Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin

Atodiad 2 – Safleoedd Strategol

Safle 1 – Gorllewin Caerfyrddin (Cyfeirnod Safle: GA1/MU1)

Cyd-destun/Disgrifiad Safle
Wedi’i leoli ar ymyl gorllewinol Caerfyrddin, mae’r safle’n borth pwysig i’r dref. Mae’n safle o 129.5 hectar o dir amaethyddol yn bennaf, sy’n donnog ei natur. Yn ffinio â’r safle mae Travellers Rest i’r gorllewin, yr A40 i’r de a Heol Ffynnon Job i’r dwyrain. Mae’r safle hefyd yn cynnwys Ysbyty Dewi Sant. Hefyd mae darn cul o dir rhwng yr A40 a’r rheilffordd sy’n rhan o ardal gyfan y safle.

Mae’r safle’n chwarae rôl allweddol o ran cyflawni twf yng Nghaerfyrddin yn unol â’r strategaeth a safle’r dref fel Ardal Dwf yn y Cynllun hwn. Bydd datblygu’r safle’n rhoi cyfle i atgyfnerthu a gwella statws Caerfyrddin yn rhanbarthol trwy gyflenwi elfen bwysig o dwf cynaliadwy. Cafodd y safle ei ddyrannu yn y Cynllun Datblygu Unedol hefyd, wedi’i gydnabod yn safle Briff Cynllunio a Datblygu. Ar hyn o bryd, mae’n destun Canllawiau Cynllunio Atodol i’r Cynllun Datblygu Unedol ar ffurf Briff Cynllunio a Datblygu (gweler Gweithredu isod).

Defnydd Arfaethedig/Cysyniad
Cynigir amrywiaeth o ddefnyddiau i’r safle, gan gynnwys preswyl gyda dyraniad tybiannol ar gyfer 1,100 o unedau, addysg, amwynder/hamdden a chyflogaeth. Mae darnau sylweddol o’r safle wedi’u neilltuo i warchod tirwedd y safle ac agweddau o ran ei dreftadaeth ddiwylliannol. Bydd y gwaith o gyflawni’r safle’n digwydd ar y cyd ag adeiladu cynllun ffordd newydd, fel y nodir yn y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a Blaenoriaethau Trafnidiaeth Sir Gaerfyrddin, a fydd yn cysylltu pen uchaf Heol Ffynnon Job â’r A40 (gweler polisi SP9 - Trafnidiaeth).

Cyfyngiadau
Ymchwilir i’r cyfyngiadau sy’n effeithio ar y safle yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar dystiolaeth gefndir. Yr ystyriaethau mwyaf nodedig yw:

Gweithredu
Dylid paratoi Cynllun Gweithredu ar y cyd â chynigion datblygu manwl ar gyfer y safle cyfan, fel y nodir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol. Sefydlwyd addasrwydd y safle gan y Cynllun Datblygu Unedol, a bydd unrhyw gynigion a gyflwynir cyn y CDLl wedi cael eu hystyried o dan y Cynllun Datblygu Unedol.

Mae’r materion y bydd angen eu hystyried wrth ddatblygu safleoedd fesul cyfnod yn cynnwys darparu seilwaith newydd a chyfleustodau, ac adeiladu ffyrdd.

Safle 2 – Pibwrlwyd, Caerfyrddin (Cyfeirnod Safle: GA1/MU2)

Cyd-destun/Disgrifiad Safle
Wedi’i leoli i’r de o Gaerfyrddin, mae’r safle mewn ardal sydd â chyfleusterau cyflogaeth, manwerthu ac addysg yn bennaf. Mae rhan o’r safle ar gampws Coleg Sir Gâr. Wedi’i leoli’n strategol yn agos i’r A48, mae gan y safle maes glas hwn, sy’n wastad gan fwyaf, arwynebedd o 34.7 ha. O dynnu campws y Coleg, yr arwynebedd yw 29.56ha.

Yn strategol, mae’r safle’n ardal allweddol ar gyfer twf cyflogaeth yn y dyfodol i Gaerfyrddin, gan atgyfnerthu a gwella statws Caerfyrddin yn rhanbarthol trwy gyflenwi twf cynaliadwy.

Defnydd Arfaethedig/Cysyniad
Defnydd arfaethedig y safle yw parc busnes gyda defnyddiau cyflogaeth yn ganolbwynt (Dosbarthiadau Defnydd B1, B2 a B8), ynghyd â defnyddiau sy’n gysylltiedig â Choleg Sir Gâr ac yn atodol iddo.

Mae briff datblygu ar ffurf Canllawiau Cynllunio Atodol wedi cael ei baratoi a’i fabwysiadu. Wrth nodi’r defnyddiau priodol o dan Ddosbarthiadau Defnydd B1, B2 a B8 ar gyfer elfen gyflogaeth y safle, mae’r briff hefyd yn edrych ar ddefnyddiau cydnaws posibl eraill. Ni fernir bod defnydd preswyl ar y safle hwn yn briodol.

Cyfyngiadau
Ni nodir unrhyw gyfyngiadau uniongyrchol. Caiff unrhyw broblemau eu hystyried trwy’r Canllawiau Cynllunio Atodol.

Gweithredu
Bydd cynllun gweithredu, gan gynnwys rhagor o uwchgynllunio manwl yn edrych ar faterion sy’n ymwneud â datblygu fesul cyfnod i sicrhau cyflenwi effeithiol. Bydd angen darparu seilwaith newydd a chyfleustodau ar gyfer y cynnig.

Safle 3 – Parth Strategol De Llanelli

Cyd-destun/Disgrifiad Safle
Wedi’i leoli ar hyd Morlan Elli, mae Parth Strategol De Llanelli yn cynnwys nifer o safleoedd unigol y mae pob un ohonynt yn cyfrannu at ddyheadau adfywio de Llanelli. Bydd llwyddiant y parth yn cyfrannu’n sylweddol at gyflawni strategaeth y CDLl mewn perthynas â Llanelli a hefyd dyheadau Cynllun Gofodol Cymru. Mae’r parth i’r de o ganol y dref a saif ar lan y dwr yn gyfagos i Barc Arfordirol y Mileniwm. Mae gan yr ardal fynediad ardderchog i’r rhwydwaith trafnidiaeth strategol, gyda’r orsaf reilffordd o fewn cyrraedd ar droed. Cafwyd buddsoddiadau sylweddol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn yr ardal, gan gynnwys adeiladu ffordd gyswllt newydd. Yn dir gwastad gan fwyaf ac yn dir a ddatblygwyd o’r blaen oherwydd gorffennol diwydiannol yr ardal, mae’r parth yn cynnwys yr ardaloedd/safleoedd penodol canlynol, i gyd wedi’u lleoli mewn dau glwstwr amlwg o gwmpas ffordd gyswllt de Llanelli (B4304) sy’n cyffinio â’r A484 a’r A4214.

Ar lefel strategol, mae’r safleoedd uchod yn sbardunwyr economaidd ac adfywio allweddol i Bartneriaeth y Gyd-fenter sef Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cynulliad Cymru (Adran yr Economi a Thrafnidiaeth). Bydd datblygu’r safleoedd yn cynnig cyfle i gyflawni twf cynaliadwy mewn ffordd sydd hefyd yn adlewyrchu amcanion y CDLl o ran tir a ddatblygwyd o’r blaen. Llywiwyd y safleoedd gan wahanol strategaethau datblygu (uwchgynllunio) a gomisiynwyd gan y Gyd-fenter. Mae’r dyheadau hyn yn rhoi ystyriaeth ddyledus i amodau’r farchnad yn ogystal ag ystyriaeth/cyfyngiadau eraill (gweler yr adran gweithredu isod). Ynghyd â’r Canllawiau Cynllunio Atodol a fabwysiadwyd, bydd y strategaethau/uwch gynlluniau’n llywio’r gwaith o weithredu a chyflawni’r safleoedd, wedi iddynt gael eu paratoi gyda chyfraniadau gan nifer o feysydd arbenigol.

Defnydd Arfaethedig / Cysyniad
Llynnoedd Delta (Cyfeirnod Safle: GA2/MU9) – Mae’r ardal yn cynnig amrywiaeth o ddefnyddiau posibl gyda chyflogaeth yn ganolbwynt trwy ddefnyddiau Busnes B1 a B8. Mae potensial hefyd am gyfleuster iechyd ar y cyd â’r gweithgareddau busnes arfaethedig. Mae cyfleuster y Brain Injury Trust ar ddarn dwyreiniol GA2/MU9 (tir ar Y Rhodfa). Mae Llynnoedd Delta’n cael budd o leoliad deniadol sy’n gwella ei botensial ar gyfer cyflogaeth ac arlwy lles.

Machynys (Cyfeirnodau Safle: GA2/H14, GA2 H12 a GA2/MU3) – Mae gan yr ardal hon y potensial am gynnig defnydd cymysg, gan ymgorffori defnyddiau preswyl, amwynder (parc eco) a hamdden masnachol. Dylid nodi bod gan yr elfen breswyl ar y darn o dir i’r gorllewin (GA2/H14) ganiatâd cynllunio ar gyfer 205 o unedau ac mae bron â bod wedi’i chwblhau, ac mae’r datblygiad preswyl ym Mhentre Nicklaus wedi’i gwblhau i raddau helaeth. Ystyrir y bydd yr ardal a nodwyd ar gyfer defnydd amwynder (GA2/MU3) yn cynnig swyddogaeth bwysig o ran lliniaru ac amwynder i’r ardal.

Y Rhodfa (Cyfeirnodau Safle: GA2/H13, GA2MU9 a GA2/H15) – Mae gan yr ardal hon, sydd y naill ochr a’r llall i’r Rhodfa, botensial am gymysgedd o ddefnyddiau gan gynnwys gofal cymdeithasol a phreswyl, gofal iechyd preifat (i gyfleuster y Brain Injury Trust) a phreswyl (caniatáu 60 uned yn y dyraniad tai GA2/H13 a 60 uned ar GA2/H15).

Doc y Gogledd (Cyfeirnod Safle: GA2/MU7) – Datblygwyd rhannau o’r safle hwn eisoes, sy’n adlewyrchu ymrwymiad hirdymor y sectorau cyhoeddus a phreifat i adfywio’r ardal. Hyd yma, cafwyd datblygiadau preswyl a swyddfeydd o amgylch ymyl y doc, ynghyd â chanolfan darganfod (canolfan ymwelwyr/bwyty/swyddfa). Cliriwyd y rhan fwyaf o weddill y safle, ar wahân i ddefnydd cyflogaeth presennol nad yw’n rhan o’r cynigion safle strategol hyn ar hyn o bryd.

Bydd defnyddiau arfaethedig yn Noc y Gogledd yn canolbwyntio ar ddatblygu arlwy masnachol ac arlwy twristiaeth ymwelwyr/gweithgareddau’r ardal. Bydd pwyslais hefyd ar ddatblygiadau preswyl (caniateir 335 o unedau yn ystod cyfnod y cynllun) ynghyd â chymysgedd o ddefnyddiau eraill, gan gynnwys cyflogaeth, hamdden a manwerthu atodol sy’n gysylltiedig â thwristiaeth.

Gweithfeydd yr Hen Gastell (Cyfeirnod Safle: GA2/MU1) – Bernir y byddai cymysgedd o ddefnyddiau’n briodol i’r ardal hon, gan ganolbwyntio ar yr economi ymwelwyr, treftadaeth a hamdden masnachol. Cliriwyd y safle, gan adael adeilad Rhestredig Gradd II Tinnings. Canolbwyntir ar gyflwyno’r safle er mwyn penderfynu sut y gellir ymgorffori’r strwythur hanesyddol hwn yn effeithiol ac yn dderbyniol mewn unrhyw gynigion. Mae gan y safle botensial ar gyfer hamdden masnachol.

Cyfyngiadau
Byddir yn ymchwilio i faterion yn ymwneud â nifer o gyfyngiadau sy’n effeithio ar y safle (gan gynnwys y canlynol) yn y strategaethau datblygu / uwch gynlluniau sydd ar y gweill. Mae’r ystyriaethau nodedig yn cynnwys:

O ran perygl llifogydd, dylid cyfeirio at Fapiau Cyngor Datblygu wedi’u diweddaru (Mawrth 2013) TAN 15 a sail dystiolaeth y CDLl (Dogfen a Gyflwynwyd CSD109 i CSD114).

Dylid rhoi sylw i ddarpariaethau’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth mewn perthynas â Chilfach Tywyn a chanlyniadau’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer y CDLl hwn mewn perthynas â Safle Morol Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Caerfyrddin.

Gweithredu
Gall datblygu fesul cyfnod yn ôl achos fod yn rhan bwysig o gyflawni twf yn ardal Llanelli. Mae’n cynnig cyfle i sicrhau bod unrhyw achosion o ryddhau tir datblygu’n digwydd yn y cyd-destun a osodir gan y cyfyngiadau yn yr ardal honno.

Dylid cyfeirio at y Canllawiau Cynllunio Atodol mabwysiedig a baratowyd mewn perthynas â’r safleoedd uchod.

Safle 4 – Dafen, Llanelli (Cyfeirnod Safle: GA2/E1)

Cyd-destun/ Disgrifiad Safle
Wedi’i leoli ar borth gogledd ddwyreiniol Llanelli ar yr A4138, mae’r safle’n rhan o ardal sy’n canolbwyntio ar ddefnyddiau cysylltiedig â chyflogaeth. Mae’r dynodiad strategol wedi’i seilio ar fynediad uniongyrchol y safle i’r M4, ynghyd â’i gymysgedd cyfredol o ddefnyddiau cyflogaeth. Mae’r defnyddiau’n amrywio o’r cynyrchiadau modurol sy’n gysylltiedig â Calsonic ac ati, hyd at Y Goleudy a’i swyddfa a’i fan cyfarfod. Mae’r holl faterion hyn yn cynnig cyfeiriad o ran yr angen i barhau ac atgyfnerthu gweithgarwch sy’n gysylltiedig â chyflogaeth ar y safle.

Mae’r safle’n strategol ei faint ac yn cynnwys oddeutu 22.80ha o dir cyflogaeth arfaethedig. Mae’n cynnwys cyfleoedd mewnlenwi o amgylch unedau sy’n bodoli eisoes ynghyd ag ardaloedd mwy nas datblygwyd o’r blaen. Mae Dafen felly’n ardal gyflogaeth bwysig i Lanelli a’r sir gyfan. Mae’r safle’n gyfle i sicrhau lefel darpariaeth sy’n gyson â dynodiad Llanelli fel ardal dwf gan gynnig cyfleoedd ar gyfer twf cynaliadwy a chreu cyflogaeth. Bydd hyn yn cynorthwyo i gyflawni amcanion strategol y CDLl, yn enwedig yn nhermau hybu buddsoddiad ac arloesedd.

Defnydd Arfaethedig/ Cysyniad
Defnydd arfaethedig y safle yw parhau ac atgyfnerthu’r defnyddiau cyflogaeth presennol (B1, B2 a B8). Mae amrywiaeth gweithgarwch cyflogaeth yr ardal, ynghyd â’r amrywiaeth o adeiladau, yn cynnig cyfle i ddatblygu ymagwedd wedi’i brandio i’r ardal ac i gefnogi’r gwaith o ddatblygu defnyddiau cyflogaeth ym mhen uchaf y farchnad (e.e. ymchwil a datblygu) fel bo’n briodol.

Cyfyngiadau
Mae’r cyfyngiadau sy’n effeithio ar y safle’n cynnwys:

O ran perygl llifogydd, dylid cyfeirio at Fapiau Cyngor Datblygu wedi’u diweddaru (Mawrth 2013) TAN 15 a sail dystiolaeth y CDLl (Dogfen a Gyflwynwyd CSD109 i CSD114).

Gweithredu
Mae potensial i baratoi briff neu uwchgynllun i gynorthwyo â llywio datblygiad y safle ac i gynnig dyluniad cydlynol ac ymagwedd gyfannol at y datblygiad hwnnw. O gofio natur strategol y safle, disgwylir iddo gyfrannu at ddiwallu amrywiaeth o amcanion y CDLl, yn enwedig yn nhermau safonau adeiladu cynaliadwy.

Mae’n debyg y caiff y safle ei ddatblygu’n naturiol fesul cyfnod, gyda galw a chyflwr y farchnad yn rheoli’r ffordd y caiff tir ei ryddhau. Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai ystyriaethau fesul safle fod yn berthnasol hefyd.

Safle 5 – Parth Strategol Cross Hands

Cyd-destun/Disgrifiad Safle
Wedi’i leoli o amgylch pwynt nodol allweddol ar yr A48 yn Cross Hands, mae parth strategol Cross Hands yn cynnwys tri safle sy’n cyfrannu at adfywiad a datblygiad economaidd Ardal Dwf Rhydaman/Cross Hands a Sir Gaerfyrddin gyfan. Mae’r safleoedd ar y naill ochr a’r llall i’r A48 gyda mynediad ardderchog i’r M4, y rhwydwaith priffyrdd strategol a’r cymunedau cyfagos. Maent yn ardaloedd cymharol fawr a cheir ynddynt dir a ddatblygwyd o’r blaen a thir maes glas, sy’n cynnwys:

Yn strategol, mae’r safleoedd yn sbardun economaidd ac adfywio allweddol yn Cross Hands ac maent yn cynnwys Cyd-fentrau rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru (Adran yr Economi a Thrafnidiaeth) o ran Dwyrain Cross Hands a’r Parc Bwyd ynghyd â threfniant cyd-fenter rhwng y Cyngor a datblygwr preifat ar gyfer Gorllewin Cross Hands.

Mae datblygu y safleoedd yn cynnig cyfle i gyflwyno amrywiaeth o ddefnyddiau mewn lleoliad cynaliadwy. Mae rhai ohonynt wedi cael eu paratoi ar gyfer datblygu gyda’r gofynion angenrheidiol ar gyfer y safle wedi eu cyflawni. Mae cynigion parhaus wedi cael eu llywio’n rhannol gan strategaethau datblygu (uwchgynllunio) a baratowyd fel rhan o geisiadau cynllunio a thrwy eu hybu’n fewnol.

Defnydd Arfaethedig/ Cysyniad
Gorllewin Cross Hands (Cyfeirnod Safle: GA3/MU1) – Mae gan y safle’r potensial i gynnig amrywiaeth o ddefnyddiau gyda chynigion ar y gweill ar gyfer manwerthu, gofal iechyd (canolfan adnoddau), preswyl (220 o unedau) ac amwynder/hamdden, ynghyd â darparu ffyrdd yn cysylltu trwy’r safle i gymunedau cyfagos. Mae gan y safle ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad defnydd cymysg.

Dwyrain Cross Hands (Cyfeirnod Safle: GA3/E7) – Cynigir y safle hwn ar gyfer defnydd cyflogaeth yn bennaf gyda defnyddiau cysylltiedig priodol. Mae’r safle wedi ei leoli’n gyfagos i’r parc busnes/manwerthu presennol ac mae’n cynnig cyfle i atgyfnerthu’r gweithgareddau economaidd a chyflogaeth presennol yn ardal Cross Hands. Mae’r cynnig yn cynnwys darparu rhan o Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands (gweler polisi SP9) fel y nodir yn y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a Blaenoriaethau Trafnidiaeth Sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y ffordd gyswllt a’r ardal gyflogaeth a sicrhawyd cyllid.

Parc Bwyd Gorllewin Cross Hands (Cyfeirnod Safle: GA3/E8) – Mae’r safle hwn ar ochr orllewinol yr A48 yn cynnig cyfle i atgyfnerthu’r llwyddiannau a gafwyd wrth ddatblygu’r ardal hyd yma. Yn hyn o beth, paratowyd nifer o fannau a llwyfandiroedd datblygu i ganiatáu i’r datblygiadau yn yr ardal hon gael eu cwblhau. Bernir bod y safle’n briodol ar gyfer cyflogaeth (B1, B2 a B8) gyda phwyslais ar ddefnyddiau sy’n gyson â’r thema parc bwyd.

Cyfyngiadau
Mae’r cyfyngiadau posibl sy’n effeithio ar yr ardal yn cynnwys:

Mae’r materion sy’n ymwneud ag effeithiau datblygu ar y dynodiadau rhyngwladol yn cael eu hystyried trwy’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Mae polisïau’r CDLl hwn yn ceisio sicrhau bod yna ddigon o gefnogaeth i greu’r lefel ofynnol o sicrwydd y caiff y safleoedd eu cyflawni. Paratowyd Canllawiau Cynllunio Atodol ychwanegol ar gyfer Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr er mwyn cynnig y mecanweithiau y mae eu hangen i sicrhau y cyflawnir y cynllun (gweler isod). O ganlyniad, gall safleoedd yn yr ardal fod yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Canllawiau Cynllunio Atodol mabwysiedig Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr ynghyd â Pholisi EQ7.

Gweithredu
Nodir bod y rhan fwyaf o’r uchod wedi cael caniatâd cynllunio a’u bod naill ai’n cael eu cyflawni neu byddant yn cael eu cyflawni yn y dyfodol agos, gyda nifer o’r materion o bwys sy’n effeithio ar yr ardal wedi cael eu datrys.

Dylid cyfeirio at ddarpariaethau Polisi EQ7 a Chanllawiau Cynllunio Atodol Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr wrth ymdrin â’r potensial a nodwyd am effaith arwyddocaol debygol ar feta-boblogaeth britheg y gors yr Ardal Cadwraeth Arbennig.

Mae strategaeth tirwedd yn cynnig fframwaith i ystyried goblygiadau ehangach y tu hwnt i ardaloedd safleoedd unigol, fel rhan o ymagwedd integredig ar draws ardal ehangach Cross Hands. Cydweithiodd y Cyngor yn agos a’r cyn Chyngor Cefn Gwlad Cymru a Gwarchod ieir bach yr haf wrth baratoi’r Canllawiau Cynllunio Atodol, a bydd yn monitro’r diwygiadau a wneir i amcanion cadwraethol yr Ardal Cadwraeth Arbennig ac yn ymateb yn briodol iddynt.

Mae’n bosibl hefyd y bydd ar gynigion pellach angen cyfraniadau i wella materion mewn perthynas â seilwaith a chyfleustodau (gan gynnwys materion yn ymwneud ag ansawdd dwr yn rhinwedd gollyngiadau mewn gweithfeydd carthffosiaeth).

 

Brig y dudalen