Flintshire County Council Logo
Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint 2000-2015
Mabwysiadwyd 28 Medi 2011

Yn ôl i'r Cynnwys | Bacia at Arweiniad

1 Cyflwyniad

Y Cynllun Datblygu Unedol – Sicrhau Dyfodol Cynaliadwy i Sir y Fflint

1.1

Mae Sir y Fflint mewn lleoliad unigryw ar y ffin yng nghornel ogledd-ddwyreiniol Cymru. Mae’n borth i ogledd Cymru ac mae’n chwarae rhan ganolog yn y modd y mae’r is-ranbarth yn gweithredu. Gydag amrywiaeth yn nodwedd iddi, mae Sir y Fflint yn ymfalchïo mewn ardal ddiwydiannol bwysig a ffyniannus, patrwm llewyrchus o aneddiadau sy’n cynnal poblogaeth sydd ar gynnydd, rhwydwaith trafnidiaeth effeithiol, ac ystod eang o dirweddau, amgylcheddau, cynefinoedd a rhywogaethau y mae rhai ohonynt o bwysigrwydd cydnabyddedig ar lefel ryngwladol.

1.2

Mae amrywiaeth o’r fath yn esgor ar bwysau sylweddol o wahanol fathau a all wrthdaro â’i gilydd – o blaid twf, ehangu a datblygu ar y naill law, ac o blaid cadwraeth, gwarchod a gwella ar y llaw arall. Mae gan y System Gynllunio, a Chynllun Datblygu Unedol (CDU) Sir y Fflint yn enwedig, rôl allweddol i’w chwarae o ran hwyluso’r cydbwysedd cywir er mwyn sicrhau bod unrhyw waith datblygu sy’n mynd rhagddo yn cael ei gyflawni mewn modd cynaliadwy sy’n gwneud y gorau o natur ac ansawdd y datblygiad, ac sy’n lleihau ei effaith negyddol.

1.3

Mae’r CDU yn darparu’r fframwaith strategol a manwl ar gyfer cynllunio defnydd tir yn y Sir hyd at y flwyddyn 2015. Mae’n ddogfen bwysig a fydd o gymorth i lunio dyfodol Sir y Fflint yn ffisegol ac yn amgylcheddol, ac a fydd hefyd yn dylanwadu arno o safbwynt economaidd a chymdeithasol.


Y Fframwaith Cynllunio yn Sir y Fflint

1.4

Y ddogfen hon yw fersiwn ‘fabwysiedig’ CDU Sir y Fflint ar gyfer y cyfnod o 15 mlynedd o 2000 i 2015. Nod y Cynllun yw darparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau rhesymegol a chyson ar geisiadau cynllunio, ac arwain gwaith datblygu i leoliadau priodol. Mae paratoi’r Cynllun wedi sicrhau bod pobl leol, busnesau ac eraill sydd â diddordeb yn y Sir yn cael cyfle i lunio cymunedau ac amgylchedd y dyfodol. Mae’n nodi tir ar gyfer tai newydd, cyflogaeth, manwerthu a dulliau eraill o ddatblygu. Mae hefyd yn nodi polisïau cyffredinol ar gyfer rheoli datblygiadau newydd, rheoli newidiadau yn y modd y caiff tir neu adeiladau eu defnyddio, a gwarchod yr amgylchedd rhag newidiadau ansensitif. Mae’r Cynllun hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer sicrhau datblygu cynaliadwy.

1.5 Mae’r Cynllun wedi’i lunio yng ngoleuni polisïau cynllunio cenedlaethol a rhanbarthol a pholisïau cyrff cyhoeddus allweddol eraill megis Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae hefyd yn ystyried cynlluniau a strategaethau eraill a luniwyd gan y Cyngor, gan gynnwys y Strategaeth Cefn Gwlad, y Cynllun Trafnidiaeth Lleol, y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, y Strategaeth Adfywio a’r Strategaeth Dai Leol, ac mae’n gyson â Strategaeth Gymunedol y Cyngor.

1.6 Caiff pwrpas cynllunio gwlad a thref ei grynhoi ym mharagraff 1.2.1 Polisi Cynllunio Cymru (Chwefror 2011): “Mae’r system gynllunio yn rheoleiddio datblygu a defnyddio tir er budd y cyhoedd. Dylai gysoni anghenion datblygu a chadwraeth, a sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac amwynder yn y defnydd a wneir o dir, yn ogystal â diogelu adnoddau naturiol a’r amgylchedd hanesyddol. Mae system gynllunio sy’n gweithio’n dda yn sylfaenol bwysig i ddatblygu cynaliadwy.”

1.7 Dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, roedd yn ofynnol i bob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru baratoi Cynllun Datblygu Unedol (CDU) ar gyfer ei ardal weinyddol. Mae’r gofyniad hwn yn allweddol i’r system gynllunio gyfredol ‘dan arweiniad y cynllun’, fel yr eglurir ym mharagraff 2.1.2 Polisi Cynllunio Cymru (Chwefror 2011): Dylai CDUau “fod yn sylfaen gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau rhesymegol a chyson ar geisiadau ac apelau cynllunio. Mae Adran 38(6) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn ei gwneud yn ofynnol, lle mae angen rhoi sylw i’r cynllun datblygu at ddiben unrhyw benderfyniad sydd angen ei wneud o dan y Deddfau Cynllunio, bod yn rhaid gwneud y penderfyniad yn unol â’r cynllun oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn awgrymu fel arall. I’r gwrthwyneb i hynny, ni ddylid caniatáu ceisiadau nad ydynt yn gyson â pholisïau perthnasol yn y cynllun oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn cyfiawnhau rhoi caniatâd cynllunio.” Yn ôl Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, rhaid i bob awdurdod yng Nghymru baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer ei ardal. Fodd bynnag, dan drefniadau pontio, mae’r Cyngor wedi symud y CDU yn ei flaen i’w fabwysiadu, cyn dechrau ar y gwaith o baratoi CDLl.

1.8 Bydd y mwyafrif o bobl yn dod i gysylltiad â’r system gynllunio pan fyddant yn cyflwyno cais cynllunio neu’n ceisio gwrthwynebu cais cynllunio. Fodd bynnag, gan y bydd ceisiadau cynllunio o’r fath yn cael eu penderfynu ar sail y CDU, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r polisïau a’r cynigion sydd yn y CDU.

 

Cynlluniau Datblygu sy’n Bodoli Eisoes yn Sir y Fflint

1.9 Cyn ad-drefnu llywodraeth leol ym mis Ebrill 1996, roedd system dwy haen ar waith ar gyfer cynlluniau datblygu. Roedd Cynghorau Sir yn paratoi Cynlluniau Fframwaith a oedd yn strategol eu natur, tra byddai Cynghorau Dosbarth neu Fwrdeistref yn cynhyrchu Cynlluniau Lleol mwy manwl. Mae’r CDU mabwysiedig yn disodli’r cynlluniau datblygu canlynol yn Sir y Fflint:

Teitl y Cynllun
#

Cyfnod y Cynllun
#

Statws
#

Cyngor Sir Clwyd

Cynllun Fframwaith, Addasiad Cyntaf

1986 - 1996

Mabwysiadwyd 1991

Cynllun Fframwaith, Ail Addasiad (Argraffiad Sir y Fflint)

1996 - 2011

Camau’r drafft adneuo (Ebrill 1995) a’r Newidiadau Arfaethedig (Ion. 1996) yn cael eu gweithredu gan Gyngor Sir Clwyd. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol, cawsant eu cymeradwyo gan Gyngor Sir y Fflint fel dogfen anffurfiol i’w defnyddio i reoli datblygu, ym mis Ionawr 1997.

Cyngor Bwrdeistref Delyn

Cynllun Lleol Delyn

1986-1996

Mabwysiadwyd 1993

Cynllun Lleol Gogledd Sir y Fflint

1996 - 2006

Adolygiad drafft anffurfiol o Gynllun Lleol Delyn a oedd yn destun dau ymgynghoriad cyhoeddus cyn i Gyngor Sir y Fflint ei gymeradwyo i’w ddefnyddio i reoli datblygu, ym mis Tachwedd 1998.

Cyngor Dosbarth Alun a Glannau Dyfrdwy

Cynllun Lleol Alun a Glannau Dyfrdwy

1993 - 2003

Mabwysiadwyd Ebrill 2003

1.10Gan fod y CDU bellach wedi’i fabwysiadu’n ffurfiol, hwn yw’r cynllun datblygu ar gyfer dibenion Adran 54A (h.y. y cynllun datblygu yw’r brif ystyriaeth wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio). Mae’r CDU yn disodli’r cynlluniau datblygu a fabwysiadwyd yn flaenorol, h.y. Addasiad Cyntaf Cynllun Fframwaith Clwyd, Cynllun Lleol Delyn, a Chynllun Lleol Alun a Glannau Dyfrdwy, yn ogystal â’r cynlluniau ‘a gymeradwywyd yn anffurfiol’.


Cyd-destun Gofodol Sir y Fflint

1.11Mae Sir y Fflint, yng nghornel ogledd-ddwyreiniol Cymru, yn un o’r chwe awdurdod unedol sydd yng ngogledd Cymru, a hi sydd â’r boblogaeth fwyaf (148,600). O ganlyniad i’w lleoliad ar y ffin â Lloegr, effeithir arni gan weithgareddau economaidd-gymdeithasol rhanbarth Gogledd-orllewin Lloegr, sydd â’r ail boblogaeth fwyaf yn Lloegr y tu allan i’r De-ddwyrain. Mae’r rhan fwyaf o’r datblygiadau trefol yn yr ardaloedd arfordirol ar Aber Afon Dyfrdwy, sydd wedi bod yn lleoliad traddodiadol ar gyfer datblygiadau diwydiannol. O ganlyniad i ehangu Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, mae’r Sir wedi dod yn ganolbwynt pwysig o safbwynt cynhyrchu swyddi yn yr is-ranbarth. Ac eithrio’r llain arfordirol drefol, mae’r Sir yn wledig ei natur yn bennaf, gyda phatrwm o aneddiadau gwasgaredig sy’n cynnwys trefi marchnad a chymunedau pentrefol mewn ardaloedd gwledig bryniog, atyniadol. Gan ystyried lleoliad unigryw Sir y Fflint, mae’r gwaith o baratoi’r Cynllun wedi rhoi sylw i Ganllawiau Cynllunio Rhanbarthol Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.

 

Y Broses o Gynhyrchu’r CDU

1.12Caiff y broses o baratoi CDU ei rheoli gan gyfraith a rheoliadau cynllunio sy’n pennu’r camau a’r gweithdrefnau amrywiol sydd i’w dilyn. Gellir rhannu’r broses baratoi yn gamau pendant fel a ganlyn:

1.13 Drafft Ymgynghori – Cyn i’r Cynllun gael ei adneuo, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gynnal cyfnod ymgynghori cyn-adneuo. Dan y rheoliadau, mae’n ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol ymgynghori â rhai cyrff penodol. Fodd bynnag, yr awdurdod sydd i benderfynu ar y ffordd y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal, â phwy arall y dylid ymgynghori a faint o gyhoeddusrwydd y dylid ei roi i’w gynigion. Paratôdd y Cyngor ddrafft ymgynghori cyn-adneuo o’r CDU, a oedd ar ffurf dogfen materion strategol yn hytrach na chynllun manwl gyda mapiau cynigion. Y bwriad oedd ceisio consensws eang ynghylch y materion, y strategaeth a’r ffordd ymlaen er mwyn cael sylfaen ar gyfer llunio polisïau a chynigion manwl, yn hytrach na chael gwrthwynebiadau oedd yn canolbwyntio ar gynigion ar gyfer safleoedd penodol. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd eang i’r Cynllun am gyfnod o 6 wythnos gan ddechrau ym mis Mai 2000, ac mae manylion llawn y trefniadau ar gyfer cyhoeddusrwydd ac ymgynghori i’w gweld mewn papur cefndir ar wahân, sef Datganiad o gyhoeddusrwydd ac ymgynghori cyn-adneuo.

1.14 Yn dilyn yr ymarfer ymgynghori ynghylch y drafft cyn-adneuo, cyflwynwyd adroddiad am y sylwadau a wnaed ar y Cynllun i Banel Cynlluniau Datblygu’r Cyngor ar 11 Ebrill 2001. Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o’r holl sylwadau, ymatebion ac argymhellion ynghylch p’un a ddylid newid y Cynllun. Lluniwyd fersiwn fanwl o’r Cynllun, oedd yn cynnwys polisïau a chynigion, a chytunodd y Cyngor ar 27 Mai 2003 y dylid ei adneuo’n gyhoeddus.

1.15 Drafft Adneuo – Cafodd y Cynllun ei ‘adneuo’ am gyfnod o 6 wythnos rhwng 29 Medi a 10 Tachwedd 2003 er mwyn i aelodau’r cyhoedd, ymgyngoreion statudol a phawb arall oedd â diddordeb yn y Cynllun allu cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i fynegi gwrthwynebiad neu gefnogaeth. Cafodd dros 17,000 o sylwadau a oedd yn mynegi gwrthwynebiad a chefnogaeth eu cyflwyno gan oddeutu 7,000 o gyflwynwyr sylwadau, a chawsant eu hystyried gan y Cyngor mewn cyfres o Baneli Cynlluniau Datblygu. Paratowyd adroddiad ar gyfer Pwyllgor Gweithredol y Cyngor ar 3 Hydref 2006 i bennu ymateb y Cyngor i bob gwrthwynebiad a gyflwynwyd, ynghyd â rhestr gysylltiedig o Newidiadau Arfaethedig. Cafodd y rhain eu cymeradwyo gan y Cyngor Sir ar 17 Hydref 2006.

1.16 Newidiadau Arfaethedig – Arweiniodd y gwrthwynebiadau hynny yr oedd y Cyngor yn cytuno â nhw at wneud newidiadau i’r Cynllun. Gelwir y rhain yn Newidiadau Arfaethedig neu’n Newidiadau Cyn-ymchwiliad. Er nad yw’n gam statudol yn y broses o lunio cynllun, cyhoeddodd y Cyngor ei Newidiadau Arfaethedig er mwyn ymgynghori â’r cyhoedd yn eu cylch am gyfnod o 6 wythnos rhwng 3 Tachwedd a 15 Rhagfyr 2006 er mwyn i sylwadau gael eu cyflwyno. Dim ond sylwadau mewn perthynas â’r Newidiadau Arfaethedig ac nid â chynnwys y Cynllun Adneuo gwreiddiol a dderbyniwyd gan y Cyngor. Roedd y Newidiadau Arfaethedig yn caniatáu i’r gwrthwynebydd gwreiddiol dynnu ei wrthwynebiad yn ôl ‘yn amodol’, ond arweiniodd hefyd at wrthwynebiadau i wrthwynebiadau. Ar 15 Mai, rhoddwyd adroddiad i’r Pwyllgor Gweithredol am ymatebion y Cyngor i’r sylwadau a gyflwynwyd ac am restr o Newidiadau Arfaethedig Pellach. Fe’u cymeradwywyd gan y Cyngor Sir ar 22 Mai 2007. Trefnodd y Cyngor fod y Newidiadau Arfaethedig Pellach ar gael yn ystod mis Mai, mis Mehefin a mis Gorffennaf.

1.17 Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus – Cynhaliwyd yr ymchwiliad lleol cyhoeddus gan ddau arolygwr annibynnol a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Agorwyd yr Ymchwiliad ar 18 Medi 2007 a chynhaliwyd sesiynau llafar hyd at 19 Rhagfyr 2007. Caewyd yr Ymchwiliad yn swyddogol ar 4 Awst 2008, ar ôl cwblhau Proflenni’r holl sylwadau ysgrifenedig. Roedd gwrthwynebiadau a gyflwynwyd ar lafar yn ystod yr Ymchwiliad neu sylwadau ysgrifenedig yr un mor bwysig â’i gilydd. Yna, paratôdd yr Arolygwr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor ar 15 Mai 2009, a oedd yn cynnwys argymhelliad ynghylch pob gwrthwynebiad. Trefnodd y Cyngor fod Adroddiad yr Arolygwr ar gael i’r cyhoedd ar 26 Mai 2009, ar ôl ei wirio i chwilio am gamgymeriadau, achosion o hepgor gwybodaeth a phwyntiau yr oedd angen eu hesbonio. Er nad yw’r Cyngor dan unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i dderbyn argymhelliad yr Arolygwr, rhaid iddo roi rhesymau eglur i ddangos pam nad yw argymhelliad yr Arolygwr yn cael ei dderbyn. Rhoddwyd adroddiad am Ddatganiad y Cyngor o’i Benderfyniadau a’i Resymau ar Adroddiad yr Arolygwr a’i restr gysylltiedig o Addasiadau Arfaethedig i Bwyllgor Gweithredol Arbennig ar 14 Gorffennaf 2009, ac fe’u cymeradwywyd gan y Cyngor Sir ar 14 Gorffennaf 2009.

1.18 Addasiadau Arfaethedig – Cafodd y Newidiadau Arfaethedig hynny a ddygwyd ymlaen i fersiwn derfynol y Cynllun, neu argymhellion yr Arolygwr a arweiniodd at newidiadau ychwanegol i’r Cynllun, eu grwpio ynghyd fel ‘Addasiadau Arfaethedig’ a adneuwyd yn gyhoeddus am gyfnod ymgynghori pellach o 6 wythnos rhwng 21 Medi 2009 a 2 Tachwedd 2009. Yn ystod y cam hwn, dim ond at yr Addasiadau Arfaethedig ac nid at gynnwys y Cynllun Adneuo gwreiddiol y gallai’r sylwadau gyfeirio. Rhoddwyd adroddiad i’r Pwyllgor Gweithredol am ymatebion y Cyngor i’r sylwadau ar yr Addasiadau Arfaethedig, ac fe’u cymeradwywyd gan y Cyngor ar 9 Mawrth 2010. Penderfynodd y Cyngor gymeradwyo’r Cynllun mewn egwyddor, ond roedd ganddo bryderon o hyd ynglŷn â nifer o ddyraniadau a pholisïau tai. Felly, cytunwyd y gallai Aelodau gyflwyno sylwadau i’r Pennaeth Cynllunio er mwyn mynegi eu pryderon (a phryderon y gymuned). Sefydlwyd Panel Cynlluniau Datblygu, a bu’n ystyried sylwadau ysgrifenedig gan 16 Aelod. Rhoddwyd adroddiad i’r Cyngor Llawn am argymhellion y Panel, ac fe’u derbyniwyd gan y Cyngor Llawn ar 11 Tachwedd 2010. O ganlyniad, roedd angen dirymu’r dyraniadau tai yn Ash Lane, Mancot ac i’r gorllewin o Wrexham Road, Abermor-ddu, ac roedd angen cyfyngu’r dyraniad tai i’r de o’r parc manwerthu ym Mrychdyn i 25 annedd yr hectar.

1.19 Datganiad Pellach o Benderfyniadau ac Addasiadau Arfaethedig Pellach – Cyhoeddodd y Cyngor newidiadau ‘penodol’ pellach mewn perthynas â’r tri safle, ar ffurf Datganiad Pellach o Benderfyniadau ar Adroddiad yr Arolygwr ac Addasiadau Arfaethedig Pellach i ymgynghori yn eu cylch am chwe wythnos rhwng 28 Ionawr 2011 ac 11 Mawrth 2011. Cyflwynwyd adroddiad i Banel Cynlluniau Datblygu, a oedd yn nodi’r sylwadau a gafwyd ynghyd ag ymateb y Swyddogion, ac fe’i derbyniwyd ganddo. Yn dilyn hynny, cafodd yr adroddiad ei gymeradwyo gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 28 Medi 2011.

1.20 Mabwysiadu – Mabwysiadodd y Cyngor y Cynllun yn ei gyfarfod ar 28 Medi 2011, a daeth y Cynllun yn weithredol ar y dyddiad hwnnw. Cafodd Rhybudd o Fwriad i Fabwysiadu ei gyhoeddi ar 13 Hydref 2011, a oedd yn datgan bod gan unrhyw un a dybiai ei fod yn cael cam 6 wythnos o’r dyddiad hwnnw i wneud cais i’r Uchel Lys i ddileu’r Cynllun neu rannau o’r Cynllun. Ni chyflwynwyd unrhyw heriau cyfreithiol o’r fath.

 

Gweledigaeth gyffredinol ar gyfer Sir y Fflint – gwneud y Sir yn well lle

1.21 Mae blaenoriaethau allweddol Cyngor Sir y Fflint ar gyfer ei ardal wedi’u mynegi yn y Cynllun Gwella Blynyddol. Thema ganolog y blaenoriaethau hyn yw datblygu cynaliadwy, sef datblygu sy’n bodloni anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Mae pedwar amcan allweddol yn datgan sut y gellir sicrhau cydbwysedd o’r fath:

1.22 Mae gan y system cynllunio defnydd tir rôl allweddol i’w chwarae o ran sicrhau dyfodol cynaliadwy, ac mae cynhyrchu’r CDU yn fynegiant pwysig o’r modd y cyflawnir hynny.

1.23 Bydd y CDU hefyd yn gweithio law yn llaw â chynlluniau a strategaethau corfforaethol eraill i sicrhau canlyniadau cynaliadwy. Mae nifer o’r strategaethau hyn yn rhannu agenda gynaliadwyedd gyffredin, ac yn yr un modd mae gan bob un ohonynt rôl i’w chwarae a pherthynas i’w chynnal â’r Strategaeth Gymunedol sydd ar y gweill gan y Cyngor. Mae rhai o’r strategaethau allweddol hyn yn cynnwys (gweler ffigur 1):

1.24 Bydd y CDU, ar y cyd â’r strategaethau ategol hyn, yn ymdrechu i wireddu cyfres o egwyddorion cyffredin:

 

Ffigur 1

 

Datblygu cynaliadwy
Gwarchod yr amgylchedd yn effeithiol
Cydnabod anghenion pawb
Defnyddio adnoddau naturiol yn ddoeth
Cynnal lefelau uchel a sefydlog o dwf economaidd

 

Gweledigaeth Gyffredinol ar gyfer Sir y Fflint
Strategaeth Gymunedol
Cynllun Trafnidiaeth Lleol
Strategaeth Cefn Gwlad
CDU (Cynllun Datblygu Unedol)
Strategaeth Datblygu Economaidd
Strategaeth Dai
Cynlluniau / Strategaethau Eraill

1.25 Mae Strategaeth Gymunedol Sir y Fflint, a gymeradwywyd ym mis Mehefin 2004, yn ceisio datblygu gweledigaeth gytûn rhwng partneriaeth o ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus a chymuned Sir y Fflint ar gyfer y cyfnod rhwng 2004 a 2020. Mae’r strategaeth gymeradwy yn ddogfen ‘fyw’ sy’n cynnwys cynlluniau gweithredu treigl 4 blynedd i gyflawni’r blaenoriaethau gwasanaeth y cytunwyd arnynt, yn ogystal ag adolygiad blynyddol a phroses adrodd yn ôl i’r gymuned a phartneriaid. Mae’r strategaeth yn ceisio gwireddu nifer o themâu allweddol: cymunedau sy’n dysgu ac sy’n greadigol; cymunedau iach a gofalgar; cymunedau gweithgar; cymunedau diogel; a chymunedau ffyniannus a modern. Mae’n ceisio gwneud hynny trwy weithredu nifer o egwyddorion craidd, sef cynaliadwyedd, cynhwysiant cymdeithasol, cyfle cyfartal a’r iaith Gymraeg.

1.26 Bydd gan y CDU, fel pob cynllun a strategaeth gorfforaethol arall, rôl i’w chwarae o ran cefnogi a chyflawni’r Strategaeth Gymunedol. Fodd bynnag, bydd gan y CDU rôl ofodol benodol i’w chwarae mewn perthynas â’r Strategaeth Gymunedol gan fod y rhan fwyaf o’r newid a’r datblygu ffisegol sy’n digwydd yng nghymunedau Sir y Fflint naill ai’n ganlyniad uniongyrchol i gynigion yn y CDU neu’n cael eu harwain a’u rheoli gan ei bolisïau.

1.27 Mae nodau strategol y CDU yn cwmpasu ystod eang o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n ymwneud â chymunedau Sir y Fflint, ac mae’r rhain yn gydnaws â themâu’r Strategaeth Gymunedol. Cynaliadwyedd a chynhwysiant cymdeithasol yw dwy o’r pedair prif thema sy’n sail i’r CDU, ac sy’n mynd at wraidd y Cynllun a’i bolisïau.

1.28 Mae proses y CDU wedi cynnwys y gymuned yn ystod nifer o gamau allweddol, yn enwedig trwy ei strategaeth ymgynghori a’r ymchwiliad cyhoeddus i’r Cynllun. Dim ond trwy ymgysylltu’n effeithiol â’r gymuned y bydd modd datblygu a gweithredu’r Strategaeth Gymunedol yn llwyddiannus, a bydd y modd y mae’r CDU wedi ymwneud â’r gymuned wrth iddo gael ei ddatblygu yn cyfrannu at broses ymgysylltu’r Strategaeth Gymunedol.

 

Y Cynllun hwn

1.29 Mae’r Cynllun yn cynnwys dwy ddogfen, sef y datganiad ysgrifenedig a’r map cynigion:

1.30 Datganiad Ysgrifenedig – Mae’r datganiad ysgrifenedig yn cynnwys ‘Rhan I’ strategol sy’n cynnwys amcanion, strategaeth a pholisïau defnydd tir strategol y Cynllun. Mae’r fframwaith cyffredinol hwn yn darparu’r sylfaen ar gyfer y polisïau manwl a’r cynigion ar gyfer safleoedd penodol a nodir yn ‘Rhan II’ y Cynllun. Mae Rhan II y Cynllun wedi’i rhannu’n gyfres o benodau sy’n seiliedig ar bynciau. Ar gyfer pob pennod rhoddir crynodeb cyffredinol o strategaeth y Cynllun, y materion polisi, a chanllawiau cynllunio cenedlaethol a rhanbarthol perthnasol. Rhagflaenir pob pennod gan dabl sy’n amlinellu’r fframwaith monitro fel y mae’n berthnasol i’r pwnc dan sylw. Mae’r fframwaith hwn yn amlinellu pa nodau strategol sydd fwyaf perthnasol i’r pwnc, set o amcanion polisi a drosir i’r rhestr o bolisïau ar gyfer y pwnc dan sylw, a chyfres o ddangosyddion polisi i fonitro’r modd y gweithredir y Cynllun. Mae naw targed strategol wedi’u diffinio sy’n ymdrin â meysydd allweddol y Cynllun. Nid oes targedau wedi’u nodi ar gyfer pob pwnc, ond ceir dangosyddion ar gyfer pob un o feysydd y Cynllun fel y gellir monitro a rheoli’r modd y caiff y Cynllun ei weithredu, a byddant yn sail i adolygiadau dilynol o’r Cynllun.

1.31 Mae pob pennod yn cynnwys nifer o bolisïau a nodir fel a ganlyn:

1.32 Bydd croesgyfeirio polisïau allweddol mewn mannau eraill yn y Cynllun yn cael ei gyfyngu i’r rhai hynny sy’n gwbl angenrheidiol er mwyn deall yn llawn y materion sy’n berthnasol i’r datblygiad arfaethedig. Bydd nifer o bolisïau eraill mwy cyffredinol neu bolisïau manwl tebyg i’r rhai ar gyfer rheoli datblygu hefyd yn berthnasol, ond cânt eu hepgor er mwyn osgoi ailadrodd diangen. Rhaid pwysleisio y dylid darllen y Cynllun fel cyfanwaith ac na ddylid ystyried polisïau ar eu pen eu hunain.

1.33 Mae nifer o’r polisïau yn y Cynllun yn cynnwys sawl maen prawf y bydd angen i gynigion datblygu eu bodloni os ydynt am fod yn dderbyniol o safbwynt polisïau cynllunio. Mewn achosion lle mae’n rhaid bodloni’r holl feini prawf, bydd y gair ‘ac’ neu ‘a’ o flaen y meini prawf terfynol. Mewn polisïau lle caiff ystod o ddewisiadau eu cynnig, a dim ond un maen prawf y mae angen ei fodloni, bydd y gair ‘neu’ o flaen pob maen prawf.

1.34 Map Cynigion – Mae nifer o bolisïau’r Cynllun yn ymwneud ag ardaloedd daearyddol megis rhwystrau glas a dynodiadau tirwedd. Mae polisïau eraill yn ymwneud â nodweddion penodol, megis y rhai sydd mewn prif ffryntiadau siopau. Bydd cynigion y Cynllun yn ymwneud â dyrannu safleoedd neu dir penodol ar gyfer datblygiadau megis datblygiadau tai, cyflogaeth neu seilwaith megis gwaith gwella ffyrdd. Dangosir y dynodiadau neu’r dyraniadau hyn ar sail map er mwyn adlewyrchu sut y maent yn ymddangos ‘ar lawr gwlad’. Mae’r Map Cynigion mewn llyfr ar wahân ac mae’n cynnwys y canlynol:

 

Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Arfarniad Cynaliadwyedd

1.35 Bellach, mae arfarnu strategaethau, polisïau a chynigion yn rhan annatod o’r broses o lunio Cynlluniau. Mae ‘arfarniad cynaliadwyedd’ yn cydnabod bod a wnelo cynaliadwyedd â mwy na’r amgylchedd yn unig, a bod a wnelo hefyd ag adnoddau, yr economi ac ystyriaethau cymdeithasol a diwylliannol sydd i gyd yn cyfrannu at ansawdd bywyd a ffordd o fyw.

1.36 Prif bwrpas yr arfarniad yw sicrhau bod y Cynllun yn gweithio tuag at wireddu datblygu cynaliadwy trwy fabwysiadu dull mwy cyfannol o weithredu. Fodd bynnag, ni all y Cynllun ar ei ben ei hun sicrhau ffordd gynaliadwy o fyw; yr unig beth y gall ei wneud yw ceisio gosod y sylfeini trwy ei bwerau cynllunio defnydd tir. Rhaid i gamau gweithredu asiantaethau cyhoeddus eraill, busnesau a’r cyhoedd gefnogi’r fframwaith a ddarperir gan y Cynllun.

1.37 Mae arfarniad y Cynllun wedi dilyn yn fanwl y canllawiau a geir yng Nghanllaw Arfer Da Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae wedi cynnwys y camau allweddol canlynol:

1.38 Wrth ystyried y sylwadau adneuo, daeth yn amlwg i’r Cyngor na ellid mabwysiadu’r Cynllun cyn i ofynion Cyfarwyddeb Asesu Amgylcheddol Strategol yr UE ddod i rym ym mis Gorffennaf 2006. Er mwyn bodloni gofyniad y Gyfarwyddeb am Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) o’r Cynllun, cyflogodd y Cyngor ymgynghorwyr arbenigol i gyflawni AAS ‘ôl-weithredol’, a gyfunwyd ag adolygiad a diweddariad o’r Arfarniad Cynaliadwyedd (AC) cynharach. Nod AAS yw darparu ar gyfer gwarchod yr amgylchedd i raddau helaeth a chyfrannu at integreiddio ystyriaethau amgylcheddol wrth baratoi a mabwysiadu cynlluniau a rhaglenni gyda’r bwriad o hyrwyddo datblygu cynaliadwy (Erthygl 1 Cyfarwyddeb AAS).

1.39 Cafodd yr AAS / AC cyfun ei gyhoeddi mewn adroddiad amgylcheddol, Adroddiad Cynaliadwyedd, a arweiniodd at nifer o welliannau i’r Cynllun a gafodd eu bwydo i mewn i’r broses o gyhoeddi’r Newidiadau Arfaethedig Cyn-ymchwiliad. Cafodd yr AAS / AC ei ddiweddaru, ac unwaith eto, arweiniodd at ragor o newidiadau i’r Cynllun ar ffurf Newidiadau Arfaethedig Pellach. Bu’r ymgynghorwyr hefyd yn gyfrifol am Sgrinio’r Cynllun mewn perthynas â Rheoliad 48 Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol ...) 1994 i benderfynu a fyddai’r Cynllun yn cael effeithiau andwyol sylweddol ar unrhyw safleoedd Ramsar a Natura 2000. Mae Datganiad Ôl-fabwysiadu, sy’n crynhoi’r broses AAS/ AC, yn cyd-fynd â chyhoeddi’r Cynllun mabwysiedig. Mae’r holl ddogfennau sy’n ymwneud â’r AAS / AC a’r Sgrinio ar gael fel dogfennau ar wahân.

 

Cysylltu

1.40 Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r Cynllun at linell gymorth y CDU, naill ai drwy e-bost i’r cyfeiriad canlynol developmentplans@flintshire.gov.uk neu drwy ffonio 01352 703212.

Yr Adran Strategaeth Gynllunio,
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd,
Cyngor Sir y Fflint,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug,
CH7 6NF

Brig y dudalen