu i lefel y gellir ei chynnal a’i chymhathu’n rhesymol mewn cymunedau sy’n bodoli eisoes.

d. amgylchedd naturiol – gwarchod a gwella’r amgylchedd naturiol a’i amrywiaeth – y dirwedd, cadwraeth natur a bioamrywiaeth.

dd. amgylchedd adeiledig – gwarchod, adfywio a gwella’r amgylchedd adeiledig a hanesyddol.

e. ynni – sefydlogi, ac yn y pen draw, lleihau’r defnydd o ynni anadnewyddadwy, a hybu ynni adnewyddadwy priodol.

f. adnoddau – gwneud y defnydd mwyaf doeth ac effeithlon o adnoddau, gan gynnwys tir ac adeiladau, a hybu’r defnydd o adnoddau wedi’u hailgylchu ac adnoddau eilaidd yn hytrach nag adnoddau sylfaenol.

ff. llygredd – sefydlogi, ac yn y pen draw, lleihau’r posibilrwydd o lygredd.

g. gwastraff – sefydlogi, ac yn y pen draw, lleihau’r gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu a’i waredu, trwy ddefnyddio mesurau rheoli gwastraff.

ng. diwylliant ac iaith – hyrwyddo a chefnogi diwylliant lleol amrywiol, gan gynnwys gwarchod a datblygu’r iaith Gymraeg.

h. trafnidiaeth a mynediad – integreiddio defnydd newydd o dir gyda’r rhwydwaith trafnidiaeth sy’n bodoli eisoes, a gwella hygyrchedd amryw fathau eraill o drafnidiaeth heblaw’r car, a hyrwyddo integreiddio gwahanol fathau o drafnidiaeth.

i. twristiaeth – hwyluso datblygu twristiaeth briodol sy’n diwallu anghenion ymwelwyr heb niweidio’r asedau naturiol a diwylliannol y mae twristiaeth yn seiliedig arnynt.

l. egwyddor agosrwydd – gweithredu’r egwyddor agosrwydd, sy’n golygu bod problemau’n cael eu datrys yn lleol yn hytrach na’u bod yn cael eu trosglwyddo i leoedd eraill neu i genedlaethau’r dyfodol.

ll. parch at derfynau amgylcheddol – sicrhau nad yw adnoddau’n cael eu dihysbyddu i’r graddau nad oes modd eu hadfer, neu nad yw’r amgylchedd yn cael ei ddifrodi i’r graddau nad oes modd dadwneud y difrod.

 

Nodau Swyddogaethol

  1. canllawiau – rhoi canllawiau eglur ynglŷn â’r modd y dylid defnyddio tir ac adeiladau yn y dyfodol a rheoli datblygu.
  2. rheoleiddio – darparu fframwaith rheoleiddio ar gyfer hyrwyddo safonau uchel wrth ddatblygu.
  3. cyfranogiad y cyhoedd – sicrhau bod anghenion a dyheadau priodol pobl leol yn cael eu hystyried wrth iddynt ddylanwadu ar eu hamgylchedd eu hunain drwy’r broses o lunio’r cynllun.

 

Strategaeth Ofodol

2.8 Hyd yn hyn, mae’r Strategaeth wedi cael ei chyfleu o safbwynt gweledigaeth, nodau strategol a themâu sylfaenol. Er hynny, mae hefyd yn angenrheidiol cyfleu’r egwyddorion cyffredinol hyn o safbwynt ‘gofodol’, h.y. sut y maent yn cael eu cyfleu ‘ar lawr gwlad’. Er y bydd rhai goblygiadau gofodol i’r mwyafrif o amcanion a pholisïau’r Cynllun, dim ond elfennau gofodol allweddol strategaeth y Cynllun o safbwynt ardaloedd twf ac ardaloedd lle dylid cyfyngu ar ddatblygu ac ati a gaiff eu nodi fel a ganlyn:

  1. creu patrwm anheddu cynaliadwy, sy’n golygu:
    a. y bydd y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd yn cael eu cyfeirio i’r prif drefi (aneddiadau categori A, sydd â band twf posibl dangosol o 10% - 20%) sydd â seilwaith, swyddi a gwasanaethau eisoes, yn amodol ar gyfyngiadau amgylcheddol a chyfyngiadau eraill.
    b. y bydd datblygiadau newydd yn cael eu cyfeirio i’r pentrefi lled-drefol hynny (aneddiadau categori B, sydd â band twf posibl o 8% - 15%) sydd â chyfleusterau, swyddi a gwasanaethau eisoes, yn amodol ar gyfyngiadau amgylcheddol a chyfyngiadau eraill.
    c. y bydd tai newydd yn cael eu cyfyngu mewn pentrefi gwledig (aneddiadau categori C, sydd â band twf posibl o 10% ar y mwyaf) oherwydd prinder cyffredinol y cyfleusterau, y swyddi a’r gwasanaethau sydd ganddynt eisoes, a phresenoldeb cyfyngiadau amgylcheddol a chyfyngiadau eraill.
  2. gwrthsefyll pwysau i ddatblygu’n wasgaredig ac yn ddiangen mewn ardaloedd o gefn gwlad agored, yn enwedig ar hyd coridor yr A55 (T) a’r arfordir sydd heb ei ddatblygu;
  3. mabwysiadu dull dilyniannol o nodi tir i’w ddatblygu, sy’n golygu bod adeiladau a thir diffaith a segur yn cael eu defnyddio yn hytrach na thir glas;
  4. hybu defnydd effeithlon o dir trwy wneud defnydd dwysach ohono, yn enwedig mewn lleoliadau sy’n agos i wasanaethau a llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus sy’n bodoli eisoes;
  5. gwarchod a gwella cymeriad ac ansawdd tirwedd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd;
  6. gwarchod a gwella ansawdd amgylcheddol y Sir yn gyffredinol o ran tirwedd, cadwraeth natur a bioamrywiaeth, yn ogystal â mannau gwyrdd pwysig mewn trefi a phentrefi;
  7. gwarchod a gwella’r agweddau hynny ar yr amgylchedd adeiledig sydd o bwysigrwydd pensaernïol neu hanesyddol, gan gynnwys adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth, archeoleg, a pharciau a gerddi hanesyddol;
  8. dynodi rhwystrau glas dim ond lle bo angen gwarchodaeth ychwanegol trwy bolisi i warchod cymeriad agored a golwg ardaloedd sensitif a strategol o dir a rhwystro aneddiadau rhag uno;
  9. hyrwyddo adfywio canol trefi a chanolfannau lleol / canolfannau ardal eraill sy’n cynnig ystod o gyfleoedd siopa, cyfleusterau cymunedol a chyfleoedd gwaith pob dydd;
  10. hyrwyddo adfywio aneddiadau a mannau adeiledig hŷn a rhai sydd wedi dirywio;
  11. cyfeirio gwaith datblygu cyflogaeth i safleoedd ac adeiladau sy’n bodoli eisoes ar gyfer cyflogaeth, dyrannu safleoedd newydd sydd â chysylltiad da â’r boblogaeth, y gwasanaethau a’r drafnidiaeth gyhoeddus sy’n bodoli eisoes, a hybu gwaith arallgyfeirio’r economi wledig;
  12. gwella’r prif goridorau trafnidiaeth trwy’r Sir, gan gynnwys rheilffyrdd Wrecsam-Bidston ac Arfordir Gogledd Cymru a’r A55(T), yr A494(T) a’r A548;
  13. lleoli’r datblygiadau sy’n creu’r galw mwyaf am deithio mewn canolfannau sy’n bodoli eisoes y gellir eu cyrraedd yn hawdd trwy ddulliau heblaw car preifat.

2.9 Ystyrir bod mynegiant gofodol strategaeth y Cynllun yn cynrychioli dull gweithredu cytbwys a synhwyrol sy’n ystyried nodweddion y Sir, canllawiau cynllunio cenedlaethol a rhanbarthol, a’r polisïau a’r ymrwymiadau a etifeddwyd o gynlluniau datblygu a chaniatadau cynllunio blaenorol. Wrth lunio’r strategaeth, rhoddwyd ystyriaeth fer i strategaethau gofodol amgen ond cafodd y rhain eu diystyru’n hawdd gan nad oeddent yn cyd-fynd â chanllawiau cynllunio cenedlaethol ac nad oeddent yn adlewyrchu, neu’u bod hyd yn oed yn niweidio, nodweddion y Sir. Er gwybodaeth, roedd y strategaethau amgen hynny’n cynnwys:

  1. lleoli pob datblygiad ar hyd coridorau trafnidiaeth gyhoeddus, h.y. rheilffyrdd Wrecsam – Bidston ac Arfordir Gogledd Cymru;
  2. gwasgaru datblygiadau’n gyfartal ar draws aneddiadau ar sail dehongliad caeth o fandiau twf yr aneddiadau;
  3. nodi anheddiad newydd ar goridor trafnidiaeth gyhoeddus;
  4. lleoli datblygiadau ar sail asesiad o gapasiti i ymdopi â datblygiadau newydd;
  5. cyfyngu datblygiadau i fannau lle byddent yn arwain at adfywio;
  6. cyfyngu datblygiadau i ardaloedd lle mae galw yn y farchnad.

2.10 Mae manteision ac anfanteision amlwg i bob opsiwn gofodol, a chaiff y rhain eu hegluro’n fwy manwl yn y papur cefndir ar arfarnu cynaliadwyedd, y gellir gwneud cais am gopi ohono. Mae’n amlwg mai’r opsiwn mwyaf cynaliadwy yw’r un sy’n seiliedig ar asesiad o gapasiti pob anheddiad neu ardal. Er hynny, os bwriedir sicrhau bod strategaeth ofodol y Cynllun yn un y gellir ei chyflawni, rhaid iddi hefyd gynnwys elfennau o adfywio, ystyried coridorau trafnidiaeth gyhoeddus a bodloni galw’r farchnad am dai a’r angen cymdeithasol am dai. Felly, mae’r Cynllun yn mabwysiadu dull gofodol cymysg o weithredu, yr ystyrir ei fod yn cynrychioli fframwaith cynaliadwy ar gyfer cyflawni a rheoli datblygu yn y Sir gydol cyfnod y Cynllun.


Key Diagram

Brig y dudalen