Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin

Atodiad 3 - Canllawiau Cynllunio Atodol

Bernir bod digon o bolisïau a chynigion yn y CDLl hwn i roi’r sail i benderfynu ar geisiadau cynllunio ynghyd ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y caniatadau hynny (Cynlluniau Datblygu Lleol: Cymru – Paragraff 5.1). Lle bo’n angenrheidiol ac yn briodol, bydd y Cyngor yn defnyddio’r Canllawiau i nodi canllawiau safle benodol neu thematig mwy manwl ar sut y caiff polisïau’r CDLl eu rhoi ar waith. Er nad ydynt yn rhan o’r cynllun datblygu, bydd Canllawiau Cynllunio Atodol o’r fath yn gyson â’r CDLl. Er gwybodaeth, gall y Canllawiau gynnwys canllawiau ar amrywiaeth o bynciau penodol a gellir eu paratoi ar nifer o wahanol ffurfiau, o ganllawiau safle benodol, canllawiau dylunio ac ati hyd at ddatganiadau polisi manwl.

Pan fo Canllawiau Cynllunio Atodol i gael eu paratoi, byddant yn destun ymgynghoriad ffurfiol cyn cael eu mabwysiadu. Bydd datganiad ymgynghori a manylion sylwadau a gafwyd yn cael eu cyhoeddi gyda’r Canllawiau a gymeradwywyd.

Mae’r canlynol yn nodi’r ymrwymiadau i’r Canllawiau Cynllunio Atodol a nodwyd yn y CDLl Adneuo hwn. Mae hefyd yn rhoi amserlen ddangosol ar gyfer eu paratoi. Lle bo’n briodol, caiff yr amserlen ei hadolygu yn sgil newid mewn blaenoriaeth, gofyniad i’w pharatoi yn gynt ac i adlewyrchu materion ac ystyriaethau a ddaw i’r amlwg. Hefyd gellir canfod gofynion ychwanegol ar gyfer Canllawiau Cynllunio Atodol ar ben yr hyn a geir yn y rhestr isod yn ystod cyfnod y cynllun.

Canllawiau Cynllunio Atodol Dyddiad Dangosol i’w Cynhyrchu
Tai Fforddiadwy Mabwysiadwyd
Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr Mabwysiadwyd
Iaith Gymraeg Mabwysiadwyd
Rhwymedigaethau Cynllunio Mabwysiadwyd
Addasu ac Ailddefnyddio Adeiladau mewn Ardaloedd Gwledig ar gyfer Datblygiadau Preswyl Mabwysiadwyd
Dylunio Cyn pen 5 mis ar ôl mabwysiadu
SDCau Cyn pen 5 mis ar ôl mabwysiadu
Safle Rheoli Gwastraff Nant-y-caws Cyn pen 5 mis ar ôl mabwysiadu
Canllawiau dylunio tirwedd ac Ardaloedd Tirwedd Arbennig Cyn pen 7 mis ar ôl mabwysiadu
Archeoleg Cyn pen 7 mis ar ôl mabwysiadu
Ynni Adnewyddadwy Cyffredinol Cyn pen 9 mis ar ôl mabwysiadu
Menter Wledig Cyn pen 9 mis ar ôl mabwysiadu
Bioamrywiaeth (gan gynnwys Safleoedd o Bwysigrwydd i Gadwraeth Natur) Cyn pen 12 mis ar ôl mabwysiadu (caiff ei fonitro’n gyson gan ystyried dynodiadau parhaus)
Adeiladau o Bwysigrwydd Lleol Cyn pen 15 mis ar ôl mabwysiadu
Coed, Tirweddu a Datblygu Cyn pen 15 mis ar ôl mabwysiadu
Gofynion Mannau Agored ar gyfer Datblygiadau Newydd Cyn pen 15 mis ar ôl mabwysiadu
Briffiau Datblygu Safle Benodol Parhaus

Tabl 13 – Canllawiau Cynllunio Atodo

 

Brig y dudalen