Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin

7 Gweithredu a Monitro

7.1 Gweithredu

7.1.1 Wrth roi’r CDLl ar waith, bydd y Cyngor yn parhau i gydweithio â phartneriaid a sefydliadau allanol a’r sector preifat er mwyn gweithredu mwyafrif llethol y cynigion datblygu newydd, gan gynnwys cynlluniau cyflogaeth a thai. Mae’r fframwaith monitro yn nodi’r cyrff a’r asiantaethau sy’n debygol o gyfrannu at gyflenwi agweddau penodol o’r Cynllun.

7.1.2 Er mwyn cyflawni datblygiadau newydd, mae bod â’r seilwaith priodol gan gynnwys cyflenwad dwr, system carthffosiaeth, draenio tir, nwy, trydan a thelathrebu’n hanfodol i sicrhau y cyflawnir polisïau a chynigion y Cynllun. Mewn rhai achosion lle bo angen seilwaith newydd neu well ar gyfer datblygiad newydd, gellir ei ddarparu trwy waith a drefnir a wneir gan y cwmnïau cyfleustodau. Lle bo angen gwelliannau i’r seilwaith ar gyfer datblygiad newydd ond nad ydynt wedi’u cynnwys ar raglen amserlen y datblygiad, bydd angen i’r darpar ddatblygwyr ddarparu neu archebu’r seilwaith sy’n ofynnol i ganiatáu i’r datblygiad fynd yn ei flaen.

7.1.3 Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda Dwr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau na fydd datblygiadau newydd yn rhoi pwysau arwyddocaol ar y seilwaith presennol nac yn effeithio’n arwyddocaol ar yr ansawdd amgylcheddol. Bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â’r asiantaethau hynny a darparwyr gwasanaethau eraill, y cwmnïau cyfleustodau a’r sector preifat i sicrhau’r ddarpariaeth seilwaith ofynnol ar yr amser gorau posibl o ran symud tuag at gyflawni amcanion y Cynllun, a bydd yn sicrhau mesurau priodol i liniaru’r effeithiau andwyol arwyddocaol y byddai datblygiad newydd yn eu cael ar yr amgylchedd naturiol. Bydd y Canllawiau Cynllunio Atodol a’r Briffiau Datblygu ar Safleoedd Strategol yn rhoi gwybodaeth fwy manwl am ofynion o ran y seilwaith ac am gydweithio er mwyn sicrhau cyflenwi.

7.1.4 Bydd gallu’r sector preifat, a’r sector cyhoeddus i ryw raddau, i gyflawni datblygiadau newydd a’r gwelliannau cysylltiedig i’r seilwaith yn cael ei ddylanwadu’n gryf gan amgylchiadau economaidd allanol. Am y rheswm hwn, mae cyflymder y gwaith datblygu’n debygol o amrywio dros gyfnod y cynllun.

7.1.5 Bydd y Cyngor hefyd yn cydweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol cyfagos i sicrhau bod CDLl Sir Gaerfyrddin wedi’i alinio â’u strategaethau hwy ac er mwyn pennu a lleihau effeithiau cyfunol tebygol cynigion y Cynllun.

7.1.6 Mae’r tabl isod yn dangos y polisïau strategol a nodir ym Mhennod 5 o’r CDLl hwn ac yn nodi’r mecanweithiau i’w gweithredu. Mae’n disgrifio’r partneriaid a’r asiantaethau mewnol ac allanol a fydd yn cyfrannu at eu gweithredu, a lle bo’n briodol bydd yn disgrifio’r offer a ddefnyddir, fel y Canllawiau Cynllunio Atodol a’r Briffiau Datblygu ac ati.

7.1.7 Bydd y llwyddiant o ran gweithredu’r Cynllun yn cael ei fonitro’n barhaus a chaiff mecanweithiau ychwanegol priodol eu hystyried er mwyn sicrhau bod y prosesau gorau ar waith ac y defnyddir y wybodaeth briodol i oleuo a llywio’r gwaith gweithredu.

7.1.8 Mae’r tabl canlynol yn disgrifio sut y caiff y polisïau strategol eu rhoi ar waith.

Polisi strategol Mecanwaith ar gyfer Gweithredu (heb fod yn hollgynhwysol) Cysylltiadau, Asiantaethau a Phartneriaid Strategol Gofynion
SP1
Lleoedd Cynaliadwy
• Polisi a chanllawiau cynllunio
• Polisi a chynigion y CDLl hwn gan gynnwys cysylltiadau â SP2 a GP1.
• Lleoliad y datblygiad mewn modd sy’n gyson â’r strategaeth.
• Paratoi a mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau.
• Y Strategaeth Gymunedol Integredig.
• Strategaeth Gymunedol Integredig gyda chysylltiadau hyd at y bwrdd gwasanaethau lleol.
• Cyngor Sir Caerfyrddin yn cymryd rhan yn drawsadrannol
• LlC (Adran yr Economi a Thrafnidiaeth)
• Fforwm Trafnidiaeth Rhanbarthol
• Bwrdd Dinas Ranbarth Bae Abertawe
• Cymunedau’n cymryd rhan wrth baratoi’r Canllawiau Cynllunio Atodol
• Synergedd corfforaethol.
• Gweithredu canllawiau a dehongli gofynion polisi.
SP2
Y Newid yn yr Hinsawdd
• Polisi a chanllawiau cynllunio
• Polisi a chynigion y CDLl hwn gan gynnwys cysylltiadau â SP1 a pholisïau eraill
• Lleoliad y datblygiad mewn modd sy’n gyson â’r strategaeth
• Paratoi a mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Strategol
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau
• Y Strategaeth Gymunedol Integredig
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• Bwrdd gwasanaethau lleol.
• Heddlu Dyfed Powys.
• Strategaeth gorfforaethol.
• Cyfoeth Naturiol Cymru.
• Datblygwyr.
• Synergedd corfforaethol.
• Gweithredu canllawiau a dehongli gofynion polisi.
SP3
Dosbarthu Cynaliadwy – Y Fframwaith Aneddiadau
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisi a chynigion y CDLl.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau.
• Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio.
• Lliniaru cynefinoedd a’r Canllawiau Cynllunio Atodol cysylltiedig (lle bônt yn berthnasol).
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• Awdurdodau cyfagos.
• Datblygwyr.
• Cyrff a phartneriaid ymgynghori statudol (gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru).
• Canolbwyntio ar ddatblygiad mewn ffordd sy’n cefnogi’r strategaeth.
• Cyflawni mewn Ardaloedd Twf penodol yn ddibynnol ar ddull integredig o roi sylw i gyfyngiadau.
SP4
Safleoedd Strategol
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisi a chynigion y CDLl.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau.
• Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio.
• Lliniaru cynefinoedd a’r Canllawiau Cynllunio Atodol cysylltiedig (lle bônt yn berthnasol).
• Paratoi a mabwysiadu’r  Canllawiau Cynllunio Atodol.
• Briffiau cynllunio a datblygu sy’n bodoli eisoes ac a gynigir.
• Dogfennau uwchgynllunio.
• Cyngor Sir (cymryd rhan yn drawsadrannol)
• Mentrau ar y cyd (LlC a Sir Gaerfyrddin)
• Cyrff a phartneriaid ymgynghori statudol
• Datblygwyr.
• Fforwm Trafnidiaeth Rhanbarthol.
• Bwrdd Dinas Ranbarth Bae Abertawe.
• Materion ansawdd cynefinoedd a dŵr (lle bônt yn gymwys).
• Cyllid ariannol a chyllid grantiau.
SP5
Tai

SP6
Tai Fforddiadwy
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisi a chynigion y CDLl (gan gynnwys dyraniadau preswyl).
• Paratoi a mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol.
• Briffiau cynllunio a datblygu sy’n bodoli eisoes.
• Dogfennau uwchgynllunio.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau.
• Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio.
• Y Strategaeth Gymunedol Integredig.
• Y Strategaeth Dai.
• Asesiad o’r Farchnad Dai Leol.
• Yr angen am dai fforddiadwy.
• Pecyn Cymorth Three Dragons.
• Cyfrif Carafanau Sipsiwn a Theithwyr chwe-misol.
• Asesiad o Fethodoleg Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr fel y dangosir yn Atodiad 1 o Bapur Pwnc 11 Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr.
• Cyngor Sir Caerfyrddin (cymryd rhan yn drawsadrannol).
• Cyrff a phartneriaid ymgynghori statudol.
• Datblygwyr.
• Asiantau.
• Penseiri.
• Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
• Cynghorau Cymunedol lleol a Chynghorau Tref.
• Swyddogion Galluogi Tai Gwledig.
• Bwrdd Gwasanaethau Lleol.
• Yn dibynnu i raddau  ar gyflenwi’r caniatâd presennol
• Dylanwad amodau’r farchnad
• Materion o ran dibynnu ar gyllid a grantiau
• Adnabod a chyflenwi Safleoedd addas i Sipsiwn a Theithwyr
SP7
Dyraniadau Tir Cyflogaeth
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisi a chynigion y CDLl.
• Paratoi a mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol.
• Briffiau cynllunio a datblygu.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau.
• Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio.
• Astudiaeth o dir cyflogaeth a monitro safleoedd.
• Strategaethau economaidd ac adfywio.
• Rheoli gwastraff.
• Strategaeth Gymunedol Integredig.
• Cyngor Sir Caerfyrddin (cymryd rhan yn drawsadrannol).
• Cyrff a phartneriaid ymgynghori statudol.
• Bwrdd Gwasanaethau Lleol.
• LlC (Adran yr Economi a Thrafnidiaeth).
• Fforwm Trafnidiaeth Rhanbarthol.
• Bwrdd Dinas Ranbarth Bae Abertawe.
• Mentrau ar y cyd (LlC a Sir Gaerfyrddin).
• Cynghorau cymunedol lleol a chynghorau tref.
• Datblygwyr, asiantau, penseiri.
• Amodau’r farchnad ac argaeledd cyllid.
SP8
Manwerthu
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisi a chynigion y CDLl.
• Uwchgynlluniau a briffiau cynllunio a datblygu perthnasol.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau.
• Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio.
• Astudiaeth o Fanwerthu ac Adeiladau Masnachol mewn Canol Trefi a’u monitro.
• Asesiadau effaith manwerthu.
• Cyngor Sir Caerfyrddin
• Rheolwyr Canol Tref
• Datblygwyr
• Asiantau a Phenseiri
• Busnesau manwerthu a chanol tref.
• Rhoi polisïau ar waith a chynnal lefelau manwerthu (lle bo’n berthnasol).
• Amodau’r farchnad.
SP9
Trafnidiaeth
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisi a chynigion y CDLl
• Lleoliad y datblygiad mewn modd sy’n gyson â’r strategaeth
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau
• Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
• Blaenoriaethau Sir Gaerfyrddin ar gyfer Trafnidiaeth
• Blaenraglen Cefnffyrdd LlC
• Cynlluniau Teithio Gwyrdd
• Strategaeth Beicio
• Cynllun Gwella Hawliau Tramwy
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• Fforwm Trafnidiaeth Rhanbarthol.
• Bwrdd Dinas Ranbarth Bae Abertawe.
• Datblygwyr.
• Yr Asiantaeth Cefnffyrdd.
• Darparwyr Trafnidiaeth.
• Network Rail.
• LlC.
• Mentrau ar y cyd (LlC a Sir Gaerfyrddin).
• Cysylltiadau rhannol â chyflenwi safleoedd strategol (gweler polisi SP4).
• Cyllid ariannol a chyllid grant.
SP10
Adnoddau Mwynau
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisïau a chynigion y CDLl.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau.
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• Awdurdodau Cyfagos.
• Y Diwydiant Mwynau.
• Gweithgor Mwynau a Gwastraff Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru.
• Gweithgor Agregau Rhanbarthol De Orllewin Cymru.
• Mewnbwn cyfyngedig o ran sicrhau y caiff y gofyniad am fwynau ei ddiwallu.
• Mae’r ddarpariaeth safleoedd bresennol yn fwy na’r angen.
SP11
Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisïau a chynigion y CDLl hwn.
• Canllawiau Cynllunio Atodol: Coedwig Brechfa.
• Canllawiau Cynllunio Atodol: Ynni Adnewyddadwy Cyffredinol.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• LlC.
• Awdurdodau cyfagos – Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
• Darparwyr seilwaith ffermydd gwynt a datblygwyr preifat.
• Yr Arolygiaeth Gynllunio.
• Canolbwyntio ar ddatblygu mewn modd sy’n gyson â TAN8.
• Dylanwad cymhelliannau a chymorth ariannol.
SP12
Rheoli Gwastraff
• Polisi a chanllawiau cynllunio a pholisi a chynigion y CDLl.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau.
• Darparu’r Canllawiau Cynllunio Atodol: Safle Rheoli Gwastraff Nant-y-caws.
• Strategaeth Wastraff Ranbarthol.
• Astudiaeth Tir Cyflogaeth.
• TAN 21: Gwastraff.
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• Awdurdodau cyfagos.
• CWM Environmental.
• Gweithgor Mwynau a Gwastraff Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru.
• Grŵp Cynllunio Rhanbarthol De Orllewin Cymru.
• Cyfoeth Naturiol Cymru.
• Datblygwyr, asiantau a phenseiri.
• Rhoi polisïau ar waith.
• Lefelau darpariaeth a gofynion tir.
• Gofynion a safonau amgylcheddol.
SP13
Gwarchod a Gwella’r Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol
• Polisi a chanllawiau cynllunio.
• Polisïau a chynigion y CDLl.
• Rheoli cadwraeth a datblygiadau, a’r broses o wneud penderfyniadau.
• Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio.
• Canllawiau Cynllunio Atodol: Dylunio a’r Canllawiau Cynllunio Atodol: Adeiladau o Bwysigrwydd Lleol.
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• Cadw.
• Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed.
• Datblygwyr a pherchnogion eiddo.
• Cyllid ar gael ar gyfer lliniaru a chymorth grant ar gyfer gwaith atgyweirio.
SP14
Gwarchod a Gwella’r Amgylchedd Naturiol
• Polisi a chanllawiau cynllunio.
• Polisïau a chynigion y CDLl hwn.
• Paratoi a mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol; ACA Caeau Mynydd Mawr; Canllawiau Cynllunio Atodol: Bioamrywiaeth, Canllawiau Cynllunio Atodol: Coed, Tirweddu a Datblygu, Canllawiau Cynllunio Atodol: Tirwedd a chanllawiau dylunio Ardal Tirwedd Arbennig.
• Briffiau cynllunio a datblygu.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau.
• Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio.
• Strategaeth Gymunedol Integredig.
• Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol.
• Cyngor Sir Caerfyrddin (cymryd rhan yn draws-adrannol).
• Cyrff a phartneriaid ymgynghori statudol (gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru).
• Cadw at y gofynion deddfwriaethol.
• Rhoi polisïau ar waith.
• Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.
SP15
Twristiaeth a’r Economi Ymwelwyr
• Polisi a chanllawiau cynllunio.
• Polisïau a chynigion y CDLl.
• Strategaeth Gymunedol Integredig.
• Y diwydiant twristiaeth.
• Cyngor Sir Caerfyrddin (cymryd rhan yn drawsadrannol).
• Cyrff a phartneriaid ymgynghori statudol.
• Rhoi polisïau ar waith.
• Cyllid ariannol a chyllid grant.
SP16
Cyfleusterau Cymunedol
• Polisi a chanllawiau cynllunio.
• Polisïau a chynigion y CDLl.
• Asesiad Mannau Gwyrdd.
• Strategaeth Gymunedol Integredig.
• Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio.
• Cyngor Sir Caerfyrddin (cymryd rhan yn drawsadrannol)
• Cyrff a phartneriaid ymgynghori statudol
• Cynghorau cymunedol lleol a chynghorau tref.
• Bwrdd Gwasanaethau Lleol.
• Mentrau Iaith.
• Cadw at y gofynion deddfwriaethol
• Rhoi polisïau ar waith
• Cyllid ariannol a chyllid grant.
SP17
Seilwaith
• Polisi a chanllawiau cynllunio.
• Polisïau a chynigion y CDL.l
• Gwelliannau a drefnwyd i’r seilwaith.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau.
• Cyfraniadau a rhwymedigaethau cynllunio.
• Darparu’r Canllawiau Cynllunio Atodol a’r briffiau datblygu ar gyfer safleoedd strategol.
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• Cyrff ymgynghori statudol (gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru) a darparwyr y seilwaith.
• Yn dibynnu i raddau  ar raddfa’r datblygiad ac amodau’r farchnad.
• Yn gysylltiedig ag SP4 ac SP9.
SP18
Yr Iaith Gymraeg
• Polisi a chanllawiau cynllunio.
• Polisïau a chynigion y CDLl hwn.
• Rheoli datblygiadau a’r broses o wneud penderfyniadau.
• Canllawiau Cynllunio Atodol: Yr Iaith Gymraeg.
• Cyngor Sir Caerfyrddin.
• Strategaeth Gymunedol Integredig.
• Mentrau Iaith.
• Rhoi polisïau ar waith.

Tabl 10 – Gweithredu Polisiau Strategol

7.2 Monitro

7.2.1 Mae’r adran hon yn amlinellu fframwaith monitro a ddefnyddir fel offeryn i fesur y gwaith o weithredu polisïau’r CDLl. Mae’r fframwaith yn cynnwys cyfres o ddangosyddion perfformiad craidd a lleol y bwriedir iddynt fonitro effeithiau a llwyddiannau polisïau’r Cynllun.

7.2.2 Caiff y wybodaeth a gesglir trwy’r fframwaith monitro ei chyflwyno yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol. Rhaid i’r Adroddiad gynnwys y flwyddyn ariannol flaenorol a rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31ain Hydref bob blwyddyn ar ôl mabwysiadu’r CDLl. Yr Adroddiad yw’r prif fecanwaith ar gyfer mesur gweithrediad a llwyddiant polisïau’r Cynllun a bydd yn adrodd ar faterion sy’n effeithio ar amcanion y Cynllun. Bydd yr Adroddiad hefyd yn dadansoddi effeithiolrwydd a pherthnasedd parhaus polisïau’r Cynllun yng ngoleuni polisïau cenedlaethol a newidiadau mewn amgylchiadau. Gallai canfyddiadau’r Adroddiad arwain at newidiadau i bolisïau er mwyn gwella eu heffeithiolrwydd, ac mewn achosion mwy eithafol, gallent arwain at adolygu’r Cynllun yn rhannol neu yn gyfan. Bydd yr Adroddiad yn nodi canlyniadau’r fframwaith monitro a bydd y data a gesglir, lle bo’n ofynnol, yn rhoi naratif cyd-destunol i bob canfyddiad. Lle bo’n briodol, bydd hynny’n rhoi sylw i’r dewisiadau a nodir ym mharagraff 7.2.5 isod.

7.2.3 Beth bynnag yw canfyddiadau’r Adroddiad Monitro Blynyddol, bydd yn ofynnol i’r Cyngor gynnal adolygiad o’r Cynllun cyfan bob 4 blynedd. Gallai hyn arwain at gynhyrchu Cynllun newydd neu newid agweddau o’r Cynllun.

7.2.4 Mae Rheoliad 37 CDLl yn rhagnodi dau ddangosydd craidd y mae’n rhaid eu cynnwys yn yr Adroddiad Monitro:

Caiff y ddau ddangosydd hyn a dangosyddion craidd eraill sy’n ofynnol gan LlC eu nodi â seren yn y fframwaith monitro. Caiff dangosyddion cyd-destunol eu defnyddio’n ogystal yn yr Adrodd Monitro Blynyddol i werthuso ai’r Cynllun mewn gwirionedd sy’n methu â chyrraedd y targedau ynteu a oes ffactorau allanol (fel yr economi neu newidiadau mewn ffynonellau cyllid ac ati), sydd y tu hwnt i reolaeth y system cynllunio, sy’n dylanwadu ar ganlyniadau’r fframwaith.

7.2.5 Mae’r dewisiadau canlynol ar gael i’r Cyngor o ran pob un o’r dangosyddion a’u sbardunwyr. Bydd yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn asesu difrifoldeb y sefyllfa sy’n gysylltiedig â phob dangosydd ac yn argymell ymateb priodol.

Parhau i fonitro: Lle bo’r dangosyddion yn awgrymu bod polisïau’r CDLl yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol ac nad oes rheswm dros gynnal adolygiad.

Angen Hyfforddiant ar Swyddogion / Aelodau: Lle bo’r dangosyddion sy’n gysylltiedig â cheisiadau cynllunio’n awgrymu nad yw’r polisïau’n cael eu rhoi ar waith fel y’u bwriadwyd a bod angen rhagor o hyfforddiant ar swyddogion neu aelodau.

Canllawiau Cynllunio Atodol / Briffiau Datblygu sy’n ofynnol: Er y bydd y Cyngor yn paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol a Briffiau Datblygu drwy gydol cyfnod y Cynllun, mae’n bosibl y bydd dangosyddion yn awgrymu y dylid darparu canllawiau pellach i ddatblygwyr ar sut i ddehongli polisi’n gywir. Hefyd, os nad yw safleoedd yn dod i’r amlwg fel y disgwyliwyd, bydd y Cyngor yn ymgysylltu’n weithredol â datblygwyr / tirfeddianwyr i gyflymu Briffiau Datblygu ar safleoedd allweddol er mwyn helpu i ddechrau’r broses ddatblygu.

Ymchwilio Polisi: Lle bo dangosyddion monitro’n awgrymu nad yw polisïau’r CDLl mor effeithiol ag y bwriadwyd, caiff ymchwilio pellach, gan gynnwys defnyddio dangosyddion cyd-destunol (fel y nodwyd uchod) a chymariaethau ag awdurdodau lleol eraill ac ystadegau cenedlaethol lle bo’n briodol, eu cynnal er mwyn llywio unrhyw benderfyniad i adolygu’r polisi’n ffurfiol.

Adolygu’r Polisi: Lle bo dangosyddion monitro’n awgrymu y byddai newidiadau i’r CDLl yn fuddiol, bydd y Cyngor yn ystyried addasu’r Cynllun fel bo’n briodol.

Strategaeth Ofodol
Amcanion Strategol Perthnasol: AS2, AS3
Prif Bolisïau’r CDLl: SP1, SP3, SP4, SP5, SP7
Targed Polisi Dangosyddion Targed Monitro Blynyddol/  Interim Sbardunwr Asesu
Dylid lleoli 85% o’r holl ddatblygiadau tai a ganiateir ar safleoedd dyranedig. % y caniatadau tai cyffredinol sydd ar safleoedd dyranedig.* Dylid lleoli 85% o’r holl ddatblygiadau tai a ganiateir bob blwyddyn ar safleoedd dyranedig. Cyfran yr aneddiadau a ganiateir ar safleoedd dyranedig yn gwyro 20% +/- o’r targed a nodwyd.
Y cyfrannau canlynol o anheddau i’w caniatáu ar ddyraniadau tai fel a ganlyn:
Ardaloedd Twf 62%
Canolfannau Gwasanaethau 10%
Canolfannau Gwasanaethau Lleol 12%
Cymunedau Cynaliadwy 15%
Cyfran y tai a ganiatawyd ar ddyraniadau fesul rhes yr hierarchaeth aneddiadau. Dosbarthiad yr anheddau i fod yn unol â’r cyfrannau a nodwyd yn y targed. Dosbarthiad yr anheddau mewn Ardaloedd Twf, Canolfannau Gwasanaethau a Chanolfannau Gwasanaethau Lleol yn gwyro 20% +/- o’r cyfrannau a nodwyd yn y targed.
Dosbarthiad yr anheddau mewn Cymunedau Cynaliadwy’n gwyro 10% +/- o’r cyfrannau a nodwyd yn y targed.
Cyflymu argaeledd safleoedd cyflogaeth strategol. Caniatadau ar gyfer, neu argaeledd, seilwaith ar y safle neu gysylltiedig sy’n hwyluso’r gwaith o gyflenwi safleoedd cyflogaeth strategol (ha) fel y rhestrir ym Mholisi SP4.* Erbyn 2018, bernir y bydd yr holl safleoedd cyflogaeth strategol ar gael yn syth neu ar gael yn y tymor byr h.y. bydd y safleoedd naill ai’n cael budd o ganiatâd cynllunio neu argaeledd seilwaith ar y safle neu gysylltiedig i hwyluso datblygu. Erbyn 2018, nid yw’r holl safleoedd cyflogaeth strategol ar gael yn syth neu ar gael yn y tymor byr.
 
Ffynonellau Data: Cofrestr y Ceisiadau Cynllunio, Cydastudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai, Cyngor Sir Caerfyrddin (Adolygiad Tir Cyflogaeth).

Datblygu Cynaliadwy
Amcanion Strategol Perthnasol: AS1, AS2, AS5
Prif Bolisïau’r CDLl: SP1, SP2
Targed Polisi Dangosyddion Targed Monitro Blynyddol/ Interim Sbardunwr Asesu
Erbyn 2021 caiff 32% o’r datblygiadau ar ddyraniadau tai eu cyflenwi ar safleoedd a ddatblygwyd o’r blaen. Caniatâd ar gyfer datblygiadau preswyl ar ddyraniadau tai a ddatblygwyd o’r blaen.* Dylai 29% o’r anheddau a ganiatawyd ar safleoedd dyranedig fod ar ddyraniadau a ddatblygwyd o’r blaen.

Cesglir gwybodaeth yn flynyddol. Mae’r ffigur monitro blynyddol uchod yn rhoi ystyriaeth i nifer yr anheddau a gwblhawyd eisoes ar safleoedd dyranedig a ddatblygwyd o’r blaen.
Caniateir llai na 29% (gydag amrywiant ychwanegol o 20% o dan y ffigur targed i ganiatáu am hyblygrwydd) o anheddau trwy ddyraniadau tai ar dir a ddatblygwyd o’r blaen dros gyfnod o ddwy flynedd.
Ni ddylai unrhyw ddatblygiad sy’n agored iawn i niwed ddigwydd mewn parthau perygl llifogydd C1 ac C2 yn groes i Bolisi Cynllunio Cymru a chanllawiau TAN 15. Nid yw nifer y datblygiadau sy’n agored iawn i niwed (yn unol â chategori datblygu paragraff 5.1 TAN 15) a ganiateir mewn parthau perygl llifogydd C1 ac C2 yn bodloni holl brofion TAN 15 (paragraff 6.2 i-v).* Ni chaniateir unrhyw geisiadau ar gyfer datblygiadau sy’n agored iawn i niwed mewn parthau perygl llifogydd C1 ac C2 yn groes i gyngor Cyfoeth Naturiol Cymru. 1 cais wedi’i ganiatáu ar gyfer datblygiad sy’n agored iawn i niwed mewn parth perygl llifogydd C1 neu C2, yn groes i gyngor Cyfoeth Naturiol Cymru.

Nodyn:  Bydd yn ofynnol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol gyfeirio’r holl geisiadau maent yn bwriadu eu cymeradwyo ar gyfer datblygu gwasanaethau brys neu ddatblygiad  sy’n agored iawn i niwed, lle bo’r holl dir lle bwriedir lleoli’r datblygiad mewn parth llifogydd C2, i Weinidogion Cymru. Yn achos datblygiad preswyl, y trothwy ar gyfer rhoi gwybod i Weinidogion Cymru yw 10 annedd neu fwy, gan gynnwys fflatiau.
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Systemau Draenio Cynaliadwy. Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Systemau Draenio Cynaliadwy.   Canllawiau Cynllunio Atodol heb eu cynhyrchu o fewn 5 mis i fabwysiadu’r Cynllun.
 
Ffynonellau Data: Cofrestr y Ceisiadau Cynllunio, Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai

Tai
Amcanion Strategol Perthnasol: AS3, AS14
Prif Bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol: PS5, PS6, H1, H7, AH1
Targed Polisi Dangosyddion Targed Monitro Blynyddol/ Interim Sbardunwr Asesu
Cynnal cyflenwad o dir tai am o leiaf 5 mlynedd. Y cyflenwad o dir tai a gymerwyd o’r Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai cyfredol (TAN 1).* Cynnal cyflenwad o dir tai am o leiaf 5 mlynedd. Cyflenwad y tir tai yn disgyn yn is na’r gofyniad 5 mlynedd.
Darparu 15,197 o anheddau erbyn 2021. Nifer yr anheddau a ganiateir yn flynyddol.* Caniatáu 1,405 o anheddau’n flynyddol. Caniatáu 20% +/- 2,810 o anheddau yn y ddwy flynedd gyntaf ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.
Darparu 2,375 o anheddau ar hap-safleoedd erbyn 2021. Nifer yr anheddau a ganiateir ar hap-safleoedd. Caniatáu 186 o anheddau’n flynyddol ar hap-safleoedd. Caniatáu 20% +/- 372 o anheddau ar hap-safleoedd yn y 2 flynedd gyntaf ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.
Darparu safle Sipsiwn a Theithwyr i ddiwallu’r angen dynodedig yn ardal Llanelli. Nifer y lleiniau Sipsiwn a Theithwyr gofynnol. Canfod safle Sipsiwn a Theithwyr i ddiwallu’r angen dynodedig yn ardal Llanelli erbyn 2016. 
Darparu safle Sipsiwn a Theithwyr i ddiwallu’r angen dynodedig yn ardal Llanelli erbyn 2017.
Methu â chanfod safle erbyn 2016.
Methu â darparu safle erbyn 2017.
Monitro’r angen am safleoedd tramwy i Sipsiwn a Theithwyr. Nifer flynyddol y carafanau Sipsiwn a Theithwyr awdurdodedig ac anawdurdodedig yn y sir. Dim safle Sipsiwn a Theithwyr wedi’i gofnodi mewn un anheddiad am 3 mlynedd yn olynol. 1 safle Sipsiwn a Theithwyr anawdurdodedig wedi’i gofnodi mewn un anheddiad am 3 mlynedd yn olynol.
Caniatáu 2,121 o anheddau fforddiadwy erbyn 2021. Nifer yr anheddau fforddiadwy a ganiateir.* Caniatáu 226 o anheddau fforddiadwy yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.

Caniatáu 452 o anheddau yn ystod y 2 flynedd gyntaf ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.
Peidio â chaniatáu 20% +/- 452 o anheddau fforddiadwy yn ystod y 2 flynedd gyntaf ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.
Targedau tai fforddiadwy i adlewyrchu’r amgylchiadau economaidd. Targed canrannol o ran tai fforddiadwy ym Mholisi AH1. Y targed i adlewyrchu amgylchiadau economaidd. Os yw prisiau tai cyfartalog yn codi 5% yn uwch na phris sylfaen lefelau 2013 a’u cynnal dros 2 chwarter, gall yr Awdurdod gynnal profion hyfywedd ychwanegol ac addasu’r targedau a osodwyd ym Mholisi AH1.
Anheddau fforddiadwy i’w caniatáu ar ddyraniadau tai i bob ardal is-farchnad fel a ganlyn:
• Llanymddyfri, Llandeilo a Gogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin
• Sanclêr a’r Ardaloedd Gwledig o’i Chwmpas
• Caerfyrddin a’i Hardaloedd Gwledig
• Castell Newydd Emlyn a’r Ardal Wledig Ogleddol
• Cydweli, Porth Tywyn, Pen-bre a Chwm Gwendraeth Isaf
• Llanelli
• Rhydaman / Cross Hands a Dyffryn Aman
Nifer yr anheddau fforddiadwy a ganiateir ar ddyraniadau tai i bob ardal is-farchnad. Dylai cyfran yr anheddau fforddiadwy a ganiateir ar ddyraniadau preswyl fod yn unol â Pholisi AH1 fel a ganlyn:
• Llanymddyfri, Llandeilo a Gogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin – 30%
• Sanclêr a’r Ardaloedd Gwledig o’i Chwmpas – 30%
• Caerfyrddin a’i Hardaloedd Gwledig 30%
• Castell Newydd Emlyn a’r Ardal Wledig Ogleddol – 20%
• Cydweli, Porth Tywyn, Pen-bre a Chwm Gwendraeth Isaf – 20%
• Llanelli – 20%
• Rhydaman / Cross Hands a Dyffryn Aman – 10%
Nid yw cyfran yr anheddau fforddiadwy a ganiateir ar ddyraniadau preswyl yn unol â pholisi AH1.
 
Ffynonellau Data: Cofrestr y Ceisiadau Cynllunio, Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai, Cyfrif Carafanau Sipsiwn a Theithwyr chwe-misol, y Gofrestr o Wersylloedd Anghyfreithlon, StatsCymru

Yr Economi a Chyflogaeth
Amcanion Strategol Perthnasol: AS11
Prif Bolisïau’r CDLl: SP7, EMP1, EMP6
Targed Polisi Dangosyddion Targed Monitro Blynyddol/ Interim Sbardunwr Asesu
111.13ha o dir cyflogaeth a ddyrannwyd gan Bolisi SP7 yn cael ei ddatblygu dros gyfnod y Cynllun. Caniatadau wedi’u rhoi i ddatblygu ar dir cyflogaeth a restrir ym Mholisi SP7.*

Caniatadau ar gyfer, neu argaeledd, seilwaith ar y safle neu gysylltiedig sy’n hwyluso’r gwaith o gyflenwi safleoedd cyflogaeth (ha) fel y rhestrir ym Mholisi SP7.*
25% o’r tir cyflogaeth a ddyrannwyd gan Bolisi SP7 naill ai’n cael caniatâd cynllunio neu ar gael i’w ddatblygu cyn pen y 2 flynedd gyntaf ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.

At ddibenion monitro tir cyflogaeth, bydd ‘ar gael’ yn dangos bod y safleoedd naill ai’n cael budd o ganiatâd cynllunio neu argaeledd seilwaith ar y safle neu gysylltiedig i hwyluso’r gwaith datblygu.
Llai na 25% o dir cyflogaeth wedi’i ddyrannu gan Bolisi SP7, gydag amrywiad pellach o 20% o dan y ffigur targed i ganiatáu am hyblygrwydd, wedi’i ganiatáu neu ar gael cyn pen 2 flynedd ar ôl mabwysiadu’r Cynllun. Naratif blynyddol i ddisgrifio cynnydd tuag at gyflenwi.
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Fenter Wledig. Cynhyrchu’r Canllawiau Cynllunio Atodol.   Canllawiau Cynllunio Atodol heb eu cynhyrchu cyn pen 9 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.
 
Ffynonellau Data: Cyngor Sir Caerfyrddin (Adolygiad Tir Cyflogaeth), Ceisiadau a Chaniatadau Cynllunio.
 
Manwerthu
Amcanion Strategol Perthnasol: AS9, AS11
Prif Bolisïau’r CDLl: SP8, RT2, RT3
Targed Polisi Dangosyddion Targed Monitro Blynyddol/ Interim Sbardunwr Asesu
Sicrhau nad yw’r cyfraddau gwacter yn ardaloedd Prif Ffryntiad Manwerthu a Ffryntiad Manwerthu Eilaidd trefi’r Ardaloedd Twf yn tyfu i lefel a fyddai’n cael effaith andwyol ar fywiogrwydd y canolfannau hynny. Cyfraddau gwacter blynyddol yr eiddo masnachol yn ardaloedd Prif Ffryntiad Manwerthu a Ffryntiad Manwerthu Eilaidd trefi’r Ardaloedd Twf. Cyfraddau gwacter eiddo masnachol yng nghanol trefi Caerfyrddin, Rhydaman a Llanelli. Monitro am wybodaeth.
Cynnal cyfanrwydd y Prif Ffryntiad Manwerthu. Cyfran yr unedau a ddefnyddir at ddibenion manwerthu A1 a leolir yn y Prif Ffryntiad Manwerthu fel y dynodwyd gan Bolisi RT2. 65% neu ragor o’r unedau yn y Prif Ffryntiad Manwerthu’n cael eu defnyddio at ddibenion A1. Llai na 65% o’r unedau yn y Prif Ffryntiad Manwerthu’n cael eu defnyddio at ddibenion A1 gydag amrywiad ychwanegol o 10% o dan y ffigur targed i ganiatáu ar gyfer hyblygrwydd.
 
Ffynonellau Data: Ceisiadau a chaniatadau cynllunio, Astudiaeth o Adeiladau Manwerthu a Masnachol Canol Trefi Sir Gaerfyrddin

Trafnidiaeth
Amcanion Strategol Perthnasol: AS2, AS10
Prif Bolisïau’r CDLl: SP9, GP4, TR4
Targed Polisi Dangosyddion Targed Monitro Blynyddol/ Interim Sbardunwr Asesu
Gweithredu’r cynlluniau ffyrdd a nodir ym Mholisi SP9. Cynnydd tuag at weithredu’r cynlluniau ffyrdd a nodir ym Mholisi SP9 yn unol â’r amserlenni cyflenwi. Gweithredu yn unol ag amserlenni cyflenwi. Nid yw’r cynlluniau ffyrdd a nodi ym Mholisi SP9 wedi’u cyflenwi’n unol â’r amserlenni cyflenwi.
Gweithredu’r cynlluniau beicio a nodir ym Mholisi TR4. Cynnydd tuag at weithredu’r cynlluniau beicio a nodir ym Mholisi TR4. Gweithredu yn unol â’r amserlenni cyflenwi erbyn 2021. Heb weithredu’r cynlluniau beicio a nodir yn y Cynllun Trafnidiaeth Lleol a’r Cynllun Trafnidiaeth Lleol sydd ar y gweill. Os nad oes cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer prosiect erbyn adolygu’r Cynllun am y tro cyntaf.
 
Ffynonellau Data: Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynllun Trafnidiaeth Lleol sydd ar y gweill

Mwynau
Amcanion Strategol Perthnasol:  AS5
Prif Bolisïau’r CDLl: SP10, MPP1, MPP2, MPP3, MPP4, MPP5, MPP6
Targed Polisi Dangosyddion Targed Monitro Blynyddol/ Interim Sbardunwr Asesu
Cynnal banc tir agregau 10 mlynedd o leiaf ar gyfer creigiau caled. Banc tir agregau ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin.* Cynnal banc tir 10 mlynedd o leiaf ar gyfer creigiau caled. Banc tir creigiau caled o lai na 10 mlynedd.
Cynnal banc tir agregau 7 mlynedd o leiaf ar gyfer tywod a graean. Banc tir agregau cyfunol ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin gyda’r awdurdodau cyfagos sef Cyngor Sir Penfro, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chyngor Sir Ceredigion.* Cynnal banc tir 7 mlynedd o leiaf ar gyfer tywod a graean. Banc tir tywod a graean o lai na 7 mlynedd.
Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad parhaol sy’n sterileiddio yn y clustogfeydd mwynau (ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir ym Mholisi Cynllunio Mwynau Cymru). Nifer y caniatadau cynllunio ar gyfer datblygiadau parhaol sy’n sterileiddio a roddir mewn clustogfa fwynau. Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad parhaol sy’n sterileiddio mewn clustogfa fwynau yn groes i Bolisi MPP2. 5 datblygiad parhaol sy’n sterileiddio wedi’u caniatáu mewn clustogfa fwynau yn groes i Bolisi MPP2 dros 3 blynedd yn olynol.
Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad parhaol sy’n sterileiddio mewn ardal diogelu mwynau (ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir ym Mholisi MPP3). Nifer y caniatadau cynllunio ar gyfer datblygiadau parhaol sy’n sterileiddio a roddir mewn ardal diogelu mwynau. Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad parhaol sy’n sterileiddio mewn clustogfa fwynau yn groes i Bolisi MPP3. 5 datblygiad parhaol sy’n sterileiddio wedi’u caniatáu mewn clustogfa fwynau yn groes i Bolisi MPP3 dros 3 blynedd yn olynol.
Ystyried gorchmynion gwahardd ar safleoedd mwynau segur nad ydynt yn debygol o gael eu gweithio yn y dyfodol. Nifer y gorchmynion gwahardd a gyhoeddir ar safleoedd segur. Sicrhau y cyhoeddir gorchmynion gwahardd cyn pen 12 mis i’r safleoedd segur y bernir ei bod yn annhebygol y cânt eu gweithio eto yn y dyfodol (fel rhan o’r adolygiad blynyddol). Yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn methu â chyhoeddi gorchmynion gwahardd i safleoedd y bernir ei bod yn annhebygol y cânt eu gweithio eto yn y dyfodol.
 
Ffynonellau Data: Dosraniad Rhanbarthol adnoddau tywod a graean: Timau Mwynau Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, caniatadau cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin.

Ynni Adnewyddadwy
Amcanion Strategol Perthnasol: AS1, AS4, AS5
Prif Bolisïau’r CDLl: SP11, RE1, RE2, RE3
Targed Polisi Dangosyddion Targed Monitro Blynyddol/ Interim Sbardunwr Asesu
Cynhyrchu mwy o ynni yn y Sir o ffynonellau adnewyddadwy. Y capasiti a ganiateir o ran prosiectau trydan a gwres adnewyddadwy yn y sir (fesul MW). Cynnydd blynyddol yn y capasiti a ganiateir o ran prosiectau trydan a gwres adnewyddadwy dros gyfnod y Cynllun. Monitro at ddibenion gwybodaeth.
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ynni Adnewyddadwy Cyffredinol. Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol.   Heb gynhyrchu’r Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 9 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.
 
Ffynonellau Data: Ceisiadau Cynllunio.

Rheoli Gwastraff
Amcanion Strategol Perthnasol:  AS5
Prif Bolisïau’r CDLl: SP12, WPP1
Targed Polisi Dangosyddion Targed Monitro Blynyddol/ Interim Sbardunwr Asesu
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Safle Rheoli Gwastraff Nant-y-caws. Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol.   Heb gynhyrchu’r Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 5 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.
 
Ffynonellau Data:  Canllawiau Cynllunio Atodol

Priodweddau Amgylcheddol – Yr Amgylchedd Adeiledig a Naturiol
Amcanion Strategol Perthnasol: AS4
Prif Bolisïau’r CDLl: SP13, SP14, EQ1, EQ3, EQ4, EQ6, EQ7
Targed Polisi Dangosyddion Targed Monitro Blynyddol/ Interim Sbardunwr Asesu
Sicrhau o leiaf 100ha o gynefin addas i Fritheg y Gors yn ardal prosiect Caeau Mynydd Mawr yn ystod cyfnod y Cynllun. Hectarau o gynefin addas a reolir. Cynnydd parhaus o ran darparu cynefin addas a reolir. Dim cynnydd mewn unrhyw flwyddyn benodol.
Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd sy’n effeithio ar gyfanrwydd safleoedd Natura 2000. Nifer y ceisiadau cynllunio a ganiateir sy’n cael effaith andwyol ar gyfanrwydd safle Natura 2000. Dim ceisiadau cynllunio wedi’u cymeradwyo yn groes i gyngor CNC. 1 caniatâd cynllunio wedi’i roi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn groes i gyngor CNC.
Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd sy’n effeithio ar gyfanrwydd safle cadwraeth natur dynodedig. Nifer y ceisiadau cynllunio a ganiateir a allai gael effaith andwyol ar nodweddion safle cadwraeth natur gwarchodedig. Dim ceisiadau cynllunio wedi’u cymeradwyo yn groes i gyngor CNC neu ecolegydd yr awdurdod. 1 caniatâd cynllunio wedi’i roi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn groes i gyngor CNC neu ecolegydd yr awdurdod.
Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd sy’n cael effaith andwyol ar statws cadwraethol ffafriol rhywogaeth a warchodir gan Ewrop, neu’n achosi niwed sylweddol i rywogaethau a warchodir gan statudau eraill. Nifer y ceisiadau cynllunio a ganiateir sy’n cael effaith andwyol ar statws cadwraethol ffafriol rhywogaeth a warchodir gan Ewrop, neu’n achosi niwed sylweddol i rywogaethau a warchodir gan statudau eraill. Dim ceisiadau cynllunio wedi’u cymeradwyo yn groes i gyngor CNC neu ecolegydd yr awdurdod. 1 caniatâd cynllunio wedi’i roi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn groes i gyngor CNC neu ecolegydd yr awdurdod.
Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd sy’n cael effaith andwyol ar Ardal Tirwedd Arbennig. Nifer y ceisiadau cynllunio a ganiateir a allai gael effaith andwyol ar Ardal Tirwedd Arbennig. Dim ceisiadau cynllunio wedi’u cymeradwyo yn groes i gyngor CNC neu swyddog tirwedd yr awdurdod. 5 caniatâd cynllunio wedi’u rhoi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn groes i gyngor CNC neu swyddog tirwedd yr awdurdod dros gyfnod o 3 blynedd yn olynol.
Nid yw’r cynigion datblygu’n cael effaith andwyol ar adeiladau ac ardaloedd o ddiddordeb adeiledig neu hanesyddol a’u lleoliad. Achlysuron pan fyddai datblygu a ganiateir yn cael effaith andwyol ar Adeilad Rhestredig; Ardal Gadwraeth; Safle/Ardal o Arwyddocâd Archeolegol; neu Dirwedd, Parc a Gardd Hanesyddol neu eu lleoliad. Dim ceisiadau cynllunio wedi’u cymeradwyo lle ceir gwrthwynebiad heb ei ddatrys gan Swyddog Cadwraeth y Cyngor, Cadw neu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed. 5 caniatâd cynllunio wedi’u rhoi gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol lle ceir gwrthwynebiad heb ei ddatrys gan Swyddog Cadwraeth y Cyngor, Cadw neu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed dros gyfnod o 3 blynedd yn olynol.
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Dirweddau a Chanllaw Dylunio Ardaloedd Tirwedd Arbennig. Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol.   Heb gynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 7 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Archeoleg. Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol.   Heb gynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 7 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Fioamrywiaeth (gan gynnwys Safleoedd o Bwysigrwydd i  Gadwraeth Natur) Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol.   Heb gynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 12 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun (i’w fonitro’n rheolaidd wrth aros dynodiadau parhaus).
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ddylunio. Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ddylunio.   Heb gynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 5 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Adeiladau o Bwysigrwydd Lleol. Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Adeiladau o Bwysigrwydd Lleol.   Heb gynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 15 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Goed, Tirweddu a Datblygu. Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Goed, Tirweddu a Datblygu.   Heb gynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 15 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.
 
Ffynonellau Data: Cofrestr y Ceisiadau Cynllunio, Ymatebion i Ymgynghoriadau ar Geisiadau Cynllunio, Swyddog Prosiect Cadwraeth

Cyfleusterau Hamdden a Chymunedol
Amcanion Strategol Perthnasol: AS8, AS9
Prif Bolisïau’r CDLl: SP16, RT8, REC1
Targed Polisi Dangosyddion Targed Monitro Blynyddol/ Interim Sbardunwr Asesu
Darparu cyfleusterau cymunedol newydd a chadw a gwella’r cyfleusterau cymunedol presennol. Nifer y ceisiadau a gymeradwywyd ar gyfer darparu cyfleusterau cymunedol newydd.

Nifer y ceisiadau a gymeradwywyd a fyddai’n arwain at golli cyfleuster cymunedol.
Dim ceisiadau wedi’u cymeradwyo yn groes i Bolisïau SP16 a RT8. 1 cais wedi’i gymeradwyo yn groes i Bolisïau SP16 a RT8.
Gwrthsefyll colli mannau agored yn unol â darpariaethau Polisi REC1. Maint y mannau agored a gollwyd i ddatblygiadau (ha).* Ni ddylid colli unrhyw fan agored i ddatblygiad ac eithrio lle bo’n unol â Pholisi REC1. Collwyd man agored i ddatblygiad yn groes i ddarpariaethau Polisi REC1 sy’n arwain at golled net yn y mannau agored.
Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ofynion Mannau Agored ar gyfer Datblygiadau Newydd Cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol.   Heb gynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol cyn pen 15 mis ar ôl mabwysiadu’r Cynllun.
 
Ffynonellau Data: Ceisiadau a Chaniatadau Cynllunio

Yr Iaith Gymraeg
Amcanion Strategol Perthnasol: AS7
Prif Bolisïau’r CDLl: SP18
Targed Polisi Dangosyddion Targed Monitro Blynyddol/ Interim Sbardunwr Asesu
Datblygiadau preswyl fesul cam mewn ardaloedd lle mae 60% neu fwy o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Caniatadau cynllunio yn cael eu rhoi ar gyfer datblygiadau preswyl o bum annedd neu ragor mewn Cymunedau Cynaliadwy a chaniatadau cynllunio yn cael eu rhoi ar gyfer datblygiadau preswyl o ddeg annedd neu ragor mewn Ardaloedd Twf, Canolfannau Gwasanaethau a Chanolfannau Gwasanaethau Lleol. Yr holl ganiatadau cynllunio a roddir ar gyfer datblygiadau preswyl o bum annedd neu ragor mewn Cymunedau Cynaliadwy a’r caniatadau cynllunio a roddir ar gyfer datblygiadau preswyl o ddeg annedd neu ragor mewn Ardaloedd Twf, Canolfannau Gwasanaethau a Chanolfannau Gwasanaethau Lleol i gynnwys gofyniad i ddatblygu fesul cam, yn unol â’r polisi ar yr Iaith Gymraeg a’r canllawiau a geir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar yr iaith Gymraeg. Un caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer datblygiad preswyl o bum annedd neu ragor mewn Cymuned Gynaliadwy neu un caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer datblygiad preswyl o ddeg annedd neu ragor mewn Ardal Dwf, Canolfan Gwasanaethau neu Ganolfan Gwasanaethau Lleol heb gynnwys gofyniad i ddatblygu fesul cam, yn unol â pholisi’r CDLl ar yr Iaith Gymraeg a’r canllawiau a geir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar yr iaith Gymraeg.
 
Ffynonellau Data: Ceisiadau a chaniatadau cynllunio.

Tabl 11 – Fframwaith Monitro

 

Brig y dudalen