Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin

Atodiad 1 – Hierarchaeth Aneddiadau – Rôl a Swyddogaeth Aneddiadau

Ardaloedd Twf

Anheddiad: Caerfyrddin
Hierarchaeth: Ardal Dwf
Cyfeirnod Anheddiad: GA1
Disgrifiad: Mae Caerfyrddin yn dref farchnad fywiog a ffyniannus. Mae ei lleoliad cynaliadwy ar gyffordd yr A48 â’r A40 ac ar y rheilffordd rhwng Llundain ac Abergwaun yn sicrhau mai’r dref yw'r porth strategol yng ngorllewin Cymru. Fel prif ganolfan weinyddol Sir Gaerfyrddin, mae’r dref yn un o brif gyflogwyr y sir ac yn ganolfan manwerthu ranbarthol sy’n gwasanaethu ardaloedd gwledig helaeth. Mae natur gynaliadwy Caerfyrddin a’i chapasiti o ran twf yn tanlinellu pwysigrwydd y dref a bydd yn sicrhau ei rôl barhaus fel canolfan ar gyfer darparu cyflogaeth, manwerthu, tai, iechyd a hamdden. Ategir amlygrwydd Caerfyrddin yng Nghynllun Gofodol Cymru sy’n cydnabod rôl y dref ar draws tair ardal y Cynllun sef Bae Abertawe, Sir Benfro – Yr Hafan a Chanol Cymru. Er bod y dref wedi’i chategoreiddio ar lefel sy’n debyg i Lanelli, nid oes modd rhyddhau’r un faint o dir ynddi, ac yn wir nid yw’n briodol gwneud. Yn hyn o beth, roedd lleoliad y dref yn Nyffryn Tywi gyda’r cyfyngiadau naturiol a ddaw o’i lleoliad a’i thopograffi, ynghyd â’i graddfa a’i rôl draddodiadol mewn cyd-destun amaethyddol, yn galw am lefel ddarpariaeth oedd yn adlewyrchu’r ystyriaethau hynny.
Rôl:
Canolfan gynaliadwy iawn
Darpariaeth gyflogaeth strategol
Lleoliad Strategol
Darpariaeth breswyl
Arlwy manwerthu rhanbarthol – Prif Ganolfan
Cyfraniad at safleoedd strategol (gweler polisi SP4)
Hygyrchedd
Twristiaeth
Hamdden
Ystyriaethau: 
Llifogydd
Safleoedd Ewropeaidd a/neu Ryngwladol
Dŵr Wyneb
Bioamrywiaeth
Cadwraeth a Threftadaeth Adeiledig
Lefelau Twf:
Preswyl – 1,854 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – 25.33 hectar
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC18: Cwm-ffrwd, Peniel, Bronwydd, Idole/Pentre-poeth, Felin-wen, Bancycapel, Cwmdwyfran, Llan-llwch, Nant-y-caws, Croesyceiliog a Llan-gain
Anheddiad: Llanelli (gan gynnwys Llangennech a Phwll)
Hierarchaeth: Ardal Dwf
 
Cyfeirnod Anheddiad: GA2
 
Disgrifiad: Wedi’i lleoli’n strategol yn agos i goridor trafnidiaeth yr M4 yn ogystal â’r rheilffordd rhwng Llundain ac Abergwaun, mae Llanelli’n ganolfan gwasanaethau arwyddocaol ac yn lleoliad glan môr yn ne ddwyrain y sir. Yn draddodiadol bu’n ganolfan diwydiant trwm a gweithgynhyrchu, ac erys y dref yn ganolfan allweddol o ran gweinyddiaeth a chyflogaeth. Mae ei lleoliad cynaliadwy’n cadarnhau ei bod yn addas i gynnal lefel twf gymesur o uchel dros gyfnod y cynllun. Mae’r ardal hefyd yn cael budd o gryn botensial ym meysydd twristiaeth/hamdden, gyda Pharc Arfordirol y Mileniwm yn atyniad allweddol. Llanelli yw’r dref â’r boblogaeth fwyaf yn y sir.

Mae cyfleoedd ar gyfer y dyfodol yn cynnwys adfywio canol y dref a’r glannau’n gyfannol, gan sicrhau bod y dref yn cyflawni ei photensial fel cyrchfan modern a bywiog sy’n ysgogi gwelliannau economaidd-gymdeithasol ac yn gwella hygyrchedd i gartrefi, gwasanaethau a chyflogaeth ledled de ddwyrain Sir Gaerfyrddin a’r tu hwnt. Cydnabyddir rôl amlwg Llanelli trwy Gynllun Gofodol Cymru fel canolbwynt a phrif anheddiad allweddol yn ardal Bae Abertawe – Y Glannau a Chymoedd y Gorllewin. Mae’r buddsoddiadau parhaus yn yr ardal (gan y Cyngor a’i bartneriaid o ran Llywodraeth Cymru) wedi llwyddo i adfywio ardaloedd a adawyd yn ddiffaith oherwydd dirywiad diwydiannol. Mae’r anheddiad yn datblygu sylfaen economaidd mwy amrywiol, gyda dirywiad yn y gweithgareddau gweithgynhyrchu ‘hen ffasiwn’. Hefyd, cydnabyddir yr angen i ddyrannu twf sy’n adlewyrchu’r lefelau uchel o amddifadedd a geir mewn rhannau o’r anheddiad. Mae hyn yn ategu’r angen i’r Cynllun ddarparu ar gyfer twf economaidd a hefyd adlewyrchu’r angen am dai fforddiadwy sydd wedi dod i’r amlwg yn yr ardal.
Rôl:
Canolfan gynaliadwy iawn;
Darpariaeth gyflogaeth strategol;
Darpariaeth gofal iechyd ac addysg;
Darpariaeth breswyl;
Manwerthu (gan gynnwys canol tref a chanolfannau rhanbarthol) – Prif Ganolfan;
Cyfraniad at safleoedd strategol (gweler polisi SP4);
Hygyrchedd trwy gysylltiadau priffyrdd a rheilffordd strategol;
Lleoliad strategol â chysylltedd trawsffiniol;
Twristiaeth;
Hamdden;
Safle sipsiwn a theithwyr yn bodoli eisoes.
Ystyriaethau: 
Llifogydd (Afonol a Llanwol);
Aber Llwchwr/Cilfach Tywyn – safleoedd Ewropeaidd a/neu ryngwladol;
Dŵr Wyneb;
Bioamrywiaeth;
Cadwraeth a Threftadaeth Adeiledig;
Seilwaith Carthffosiaeth;
Ardal Tirwedd Arbennig;
Rheoli/diogelu’r arfordir.
Lefelau Twf:
Preswyl – 3,927 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – 32.58 hectar
Anheddiad: Rhydaman/Cross Hands
Hierarchaeth: Ardal Dwf
Cyfeirnod Anheddiad: GA3
Disgrifiad: Mae Ardal Dwf Rhydaman/Cross Hands yn cynnwys nifer o aneddiadau cydberthynol, a nifer ohonynt yn cydgyffwrdd. Rhyngddynt, ystyrir eu bod yn cyflawni rôl allweddol fel y prif ganolfannau mewn cyfres o aneddiadau cysylltiedig y mae’r Ardal Dwf ddynodedig yn eu cynnwys. Mae lleoliad strategol allweddol yr Ardal Dwf, ar goridor yr M4 ac yn ganolbwynt i Ddyffryn Aman a Chwm Gwendraeth, yn cadarnhau ei phwysigrwydd yn y sir ac yn y rhanbarth. Mae Rhydaman/Cross Hands yn cynnig amrywiaeth o unedau manwerthu cenedlaethol a lleol ac yn darparu cyfleoedd o ran gwasanaethau a chyflogaeth ar gyfer ardal wledig ehangach. Rhydaman/Cross Hands yw’r anheddiad mwyaf ei boblogaeth ond un yn y CDLl. Fodd bynnag, mae ei ffurf yn wahanol  iawn i Lanelli a Chaerfyrddin gan ei fod yn gyfres o aneddiadau cydberthynol gyda’r ddwy ganolfan sef Rhydaman a Cross Hands yn ganolbwynt iddi. Mae gan yr amrywiad hwn o ran graddfa a swyddogaeth berthynas uniongyrchol ag addasrwydd a phriodoldeb anheddiad penodol i dderbyn twf. Wrth ddosbarthu twf (a Thai yn arbennig), ffurfiwyd barn gytbwys sy’n cefnogi lefel ddarpariaeth sy’n caniatáu am dwf ac yn adlewyrchu cymeriad a chymunedau’r ardal.

Yn ganolfan diwydiant trwm yn draddodiadol, mae’r ardal yn cynnig potensial i adfywio yn y dyfodol yng nghanol tref Rhydaman (y canolbwynt manwerthu’n draddodiadol) a’r cymunedau cyfagos hefyd. Mae Cross Hands wedi tyfu’n sylweddol fel canolfan manwerthu a chyflogaeth (oherwydd y parc manwerthu a busnes) yn ystod y blynyddoedd diweddar, a phwysleisir ei bwysigrwydd gan ei ddynodiad arfaethedig fel parth strategol (gweler y safleoedd strategol isod). Cydnabyddir rôl amlwg ardal Rhydaman/Cross Hands trwy Gynllun Gofodol Cymru fel canolbwynt a phrif anheddiad allweddol yn ardal Bae Abertawe – Y Glannau a Chymoedd y Gorllewin.
Rôl:
Canolfan gynaliadwy iawn
Darpariaeth gyflogaeth strategol
Lleoliad strategol.
Darpariaeth breswyl
Manwerthu wedi’i leoli o gwmpas canol tref Rhydaman a Pharc Manwerthu Cross Hands. Cyfleusterau lleol wedi’u gwasgaru ar draws yr aneddiadau. Rhydaman wedi’i chydnabod yn Brif Ganolfan.
Cyfraniad at safleoedd strategol (gweler polisi SP4)
Hygyrchedd
Hamdden
Ystyriaethau: 
Llifogydd lleol
Safleoedd Ewropeaidd a/neu Ryngwladol
Ansawdd dŵr
Ansawdd aer yn lleol
Bioamrywiaeth
Seilwaith carthffosiaeth lleol  
Lefelau Twf:
Preswyl – 2,552 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – 37.24 hectar
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC34: Carmel, Cwmgwili, Foelgastell, Derwydd, Maes-y-bont, Temple Bar, Milo, Pentregwenlais, Heol Ddu, Stag And Pheasant, Pantyllyn, Capel Seion a Llan-non

Canolfannau Gwasanaethau

Anheddiad: Porth Tywyn/Pen-bre
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau
Cyfeirnod Anheddiad: T2/1
Disgrifiad: Mae’r anheddiad wedi’i leoli ar y coridor trafnidiaeth cynaliadwy, yn agos iawn i ardal dwf Llanelli ac ar y brif reilffordd rhwng Abergwaun a Llundain sef Rheilffordd Great Western. Mae gan yr anheddiad hanes o weithgarwch diwydiannol (yn yr harbwr yn bennaf) sydd bellach wedi datblygu i adlewyrchu’r potensial am dwristiaeth a gynigir gan leoliad ar y glannau a gwerth amwynderol uchel. Mae harbwr Porth Tywyn yn cynnig potensial adfywio. Mae Parc Gwledig Pen-bre ac Arfordir y Mileniwm yn brif atyniadau a fydd yn parhau i fod yn bwysig i dwristiaeth yn yr ardal. Cydnabyddir yr anheddiad fel un allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru: ardal Bae Abertawe - Y Glannau a Chymoedd y Gorllewin. Er bod yr anheddiad yn cynnwys Porth Tywyn a Phen-bre, mae’n bwysig nodi bod y ddau yn aneddiadau gwahanol ar wahân, ac felly dylid osgoi eu cyfuno.
Rôl:
Darpariaeth gyflogaeth;
Lleoliad strategol;
Darpariaeth breswyl;
Addysg a gofal iechyd lleol;
Canol tref gydag arlwy gwasanaethau manwerthu lleol – fe’u diffinnir fel Canol Trefi (Canolfannau Gwasanaethau);
Adfywio sy’n canolbwyntio ar yr harbwr - (defnyddiau nad ydynt yn peryglu);
Hygyrchedd (gan gynnwys mynediad i Barc Arfordirol y Mileniwm);
Twristiaeth a Hamdden;
Darpariaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Ystyriaethau: 
Llifogydd;
Aber Llwchwr / Cilfach Tywyn – safleoedd Ewropeaidd a/neu ryngwladol;
Dŵr wyneb;
Bioamrywiaeth;
Osgoi cyfuno Porth Tywyn a Phen-bre;
Ardal Tirwedd Arbennig;
Rheoli/diogelu’r arfordir;
Cadwraeth a Threftadaeth Adeiledig.
Lefelau Twf:
Preswyl – 413 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – 3.28 hectar
Aneddiadau Cysylltiedig:
Anheddiad: Llandeilo (gan gynnwys Ffair-fach, Rhos-maen a Nantyrhibo)
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau
 
Cyfeirnod Anheddiad: T2/2
 
Disgrifiad: Tref farchnad wledig wedi’i lleoli’n strategol ar goridor trafnidiaeth cynaliadwy yn cysylltu de Cymru â’r Canolbarth a chanolbarth Lloegr. Mae Llandeilo’n cyflawni rôl bwysig o ran gwasanaethau ar draws ardal wledig ehangach. Fe’i cydnabyddir fel anheddiad allweddol o bwysigrwydd trawsffiniol yng Nghynllun Gofodol Cymru. Mae’r anheddiad yn agos i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Rôl:
Darpariaeth gyflogaeth
Darpariaeth breswyl
Canol tref ac arlwy gwasanaethau manwerthu lleol – fe’i diffinnir fel Canol Tref (Canolfannau Gwasanaethau)
Hygyrchedd ar hyd priffordd strategol a chysylltiadau rheilffordd Calon Cymru
Twristiaeth
Hamdden
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol
Ystyriaethau: 
Llifogydd lleol
Safleoedd Ewropeaidd a/neu Ryngwladol
Bioamrywiaeth
Cadwraeth a Threftadaeth Adeiledig
Seilwaith Carthffosiaeth
Seilwaith Priffyrdd (Llwybr ffordd osgoi arfaethedig)
Ardal Rheoli Ansawdd Aer  
Lefelau Twf:
Preswyl – 263 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – 2.33 hectar
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC30: Cwmifor,Gelli-aur, Pen-y-banc, Salem, Derwen-fawr, Manordeilo, Llangathen a Thrap
Anheddiad: Llanymddyfri
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau
Cyfeirnod Anheddiad: T2/3
Disgrifiad: Mae’r dref farchnad hon wedi’i lleoli yn ardal wledig gogledd ddwyrain y sir, ar hyd coridor trafnidiaeth cynaliadwy i’r Canolbarth a chanolbarth Lloegr. Mae Llanymddyfri’n cyflawni rôl bwysig o ran gwasanaethau ar draws ardal wledig ehangach. Fe’i cydnabyddir fel anheddiad allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru: Ardal Canol Cymru. Mae’r anheddiad yn agos i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae angen cydbwyso potensial ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol yn erbyn y cyfyngiadau posibl o ran llifogydd.
Rôl:
Darpariaeth gyflogaeth
Darpariaeth breswyl
Canol tref ac arlwy gwasanaethau manwerthu lleol – fe’i diffinnir fel Canol Tref (Canolfannau Gwasanaethau)
Hygyrchedd ar hyd priffordd strategol a chysylltiadau rheilffordd Calon Cymru
Twristiaeth
Hamdden
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol
Ystyriaethau: 
Perygl llifogydd
Safleoedd Ewropeaidd a/neu Ryngwladol
Cadwraeth a Threftadaeth Adeiledig  
Lefelau Twf:
Preswyl – 111 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – Ddim yn berthnasol
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC26: Llansadwrn, Llanwrda;  SC27: Cil-y-cwm; SC28: Cynghordy; SC29: Rhandir-mwyn
Anheddiad: Castell Newydd Emlyn
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau
Cyfeirnod Anheddiad: T2/4
Disgrifiad: Mae tref farchnad Castell Newydd Emlyn wedi’i lleoli yn ardal wledig gogledd orllewin y sir, ac mae rhan o’r dref (Atpar) wedi’i lleoli yn yr awdurdod cyfagos sef Ceredigion. Mae Castell Newydd Emlyn yn cyflawni rôl bwysig o ran gwasanaethau ar draws ardal wledig ehangach. Cydnabyddir yr anheddiad fel un allweddol o bwysigrwydd trawsffiniol yng Nghynllun Gofodol Cymru. Mae cyfleoedd ar gyfer tai a chyflogaeth, ond mae natur dopograffaidd yr anheddiad yn golygu mai cyfyngedig fyddai unrhyw ehangu yn y dyfodol.

Mae rhan fwyaf yr anheddiad, a chanol y dref a’r gwasanaethau’n benodol, yn Sir Gaerfyrddin. Wedi’i rhannu o’r dref gan afon Teifi, mae ardal Atpar yng Ngheredigion. Mae’r dref ac Atpar yn gweithredu fel un anheddiad cyfan ac mae’r naill yn dibynnu ar y llall.  
Rôl:
Darpariaeth gyflogaeth
Lleoliad trawsffiniol
Darpariaeth breswyl
Canol tref ac arlwy gwasanaethau manwerthu lleol – fe’i diffinnir fel Canol Tref (Canolfannau Gwasanaethau)
Hygyrchedd trwy rwydwaith priffyrdd
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol
Ystyriaethau: 
Llifogydd lleol
Safleoedd Ewropeaidd a/neu Ryngwladol
Cadwraeth a Threftadaeth Adeiledig
Topograffi  
Lefelau Twf:
Preswyl – 89 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth - 1 hectar
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC6: CenarthaPhentrecagal
Trawsffiniol: Atpar
Anheddiad: Sanclêr (gan gynnwys Pwll-trap)
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau
 
Cyfeirnod Anheddiad: T2/5
 
Disgrifiad: Tref wedi’i lleoli ar goridor trafnidiaeth cynaliadwy rhwng sir Benfro a sir Gaerfyrddin. Mae Sanclêr yn cyflawni rôl bwysig o ran gwasanaethau ar draws ardal wledig ehangach. Fe’i cydnabyddir fel anheddiad allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru, gan gyflawni rôl fel canolfan gwasanaethau lleol ac o ran cyflogaeth a thwristiaeth.
Rôl:
Darpariaeth gyflogaeth
Wedi’i leoli’n strategol ar rwydwaith priffyrdd strategol gyda buddion o ran hygyrchedd
Darpariaeth breswyl
Canol tref ac arlwy gwasanaethau manwerthu lleol – fe’i diffinnir fel Canol Tref (Canolfannau Gwasanaethau)
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol
Ystyriaethau: 
Llifogydd lleol
Safleoedd Ewropeaidd a/neu ryngwladol
Cadwraeth a Threftadaeth Adeiledig
Lefelau Twf:
Preswyl – 279 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – 1.92 hectar
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC11: Meidrim,LlanddowroraLlangynin
Anheddiad: Hendy-gwyn
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau
Cyfeirnod Anheddiad: T2/6
Disgrifiad: Mae’r anheddiad wedi’i leoli ar goridor trafnidiaeth cynaliadwy rhwng sir Benfro a sir Gaerfyrddin. Mae Hendy-gwyn wedi’i leoli yn agos i ffin y sir â sir Benfro ac mae’n cyflawni rôl bwysig yn nhermau gwasanaethau ar draws ardal wledig ehangach. Fe’i cydnabyddir fel anheddiad allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru: Ardal Sir Benfro – Yr Hafan, fel un sy’n cyflawni rôl canolfan gwasanaethau lleol ac o ran cyflogaeth a thwristiaeth. Mae cynigion yn caniatáu am ddatblygu ac adfywio yn y dyfodol, yn arbennig ar safle’r hen hufenfa.
Rôl:
Darpariaeth gyflogaeth leol
Wedi’i leoli’n strategol ar briffordd strategol a rhwydweithiau rheilffyrdd gyda buddion o ran hygyrchedd
Darpariaeth breswyl
Canol tref ac arlwy gwasanaethau manwerthu lleol – fe’i diffinnir fel Canol Tref (Canolfannau Gwasanaethau)
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol
Safle sipsiwn a theithwyr
Ystyriaethau: 
Perygl llifogydd
Cadwraeth a Threftadaeth Adeiledig  
Lefelau Twf:
Preswyl – 205 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – 3.04 hectar
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC5: Llanfallteg a Chwmfelin-boeth.

Canolfan Gwasanaethau Lleol  

Anheddiad: Lacharn
 
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau Lleol
Cyfeirnod Anheddiad: T3/1
 
Disgrifiad: Mae’ranheddiad wedi’i leoli ar aber afon Taf, ar ffordd yr A4066. Fe’i cydnabyddir fel canolfan leol yng Nghynllun Gofodol Cymru, sy’n cyfrannu fel canolfan dwristiaeth arwyddocaol. Mae’n cyflawni rôl canolfan leol yn yr ardal.
Rôl:
Darpariaeth breswyl
Arlwy manwerthu lleol – fe’i diffinnir fel Canolfan Ardal (Canolfannau Gwasanaethau Lleol)
Hygyrchedd
Twristiaeth
Cyfleusterau hamdden
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol
Ystyriaethau: 
Llifogydd lleol
Safleoedd Ewropeaidd a/neu Ryngwladol
Cadwraeth a Threftadaeth Adeiledig
Lefelau Twf:
Preswyl – 82 o anheddau
Dyraniad cyflogaeth – Ddim yn berthnasol
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC12: Broadway,Cross Inna Llansadyrnin
Anheddiad: Glanyfferi
 
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau Lleol
Cyfeirnod Anheddiad: T3/2
 
Disgrifiad: Mae’r anheddiad wedi’i leoli ar aber afon Tywi, ar hyd y brif reilffordd i orllewin Cymru. Er na chydnabyddir yr anheddiad yng Nghynllun Gofodol Cymru, mae’n cyflawni rôl canolfan leol i bentrefannau a phentrefi diarffordd. Wrth nodi ei gymwysterau cynaliadwy, dylid nodi hefyd bod yr anheddiad yn un gwledig ei gyd-destun, ei raddfa a’i gymeriad o’i gymharu ag ardal y de-ddwyrain / y cymoedd ôl-ddiwydiannol sy’n drefol eu natur yn bennaf. Er nad yw Glanyfferi wedi’i gydnabod yng Nghynllun Gofodol Cymru, nodir bod y Cynllun yn cydnabod ardal ehangach aber afon Tywi fel un â photensial o ran twristiaeth arfordirol.
Rôl:
Darpariaeth gyflogaeth ar raddfa fach
Darpariaeth breswyl
Arlwy manwerthu lleol – fe’i diffinnir fel Canolfan Ardal (Canolfannau Gwasanaethau Lleol)
Hygyrchedd trwy gysylltiadau rheilffordd
Potensial o ran twristiaeth
Cyfleusterau hamdden
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol
Ystyriaethau: 
Llifogydd lleol
Safleoedd Ewropeaidd a/neu Ryngwladol
Seilwaith Priffyrdd
Lefelau Twf:
Preswyl – 32 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – Ddim yn berthnasol
 
Anheddiad: Cydweli
 
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau Lleol
Cyfeirnod Anheddiad: T3/3
 
Disgrifiad: Mae Cydweli wedi’i leoli ar y brif ffordd gyswllt arfordirol (A484) rhwng Llanelli a Chaerfyrddin, ac fe’i gwasanaethir hefyd gan y brif reilffordd rhwng Abergwaun a Llundain sef Rheilffordd Great Western. Fe’i cydnabyddir fel anheddiad allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru ac mae’n cyflawni rôl canolfan leol yn yr ardal. Mae ardal ddeheuol y dref yn cynnig potensial i ddatblygu cyflogaeth a thai priodol, tra bo’r canol wedi’i ddynodi’n ardal gadwraeth ac fe’i cyfyngir gan ystyriaethau hamdden/amwynder a pherygl llifogydd. Mae cymeriad yr ardal ogleddol yn un o dirwedd ddeniadol (Ardal Tirwedd Arbennig) a thir uchel sy’n cynnig golygfeydd panoramig dros y dref a Bae Caerfyrddin. Nodir Cydweli/Trimsaran fel anheddiad allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru. Fodd bynnag, mae’r CDLl, wrth gydnabod eu pwysigrwydd fel Canolfannau Gwasanaethau Lleol ar wahân, yn eu dosbarthu fel dau anheddiad (Haen 3) ar wahân. Nid yw hynny’n bychanu eu cyfraniad, ond yn hytrach yn ystyried eu rôl, eu swyddogaeth a’u cymeriad/capasiti ar gyfer twf. Mae Cydweli’n cyflawni rôl canolfan gwasanaethau lleol  bwysig yn ne ddwyrain Sir Gaerfyrddin sy’n drefol gan fwyaf, ac ym mhorth deheuol Cwm Gwendraeth. Cyfeirir at ffigur dyraniad tai Cydweli, sy’n dangos ei allu i dderbyn graddfa dwf briodol. Mae’n bwysig nodi bod Cydweli wedi’i leoli y tu allan i ardal uwchgynllun glannau Cynllun Gofodol Cymru. Fodd bynnag, mae ei ddynodiad fel Canolfan Gwasanaethau Lleol yn y CDLl yn caniatáu i’r rôl mae’n ei chyflawni wrth gynnal Porth Tywyn a Llanelli gael ei chydnabod.
Rôl:
Darpariaeth gyflogaeth leol;
Darpariaeth breswyl;
Canol tref ac arlwy manwerthu lleol – fe’i diffinnir fel Canolfan Ardal (Canolfannau Gwasanaethau Lleol);
Hygyrchedd trwy gysylltiadau priffyrdd a rheilffordd strategol;
Twristiaeth/ twristiaeth treftadaeth;
Addysg a gofal iechyd lleol;
Darpariaethau hamdden;
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol.
Ystyriaethau: 
Llifogydd;
Safleoedd Ewropeaidd a/neu Ryngwladol;
Cadwraeth a Threftadaeth Adeiledig
Ardal Tirwedd Arbennig.  
Lefelau Twf:
Preswyl – 301 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – Ddim yn berthnasol
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC17: Llan-saint/Broadway, Pedair-hewl, Mynydd-y-garreg a Llandyfaelog
Anheddiad: Trimsaran
 
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau Lleol
Cyfeirnod Anheddiad: T3/4
 
Disgrifiad: Mae’r anheddiad wedi’i leoli yng Nghwm Gwendraeth i’r gogledd orllewin o Lanelli, a chaiff ei gydnabod fel anheddiad allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru. Mae’n cyflawni rôl canolfan leol yn yr ardal.  Nodir Cydweli/Trimsaran fel anheddiad allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru. Fodd bynnag, mae’r CDLl, wrth gydnabod eu pwysigrwydd fel Canolfannau Gwasanaethau Lleol ar wahân, yn eu dosbarthu fel dau anheddiad (Haen 3) ar wahân. Nid yw hynny’n bychanu eu cyfraniad, ond yn hytrach yn ystyried eu rôl, eu swyddogaeth a’u cymeriad/capasiti ar gyfer twf.  Mae ffigur dyraniad tai Trimsaran yn dangos ei allu i dderbyn graddfa dwf briodol. Nodir bod Trimsaran wedi’i gysylltu â Chydweli yng Nghynllun Gofodol Cymru ac nad anheddiad annibynnol mohono. Dylid nodi bod dosbarthiad Trimsaran fel Canolfan Gwasanaethau Lleol yn adlewyrchu ei gyfraniad yn yr ardal ac i’r cymunedau cyfagos.
Rôl:
Darpariaeth breswyl
Arlwy manwerthu lleol – fe’i diffinnir fel Canolfan Ardal (Canolfannau Gwasanaethau Lleol)
Hygyrchedd trwy’r rhwydwaith priffyrdd
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol
Darpariaeth hamdden
Cysylltiadau â Chwrs Rasio Ffos Las
Ystyriaethau:
Ystyriaethau Ieithyddol
Topograffi
Lefelau Twf:
Preswyl – 164 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – Ddim yn berthnasol
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC38: Pen-y-mynydd
Anheddiad: Pont-iets/Meinciau/Pont-henri
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau Lleol
Cyfeirnod Anheddiad: T3/5
 
Disgrifiad: Mae’r anheddiad wedi’i leoli ar ffyrdd y B4309 a’r B4317 yng Nghwm Gwendraeth ôl-ddiwydiannol, hanner ffordd yn union rhwng Caerfyrddin a Llanelli. Mae ganddo amrywiaeth fawr o gyfleusterau lleol ac mae’n cyflawni rôl canolfan leol yn yr ardal. Bydd angen ystyried topograffi’r ardal wrth ddatblygu cynigion cynllunio defnydd tir, a bydd angen rhoi ystyriaeth ddyledus i leoli datblygiadau mor agos â phosibl i ganolbwyntiau’r pentrefi. Mae’r anheddiad yn cyfrannu at ‘naws am le’ Cwm Gwendraeth ehangach o ran ystyriaethau cymdeithasol, economaidd ac ieithyddol, yn ogystal â’r cyfleusterau cymunedol/hamdden sydd ar gael. Er na chânt eu nodi yng Nghynllun Gofodol Cymru, byddai peidio â nodi aneddiadau Cwm Gwendraeth Fawr sy’n bwysig yn lleol sef Pontyberem a Phont-iets (â phoblogaethau o 2,761 a 3,166 ynghyd â nifer fawr o gyfleusterau a darpariaethau) yn y CDLl yn arwain at anghysondebau yn strategaeth y Cynllun ac yn methu â chydnabod eu rôl a’u swyddogaeth pwysig fel Canolfannau Gwasanaethau Lleol.
Rôl:
Darpariaeth breswyl;
Hygyrchedd trwy’r rhwydwaith priffyrdd a choridor cysylltedd Cwm Gwendraeth;
Arlwy manwerthu ar raddfa fach – fe’i diffinnir fel Canolfan Ardal (Canolfan Gwasanaethau Lleol);
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol;
Addysg a gofal iechyd lleol;
Darpariaeth hamdden.
Ystyriaethau: 
Llifogydd;
Topograffi;
Ardal Tirwedd Arbennig (Meinciau);
Ystyriaethau ieithyddol.  
Lefelau Twf:
Preswyl – 239 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – Ddim yn berthnasol
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC40: Cynheidre, Pontantwn a Charwe
Anheddiad: Pontyberem/Bancffosfelen
 
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau Lleol
Cyfeirnod Anheddiad: T3/6
 
Disgrifiad: Mae’r anheddiad wedi’i leoli ar y B4317 yng Nghwm Gwendraeth ôl-ddiwydiannol, hanner ffordd yn union rhwng Caerfyrddin a Llanelli.  Mae ganddo amrywiaeth fawr o gyfleusterau lleol ac mae’n cyflawni rôl canolfan leol yn yr ardal. Bydd angen ystyried topograffi’r ardal wrth ddatblygu cynigion cynllunio defnydd tir, a bydd angen rhoi ystyriaeth ddyledus i leoli datblygiadau mor agos â phosibl i ganolbwyntiau’r pentrefi. Mae’r anheddiad yn cyfrannu at ‘naws am le’ Cwm Gwendraeth ehangach o ran ystyriaethau cymdeithasol, economaidd ac ieithyddol, yn ogystal â’r cyfleusterau cymunedol/hamdden sydd ar gael. Oherwydd y mwyngloddio a fu yn yr ardal, ceir yma dir sydd wedi’i ddosbarthu’n dir a ddatblygwyd o’r blaen.   Er na chânt eu nodi yng Nghynllun Gofodol Cymru, byddai peidio â nodi aneddiadau Cwm Gwendraeth Fawr sy’n bwysig yn lleol sef Pontyberem a Phont-iets (â phoblogaethau o 2,761 a 3,166 ynghyd â nifer fawr o gyfleusterau a darpariaethau) yn y CDLl yn arwain at anghysondebau yn strategaeth y Cynllun ac yn methu â chydnabod eu rôl a’u swyddogaeth pwysig fel Canolfannau Gwasanaethau Lleol.
Rôl:
Darpariaeth gyflogaeth leol;
Darpariaeth breswyl
Hygyrchedd trwy’r rhwydwaith priffyrdd a choridor cysylltedd Cwm Gwendraeth;
Arlwy manwerthu ar raddfa fach – fe’i diffinnir fel Canolfan Ardal (Canolfan Gwasanaethau Lleol);
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol;
Addysg a gofal iechyd lleol (gan gynnwys y ganolfan adnoddau dysgu gydol oes yn Heol Coalbrook);
Darpariaeth hamdden.
Ystyriaethau: 
Llifogydd;
Topograffi;
Tir a ddatblygwyd o’r blaen;
Ystyriaethau ieithyddol.    
Lefelau twf:
Preswyl – 140 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – Ddim yn berthnasol
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC39: Crwbin, Mynydd Cerrig a Llangyndeyrn
Anheddiad: Yr Hendy/ Y Fforest
 
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau Lleol
Cyfeirnod Anheddiad: T3/7
 
Disgrifiad: Mae’r anheddiad wedi’i leoli’n gyfagos i’r M4, i’r gogledd ddwyrain o Ardal Dwf Llanelli. Mae ganddo amrywiaeth fawr o gyfleusterau lleol ac mae’n cyflawni rôl canolfan leol yn yr ardal. Mae gan yr anheddiad amrywiaeth fawr a chymysgedd o fathau o dai sydd wedi’u clystyru o gwmpas dyffryn afon Gwili. Mae cyfyngiadau ar ddatblygu yng nghanol Yr Hendy (perygl llifogydd ac ystyriaethau hamdden) ac mae heriau hefyd o ran topograffi a’r effaith ar y dirwedd/amwynderau yn Y Fforest (Ardal Tirwedd Arbennig Dyffryn Llwchwr). Er gwaethaf yr heriau hyn, caiff potensial yr ardal o ran datblygu/y farchnad ei gadarnhau gan ei hagosrwydd at yr M4 a dangosir ei chynaliadwyedd a’i bywiogrwydd trwy ei harlwy fel canolfan ardal ac amrywiaeth ei chyfleusterau cymunedol/hamdden. Mae nodi’r Hendy fel Canolfan Gwasanaethau Lleol yn adlewyrchu rôl a swyddogaeth sy’n gefnogol iawn i Lanelli ac yn cynnig cyfle i dderbyn lefel twf debyg i anheddiad sydd wedi’i leoli yn ne ddwyrain y sir, sy’n drefol yn bennaf. Cafodd Yr Hendy ei gategoreiddio’n rhan o Lanelli yng Nghynllun Gofodol Cymru, ac er bod lefel y twf a ddosberthir i’r pentref yn y CDLl yn dyst i’w leoliad cyfagos i’r M4, Canolfan Gwasanaethau Lleol yw ei swyddogaeth ar lefel sirol. Yn hyn o beth, dylid nodi bod yr anheddiad ar wahân i Lanelli, ond bod ganddo gysylltiadau cryf â’r dref. Mae’n dangos cymeriad Canolfan Gwasanaethau Lleol gan gynnig rôl bwysig yn lleol, ond mae’n dibynnu ar Lanelli ac Abertawe gerllaw am ddarpariaethau lefel uwch.
Rôl:
Darpariaeth gyflogaeth leol;
Wedi’i leoli’n strategol ar rwydweithiau priffyrdd strategol a rheilffordd gyda buddion o ran hygyrchedd;
Addysg a gofal iechyd lleol;
Darpariaeth breswyl;
Arlwy gwasanaethau manwerthu lleol – fe’i diffinnir fel Canolfan Ardal (Canolfan Gwasanaethau Lleol);
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol;
Hamdden.
Ystyriaethau: 
Llifogydd;
Ardal Tirwedd Arbennig;
Agos i safleoedd Ewropeaidd a/neu Ryngwladol (Aber Llwchwr/Cilfach Tywyn).  
Lefelau Twf:
Preswyl – 219 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – Ddim yn berthnasol
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC36: Llanedi
Trawsffiniol: Pontarddulais
Anheddiad: Glanaman/ Y Garnant
 
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau Lleol
Cyfeirnod Anheddiad: T3/8
 
Disgrifiad: Mae’r anheddiad wedi’i leoli yn Nyffryn Aman Uchaf ar goridor trafnidiaeth strategol yn agos i anheddiad Ardal Dwf Rhydaman. Cydnabyddir Dyffryn Aman Uchaf yn anheddiad allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru. Mae’n cyflawni rôl canolfan leol i’r ardal. Mae’r anheddiad yn agos i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae nodi Glanaman/Y Garnant yn ganolfan gwasanaethau lleol yn y CDLl yn adlewyrchu ei rôl a’i swyddogaeth yn Nyffryn Aman ôl-ddiwydiannol. Mae ei leoliad gofodol yn agos i Rydaman, sy’n caniatáu iddo ddibynnu ar yr anheddiad hwnnw am rai darpariaethau wrth gyflawni rôl bwysig yn lleol hefyd. Er nad yw Glanaman/Y Garnant wedi’i gydnabod yn uniongyrchol yng Nghynllun Gofodol Cymru, dylid nodi bod Dyffryn Aman Uchaf wedi’i gydnabod fel anheddiad allweddol.   
Rôl:
Darpariaeth gyflogaeth
Wedi’i leoli ar briffordd strategol gyda buddion o ran hygyrchedd
Darpariaeth breswyl
Arlwy gwasanaeth manwerthu lleol – fe’i diffinnir fel Canolfan Ardal (Canolfannau Gwasanaethau Lleol)
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol
Darpariaeth hamdden
Ystyriaethau: 
Perygl Llifogydd  
Lefelau Twf:
Preswyl – 247 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth - 0.7 hectar
 
Anheddiad: Brynaman
 
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau Lleol
Cyfeirnod Anheddiad: T3/9
 
Disgrifiad: Mae’r anheddiad wedi’i leoli yn Nyffryn Aman Uchaf ar goridor trafnidiaeth strategol gyda chysylltiadau trafnidiaeth da â Rhydaman, y Canolbarth a Chwm Tawe. Cydnabyddir Dyffryn Aman Uchaf fel anheddiad allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru. Mae’n cyflawni rôl canolfan leol i’r ardal. Mae’r anheddiad yn agos i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae nodi Brynaman yn ganolfan gwasanaethau lleol yn y CDLl yn adlewyrchu ei rôl a’i swyddogaeth yn Nyffryn Aman ôl-ddiwydiannol. Mae ei leoliad gofodol yn agos i Rydaman ac mae ganddo gysylltiadau trawsffiniol ag aneddiadau Cwm Tawe sy’n caniatáu iddo ddibynnu ar yr anheddiad hwnnw am rai darpariaethau wrth gyflawni rôl bwysig yn lleol hefyd. Er nad yw Brynaman wedi’i gydnabod yn uniongyrchol yng Nghynllun Gofodol Cymru, dylid nodi bod Dyffryn Aman Uchaf wedi’i gydnabod fel anheddiad allweddol.
Rôl:
Wedi’i leoli ar briffordd strategol gyda buddion o ran hygyrchedd
Darpariaeth gyflogaeth leol
Darpariaeth breswyl
Arlwy gwasanaethau manwerthu lleol – fe’i diffinnir fel Canolfan Ardal (Canolfannau Gwasanaethau Lleol)
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol
Ystyriaethau: 
Llifogydd Lleol  
Lefelau Twf:
Preswyl – 107 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – Ddim yn berthnasol
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC35: Ystradowen, Rhosaman a Chefnbrynbrain
Trawsffiniol: Brynaman Isaf
Anheddiad: Llangadog
 
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau Lleol
Cyfeirnod Anheddiad: T3/10
 
Disgrifiad: Anheddiad gwledig wedi’i leoli yn ymyl yr A40 rhwng Llandeilo a Llanymddyfri. Fe’i cydnabyddir fel anheddiad allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru.  Mae’n cyflawni rôl bwysig o ran gwasanaethau ar draws ardal wledig ehangach. Cydnabyddir Llangadog fel anheddiad allweddol yng nghlwstwr Dyffryn Tywi yng Nghynllun Gofodol Cymru ac mae’r CDLl yn ei ddosbarthu’n Ganolfan Gwasanaethau Lleol. Mae hyn yn adlewyrchu natur ardal Canol Cymru, sy’n wledig gan fwyaf, a rôl yr aneddiadau yn y cyd-destun hwnnw. Wrth nodi’r anheddiad fel Canolfan Gwasanaethau Lleol, nid yw’r CDLl yn ceisio bychanu ei gyfraniad ac mae’n ystyried ei rôl, ei swyddogaeth a’i gymeriad/capasiti ar gyfer twf. Mae’n cydnabod ac yn adlewyrchu ei gategori yng Nghynllun Gofodol Cymru, gan ystyried cymeriad a chyd-destun yr anheddiad. Nodir mai ei statws fel anheddiad allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru yw fel rhan o brif glwstwr aneddiadau, nid fel anheddiad annibynnol. Mae’r anheddiad yn cyflawni rôl Canolfan Gwasanaethau Lleol bwysig mewn rhan wledig o Sir Gaerfyrddin sy’n gwbl gyson â, ac yn adlewyrchu, ei gategori yng Nghynllun Gofodol Cymru a’i safle yng nghlwstwr Dyffryn Tywi.
Rôl:
Darpariaeth gyflogaeth leol
Wedi’i leoli’n gynaliadwy ger priffordd strategol ac ar reilffordd Calon Cymru gyda buddion o ran hygyrchedd
Darpariaeth breswyl
Arlwy gwasanaethau manwerthu lleol – fe’i diffinnir fel Canolfan Ardal (Canolfannau Gwasanaethau Lleol)
Potensial adfywio (Safle’r hen hufenfa)
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol
Ystyriaethau: 
Llifogydd Lleol
Cadwraeth a Threftadaeth Adeiledig  
Lefelau Twf:
Preswyl – 37 o anheddau
Dyraniad Cyflogaeth – Ddim yn berthnasol
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC26: Llanwrda, Llansadwrn, Ashfield Row, Felindre a Waunystrad Meurig.
Anheddiad: Llanybydder
 
Hierarchaeth: Canolfan Gwasanaethau Lleol
Cyfeirnod Anheddiad: T3/11
 
Disgrifiad: Mae’r anheddiad gwledig hwn wedi’i leoli yng ngogledd y sir, ar y ffin â’r awdurdod cyfagos sef Ceredigion. Saif ar goridor trafnidiaeth strategol rhwng Sir Gaerfyrddin a’r Canolbarth. Fe’i cydnabyddir fel anheddiad allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru ac mae’n cyflawni rôl canolfan leol i’r ardal. Ystyrir anheddiad bach Tŷ Mawr, i’r de ddwyrain, yn rhan o’r anheddiad, ac mae’n cynnig darpariaeth gyflogaeth leol. Cydnabyddir Llanybydder fel anheddiad allweddol yng Nghlwstwr Dyffryn Teifi yng Nghynllun Gofodol Cymru, ac mae’r CDLl yn ei ddosbarthu fel Canolfan Gwasanaethau Lleol.  Mae hyn yn adlewyrchu natur ardal Canol Cymru, sy’n wledig gan fwyaf, a rôl yr aneddiadau yn y cyd-destun hwnnw. Wrth nodi’r anheddiad fel Canolfan Gwasanaethau Lleol, nid yw’r CDLl yn ceisio bychanu ei gyfraniad ac mae’n ystyried ei rôl, ei swyddogaeth a’i gymeriad/capasiti ar gyfer twf ac yn adlewyrchu ei bwysigrwydd trawsffiniol â Chyngor Ceredigion. Mae’n cydnabod ac yn adlewyrchu ei gategori yng Nghynllun Gofodol Cymru, gan ystyried cymeriad a chyd-destun yr anheddiad. Nodir mai ei statws fel anheddiad allweddol yng Nghynllun Gofodol Cymru yw fel rhan o brif glwstwr aneddiadau, nid fel anheddiad annibynnol. Mae’r anheddiad yn cyflawni rôl Canolfan Gwasanaethau Lleol bwysig mewn rhan wledig o Sir Gaerfyrddin sy’n gwbl gyson â, ac yn adlewyrchu, ei gategori yng Nghynllun Gofodol Cymru a’i safle yng nghlwstwr Dyffryn Teifi.
Rôl:
Darpariaeth gyflogaeth leol
Wedi’i leoli ar briffordd strategol â buddion o ran hygyrchedd
Darpariaeth breswyl
Arlwy gwasanaethau manwerthu lleol – fe’i diffinnir fel Canolfan Ardal (Canolfannau Gwasanaethau Lleol)
Darpariaeth gwasanaethau cymunedol
Ystyriaethau: 
Llifogydd
Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi (Safleoedd Ewropeaidd a/neu Ryngwladol)  
Lefelau Twf:
Preswyl – 98 o anheddau
Dyraniad cyflogaeth – 0.51 hectar
Aneddiadau Cysylltiedig:
SC22: Pencarreg a Llanllwni
Trawsffiniol: Alltyblaca, Highmead

Tabl 12 – Hierarchaeth Aneddiadau – Rôl a Swyddogaeth Aneddiadau

 

Brig y dudalen