Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin

6 Polisïau Penodol

6.1 Polisïau Cyffredinol

6.1.1 Ceir canllawiau clir am y rhain ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 ac o ganlyniad ni chânt eu hystyried yma.

Polisi GP1 Cynaliadwyedd a Dylunio o Ansawdd Da

Caiff cynigion datblygu eu caniatáu os ydynt yn unol â’r canlynol:

  1. Mae’n cydymffurfio â chymeriad a golwg y safle, adeilad neu ardal, ac yn eu gwella, yn nhermau lleoliad, golwg, graddfa, uchder, mas, addurn y wynebau, a’r manylion;
  2. Mae’n ymgorffori nodweddion tirweddol neu nodweddion eraill sy’n bodoli eisoes, yn cymryd i ystyriaeth gyfuchlinau’r safle a newidiadau mewn lefelau a nenlinellau neu gefnennau amlwg;
  3. Mae’n defnyddio deunyddiau sy’n briodol i’r ardal lle y saif;
  4. Ni fyddai’n cael effaith arwyddocaol ar amwynder defnyddiau tir, eiddo neu breswylwyr cyfagos, neu’r gymuned;
  5. Mae’n cynnwys cymysgedd integredig o ddefnyddiau sy’n briodol i raddfa’r datblygiad;
  6. Mae’n cadw, a lle bo’n briodol yn ymgorffori, nodweddion lleol pwysig (gan gynnwys adeiladau, mannau amwynder, mannau agored, coed, coetiroedd a pherthi) ac yn sicrhau y defnyddir tirweddu caled a meddal o ansawdd da ac yn manteisio ar gyfleoedd i wella bioamrywiaeth a chysylltedd ecolegol;
  7. Mae’n sicrhau ac yn creu lleoedd a mannau cyhoeddus deniadol a diogel, sy’n sicrhau diogelwch trwy egwyddorion ‘dylunio i atal trosedd’ Diogelu Drwy Ddylunio (gan gynnwys darparu gwyliadwriaeth naturiol, gwelededd, amgylcheddau sydd wedi’u goleuo’n dda a mannau lle mae’r cyhoedd yn symud o gwmpas);
  8. Mae mynedfa briodol yn bodoli neu gellir darparu un nad yw’n creu unrhyw bryderon ynghylch parcio neu ddiogelwch ar y ffyrdd ar y safle neu yn yr ardal;
  9. Mae’n gwarchod a gwella treftadaeth dirweddol, drefweddol, hanesyddol a diwylliannol y sir ac nid oes unrhyw effeithiau andwyol ar y lleoliad neu gyfanrwydd yr amgylchedd hanesyddol;
  10. Mae’n sicrhau neu’n darparu ar gyfer cynhyrchu, trin a gwaredu dwr wyneb a dwr brwnt mewn modd boddhaol;
  11. Mae’n rhoi sylw i gynhyrchu, trin a gwaredu gwastraff;
  12. Mae’n rhoi sylw i ddefnydd diogel, effeithiol ac effeithlon o’r rhwydwaith trafnidiaeth;
  13. Mae’n darparu rhwydwaith integredig sy’n hybu buddiannau cerddwyr, beicwyr a thrafnidiaeth gyhoeddus sy’n sicrhau mynediad rhwydd i bawb;
  14. Mae’n cynnwys, lle bo’n berthnasol, darpariaeth ar gyfer rheoli a dileu rhywogaethau goresgynnol yn briodol.

Caiff cynigion eu hystyried hefyd yng ngoleuni polisïau a darpariaethau’r Cynllun hwn a pholisïau cenedlaethol (Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 a TAN12: Dylunio (2014)).

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS4, AS5, AS7, AS9, AS10, AS11, AS13 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.1.2 Mae’r polisi hwn yn darparu’r fframwaith trosfwaol ar gyfer ansawdd dylunio da mewn cynigion datblygu, diogelu a gwella yn y sir.

6.1.3 Uchelgais y Cynllun yw adfywio dan arweiniad dylunio trwy adeiladu cynaliadwy o ansawdd da sy’n gwarchod ac yn moderneiddio natur unigryw leol, yn gwella effeithlonrwydd ynni, yn lleihau gwastraff ac yn gwarchod yr amgylchedd naturiol.

6.1.4 Gall y system gynllunio chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wneud datblygiadau newydd yn fwy cynaliadwy ac ar yr un pryd mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Fel y nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru rhaid i’r system gynllunio ddarparu ar gyfer cartrefi ac adeiladau newydd mewn ffordd sy’n gyson ag egwyddorion cynaliadwyedd. Dylid rhoi sylw i REC 2 - Y Ddarpariaeth Mannau Agored a Datblygiadau Newydd sy’n pwysleisio pwysigrwydd ystyried mannau agored a darpariaeth hamdden yn rhan annatod o’r gwaith dylunio o’r cychwyn cyntaf.

6.1.5 Mae gan Sir Gaerfyrddin dreftadaeth hanesyddol a diwylliannol gyfoethog. Dylid trin adeiladau, trefweddau a thirweddau hanesyddol y Sir fel ased a dylid mynd ati i’w gwarchod a’u gwella er lles preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Gellir gweld rhagor o ganllawiau ar ddatblygu a diogelu hunaniaethau hanesyddol a diwylliannol ym Mholisi SP13 - Gwarchod a Gwella’r Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol a’r adran ar yr Amgylchedd Adeiledig yn y Cynllun yma.

6.1.6 Dylai cynigion adlewyrchu’r angen i ddiogelu amwynder y rheiny sy’n byw a gweithio yn yr ardal ac yn ymweld â hi. Dylid ystyried lleoliad a natur defnyddiau yng ngoleuni eu potensial i achosi niwsans annerbyniol. Gall ystyriaethau ynghylch amwynder ymwneud â phob math o ddatblygiad ledled y sir. Nod y polisi yw diogelu amwynder y preswylwyr presennol ac ar yr un pryd sicrhau bod datblygiadau arfaethedig yn adlewyrchu’r defnyddiau presennol. Dylid rhoi sylw i gynnwys Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 Paragraff 9.3.2 mewn perthynas â lleoli cynigion preswyl newydd yn gyfagos i weithgareddau cyflogaeth sy’n bodoli eisoes a’r potensial ar gyfer cwtogi ar y defnydd presennol.

6.1.7 Bydd lleoliad, patrwm a dyluniad manwl datblygiad yn aml yn hanfodol bwysig i lwyddiant ymdrechion i ddarparu dewisiadau gwirioneddol heblaw teithio mewn ceir. Gall lleoliadau da i safleoedd a phatrwm wedi’i ddylunio’n dda arwain at lai o draffig ceir ac at ostwng cyflymder, ac ar yr un pryd hybu ffyrdd cynaliadwy o deithio. Mae gan y sir gyfle i sicrhau bod datblygiadau newydd yn cyflawni cynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol er mwyn creu lleoedd cymdeithasol gynhwysol sy’n atgyfnerthu hunaniaeth leol.

6.1.8 Hybir datblygiadau â dyluniad arloesol sy’n darparu ar gyfer gwyliadwriaeth naturiol a gwella diogelwch cymuned neu unigolion trwy hyrwyddo ymdeimlad o berchnogaeth a chyfrifoldeb.

6.1.9 Yn unol â pholisi cenedlaethol, bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i Ddatganiad Dylunio a Mynediad gael ei gyflwyno gyda phob cais cynllunio ac eithrio’r rheiny a nodir yn Erthygl 4D o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995. Mae’r Datganiad Dylunio a Mynediad yn rhoi cyfle i’r ymgeisydd ddangos sut mae egwyddorion dylunio wedi cael eu hystyried, ac i ddangos sut mae dyluniad y cynnig wedi ymateb i gyd-destun ei gyffiniau trwy ddyluniad cynhwysol.

6.1.10 Dylai cynigion ar gyfer datblygiadau deiliadaeth gymysg mawr neu fflatiau gynnwys mannau i wahanu gwastraff.

6.1.11 Darperir rhagor o arweiniad ar egwyddorion dylunio mewn Canllawiau Cynllunio Atodol. Bydd y Canllawiau hyn hefyd â’r nod o ddarparu arweiniad ar effeithlonrwydd dwr mewn datblygiadau newydd (dylid rhoi sylw i Bolisi EP1 - Adnoddau ac Ansawdd Dwr) a rhagor o arweiniad ar yr ymagwedd at gwlfertau a’u hystyried mewn datblygiadau newydd.

Polisi GP2 Terfynau Datblygu

Diffinnir Terfynau Datblygu ar gyfer yr aneddiadau hynny a nodir fel Ardaloedd Twf, Canolfannau Gwasanaethau, Canolfannau Gwasanaethau Lleol a Chymunedau Cynaliadwy a nodir yn y fframwaith aneddiadau.

Caiff cynigion o fewn y Terfynau Datblygu diffiniedig eu caniatáu, yn ddarostyngedig i bolisïau a chynigion y Cynllun hwn, polisïau cenedlaethol ac ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS4, AS5, AS6, AS7, AS8, AS9, AS10 ac AS11
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.1.12 Wrth baratoi’r Cynllun hwn, mae terfynau datblygu wedi cael eu diffinio ar draws yr holl aneddiadau a nodir yn yr hierarchaeth fel y’i diffinnir yn y fframwaith aneddiadau er mwyn:

6.1.13 Nodwyd nad yw’n briodol i nifer o aneddiadau sy’n Gymunedau Cynaliadwy gael dyraniadau tai’r farchnad agored (5 neu ragor o safleoedd anheddau). Mae’r aneddiadau hyn yn cadw terfynau datblygu a lle bo’n briodol gwneir lwfans ar gyfer cyfleoedd cyfyngedig ar raddfa fach gan gynnwys mewnlenwi, talgrynnu ac estyniadau rhesymegol. Fodd bynnag, ni ddyrennir unrhyw safleoedd newydd ar gyfer tai’r farchnad agored (ac eithrio mewn achosion lle mae caniatâd cynllunio ar gyfer 5 neu ragor o unedau’n bodoli eisoes). O ganlyniad ni fyddai unrhyw gynigion y tu hwnt i ryddhau tir ar raddfa fach fel hyn yn cael eu hystyried ond fel eithriadau (tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol) i gael eu lleoli’n gyfagos i’r ffurf adeiledig fel y’i diffinnir gan y terfynau datblygu. Byddid yn disgwyl i gynigion o’r fath fod ar raddfa sy’n gymesur â graddfa’r anheddiad ac iddynt adlewyrchu ei gymeriad a bod yn unol â darpariaethau polisi AH2 - Tai Fforddiadwy – Safleoedd Eithriadau. Dylid rhoi sylw hefyd i ddarpariaethau polisi H2 - Tai o fewn Terfynu Datblygu. Effaith hyn yw cyfyngu ar ddatblygiadau yn y dyfodol mewn aneddiadau o’r fath yn bennaf i gynigion ar gyfer eithriadau, a darperir ar gyfer y gofyniad o ran tai’r farchnad agored yn yr aneddiadau hynny y bernir eu bod yn addas ar gyfer tai o’r fath (TAN 6: Paragraff 4.1.2). Dylid rhoi sylw i Bolisi AH2 sy’n rhestru’r aneddiadau dynodedig.

6.1.14 Dylid nodi hefyd na fydd pob un o’r aneddiadau y nodir eu bod yn addas o bosibl i gael tai’r farchnad agored yn cael dyraniadau, oherwydd cyfyngiadau amgylcheddol ac ystyriaethau eraill.

6.1.15 Nid yw’r holl dir ar Fap Cynigion a Mapiau Mewnosod wedi’i nodi ar gyfer datblygiad penodol neu’n destun polisi penodol. Gall darnau sylweddol o dir ymddangos fel tir heb ei anodi yn y Cynllun. Caiff cynigion ar gyfer datblygiadau eu hystyried yn ôl eu rhinweddau unigol yn unol â darpariaethau’r CDLl hwn ac ystyriaethau perthnasol eraill.

Polisi GP3 Rhwymedigaethau Cynllunio

Lle bo angen, bydd y Cyngor yn gofyn i ddatblygwyr gytuno i Rwymedigaethau Cynllunio (Cytundebau Adran 106), neu gyfrannu trwy’r Ardoll Seilwaith Cymunedol i sicrhau cyfraniadau i ariannu gwelliannau i seilwaith, cyfleusterau cymunedol a gwasanaethau eraill i fodloni gofynion sy’n deillio o ddatblygiadau newydd.

Lle bo’n berthnasol, gofynnir hefyd am gyfraniadau tuag at gynnal a chadw’r fath ddarpariaeth yn barhaus ac yn y dyfodol naill ai ar ffurf cymorth cychwynnol neu am byth.

Wrth roi’r polisi hwn ar waith caiff cynlluniau eu hasesu fesul achos.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS3, AS4, AS6, AS7, AS8, AS9 ac AS13
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.1.16 Os yw cynigion yn arwain yn uniongyrchol at greu galwadau ychwanegol ar seilwaith, cyfleusterau cymunedol a gwasanaethau sy’n bodoli eisoes (gan gynnwys ysgolion, dysgu gydol oes, mannau agored, neuaddau cymunedol, gofal iechyd, prosiectau amgylcheddol, gwaith priffyrdd a chyfleusterau eraill) neu os ydynt yn debygol o alw am fesurau oddi ar y safle i liniaru colli cyfleusterau neu nodweddion, fe fyddant, lle bo’n briodol, yn cael eu cefnogi os yw cyfraniadau, darpariaeth addas neu drefniadau eraill wedi cael eu gwneud ar gyfer gwelliannau, darpariaeth neu fesurau lliniaru, naill ai ar y safle neu oddi ar y safle.

6.1.17 Mae darparu neu argaeledd o seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol digonol yn hanfodol er mwyn i ddatblygiad ddigwydd. O ganlyniad os nad yw’r ddarpariaeth hon ar gael, neu os nad yw o safon neu lefel ofynnol i wasanaethu’r datblygiad, bydd y Cyngor yn gofyn i’r datblygwr wneud cyfraniad priodol. Bydd y Cyngor hefyd, os yw’n briodol, yn gofyn am rwymedigaethau i liniaru effaith datblygiad.

6.1.18 Wrth nodi lefel rhwymedigaeth gynllunio, bydd y Cyngor yn ystyried unrhyw gostau anarferol sy’n gysylltiedig â’r safle. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i safleoedd a ddatblygwyd o’r blaen lle efallai bydd yna gostau anarferol cysylltiedig sy’n ymwneud â materion fel clirio ac adfer. Mewn achosion o’r fath ac os yw datblygwr yn barnu y gall lefel y rhwymedigaethau gofynnol effeithio ar hyfywedd datblygiad, dylid cyflwyno tystiolaeth i’w gwneud yn bosibl ystyried ymhellach.

6.1.19 Dylai natur, maint ac amseriad unrhyw rwymedigaethau cynllunio y gofynnir amdanynt gael eu cysylltu’n deg ac yn rhesymol o ran maint a math â’r datblygiad a’i effaith ar y seilwaith a/neu’r cyfleusterau dan sylw. Dylai rhwymedigaethau o’r fath fod yn angenrheidiol, yn rhesymol ac yn berthnasol i’r gwaith o ddatblygu’r safle o safbwynt cynllunio.

6.1.20 Mae’n bosibl y gofynnir am rwymedigaethau cynllunio i sicrhau amrywiaeth o welliannau neu ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol i fodloni gofynion sy’n deillio o ddatblygiad newydd. Mae rhwymedigaethau o’r fath yn amrywio o ran blaenoriaethau, fodd bynnag, a chânt eu hystyried fesul achos gan ddibynnu ar natur y cynnig a’r gofynion sy’n deillio ohono. Dylid nodi y bydd cynigion yn ardal Caeau Mynydd Mawr yn ddarostyngedig i ddarpariaethau polisi EQ7 - Datblygiadau yn Ardal Canllawiau Cynllunio Atodol Caeau Mynydd Mawr a’r Canllawiau Cynllunio Atodol a chânt eu blaenoriaethu yn unol â hynny.

6.1.21 Gall rhwymedigaethau eraill gynnwys y canlynol. Nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysfawr ac nid yw’n dangos trefn blaenoriaethau:

6.1.22 Dylid rhoi sylw i’r Canllawiau Cynllunio Atodol mabwysiedig mewn perthynas â rhwymedigaethau cynllunio ynghyd â darpariaethau Polisi EQ7 mewn perthynas ag Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr, ynghyd â’r Canllawiau Cynllunio Atodol yn hyn o beth. Dylid nodi bod y Cyngor, ar ddyddiad mabwysiadu’r Cynllun, yn dal yn y broses o benderfynu a yw Ardoll Seilwaith Cymunedol yn addas a/neu’n briodol i’r sir. Caiff goblygiadau Ardoll Seilwaith Cymunedol i’r Cynllun a’r Canllawiau Cynllunio Atodol i Rwymedigaethau Cynllunio eu hystyried yn unol â hynny os yw rhestr taliadau yn cael ei pharatoi.

Polisi GP4 Seilwaith a Datblygiadau Newydd

Caiff cynigion ar gyfer datblygiadau eu caniatáu lle mae’r seilwaith yn ddigonol i ddiwallu anghenion y datblygiad.

Mae’n bosibl y bydd cynigion lle mae angen seilwaith newydd neu well ond nad yw’n rhan o raglen welliannau’r darparwr seilwaith yn cael eu caniatáu os gellir dangos yn foddhaol y bydd y seilwaith hwn yn bodoli, neu os yw'r datblygwr yn ariannu’r gwaith gofynnol (neu’n darparu cyfraniad priodol).

Caiff rhwymedigaethau ac amodau cynllunio eu defnyddio (lle bo’n briodol) i sicrhau y darperir cyfleusterau newydd neu well i wasanaethu’r datblygiad newydd.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: SO3, SO4, SO5, SO9 ac SO11
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.1.23 Mae argaeledd seilwaith a/neu amseriad gwaith a rhaglenni gwella yn y dyfodol yn elfen bwysig wrth benderfynu a yw unrhyw gynnig datblygu’n briodol. Yn hyn o beth byddir yn rhoi sylw dyledus i’r capasiti presennol a rhaglenni gwella yn y dyfodol, gan gynnwys y rheiny a ddarperir gan raglen AMP5 Dwr Cymru. Os cynigir datblygiad sy’n galw am welliannau i seilwaith nad ydynt yn rhan o raglenni hysbys, mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i ddatblygwyr ariannu neu gyfrannu at y gwelliannau angenrheidiol. Gall rhwymedigaethau cynllunio ei alluogi i fynd ymlaen trwy fynnu cyfraniadau gan ddatblygwr tuag at y gwaith priodol. Byddai cyfraniadau’n gysylltiedig yn uniongyrchol o ran eu maint â’r budd a gaed o’r ddarpariaeth, yn amodol ar warant y bydd yr holl gynllun wedi’i ariannu a’i gwblhau mewn pryd i wasanaethu’r datblygiad.

6.1.24 Os yw’r cynnig mewn ardal lle mae’r gwaith gofynnol yn rhan o gynllun gwella darparwr seilwaith, ond y bernir nad yw’r seilwaith yn ddigonol, dylid datblygu’r safle fesul cyfnod i gyd-daro â’r gwelliannau.

6.1.25 Dylid hefyd ystyried argaeledd mesurau priodol i reoli gwastraff a’r gallu i fanteisio arnynt yn elfen bwysig yn y ddarpariaeth seilwaith ar gyfer datblygiadau newydd.

6.1.26 Dylid rhoi sylw hefyd i Bolisi GP3 - Rhwymedigaethau Cynllunio mewn perthynas â rhwymedigaethau cynllunio a Pholisi EP1 mewn perthynas ag ansawdd dwr ac Adnoddau.

Polisi GP5 Hysbysebion

Bydd cynigion ar gyfer hysbysebion (sy’n destun rheolaeth gynllunio) yn cael eu rheoli’n llym a disgwylir iddynt gydymffurfio â’r canlynol:

  1. bod eu dyluniad, maint, deunyddiau a lleoliad yn rhoi sylw llawn i’r adeilad, strwythur neu dir y cânt eu harddangos arno;
  2. nad oes unrhyw effeithiau andwyol ar y dirwedd/trefwedd neu’r lleoliad a chyfanrwydd yr amgylchedd hanesyddol;
  3. nad ydynt yn creu perygl i ddiogelwch y cyhoedd, yn enwedig os ydynt wedi’u lleoli ar ffyrdd;
  4. Eu bod yn diogelu, a lle bo modd yn cryfhau’r Gymraeg yn y sir. Dylid rhoi sylw hefyd i ddarpariaethau Polisi SP18 Y Gymraeg.

Ni ddylai cynigion ar gyfer hysbysfyrddau posteri ac arwyddion hysbysebion arwain at luosi neu grynhoi arwyddion sy’n dderbyniol ynunigol yng nghefn gwlad.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS7, AS13 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.1.27 Er mwyn hybu hunaniaeth ddiwylliannol ardal y Cynllun, bydd y Cyngor yn cefnogi a hyrwyddo darparu arwyddion, hysbysfyrddau a byrddau gwybodaeth, arddangosfeydd ac arwyddion hysbysebu ar gyfer atyniadau i dwristiaid a chyfleusterau sy’n ddwyieithog Cymraeg a Saesneg. Hefyd caiff datblygwyr preifat cyfleusterau twristiaeth a hamdden eu hannog i roi cyhoeddusrwydd i’w mentrau busnes trwy’r Gymraeg a’r Saesneg.

6.1.28 Bydd cynigion ar gyfer arwyddion a hysbysebion dwyieithog sydd â’r nod o gyfuno nifer o hysbysebion hanfodol mewn un arwydd yn cael eu hybu.

Polisi GP6 Estyniadau

Rhaid i gynigion ar gyfer estyniadau i anheddau preswyl / dosbarth defnydd C3 sy’n bodoli eisoes (sydd angen caniatâd cynllunio), boed adeiladau, strwythurau eraill neu ddefnydd tir penodol, gydymffurfio â’r canlynol:

  1. bod graddfa’r estyniad arfaethedig yn israddol i ac yn gydnaws â maint, math a chymeriad y datblygiad sy’n bodoli eisoes, ac nad yw’n arwain at or-ddatblygu’r safle, nac at fannau llai ac annigonol ar gyfer parcio, cyfleustodau, troi cerbydau, amwynder neu ardd;
  2. bod golwg allanol yr estyniad arfaethedig yn nhermau dyluniad yn israddol, a dylai’r deunyddiau gyd-fynd â deunyddiau’r datblygiad sy’n bodoli eisoes;
  3. nad oes unrhyw effeithiau andwyol ar yr amgylchedd naturiol, tirwedd/trefwedd neu’r lleoliad a chyfanrwydd yr amgylchedd hanesyddol;
  4. nad yw’r estyniad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd lleol ac amwynderau datblygiadau cyfagos;
  5. bod y defnydd sydd i gael ei wneud o’r estyniad arfaethedig yn gydnaws â’r adeilad, strwythur neu ddefnydd tir sy’n bodoli eisoes.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1 ac AS7
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.1.29 Dylai datblygiadau arfaethedig fod o safon dylunio foddhaol, yn nhermau lleoliad, maint a’r defnydd o ddeunyddiau sy’n cyd-fynd â chymeriad a golwg yr adeilad neu strwythur sy’n bodoli eisoes a’i gyffiniau ac yn briodol i’r defnydd o’r adeilad sy’n bodoli eisoes.

6.1.30 I sicrhau, os yw’r datblygiad sy’n bodoli eisoes â dyluniad gwael, bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw estyniad â dyluniad a/neu ddeunyddiau sydd o ansawdd gwell.

6.2 Tai

6.2.1 Mae’r polisïau canlynol â’r nod o adeiladu ar y strategaeth ofodol a fframwaith aneddiadau a nodir ym Mhennod 5 o’r Cynllun yma a pholisi SP3 - Dosbarthu Cynaliadwy – Fframwaith Aneddiadau, yn ogystal â’r gofyniad o ran tir ar gyfer tai a nodir trwy bolisi SP5 - Tai.

6.2.2 Mae darpariaethau Polisi SP5 yn nodi gofyniad am 15,197 o anheddau yn ystod cyfnod y cynllun sydd, ynghyd â’r hyblygrwydd a nodir, yn arwain at gyflenwad tai o 15,727 o unedau. Bydd y dyraniad tir i fodloni’r gofyniad hwn yn unol â’r ffordd y mae’r Strategaeth yn canolbwyntio ar y tair ardal dwf a nodir, gyda’r datblygiadau’n cael eu dosbarthu’n gymesur ledled gweddill yr hierarchaeth, gan adlewyrchu ffactorau fel eu rhinweddau o ran cynaliadwyedd, argaeledd gwasanaethau a chyfleusterau a’u gallu i dderbyn twf.

6.2.3 Mae’r polisïau tai canlynol hefyd yn darparu’r potensial i ddiwallu anghenion lleol o ran tai fforddiadwy. Mae’r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol a’r dulliau polisi a geir yn y cynllun hwn yn amlochrog, gan amrywio o ofynion mewn perthynas â dyraniadau tai’r farchnad agored i gyfleoedd ar gyfer mewnlenwi ag anheddau sengl neu dalgrynnu aneddiadau neu grwpiau o anheddau anniffiniedig bach.

6.2.4 Mae’r CDLl yn nodi safleoedd â phump neu ragor o anheddau fel dyraniadau tai. Gall safleoedd o’r fath gynnwys safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio cyfredol, gan gynnwys rhai lle mae gwaith adeiladu’n mynd rhagddo a lle bu cyflawniadau (yn ystod cyfnod y cynllun), yn ogystal â dyraniadau heb ganiatâd. Mae Polisi H1 isod yn rhestru’r holl ddyraniadau tai a ddiffinnir yn y Cynllun. Dylid rhoi sylw i bolisi SP5 a’i destun ategol mewn perthynas â’r cyflenwad tir ar gyfer tai.

6.2.5 Mae polisi H7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer anghenion sipsiwn a theithwyr, gan nodi fframwaith polisi i ystyried cynigion pe bai angen dynodedig yn codi.

6.2.6 Dylid rhoi sylw i holl bolisïau a darpariaethau’r cynllun hwn wrth ystyried pob cynnig ar gyfer tai. Dylid rhoi sylw i’r gofynion mewn perthynas â dyluniad cynaliadwy ac o ansawdd da, a’i bwysigrwydd wrth ddarparu amgylcheddau byw o ansawdd da.

6.2.7 Ceir arweiniad polisi mewn perthynas ag Anheddau Mentrau Gwledig (Anheddau newydd ar fentrau gwledig sefydledig, ail anheddau ar ffermydd sefydledig, ac anheddau newydd ar fentrau newydd) ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 Pennod 9 – Tai a TAN6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy.

6.2.8 Fodd bynnag, wrth adlewyrchu canllawiau, mae’r CDLl yn cynnig yr eglurhad ychwanegol canlynol wrth ddehongli darpariaeth. Mewn achosion lle cynigir annedd sy’n gysylltiedig â menter wledig (sy’n unol â darpariaethau TAN6), dylai gael ei leoli a’i ddylunio mewn ffordd sy’n sicrhau’r effaith leiaf posibl ar gefn gwlad. Lle bo modd dylai cynigion o’r fath fod â pherthynas dda ag adeilad sy’n bodoli eisoes. Ni ddylid cynnig annedd arall lle mae eiddo sy’n bodoli eisoes sy’n rhan o’r uned sy’n gysylltiedig â’r fenter wedi cael ei werthu yn ddiweddar.

6.2.9 Rhaid i’r cyfiawnhad dros unrhyw annedd gael ei gefnogi gan dystiolaeth glir o hyfywedd er mwyn i annedd parhaol gael ei ystyried yn dderbyniol. O dan amgylchiadau eithriadol bydd llety dros dro’n cael ei ystyried lle mae angen amser ychwanegol i gynhyrchu’r dystiolaeth angenrheidiol neu i sicrhau y caiff y fenter ei sefydlu. Bydd unrhyw lety dros dro’n cael ei reoli’n llym a chaiff terfynau amser eu gosod ar ei leoli. Bydd y Cyngor yn paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol i roi eglurder ychwanegol wrth ystyried cynigion sy’n gysylltiedig ag anheddau mentrau gwledig, gan gynnwys materion sy’n ymwneud â hyfywedd.

6.2.10 Ceir arweiniad clir mewn perthynas â’r canlynol ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 – Pennod 9 Tai, ac o ganlyniad ni chânt eu hystyried yma.

6.2.11 Ceir arweiniad polisi mewn perthynas â Datblygiadau Un Blaned ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7, Pennod 9 – Tai, a TAN 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy.

Polisi H1 Dyraniadau Tai

Mae tir wedi cael ei ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl ar gyfer cyfnod y cynllun 2006 - 2021 yn y lleoliadau a nodir isod ac fel y dangosir ar y Map Cynigion.

Ynghyd â chynigion ar gyfer datblygiadau preswyl ar safleoedd tai dyranedig a gyflwynir ar ffurf cais Cynllunio Llawn neu gais Materion a Gadwyd yn ôl, dylid cyflwyno cynllun o’r cynnig yn gyfan, er mwyn sicrhau y caiff y safle ei ddatblygu i’w botensial llawn.

Anheddiad Cyfeirnod Map Enw’r Safle Cwblhawyd Dyraniad heb ganiatâd cynllunio Dyraniad gyda chaniatâd cynllunio (gan gynnwys cyflawniadau) Cyfanswm Dyraniad

Ardaloedd Twf

GA1 Caerfyrddin
  GA1/h1 Penymorfa 0 180 0 180
  GA1/h2 Cyfagos i Fryn Meurig 0 43 0 43
  GA1/h3 Mounthill 48 1 79 80
  GA1/h4 Rhiw Babell 0 14 0 14
  GA1/h5 Hen Ysbyty, Heol y Prior 0 12 0 12
  GA1/h6 Hen Adeilad Cyfnewidfa BT, Heol Spilman 0 0 14 14
  GA1/h7 Hen Adeiladau DJK, Heol Pentrefelin 0 14 0 14
  GA1/h8 Hen Adeiladau’r Awdurdod Iechyd, Heol Penlan 0 0 8 8
  GA1/h9 Parc Thomas 0 5 4 9
  GA1/h10 Parc y Delyn 0 0 35 35
  GA1/h11 Maesyffynnon 0 30 0 30
  GA1/h12 Tir i’r de o Bant Glas, Heol Bronwydd 0 15 0 15
  GA1/h13 Heol Bronwydd (de) 2 23 22 45
  GA1/h14 Hen ddepo coetsis, Abergwili 0 9 0 9
  GA1/h15 Hen ddepo MAFF 0 18 0 18
  GA1/h16 Llwynonn 0 20 0 20
  GA1/h17 Heol y Coleg (estyniad) 88 0 153 153
  GA1/h18 Fferm Pen-y-bont, Heol Llysonnen 7 0 16 16
  GA1/h19 Heol Bronwydd (gogledd) 3 0 9 9
  GA1/h20 Heol y Coleg 14 0 14 14
  GA1/h21 Rhiw Babell estyniad 0 16 0 16
  GA1/MU1 Gorllewin Caerfyrddin 0 1100 0 1100
  Cyfanswm 162 1500 354 1854
 
GA2 Llanelli
  GA2/h1 Beech Grove, Pwll 0 10 0 10
  GA2/h2 Hen Barc y Strade 0 0 355¹ 355
  GA2/h3 Gerddi Glasfryn 4 0 9 9
  GA2/h4 Llys yr Hen Felin 37 20 49 69
  GA2/h5 Hen Olchdy Paragon, Maesllyn 0 0 7 7
  GA2/h6 Llys Arthur 5 0 5 5
  GA2/h7 Cyfagos i Ann Street 12 0 12 12
  GA2/h8 Heol Goffa, Dimpath 0 30 0 30
  GA2/h9 Hen garej, Marsh Street 0 25 0 25
  GA2/h10 Llysnewydd, Cambrian Place Seaside 0 0 5 5
  GA2/h11 The Croft, Queen Victoria Road 5 0 5 5
  GA2/h12 Pentre Nicklaus 26 0 37 37
  GA2/h13 Y Rhodfa, Morfa 0 60 0 60
  GA2/h14 Gorllewin Machynys 73 0 205 205
  GA2/h15 Y Rhodfa (Gorllewin), Llynnoedd Delta 0 60 0 60
  GA2/h16 Hen felin stribed, Coedcae 12 0 21 21
  GA2/h17 Tu cefn i 60 Heol Coedcae 0 0 5 5
  GA2/h18 Tir ym Mhenallt, Stebonheath 0 60 0 60
  GA2/h19 Tir yn Nightingale Court, Coedcae 0 50 0 50
  GA2/h20 Tir ar Deras Brynallt 5 0 5 5
  GA2/h21 Tir ar Deras Frondeg 0 69 0 69
  GA2/h22 Bryntirion, Llannerch 34 0 34 34
  GA2/h23 Cyferbyn â’r meysydd chwarae, Llanerch 0 12 0 12
  GA2/h24 Cyfagos i Barcbrynmawr, Pentrepoeth 0 100 0 100
  GA2/h25 Marley House, Coedcae. 5 0 5 5
  GA2/h26 Tu cefn i 31A, Swiss Valley 0 0 6 6
  GA2/h27 Porth y Dwyrain, Dafen 0 150 0 150
  GA2/h28 Cyfagos i Fferm Cilsaig, Dafen 0 0 8 8
  GA2/h29 Uned Ddeheuol, AVON Inflatables, Dafen 0 60 0 60
  GA2/h30 Cyfagos i’r Gors Fach, Penceiliogi, Dafen185 0 185 0 185
  GA2/h31 Tir ger Bryncoch, Penceiliogi, Dafen 0 125 0 125
  GA2/h32 Gorllewin Bryncoch, Dafen 0 15 0 15
  GA2/h33 Dwyrain Bryncoch, Dafen 0 26 0 26
  GA2/h34 Tir y tu cefn i 45-79 Pemberton Road 0 9 0 9
  GA2/h35 Tir ar Heol Maesarddafen / Erw Las, Cefncaeau 0 300 0 300
  GA2/h36 Hen eglwys, Heol Llwynhendy 13 0 13 13
  GA2/h37 Tir ym Mharc Guto/Heol Llwynhendy 0 30 0 30
  GA2/h38 Hen ffatri  Glynderwen, Heol Llwynhendy 0 8 0 8
  GA2/h39 Heol Penllwynrodyn, Gorllewin Llwynhendy 0 11 0 11
  GA2/h40 Heol Penllwynrodyn, Dwyrain Llwynhendy 0 25 0 25
  GA2/h41 Ynys Las, Cefncaeau 0 45 0 45
  GA2/h42 Fferm y Bwlch, Bynea 5 0 5 5
  GA2/h43 Clos y Gerddi, Bynea 34 0 43 43
  GA2/h44 Ffordd y Gamlas, Heol Yspitty, Bynea 63 0 63 63
  GA2/h45 Heol Genwen, Bryn 0 150 0 150
  GA2/h46 Llys Pendderi, Bryn 0 200 0 200
  GA2/h47 Pantbryn Isaf, Trallwm 65 0 65 65
  GA2/h48 I’r gogledd o Glos Pendderi, Bryn. 37 0 137 137
  GA2/h49 Maes y Bryn, Bryn 0 0 46 46
  GA2/h50 Box Farm, Llangennech 0 8 0 8
  GA2/h51 Aber Llwchwr, Llangennech 26 0 56 56
  GA2/h52 Golwg yr Afon, Llangennech 0 50 0 50
  GA2/h53 Gyferbyn â Pharc Morlais, Llangennech 0 30 0 30
  GA2/h54 Maesydderwen, Llangennech 0 7 1 8
  GA2/h55 Brynmefys, Ffwrnais 0 70 0 70
  GA2/h56 Llys y Bryn, Penceilogi 0 145 0 145
  GA2/h57 Dylan, Trallwm 0 25 0 25
  GA2/MU2 Hen safle DRAKA, Heol Copperworks 0 150 0 150
  GA2/MU4 Porth Trostre 0 70 0 70
  GA2/MU7 Doc y Gogledd 10 0 335 335
  Cyfanswm 471 2390 1537 3927
 
GA3 Rhydaman a Cross Hands
Rhydaman / Betws GA3/h1 North End Garage Bonllwyn 15 0 15 15
  GA3/h2 Parc Carafanau Preswyl, Henry Lane 0 9 0 9
  GA3/h3 Fferm Myddynfych 82 0 121 121
  GA3/h4 I’r gogledd o Heol yr Eglwys 0 0 27 27
  GA3/h5 46-50 Heol y Coleg 18 0 18 18
  GA3/h6 Hen Orsaf Heddlu 0 12 0 12
  GA3/h7 Viji Garage, High Street 0 0 20 20
  GA3/h8 Lon Ger y Coed / Heol Wernoleu 1 13 1 14
  GA3/h9 Hen Lofa’r Betws 146 0 226 226
  GA3/h10 Tir ar Colonel Road 0 0 6 6
  GA3/h11 Tir yn Woodlands Park 8 0 8 8
  GA3/h12 Tir y tu cefn i 16-20 a 24-30 Heol y Betws 0 0 8 8
  GA3/h13 Hen orsaf betrol, Wind Street 0 0 11 11
  GA3/h14 Tir gyferbyn â’r Plough and Harrow, Betws 0 9 0 9
  GA3/h15 Tir ar Heol Waungron a Colonel Road 0 0 6 6
  GA3/h16 Tir yn y Gwynfryn Fawr 0 106 0 106
  GA3/h17 Fferm Tirychen 0 250 0 250
  GA3/h18 Tir ym Maesyrhaf 8 0 19 19
  GA3/h19 Tir cyfagos i Barc Fferws 19 8 19 27
Tycroes GA3/h20 Hafod Road 0 15 9 24
  GA3/h21 Depo D.Coaches, Heol Tycroes 7 0 7 7
  GA3/h22 Tir yn Fforest Fach 0 20 0 20
  GA3/h23 Tir ar Heol Ddu 0 127 0 127²
  GA3/h24 Tir cyfagos i Heol Pontarddulais 5 0 5
Capel Hendre GA3/h25 Ystad Delfryn 0 15 0 15²
  GA3/h26 Tir cyfagos i Gartref Nyrsio Llys Newydd 0 0 25 25²
Saron GA3/h27 Cyfagos i Nantyci  12 0 27 27²
  GA3/h28 Tir y tu cefn i 152 Heol Saron 0 0 17 17²
Llandybie GA3/h29 Tir ger Llys y Nant 0 0 9 9
  GA3/h30 King’s Road 0 0 22 22
  GA3/h31 Cyfagos i’r ysgol gynradd 18 0 32 32
  GA3/h32 Tir cyfagos i Faespiode 0 42 0 42
Blaenau / Caerbryn GA3/h33 Tir cyfagos i Heol Penygroes 0 17 0 17²
Penygroes GA3/h34 Cyfagos i Heol Cae’r-bryn, Penygroes 24 0 24 24²
  GA3/h35 Cyfagos i Bant y Blodau 0 90 0 90²
  GA3/h36 Cyfagos i Glos y Cwm 8 4 8 12²
  GA3/h37 Clos y Cwm 4 0 17 17²
  GA3/h38 Tir ar Waterloo Road 47 0 59 59²
  GA3/h39 Tir ar y gyffordd rhwng Black Lion Road a Gorsddu 0 26 0 26²
Castell y Rhingyll GA3/h40 Tir cyfagos i’r A476 (The Gate) 0 0 9
  GA3/h41 Grove Hill Park 10 0 13 13²
Gorslas GA3/h42 Tu cefn i Faesygrug, Heol Llandeilo 0 0 7
  GA3/h43 Tir ar Ffordd Werdd 0 0 10 10²
  GA3/h44 Rhan o iard torwyr a chyfagos i’r hen ganolfan arddio 0 45 0 45²
Cross Hands GA3/h45 Cyferbyn â Theras Tŷ Newydd 46 0 56 56²
  GA3/h46 Cyfagos i Faesyrhaf 0 0 10 10²
  GA3/h47 Cyfagos i Bantgwyn 0 0 65 65²
  GA3/h59 I’r gogledd o’r ysgol gynradd, Heol Caerfyrddin 0 105 0 105²
  GA3/h60 Tir y tu cefn i Wernllwyn, Heol Cross Hands 0 30 0 30²
Cefneithin GA3/h48 Tir ar Heol y Dre 0 0 9
  GA3/h49 Treventy Road (Dwyrain) 0 41 0 41²
  GA3/h50 Rhan o Heol Rhosybonwen 14 0 14 14²
Drefach (Tumble) GA3/h51 Tir ym Mron-yr-Ynn 0 36 0 36
  GA3/h52 Tir ger Heol Caegwyn 0 8 0 8
  GA3/h53 Nantydderwen 0 33 0 33
Tumble GA3/h54 Ystad Rhydycerrig, Derwen Road 0 10 0 10
  GA3/h55 Tir y tu cefn i 56 Heol Gwendraeth 0 8 0 8
  GA3/h56 Tir ar safle’r ffatri rhwng 22 a 28 Heol Bethesda 0 30 0 30²
  GA3/h57 Ravelston Court 3 4 4
  GA3/h58 Cyfagos i Lety Mawr, Y Tymbl 6 0 6
  GA3/MU1 Gorllewin Cross Hands 0 220 0 220²
  GA3/MU2 Safle Gwaith Brics Emlyn 0 0 250 250²
  Cyfanswm 501 1333 1219 2552
 

Canolfannau Gwasanaethau

T2/1 Porth Tywyn / Pen-bre
  T2/1/h1 Lando Road, Pen-bre 36 30 36 66
  T2/1/h2 Fferm Cwrt, Pen-bre 0 75 0 75
  T2/1/h3 Oaklands Close, Porth Tywyn 8 0 8 8
  T2/1/h4 Bay View, Graig, Porth Tywyn 0 1 8 9
  T2/1/h5 Cwrt Gwscwm, Porth Tywyn 9 0 9 9
  T2/1/h6 Safle hen Neuadd y Plwyf, Eglwys Fair, Stepney Road, Porth Tywyn 13 0 13 13
  T2/1/h7 Dolau Fan, Porth Tywyn 7 0 7 7
  T2/1/h8 Iard Siandler, Harbwr Porth Tywyn 40 0 40 40
  T2/1/h9 Fferm Gwdig, Porth Tywyn 0 0 86 86
  T2/1/h10 Lando Road, Pen-bre 0 20 0 20
  T2/1/h11 Garreglwyd, Pen-bre 0 10 0 10
  T2/1/h12 Gogledd Dyfaty, Porth Tywyn 0 40 0 40
  T2/1/h13 De Dyfaty, Porth Tywyn 0 20 0 20
  T2/1/h14 Heol Waun Wen, Porth Tywyn 0 10 0 10
  Cyfanswm 113 206 207 413
 
T2/2 Llandeilo (gan gynnwys Ffair-fach, Rhos-maen a Nantyrhibo)
  T2/2/h1 Chwarter Gogledd Llandeilo 0 215 0 215
  T2/2/h2 Tir gyferbyn â Phantglas 0 6 0 6
  T2/2/h3 Tir i’r gogledd o Bantglas 0 6 0 6
  T2/2/h4 Teras Tomas 0 5 0 5
  T2/2/h5 Caeglas, Ffairfach 0 25 0 25
  T2/2/h6 Yr Hen Danerdy 0 0 6 6
  Cyfanswm 0 257 0 6 263
 
T2/3 Llanymddyfri
  T2/3/h1 Tir i’r gogledd o Dan y Crug 0 60 0 60
  T2/3/h2 Heol Newydd, Llanymddyfri 0 6 0 6
  T2/3/MU1 Safle Ysgol Pantycelyn 0 45 0 45
  Cyfanswm 0 111 0 111
 
T2/4 Castell Newydd Emlyn
  T2/4/h1 Whitegates 0 17 0 17
  T2/4/h2 Tir y tu cefn i Dŷ Llwyd 0 12 0 12
  T2/4/h3 Rhan o OS 1100 Penlon 0 14 0 14
  T2/4/h4 Tir y tu cefn i Ddolcoed 0 34 0 34
  T2/4/h5 Millbank 0 12 0 12
  Cyfanswm 0 89 0 89
 
T2/5 Sanclêr
  T2/5/h1 Cyfagos i Heol Bwll Trap 0 48 0 48
  T2/5/h2 Clare Hill, Pwll Trap 0 0 5 5
  T2/5/h3 Cyfagos i Lower Ostrey 53 0 60 60
  T2/5/h4 Cyfagos i Brittania Terrace 0 0 50 50
  T2/5/h5 Cyfagos i Frynheulog 0 40 0 40
  T2/5/h6 Cyfagos i Gaeau Gardde 1 7 1 8
  T2/5/h7 Heol yr Orsaf 0 0 20 20
  T2/5/h8 Ysgol Glasfryn 39 0 48 48
  Cyfanswm 93 95 184 279
 
T2/6 Hendy-gwyn ar Daf
  T2/6/h1 Lôn Hywel 0 0 32 32
  T2/6/h2 King’s Court, Heol y Gogledd 12 5 19 24
  T2/6/h3 Tir cyfagos i Faes Abaty 54 18 54 72
  T2/6/h4 Cyfagos i Erddi’r Ffynnon 0 0 64 64
  T2/6/h5 Tir cyfagos i Aelybryn 0 0 7 7
  T2/6/h6 Hen safle Ivydene 2 0 6 6
  Cyfanswm 68 23 182 205
 

Canolfannau Gwasanaethau Lleol

T3/1 Lacharn
  T3/1/h1 Pludds Meadow 0 16 24 40
  T3/1/h2 Tir cyfagos i Ysgol Lacharn 0 0 42 42
  Cyfanswm 0 16 66 82
 
T3/2 Glanyfferi
  T3/2/h1 Tu cefn i Nythfa 6 12 8 20
  T3/2/h2 Cyfagos i Roberts Rest 0 12 0 12
  Cyfanswm 6 24 8 32
 
T3/3 Cydweli
  T3/3/h1 Clos yr Afon 5 0 6 6
  T3/3/h2 Rhodfa’r Gwendraeth 17 0 27 27
  T3/3/h3 Tir cyfagos i Stockwell Lane 0 95 0 95
  T3/3/h4 Tir rhwng Parc Pendre ac Efail Stockwell 19 0 58 58
  T3/3/h5 Tir cyfagos i Froawel 0 1 9 10
  T3/3/h6 Hen Ffatri Menyn a Iard Glo, Heol yr Orsaf 4 32 4 36
  T3/3/h7 Tir y tu cefn i Park View Drive, Heol yr Orsaf 0 12 0 12
  T3/3/h8 Tir ym Morfa Maen 0 0 7 7
  T3/3/h9 Hen Ffatri Iard Dinas 0 20 0 20
  T3/3/h10 Tir cyfagos i hen Ffatri Iard Dinas 0 30 0 30
  Cyfanswm 45 190 111 301
 
T3/4 Trimsaran
  T3/4/h1 Cyfagos i’r orsaf betrol, Bryncaerau 0 7 0 7
  T3/4/h2 Tir y tu cefn i 7-9a, Bryncaerau 0 0 11 11
  T3/4/h3 20, Bryncaerau 0 6 0 6
  T3/4/h4 Rhan o gyf. 754 Heol Waun y Clun 0 0 20 20
  T3/4/h5 Tir i’r gogledd o Faesffynnon 0 0 35 35
  T3/4/h6 Cyfagos i’r ysgol gynradd 3 57 5 62
  T3/4/h7 Tir yng Ngwelfor, Heol Llanelli 0 0 23 23
  Cyfanswm 3 70 94 164
 
T3/5 Meinciau / Pont-iets a Phont-henri
Meinciau T3/5/h1 Cyfagos i’r Black Horse 0 0 30 30
Pontyates T3/5/h2 I’r de o Barc Mansant 0 12 0 12
  T3/5/h3 Cyfagos i Glos y Dderwen 1 18 2 20
  T3/5/h4 Cyfagos i 1 Heol Glyndwr 0 8 0 8
  T3/5/h5 Tir ar Heol Glan-Gwendraeth 0 8 0 8
  T3/5/h6 Cae Pontbren 0 16 0 16
  T3/5/h7 Cae Canfas, Heol Llanelli 0 8 0 8
  T3/5/h8 Tir ar Heol Llanelli / Heol Danybanc 0 100 0 100
Ponthenri T3/5/h9 Tir ar Fferm Tŷ’n y Waun 0 30 0 30
  T3/5/h10 Incline Inn 0 0 7 7
  Cyfanswm 1 200 39 239
 
T3/6 Pontyberem / Bancffosfelen
  T3/6/h1 Bryngwyddil, Bancffosfelen 8 0 13 13
  T3/6/h2 Tir cyfagos i Lwynpiod, Bancffosfelen 0 40 0 40
  T3/6/h3 Tir cyfagos i 39 Heol y Felin, Pontyberem 0 6 0 6
  T3/6/h4 I’r gogledd a’r gogledd-orllewin o Heol Aneddfa, Pontyberem 0 20 0 20
  T3/6/h5 Tir ger Ashgrove, Pontyberem 0 6 0 6
  T3/6/h6 Tir ger Heol Llan-non, Pontyberem 0 55 0 55
  Cyfanswm 8 127 13 140
 
T3/7 Hendy / Fforest
  T3/7/h1 Clos y Wern, Hendy 21 0 35 35
  T3/7/h2 Cyfagos i Glos y Wern, Hendy 0 5 0 5
  T3/7/h3 Tir cyfagos i Glos Tŷ Gwyn, Hendy 0 66 0 66
  T3/7/h4 Tir rhwng Clayton Road ac i’r dwyrain o Heol Bronallt 0 20 0 20
  T3/7/h5 Tir i’r dwyrain o Heol Bronallt 0 0 28 28
  T3/7/h6 Coed y Bronallt 0 5 2 7
  T3/7/h7 Tir yn Fforest Garage 0 8 9 17
  T3/7/h8 Tir cyfagos i Glos Benallt Fawr, Fforest 0 35 0 35
  T3/7/h9 Heol Llanedi, Fforest 0 6 0 6
  Cyfanswm 21 145 74 219
 
T3/8 Glanaman / Garnant
  T3/8/h1 Tir ger Heol Llwyncelyn 0 0 28 28
  T3/8/h2 Tir ym Maes Llewellyn 7 0 12 12
  T3/8/h3 Cyfagos i Barc Bryn Rhos 1 0 70 70
  T3/8/h4 Tir yng Nglan yr Afon 0 35 0 35
  T3/8/h5 Gardd Farchnad Glyn Dreinog 2 11 2 13
  T3/8/h6 Ysgol Gynradd Sirol Garnant, Heol yr Ysgol Newydd 1 0 9 9
  T3/8/h7 Safle cyfagos i 1 Arcade Terrace 8 0 8 8
  T3/8/h8 Tir cyfagos i 13 Bishop Road 0 8 0 8
  T3/8/h9 Tir ger Bishop Road 0 0 22 22
  T3/8/h10 Garej Raven, Heol Cwmaman 0 5 0 5
  T3/8/h11 Tir y tu cefn i’r Ganolfan Ddydd, ar gornel Heol Cwmaman a Folland Road 0 5 0 5
  T3/8/h12 Cowell Road 4 0 5 5
  T3/8/h13 Cyf. 822 Nantgwineu Road 8 0 8 8
  T3/8/h14 Hen Ysgol Gynradd Glanaman 0 19 0 19
  Cyfanswm 31 83 164 247
 
T3/9 Brynaman
  T3/9/h1 Tir cyfagos i 53 Heol yr Orsaf 0 22 0 22
  T3/9/h2 Tir ar Heol Ardwyn 8 0 8 8
  T3/9/h3 Heol y Mynydd 0 5 0 5
  T3/9/h4 Tir i’r de o Heol Cwmgarw 0 65 0 65
  T3/9/h5 Tir y tu cefn i 111-115 Heol Cwmgarw 0 7 0 7
  Cyfanswm 8 99 8 107
 
T3/10 Llangadog
  T3/10/h1 Tir cyferbyn ag Ysgol Gynradd Sirol Llangadog 0 27 0 27
  T3/10/h2 Safle’r Hen Farchnad 10 0 10 10
  Cyfanswm 10 27 10 37
 
T3/11 Llanybydder
  T3/11/h1 Cyfagos i’r Neuadd 0 10 0 10
  T3/11/h2 Cyfagos i’r Bryn 0 10 0 10
  T3/11/h3 Lakefield 0 39 0 39
  T3/11/h4 Tu cefn i Deri, Heol y Deri 0 0 16 16
  T3/11/h5 Troedybryn 0 0 23 23
  Cyfanswm 0 59 39 98
 

Cymunedau Cynaliadwy

SC1
Drefach/ Felindre SC1/h1 Parc Puw 25 15 25 40
  SC1/h2 Tir cyfagos i Aweldeg 0 30 0 30
Waungilwen SC1/h3 Tir ar Heol Waungilwen 0 5 0 5
  SC1/h4 Gyferbyn â Springfield 0 6 0 6
  SC1/h5 Tir yn Arwel 0 7 0 7
  Cyfanswm 25 63 25 88
 
SC2
Llangeler SC2/h1 Brogeler 0 6 0 6
Pentre-cwrt SC2/h2 Tir yn cyffinio â Brynywawr 0 14 0 14
Saron SC2/h3 Tir cyfagos i Dyddyn y Celyn 2 6 2 8
  SC2/h4 Tir cyfagos i Arwynfa 0 35 0 35
  Cyfanswm 2 61 2 63
 
SC3
Llanboidy SC3/h1 Tir y tu cefn i Ysgol Bro Brynach 0 20 0 20
  Cyfanswm 0 20 0 20
 
SC4
Croes Glandy SC4/h1 Tir y tu cefn i Faesglas 0 10 0 10
  SC4/h2 Tir ar y groesffordd 2 4 2 6
Efailwen SC4/h3 Pobty Beca 2 4 5 9
  Cyfanswm 4 18 7 25
 
SC7
Capel Iwan SC7/h1 Cyfagos i Pleasant View 0 7 0 7
  SC7/h2 Maes y Bryn 0 13 0 13
  Cyfanswm 0 20 0 20
 
SC8
Tre-lech SC8/h1 Cyfagos i Picton House 2 4 2 6
  SC8/h2 Tir cyfagos i Tower Hill 0 5 0 5
  Cyfanswm 2 9 2 11
 
SC9
Cynwyl Elfed SC9/h1 Cyfagos i Fron Heulog 0 4 4 8
  SC9/h2 Tir cyfagos i Leine 1 14 1 15
  SC9/h3 Cyfagos i Ddolwerdd 0 6 0 6
  Cyfanswm 1 24 5 29
 
SC11
Llangynin SC11/h1 O.S 8671, y tu cefn i Irfonan 1 6 4 10
Meidrim SC11/h2 Tir ger Heol Drefach 1 0 12 12
  SC11/h3 Tir cyfagos i a’r tu cefn i Lôn Dewi 0 10 0 10
    Cyfanswm 2 16 16 32
 
SC13
Pentywyn SC13/h1 Tir yn Iard Nieuport 0 0 5 5
  SC13/h2 Ocean’s View 1 2 3 5
Llanmiloe SC13/h3 Tir yn Woodend 0 0 40 40
  Cyfanswm 1 2 48 50
 
SC14
Rhos-goch SC14/h1 Tir cyfagos i Fferm Avola 0 8 0 8
  Cyfanswm 0 8 0 8
 
SC15
Bancyfelin SC15/h1 Tu cefn i dafarn y Fox and Hound 6 17 6 23
Llangynog SC15/h2 Tir yng Ngholeg Bach 0 5 0 5
  Cyfanswm 6 22 6 28
 
SC16
Llan-y-bri SC16/h1 Cyfagos i Barc y Delyn 0 10 0 10
  Cyfanswm 0 10 0 10
 
SC17
Mynydd-y-garreg SC17/h1 Parc y Garreg 74 0 74 74
  SC17/h2 Parc Felindre 11 0 11 11
  SC17/h3 Cyfagos i The Croft 0 0 28 28
  SC17/h4 Tir cyferbyn â Pharc y Garreg 0 30 0 30
  Cyfanswm 85 30 113 143
 
SC18
Bronwydd/ Cwmdwyfran SC18/h1 Tir y tu cefn i Swyn Aderyn, Bronwydd 0 15 0 15
Cwm-ffrwd SC18/h2 Cwmffrwd Nurseries 0 0 10 10
  SC18/h3 Tir cyfagos i Faes Glasnant 0 30 0 30
  SC18/h4 Cyfagos i Ffrwdwen 0 23 0 23
Llan-gain SC18/h5 I’r de o Ddôl y Dderwen 0 25 0 25
Peniel SC18/h6 I’r de o Bentre 0 10 0 10
  SC18/h7 Cyfagos i Aberdauddwr 10 0 10 10
  Cyfanswm 10 103 20 123
 
SC19
Alltwalis SC19/h1 Hen Neuadd 8 0 8 8
Llanpumsaint SC19/h2 Cyfagos i Landre 3 2 7 9
  SC19/h3 Cyfagos i Gwyn Villa 0 20 0 20
Rhydargaeau SC19/h4 Bryn Bedw 0 11 0 11
  SC19/h5 Fferm Cefn 0 18 0 18
  Cyfanswm 11 51 15 66
 
SC20
Llanfihangel-ar-arth SC20/h1 Cyfagos i’r Hendre 0 8 0 8
New Inn SC20/h2 Cyfagos i Nant y Gelli 0 8 0 8
  SC20/h3 Blossom Inn 1 2 10 12
Pencader SC20/h4 Bro’r Hen Ŵr 10 0 17 17
  SC20/h5 I’r gogledd o Faes Cader 0 37 0 37
  SC20/h6 Cyfagos i Dremle House 4 0 9 9
  Cyfanswm 15 55 36 91
 
SC21
Pont-tyweli SC21/h1 Cilgwyn Bach 0 17 0 17
  SC21/h2 Cyfagos i Grug yr Ŵyn 0 19 0 19
  Cyfanswm 0 36 0 36
 
SC22
Llanllwni SC22/h1 Tir yn Aber-Giar 0 6 4 10
  SC22/h2 Tir cyfagos i Ger y Bryn 0 8 0 8
  SC22/h3 Cyfagos i Dan y Bryn 2 6 5 11
  Cyfanswm 2 20 9 29
 
SC23
Cwmann SC23/h1 Cysgod y Coed 4 0 7 7
  SC23/h2 Heol Hathren 0 12 0 12
  SC23/h3 Cwrt Deri 29 0 29 29
  SC23/h4 Cae Coedmore 4 0 7 7
  SC23/h5 Tu cefn i Swyddfa’r Post 0 18 0 18
  Cyfanswm 37 30 43 73
 
SC24
Caeo SC24/h1 Tir i’r gorllewin o Rock Street 0 8 0 8
Ffarmers SC24/h2 Tir cyfagos i Degeirian 0 8 0 8
  Cyfanswm 0 16 0 16
 
SC25
Llansawel SC25/h1 Tir cyfagos i Ddolau Llan 0 5 0 5
Rhydcymerau SC25/h2 Tir yn Nolau Isaf 0 6 0 6
Talyllychau SC25/h3 Tir cyfagos i Ffynnon Dawel 0 5 3 8
  SC25/h4 Tir ger Edwinsford Arms 0 0 9 9
  SC25/h5 Tir cyfagos i Ddyffryn Glas 0 8 0 8
  Cyfanswm 0 24 12 36
 
SC26
Llanwrda SC26/h1 Caegof, Heol Llanbedr 8 0 8 8
  Cyfanswm 8 0 8 8
 
SC28
Cynghordy SC28/h1 Cyfagos i Fronhaul 0 22 0 22
  Cyfanswm 0 22 0 22
 
SC30
Cwmifor SC30/h1 Gyferbyn â Neuadd y Pentref 0 25 0 25
Pen-y-banc SC30/h2 Caebach, Penybanc 2 0 5 5
Salem SC30/h3 Cyfagos i Golwg y Gar 0 5 0 5
  Cyfanswm 2 30 5 35
 
SC31
Cwrt Henri SC31/h1 OS 5227 ym Mhantyffynnon, 0 16 0 16
Llanarthne SC31/h2 Ysgol Llanarthne 0 0 8 8
  SC31/h3 Cyfagos i Golwg y Tŵr 0 10 0 10
  Cyfanswm 0 26 8 34
 
SC32
Capel Dewi SC32/h1 Heol Llwynddewi 0 8 0 8
Nantgaredig SC32/h2 Tu cefn i’r hen waith coed, Heol yr Orsaf 0 30 0 30
Pontargothi SC32/h3 Tir cyfagos i’r Cresselly Arms 2 12 3 15
  Cyfanswm 2 50 3 53
 
SC33
Llanddarog SC33/h1 Tir cyferbyn â Neuadd y Pentref 0 16 0 16
  SC33/h2 Is y Llan 0 6 0 6
Porth-y-rhyd SC33/h3 Tu cefn i Ysgoldy Bethlehem 0 27 0 27
  SC33/h4 Cyfagos i Dderwen Deg 8 1 8 9
  Cyfanswm 3 50 8 58
 
SC34
Carmel          SC34/h1 Tir cyfagos i Erwlas ac Erwlon 0 10 0 10
Cwmgwili SC34/h2 Rhan o Barc Diwydiannol Heathfield 0 0 15 15²
  SC34/h3 Cyfagos i Ystad Coed y Cadno, Heol Lotwen 0 0 10 10²
Foelgastell SC34/h4 Cyfagos i Meadow’s Edge 1 14 41 55²
Llan-non SC34/h5 Tir i’r gogledd o Glos Rebecca 0 38 0 38²
Maesybont SC34/h6 Tir cyfagos i Faesybryn 0 6 0 6
Milo SC34/h7 Tir cyfagos i Nant yr Allt 2 0 5 5
  Cyfanswm 3 68 71 139
 
SC35
Ystradowen SC35/h1 Hen Ysgol Gynradd Ystradowen 0 9 0 9
  SC35/h2 Cyfagos i’r Goedlan 0 11 0 11
  SC35/h3 Tir ger Pant y Brwyn 0 5 0 5
  SC35/h4 Tir ar Heol Newydd 0 9 0 9
  Cyfanswm 0 34 0 34
 
SC36
Llanedi SC36/h1 Tir y tu cefn i 16 Y Garreg Llwyd 0 7 0 7
  Cyfanswm 0 7 0 7
 
SC37
Pum Heol SC37/h1 Clos y Parc 3 31 3 34
  SC37/h2 Llygad y Ffynnon 12 0 14 14
  SC37/h3 Tir cyfagos i Little Croft 0 25 0 25
  Cyfanswm 15 56 17 73
 
SC39
Llangyndeyrn SC39/h1 Cyfagos i Faes y Berllan 0 12 0 12
  Cyfanswm 0 12 0 12
 
SC40
Carwe SC40/h1 Fferm Carwe 2 6 2 8
  SC40/h2 Brynseilo 2 1 4 5
  SC40/h3 Ffos Las 102 234 246 480
  Cyfanswm 106 241 252 493
 
SC41
Llanfynydd SC41/h1 Cyfagos i Valley View 0 2 12 14
  Cyfanswm 0 2 12 14
 
SC42
Brechfa SC42/h1 Cyfagos i Faesygroes 0 14 0 14
  Cyfanswm 0 14 0 14

Tabl 8 – Polisi H1 Dyraniadau Tai

Noder: Mae’r safleoedd sydd wedi’u cwblhau (neu wedi’u cwblhau’n rhannol) a restrir yn y tabl fel yr oeddent ar 1af Ebrill 2012 fel y nodwyd yng Nghyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai 2012.

1 Yn adlewyrchu dechreuad technegol â chaniatâd cynllunio ar 24ain Ionawr 2013.
2 Dylid rhoi sylw i ddarpariaethau polisi EQ17 a’r Canllawiau Cynllunio Atodol mewn perthynas ag ACA Caeau Mynydd Mawr.

Allwedd – Ffigurau Targed Hyfywedd Tai Fforddiadwy

30% -  
20% -  
10% -  

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS4, AS5, AS7, AS8, AS9, AS13 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.2.12 Nod y dyraniadau tir ar gyfer tai a nodir trwy’r polisi hwn yw bodloni’r gofynion o ran tir ar gyfer tai i’r Sir, a’u dosbarthiad, gan eu cyfeirio i’r aneddiadau hynny sydd â’r rhinweddau priodol o ran cynaliadwyedd a’r ystod o wasanaethau a chyfleusterau angenrheidiol, er mwyn darparu lle ar gyfer twf. Mae hyn i gyd yn anodd ei gyflawni mewn sir amrywiol, ac ar yr un pryd adlewyrchu’r angen i gynllunio mewn modd cynaliadwy. Fodd bynnag, nod y Cynllun yw cyflawni hyn trwy hierarchaeth strwythuredig a dosbarthu twf mewn modd sy’n sicrhau bod y rhan fwyaf o’r gofyniad am dir ar gyfer tai yn mynd i ardaloedd twf Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman/Cross Hands. Mae dyraniadau eraill yn cael eu dosbarthu’n gymesur ar draws gweddill yr hierarchaeth.

6.2.13 Mae dwyseddau datblygu wedi cael eu cyfrifo ar sail safon gychwynnol o 30 i bob hectar yn yr ardaloedd twf, 25 i bob hectar i’r canolfannau gwasanaethau a’r canolfannau gwasanaethau lleol, ac 20 i bob hectar yn y cymunedau cynaliadwy. Fodd bynnag, mae’r ffordd y’u cymhwysir fesul safle wedi cael ei llywio gan ffurf anheddiad yn nhermau a yw’n drefol neu’n fwy gwledig ei gyd-destun gan fwyaf. Mae hefyd yn cymryd i ystyriaeth nodweddion yr anheddiad a’r safle a ffactorau’n ymwneud â datblygu’r safle.

6.2.14 Mae’r dwyseddau nominol hyn wedi cael eu diwygio, lle bo’n briodol, i adlewyrchu amgylchiadau lleol ac amgylchiadau safleoedd fel topograffi a chyfyngiadau ffisegol, a bwriedir iddynt fod yn ddangosol. Rhagwelir y byddant yn cael eu hystyried ymhellach ar adeg ceisiadau.

6.2.15 Wrth lunio cynigion, dylai dyluniad patrwm y safle fod yn berthynol i safleoedd cyfagos. Lle bo’n briodol dylid cynnwys y potensial am fynediad ar y cyd yn y patrwm arfaethedig.

6.2.16 Dylai cynigion roi sylw i ddarpariaethau SP18 Y Gymraeg a GP4 Seilwaith a Datblygiadau Newydd mewn perthynas â’r potensial i ddatblygu safle fesul cyfnod. Nid bod yn rhagnodol yw nod y Cynllun, ond yn hytrach caiff gofyniad i ddatblygu safle fesul cyfnod ei ystyried dim ond pan fo angen ac ar sail achosion unigol. Mewn perthynas â’r effaith bosibl ar y Gymraeg, dylid rhoi sylw hefyd i ddarpariaethau’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar y Gymraeg. Yn amodol ar ddarpariaethau SP18, mae’n bosibl y byddir yn datblygu safle fesul cyfnod er mwyn integreiddio’r datblygiad i’r gymuned ac felly lliniaru’r effaith y byddai’r datblygiad yn ei chael ar y Gymraeg.

Polisi H2 Tai o fewn Terfynau Datblygu

A. Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau tai ar safleoedd nad ydynt wedi’u dyrannu o fewn terfynau datblygu anheddiad diffiniedig (Polisi SP3), os nad ydynt yn destun y darpariaethau yn Rhan B isod, yn cael eu caniatáu ar yr amod eu bod yn unol ag egwyddorion strategaeth y Cynllun a’i bolisïau a’i gynigion.

B. Ni fydd datblygiadau tai o bump neu ragor o anheddau mewn anheddiad Haen 4 a restrir fel un nad oes ganddo unrhyw gyfleusterau neu wasanaethau allweddol (gweler paragraff 6.2.56 isod) yn cael eu caniatáu, ac eithrio lle bônt yn cyfrannu at ddarparu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol dynodedig (fel y’u diffinnir yn y Rhestr Termau) ac ar yr amod:

  1. Bod eu graddfa’n gyson â chymeriad yr anheddiad;
  2. Bod buddion y fforddiadwyedd cychwynnol yn cael eu cadw am byth i’r holl bobl sy’n eu meddiannu ar ôl y rhai cyntaf;
  3. Bod eu maint, graddfa a dyluniad yn gydnaws ag anheddau fforddiadwy a’u bod ar gael i grwpiau ag incwm isel neu gymedrol.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS4, AS5, AS7, AS8, AS9, AS11, AS13 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.2.17 Nodir safleoedd a all ddarparu lle ar gyfer pump neu ragor o anheddau fel safleoedd tai dyranedig yn y Cynllun (gweler Polisi H1). Fodd bynnag, o fewn terfynau datblygu aneddiadau diffiniedig mae’n bosibl y bydd cyfleoedd ar gyfer datblygiadau ar raddfa fach gan gynnwys mewnlenwi ar safleoedd bach nad ydynt wedi’u dyrannu. Dylai cynigion adlewyrchu cymeriad yr ardal a bod yn gydnaws â darpariaethau’r Cynllun.

6.2.18 Mae’r polisi’n cydnabod nad yw’n ymarferol bob amser dyrannu tir ar gyfer datblygiadau ar bob safle posibl, yn arbennig yn aneddiadau’r Ardaloedd Twf a’r Canolfannau Gwasanaethau. Yn aml bydd safleoedd mewn aneddiadau llai a all fod yn addas i’w datblygu nad ydynt wedi’u nodi fel dyraniadau. Nodir cyfraniad safleoedd o’r fath i’r cyflenwad tir ar gyfer tai trwy’r lwfans hap-safleoedd. O fewn yr hierarchaeth aneddiadau, cyfeirir at dir nad yw wedi’i ddyrannu fel hap-safle mewn perthynas â datblygiadau tai. Bydd hap-safleoedd yn cael eu caniatáu os yw’r cynnig yn cyd-fynd â’r polisi uchod a pholisïau eraill yn y CDLl. Yn hyn o beth, dylid rhoi sylw i ddarpariaethau polisïau SP18 Y Gymraeg a GP4 Seilwaith a Datblygiadau Newydd mewn perthynas â’r potensial i ddatblygu safleoedd fesul cyfnod. Dylid nodi fodd bynnag nad bod yn rhagnodol yw nod y Cynllun, ond yn hytrach y caiff gofyniad i ddatblygu safle fesul cyfnod ei ystyried dim ond pan fo angen ac ar sail achosion unigol.

6.2.19 Cydnabyddir y gall cyfleoedd ddod i’r amlwg ar safleoedd nad ydynt wedi’u dyrannu ar gyfer 5 neu ragor o unedau. Caiff datblygiadau o’r fath eu hystyried yn unol â’u rhinweddau unigol ac yn erbyn polisïau a chynigion y Cynllun hwn. Mae paragraff 5.5.4 yn cydnabod rôl y pedwar gwasanaeth allweddol yn y Cymunedau Cynaliadwy ac yn nodi bod diffyg yr holl gyfleusterau o’r fath yn golygu na fydd yr anheddiad yn cael ei ystyried yn briodol i gael dyraniad tai’r farchnad agored trwy’r Cynllun. Yn hyn o beth, wrth ystyried cynigion dylid rhoi sylw dyledus hefyd i ddiffyg cyfleusterau o’r fath ac o ganlyniad fel arfer ni fyddid yn barnu bod cynigion ar gyfer pump neu ragor o unedau yn yr aneddiadau hyn yn briodol. Dylid rhoi sylw i ddarpariaeth Polisi AH2 - Tai Fforddiadwy – Safleoedd Eithriadau sydd, ac eithrio unrhyw safleoedd bach sydd ar gael ar hyn o bryd o fewn y terfynau datblygu diffiniedig, yn golygu y caiff eu hanghenion am dai yn y dyfodol eu diwallu trwy gynigion am dai ar safleoedd eithriedig. Rhestrir yr aneddiadau hyn ym mharagraff 6.2.56 o’r Cynllun hwn.

Polisi H3 Addasu neu Rannu Anheddau sy’n Bodoli Eisoes

Bydd cynigion i addasu neu rannu anheddau priodol yn fflatiau neu’n anheddau amlfeddiannaeth yn cael eu caniatáu ar yr amod:

  1. Na fyddai’n arwain at or-ddwysáu defnydd;
  2. Bod darpariaeth addas ar gyfer parcio ar gael, neu’n cael ei sicrhau;
  3. Bod ansawdd pensaernïol, cymeriad a golwg yr adeilad yn cael eu diogelu, lle bo’n berthnasol, ac na chaiff ei leoliad ei niweidio mewn modd annerbyniol.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS4, AS5, AS7, AS8, AS9, AS13 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.2.20 Nod y polisi hwn yw adlewyrchu’r potensial am gyfleoedd i addasu anheddau priodol sy’n bodoli eisoes, yn lle adeiladu anheddau newydd. Yn aml gall cyfleoedd o’r fath ddarparu ystod a dewis ychwanegol yn y stoc tai a chynnig dewisiadau eraill i berchnogion eiddo lle nad yw’n briodol i un aelwyd fyw mewn annedd fwy ei maint.

6.2.21 Dylai estyniadau fod yn israddol i, ac yn gydnaws â maint, math a chymeriad yr annedd sy’n bodoli eisoes, a pheidio ag arwain at or-ddatblygu (dylid rhoi sylw i bolisi GP6 - Estyniadau). Lle bo’n briodol bydd cynigion yn cael eu hannog i gynnwys ailddefnyddio deunyddiau fel rhan o unrhyw ddatblygiad.

6.2.22 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

Polisi H4 Anheddau Cyfnewid

Bydd cynigion ar gyfer annedd newydd yn gyfnewid am annedd sy’n bodoli eisoes y tu allan i Derfynau Datblygu diffiniedig anheddiad diffiniedig (Polisi SP3) yn cael eu caniatáu:

  1. Os yw’r annedd gyfnewid yn cael ei lleoli o fewn cynllun yr annedd sy’n bodoli eisoes, oni fo lleoliad arall o fewn y cwrtil presennol yn dod â gwelliannau amgylcheddol, tirweddol neu weledol arwyddocaol;
  2. Os nad yw’r adeilad sy’n bodoli eisoes yn strwythur dros dro, neu’n destun caniatâd dros dro;
  3. Os yw dyluniad a deunyddiau’r annedd gyfnewid yn briodol i gymeriad a golwg yr ardal;
  4. Os nad yw graddfa’r annedd arfaethedig yn anghymesur o ran ei maint â’r annedd sy’n bodoli eisoes;
  5. Os nad oes unrhyw effeithiau andwyol ar fynediad, parcio neu wasanaethau cyfleustodau, neu ar amwynder lleol;
  6. Os nad oes unrhyw effeithiau andwyol ar nodweddion o ddiddordeb o ran cadwraeth natur, y lleoliad neu gyfanrwydd yr amgylchedd hanesyddol a’r dirwedd/trefwedd;
  7. Os yw’r annedd sy’n bodoli eisoes yn cael ei dymchwel yn union cyn neu’n union ar ôl adeiladu’r annedd gyfnewid.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS4, AS5, AS7, AS8, AS9, AS11, AS13 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.2.23 Bydd cynigion ynghylch cyn anheddau lle rhoddwyd y gorau i’r hawliau preswyl oedd yn bodoli yn cael eu hystyried o dan bolisi H3. Dylid ystyried effaith bosibl yr annedd gyfnewid yn ofalus, yn arbennig os bydd goblygiadau gweledol a goblygiadau yn nhermau amwynder i’r cynnig oherwydd ei faint. Felly dylai cynigion barchu cymeriad yr ardal a dylai dyluniad a graddfa unrhyw annedd gyfnewid gael eu rheoli’n unol â hynny.

6.2.24 Dylid rhoi sylw i’r arweiniad a geir ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 a Nodiadau Cyngor Technegol ynghylch cynigion i addasu adeiladau amhreswyl yng nghefn gwlad.

6.2.25 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

Polisi H5 Addasu ac Ailddefnyddio Adeiladau Gwledig at Ddefnydd Preswyl

Ni fydd cynigion i addasu ac ailddefnyddio adeiladau mewn ardaloedd gwledig y tu allan i Derfynau Datblygu anheddiad diffiniedig (Polisi SP3) at ddibenion preswyl yn cael eu caniatáu ond:

  1. Os yw’r awdurdod yn fodlon bod pob ymdrech resymol wedi cael ei gwneud i sicrhau defnydd busnes arall ac os yw’r cais yn cael ei ategu gan ddatganiad o dystiolaeth sy’n bodloni’r cyngor bod ymdrechion priodol wedi cael eu gwneud i gyflawni hyn;
  2. Os byddai unrhyw ddefnydd preswyl yn elfen israddol a fyddai’n gysylltiedig â chynllun ehangach ar gyfer ailddefnydd busnes; neu
  3. Os bydd y defnydd preswyl yn cyfrannu at ddarparu tai fforddiadwy i ddiwallu angen lleol dynodedig gwirioneddol (fel y’i diffinnir yn y Rhestr Termau) ac os bydd:

i) buddion y fforddiadwyedd cychwynnol yn cael eu cadw i’r holl bobl sy’n eu meddiannu ar ôl y rhai cyntaf;
ii) ei fod o raddfa sy’n gyson ag annedd fforddiadwy ac y byddai ar gael i grwpiau ag incwm isel neu gymedrol.

Bydd yn ofynnol hefyd i gynigion ddangos y gellir bodloni’r meini prawf canlynol:

  1. Bod yr adeilad yn gadarn ei strwythur, yn sylweddol gyfan ac yn ddigon mawr i roi lle i’r defnydd arfaethedig heb ei newid, ei estyn neu ei ailadeiladu’n sylweddol;
  2. Bod yr adeilad yn dangos ac yn cadw digon o ansawdd o ran nodweddion pensaernïol a deunyddiau traddodiadol heb golledsylweddol o ran cymeriad a chyfanrwydd y strwythur gwreiddiol.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS4, AS5, AS7, AS8, AS9, AS11, AS13 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.2.26 Mae’r potensial i ailddefnyddio adeiladau sy’n bodoli eisoes mewn ardaloedd gwledig at ddibenion cyflogaeth yn cael ei gydnabod a’i gefnogi trwy Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 Paragraff 7.3.2. Felly byddai cynigion ar gyfer defnydd busnes neu ddefnydd cymunedol yn cael ystyriaeth ffafriol yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru ynghyd â defnyddiau chwaraeon, hamdden a thwristiaeth (dylid rhoi sylw i ddarpariaethau Polisi TSM4 - Llety i Ymwelwyr).

6.2.27 Yn gyffredinol, mae polisi cynllunio cenedlaethol â’r nod o reoli datblygiadau preswyl yng nghefn gwlad agored yn llym, gan adlewyrchu egwyddorion cynaliadwyedd ac er mwyn hybu’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd a gwarchod yr amgylchedd naturiol. Ni fydd ailddefnyddio ac addasu (gan gynnwys newid) adeilad diwydiannol, masnachol, amaethyddol neu adeilad arall yng nghefn gwlad agored at ddefnydd preswyl yn cael ei ganiatáu ond os gellir dangos bod pob ymdrech resymol wedi cael ei gwneud i barhau â defnydd busnes/masnachol neu weithgarwch cymunedol, neu sefydlu defnydd neu weithgarwch o’r fath, fel y nodir ym maen prawf a) uchod, neu fel arall bod unrhyw gynnig preswyl yn cyfrannu at ddiwallu angen am dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig. Er y cydnabyddir y gall y cyfraniad hwn fod yn fach, serch hynny mae’n bwysig sicrhau y gwneir y defnydd mwyaf o gyfleoedd mewn ardaloedd gwledig i ddiwallu anghenion lleol.

6.2.28 Dylid rhoi sylw i’r Rhestr Termau mewn perthynas â diffiniad angen lleol wrth gymhwyso’r polisi hwn.

6.2.29 Hefyd, mae’n bosibl y bydd cynigion preswyl yn cael ystyriaeth ffafriol pan fônt yn rhan o gynllun arfaethedig ar gyfer ailddefnydd busnes ac y byddent yn israddol i’r defnydd busnes yn nhermau maint yr arwynebedd llawr y byddent yn ei gymryd. Mae’n bosibl y gosodir amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r gwaith y mae ei angen i sefydlu’r busnes/menter fod wedi’i gwblhau cyn meddiannu’r elfen breswyl. At hynny, mae’n bosibl y bydd amod neu rwymedigaeth gynllunio yn clymu’r uned breswyl i weithrediad y fenter yn cael ei ddefnyddio hefyd, fel y bo’n briodol.

6.2.30 Dim ond yr adeiladau hynny sydd o ansawdd pensaernïol priodol ac sy’n cynnwys deunyddiau traddodiadol fydd yn cael eu hystyried. Fel arfer ni fydd cynigion am adeiladau ag adeiladwaith iwtilitaraidd, modern fel unedau ffrâm bortal, strwythurau dros dro neu rai sy’n defnyddio deunyddiau fel gwaith blociau concrit neu orffeniadau cladin dalenni metel neu ddalenni eraill yn cael eu hystyried yn briodol i gael eu haddasu.

6.2.31 Wrth ystyried cynigion mewn perthynas â maen prawf d), bydd angen i’r Cyngor fod yn fodlon y gellir sicrhau digon o le byw a storio (gan gynnwys cadw cerbydau mewn garej) heb yr angen am estyniadau sylweddol i’r adeilad. Fel arfer ni fydd cynigion i ehangu unedau yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn briodol. Yn yr un modd, bydd y Cyngor yn ystyried tynnu’n ôl hawliau datblygu a ganiateir arferol i adeiladu estyniadau ac adeiladau atodol.

6.2.32 Mae’n bosibl y bydd y Cyngor yn mynnu gwneud arolwg ac adroddiad strwythurol i ddangos bod yr adeilad yn gadarn ac y gellir ei addasu’n llwyddiannus heb unrhyw waith ailadeiladu sylweddol.

6.2.33 Bydd yn ofynnol i gynigion roi sylw i’w heffaith ar fioamrywiaeth. Yn aml mae llawer o adeiladau gwledig yn cynnal bioamrywiaeth neu’n cynnig potensial ar ei chyfer. O ganlyniad, dylid gwneud darpariaeth ar gyfer diogelu unrhyw gynefin i rywogaeth o ddiddordeb cadwraethol sy’n byw yn yr adeilad ar hyn o bryd. Dylid rhoi sylw i Bolisi SP14 - Gwarchod a Gwella’r Amgylchedd Naturiol ac i baragraff 6.6.20 mewn perthynas ag effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

6.2.34 Ceir rhagor o wybodaeth ac arweiniad mewn perthynas â darpariaethau a gofynion polisi H5 yn y Canllawiau Cynllunio Atodol perthnasol.

Polisi H6 Cyfleusterau Gofal Preswyl

Bydd cynigion ar gyfer datblygu cyfleusterau gofal preswyl ac estyniadau i gyfleusterau sy’n bodoli eisoes o fewn Terfynau Datblygu anheddiad diffiniedig (Polisi SP3) yn cael eu caniatáu os oes ganddo fynediad diogel a hwylus i gyfleusterau a gwasanaethau cymunedol.

Bydd cynigion ar gyfer llety pwrpasol newydd y tu allan i Derfynau Datblygu diffiniedig yn cael eu caniatáu os yw’n atodol i sefydliad sy’n bodoli eisoes ac wedi’i integreiddio i’r adeilad sy’n bodoli eisoes ac nad yw’n anghymesur o ran graddfa ac ar yr amod nad oes unrhyw effeithiau andwyol ar y dirwedd/trefwedd neu’r lleoliad a chyfanrwydd yr amgylchedd hanesyddol.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS4, AS5, AS7, AS8, AS9, AS11, AS13 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.2.35 Mae gan y cynnydd rhagamcanol ym mhoblogaeth yr henoed a ragwelir yn ystod cyfnod y cynllun y potensial i arwain at fwy o alw am ‘gyfleusterau gofal preswyl’. Er y bydd rhai anghenion o ran byw â chymorth neu anghenion am gymorth yn cael eu diwallu trwy addasu cartrefi sy’n bodoli eisoes neu yn wir drwy gyfleusterau sy’n bodoli eisoes, cydnabyddir yr angen i’r Cynllun ddarparu ar gyfer ystyried cyfleusterau gofal. O ganlyniad nod y polisi hwn yw darparu fframwaith ar gyfer ystyried cynigion i wneud darpariaeth briodol ar gyfer anghenion y bobl y mae angen gofal arnynt.

6.2.36 At ddibenion y polisi hwn diffiniad cyfleusterau gofal preswyl yw cartrefi nyrsio, tai gwarchod, tai gofal ychwanegol neu agos (â wardeiniaid), cyfleusterau ymddeoliad sy’n adlewyrchu anghenion gofal parhaus a chyfleusterau eraill lle darperir gofal. Os yw cyfleuster gofal yn cael ei gynnig ar ddyraniad preswyl, rhoddir sylw i natur y cynnig wrth benderfynu ar y cais. Bydd lefel annibyniaeth y preswylwyr yn ystyriaeth bwysig, ac fel arfer ni fernir bod cyfleusterau ‘drws caeedig’ yn briodol.

6.2.37 Mae cynnwys cyfleusterau o’r fath o fewn y terfynu datblygu’n sicrhau bod y preswylwyr yn aros yn integredig yn y gymuned, gyda’r datblygiadau’n rhan o'r ffurf drefol neu adeiledig. At ddibenion y polisi hwn diffiniad cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol yw meddygfeydd meddygon teulu a siopau. Mae hygyrchedd seilwaith o'r fath yn gydnabyddiaeth bwysig o anghenion preswylwyr.

Polisi H7 – Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Bydd cynigion ar gyfer safleoedd carafanau Sipsiwn a Theithwyr neu estyniadau i safleoedd a ganiateir sy’n bodoli eisoes yn cael eu caniatáu ar yr amod:

  1. bod y lleoliad arfaethedig fynediad yn rhesymol hygyrch i amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau, gan gynnwys darpariaethau cymunedol, cymdeithasol ac addysgol sy’n bodoli eisoes, a’i fod yn agos i brif lwybrau trafnidiaeth;
  2. na fydd y cynnig yn andwyol i breswylwyr cyfagos a defnyddiau tir cyffiniol oherwydd swn neu achosion aflonyddu eraill;
  3. bod modd i’r safle gael gwasanaethau dwr, trydan, carthion a gwaredu gwastraff;
  4. nad oes unrhyw effaith andwyol ar y dirwedd/trefwedd neu’r lleoliad a chyfanrwydd yr amgylchedd hanesyddol.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS8, AS9, AS11 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.2.38 Mae Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 30/2007 (Cynllunio ar gyfer Safleoedd Carafanau Sipsiwn a Theithwyr) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol wneud darpariaeth ar gyfer safleoedd carafanau Sipsiwn a Theithwyr trwy ddyrannu safleoedd, lle nodir bod angen, ynghyd â pholisïau wedi’u seilio ar feini prawf.

6.2.39 Mae cyfrif carafanau sipsiwn a theithwyr chwe-misol diweddaraf Llywodraeth Cynulliad Cymru (Ionawr 2013) a ffynonellau gwybodaeth eraill yn nodi nad oes unrhyw leiniau Awdurdod Lleol cyfanheddol ar gael ym Mhenybryn, Llanelli i ddarparu ar gyfer gofyniad Sipsiwn-Teithwyr yn y sir.

6.2.40 Bernir mai defnyddio tir a monitro safleoedd yn ofalus yw’r dewis gorau sydd ar gael i ganfod gofynion Sipsiwn-Teithwyr. Bydd y Cyngor yn canfod safle carafanau i sipsiwn a theithwyr os oes angen heb ei ddiwallu’n cael ei ganfod yn Sir Gaerfyrddin yn ystod camau monitro ac adolygu’r CDLl.

6.2.41 Bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni diffiniad Sipsiwn-Teithwyr fel y’i diffinnir yng nghylchlythyr Llywodraeth Cymru 30/2007 ‘Cynllunio ar gyfer Safleoedd Carafanau Sipsiwn a Theithwyr’.

6.2.42 Rhaid i unrhyw gais gynnwys tystiolaeth i brofi pam y mae angen safle newydd neu estyniad i safle sy’n bodoli eisoes yn y lleoliad hwnnw. Dylai gwybodaeth o’r fath gynnwys tystiolaeth o ddiffyg argaeledd lleiniau parhaol neu dros dro addas ar safleoedd sy’n bodoli.

6.2.43 Rhaid i unrhyw gynnig am safleoedd newydd neu estyniadau i safleoedd sy’n bodoli eisoes fod â mynediad da i wasanaethau, yn enwedig gwasanaethau hanfodol fel ysgolion cynradd a meddygfeydd. Mae’r amod yn y polisi y dylai safleoedd fod yn agos i brif lwybrau trafnidiaeth yn pwysleisio pwysigrwydd cynaliadwyedd wrth ddewis safleoedd posibl. Yn hyn o beth mae lleoliadau priodol sy’n gysylltiedig ag aneddiadau fel y’u diffinnir yn y CDLl (Polisi SP3 - Dosbarthu Cynaliadwy – Fframwaith Aneddiadau) gyda’u cyfleusterau a’u gwasanaethau, yn cefnogi amcanion strategol y Cynllun ac yn cynnal ei strategaeth.

6.2.44 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop. Dylid hefyd nodi, os bernir ei bod yn briodol, mae’n bosibl y bydd Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd lefel prosiect yn ofynnol mewn perthynas â safleoedd arfaethedig yn y dyfodol.

Polisi H8 Adnewyddu Anheddau sydd wedi Adfeilio neu wedi’u Gadael

Bydd cynigion i adnewyddu anheddau sydd wedi adfeilio neu wedi’u gadael y tu allan i Derfynau Datblygu anheddiad diffiniedig (Polisi SP3) yn cael eu caniatáu:

  1. os gellir dangos bod rhan sylweddol o’r strwythur gwreiddiol yn gadarn yn ffisegol ac yn sylweddol gyfan, ac mai dim ond ychydig o waith adfer strwythurol y mae ei angen;
  2. os oes gan y strwythur sy’n bodoli eisoes ddigon o fanylion pensaernïol gwreiddiol (waliau, toeau, agoriadau ac ati) i alluogi gwaith adnewyddu cywir a ffyddlon sy’n adlewyrchu ei gyflwr blaenorol;
  3. os yw’n gydnaws â phriodweddau pensaernïol yr annedd wreiddiol ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r dirwedd;
  4. os nad oes unrhyw effeithiau andwyol ar y lleoliad neu gyfanrwydd yr amgylchedd hanesyddol.

Mewn amgylchiadau eithriadol, os gellir dangos bod yr annedd wreiddiol wedi chwarae rhan gydnabyddedig ac arwyddocaol yn hanes, diwylliant a datblygiad Sir Gaerfyrddin, mae’n bosibl y caiff y defnydd o dystiolaeth ffotograffig neu ddogfennol ei dderbyn fel ffordd o ddangos manylion gwreiddiol yr annedd.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS4, AS5, AS7, AS8, AS9, AS11, AS13 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.2.45 Gall adnewyddu anheddau sydd wedi’u gadael wneud cyfraniad bach ond pwysig i anghenion ardal. Mae gwerth pensaernïol nifer o anheddau sydd wedi adfeilio neu wedi’u gadael, yn aml yn adlewyrchu’r bensaernïaeth werinol draddodiadol a dylai gael ei gydnabod wrth gyflwyno cynigion o'r fath. Dylai estyniadau, gofynion o ran mynediad neu agweddau eraill sy’n gysylltiedig â’r cynnig fod yn gydnaws â chymeriad yr adeilad gwreiddiol a’r dirwedd. Bydd cynigion sydd â’r nod o wneud cyfraniad cadarnhaol at briodweddau tirweddol yr ardal yn cael eu hannog.

6.2.46 Bydd cynigion sy’n methu â bodloni’r uchod (gan gynnwys ailadeiladu) yn cael eu hystyried yn ddatblygiadau yng nghefn gwlad agored a phenderfynir arnynt yn unol â hynny.

6.2.47 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

Polisi H9 Carafanau Preswyl

Bydd cynigion ar gyfer carafanau preswyl unigol yn cael eu caniatáu os:

  1. Oes angen y garafán fel llety dros dro i weithiwr hanfodol mewn ymgymeriad cyflogi ym maes amaethyddiaeth neu goedwigaeth neu faes priodol arall, y mae’n rhaid iddo fyw yn y fan a’r lle yn hytrach nag mewn anheddiad cyfagos; neu
  2. Oes angen y garafán dros dro mewn cysylltiad ag adeiladu un annedd ar lain hunanadeiladu, neu wrth adeiladu annedd gyfnewid; ac
  3. Y bydd y garafán neu’r cartref symudol yn cael ei osod yn agos at adeiladau eraill lle bo modd ac na fydd yn achosi problemau arwyddocaol o ran mynediad, parcio, seilwaith neu amwynder; ac
  4. Na fydd yn cael effaith andwyol annerbyniol ar amcanion ehangach y Cynllun o ran y dirwedd neu gadwraeth natur.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS4, AS5, AS7, AS8, AS9, AS13 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.2.48 Gosodir amodau ar leoli carafán/cartref symudol y mae ei angen mewn cysylltiad â’r uchod er mwyn sicrhau y caiff ei symud ymaith ar ôl i’r gofynion gweithredol amdano ddod i ben. Bydd cyfnod unrhyw ganiatâd dros dro’n cael ei asesu yng ngoleuni manylion pob cais. Yn achos penderfynu ar yr amserlen ofynnol i leoli carafanau/cartrefi symudol mewn cysylltiad â chodi annedd hunanadeiladu, hyd disgwyliedig y gwaith adeiladu fydd y ffactor pwysicaf wrth benderfynu.

Polisi H10 Gweithio Gartref

Bydd cynigion am weithio gartref (lle mae angen caniatâd cynllunio) yn cael eu caniatáu os gellir dangos y byddai’r cynnig yn gydnaws â defnyddiau tir cyfagos ac na fyddai’n arwain at unrhyw effeithiau andwyol ar amwynder lleol a/neu gymeriad yr ardal.

6.2.49 Mae’r polisi’n ymwneud â busnesau bach sy’n gweithredu o gartref, gan ddarparu ar gyfer ystyriaethau sy’n deillio o’r duedd gynyddol at weithio o gartref (yn awr ac yn y dyfodol). Gall busnesau o’r fath chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu a chynnal economi amrywiol ar draws ardal y Cynllun. Cydnabyddir bod llawer o fusnesau bach yn cael eu dechrau gan unigolion sy’n gweithio o’u cartrefi eu hunain a bod achosion o’r fath yn debygol o gynyddu wrth i arloesi technolegol gynyddu. Wrth ystyried gweithio gartref yng nghyd-destun cynllunio, cydnabyddir nad yw o angenrheidrwydd angen caniatâd cynllunio. Er enghraifft, nid oes angen caniatâd cynllunio fel arfer os nad yw’r defnydd at ddibenion busnes a gynigir ar gyfer rhan o'r ty yn arwain at newid yng nghymeriad cyffredinol yr eiddo a’i ddefnydd fel annedd.

6.2.50 Yn gyffredinol ceir y gofyniad i gael caniatâd cynllunio pan fo’r gweithgarwch busnes yn peidio â bod yn atodol i ddefnydd yr eiddo fel annedd neu os yw cymeriad yr eiddo fel lle i fyw ynddo’n cael ei newid. Os yw busnesau o’r fath yn ddigon mawr a dwys nes bod angen caniatâd cynllunio, bydd y Cyngor yn rhoi sylw i oblygiadau’r cynnig i eiddo cyfagos ac i’r trefniadau tebygol o ran mynediad a pharcio a fyddai’n deillio o natur y cynnig.

6.2.51 Wrth ystyried cynigion ar gyfer mentrau gwledig dylid rhoi sylw i ddarpariaethau polisi cenedlaethol ar ffurf Polisi Cynllunio Cymru a TAN6.

Polisi AH1 Tai Fforddiadwy

Bydd cyfraniad at dai fforddiadwy’n ofynnol ar yr holl ddyraniadau tai a hap-safleoedd. Bydd y Cyngor yn ceisio cyfraniad at dai fforddiadwy o 30% yn yr ardaloedd hyfywedd uchel, 20% yn yr ardaloedd hyfywedd canolig, a 10% yn ardaloedd is-farchnad Rhydaman / Cross Hands.

Os na ellir sicrhau hyfywedd ar y lefelau targed, mae’n bosibl y cytunir i amrywiad ar sail achosion unigol.

Cyfraniadau ar y safle
Bydd yn ofynnol darparu’r tai fforddiadwy ar gynigion am 5 neu ragor o anheddau yn yr holl aneddiadau.

Lle bo cynigion preswyl cyfagos a chysylltiedig yn arwain at nifer gyfunol sy’n cyrraedd y trothwy uchod neu’n uwch nag ef, bydd y Cyngor yn ceisio elfen o dai fforddiadwy ar sail y canrannau targed ar gyfer tai fforddiadwy a nodir uchod.

Bydd yn ofynnol i’r cynigion sicrhau bod yr annedd yn dal yn fforddiadwy i’r holl bobl sy’n ei meddiannu ar ôl y rhai cyntaf, am byth.

Symiau Gohiriedig
Lle bo safle preswyl y farchnad agored islaw’r trothwyau uchod, ceisir cyfraniad trwy swm gohiriedig at ddarparu tai fforddiadwy. Bydd maint y cyfraniad a geisir trwy swm gohiriedig yn amrywio ar sail ei leoliad yn yr ardaloedd is-farchnad hyfywedd uchel, canolig ac isel fel y’u nodir uchod. Caiff taliadau symiau gohiriedig eu seilio ar arwynebedd llawr (cost am bob metr sgwâr)

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS6, AS8, AS9, AS10 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.2.52 Mae Polisi SP6 a thystiolaeth gefndir wedi nodi amrywiadau mewn gwerthoedd gweddilliol a geir ar draws y sir ac adlewyrchir hyn yn y polisi yma. Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau’r cyfraniadau mwyaf posibl ar safleoedd lle bernir ei bod yn hyfyw gwneud hynny, hyd at y targedau ar gyfer tai fforddiadwy o 30%, 20% a 10% ar gyfer yr ardaloedd is-farchnad fel y’u nodir isod ac y’u dangosir ar y map Cynigion. Bydd y Cyngor yn defnyddio’r targedau hyn fel y man cychwyn ar gyfer trafodaethau ynghylch hyfywedd. Mae Polisi AH1 yn cydnabod rôl trafodaethau a, lle bo’n briodol, yn caniatáu i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a datblygwyr gytuno ar darged tai fforddiadwy os oes modd cyfiawnhau hyfywedd is ac os oes ei angen er mwyn bwrw ymlaen â datblygiad.

6.2.53 Ceir rhagor o eglurhad ar hyfywedd safleoedd a symiau gohiriedig yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Dai Fforddiadwy.

Polisi AH2 Tai Fforddiadwy – Safleoedd Eithriadau

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau tai fforddiadwy 100% ar safleoedd sy’n union gyfagos i Derfynau Datblygu aneddiadau diffiniedig (Polisi SP3) yn cael eu caniatáu mewn amgylchiadau eithriadol os mai’r diben yw diwallu angen lleol dynodedig gwirioneddol (fel y’i diffinnir yn y Rhestr Termau) ac:

  1. Os yw’r safle yn estyniad rhesymegol i’r Terfynau Datblygu ac ar raddfa sy’n briodol ac yn gydnaws â chymeriad yr anheddiad;
  2. Os bydd buddion y fforddiadwyedd cychwynnol yn cael eu cadw i’r holl bobl sy’n eu meddiannu ar ôl y rhai cyntaf;
  3. Os yw eu maint, graddfa a dyluniad yn gyson ag anheddau fforddiadwy a’u bod ar gael i grwpiau ag incwm isel neu gymedrol;
  4. Os nad oes unrhyw gynlluniau tai’r farchnad agored yn cael eu datblygu yn yr anheddiad, neu y rhagwelir y cânt eu datblygu, sy’n cynnwys gofyniad am dai fforddiadwy.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS6, AS8, AS9, AS10 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.2.54 Rhoddir caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amodau neu rwymedigaethau cynllunio sy’n sicrhau bod y tai fforddiadwy ar gael o hyd i ddiwallu anghenion lleol o ran tai fforddiadwy yn y dyfodol. Er eglurder, rhaid i safleoedd datblygu sy’n cynnwys 100% o dai fforddiadwy gyd-fynd â meini prawf y polisi hwn. Ni fydd safleoedd eithriadau’n cael eu caniatáu ond lle bo tystiolaeth foddhaol ar gael sy’n cefnogi’r ddarpariaeth.

6.2.55 Yn gyffredinol ni ddylai safleoedd eithriadau gael eu hystyried mewn anheddiad lle bwrir ymlaen â dyraniadau sy’n bodoli eisoes ac mae elfen o fforddiadwyedd yn cael ei darparu fel rhan o’r datblygiad hwnnw. Bydd yn ofynnol darparu tystiolaeth i ddangos na ragwelir y bydd unrhyw gynlluniau ar safleoedd dyranedig yn dechrau o fewn cyfnod rhesymol o amser.

6.2.56 Disgwylir y bydd y ddarpariaeth tai yn y dyfodol ar gyfer yr aneddiadau hynny na chyfeiriwyd dyraniadau tai’r farchnad agored iddynt, ac eithrio unrhyw safleoedd bach sydd ar gael ar hyn o bryd o fewn y terfynau, yn cael ei darparu trwy gynigion ar gyfer eithriadau tai fforddiadwy. Nodir yr aneddiadau hyn isod, ac maent yn adlewyrchu diffyg unrhyw un o’r pedwar gwasanaeth neu gyfleuster allweddol dynodedig (swyddfa’r post, siop pentref, neuadd gymunedol ac ysgol gynradd). Mae’r aneddiadau hynny fel a ganlyn: Pen-boyr (SC1), Drefelin (SC1), Cwm-pen-graig (SC1), Rhos (SC2), Blaenwaun (SC3), Cwmfelin Mynach (SC3), Cwmbach (SC3), Llanglydwen (SC4), Cwmfelin Boeth (SC5), Pentrecagal (SC6), Hermon (SC9), Abernant (SC10), Blaen-y-coed (SC10), Cross Inn (SC12), Llansadyrnin (SC12), Pedair Heol (SC17), Bancycapel (SC18), Llanllwch (SC18), Nant-y-caws (SC18), Croesyceiliog (SC18), Nebo (SC19), Pont-ar-sais (SC19), Banc-y-ffordd (SC21), Pencarreg (SC22), Ffaldybrenin (SC24), Abergorlech (SC25), Ashfield Row (SC26), Felindre (Llangadog) (SC26), Waunystrad Meurig (SC26), Rhandirmwyn (SC29), Derwen-fawr (SC30), Llangathen (SC30), Maenordeilo (SC30), Trap (SC30), Dryslwyn (SC31), Felindre (Dryslwyn) (SC31), Felin-gwm-isaf (SC32), Llanegwad (SC32), Derwydd (SC34), Heol Ddu (SC34), Temple Bar (SC34), Milo (SC34), Pentregwenlais (SC34), Stag and Pheasant (SC34), Pant-y-Llyn (SC34), Capel Seion (SC34), Horeb (SC37), Penymynydd (SC38), Mynydd Cerrig (SC39), Cynheidre (SC40) a Phontantwn (SC40).

6.2.57 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

6.2.58 Darperir rhagor o wybodaeth trwy bolisi cenedlaethol ar ffurf Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7, TAN2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy a TAN6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy. Caiff rhagor o fanylion ac arweiniad ar weithredu a dehongli tai fforddiadwy eu nodi mewn Canllawiau Cynllunio Atodol a gyhoeddir cyn bo hir.

Polisi AH3 Tai Fforddiadwy – Mân Aneddiadau yng Nghefn Gwlad Agored

Bydd cynigion yng nghefn gwlad agored am dai fforddiadwy ar gyfer un annedd yn cael eu caniatáu mewn aneddiadau, pentrefannau a grwpiau o anheddau heb Derfynau Datblygu lle mai’r diben yw diwallu angen lleol dynodedig gwirioneddol (fel y’i diffinnir yn y Rhestr Termau) ac ar yr amod:

  1. Ei fod yn ddatblygiad mewnlenwi sensitif mewn bwlch bach mewn ffryntiad adeiledig sydd fel arall yn ddi-dor; neu, yn fân estyniad nad yw’n arwain at ddatblygiad hirgul neu’n parhau datblygiad hirgul sy’n bodoli eisoes;
  2. Bod ei raddfa a’i faint yn briodol i ac yn gydnaws â chymeriad (gan gynnwys tirwedd a threfwedd) yr ardal (ac nad yw’n andwyol i’r cymeriad hwnnw);
  3. Bod buddion y fforddiadwyedd cychwynnol yn cael eu cadw i’r holl bobl sy’n eu meddiannu ar ôl y rhai cyntaf;
  4. Bod ei faint, graddfa a dyluniad yn gydnaws ag annedd fforddiadwy a’i fod ar gael i’r rheiny ag incwm isel neu gymedrol.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS6, AS8, AS9, AS10 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.2.59 Mae Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 yn adlewyrchu’r angen i reoli’n llym ddatblygiadau i ffwrdd oddi wrth aneddiadau sy’n bodoli eisoes. Fodd bynnag, mae hefyd yn cydnabod bod gan lawer o rannau o gefn gwlad grwpiau ynysig o anheddau ac y gall mewnlenwi bylchau bach mewn ffordd sensitif a mân estyniad mewn grwpiau o’r fath fod yn dderbyniol. (Paragraff 9.2.22). Mae nifer nodedig o ‘aneddiadau bach, grwpiau o anheddau a phentrefannau’ ledled y sir nad ydynt wedi cael eu diffinio yn y fframwaith aneddiadau ac sydd o’r herwydd heb derfynau datblygu. Yn aml ychydig iawn o briodoleddau cynaliadwyedd, neu ddim o gwbl, sydd gan aneddiadau neu grwpiau o dai o’r fath, maent yn wasgaredig eu natur a/neu nid oes ganddynt ddigon o fas ffisegol neu gyfleusterau i gyfiawnhau eu diffinio. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd achosion y mae modd eu cyfiawnhau lle bydd cynigion ar gyfer un annedd mewn safle priodol yn darparu ar gyfer tai fforddiadwy i ddiwallu angen lleol dynodedig gwirioneddol. Er bod cyfleoedd o’r fath yn debygol o fod yn gyfyngedig, gallant wneud cyfraniad pwysig i ardaloedd gwledig a’u cymunedau.

6.2.60 Mae’r polisi’n gwrthbwyso’r angen i warchod cefn gwlad a rheoli datblygiadau ac ar yr un pryd yn cydnabod (yn unol â TAN 6) y gall lleoliadau nad ydynt yn hygyrch hefyd fod yn dderbyniol lle mai’r bwriad yw diwallu anghenion lleol. Mae hefyd yn cydnabod y potensial i roi blaenoriaeth i anghenion lleol mewn ardaloedd sy’n wledig gan fwyaf (TAN 6: 4.1.2). Wrth ystyried cynigion, yn ogystal â’r uchod, rhoddir sylw manwl i ofynion canllawiau a’r angen i warchod priodweddau diwylliannol, tirweddol ac amgylcheddol y sir.

6.2.61 Nodir y diffiniad o angen lleol yn y Rhestr Termau.

6.2.62 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

6.3 Economi a Chyflogaeth

6.3.1 Yn llywio’r CDLl mae canlyniadau’r Astudiaeth Tir Cyflogaeth (2010), y Papur Diweddaru Tir Cyflogaeth Mehefin 2013 Dogfen a Gyflwynwyd – CSD120), a thystiolaeth arall fel rhan o’r broses archwilio. Dyrennir digon o dir ar gyfer 111.13 hectar (dylid rhoi sylw i Bolisi SP7 - Cyflogaeth – Dyraniadau Tir) ar gyfer cymysgedd o ddefnyddiau B1, B2 a B8 a, lle bo’n briodol, defnydd sui generis. Bernir bod hyn yn cynnig hyblygrwydd o ran ystod, dewis a lleoliad yn y ddarpariaeth, gan roi cyfle i ailgyflenwi stoc a gollwyd a chan ddarparu ar gyfer newidiadau posibl yn y galw yn y farchnad. Fodd bynnag, cydnabyddir bod anwadalrwydd y farchnad bresennol a’r cyfyngiadau economaidd o’r herwydd yn galw am ddull gwyliadwrus o fonitro argaeledd y ddarpariaeth, faint ohoni sy’n cael ei defnyddio a pharhad ei hyfywedd, yn strategol a fesul safle unigol. Mae’r Cyngor yn ceisio hwyluso economi amrywiol sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth yn y sir. Bydd yr hyblygrwydd a gynigir gan y ddarpariaeth bresennol a pholisïau’r Cynllun, ynghyd â fframwaith monitro trylwyr (sy’n cipio ac yn darparu ar gyfer gofynion datblygol a dylanwadau economaidd ehangach), yn gyfranwyr pwysig, ynghyd â’r cysylltiadau â phartneriaid ym maes datblygu economaidd, wrth wireddu’r uchelgais hwn.

6.3.2 Cydnabyddir cyfraniad y safleoedd cyflogaeth sy’n bodoli eisoes. Bydd safleoedd o’r fath yn cael eu diogelu ac ni chaniateir eu colli ond yn unol â pholisi EMP1 - Cyflogaeth – Diogelu Safleoedd Cyflogaeth.

6.3.3 Er bod y ddarpariaeth tir cyflogaeth yn canolbwyntio ar ddyrannu safleoedd, cydnabyddir bod y rhan fwyaf o’r sir yn wledig ac mai amaethyddiaeth sy’n sylfaen yn draddodiadol i rannau helaeth o economi Sir Gaerfyrddin. Er bod gwerth economaidd amaethyddiaeth wedi newid, mae’n dal yn gyfrannwr hanfodol i les economi’r ardal yn y dyfodol. Mae hefyd yn dal i fod yn weithgarwch hanfodol o ran stiwardiaeth cefn gwlad. Wrth gadw a chefnogi sector amaethyddol iach ceir buddion amlwg o ran cyflogaeth i’r cymunedau yn y cyffiniau, ond mae hefyd yn cynnig bwyd a gynhyrchir yn lleol.

6.3.4 Dylid rhoi sylw hefyd i ddarpariaethau Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 Paragraff 7.3.1 wrth ddehongli cynigion ar gyfer mentrau gwledig a pharagraff 7.3.2 ar gyfer datblygiadau cyflogaeth mewn aneddiadau gwledig neu gerllaw, o ddewis lle mae darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ar gael. Dylai fod datganiad ategol yn cyd-fynd â chynigion ar gyfer mentrau gwledig, yn dangos angen clir, y gellir ei gyfiawnhau, am i’r datblygiad gael ei leoli yn y lleoliad penodol hwnnw. Dylai gynnwys achos busnes trylwyr i gefnogi’r fenter arfaethedig a dangos sut y mae’n gydnaws â’r meini prawf uchod.

6.3.5 Y diffiniad o fentrau gwledig yw’r un a geir yn TAN6 Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy, Paragraff 4.3.2. Bydd rhagor o eglurhad o’r diffiniad mewn Canllawiau Cynllunio Atodol.

6.3.6 Ceir arweiniad clir ynghylch y canlynol ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7, Pennod 7 - Datblygu Economaidd, ac o ganlyniad ni chânt eu hystyried yma:

EMP1 Cyflogaeth – Diogelu Safleoedd Cyflogaeth

Bydd dyraniadau tir cyflogaeth a ddynodir trwy bolisi SP7 a safleoedd cyflogaeth sy’n bodoli eisoes yn cael eu diogelu ar gyfer defnyddiau o'r fath (B1, B2, B8). Mewn achosion eithriadol, ni fydd cynigion sy’n arwain at eu colli’n cael eu caniatáu ond lle gellir dangos:

  1. Nad oes angen y safle neu’r adeilad mwyach, neu nad yw’n addas mwyach, at ddefnydd cyflogaeth;
  2. Na ellid lleoli’r defnydd arfaethedig yn rhesymol yn rhywle arall yn unol â pholisïau’r Cynllun hwn;
  3. Bod maint, ansawdd ac amrywiaeth digonol o dir neu adeiladau cyflogaeth y gellir eu dwyn ymlaen i ddiwallu anghenion cyflogaeth y sir a'r ardal leol;
  4. Nad oes unrhyw ddefnyddiau cyflogaeth diwydiannol neu fusnes i’r safle a’r adeilad sy’n economaidd hyfyw;
  5. Y byddai defnydd cyflogaeth yn anghydnaws â’r defnyddiau gerllaw/cyffiniol;
  6. Lle bo’n berthnasol, bod y defnyddiau arfaethedig yn ategu prif ddefnydd cyflogaeth yr ardal gyffiniol ac na fyddant yn achosi effaith annerbyniol ar weithrediadau busnesau sy’n bodoli eisoes.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS4, AS5, AS6, AS9, AS10, AS11 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.3.7 Nod y polisi hwn yw sicrhau bod safleoedd cyflogaeth sy’n bodoli eisoes yn cael eu diogelu rhag mathau eraill o ddefnydd. Er mwyn cynnal cyflenwad digonol o dir cyflogaeth ar gyfer ystod a dewis o ddefnyddiau posibl, nod y polisi hwn yw diogelu ardaloedd cyflogaeth diffiniedig rhag defnyddiau sy’n cystadlu, a ddylai fod mewn lleoliadau gwell ac o bosibl mwy priodol.

6.3.8 Wrth gydnabod y pwysau ar ardaloedd cyflogaeth gan ddefnyddiau eraill (nad ydynt yn Nosbarth B), mae’r polisi’n derbyn y bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd mewn rhai achosion. Yn aml mae defnyddiau o’r fath yn ddefnyddiau sy’n rhannol yn Nosbarth B, sy’n cyfuno elfen manwerthu fach gyda defnydd busnes, diwydiannol neu storio yn bennaf, neu’n sui generis. Derbynnir hefyd, wrth ddiwallu anghenion defnyddiau o’r fath, fod ardaloedd cyflogaeth yn debygol o fod yn fwy derbyniol na lleoliadau eraill, fel ardaloedd preswyl, neu hyd yn oed canol trefi. Disgwylir i unrhyw elfen manwerthu fod yn atodol i’r prif ddefnydd, ac er mwyn gwerthu i fusnesau yn hytrach nag i’r cyhoedd.

6.3.9 Lle bo angen bydd yn ofynnol i gynigion datblygu gynnwys mesurau priodol i warchod amwynder eiddo cyffiniol neu gyfagos. Gall mesurau o’r fath gynnwys nodi clustogfeydd a chynigion tirweddu addas.

6.3.10 Os yw’n briodol, gosodir amodau cynllunio er mwyn atal colli cyflogaeth fel y prif ddefnydd.

Polisi EMP2 Cynigion Cyflogaeth Newydd

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau cyflogaeth sydd o fewn Terfynau Datblygu pob anheddiad diffiniedig, yn gyfagos iddynt neu’n gysylltiedig yn uniongyrchol â hwy (Polisi SP3) yn cael eu caniatáu ar yr amod:

  1. Bod chwiliad cymalog wedi cael ei gyflawni gan ganfod nad oes unrhyw ddyraniad na safle cyflogaeth sy’n bodoli eisoes ar gael a all gynnig lle ar gyfer y defnydd yn rhesymol, ac wedyn nad oes unrhyw dir neu adeilad addas (i gael ei addasu neu ei ailddefnyddio) ar gael o fewn y Terfynau Datblygu, ac yna’n gyfagos i’r terfynau, ac yn olaf ar safle sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol ag anheddiad cydnabyddedig;
  2. Bod y cynigion datblygu ar raddfa a ffurf briodol, ac nad ydynt yn andwyol i gymeriad a golwg y drefwedd / tirwedd;
  3. Bod y cynigion datblygu ar raddfa a ffurf briodol sy’n gydnaws â’r lleoliad ac â defnyddiau cyfagos
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS4, AS5, AS6, AS9, AS10, AS11 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Polisi EMP3 Cyflogaeth – Estyniadau a Dwysáu

Bydd cynigion ar gyfer estyniadau i fentrau cyflogaeth sy’n bodoli eisoes a/neu eu dwysáu yn cael eu caniatáu ar yr amod:

  1. Nad yw’r cynigion datblygu yn debygol o achosi difrod amgylcheddol neu beryglu cynigion ailddatblygu eraill;
  2. Nad yw’r cynnig yn estyn a/neu yn dwysáu defnydd neu weithgarwch a allai arwain at broblemau o ran amwynder, neu a all beidio â bod yn gydnaws, gyda defnyddiau cyfagos;
  3. Bod y cynigion datblygu ar raddfa a ffurf briodol sy’n gydnaws â’r lleoliad.

Bydd cynigion i ehangu mentrau gwledig sy’n bodoli eisoes yn cael eu cefnogi yn amodol ar y darpariaethau uchod a pholisïau a chynigion y Cynllun hwn.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS4, AS5, AS6, AS9, AS10, AS11 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.3.11 Ni fydd cynigion sydd âr nod o estyn a/neu ddwysáu defnydd neu weithgarwch nad yw’n gydnaws â defnyddiau cyfagos, neu sy’n debygol o arwain at broblemau o ran amwynder gyda hwy, neu gynlluniau a fyddai’n peryglu cynigion ailddatblygu eraill (sy’n fwy addas i leoliadau o'r fath) yn cael ystyriaeth ffafriol.

6.3.12 Gall estyniadau priodol i gwmnïau sy’n bodoli eisoes gyfrannu’n sylweddol at yr economi leol ac o’r herwydd cânt eu cefnogi. Mae’r un peth yn wir am bosibilrwydd ailddatblygu safleoedd sy’n bodoli eisoes os bydd yn gwella ansawdd yr arwynebedd llawr cyflogaeth, yn arbennig wrth ddiwallu anghenion cyflogaeth modern.

6.3.13 Mae’r polisi hwn yn gwneud darpariaethau ar gyfer ac yn cefnogi’r economi wledig ac estyniadau priodol i fentrau gwledig sefydledig. (TAN6 Paragraff 3.1.3) Dylid rhoi sylw hefyd i Bolisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 - Pennod 7 Datblygu Economaidd.

6.3.14 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

Polisi EMP4 Arallgyfeirio ar Ffermydd

Bydd cynigion ar gyfer prosiectau arallgyfeirio ar ffermydd yn cael eu caniatáu ar yr amod:

  1. Ei fod yn israddol i weithrediad parhaus gweithgarwch amaethyddol y fferm weithio bresennol, yn gydnaws ag ef ac yn ei gefnogi;
  2. Ei fod ar raddfa ac o natur sy’n briodol i weithrediad presennol y fferm;
  3. Bod graddfa a natur y gweithgarwch yn gydnaws â’i hygyrchedd i drafnidiaeth gyhoeddus a’r angen am welliannau i’r priffyrdd lleol;
  4. Na fyddai graddfa a chwmpas unrhyw ddefnydd manwerthu (os oes angen caniatâd cynllunio) yn cael effaith andwyol ar fywiogrwydd a hyfywedd cyfleusterau manwerthu mewn aneddiadau cyfagos, ac na fyddai’n tanseilio’r hierarchaeth manwerthu (gweler polisi RT1);
  5. Na fyddai’n cael effaith andwyol ar gymeriad, lleoliad a golwg yr ardal a’r dirwedd, a lle bo’n briodol y drefwedd, o’i gwmpas.

Dylai cynigion roi blaenoriaeth i addasu adeiladau addas sy’n bodoli eisoes ar y fferm weithio. Lle bo modd ei gyfiawnhau dylai adeilad newydd gael ei integreiddio i adeiladau presennol y fferm weithio ac ni ddylai fod yn andwyol i gymeriad a golwg yr ardal a’r dirwedd o’i chwmpas.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS4, AS5, AS6, AS9, AS10, AS11, AS12 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.3.15 Dylai cynigion ar gyfer arallgyfeirio ar ffermydd fod ar raddfa fach ac yn israddol i’r gweithgarwch ffermio sy’n bodoli eisoes. Bwriedir iddynt ategu a chefnogi parhad y gweithgarwch ffermio presennol. Gyda'r cynigion dylid cyflwyno tystiolaeth sy’n nodi cyfiawnhad dros y defnydd a’i berthynas â’r gweithgarwch ffermio presennol.

6.3.16 Lle bo cynnig yn cynnwys siopau fferm, fel arfer ni fydd angen caniatâd cynllunio penodol os yw’n golygu gwerthu nwyddau heb eu prosesu a gynhyrchwyd ar y fferm honno. Fodd bynnag, er mwyn bod yn hyfyw, yn aml mae’n rhaid i siopau fferm fewnforio nwyddau, o bosibl oddi wrth gyflenwyr lleol eraill. Wrth benderfynu ar gynigion a wneir o dan y polisi hwn, rhoddir ystyriaeth i gyfyngu ar y mathau bras o gynnyrch a werthir ac ar faint gwerthiannau. Rhoddir ystyriaeth hefyd i raddfa’r gweithrediad, yn fwyaf nodedig pe bai defnydd digyfyngiad yn arwain at effaith andwyol ar fywiogrwydd a hyfywedd gweithgareddau manwerthu cyfagos.

6.3.17 Dylai adeiladau newydd gael eu lleoli mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r adeiladau presennol a dylent gael eu hintegreiddio iddynt. Mae hyn yn darparu ar gyfer y cynlluniau hynny lle mae angen adeilad newydd ac ar yr un pryd yn lleihau’r effaith ar gefn gwlad gymaint ag sy’n bosibl. Dylai adeilad(au) newydd sy’n rhan o gynigion fod o ddyluniad sy’n sensitif i olwg yr ardal. Dylai graddfa unrhyw gynnig fod yn gydnaws nid yn unig â gweithrediad presennol y fferm ond hefyd gyda’r lleoliad yng nghefn gwlad. Bydd unrhyw gynnig y bernir ei fod ar raddfa ac o natur sy’n amhriodol i’r lleoliad neu i weithrediad presennol y fferm yn cael ei ystyried yng ngoleuni polisïau perthnasol eraill y Cynllun hwn. Mae’n bosibl y byddir hefyd yn annog lleoli cynigion o’r fath ar y safleoedd cyflogaeth dyranedig yn yr ardal.

6.3.18 Er nad yw argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus yn anhepgor i brosiectau arallgyfeirio ar ffermydd, cymerir hyn i ystyriaeth wrth ystyried natur a graddfa’r cynnig, yn fwyaf nodedig mewn perthynas â’r effeithiau posibl ar y seilwaith priffyrdd lleol ac amcanion y cynllun hwn o ran cynaliadwyedd.

6.3.19 Defnyddir rhwymedigaethau cynllunio i glymu adeiladau amaethyddol i’r tir os yw eu hailddefnyddio’n gysylltiedig ag arallgyfeirio ar ffermydd, yn yr amgylchiadau hynny lle mae darnio’r uned amaethyddol yn debygol o ddigwydd os gwerthir adeilad ar wahân.

6.3.20 Nid yw’r polisi hwn yn ymdrin â mater ailddefnyddio ac addasu adeiladau gwledig sy’n bodoli eisoes. Dylid rhoi sylw i ddarpariaethau polisi cenedlaethol, a chynnwys y Canllawiau Cynllunio Atodol ar addasu ac ailddefnyddio adeiladau gwledig at ddefnydd preswyl. Dylid rhoi sylw i ddarpariaethau’r Cynllun mewn perthynas â’r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

Polisi EMP5 Safleoedd Defnydd Cymysg


Gwneir darpariaeth ar gyfer dyraniadau defnydd cymysg ar y safleoedd canlynol:

Cyf.ySafle Lleoliad a Defnyddiau Arfaethedig

GA1/MU1 Gorllewin Caerfyrddin
Cymysgedd o ddefnyddiau yn cynnwys preswyl (lwfans ar gyfer 1,100 o unedau), cyflogaeth, cyfleusterau cymunedol ac amwynder. Dylid rhoi sylw i bolisi SP4 Safleoedd Strategol.
GA1/MU2 Pibwrlwyd
Cymysgedd o ddefnyddiau yn cynnwys cyflogaeth, hamdden ac addysg (cysylltiedig â’r campws presennol y coleg). Dylid rhoi sylw i bolisi SP4 Safleoedd Strategol.
GA2/MU1 Gwaith yr Hen Gastell
Cymysgedd o ddefnyddiau yn canolbwyntio ar yr economi ymwelwyr, treftadaeth a hamdden. Dylid rhoi sylw i bolisi SP4 Safleoedd Strategol.
GA2/MU2 Hen waith DRAKA, Heol Copperworks,
Cymysgedd o ddefnyddiau yn canolbwyntio’n bennaf ar addysg. Efallai y bydd rhywfaint o gyflogaeth ar raddfa fach yn briodol. Darperir lwfans ar gyfer 150 o unedau preswyl i gynorthwyo â rhyddhau gwerth ar safle tir llwyd.
GA2/MU3Bwnd Machynys
Cymysgedd o ddefnyddiau yn cynnwys hamdden fasnachol yn ogystal â darparu man ecolegol/amwynder hanfodol a lliniaru posibl ar gyfer dwr wyneb. Dim lwfans ar gyfer datblygiadau preswyl. Dylid rhoi sylw i bolisi SP4 Safleoedd Strategol.
GA2/MU4 Porth Trostre
Cymysgedd o ddefnyddiau yn canolbwyntio ar ddefnyddiau masnachol a defnyddiau sy’n gysylltiedig â’r economi ymwelwyr, ynghyd â lwfans o 70 o unedau preswyl i gynorthwyo â rhyddhau gwerth. Ni fyddai datblygiadau manwerthu’n briodol gan fod y safle ar wahân i Barc Manwerthu Trostre.
GA2/MU7 Doc y Gogledd
Mae’r ardal yn destun uwchgynllunio gan y gyd-fenter. Mae’r defnyddiau posibl yn cynnwys cyflogaeth, cyflogaeth sy’n bodoli eisoes, datblygiadau preswyl a masnachol/hamdden. Dylai uwchgynllun yn cyd-fynd â chaniatâd amlinellol lywio gwaith datblygu ar y safle. Gwneir lwfans preswyl ar gyfer 335 o unedau (gan gynnwys lwfans ar gyfer 10 uned sydd eisoes wedi’u hadeiladu yn ystod cyfnod y cynllun). Dylid rhoi sylw i bolisi SP4 Safleoedd Strategol.
GA2/MU8 Stryd y Parc Uchaf – Porth y Dwyrain
Cymysgedd o ddefnyddiau yn canolbwyntio ar ddatblygu potensial yr ardal o ran masnach a hamdden yn ogystal â chyfrannu at adfywio canol y dref.
GA2/MU9 Llynnoedd Delta
Mae’r ardal yn destun uwchgynllunio gan y gyd-fenter. Canolbwyntir ar ddefnyddiau cyflogaeth, gwneud y mwyaf o ansawdd amgylcheddol a lleoliad y safle. Mae’r defnyddiau posibl yn cynnwys darpariaeth gofal iechyd. Ni wneir unrhyw lwfans preswyl. Dylid rhoi sylw i bolisi SP4 Safleoedd Strategol.
GA3/MU1 Gorllewin Cross Hands
Cymysgedd o ddefnyddiau yn cynnwys preswyl (lwfans ar gyfer 220 o unedau), manwerthu, gofal iechyd, cyfleusterau cymunedol ac amwynder. Dylid rhoi sylw i bolisi SP4 Safleoedd Strategol.
GA3/MU2 Gwaith Brics Emlyn
Cymysgedd o ddefnyddiau yn cynnwys preswyl (lwfans ar gyfer 250 o unedau), cyfleusterau cymunedol ac amwynder. Rhoddir ystyriaeth i’r potensial i amrywio defnyddiau er mwyn sicrhau’r gallu mwyaf posibl i ddatblygu’r safle.
T2/1/MU1 Harbwr Porth Tywyn
Mae’n debygol y canolbwyntir ar ddatblygu darpariaeth manwerthu addas ynghyd â defnyddiau priodol yn gysylltiedig â masnach/twristiaeth.
T2/3/MU1 Safle Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri
Darparu ar gyfer defnydd buddiol o safle Ysgol Pantycelyn yn y dyfodol. Yn cynnwys ei ddatblygu ar gyfer oddeutu 45 o unedau preswyl a defnyddiau cymunedol / hamdden gyda’r pwll nofio sy’n bodoli eisoes yn ganolbwynt iddynt.
T2/5/MU1 Hen Ffatri Menyn a thir cyfagos, Heol yr Orsaf, Sanclêr
Ailddatblygiad defnydd cymysg yn cynnwys defnyddiau cyflogaeth, cymunedol, manwerthu a phreswyl arbenigol (dosbarthiadau defnydd A1, B1, C2, C3 a D1) ynghyd â gwaith priffyrdd cysylltiedig, parcio ar gyfer ceir a beiciau, gwasanaethu a defnyddiau a gweithgareddau atodol eraill. Ni fydd unrhyw ddefnydd C3 yn cael ei ystyried ond os yw’n rhan o gyfleuster gofal agos.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS4, AS5, AS6, AS7, AS8, AS9, AS10, AS11, AS12, AS13 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.3.21 Lle bo’n briodol bydd yr uchod a’u defnyddiau dynodedig yn cael eu hystyried ymhellach trwy Ganllawiau Cynllunio Atodol ar ffurf briffiau datblygu. Bydd y briffiau hyn yn ymdrin yn fanylach â datblygiad y safleoedd mewn ffordd gynhwysfawr a chydgysylltiedig, gan sicrhau bod y cynigion yn integredig yn nhermau datblygu’r gwahanol elfennau fesul cyfnod a darparu ffactorau allweddol sy’n galluogi datblygu’r safle megis seilwaith.

6.3.22 Dylid rhoi sylw i bolisi SP4 a chynnwys Atodiad 2 – Safleoedd Strategol a lle bo’n briodol dylid rhoi sylw i bolisïau SP17 - Seilwaith ac EP1 - Adnoddau ac Ansawdd Dwr.

6.3.23 Dylid rhoi sylw i Bolisi EQ7 a’r testun ategol ym mholisïau SP14 ac SP4 mewn perthynas â’r potensial am effaith arwyddocaol debygol ar fetaboblogaeth britheg y gors ar ACA Caeau Mynydd Mawr.

6.4 Manwerthu

6.4.1 Mae’r adran hon yn nodi polisïau penodol sydd â’r nod o weithredu fframwaith manwerthu sy’n gyson â Strategaeth ac amcanion y Cynllun ac mewn modd sy’n gyson â gofynion polisi cenedlaethol.

6.4.2 Wrth ddiffinio hierarchaeth manwerthu, rhoddir sylw i rolau a swyddogaethau’r trefi mwy a’r pentrefi llai. Cydnabyddir, er bod amrywiaeth y ddarpariaeth siopa ledled yr hierarchaeth yn chwarae rhan hanfodol, ar aneddiadau’r Ardaloedd Twf (trwy eu diffiniad fel Prif Ganolfannau yn yr hierarchaeth manwerthu, gweler polisi RT1 isod) y bydd gweithgarwch manwerthu mewn canol trefi yn canolbwyntio.

6.4.3 Er y disgwylir mai siopa fydd y prif weithgarwch yng nghanol trefi o hyd, dim ond un o’r ffactorau sy’n cyfrannu at eu lles yw hwnnw. Mae’n amlwg na ellir gwahanu polisïau manwerthu o swyddogaethau ehangach y trefi mwy fel canolfannau ar gyfer gwasanaethau a chyfleusterau eraill, gan gynnwys busnesau bwyd a diod (caffis, bwytai, tafarnau ac ati), a datblygiadau hamdden fasnachol. Mae amrywiaeth o ddefnyddiau yng nghanol trefi’n cynorthwyo i hybu eu hyfywedd parhaus ac, yn arbennig mewn perthynas â defnyddiau hamdden, yn cyfrannu at fywiogrwydd economi gyda’r nos lwyddiannus.

6.4.4 Nid yw canol trefi bob amser yn gallu cynnig lle ar gyfer mathau penodol o fanwerthu fel nwyddau swmpus oherwydd y gofynion am safleoedd ac adeiladau mawr a’r goblygiadau o ran creu traffig a pharcio. O ganlyniad, mae safleoedd gwerthu o’r fath wedi cael eu caniatáu mewn lleoliadau y tu allan i’r canol, yn unol â chanllawiau cenedlaethol, naill ai ar ffurf unedau unigol neu gyda’i gilydd ar barciau manwerthu. O gofio’r pwysau cynyddol am safleoedd gwerthu o’r fath, mae’r CDLl yn ymdrin â mater parciau manwerthu ac yn diffinio’r meini prawf sydd i’w defnyddio gyda darpar ddatblygiadau. Mae’r polisïau sy’n ymwneud â pharciau manwerthu’n hyrwyddo cydleoli cyfleusterau manwerthu priodol ac yn lleihau twf cyrchfannau manwerthu ar wahân yn y sir. Mae strategaeth o’r fath yn fwy cynaliadwy yn nhermau trafnidiaeth, a bydd yn caniatáu i fusnesau manwerthu fanteisio ar gyd-atyniad cydleoli.

6.4.5 Mae’r ddarpariaeth y tu allan i’r Prif Ganolfannau (gweler polisi RT1 isod), gan gynnwys siopau pentref lleol, yn gwneud cyfraniad pwysig at swyddogaeth manwerthu Sir Gaerfyrddin. Yn hyn o beth mae’r canolfannau hynny sy’n diwallu angen o ran manwerthu cyfleus a’r angen am siopa beunyddiol ar raddfa lai yn darparu amrywiaeth sy’n gyson ag amcanion cynnal cymunedau a lleihau’r angen i deithio. Gall yr aneddiadau hyn a’u harlwy manwerthu ategu swyddogaeth manwerthu sefydledig y rheiny sy’n uwch yn yr hierarchaeth yn ogystal â chyfrannu at y gwaith o weithredu’r Strategaeth.

6.4.6 Mae’r polisïau canlynol hefyd â’r nod o sicrhau bod datblygiadau manwerthu, rhai nad ydynt yn ymwneud â manwerthu, a datblygiadau hamdden yn cael eu lleoli yn y mannau mwyaf priodol. Yn gyffredinol, mae’r mannau mwyaf priodol mewn canolfannau sy’n bodoli eisoes, sy’n hygyrch trwy amrywiaeth o ffyrdd o deithio, ac a all hybu teithiau cysylltiedig i ddefnyddiau eraill yn y ganolfan. Bydd yn ofynnol i ddatblygwyr chwilio’n drwyadl am safleoedd mewn canolfannau cyn ystyried rhai mewn mannau llai canolog.

6.4.7 Ceir arweiniad clir mewn perthynas â’r canlynol ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 6 – Pennod 10 Cynllunio ar gyfer Manwerthu a Chanol Trefi ac felly ni chânt eu hystyried yma. Gellir gweld rhagor o arweiniad yn TAN4 Manwerthu a Chanol Trefi.

6.4.8 Mae materion yn ymwneud â lleoli manwerthu a gwasanaethau eraill yn y canolfannau sy’n bodoli eisoes yn cael eu hystyried ym Mholisi Cynllunio Cymru. Fodd bynnag, dylid rhoi sylw hefyd i Bolisi Strategol SP8 – Manwerthu, ac mae newid defnydd o siopau lleol a siopau pentref, ac o dafarnau, yn cael ei ystyried ym mholisi RT8 isod.

Polisi RT1 Hierarchaeth Manwerthu

Bydd cynigion yn cael eu hystyried yn unol â’r hierarchaeth manwerthu ganlynol. Rhoddir sylw i safle’r anheddiad yn yr hierarchaeth wrth ystyried cynigion manwerthu (gan gynnwys datblygiadau newydd, newid defnydd neu ailddatblygu safle). Rhoddir sylw hefyd i bolisïau a chynigion y Cynllun hwn:

Prif Ganolfannau (Ardaloedd Twf):
Caerfyrddin Llanelli Rhydaman
     
Canol Trefi (Canolfannau Gwasanaethau):
Porth Tywyn Llandeilo Llanymddyfri
Castell Newydd Emlyn Sanclêr Hendy-gwyn ar Daf
     
Canolfannau Rhanbarthol (Canolfannau Gwasanaethau Lleol):
Llanybydder Cydweli Glanaman/Garnant
Trimsaran Pontyberem Pont-iets
Brynaman Lacharn Llangadog
Glanyfferi Hendy  

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS5, AS9, AS10, AS11 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.4.9 Disgwylir i gynigion adlewyrchu safle’r anheddiad, ac mae’r canolfannau mwy’n fwy tebygol o allu cynnal twf manwerthu.

6.4.10 Mae canllawiau’n ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau datblygu sefydlu’r hierarchaeth canolfannau manwerthu yn ardal y cynllun (Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 – Paragraff 10.2.1).

6.4.11 Mae’r ffordd y caiff aneddiadau eu categoreiddio yn yr hierarchaeth manwerthu wedi’i seilio ar TAN4: Manwerthu a Chanol Trefi (Tachwedd 1996) ac mae safleoedd perthynol yr aneddiadau’n adlewyrchu a chadarnhau eu statws yn y fframwaith aneddiadau. Dylid nodi, yn Ardaloedd Twf Rhydaman/Cross Hands a Llanelli, y gall aneddiadau sy’n rhan ohonynt fel Llangennech, Cross Hands, Tycroes ac ati fod â lefelau tebyg o ddarpariaeth a nodweddion i’r aneddiadau a nodir fel canolfannau rhanbarthol. Mewn lleoedd o’r fath, bydd cynigion yn cael eu hystyried yng ngoleuni’r lefel ddarpariaeth bresennol ac yn unol â pholisïau a chynigion y Cynllun hwn a chanllawiau cenedlaethol. Bernir bod lleoedd o’r fath yn perfformio is-ran i’r parthau canol trefi dynodedig yn y Brif Ganolfan (Ardal Dwf) honno.

6.4.12 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

6.4.13 Mae’r Cynllun yn cydnabod na ellir lleoli rhai mathau o gyfleusterau manwerthu a hamdden yn addas mewn lleoliadau yng nghanol trefi ac y gall Canolfannau Rhanbarthol (Parciau Manwerthu) chwarae rhan wrth ddiwallu’r angen hwn. Fodd bynnag, dylid mabwysiadu’r dull cymalog sy’n golygu y dylid dewis yn gyntaf leoliadau sy’n bodoli eisoes yng nghanol trefi, fel y’u rhestrir yn yr hierarchaeth manwerthu, ac yna safleoedd union gyfagos â chanol trefi. Os nad oes unrhyw safleoedd addas ar gael yn y lleoliadau hyn, dim ond bryd hynny y gellir ystyried datblygiadau yn y canolfannau rhanbarthol presennol (parciau manwerthu) canlynol:

Canolfannau Rhanbarthol: (Parciau Manwerthu)

Polisi RT2 Prif Ganolfannau (Ardaloedd Twf): Prif Ffryntiad Manwerthu

Ni fydd cynigion ar gyfer defnyddiau ar wahân i fanwerthu (gan gynnwys newid defnydd a/neu ailddatblygu eiddo manwerthu sy’n bodoli eisoes) yn cael eu caniatáu ar ffryntiadau llawr gwaelod prif ffryntiad manwerthu’r Prif Ganolfannau dynodedig.

Bydd newidiadau rhwng defnyddiau ar wahân i fanwerthu, sy’n bodoli eisoes, mewn ardaloedd prif ffryntiad yn cael eu caniatáu os yw’n ddefnydd sy’n berthnasol i ganol y dref ac nad yw’n andwyol i’r cymeriad manwerthu cyffredinol.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS5, AS9, AS10, AS11 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.4.14 Mae’r polisi, trwy ddynodi Prif Ffryntiad Manwerthu, yn cydnabod bod gan ganol trefi Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman gyfran fawr o ddefnyddiau manwerthu (A1).

6.4.15 Mae hefyd yn cydnabod buddion amrywiaeth o ddefnyddiau yng nghanol trefi. Fodd bynnag, gall llawer iawn o ddarpariaeth ar wahân i fanwerthu fod yn andwyol i’r ardal, gan arwain at arlwy manwerthu llai a chreu “ffryntiadau marw” gan ddileu’r diddordeb i siopwyr sy’n mynd heibio a gostwng nifer yr ymwelwyr. Nod y polisi yw sicrhau y bydd y Prif Ganolfannau’n cadw eu Prif Ffryntiad Manwerthu ac ar yr un pryd sicrhau bod yr amrywiaeth defnyddiau bresennol yn parhau i fod yn ddeniadol.

6.4.16 Prif swyddogaeth y Prif Ffryntiad Manwerthu yw manwerthu (A1) a’r Ffryntiadau Manwerthu Eilaidd a’r Parthau Canol Trefi yw’r prif fannau (y tu allan i’r Prif Ffryntiad Manwerthu), lle dylid lleoli gwasanaethau canol tref eraill fel banciau, cymdeithasau adeiladu, bwytai ac ati, sy’n ychwanegu diddordeb a bywiogrwydd.

6.4.17 Bwriedir i’r polisi wrthwynebu rhagor o or-grynhoi defnyddiau ar wahân i fanwerthu (ar wahân i A1) yn y Prif Ffryntiadau Manwerthu. Mae’r Cynllun yn cydnabod buddion amrywiaeth o ddefnyddiau mewn canol trefi ond bernir mai manwerthu ddylai fod y brif swyddogaeth yn y Prif Ffryntiad Manwerthu.

6.4.18 Mae amlder defnyddiau ar wahân i fanwerthu (gan gynnwys A2 ac A3) yn y ffryntiadau presennol fel y’u diffinnir ar lefel briodol heb dynnu oddi ar eu cymeriad manwerthu a thorri ar barhad ffryntiadau siopa.

6.4.19 Fel rhan o’r broses monitro ac adolygu, bydd y Cyngor yn cyflawni arolwg blynyddol o ddefnyddiau yn y canol trefi dynodedig gan gynnwys y Prif Ffryntiadau Manwerthu. Bydd yr arolwg yn edrych nid yn unig ar natur y rhai sy’n eu meddiannu ond hefyd ar y lefelau unedau gwag a geir. Bydd yr arolwg, ynghyd â diweddariadau i’r astudiaeth manwerthu yn y dyfodol, yn llywio diweddariadau polisi a chanllawiau atodol a ddaw o unrhyw newidiadau yn amgylchiadau canol trefi. Diffinnir y Prif Ffryntiad Manwerthu dynodedig ar y Map Cynigion.

6.4.20 Ni fernir bod cynigion sy’n golygu newid defnydd a / neu ailddatblygu ffryntiad llawr gwaelod i ddefnydd preswyl yn gydnaws â lleoliad ‘canol tref’.

Polisi RT3 Prif Ganolfannau (Ardaloedd Twf): Ffryntiad Manwerthu Eilaidd

Bydd cynigion ar gyfer defnydd ar wahân i fanwerthu (gan gynnwys newid defnydd a/neu ailddatblygu eiddo manwerthu presennol) yn cael eu caniatáu ar lawr gwaelod Ffryntiad Manwerthu Eilaidd diffiniedig y Prif Ganolfannau dynodedig ar yr amod:

  1. Na fyddent yn arwain at grynhoad o ffryntiad ar wahân i fanwerthu (ar wahân i A1) ar y llawr gwaelod o fwy na phedair uned mewn rhes, neu grynhoad o eiddo ar wahân i fanwerthu (ar wahân i A1) yn yr un dosbarth defnydd o fwy na thair uned mewn rhes;
  2. Na fyddent yn tanseilio swyddogaeth manwerthu’r canol neu’n cael effaith andwyol ar fywiogrwydd neu hyfywedd yr ardal;
  3. Na fyddent yn creu lefel o ffryntiad ar y llawr gwaelod ar wahân i fanwerthu a fyddai’n andwyol i gymeriad a swyddogaeth manwerthu’r ardal.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS5, AS9, AS10, AS11 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.4.21 Yn gyffredinol mae ardaloedd a ddiffinnir fel Ffryntiad Manwerthu Eilaidd yn cynnwys y strydoedd hynny sy’n gyfagos i, neu sy’n cysylltu ardaloedd â Phrif Ffryntiad Manwerthu. Wrth nodi’r ystyriaethau ynghylch cynigion ar wahân i fanwerthu, mae’r polisi hwn yn caniatáu ac yn hybu amrywiaeth o ddefnyddiau yng nghanol trefi y tu hwnt i’r ardaloedd â Phrif Ffryntiad. Nod y CDLl yw sicrhau cydbwysedd rhwng gwarchod cymeriad manwerthu cyffredinol canol trefi a darparu amrywiaeth o ddefnyddiau. Wrth wneud hynny, cydnabyddir bod cymeriad a hunaniaeth canol trefi’n cael eu cryfhau gan bresenoldeb masnachwyr annibynnol sy’n gwerthu o’r strydoedd mwy ymylol ac mewn lleoliadau sy’n fwyaf agored i niwed gan gystadleuaeth. Mae arallgyfeirio’n cynnig lle ar gyfer defnyddiau economaidd buddiol eraill i ategu’r agwedd manwerthu ac i gynnal a chadw adeiladwaith ffisegol a golwg strydoedd ac adeiladau a allai fel arall fod yn debygol o ddirywio.

6.4.22 Mae’r potensial ar gyfer arallgyfeirio a alluogir trwy’r polisi hwn yn darparu ar gyfer cyfraniad posibl yr ardaloedd hyn i wneud canol y dref yn fwy deniadol trwy arlwy manwerthu, hamdden a busnes cydategol. Serch hynny, mae’r polisi’n cydnabod pwysigrwydd elfen manwerthu gref ac yn ceisio rheoli maint y defnyddiau ar wahân i fanwerthu er mwyn gwarchod cymeriad manwerthu cyffredinol strydoedd canolog a chynnal parhad ffryntiadau siopa.

Polisi RT4 Prif Ganolfannau (Ardaloedd Twf): Parth Canol Tref

Bydd cynigion ar gyfer newid defnydd a/neu ailddatblygu ar gyfer defnyddiau ar wahân i fanwerthu mewn Parth Canol Tref (ac eithrio ardaloedd y dynodir eu bod yn y Prif Ffryntiad Manwerthu a’r Ffryntiad Manwerthu Eilaidd) fel y’u diffinnir mewn perthynas â Phrif Ganolfan (Ardal Dwf) ddynodedig, yn cael eu caniatáu os yw’n sicrhau amrywiaeth o ddefnyddiau sy’n briodol i leoliad canol tref ac nad yw’n cael effaith andwyol ar ei swyddogaeth, ei gymeriad gweledol a’i ansawdd.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS5, AS9, AS10, AS11 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.4.23 Mae ardaloedd y tu allan i’r Prif Ffryntiad Manwerthu a’r Ffryntiad Manwerthu Eilaidd dynodedig yn cynnig cyfleoedd ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau buddiol i weithrediad unrhyw ‘ganol tref’. Mae gallu ardaloedd o’r fath i ddarparu ar gyfer swyddfeydd a defnyddiau eraill yn ychwanegu at swyddogaethau posibl yr ardal gyfan ac yn darparu ar gyfer teithiau amlbwrpas gan gynnwys siopa. Bydd newidiadau priodol yn y defnydd o eiddo yn strydoedd ymylol ac ar gyrion Parthau Canol Trefi fel y’u diffinnir ar y Map Cynigion yn cynorthwyo i sicrhau eu bod yn parhau’n hyfyw fel ardaloedd busnes a bod adeiladwaith cyffredinol strydoedd ac adeiladau’n cael ei gynnal a’i gadw.

6.4.24 Mae’r polisi’n creu cyfleoedd i gyflwyno defnyddiau masnachol economaidd fuddiol i adeiladau a allai fynd â’u pen iddynt neu fod yn wag fel arall. Mae’n caniatáu newid defnydd neu ailddatblygu siopau i ddefnyddiau eraill sy’n briodol i ganol trefi yn yr ardaloedd hyn.

Polisi RT5 Canol Trefi (Canolfannau Gwasanaethau)

Bydd cynigion ar gyfer defnyddiau ar wahân i fanwerthu (gan gynnwys newid defnydd a/neu ailddatblygu safleoedd manwerthu presennol) mewn canol tref dynodedig yn cael eu caniatáu ar ffryntiadau llawr gwaelod ar yr amod:

  1. Na fyddent yn arwain at grynhoad o ffryntiad ar wahân i fanwerthu (ar wahân i A1) ar y llawr gwaelod o fwy na phedair uned mewn rhes, neu grynhoad o eiddo ar wahân i fanwerthu (ar wahân i A1) yn yr un dosbarth defnydd o fwy na thair uned mewn rhes;
  2. Na fyddent yn tanseilio swyddogaeth manwerthu’r canol neu’n cael effaith andwyol ar fywiogrwydd neu hyfywedd yr ardal;
  3. Na fyddent yn creu lefel o ffryntiad ar y llawr gwaelod ar wahân i fanwerthu a fyddai’n andwyol i gymeriad a swyddogaeth manwerthu’r ardal.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS5, AS9, AS10, AS11 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Polisi RT6 Canol Trefi (Canolfannau Gwasanaethau) – Siopau Cyfleustra

Bydd cynigion ar gyfer siopau cyfleustra ar raddfa briodol yn cael eu caniatáu yn y Canol Trefi (Canolfannau Gwasanaethau) dynodedig os ydynt yn cael eu lleoli o fewn neu’n union gyfagos i ffin ddiffiniedig canol y dref ac yn ddarostyngedig i’r canlynol:

  1. Cyflwyno asesiad o’r effaith i ddangos na fyddai’r cynnig yn cael effaith andwyol ar fywiogrwydd a hyfywedd y ganolfan manwerthu sy’n bodoli eisoes;
  2. Tystiolaeth bod prawf cymalog wedi cael ei gyflawni ar y safle a ddewiswyd;
  3. Bod y safle’n hygyrch trwy ddewis o ffyrdd amgen o deithio.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS5, AS9, AS10, AS11 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.4.25 Mae’r amcanion cynaliadwyedd sy’n sylfaen i’r Cynllun a’i Strategaeth yn cefnogi polisi o leoli darpariaeth arwynebedd llawr cyfleustra newydd, ar raddfa briodol, yn agos i ffynhonnell twf mewn gwariant. Mae hyn yn adlewyrchu canfyddiadau’r astudiaeth manwerthu a’i nod yw hybu darpariaeth cyfleustra sy’n hygyrch i gyfran fwy o boblogaeth y Sir, yn arbennig yn y cymunedau gwledig, a thrwy hynny lleihau’r angen i deithio i gael nwyddau a gwasanaethau hanfodol a chynyddu cynhwysiant cymdeithasol. Dylai cynigion ddangos hygyrchedd da gan gynnwys y gallu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded.

6.4.26 Dylai cynigion ategu ac integreiddio â’r ddarpariaeth siopa bresennol yn yr aneddiadau eilaidd, yn nhermau graddfa a lleoliad fel ei gilydd, ac ni ddylent gael effaith andwyol ar fywiogrwydd a hyfywedd y canolfannau hyn.

Polisi RT7 Canolfannau Rhanbarthol (Canolfannau Gwasanaethau Lleol)

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau ar raddfa fach o fewn Terfynau Datblygu’r canolfannau rhanbarthol dynodedig ac aneddiadau priodol (gan gynnwys y rheiny mewn cymunedau cynaliadwy) yn cael eu caniatáu os ydynt ar raddfa briodol i swyddogaeth yr anheddiad ac o fath a fydd yn gwella’r arlwy manwerthu presennol neu arlwy manwerthu canolfannau cyfagos.

Ni ddylai cynigion (gan gynnwys newid defnydd) gael effaith andwyol ar fywiogrwydd a hyfywedd y canolfannau hyn, na’r rheiny mewn mannau eraill yn yr hierarchaeth manwerthu.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS5, AS9, AS10, AS11 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.4.27 Mae nifer o aneddiadau sy’n gweithredu fel canolfannau rhanbarthol, gan ddiwallu anghenion siopa beunyddiol. Mae gan y rhan fwyaf ohonynt amrywiaeth o gyfleusterau lleol sy’n cyflawni swyddogaeth hanfodol i’r gymuned, ac mae llawer wedi’u lleoli mewn bloc neu ffryntiad cymharol gryno. Mae safleoedd manwerthu ar raddfa fach ar ffurf siopau ac archfarchnadoedd lleol (gan gynnwys y rheiny sy’n gysylltiedig â gorsafoedd petrol), sy’n diwallu anghenion beunyddiol y cymunedau, yn cyflawni rôl bwysig o ran gwasanaethau lleol.

6.4.28 Ni ddylai cynigion fod wedi’u lleoli mewn ardaloedd preswyl na mewn ardaloedd eraill lle gallai’r defnydd amharu ar amwynder eiddo cyfagos. Dylai graddfa’r cynigion fod yn gydnaws â chymeriad yr ardal a safle’r anheddiad yn yr hierarchaeth aneddiadau.

Polisi RT8 Siopau a Chyfleusterau Lleol

Ni fydd cynigion a fyddai’n arwain at golli siop neu wasanaeth lleol y tu allan i’r Ardaloedd Twf a Chanolfannau Gwasanaethau dynodedig yn cael eu caniatáu ond:

  1. Os oes siop neu wasanaeth arall o ddefnydd cydnaws tebyg ar gael i gwsmeriaid o fewn:

i. pellter cerdded cyfleus; neu,
ii. lle bo’n berthnasol, y Gymuned Gynaliadwy

  1. Pe na bai ei golli’n andwyol i adeiladwaith cymdeithasol ac economaidd y gymuned.

Os nad oes darpariaeth arall, ni fydd cynigion a fyddai’n arwain at golli’r siop neu’r gwasanaeth lleol yn cael eu caniatáu ond os gellir dangos i foddhad y Cyngor bod pob ymdrech resymol wedi cael ei gwneud i farchnata’r busnes i’w werthu neu ei osod dros gyfnod o 12 mis ac wedi methu.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS5, AS9, AS10, AS11 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.4.29 Wrth geisio diffinio a chreu cymunedau cynaliadwy mae’r Cynllun yn nodi ac yn cydnabod cyfraniad gwasanaethau lleol. Mae’r rhain yn cynnwys cyfleusterau fel siopau, swyddfeydd post, tafarnau a gorsafoedd petrol a fydd yn cyfrannu at hyfywedd aneddiadau a chymunedau yn y dyfodol, yn nhermau darparu gwasanaeth ond hefyd yn nhermau cynnig ‘lleoedd i gyfarfod’ lle gall y gymuned ryngweithio a lle gellir meithrin ysbryd cymunedol. Mae’r Cyngor hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol lle mae dibyniaeth leol fawr arnynt. Mae gwasanaethau o’r fath yn hanfodol i les economaidd y cymunedau ac maent hefyd yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, yn enwedig ymysg aelodau o gymuned sy’n ei chael yn anos symud o gwmpas.

6.4.30 Cydnabyddir mai aneddiadau sydd wedi’u dosbarthu’n Gymunedau Cynaliadwy yw’r rhai sy’n fwyaf agored i niwed wrth golli cyfleusterau o’r fath. Mae ffactorau fel y galw a gwerth mawr tir preswyl yn yr ardaloedd gwledig yn aml yn arwain at bwysau gan berchnogion eiddo i newid defnydd neu ailddatblygu cyfleusterau o’r fath at ddibenion preswyl, hyd yn oed pan fo’r busnes yn ffynnu. Mae’n bosibl bod yr incwm a geir o siop neu weithgarwch arall yn llai na’r hyn y gellir ei gael o ddatblygiad o fath arall. Nod y polisi hwn yw lleddfu pwysau i newid trwy sicrhau os nad oes cyfleusterau eraill rhesymol ac os yw’r siop neu'r cyfleuster yn hyfyw ar lefelau rhent priodol, yna ni chaniateir ei golli.

6.4.31 Er bod y polisi’n ceisio gwarchod rhag colli cyfleusterau, gwneir darpariaeth ar gyfer amgylchiadau lle gellir dangos nad oes angen cyfleusterau o’r fath mwyach neu nad ydynt yn hyfyw.

6.4.32 Wrth geisio sicrhau bod anheddiad a Chymuned Gynaliadwy’n aros yn hyfyw mabwysiadir dull cymalog wrth asesu argaeledd cyfleuster arall neu gyfleuster tebyg. Yr ystyriaeth gyntaf wrth asesu cynigion ddylai fod argaeledd cyfleuster arall o fewn pellter rhesymol. Pellter cerddadwy at ddibenion y polisi hwn yw’r hyn a geir yn y Llawlyfr Strydoedd: Adran Drafnidiaeth/ Cymunedau a Llywodraeth Leol/ Llywodraeth Cynulliad Cymru – 2007. Mae hyn yn nodi ‘Walkable neighbourhoods are typically characterised by having a range of facilities within 10 minutes (up to about 800m) walking distance of residential areas which residents may access comfortably on foot’.

6.4.33 Mae natur wasgaredig ardaloedd gwledig a chreu Cymunedau Cynaliadwy cysylltiedig hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gynigion roi sylw i argaeledd cyfleusterau mewn mannau eraill yn ei gymuned gynaliadwy. Mae’n bosibl na fydd llawer o gymunedau cynaliadwy gwledig yn cydymffurfio â’r pellter cerddadwy uchod. O ganlyniad, os nad oes cyfleuster arall o fewn pellter cerddadwy, bydd yn ofynnol i gynigion ddangos bod yna siop, gwasanaeth neu gyfleuster arall o ddefnydd tebyg ar gael i breswylwyr yn y gymuned gynaliadwy honno.

6.4.34 At ddibenion y polisi hwn gellir diffinio marchnata eiddo fel hysbysebu mewn cyhoeddiad priodol i’r diwydiant neu lle bo’n briodol trwy werthwyr tai lleol dros gyfnod rhesymol.

Polisi RT9 Canolfannau Rhanbarthol (Parciau Manwerthu)

Bydd cynigion ar gyfer unedau warws manwerthu newydd (gan gynnwys canolfannau gerddi ac ystafelloedd arddangos ceir) a chyfleusterau hamdden priodol yn cael eu caniatáu ar barciau manwerthu dynodedig yn amodol ar:

  1. Gyflwyno asesiad effaith sy’n dangos na fyddai’r cynnig yn achosi niwed i ganol trefi sefydledig;
  2. Tystiolaeth bod dull cymalog wedi cael ei ddefnyddio gan ddangos nad oes unrhyw safleoedd addas a chynaliadwy ar gael mewn mannau mewn canol trefi diffiniedig neu'n union gyfagos iddynt;
  3. Tystiolaeth o angen meintiol, ansoddol a/neu angen perthnasol arall am y datblygiad.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS5, AS9, AS10, AS11 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.4.35 Mae gan Gaerfyrddin a Llanelli ddarpariaeth manwerthu sylweddol ar barciau manwerthu y tu allan i’w canol trefi. Y prif barciau manwerthu yng Nghaerfyrddin yw Stephens Way a Pharc Pensarn sy’n darparu ar gyfer amrywiaeth o nwyddau swmpus a rhai nad ydynt yn swmpus.

6.4.36 Yn gwasanaethu Llanelli mae Parc Trostre a Pharc Pemberton. Ar y cyntaf mae nifer fawr o unedau lle ceir yn bennaf ‘siopau cadwyn y stryd fawr’. Mewn cyferbyniad, ar Barc Pemberton ceir yn bennaf nwyddau crefftau’r ty, nwyddau trydanol a chelfi, gan adlewyrchu cyfyngiad nwyddau swmpus nad yw’n berthnasol i Barc Trostre.

6.4.37 Mae’r parc manwerthu yn Cross Hands, sy’n llai na’r rhai yng Nghaerfyrddin a Llanelli, yn cyflawni rôl bwysig sy’n cydategu’r darpariaethau canol tref yn Rhydaman, trwy gynnig yn bennaf nwyddau crefftau’r ty, nwyddau trydanol a chelfi.

6.4.38 Mae’r Cynllun yn cydnabod na ellir lleoli rhai mathau o gyfleusterau manwerthu a hamdden yn addas mewn lleoliadau yng nghanol trefi ac felly bod darpariaeth briodol ar barciau manwerthu o’r fath yn cynnig y potensial i ategu atyniad canol trefi sefydledig fel cyrchfannau manwerthu. Fodd bynnag, ni ddylai graddfa, math a lleoliad datblygiadau manwerthu danseilio atyniad, bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi sy’n bodoli eisoes.

6.4.39 Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd gyflwyno asesiad effaith i ddangos na fyddai’r cynnig yn achosi niwed i ganol trefi sefydledig. Dylai’r asesiad hefyd gymryd i ystyriaeth effeithiau cronnol datblygiadau sydd wedi’u cwblhau’n ddiweddar a chaniatadau cynllunio sy’n dal mewn grym. Dylai’r asesiad nodi’r math o arlwy manwerthu mae’r ymgeisydd yn ei gynnig a sut y gallai hyn effeithio ar y ddarpariaeth manwerthu fyddai’n cystadlu ag ef, sy’n bodoli yn y canol trefi cyfagos, ac a fyddai’n gallu arwain at ddargyfeirio cwsmeriaeth o ganol y dref.

6.4.40 Bydd yn ofynnol i gynigion newydd ddangos yn glir bod angen ychwanegol am unedau warws manwerthu newydd sy’n cynnig yr ystod o nwyddau a ragwelir.

6.5 Trafnidiaeth a Hygyrchedd

6.5.1 Mae system trafnidiaeth integredig a chynaliadwy yn hanfodol i gyflawni’r Strategaeth ac yn sylfaen iddi mae amcan strategol AS10. Mae’r Strategaeth, gyda’i phwyslais ar y seilwaith trafnidiaeth sy’n bodoli eisoes, yn cydnabod amrywiaeth y sir ac ansawdd ac ystod amrywiol y ddarpariaeth seilwaith (gan gynnwys priffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus) rhwng yr ardaloedd trefol a’r ardaloedd gwledig. Mae’r Strategaeth yn canolbwyntio ar dwf mewn ffordd sy’n adlewyrchu cynaliadwyedd aneddiadau a’u hygyrchedd yn nhermau’r rhwydwaith priffyrdd a mynediad i wasanaethau bysiau. Mae hefyd yn ystyried y ffordd mae aneddiadau’n cydategu ei gilydd yn nhermau cyfleusterau a gwasanaethau, a thrwy hynny’n cynnig potensial ar gyfer mwy o hygyrchedd trwy dwf cynaliadwy a chyfuno neu ehangu’r adnoddau sy’n bodoli eisoes.

6.5.2 Disgwylir y rhoddir sylw i ddarpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010. Ceir arweiniad clir ynghylch y canlynol ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7: Pennod 8 - Trafnidiaeth ac o ganlyniad ni chânt eu hystyried yma. Gellir gweld datganiadau polisi cenedlaethol ychwanegol ar reoli datblygiadau ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 – (Pennod 8).

Polisi TR1 Y Rhwydwaith Prif Ffyrdd a’r Rhwydwaith Craidd

Bydd cynigion nad ydynt yn cyfyngu ar symudiad traffig a/neu’n peryglu diogelwch y rhwydwaith prif ffyrdd a’r rhwydwaith craidd yn cael eu cefnogi lle bo’n briodol. Diffinnir y rhwydwaith prif ffyrdd a’r rhwydwaith craidd yn Atodiad 7.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS4, AS5, AS6, AS8, AS9, AS10, AS11, AS12, AS13 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.5.3 Wrth ddiffinio’r rhwydwaith prif ffyrdd a’r rhwydwaith craidd, mae’r polisi hwn yn adlewyrchu gofynion Polisi Cynllunio Cymru. Er bod gan y llwybrau a nodir uchod rôl allweddol yn y rhanbarth ac yn y Sir, dylid nodi bod amrywiaeth y sir a’i chymunedau a’i haneddiadau’n gosod pwysigrwydd ar weddill y rhwydwaith wrth ddiwallu anghenion ardal y Cynllun.

Polisi TR2 Lleoli Datblygiadau – Ystyriaethau Trafnidiaeth

Bydd cynigion sydd â’r potensial i greu nifer sylweddol o deithiau’n cael eu caniatáu:

  1. Os yw’r datblygiad yn cael ei leoli mewn modd sy’n gyson ag amcanion strategol y cynllun, ei fframwaith aneddiadau a’i bolisïau a chynigion;
  2. Os yw’n hygyrch trwy ffyrdd o deithio heblaw ceir gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded;
  3. Os gwneir darpariaeth ar gyfer ffyrdd o deithio heblaw ceir ac i bobl ag anawsterau symudedd yn nyluniad y cynnig ac wrth ddarparu cyfleusterau ar y safle;
  4. Os yw Cynlluniau Teithio wedi cael eu hystyried a, lle bo’n briodol, eu hymgorffori.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS4, AS5, AS6, AS8, AS9, AS10, AS11, AS12, AS13 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.5.4 Disgwylir y bydd cynigion sydd â’r potensial i greu nifer sylweddol o deithiau naill ai fel tarddle neu fel cyrchfan (gan gynnwys cynigion preswyl, cyflogaeth, manwerthu a hamdden) yn sicrhau, trwy eu dyluniad, yr hygyrchedd mwyaf posibl trwy ffyrdd amgen o deithio. Mae gwella hygyrchedd yn un o amcanion pwysig y Cynllun, ac mae lleoliad datblygiadau newydd yn bwysig wrth sicrhau’r hygyrchedd mwyaf posibl. Mae natur wledig y sir yn creu heriau yn hyn o beth, ond disgwylir i gynigion gyflawni hyn, a chânt eu hannog i wneud hynny.

6.5.5 Gall lleoli defnyddiau sy’n creu llawer o deithiau, gan gynnwys cyflogaeth, addysg, siopa a hamdden, mewn modd priodol gael dylanwad sylweddol ar nifer a hyd teithiau, ffyrdd o deithio a’r potensial ar gyfer teithiau amlbwrpas. Mae’n bosibl y bydd ceisiadau cynllunio a gyflwynir ar gyfer datblygiadau ar dir nas dyrannwyd sy’n debygol o greu nifer sylweddol o deithiau’n cael eu gwrthod os na fodlonir egwyddorion TAN 18: Trafnidiaeth Paragraff 3.7.

6.5.6 Dylai cyflogwyr ystyried cynlluniau teithio wrth ddatblygu cynigion, yn enwedig lle mae hygyrchedd trwy ffyrdd o deithio heblaw ceir yn broblemus. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae’n bosibl y bydd yn ofynnol cyflwyno gwybodaeth fel rhan o unrhyw gais am ddatblygiad.

6.5.7 Lle mae cynnig datblygu’n debygol o arwain at gynnydd sylweddol ym maint neu gymeriad y traffig sy’n defnyddio croesfan ar draws rheilffordd, bydd y Cyngor, yn unol â darpariaethau Atodlen 4 (d) (ii) Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, yn cyflwyno’r cynigion i Weinidogion Cymru a Network Rail i gael eu cymeradwyo.

6.5.8 Nodir arweiniad mewn perthynas â’r term ‘sylweddol’ yn y dogfennau Traffic Impact Assessment: Y Sefydliad Priffyrdd a Chludiant a TAN18: Trafnidiaeth.

Polisi TR3 Priffyrdd mewn Datblygiadau – Ystyriaethau Dylunio

Bydd yn ofynnol i ddyluniad a phatrwm pob cynnig datblygu gynnwys, lle bo’n briodol:

  1. Rhwydwaith integredig o lwybrau hwylus a diogel i gerddwyr a beiciau (ar y safle ac oddi yno) sy’n hyrwyddo buddiannau cerddwyr, beicwyr a thrafnidiaeth gyhoeddus;
  2. Darpariaeth addas ar gyfer mynediad gyda thrafnidiaeth gyhoeddus;
  3. Lle parcio priodol a, lle bo’n berthnasol, lle gwasanaethu priodol yn unol â’r safonau gofynnol;
  4. Seilwaith a lleoedd sy’n rhoi mynediad diogel a hawdd i bobl ag anawsterau symudedd;
  5. Safonau mynediad gofynnol sy’n adlewyrchu’r dosbarth ffordd perthnasol a chyfyngiadau cyflymder gan gynnwys lleiniau gwelededd a nodweddion dylunio a mesurau gostegu angenrheidiol er mwyn sicrhau y caiff diogelwch ar y priffyrdd a hwylustod symud eu cynnal a, lle bo angen, eu gwella;
  6. Darparu Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy i ganiatáu ar gyfer gwaredu dwr ffo wyneb o’r briffordd.

Bydd cynigion nad ydynt yn creu maint annerbyniol o draffig ar y rhwydwaith ffyrdd amgylchynol ac na fyddent yn andwyol i ddiogelwch ar y priffyrdd nac yn achosi niwed sylweddol i amwynder preswylwyr yn cael eu caniatáu.

Bydd cynigion nad ydynt yn arwain at dagfeydd oddi ar y safle yn nhermau parcio neu ddarparu gwasanaethau, neu lle bo capasiti’r rhwydwaith yn ddigon i wasanaethu’r datblygiad, yn cael eu caniatáu. Mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i ddatblygwyr hwyluso gwaith priodol fel un o amodau rhoi unrhyw ganiatâd.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS4, AS5, AS6, AS7, AS8, AS9, AS10, AS11, AS12, AS13 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.5.9 Dylai cynigion gynnwys cyfleusterau sy’n annog a chynnig y cyfle i’r rheiny sy’n mynd i’r safleoedd ddefnyddio ffyrdd amgen o deithio. Gallai’r cyfleusterau hyn gynnwys cawodydd, cyfleusterau newid a mannau storio. Dylai datblygwyr allu dangos y cyflawnir lefelau priodol o fynediad i wasanaethau lleol trwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus i breswylwyr newydd a’r gymuned ehangach (TAN 18: Trafnidiaeth – Paragraff 3.6).

6.5.10 Dylid ystyried anghenion pobl lai abl trwy osgoi ac wedyn lleihau’r defnydd o risiau, defnyddio cyrbiau isel a chroesfannau botymog, cwtogi ar y pethau a osodir ar balmentydd, gosod croesfannau clywadwy i gerddwyr ac ati.

6.5.11 Ystyrir cyflwyno SDCau yn ffordd o unioni’r fantol a rheoli dwr ffo wyneb yn yr amgylchedd trefol mewn modd sy’n lleihau effeithiau’r datblygiad ar ansawdd a maint dwr ffo ar ffyrdd gymaint ag sy’n bosibl, ac ar yr un pryd yn sicrhau’r cyfleoedd mwyaf posibl o ran amwynder a bioamrywiaeth.

6.5.12 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

Polisi TR4 Beicio a Cherdded

Bydd tir y mae ei angen i hwyluso’r gwelliannau canlynol i’r rhwydwaith beicio’n cael ei ddiogelu. Dangosir y llwybrau arfaethedig lle bônt yn hysbys ar y map cynigion. Dylid ystyried y cyfle posibl ar gyfer marchogaeth, lle bo’n briodol.

  1. Dyffryn Tywi (rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin);
  2. Hendy-gwyn ar Daf i Langlydwen;
  3. Rhydaman i Gwm Aman.

Dylai datblygiadau, lle bo’n briodol, geisio ymgorffori, neu, lle bo’n dderbyniol, hwyluso cysylltiadau i’r rhwydwaith llwybrau beicio, hawliau tramwy a llwybrau ceffylau i sicrhau ymagwedd gynaliadwy integredig mewn perthynas ag unrhyw safle.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS5, AS8, AS10, AS13 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.5.13 Mae beicio a cherdded yn rhan bwysig o Strategaeth Trafnidiaeth Integredig, amcanion cynaliadwyedd y Cynllun (gan gynnwys lleihau dibyniaeth ar y car) a hybu mwy o hygyrchedd a ffyrdd iachach o fyw. Polisi’r Cyngor yw sicrhau’r rôl fwyaf posibl i feicio fel ffordd o deithio, i’w chyflawni’n rhannol trwy barhau i ddatblygu rhwydwaith beicio hwylus, diogel a deniadol, trwy flaenoriaethu llwybrau; mabwysiadu’r defnydd o archwiliad ac adolygiad beicio ar gynlluniau a datblygiadau priffyrdd; datblygu cynllun cynnal a chadw ar gyfer holl lwybrau beicio’r Cyngor, a sicrhau bod beicio’n gwbl integredig â thrafnidiaeth gyhoeddus.

6.5.14 Mae gan feicio a cherdded rôl arwyddocaol wrth sicrhau trafnidiaeth gynaliadwy. Gellir cyflawni hyn trwy fesurau fel llwybrau beicio a llwybrau troed diogel a hwylus, llwybrau gwell newydd, defnyddio’r broses dylunio ar gyfer datblygiadau newydd i sicrhau yr ystyrir anghenion pobl sy’n beicio a cherdded. Mae’r Strategaeth Beicio ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn dyddio’n ôl i 2001 ac mae’n nodi’r cynlluniau a restrir uchod.

6.5.15 Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynnwys rhaglen o gynlluniau ar gyfer cerdded a beicio gan gynnwys datblygu llwybrau Rhwydwaith Beicio’r Cymoedd a Connect 2 a bydd newidiadau i ffordd o fyw, er nad ydynt wedi’u diffinio mewn polisïau, yn cael eu cefnogi lle bo’n briodol fel rhan o strategaeth trafnidiaeth integredig.

6.5.16 Mae datblygu mynediad y sir i’r rhwydwaith beicio cenedlaethol (Llwybrau 4 a 47) yn cynnig buddion ehangach o ran cysylltedd ac yn darparu cyfle allweddol i hybu cerdded a beicio fel ffyrdd amgen o deithio ac fel gweithgareddau hamdden. Wrth gyflawni hyn, bydd y CDLl yn cynorthwyo i gefnogi cyfleoedd i ystyried cynlluniau cerdded a beicio lleol sy’n cyfrannu at ddatblygu rhwydwaith rhanbarthol o lwybrau sy’n cynnig buddion lleol.

6.5.17 Rhoddir sylw i ddarpariaethau rhaglen Llywodraeth Cymru, Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, mewn perthynas ag ystyried a datblygu llwybrau cerdded a beicio lleol. Mae’r fenter yn canolbwyntio ar ddatblygu llwybrau cerdded a beicio diogel mewn cymunedau, gan gysylltu ag ysgolion a chyfleusterau allweddol eraill. Dylid rhoi sylw i’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ar gyfer Sir Gaerfyrddin a’r rhyngberthynas rhwng y llwybrau troed, llwybrau ceffyl a chilffyrdd a chyfleoedd hamdden cysylltiedig yn ardal y cynllun.

6.5.18 Nodir coridorau rheilffyrdd segur ar y map cynigion ac maent yn cynnig potensial ar gyfer datblygiadau cysylltiedig â thrafnidiaeth. Dylid rhoi sylw i bolisi TR6 yn hyn o beth.

6.5.19 Dylai dyluniad a phatrwm datblygiadau newydd roi sylw i anghenion cerdded a beicio gan gynnwys, lle bo modd, mynediad i lwybrau a rhwydweithiau.

6.5.20 Lle bo’n berthnasol dylid gwneud darpariaeth sy’n ystyriol o bobl anabl, gan roi mynediad diogel a hawdd i bobl ag anawsterau symudedd.

6.5.21 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

Polisi TR5 Rheilffordd Gwili

Bydd cynigion nad ydynt yn peryglu’r canlynol mewn perthynas â Rheilffordd Gwili yn cael eu caniatáu:

  1. Estyn Rheilffordd Gwili i’r gogledd i Lanpumsaint ac i’r de i safle’r hen orsaf yng Nghaerfyrddin;
  2. Darparu gorsafoedd newydd yn Llanpumsaint a Glangwili, Caerfyrddin.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS7, AS8, AS10 ac AS12
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.5.22 Bydd cynigion ar gyfer Rheilffordd Gwili yn cael eu hystyried yng ngoleuni eu heffaith ar amgylchiadau traffig lleol, ar ansawdd yr amgylchedd a gofynion o ran seilwaith.

6.5.23 Mae rheilffordd stêm Gwili yn atyniad pwysig i dwristiaid a bydd y Cyngor yn cefnogi’r cynigion hirdymor i estyn y llinell i’r gogledd i Lanpumsaint yn y pen draw ac i’r de i dref Caerfyrddin. Mae’r ardaloedd a llwybrau a ddiogelir fel y’u dangosir ar y Map Cynigion.

6.5.24 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop. Dylid hefyd nodi ei bod yn bosibl y bydd Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar lefel prosiect yn ofynnol, lle bernir ei fod yn briodol, mewn perthynas â chynigion yn y dyfodol.

Polisi TR6 Coridorau Rheilffyrdd Segur

Bydd cynigion datblygu nad ydynt yn peryglu ailddefnyddio coridorau rheilffyrdd segur at ddibenion posibl o ran hamdden a datblygu rheilffyrdd yn y dyfodol, yn cael eu caniatáu.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS7, AS8, AS10, AS11 ac AS12
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.5.25 Mae gan ardal y Cynllun nifer o hen linellau rheilffyrdd sy’n cynnig buddion sylweddol ar gyfer gweithgareddau hamdden, gan gynnwys llwybrau beicio, llwybrau troed a llwybrau ceffyl. Hefyd mae angen rhoi ystyriaeth i’r posibilrwydd o ailddefnyddio llwybrau rheilffyrdd yn y dyfodol wrth ystyried cynigion a all gael effaith ar ddidoredd ac argaeledd y llwybr.

6.6 Priodweddau Amgylcheddol – Amgylchedd Adeiledig & Naturiol

Priodweddau Amgylcheddol – Amgylchedd Adeiledig

6.6.1 Amcanion y Cyngor mewn perthynas â’r amgylchedd adeiledig a hanesyddol yw diogelu cyfanrwydd diwylliannol aneddiadau ac adeiladau hanesyddol yn ardal y Cynllun a hybu gwella’r amgylchedd hanesyddol ac adeiledig. Dylid trin adeiladau, trefweddau a thirweddau hanesyddol y sir fel caffaeliad a dylid mynd ati i’w gwarchod a’u gwella er lles preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae cymeriad arbennig ac amrywiol ardal y Cynllun, gyda’i chefn gwlad digyffwrdd, treftadaeth ddiwydiannol a chyfoeth o drefi a phentrefi hanesyddol yn adlewyrchu datblygiad y sir trwy’r oesoedd, gan gysylltu’r gorffennol â’r presennol a chynnal hunaniaeth ddiwylliannol unigryw’r ardal.

6.6.2 Mae llawer o elfennau o amgylchedd adeiledig a hanesyddol y sir wedi’u gwarchod trwy ddeddfwriaeth neu ganllawiau eraill, ac o’r herwydd nid oes angen polisïau ar ei gyfer yn y CDLl. Felly nid yw’r Cynllun yn cynnwys polisïau mewn perthynas ag agweddau ar y dreftadaeth adeiledig megis Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth neu Henebion Rhestredig, gan eu bod yn cael eu gwarchod yn ddigonol ac yn briodol mewn mannau eraill.

6.6.3 Fodd bynnag, mae yna agweddau ar warchod yr amgylchedd hanesyddol a all gael sylw trwy’r CDLl, yn arbennig y rheiny sy’n ymwneud â nodweddion lleol ac ag adeiladau lleol.

6.6.4 Ceir canllawiau clir a deddfwriaeth mewn perthynas â’r canlynol ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7: Pennod 6 - Gwarchod yr Amgylchedd Hanesyddol ac mae polisi SP13 - Gwarchod a Gwella’r Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol yn cydnabod pwysigrwydd y fath ardaloedd a nodweddion yn y sir.

Polisi EQ1 Gwarchod Adeiladau, Tirweddau a Nodweddion o Bwysigrwydd Hanesyddol

Ni fydd cynigion ar gyfer datblygiadau sy’n effeithio ar dirweddau, trefweddau, adeiladau a safleoedd neu nodweddion o ddiddordeb hanesyddol neu archeolegol sydd, yn rhinwedd eu pwysigrwydd, cymeriad neu arwyddocâd hanesyddol mewn grwp o nodweddion yn gwneud cyfraniad pwysig at y cymeriad lleol ac at ddiddordeb yr ardal, yn cael eu caniatáu ond os ydynt yn gwarchod neu’n gwella’r amgylchedd adeiledig a hanesyddol.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4, AS7 ac AS12
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.6.5 Mae Polisi Strategol SP13 yn nodi y bydd nodweddion hanesyddol a diwylliannol o bwys cydnabyddedig, gan gynnwys Henebion Cofrestredig, yn cael eu gwarchod gan adlewyrchu polisi cenedlaethol. Fodd bynnag, ni fydd yr holl olion o bwys cenedlaethol sy’n deilwng o gael eu gwarchod wedi’u cofrestru o angenrheidrwydd. Mae’n bosibl bod olion o’r fath ac, mewn amgylchiadau priodol, olion archeolegol anghofrestredig eraill o bwys lleol a’u lleoliadau hefyd yn deilwng o gael eu gwarchod (Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 Paragraff 6.4.2). Yn hyn o beth, mae’r polisi uchod yn ceisio adlewyrchu eu harwyddocâd naill ai fel safleoedd o bwys lleol neu fel safleoedd sydd heb eu dynodi ar hyn o bryd sy’n deilwng o ddynodiad cenedlaethol posibl.

6.6.6 Dylid rhoi sylw i gynnwys Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 mewn perthynas â Henebion Cofrestredig. Dangosir lleoliadau Henebion Cofrestredig ar y Map Cynigion.

6.6.7 Penderfynir ar adeiladau rhestredig ar sail eu pwysigrwydd i’r genedl, naill ai oherwydd eu pensaernïaeth neu ansawdd adeiledig neu oherwydd eu cysylltiadau hanesyddol. Fodd bynnag, mae nifer fawr o adeiladau eraill, er nad ydynt o ansawdd neu bwysigrwydd digonol i gael eu rhestru, sydd serch hynny’n gwneud cyfraniad lleol arwyddocaol. Yn Sir Gaerfyrddin, mae nifer fawr o adeiladau a allai ddod i’r categori hwn. Felly, er y byddai’n amhriodol rhoi yr un warchodaeth i’r adeiladau hyn ag a roddir i adeiladau rhestredig, mae’n ddymunol rhoi rhywfaint o warchodaeth iddynt, er enghraifft pan fônt mewn Ardaloedd Cadwraeth, neu pan fo cynigion datblygu’n effeithio arnynt. Yn hyn o beth, rhoddir sylw i atodiad 3 a’r ymrwymiad i baratoi canllawiau cynllunio atodol ar Adeiladau o Bwysigrwydd Lleol.

6.6.8 Disgwylir i gynigion i newid neu estyn adeilad o bwysigrwydd lleol gadw a diogelu nodweddion o ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol. Disgwylir i gynigion sy’n effeithio ar leoliad adeilad o bwysigrwydd lleol barchu ei gymeriad. Yn yr achosion hynny lle rhoddir caniatâd i ddymchwel adeilad, mae’n bosibl y bydd y Cyngor yn mynnu i’r nodweddion pensaernïol gael eu cofnodi ac i ddeunyddiau gael eu hailddefnyddio a’u hailgylchu mewn unrhyw ddatblygiad newydd ar y safle.

6.6.9 Dylid rhoi sylw dyledus i effaith unrhyw gynnig ar natur unigryw, cyfanrwydd neu leoliad y nodwedd, tirwedd, trefwedd neu adeilad.

6.6.10 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

Polisi EQ2 Datblygiadau Galluogi

Ni fydd cynigion ar gyfer datblygiadau galluogi sy’n hanfodol i sicrhau dyfodol hirdymor nodwedd neu adeilad hanesyddol ond yn cael eu caniatáu:

  1. Os yw’r budd i’r gymuned o barhad bodolaeth yr adeilad neu nodwedd hwnnw’n gwrthbwyso anfanteision rhoi caniatâd;
  2. Os oes tystiolaeth glir bod pob dewis arall wedi cael eu profi’n anhyfyw, gan gynnwys argaeledd cymhorthdal ariannol;
  3. Os nad yw’n niweidio’n hanfodol yr adeilad neu’r nodwedd y mae’n ceisio ei gynorthwyo neu ei leoliad neu’r ardal y saif ynddi;
  4. Sicrhau bod maint a graddfa’r datblygiad galluogi mor fach ag sy’n bosibl o gofio’r angen.

Bydd cynigion yn destun rhaglen gwaith gytunedig. Rhaid i gyflwr yr adeilad neu’r graddau y mae wedi ei adfer fod yn unol â’r rhaglen gwaith cyn i’r datblygiad galluogi feddiannu’r adeilad neu nodwedd.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4, AS7, AS11 ac AS12
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.6.11 Yn aml gall adeiladau hanesyddol a nodweddion fel adeiladau rhestredig fod yn ddrud i’w cynnal a chadw ac o ganlyniad gallant gael eu hesgeuluso hyd nes ei bod yn aneconomaidd eu hatgyweirio. Mae enghreifftiau o’r fath yn aml yn ddiangen ac mewn cyflwr sy’n cuddio eu gwerth hanesyddol neu bensaernïol.

6.6.12 Ystyr datblygiad galluogi yw datblygiad na fyddai, o bosibl, yn cael ei ganiatáu fel arall, ond a ddefnyddir i ariannu gwaith i sicrhau dyfodol adeiladau neu nodweddion hanesyddol bregus. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o benderfyniadau cynllunio, mae canlyniadau ariannol rhoi caniatâd cynllunio’n sylfaenol i’r broses benderfynu. Rhaid i’r gofynion ariannu godi o anghenion yr adeilad neu’r nodwedd, yn hytrach nag amgylchiadau’r perchennog neu gostau prynu’r eiddo.

6.6.13 Mae datblygiad galluogi’n eithriad i bolisïau arferol ac ni ddylid ei ddefnyddio ond pan fetho popeth arall mewn amgylchiadau gwirioneddol eithriadol.

6.6.14 Gall adeiladau neu nodweddion o’r fath hefyd gynnwys adeiladau ac ati pwysig mewn ardaloedd cadwraeth. Dylid ystyried cynigion datblygu gyda dealltwriaeth o ddyluniad, arwyddocâd a chyfraniad unrhyw diroedd neu barcdir a’u perthynas â’r adeiladau hanesyddol, gan gymryd i ystyriaeth yr angen i warchod golygfeydd pwysig i’r adeilad, a golygfeydd allan o’r adeilad.

6.6.15 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

Priodweddau Amgylcheddol – Amgylchedd Naturiol

6.6.16 Gall Sir Gaerfyrddin ymfalchïo mewn nifer fawr o safleoedd pwysig, sy’n amrywio o rai â dynodiadau rhyngwladol a chenedlaethol i Warchodfeydd Natur Lleol a safleoedd o bwysigrwydd daearegol a geomorffaidd lleol a phwysigrwydd o ran bywyd gwyllt. Mae’r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad mae’r safleoedd hyn a’r amgylchedd naturiol yn gyffredinol yn ei wneud at gyflawni amcanion strategol y Cynllun a’u rôl fel un o agweddau canolog y Strategaeth gan gynnwys elfennau sy’n ymwneud â chymunedau cynaliadwy ac iachach.

6.6.17 Mae amgylchedd naturiol a thirwedd Sir Gaerfyrddin yn amrywiol ac yn ddeniadol, ac mae rhannau helaeth o’i thirwedd yn ddigyffwrdd. Maent o dan bwysau cynyddol gan y rheiny sydd eisiau eu defnyddio at ddibenion hamdden, oddi wrth newidiadau mewn arferion amaethyddol, ac oddi wrth ddatblygiadau, yn arbennig mewn mannau cyfagos i drefi a phentrefi (gweler polisi GP2 – Terfynau Datblygu). Mae’r CDLl yn cydnabod ei bod yn bwysig nid yn unig gwarchod yr amgylchedd naturiol a’r dirwedd, ond hefyd, lle bo modd, gwella’r fioamrywiaeth a’r dirwedd pan fo datblygiadau’n digwydd. Mae’r CDLl hefyd yn cydnabod yr angen i warchod a gwella nodweddion bioamrywiaeth ardal y Cynllun.

6.6.18 Mae pwysau oddi wrth ddatblygiadau yn y sir yn debygol o gynyddu yn ystod cyfnod y Cynllun, ac felly mae’n bwysig gwarchod y safleoedd a’r nodweddion naturiol hynny sy’n cyfrannu at adnodd bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin ac ansawdd yr amgylchedd i breswylwyr ac ymwelwyr.

6.6.19 Er bod y Cynllun, o ganlyniad, yn cydnabod yr angen am ddatblygiadau newydd at ddibenion cymdeithasol ac economaidd fel ei gilydd, mae’n adlewyrchu pryderon dros yr amgylchedd ehangach yn ei bolisïau a’i gynigion. Ar y cyd gyda pholisïau a chanllawiau cenedlaethol, ei nod yw diogelu ansawdd amgylcheddol trwy wella ardaloedd o ddiddordeb o ran y dirwedd neu gadwraeth natur a rhoi gwarchodaeth briodol i amgylchedd cyffredinol ardal y Cynllun.

6.6.20 Rhoddir sylw i bolisi cenedlaethol (Polisi Cynllunio Cymru a TAN5) lle byddai cynnig ar gyfer datblygiad yn arwain at effaith andwyol arwyddocaol ar safle â dynodiad Ewropeaidd a/neu ryngwladol. At hynny, bydd cynigion a allai o bosibl effeithio ar y dreftadaeth naturiol ddynodedig yn cael eu hasesu yn unol â’r meini prawf a nodir ym Mhennod 5 o Bolisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 a TAN5. Dylid rhoi sylw penodol i’r canlynol:

6.6.21 Mae gwarchod a gwella priodweddau cadwraeth natur yr ardal yn rhan bwysig o’r Cynllun a’i Strategaeth. Mae’r gydnabyddiaeth o ansawdd bioamrywiaethol yr ardal yn cael ei hadlewyrchu yn amcanion strategol y Cynllun (AS4). Mae Polisi Strategol SP14 yn cydnabod cyfraniad safleoedd â dynodiadau rhyngwladol a chenedlaethol yn yr ardal. Fodd bynnag, ceir canllawiau clir a deddfwriaeth genedlaethol mewn perthynas â dynodiadau o’r fath yn ogystal â rhywogaethau a warchodir o dan ddeddfwriaeth Ewrop a’r Deyrnas Unedig ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 5 - Pennod 5 Gwarchod a Gwella’r Dreftadaeth Naturiol a’r Arfordir ac yn TAN 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio, a chaiff unrhyw gynigion a fyddai’n effeithio arnynt eu hystyried yn unol â’r darpariaethau cenedlaethol ar reoli datblygiadau.

Polisi EQ3 Dynodiadau Rhanbarthol a Lleol

Ni fydd cynigion ar gyfer datblygiadau sy’n debygol o achosi niwed annerbyniol i Warchodfa Natur Leol neu Safleoedd Daearegol a Geomorffaidd Pwysig Rhanbarthol yn cael eu caniatáu ond lle mae’n amlwg bod y rhesymau dros y datblygiad neu’r newid yn y defnydd tir yn drech na’r angen i ddiogelu gwerth cadwraeth natur sylweddol y safle neu’r nodwedd.

Bydd dynodi safleoedd o’r fath yn cael ei gefnogi lle bo’n briodol.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4, AS5, AS6, AS7 ac AS8
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.6.22 Mae Safleoedd o Bwysigrwydd i Gadwraeth Natur (SoBiGN) yn cynnig potensial arwyddocaol fel adnodd bioamrywiaeth. Nodir canllawiau ar gydnabod ac adnabod SoBiGN yn y ddogfen “Wildlife Sites Guidance Wales: A Guide to Develop Local Wildlife Systems in Wales” (Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru). Ar hyn o bryd nid oes unrhyw SoBiGN wedi’u diffinio yn ardal y Cynllun, ond mae’n un o amcanion yr awdurdod o hyd i gyflawni’r broses adnabod, a gaiff ei monitro a’i chynnal yn unol â hynny trwy’r broses adolygu. Bydd y Cyngor yn ystyried defnyddio Canllawiau Cynllunio Atodol wrth adlewyrchu’r gwaith o adnabod dynodiadau yn y dyfodol.

6.6.23 Mae SoBiGN, Gwarchodfeydd Natur Lleol a Safleoedd Daearegol a Geomorffaidd Pwysig Rhanbarthol yn nodi ardaloedd sydd o bwysigrwydd lleol o ran cadwraeth natur a gwerth daearegol, a gallant gynnwys safleoedd lle ceir amrywiaeth o fathau o gynefin neu sy’n cynnal amrywiaeth o rywogaethau.

6.6.24 Lle caniateir datblygiad a fyddai’n niweidio gwerth cadwraeth natur y safle neu’r nodwedd, byddir yn lleihau’r fath niwed gymaint ag sy’n bosibl. Lle bo’n briodol bydd yr awdurdod yn ystyried defnyddio amodau a/neu rwymedigaethau cynllunio i ddarparu mesurau cydbwyso / lliniaru priodol. Yn yr achosion hynny lle mae angen cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol, sy’n drech na dim arall ac sydd wedi’i ddangos, am y datblygiad yn y lleoliad penodol hwnnw, a lle nad oes safleoedd eraill, bydd yn ofynnol cael mesurau i greu cynefinoedd sylweddol a/neu fesurau i wella’r ffordd y rheolir y cynefinoedd sy’n bodoli eisoes, er mwyn sicrhau na fydd unrhyw leihad cyffredinol yng ngwerth cadwraeth natur cyffredinol yr ardal neu’r nodwedd.

Polisi EQ4 Bioamrywiaeth

Ni fydd cynigion ar gyfer datblygiadau a fydd yn cael effaith andwyol ar rywogaethau, cynefinoedd a nodweddion â blaenoriaeth y cydnabyddir eu bod yn bwysig iawn i warchod bioamrywiaeth a chadwraeth natur (sef y rheiny a warchodir gan Adran 42 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 a chynefinoedd a rhywogaethau Cynllun Gweithredu'r DU ar Fioamrywiaeth a’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol a safleoedd a rhywogaethau eraill a warchodir o dan ddeddfwriaeth Ewrop neu’r Deyrnas Unedig) yn cael eu caniatáu oni ellir dangos:

  1. Y gall yr effeithiau gael eu lliniaru’n foddhaol, eu lleihau i’r eithaf yn dderbyniol neu eu rheoli’n briodol i gynnwys gwelliannau net;
  2. Bod yna amgylchiadau eithriadol lle mae’n amlwg bod y rhesymau dros y datblygiad neu’r newid yn y defnydd tir yn drech na’r angen i ddiogelu nodweddion y safle o ran bioamrywiaeth a chadwraeth natur a lle gellir gwneud darpariaeth arall o ran cynefinoedd er mwyn cynnal a gwella bioamrywiaeth leol.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4, AS5, AS6, AS7 ac AS8
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.6.25 Nod y polisi yw sicrhau y bydd y cynefinoedd a’r rhywogaethau a nodir yng Nghynllun Gweithredu'r DU ar Fioamrywiaeth a’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol yn cael eu gwella a’u gwarchod mewn modd addas rhag datblygiadau amhriodol ac na fydd cynigion datblygu’n cael effaith andwyol arnynt. Mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Gaerfyrddin yn nodi’r rhywogaethau a’r cynefinoedd y bernir eu bod o bwysigrwydd cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Wrth ystyried cynigion a fyddai’n cael effaith ar gynefinoedd a rhywogaethau o’r fath, rhoddir sylw i’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol wrth benderfynu ar y cynnig a lle bo’n briodol y lefel angenrheidiol o liniaru ac ati os yw’n briodol ei angen. Rhoddir sylw dyledus hefyd i ddarpariaethau Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 Adran 42 Rhestr o Rywogaethau a Chynefinoedd Pwysig Iawn er mwyn Gwarchod Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru wrth weithredu’r polisi hwn. Bydd rôl cynefinoedd a mannau cysylltiedig fel llwybrau cysylltedd, ‘rhwydweithiau ecolegol’ neu ‘rwydweithiau coridorau anifeiliaid’ yn cael ei hystyried lle bo’n berthnasol (dylid rhoi sylw i Bolisi EQ5 isod).

6.6.26 Lle bo angen, dylai cynlluniau rheoli’n nodi materion megis mesurau lliniaru gael eu cynhyrchu fel rhan o unrhyw gais a dylid cytuno arnynt gyda’r awdurdod cyn i ganiatâd gael ei roi. Ynghyd â mesurau lliniaru arfaethedig dylid cyflwyno trefn monitro gytunedig. Gall lliniaru gynnwys dylunio ac amseru gwaith yn ofalus gan ystyried datblygu fesul cyfnod fel bod amseriad unrhyw waith yn lleihau unrhyw darfu gymaint ag sy’n bosibl.

6.6.27 Mewn amgylchiadau eithriadol mae’n bosibl y bydd yr angen am ddatblygiad yn drech na’r angen i warchod safle penodol. Os bernir bod hyn yn dderbyniol yna cymerir camau i sicrhau y gwneir gwaith i ddarparu cynefin arall neu i greu cynefin ar gyfer bywyd gwyllt, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw golled o ran gwerth cadwraeth natur cyffredinol yr ardal neu’r nodwedd. Bydd lleoliad a graddfa datblygiad, gan gynnwys natur y cynefinoedd ar y safle ac yn yr ardal amgylchynol, yn ystyriaeth yn natur unrhyw waith rheoli gofynnol.

6.6.28 Dylid ystyried effeithiau posibl datblygiad, naill ai’n unigol neu’n gronnol, yn ofalus wrth benderfynu ar unrhyw gynnig. Yn hyn o beth gall effaith swn, dirgryndod, draenio, goleuadau ac ystyriaethau traffig fod â goblygiadau yn ystod y gwaith adeiladu neu ar ôl i unrhyw ddatblygiad gael ei gwblhau.

6.6.29 Bydd defnyddio amodau cynllunio a/neu rwymedigaethau cynllunio’n cael ei ystyried lle bo’n briodol. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol mewn perthynas â bioamrywiaeth yn cael eu paratoi. Bydd hyn yn cynnwys canllawiau i ddatblygwyr a bydd yn cynorthwyo â’r gwaith o weithredu’r polisi a’r CDLl.

6.6.30 Wrth ddefnyddio’r polisi hwn dylid rhoi sylw dyledus hefyd i Bolisïau GP4, EP1, EP2, EP3, EP4 ac EP5 fel bo’n briodol.

Polisi EQ5 Coridorau, Rhwydweithiau a Nodweddion o Natur Unigryw

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau na fyddent yn cael effaith andwyol ar y nodweddion hynny sy’n cyfrannu at natur unigryw/priodweddau’r sir ac ar waith rheoli a/neu ddatblygu rhwydweithiau ecolegol (rhwydweithiau coridorau bywyd gwyllt), coridorau gwyrdd hygyrch a’u didoredd a’u cyfanrwydd, yn cael eu caniatáu.

Bydd cynigion sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer cadw a rheoli’n briodol nodweddion o’r fath yn cael eu cefnogi (ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â pholisïau a chynigion y cynllun hwn).

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4, AS5, AS6, AS7, AS8 ac AS12
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.6.31 Mae’r nodweddion hyn yn cynnwys y rheiny sydd, yn rhinwedd eu strwythur a’u lleoliad naill ai fel nodwedd linellol neu ddi-dor neu elfen annibynnol, yn gwneud cyfraniad pwysig at briodweddau tirweddol y sir a’i phriodweddau unigryw. Nod y polisi hwn yw gwarchod amrywiaeth fawr o’r nodweddion hyn sydd nid yn unig yn werthfawr yn weledol ac o ran eu cyfraniad at y dirwedd ond sydd hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth warchod a gwella bioamrywiaeth, geoamrywiaeth a diwylliant ledled y sir. Er na roddir gwarchodaeth statudol iddynt yn aml, mae nodweddion o’r fath yn gwneud cyfraniad arwyddocaol at amrywiaeth tirweddau, cymunedau a bioamrywiaeth gyfoethog Sir Gaerfyrddin.

6.6.32 Mae’r nodweddion sy’n cyfrannu’n cynnwys: perthi, ffosydd a glannau, waliau cerrig, nentydd, lleiniau o goed, coetiroedd, coed hynafol, parcdiroedd, lonydd gwyrdd, coridorau afonydd, llynnoedd, pyllau dwr, lleiniau ymylon ffyrdd, neu gynefinoedd clytwaith neu rwydweithiau o gynefinoedd eraill sy’n bwysig yn lleol gan gynnwys mawnogydd, gweundiroedd, gwlyptiroedd, morfeydd heli, twyni tywod a glaswelltiroedd blodeuog.

6.6.33 Mae nodweddion o’r fath yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth ac o’r herwydd byddir yn annog unrhyw gynigion i gefnogi eu cadw, eu rheoli a’u datblygu. Mae cadw a gwella nodweddion o’r fath yn cydnabod eu pwysigrwydd fel llwybrau cysylltedd ar gyfer gwasgaru, mudo a chyfnewid genetig. Wrth ddefnyddio’r polisi hwn dylid rhoi sylw i astudiaethau perthnasol ar Gysylltedd Cynefinoedd Iâr Fach yr Haf Britheg y Gors (mewn perthynas ag ACA Caeau Mynydd Mawr) ac Astudiaeth Bioamrywiaeth a Chysylltedd yr anheddiad (Dogfen a Gyflwynwyd CSD99).

6.6.34 Mae coetiroedd, coed a pherthi’n rhan annatod a chyfnewidiol o gymeriad tirweddau a threfweddau’r Sir. Maent yn darparu cynefinoedd gwerthfawr i fywyd gwyllt, yn tynnu carbon deuocsid o’r aer, yn lleihau llygredd atmosfferig ac yn darparu lloches, cysgod a chyfleoedd hamdden anffurfiol. Er bod rhai coetiroedd, coed a pherthi wedi’u gwarchod gan ddynodiadau bywyd gwyllt neu gadwraeth, Gorchmynion Cadw Coed neu’r Rheoliadau Perthi, mae hefyd yn bwysig bod y rhai sydd heb y warchodaeth hon yn cael eu cadw a’u gwarchod a, lle bynnag y bo modd, yr ychwanegir atynt. (Dylid rhoi sylw hefyd i Bolisi GP1 - Cynaliadwyedd a Dylunio o Ansawdd Da, ynghyd â darpariaethau Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 - Pennod 5).

Polisi EQ6 Ardaloedd Tirwedd Arbennig

Mae Ardaloedd Tirwedd Arbennig wedi’u dynodi yn y mannau canlynol ac wedi’u nodi ar y map cynigion:

Dyffryn Tywi
Esgair Galchfaen Sir Gaerfyrddin
Dyffryn Teifi
Drefach Felindre
Cwm Bran (i’r gogledd o Lanymddyfri)
Mynydd Mallaen
Mynydd Llanllwni
Ucheldiroedd y Gogledd-ddwyrain
Mynydd y Betws
Gwastadeddau Gwendraeth
Mynydd Pen-bre
Swiss Valley
Talyllychau
Dyffryn Llwchwr
Dyffryn Taf Isaf
Cwm Cathan
Dyffryn Cothi
Bae ac Aberoedd Caerfyrddin

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau a fydd yn gwella’r Ardaloedd Tirwedd Arbennig trwy eu dyluniad, golwg a chynlluniau tirweddol yn cael eu caniatáu (yn ddarostyngedig i bolisïau a chynigion y Cynllun hwn).

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4, AS5, AS6, AS7, AS8 ac AS12
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.6.35 Mae Ardaloedd Tirwedd Arbennig yn ddynodiad anstatudol a nodir yn dilyn asesiad ffurfiol o briodweddau tirwedd y Sir. Wrth eu dynodi defnyddiwyd Nodyn Cyfarwyddyd y cyn Gyngor Cefn Gwlad Cymru wrth gymhwyso’r canlyniadau o’r data LANDMAP. Yn hyn o beth mae eu dynodiad yn adlewyrchu’r meysydd agwedd a ddiffinnir yn LANDMAP ac yn ceisio defnyddio categori ‘eithriadol’, a gaiff ei gefnogi lle bo’n briodol gan y rhai yn y dosbarth ‘uchel’.

6.6.36 Mae LANDMAP yn ddull o asesu tirweddau yng Nghymru sy’n disgrifio a gwerthuso agweddau ar dirweddau a gall awdurdodau ei ddefnyddio i lywio’r gwaith o lunio polisïau a gwneud penderfyniadau. Mae’n nodi pum ‘maes agwedd’: daearegol, tirweddau, gweledol a synhwyraidd, cynefinoedd tirweddau, tirweddau diwylliannol a thirweddau hanesyddol.

6.6.37 Er nad yw wedi’i fwriadu i atal datblygiadau o angenrheidrwydd, bwriedir iddo adlewyrchu’r pwyslais a roddir ar y term ‘arbennig’ yn eu diffiniad. Dylai dyluniad datblygiadau fod yn ddigon sensitif i sicrhau bod y cynllun yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at y dirwedd. Yn hyn o beth, disgwylir i gynigion ddangos na fyddant yn cael effaith annerbyniol ar eu nodweddion unigryw penodol neu nodweddion yr Ardal Tirwedd Arbennig. Bydd cynigion datblygu cyfagos i Ardal Tirwedd Arbennig, neu a fydd yn cael effaith ar Ardal Tirwedd Arbennig hefyd yn cael eu hystyried yn unol â darpariaethau’r polisi hwn.

6.6.38 Mae’r aneddiadau hynny a ddiffinnir fel rhan o gymuned gynaliadwy, lle bônt wedi’u hamgylchynu gan Ardal Tirwedd Arbennig, yn cael eu hystyried yn rhan o’r dynodiad. Ni fydd yr Ardaloedd Twf, Canolfannau Gwasanaethau a Chanolfannau Gwasanaethau Lleol mewn Ardal Tirwedd Arbennig yn cael eu hystyried yn rhan o’r dynodiad. Fodd bynnag, bydd eu heffeithiau posibl yn cael ystyriaeth ddyledus yn unol â’r datganiad uchod mewn perthynas â chynigion datblygu cyfagos i Ardal Tirwedd Arbennig neu a fydd yn cael effaith ar Ardal Tirwedd Arbennig.

6.6.39 Wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio priodol, bydd y Cyngor yn rhoi sylw i system gwybodaeth LANDMAP fel ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth ystyried effaith unrhyw gynnig ar briodweddau tirweddol y sir. Dylid rhoi ystyriaeth hefyd i wella ansawdd trwy ffyrdd megis creu ac adfer cymeriad fel bo’n briodol.

6.6.40 Ceir disgrifiad o bob Ardal Tirwedd Arbennig yn nodi ei phriodweddau a’i nodweddion tirweddol yn Atodiad 4. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu paratoi ynghylch ystyriaethau rheoli mewn Ardaloedd Tirwedd Arbennig a chyngor cyffredinol ar ddylunio. Caiff y defnydd o bolisi Ardaloedd Tirwedd Arbennig ei fonitro o dan fframwaith monitro’r CDLl.

EQ7 Datblygiadau yn Ardal Canllawiau Cynllunio Atodol Caeau Mynydd Mawr

Bydd cynigion yn cael eu caniatáu os ydynt yn gyson ag ymrwymiad y Cyngor i hybu a chyfrannu at gyflawni Amcanion Cadwraeth Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Caeau Mynydd Mawr yn unol â’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Lle bo’n berthnasol, bydd yn ofynnol i gynigion yn ardal y Canllawiau Cynllunio Atodol gyfrannu at wella ansawdd a chynyddu maint y cynefin addas i iâr fach yr haf britheg y gors fydd ar gael yn ardal y Canllawiau Cynllunio Atodol. Mae ardal y Canllawiau Cynllunio Atodol wedi’i diffinio ar y Map Cynigion.

Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, ac er mwyn lliniaru colled cynefin cynnal a chysylltedd posibl i iâr fach yr haf britheg y gors a all ddeillio o’r datblygiad, bydd y Cyngor, lle bo’n berthnasol, yn ceisio sicrhau Rhwymedigaethau Cynllunio (yn unol â pholisi GP3 a darpariaethau’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer ACA Caeau Mynydd Mawr) oddi wrth ddatblygiadau perthnasol yn ardal y Canllawiau Cynllunio Atodol. Caiff y cyfraniad cytunedig ei drafod a’i drefnu fesul achos unigol yn ddarostyngedig i ddarpariaethau a gofynion Canllawiau Cynllunio Atodol ACA Caeau Mynydd Mawr.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4, AS5, AS6, AS7 ac AS8
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.6.41 Gall datblygiadau fynd rhagddynt yn ardal Canllawiau Cynllunio Atodol Caeau Mynydd Mawr ar yr amod na fydd effaith arwyddocaol debygol ddangosadwy ar Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Caeau Mynydd Mawr. I’r perwyl hwn, bydd y Cyngor (lle bo’n briodol) yn gofyn am gyfraniadau gan y datblygwr yn unol â darpariaethau Canllawiau Cynllunio Atodol ACA Caeau Mynydd Mawr. Er mwyn sicrhau bod y CDLl yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Cynefinoedd, bydd y Cyngor (lle bo’n briodol) yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau’r rhwymedigaethau hynny mewn perthynas â’r ACA. Mae’n bosibl y bydd y Cyngor hefyd (lle bo’n briodol) yn gofyn am ragor o wybodaeth fanwl gan y datblygwyr i lywio’r gwaith o benderfynu ar geisiadau cynllunio.

6.6.42 Nodir Ardal Canllawiau Cynllunio Atodol Caeau Mynydd Mawr ar y map cynigion. Dylid rhoi sylw i Ganllawiau Cynllunio Atodol mabwysiedig ACA Caeau Mynydd Mawr, ynghyd ag polisiau H1 a SP7, ac Atodiad 2 o’r Cynllun hyn.

6.6.43 Wrth ddarparu sicrwydd a ffocws gofodol, nid yw polisi EQ7 yn dadlau dros ddull caeth/hollgynhwysfawr o gyfrifo maint datblygiadau y codir tâl yn eu cylch. Dylid rhoi sylw i’r Canllawiau Cynllunio Atodol, yn arbennig yn nhermau cyfraniadau ‘mewn nwyddau’.

6.7 Ynni Adnewyddadwy

6.7.1 Mae polisïau’r Cynllun hwn yn hyrwyddo gweithredu hierarchaeth ynni, sef lleihau galw adeiladau am ynni, hybu effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau, a darparu a chynyddu cyflenwad ynni adnewyddadwy. Mae’r polisïau a nodir isod, ac ym Mholisi Strategol SP11 - Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni, yn ceisio cynorthwyo i gyflawni rhan ddiweddarach yr hierarchaeth. Mae Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 a TAN8: (2005) yn darparu arweiniad ychwanegol ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy, ac ni chaiff eu cynnwys ei ailadrodd yma. Rhaid nodi’n benodol y pynciau canlynol:

Polisi RE1 Ynni Gwynt ar Raddfa Fawr

Bydd ffermydd gwynt ar raddfa fawr o 25MW a mwy yn cael eu caniatáu ar yr amod y gellir bodloni’r meini prawf canlynol:

  1. Bod y datblygiad wedi’i leoli mewn Ardal Chwilio Strategol ac y bydd yn cyfrannu at sicrhau’r capasiti cynhyrchu dangosol yn yr Ardal;
  2. Na fydd y datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar amwynder gweledol neu gymeriad tirweddol trwy: nifer, graddfa, maint, dyluniad a lleoliad tyrbinau a seilwaith cysylltiedig;
  3. Na fydd y datblygiad yn arwain at niwed dangosadwy i safleoedd a rhywogaethau a warchodir yn statudol, a chynefinoedd a rhywogaethau a nodir yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol;
  4. Na fydd y datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar ardaloedd sydd wedi’u dynodi oherwydd eu gwerth tirweddol;
  5. Na fydd y datblygiad yn arwain at niwed arwyddocaol i ddiogelwch neu amwynder derbynyddion sensitif ac na fydd yn cael effaith annerbyniol ar ddiogelwch ffyrdd, rheilffyrdd neu awyrennau;
  6. Na fydd y datblygiad yn arwain at golli hygyrchedd gan y cyhoedd i’r ardal i raddau annerbyniol; y caiff y llwybrau troed, llwybrau beicio mynydd a llwybrau ceffyl sy’n bodoli eisoes eu diogelu rhag datblygiadau heb golli dim o’u hyd a’u hansawdd yn barhaol;
  7. Na fydd y datblygiad yn arwain at ymyriant electromagnetig annerbyniol i osodiadau cyfathrebu, systemau radar neu reoli traffig awyr, systemau cyfathrebu’r gwasanaethau brys, neu unrhyw systemau telathrebu eraill;
  8. Na fydd y datblygiad yn cael effeithiau cronnol annerbyniol mewn perthynas â thyrbinau gwynt sy’n bodoli eisoes a’r rheiny sydd wedi cael caniatâd;
  9. Y bydd tyrbinau a’r seilwaith cysylltiedig, ar ddiwedd oes weithredol y cyfleuster, yn cael eu symud ymaith ac y cytunir ar gynllun adfer tir ac ôl-ofal priodol;
  10. Na fydd y cynigion yn achosi risg neu niwsans afresymol i, ac effaith ar, amwynderau preswylwyr cyfagos neu aelodau eraill o’r cyhoedd.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4, AS5, AS7 ac AS11
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.7.2 Bernir bod angen ffermydd gwynt ar raddfa fawr er mwyn i Lywodraeth Cymru gyrraedd targedau ynni yr ymrwymwyd iddynt. Mae TAN8: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy (2005), yn nodi saith ardal yng Nghymru yr ystyrir mai hwy yw’r lleoliadau mwyaf priodol i ddatblygu ffermydd gwynt ar raddfa fawr, a’r enw ar yr ardaloedd hyn yw Ardaloedd Chwilio Strategol. Saif Ardal Chwilio Strategol G: Coedwig Brechfa o fewn targedau cynhyrchu Sir Gaerfyrddin, ac mae terfynau uchaf ar gyfer ardaloedd chwilio’n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru. Saif Ardal Chwilio Strategol E: Pontardawe yn bennaf o fewn ffiniau gweinyddol Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, ond mae rhan fach ohoni o boptu ffin y sir i’r dwyrain o Rydaman. Derbynnir egwyddor datblygiadau tyrbinau gwynt ar raddfa fawr a’r newid cysylltiedig yn y dirwedd mewn Ardaloedd Chwilio Strategol.

6.7.3 Nod y polisi hwn yw atal gwasgaru tyrbinau gwynt ar draws tirwedd Sir Gaerfyrddin, trwy gyfeirio ffermydd gwynt ar raddfa fawr i Ardaloedd Chwilio Strategol. Mae TAN8 wedi nodi Ardaloedd Chwilio Strategol fel y mannau mwyaf priodol i ddatblygu ffermydd gwynt ar raddfa fawr (>25MW). Gellir dangos bod effaith gronnol ffermydd gwynt yn niweidio’r dirwedd ehangach a chânt eu rheoli’n gaeth.

Ardal Chwilio Strategol G: Coedwig Brechfa
6.7.4 Gellir disgrifio Coedwig Brechfa fel darn helaeth o goedwig ddi-dor, sy’n amrywio o blanhigfeydd conwydd ar draws llwyfandiroedd uchel i goetiroedd llydanddail hynafol mewn cymoedd serth a chul. Ers 2005 mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi mynd trwy broses dendro i ganfod un datblygwr fferm wynt fawr neu ffermydd gwynt ar ei ystâd yn Ardal Coedwig Brechfa. Un agwedd allweddol ar y tendr ar gyfer y datblygiad yw bod yn rhaid i brosiectau gael eu hintegreiddio i’r goedwig yn hytrach na bod yn ddefnydd tir arall yn lle coedwigaeth.

6.7.5 Mae rhan o Ardal Chwilio Strategol Coedwig Brechfa hefyd yn ddarn o dir comin sy’n cynnwys Mynydd Llanybydder, Mynydd Llanllwni a Mynydd Llanfihangel Rhos-y-Corn, sy’n ddarnau o dir a borir gan ddefaid yn bennaf. Ar y tir hwn ceir amrywiaeth fawr o gynefinoedd lled-naturiol, y mae rhai ohonynt yn gynefinoedd â blaenoriaeth ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth.

6.7.6 Diffiniodd TAN8 Goedwig Brechfa yn y lle cyntaf. Comisiynwyd astudiaeth yn 2006 i astudio ardal Coedwig Brechfa ac asesu’r mannau gorau i osod tyrbinau gwynt er mwyn lleihau’r amhariad gweledol cymaint ag y bo modd. Un o ganlyniadau’r adroddiad oedd nodi pedair ardal, sydd gyda’i gilydd yn debygol o allu cyflenwi digon o dir ar gyfer o leiaf 90MW o gapasiti gosodedig, lle byddai datblygu fferm wynt fawr yn cael yr effaith leiaf ar y dirwedd a’r effaith weledol leiaf. Rhoddir sylw i ganlyniad yr astudiaeth hon wrth asesu cynigion.

6.7.7 Mae Coedwig Brechfa yn cyflawni rôl bwysig o ran hamdden yn yr awyr agored, trwy ddarparu adnodd ar gyfer cerdded, beicio mynydd, marchogaeth a ralïo ceir. Mae buddsoddiad sylweddol wedi cael ei wneud mewn datblygu’r llwybrau beicio mynydd a’r cyfleusterau cysylltiedig yn y blynyddoedd diwethaf. Wrth leoli tyrbinau, caiff y llwybrau beicio mynydd presennol eu diogelu heb golli dim o hyd ac ansawdd y llwybrau’n barhaol. Bydd angen ailgyfeirio hawliau tramwy cyhoeddus, dros dro ac mewn modd priodol, yn ystod y gwaith adeiladu. Byddir yn annog gwella’r cyfleusterau presennol a darparu cyfleusterau hamdden newydd.

6.7.8 Mae Canllawiau Cynllunio Atodol wedi cael eu cynhyrchu ar gyfer Datblygu Ffermydd Gwynt Mawr yn Ardal Coedwig Brechfa, oedd yn ymdrin â’r cyfnod hyd at 2010. Bydd rhagor o Ganllawiau wedi’u diweddaru’n cael eu cynhyrchu i gefnogi polisïau’r Cynllun hwn ar Ynni Adnewyddadwy (polisïau SP11, RE1, RE2 ac RE3).

Ardal Chwilio Strategol E: Pontardawe
6.7.9 Mae Ardal Chwilio Strategol E, a saif yn bennaf yn siroedd cyfagos Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, yn debygol o gynhyrchu 100MW o drydan, ar amcangyfrif. Comisiynwyd astudiaeth ar gyfer yr ardal hon hefyd a daeth i’r casgliad bod y rhan o’r ardal a saif yn Sir Gaerfyrddin yn addas i gael ei mireinio. Mae’r ardal hon, a elwir Mynydd y Betws, wedi bod yn fferm wynt weithredol ers haf 2013. Am y rheswm hwn, barnwyd nad oes angen rhagor o waith mireinio Ardal Chwilio Strategol E ar gyfer y rhan a saif yn Sir Gaerfyrddin.

6.7.10 Mae lleoliad a dyluniad tyrbinau’n ffactor pwysig wrth asesu effaith cynnig ar y dirwedd. Dylai gwaith, adeiladau a strwythurau atodol gael eu lleoli a’u dylunio mewn modd gofalus a sensitif, a’u cyfyngu i fannau lle na fyddai’r cynigion yn cael effaith gronnol arwyddocaol. Dylai datblygiadau o’r fath fod yn gydnaws â phriodweddau’r tirffurf lleol, cyfuchliniau a nodweddion tirweddol presennol.

6.7.11 Os yw unrhyw brosiect yn debygol o arwain at ddifrod nad oes modd ei osgoi yn ystod y gwaith o’i osod, ei weithredu neu ei ddatgomisiynu, bydd angen i’r cais nodi sut y byddir yn lleihau hyn gymaint ag sy’n bosibl a’i liniaru, gan gynnwys manylion unrhyw fesurau cydbwyso arfaethedig, megis cynllun rheoli cynefin neu greu cynefin newydd. Bydd angen cytuno ar y mater hwn cyn i ganiatâd cynllunio gael ei roi.

6.7.12 Mae’n ofynnol i dyrbinau roi sylw dyledus i amwynder preswylwyr a meddianwyr eiddo cyfagos. Dylai’r gofyniad hwn leihau’r diflastod posibl yn deillio o weithrediad tyrbinau gwynt; swn, cysgodion symudol, risg i ddiogelwch, ymyriant â radio neu delathrebu. Ni ddylai unrhyw dyrbin achosi niwed dangosadwy i amwynder unrhyw breswylydd. Ni fydd cynigion a fyddai’n arwain at ddiflastod annerbyniol oddi wrth weithrediad tyrbinau gwynt - swn, cysgodion symudol, risg i ddiogelwch, ymyriant â radio, telathrebu neu awyrennau – yn cael eu caniatáu.

6.7.13 Bydd yn ofynnol i gynigion sicrhau na fyddant yn peri problemau o ran diogelwch ar y priffyrdd nac yn cael effaith andwyol ar y rhwydwaith priffyrdd o ganlyniad i draffig adeiladu a chynnal a chadw, yn unol â pholisi TR2 – Lleoli Datblygiadau – Ystyriaethau Trafnidiaeth.

6.7.14 Ni fydd cynigion yn cael effaith andwyol ar safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol neu archeolegol, yn unol â pholisi EQ1 – Gwarchod Adeiladau, Tirweddau a Nodweddion o Bwysigrwydd Hanesyddol.

6.7.15 Dylid gwneud darpariaeth i symud ymaith strwythurau dros dro, peiriannau a chyfarpar o'r safle ar ôl i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau. Ar ôl i’r tyrbinau ddod i ddiwedd eu hoes weithredol, dylid symud ymaith yr holl strwythurau, peiriannau, cyfarpar a thyrbinau cyn pen chwe mis ar ôl iddynt gael eu datgomisiynu a dylai’r tir gael ei adfer i safon dderbyniol.

6.7.16 Mae TAN8 yn darparu arweiniad manwl i ddatblygwyr ac awdurdodau cynllunio lleol ynghylch y mathau o ffactorau y dylid eu cymryd i ystyriaeth wrth gynllunio ar gyfer ffermydd gwynt ar raddfa fawr.

6.7.17 Ar hyn o bryd mae pum fferm wynt yn weithredol yn Sir Gaerfyrddin, na ellir dweud bod unrhyw un ohonynt ar raddfa fawr. Mae’r tyrbinau hyn yn cyfrannu 78.3 MW, ar amcangyfrif.

Lleoliad
Allbwn Amcangyfrifol (MW)
Nifer y tyrbinau
Blaenbowi, Capel Iwan

3.9
3
Blaen-gwen, Alltwalis
23
10
Dyffryn Brodyn, Blaen-waun
5.5
11
Parc Cynog, Pentywyn
11.4
11
Mynydd y Betws
34.5
15

Tabl 9 – Ffermydd Gwynt yn Sir Gaerfyrddin

6.7.18 Bydd estyniadau i ffermydd gwynt sy’n bodoli eisoes yn cael eu hystyried yn unol â’u rhinweddau eu hunain. Bernir y ceir digon o fanylion yn TAN 8 i alluogi gwneud asesiad o gynigion o’r fath.

6.7.19 Mae “LANDMAP” yn set ddata a ddyfeisiwyd gan y cyn Gyngor Cefn Gwlad Cymru i gymryd y dirwedd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau. Caiff “LANDMAP” ei ddefnyddio wrth asesu ceisiadau cynllunio ar gyfer tyrbinau gwynt. Mae mannau eraill nad ydynt yn addas ar gyfer datblygiadau ffermydd gwynt yn cynnwys SoDdGA, ACA, a safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol neu archeolegol.

Ynni Gwynt ar y Môr
6.7.20 Nid yw’r broses cynllunio ar gyfer ffermydd gwynt ar y môr yn dod o fewn cylch gwaith yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Fodd bynnag, bydd angen i’r Awdurdod gynnig sylwadau i’r corff penderfynu perthnasol. Mae’n bosibl y bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer seilwaith cysylltiedig ar y tir a bydd yn cael ei ystyried o dan bolisi SP17 - Seilwaith.

Polisi RE2 Ffermydd Gwynt Lleol, Cymunedol a Bach

Bydd ffermydd gwynt Lleol, Cymunedol a Bach neu dyrbinau unigol yn cael eu caniatáu ar yr amod y gellir bodloni’r meini prawf canlynol yn llwyr:

  1. Na fydd y datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar amwynder gweledol neu gymeriad tirweddol trwy: nifer, graddfa, maint, dyluniad a lleoliad tyrbinau a seilwaith cysylltiedig;
  2. Na fydd y datblygiad yn cael effeithiau cronnol annerbyniol mewn perthynas â thyrbinau gwynt sy’n bodoli eisoes a gosodiadau ynni adnewyddadwy eraill a’r rheiny sydd wedi cael caniatâd;
  3. Dylai’r lleoliad, dyluniad, patrwm a deunyddiau a ddefnyddir fod yn gydnaws â phriodweddau tirffurf, cyfuchliniau a nodweddion presennol y dirwedd;
  4. Na fyddai’r datblygiad yn achosi niwed dangosadwy i rywogaethau a warchodir yn statudol, a chynefinoedd a rhywogaethau a nodir yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol;
  5. Na fydd y tyrbinau a’r strwythurau sy’n gysylltiedig â hwy’n cael eu lleoli mewn, nac yn cael effaith ar, adnoddau archeolegol, lleoliad a chyfanrwydd Ardaloedd Cadwraeth, Adeiladau Rhestredig neu fannau eraill o werth hanesyddol;
  6. Na fydd y cynigion yn achosi risg neu ddiflastod afresymol i, ac effaith ar, amwynder preswylwyr cyfagos neu aelodau eraill o’r cyhoedd.
  7. Na chollir hygyrchedd gan y cyhoedd i’r ardal ac y caiff y llwybrau troed a llwybrau ceffyl sy’n bodoli eisoes eu diogelu rhag datblygiadau heb golli dim o’u hyd a’u hansawdd yn barhaol;
  8. Y bydd tyrbinau a’r seilwaith cysylltiedig, ar ddiwedd oes weithredol y cyfleuster, yn cael eu symud ymaith ac y cytunir ar gynllun adfer tir ac ôl-ofal priodol;
  9. Na fydd y datblygiad yn arwain at niwed arwyddocaol i ddiogelwch neu amwynder derbynyddion sensitif ac na fydd yn cael effaith annerbyniol ar ddiogelwch ffyrdd, rheilffyrdd neu awyrennau;
  10. Na fydd y datblygiad yn arwain at ymyriant electromagnetig annerbyniol i osodiadau cyfathrebu, systemau radar neu reoli traffig awyr, systemau cyfathrebu’r gwasanaethau brys, neu unrhyw systemau telathrebu eraill.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4, AS5, AS7 ac AS11
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.7.21 Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob prosiect ynni gwynt sy’n cynhyrchu llai na 25MW. Anogir gosod prosiectau ynni gwynt lleol, cymunedol a bach mewn mannau priodol.

6.7.22 Gall ffermydd gwynt lleol a chymunedol chwarae rhan bwysig wrth gynorthwyo i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru. Hybir tyrbinau o’r fath mewn mannau priodol, gan gynnwys ar dir a ddatblygwyd o’r blaen. Un ystyriaeth bwysig wrth asesu cynigion fydd effaith gronnol tyrbinau, gyda phwyslais penodol ar ddyluniad a maint tyrbinau, a all amrywio’n fawr.

6.7.23 Bydd datblygiadau newydd priodol yn cael eu hannog i ystyried ymgorffori prosiectau gwynt bach neu ficrogynhyrchu yn eu dyluniad. Mae’n ofynnol i dyrbinau bach gael eu lleoli’n agos i, a’u cysylltu’n agos ag, adeiladau neu strwythurau o natur debyg sy’n bodoli eisoes. Bydd tyrbinau sy’n anghydnaws â’r ardal, yn nhermau eu maint neu eu dyluniad, neu fod yn rhy amlwg yn yr ardal, yn cael eu gwrthod. Ni fydd cynigion yn gwrthdaro â pholisïau eraill a geir yn y Cynllun hwn.

6.7.24 Wrth asesu effaith gronnol cynigion, bydd unrhyw niwed annerbyniol i’r dirwedd, effaith weledol, swn, ecoleg a dwr wyneb a dwr daear hefyd yn cael eu hystyried mewn perthynas â gosodiadau ynni adnewyddadwy eraill, rhai gwynt a rhai heblaw gwynt.

6.7.25 Mae’n ofynnol i dyrbinau roi sylw dyledus i amwynder preswylwyr a meddianwyr eiddo cyfagos. Dylai’r gofyniad hwn leihau’r diflastod posibl yn deillio o weithrediad tyrbinau gwynt; swn, cysgodion symudol, risg i ddiogelwch, ymyriant â radio neu delathrebu. Ni ddylai unrhyw dyrbin achosi niwed dangosadwy i amwynder unrhyw breswylydd. Ni fydd cynigion a fyddai’n arwain at ddiflastod annerbyniol oddi wrth weithrediad tyrbinau gwynt - swn, cysgodion symudol, risg i ddiogelwch, ymyriant â radio, telathrebu neu awyrennau – yn cael eu caniatáu.

6.7.26 Bydd yn ofynnol i gynigion sicrhau nad ydynt yn peri problemau o ran diogelwch ar y priffyrdd neu’n cael effaith andwyol ar y rhwydwaith priffyrdd o ganlyniad i draffig adeiladu a chynnal a chadw, yn unol â pholisi TR2 – Lleoli Datblygiadau – Ystyriaethau Trafnidiaeth. Wrth leoli tyrbinau, caiff y llwybrau ceffyl a’r llwybrau troed presennol eu diogelu heb golli dim o hyd ac ansawdd y llwybrau’n barhaol. Bydd angen ailgyfeirio hawliau tramwy cyhoeddus, dros dro ac mewn modd priodol, yn ystod y gwaith adeiladu. Byddir yn annog gwella’r cyfleusterau presennol a darparu cyfleusterau hamdden newydd.

Polisi RE3 Gosodiadau Ynni Adnewyddadwy Heblaw Gwynt

Cynigion o fewn Terfynau Datblygu
Bydd cynigion ar gyfer gosodiadau ynni adnewyddadwy heblaw gwynt yn cael eu caniatáu o fewn Terfynau Datblygu diffiniedig, ar yr amod nad ydynt yn achosi effaith annerbyniol ar gymeriad yr ardal leol ac ar amwynder tir, eiddo a phreswylwyr cyfagos a’r gymuned. Ni fydd cynigion yn cael eu caniatáu os ydynt yn cael effaith negyddol ar archeoleg neu leoliad a chyfanrwydd Ardaloedd Cadwraeth, Adeiladau Rhestredig neu nodweddion neu fannau eraill o werth hanesyddol.

Cynigion y tu allan i Derfynau Datblygu
Bydd yn ofynnol i gynigion ar gyfer gosodiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach heblaw gwynt y tu allan i Derfynau Datblygu diffiniedig gyfiawnhau’n foddhaol yr angen i gael eu lleoli mewn lleoliad o’r fath. Dylai cynigion o’r fath gael eu lleoli’n agos i adeiladau a strwythurau sy’n bodoli eisoes ac ni fyddant yn achosi niwed dangosadwy i’r dirwedd.

Mae’n bosibl y bydd cynlluniau ar raddfa fawr y tu allan i Derfynau Datblygu diffiniedig yn cael eu caniatáu mewn amgylchiadau eithriadol lle mae angen, sy’n drech na dim arall, am y cynllun y gellir ei gyfiawnhau’n foddhaol, ac na fydd y datblygiad yn achosi niwed dangosadwy i’r dirwedd.

Ni fydd cynigion a fyddai’n achosi niwed dangosadwy i’r dirwedd, effaith weledol, swn, ecoleg, neu ddwr daear a dwr wyneb o ganlyniad i effaith gronnol gosodiadau ynni adnewyddadwy’n cael eu caniatáu.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4, AS5, AS7 ac AS11
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.7.27 Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r Llywodraeth wedi hybu gosod tyrbinau gwynt, gan y bernir mai’r rhain yw’r dechnoleg orau sydd ar gael yn y tymor byr i gyrraedd targedau cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Dylid asesu cynigion ar gyfer tyrbinau gwynt yn unol â polisïau RE1 ac RE2. Nid yw’r polisi hwn yn ymdrin â phrosiectau ynni gwynt.

6.7.28 Mae’r polisi hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o dechnolegau ynni adnewyddadwy gan gynnwys solar, biomas, ynni dwr, a gwres a phwer cyfunedig. Mae TAN8 yn darparu manylion technegol a diffiniadau ar gyfer deall nodweddion y technolegau hyn er mwyn cynorthwyo â’r gwaith o asesu cynigion. Gellir cyfeirio at ynni adnewyddadwy ar raddfa fach fel microgynhyrchu. Diffinnir microgynhyrchu o dan Ddeddf Ynni 2004 fel technolegau sy’n cynhyrchu trydan – capasiti o 50kW (gan gynnwys paneli ffotofoltäig solar, paneli solar, a gwres a phwer cyfunedig micro); neu dechnolegau sy’n cynhyrchu gwres (thermol) – capasiti o 45kW (gan gynnwys pympiau gwres, biomas a solar thermol).

6.7.29 Ni fydd cynigion ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy a leolir o fewn terfynau datblygu diffiniedig yn achosi diflastod afresymol, a byddant yn rhoi sylw dyledus i amwynder y tir a’r bobl o amgylch y safle. Dylai cynigion gael eu hintegreiddio gyda dyluniad yr adeilad y mae i fod i gael ei osod arno neu’n agos iddo. Bydd effaith y cynnig yn cael ei hystyried mewn perthynas â pholisïau eraill a geir yn y Cynllun hwn. Anogir cynnwys technolegau ynni adnewyddadwy mewn adeiladau newydd ac adeiladau sy’n bodoli eisoes yn unol â pholisïau SP1 - Lleoedd Cynaliadwy a GP1 - Cynaliadwyedd a Dylunio o Ansawdd Da.

6.7.30 Cydnabyddir y caiff rhai cynigion eu cyflwyno a leolir y tu allan i derfynau datblygu diffiniedig. Rhaid i’r cynigion hyn gael eu cyfiawnhau’n foddhaol, er enghraifft, yn achos ynni dwr, gorfod bod mewn cysylltiad â’r adnodd sy’n cael ei ddefnyddio. Mae’n bosibl y bydd cynigion eraill yn ymwneud ag eiddo neu strwythur sy’n bodoli eisoes a saif y tu allan i derfynau datblygu. Er mwyn sicrhau y caiff y datblygiad y tu allan i derfynau datblygu gyn lleied o effaith ag sy’n bosibl, dylid lleoli cynigion yn agos i eiddo, adeiladau neu strwythurau sy’n bodoli eisoes. Ni fydd cynigion a fyddai’n achosi niwed dangosadwy i’r dirwedd yn cael eu caniatáu.

6.7.31 Rhagwelir y caiff nifer gynyddol o gynigion eu cyflwyno am gynlluniau mawr i gael eu lleoli y tu allan i derfynau datblygu diffiniedig, er enghraifft parciau solar. Gall cynlluniau o’r fath chwarae rhan bwysig wrth gynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Am y rheswm hwn, bydd yr angen am y cynllun yn cael ei bwyso a mesur yn erbyn yr angen i warchod y dirwedd rhag datblygiadau amhriodol. Bydd cynlluniau o’r fath yn cael eu hasesu yn erbyn polisïau eraill a geir yn y Cynllun hwn sy’n ymwneud yn bennaf ag effaith y cynnig ar y dirwedd a bioamrywiaeth, ac effaith gronnol gosodiadau ynni adnewyddadwy.

6.7.32 Bydd yn ofynnol i gynigion ar gyfer cyfleusterau biomas ddangos na fydd ffynhonnell y tanwydd a ddefnyddir yn cael effaith ecolegol annerbyniol, yn y wlad hon neu mewn mannau eraill, ac na fydd yn cael effaith andwyol ar adnoddau dwr. Bydd yn ofynnol i ddatblygwyr cyfleusterau biomas ddangos bod yna ffynhonnell tanwydd leol ddigonol, nad oes unrhyw reswm dros amau na fydd ar gael yn y dyfodol, ac y bu rheswm da dros wrthod unrhyw ffynonellau tanwydd sy’n fwy lleol.

6.8 Diogelu’r Amgylchedd

6.8.1 Ceir canllawiau clir mewn perthynas â’r canlynol ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 ac felly ni chânt eu hystyried yma. Gellir gweld datganiadau polisi cenedlaethol ychwanegol ar reoli datblygiadau ym Mholisi Cynllunio Cymru.

6.8.2 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 o’r Cynllun mewn perthynas â safleoedd Ewropeaidd a/neu ryngwladol.

Polisi EP1 Ansawdd ac Adnoddau Dwr

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau’n cael eu caniatáu os nad ydynt yn arwain at ddirywiad yr amgylchedd dwr a/neu ansawdd dyfroedd a reolir. Lle bo’n briodol, disgwylir i gynigion gyfrannu at welliannau i ansawdd dwr.

Bydd cyrsiau dwr yn cael eu diogelu trwy glustogfeydd/coridorau bioamrywiaeth/ecolegol i warchod agweddau megis cynefinoedd a rhywogaethau glannau afonydd; ansawdd dwr a darparu ar gyfer capasiti gorlifdiroedd. Bydd cynigion yn cael eu caniatáu os nad ydynt yn cael effaith andwyol ar gadwraeth natur, pysgodfeydd, mynediad y cyhoedd neu ddefnyddiau hamdden dwr afonydd yn y sir.

Lle bynnag y bo modd bydd yn ofynnol i gynigion ddefnyddio adnoddau dwr yn effeithlon.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS4, AS5 ac AS11
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.8.3 Mae dwr fel adnodd yn werthfawr iawn ac mae materion megis llygryddion, atal llifogydd, dwr daear a gwarchod a gwella ecosystemau dyfrol i gyd yn ystyriaethau pwysig sy’n cael eu hadlewyrchu gan ddeddfwriaeth a chanllawiau. Mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr (2000/60/EC) yn nodi’r gofynion mewn perthynas â’r amgylchedd dwr a dylid rhoi sylw llawn i’w chynnwys.

6.8.4 Gall llygredd dwr ac ansawdd dwr gwael o ganlyniad fod o un ffynhonnell, neu o ffynonellau gwasgaredig, megis dwr ffo amaethyddol neu drefol. Mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr wedi rhoi’r cyfle i weithio gyda sefydliadau partner, yn arbennig Cyfoeth Naturiol Cymru, i gydnabod yr angen i wella’r holl amgylchedd dwr a hybu defnyddio dwr yn gynaliadwy er budd pobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd. Mae Cynlluniau Rheoli Basn Afon wedi cael eu paratoi sy’n nodi amcanion a safonau amgylcheddol, a rhaglen o fesurau y gellir eu cyflawni drwyddi.

6.8.5 Ar hyn o bryd mae Dwr Cymru / Welsh Water (DCWW) wedi ymrwymo i wella capasiti, lefelau trin ac ansawdd arllwysiadau Gweithfeydd Trin Dwr Gwastraff trwy gamau gweithredu wedi’u hamserlennu yn y Cynlluniau Rheoli Basn Afon (fel sy’n ofynnol gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr) a thrwy ddyraniadau a blaenoriaethau ariannu a sicrhawyd trwy broses y Rhaglen Rheoli Asedau 5.

6.8.6 Mewn perthynas â Chilfach Porth Tywyn ac Aber Afon Llwchwr sy’n rhan o Safle Morol Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Caerfyrddin. Mae statws cadwraethol y safleoedd wedi bod yn destun pryder. Mae’r problemau yn ymwneud yn bennaf â diffygion yn y seilwaith carthffosiaeth a’r gorlifiannau storm a maetholion a all ollwng o ganlyniad i hynny i’r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig hyn a’r safleoedd sy’n rhan ohonynt. Cydnabyddir bod pryderon ynghylch ei statws cadwraethol wedi cyfyngu ar ddatblygiadau newydd yn ardaloedd Llanelli a Phorth Tywyn. Yn hyn o beth mae’r gofyniad ar yr awdurdod lleol i gyflawni ei rwymedigaethau o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd, i sicrhau nad yw unrhyw ddatblygiadau newydd yn cael effaith andwyol ar ACA, wedi arwain at ymagwedd ragofalus at geisiadau newydd am ddatblygiadau a all roi pwysau ychwanegol ar y seilwaith carthffosiaeth yn yr ardal. Nodir hefyd ei bod yn ofynnol o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr na welir unrhyw ddirywiad yng nghyflwr cyrff dwr. Dylid rhoi sylw i’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd mewn perthynas â’r CDLl.

6.8.7 Mae grwp rhanddeiliaid wedi ymrwymo trwy lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i gydweithio i ganfod dull partneriaethol o wella a gwarchod ansawdd amgylcheddol Safle Morol Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Caerfyrddin, wrth benderfynu ar ddatblygiadau a chynlluniau adfywio. Mae’r grwp partneriaethol yn cynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Dinas a Sir Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dwr Cymru. Mae’r CDLl, wrth geisio adeiladu ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, wedi cynnig cyfres o bolisïau a darpariaethau gyda golwg ar gyfrannu at y gwaith o reoli’r problemau. Yn hyn o beth dylid rhoi sylw i ddarpariaethau’r CDLl gan gynnwys y rheiny sy’n ymwneud â gwahanu dwr wyneb o ddwr brwnt. Dylid rhoi sylw penodol hefyd i’r canlynol:

6.8.8 Mae’r gydnabyddiaeth bod yna ystyriaethau amgylcheddol mewn perthynas â thwf yn un o gysyniadau allweddol datblygu cynaliadwy. O gofio bod effaith dyraniadau ac ymrwymiadau’r Cynllun wedi cael ei hystyried eisoes gan yr Awdurdod, a bod eu hymarferoldeb wedi cael ei sefydlu, y cwbl mae EP1 yn ei wneud yw darparu ffordd o edrych ar faterion lefel prosiect/cais, fesul safle unigol, fel y bo’n briodol. Prif ddiben EP1 fydd rhoi i’r Awdurdod ffordd o ystyried rhinweddau cynigion a gyflwynir yn ystod cyfnod y Cynllun nad ydynt wedi’u nodi yn y Cynllun ar hyn o bryd.

6.8.9 Gellir gwella ansawdd dwr trwy nifer o fesurau gan gynnwys dylunio, adeiladu a gweithredu systemau carthffosiaeth yn effeithiol, defnyddio gwlyptiroedd/mannau gwyrdd i liniaru llifogydd, defnyddio systemau draenio cynaliadwy a defnyddio dwr yn gynaliadwy mewn dyluniadau. Byddai hybu arferion amaethyddol da a chysylltiadau effeithiol â’r Strategaethau Rheoli Tynnu Dwr Dalgylch hefyd yn cyfrannu at welliannau mewn ansawdd. Gellir cyflwyno rhai o’r mesurau hyn trwy’r system gynllunio ac ymdrinnir â hwy mewn rhannau eraill o’r ddogfen hon.

6.8.10 Dylai cynigion geisio cynnwys technegau arbed dwr gan gynnwys casglu dwr glaw ac ailgylchu dwr llwyd lle bynnag y bo modd. Dylid rhoi sylw i bolisi GP1 - Cynaliadwyedd a Dylunio o Ansawdd Da a’r Canllawiau Cynllunio Atodol a gyhoeddir cyn bo hir ar Egwyddorion Dylunio.

6.8.11 Yn nhermau cyflenwad dwr trwy dynnu dwr mae Dalgylchoedd Afonydd Tywi, Taf, Gwendraeth Fawr a Gwendraeth Fach, Llwchwr a Theifi yn cynnwys Sir Gaerfyrddin i gyd. Mae Strategaeth Rheoli Tynnu Dwr Dalgylch afonydd Tywi, Taf a Gwendraeth yn nodi bod dwr ar gael yn ardal y Strategaeth gyda rhai cyfyngiadau’n cael eu gosod yn arbennig yn ystod cyfnodau â llifoedd isel.

6.8.12 Mae dalgylch afon Tywi yn ffynhonnell dwr wyneb o bwys i Ddwr Cymru. Nantgaredig yw’r man lle tynnir y dwr mwyaf sy’n gwneud cyfraniad strategol at y cyflenwad dwr i dde Cymru. Mae’r Strategaeth Rheoli Tynnu Dwr Dalgylch ar gyfer uned rheoli dwr Tywi’n nodi bod dwr ar gael ganddi, ac y gellir ategu cyfraddau llif o Lyn Brianne (y mae dwr yn llifo i’r afon ohono) os oes angen, gan gefnogi tynnu dwr ychwanegol.

6.8.13 Yn ardal Strategaeth Rheoli Tynnu Dwr Dalgylch afon Llwchwr nodir y tynnir gormod o ddwr o afon Lliedi, bod dwr ar gael yn afonydd Morlais, Gwili, Llwchwr (ar derfyn y llanw) a Llan, ac nad oes dwr ar gael yn afon Llwchwr (wrth Orsaf Mesur Llif Tir y Dail). Bydd unrhyw elfennau o effeithiau dalgylch afon Llwchwr ar safleoedd Natura 2000, ac unrhyw effeithiau o ddatblygiadau, yn cael eu lliniaru yn unol ag argymhellion yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

6.8.14 Mae Strategaeth Rheoli Tynnu Dwr Dalgylch afon Teifi’n nodi bod dwr ar gael yn y rhan fwyaf o’r afonydd. Mae’r holl unedau yn ACA Afon Teifi ac o’r herwydd dylid lliniaru effeithiau unrhyw ddatblygiadau yn unol ag argymhellion yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

6.8.15 Mae ‘Cynllun Rheoli Adnoddau Dwr’, Dwr Cymru (2008) yn rhagweld y galw am ddwr gan gwsmeriaid preswyl a dibreswyl, gan ddefnyddio amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd Llywodraeth Cymru a’i waith monitro cwsmeriaid dibreswyl yn y drefn honno. Felly, bydd y Cynllun Rheoli Adnoddau Dwr wedi cymryd i ystyriaeth y galw am gyflenwad dwr o ddyraniadau’r CDLl, yn enwedig gan ei fod yn fwy na’r gofyniad a nodir yn y CDLl. Mae’r Cynllun Rheoli Adnoddau Dwr yn nodi bod gan y parthau adnoddau dwr sy’n cyflenwi dwr Sir Gaerfyrddin warged ar gyfer cyfnod y CDLl.

6.8.16 Nodir, fodd fod sylwadau blaenorol wedi codi pryderon ynghylch materion yn ymwneud â Pharth Adnoddau Dwr Sir Benfro y mae’n bosibl na fydd ganddo warged yn y dyfodol. Bydd y sefyllfa’n cael ei monitro a bydd rhagor o drafodaethau’n cael eu cynnal gyda Dwr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.

6.8.17 Bydd angen i faterion sy’n ymwneud â thynnu dwr a’r cyflenwad dwr gael eu monitro’n barhaus er mwyn sicrhau bod y twf a nodir yn y CDLl hwn yn gymesur ag argaeledd yr adnodd ar ben y diogelwch a ganiateir trwy’r polisi hwn.

6.8.18 Bydd y Cyngor yn ymgynghori gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Dwr Cymru ar gynigion datblygu fel bo’n briodol. Bydd y Cyngor hefyd yn ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru ar gynigion datblygu yn ymyl coridorau ac aberoedd afonydd a dylai darpar ddatblygwyr ofyn am gyngor a chydsyniad gan Cyfoeth Naturiol Cymru, pan fo’n briodol. Lle bo cynigion yn ymwneud â phrif afon neu gwrs dwr cyffredin dylai’r gofyniad i gael clustogfa 7 metr ar y ddwy lan gael ei gynnwys mewn unrhyw gynigion er mwyn gwarchod a hybu bioamrywiaeth leol.

6.8.19 Mewn perthynas ag ACA Dyffryn Tywi, bydd yn ofynnol i fesurau lliniaru sy’n benodol i’r prosiect gynnwys llunio cynlluniau atal llygredd gan ddiwydiant.

6.8.20 Dylid rhoi sylw hefyd i bolisïau SP17 - Seilwaith a GP4 - Seilwaith a Datblygiadau Newydd .

Polisi EP2 Llygredd

Lle bynnag y bo modd dylai cynigion ar gyfer datblygiadau geisio cyfyngu ar effeithiau llygredd. Bydd yn ofynnol i ddatblygiadau newydd ddangos:

  1. Nad ydynt yn gwrthdaro ag amcanion y Strategaeth Ansawdd Aer Genedlaethol neu’n cael effaith andwyol i raddau arwyddocaol ar Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer dynodedig (mae’n bosibl y gosodir amodau ar ddatblygiadau a ganiateir i gydymffurfio â’r arferion gorau);
  2. Nad ydynt yn achosi dirywiad mewn ansawdd dwr;
  3. Eu bod yn sicrhau y cyfyngir ar lygredd golau a swn, lle bo’n briodol;
  4. Eu bod yn sicrhau yr ymdrinnir â pheryglon sy’n codi o dir halogedig trwy archwiliad tir ac asesiad risg a gwaith adfer tir priodol er mwyn sicrhau ei fod yn addas i’r defnydd arfaethedig.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS4, AS5, AS10 ac AS11
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.8.21 Caiff ansawdd aer a’i oblygiadau o ran yr amgylchedd, iechyd ac ansawdd bywyd eu cydnabod trwy ganllawiau cenedlaethol a’u hadlewyrchu yn amcanion yr arfarniad o gynaliadwyedd ac adroddiad sgrinio’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. O ran llygredd byddir yn canolbwyntio’n arbennig ar yr ardaloedd hynny y nodwyd bod ganddynt ansawdd aer gwael. Er bod ansawdd yr aer yn gyffredinol yn y sir yn dda, mae un Ardal Rheoli Ansawdd Aer ddynodedig yn Llandeilo, a’i chanol ar Heol Rhos-maen, oherwydd torri amcanion cenedlaethol NO2. Mae’r CDLl yn cydnabod y broblem hon a’i goblygiadau, a bydd yn monitro’r canlyniadau ar gyfer yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer. Nid oes unrhyw Ardaloedd eraill o’r fath wedi’u nodi yn y sir. Hefyd mae’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd wedi nodi perygl y gallai lefelau presennol llygredd aer gwasgaredig fod yn cael effaith andwyol ar y safleoedd Ewropeaidd ar draws y sir. Mae’n nodi bod safleoedd yn y rhanbarth eisoes mewn perygl o ddioddef effeithiau andwyol oddi wrth lygredd aer gwasgaredig gan fod lefelau rhai o’r llygryddion a geir ynddynt uwchben y llwythi critigol.

6.8.22 Mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru y prif lygrydd sy’n peri pryder yw osôn. Mae’r adroddiad ar Ystadegau Amgylcheddol Allweddol i Gymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007) yn nodi bod lefelau osôn uwchben lefelau llygredd cymedrol neu uchel yn amrywio’n fawr ac yn gysylltiedig â phatrymau’r tywydd (Llywodraeth Cymru 2006). Mae’n bosibl bod patrwm lefelau uchel o osôn mewn ardaloedd gwledig hefyd yn gysylltiedig â phrifwyntoedd o ardaloedd mwy trefol lle mae rhagflaenwyr osôn (ocsidau nitrus, cyfansoddion organig anweddol o bibellau ecsôst cerbydau ac allyriadau diwydiannol) yn cael eu cynhyrchu.

6.8.23 Mae Strategaeth Ansawdd Aer y Deyrnas Unedig yn nodi’r safonau a’r amcanion (fel y cyfeirir atynt ym mholisi EP2 uchod). Mae’r Strategaeth ar gael i’w lawrlwytho o wefan DEFRA. Lle bo’n briodol, dylai datblygwyr roi sylw i’w chynnwys. Gellir rhoi sylw hefyd i’r canllawiau isod:

6.8.24 Bydd y Cyngor, lle nodir y gallai cynnig gael effaith andwyol ar safleoedd cenedlaethol a/neu ryngwladol, yn ei gwneud yn ofynnol ystyried a gweithredu cynigion sy’n symud tuag at ymagwedd ‘niwtral o ran llygredd’. Mae hyn yn cynnig ffordd y gellir caniatáu twf ac ar yr un pryd sicrhau nad yw llygredd yn niweidio cyfanrwydd y safleoedd cenedlaethol a/neu ryngwladol a’u gallu i gynnal y nodweddion y cânt eu dynodi o’u herwydd.

6.8.25 Bydd y Cyngor yn ceisio parhau i gysylltu ag awdurdodau cyfagos wrth ystyried ffyrdd o leihau allyriadau yn y dyfodol.

6.8.26 Mae llygredd swn a golau yn faterion sy’n dod i’r amlwg y mae angen eu hystyried, yn enwedig yng nghyd-destun trefi. Lle bynnag y bo modd, dylai datblygiadau sy’n sensitif i swn fel tai, ysgolion ac ysbytai a leolir yn agos i seilwaith trafnidiaeth, gael eu dylunio i gyfyngu ar lefelau swn yn y datblygiad ac o’i amgylch. Mae Polisi Cynllunio Cymru’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau fabwysiadu polisïau mewn perthynas â goleuadau a rheoli llygredd golau. Mae rhannau o Sir Gaerfyrddin heb eu datblygu i raddau, a chyfyngedig yw effaith goleuadau ar awyr y nos. Wrth ddehongli’r polisi hwn dylai unrhyw oleuadau gael eu dylunio a’u hystyried yn ofalus, er mwyn cyfyngu ar yr effaith ar fannau cyfagos. Mae hefyd posibilrwydd y gallai llygredd golau gael effaith andwyol ar gyfanrwydd safle Natura 2000 lle bo datblygiad yn cyd-daro â safleoedd clwydo/llwybrau tramwyo a lle bo’n berthnasol caiff hyn ei ystyried yn yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Dylid rhoi sylw i Fap Mannau Llonydd Cymru, 2009, a baratowyd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

6.8.27 Mae cyfrifoldeb ar y Cyngor i nodi tir halogedig a sicrhau y caiff ei reoli mewn modd priodol, fel y nodir yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a Pholisi Cynllunio Cymru. Bydd angen i’r Cyngor fod yn fodlon bod y peryglon mewn perthynas â’r safle’n cael eu deall yn llawn a bod modd ei adfer i’r safonau angenrheidiol. Ni ddylai gwaith ddechrau ar y safle hyd nes bod y gwaith adfer priodol wedi cael ei gwblhau. Bydd yr effeithiau posibl ar amgylcheddau hanesyddol a naturiol yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar unrhyw gynnig, a rhaid i wybodaeth briodol gael ei chyflwyno gydag unrhyw gais.

6.8.28 Gwaith adfer, fel y cytunwyd gan y Cyngor, cyn dechrau ar y datblygiad. Lle bo’n berthnasol rhoddir ystyriaeth ddyledus i effaith unrhyw waith adfer ar amgylcheddau naturiol a hanesyddol, gan bwyso buddion cymharol y cynnig, a’r angen amdano, yn erbyn pwysigrwydd cymharol y nodwedd o ddiddordeb hanesyddol neu naturiol ar y safle. Dylid rhoi sylw i’r polisïau perthnasol a geir yn adran 6.6 (Priodweddau Amgylcheddol). Dylid rhoi sylw hefyd i Strategaeth Tir Halogedig y Cyngor. Dylai effaith halogi a chanlyniadau gwaith adfer roi sylw i’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr a’r Epil Gyfarwyddeb ar Ddwr Daear mewn perthynas ag ansawdd dwr wyneb a dwr daear a rheoli effeithiau cronnol posibl.

6.8.29 Wrth ddehongli’r polisi hwn mewn perthynas ag ansawdd dwr, dylid rhoi sylw dyledus i ddarpariaethau Polisi EP1 - Ansawdd ac Adnoddau Dwr.

Polisi EP3 Draenio Cynaliadwy

Bydd yn ofynnol i gynigion ar gyfer datblygiadau ddangos yr ymchwiliwyd yn llawn i effaith draenio dwr wyneb, gan gynnwys effeithiolrwydd ymgorffori Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau).

Rhaid i’r manylion a’r dewisiadau sy’n deillio o’r ymchwiliad ddangos bod yna resymau y gellir eu cyfiawnhau dros beidio â chynnwys SDCau yn y cynllun yn unol ag adran 8 o TAN 15.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS3, AS4, AS5 ac AS11
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.8.30 Mae Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio’r gwahanol ddulliau y gellir eu defnyddio i reoli draenio dwr wyneb mewn ffordd sy’n efelychu’r amgylchedd naturiol mewn ffordd fwy cynaliadwy na systemau draenio confensiynol. Mae Deddf Llifogydd a Rheoli Dwr 2010 yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio Draenio Cynaliadwy (SDCau) ar gyfer pob datblygiad tai a busnes newydd. Bydd angen i ddatblygiadau sy’n effeithio ar allu’r ddaear i amsugno dwr gael cymeradwyaeth gan y corff cymeradwyo SDCau, pan gaiff ei greu, cyn dechrau ar y gwaith adeiladu. Fodd bynnag, hyd nes y bydd y Byrddau Cymeradwyo SDCau yn bodoli, bydd Adran Gwasanaethau Technegol (Hydroleg) yr Awdurdod yn dal i gynorthwyo â gweithredu’r polisi hwn. Yn unol â TAN15 paragraff 10.11, mae’n ddoeth ymgynghori ar adeg gynnar gyda’r awdurdod perthnasol er mwyn cael y canlyniad gorau posibl a sicrhau y gellir mabwysiadu unrhyw systemau wedyn.

6.8.31 Mae Atodiad 4 i TAN15 yn darparu gwybodaeth a chyngor gweddol fanwl am ddefnyddio a gweithredu SDCau fel rhan o ddatblygiad arfaethedig. Hefyd bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu llunio i ddarparu rhagor o arweiniad ar ddefnyddio a gweithredu SDCau.

6.8.32 Lle bo safle mawr yn cael ei ddatblygu fesul camau, bydd SDCau yn cael eu cynllunio mewn ffordd a fydd yn caniatáu i’r safle cyfan gael ei ddatblygu.

6.8.33 Mae yna ddulliau eraill y gellir eu defnyddio i leihau effaith dwr wyneb mewn cynlluniau datblygu. Mae’r Cod Cartrefi Cynaliadwy’n nodi dulliau priodol i leihau dwr wyneb ffo a pherygl llifogydd. Rhoddir anogaeth i ddyluniadau sy’n cynnwys mesurau a fydd yn cynorthwyo ag ymdrin â dwr wyneb ffo, fel toeau gwyrdd ac ailgylchu dwr glaw. Anogir cadw cymaint o wynebau hydraidd ag sy’n bosibl ar ddatblygiadau newydd.

6.8.34 Mae cyflwyno a defnyddio SDCau ac ar yr un pryd caniatáu ar gyfer effeithiau draenio dwr wyneb hefyd yn cynnig cyfle i warchod ansawdd dwr a lleihau’r effaith ar ecoleg ddyfrol, ac o bosibl ei gwella.

6.8.35 Bydd yn ofynnol i ddatblygiadau gynnwys systemau draenio ar wahân ac annibynnol i waredu dwr brwnt a dwr wyneb ar y safle.

6.8.36 Dylid rhoi sylw hefyd i bolisi TR3 mewn perthynas â dwr wyneb ffo o gynigion priffyrdd.

Polisi EP4 Rheoli’r Arfordir

Bydd cynigion ar gyfer cynlluniau rheoli’r arfordir yn cael eu caniatáu, ar yr amod:

  1. bod yr angen am y datblygiad yn cael ei gyfiawnhau’n briodol;
  2. bod y datblygiad yn gydnaws â’r amgylchedd o’i amgylch;
  3. na fydd y cynllun yn arwain at fwy o erydu, llifogydd neu ansefydlogrwydd tir.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS4, AS8 ac AS12
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.8.37 Mae cynlluniau amddiffyn yr arfordir yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o warchod poblogaeth, asedau ac adnoddau’r Sir rhag llifogydd llanwol ac erydu. Nod y polisi hwn yw sicrhau bod cynlluniau rheoli’r arfordir yn cael eu hadeiladu mewn mannau priodol ac nad ydynt yn cael effaith andwyol ar y dirwedd o’u hamgylch. Bydd yn ofynnol i gynlluniau roi sylw i warchod rhywogaethau a chynefinoedd yn unol â pholisi SP14.

6.8.38 Anogir cynnwys mynediad cyhoeddus a chyfleusterau hamdden priodol mewn cynlluniau.

6.8.39 Ni fydd cynlluniau newydd i reoli’r arfordir yn cael eu caniatáu at ddiben galluogi datblygiadau newydd mewn mannau lle mae perygl llifogydd neu erydu arfordirol.

6.8.40 Disgwylir i gynigion roi sylw i gynnwys Cynllun Rheoli Traethlin (SMP2) De Cymru (Trwyn Larnog i Bentir St Ann). Mae Cynlluniau Rheoli Traethlin yn darparu asesiad ar raddfa fawr o’r peryglon sy’n gysylltiedig â phrosesau arfordirol ac yn cyflwyno fframwaith polisi i leihau’r peryglon i bobl a’r amgylchedd. Mae’r Cynlluniau’n nodi polisïau strategol sydd wedi’u bwriadu i gynorthwyo â phenderfyniadau ynghylch amddiffyn yr arfordir. Dylai ceiswyr fodloni eu hunain bod yr asesiadau uchod yn ymdrin â’u cynigion.

6.8.41 Mae’r cynigion yn y CDLl hwn wedi cael eu paratoi gan roi sylw dyledus i’r polisïau a nodir yn SMP2. Bernir nad yw’r CDLl ar y cyd gyda’r polisïau a nodir yn SMP2 yn cael effaith arwyddocaol ar Safle Morol Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Caerfyrddin.

Polisi EP5 Datblygu’r Arfordir

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau mewn lleoliadau arfordirol yn cael eu caniatáu ar yr amod:

  1. bod angen iddynt gael eu lleoli mewn lleoliad arfordirol;
  2. nad ydynt yn cynyddu perygl erydu, llifogydd neu ansefydlogrwydd tir;
  3. na fyddent yn arwain at yr angen am fesurau newydd i ddiogelu’r arfordir;
  4. bod y potensial am unrhyw effeithiau andwyol ar dirweddau a threfweddau arfordirol yn cael ei leihau gymaint ag sy’n bosibl.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS4, AS8 ac AS12
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.8.42 Mae gan Sir Gaerfyrddin arfordir helaeth, sy’n ymestyn o aber afon Llwchwr i Farros. Gellir diffinio’r ardal arfordirol fel ardaloedd lle bernir bod y tir a’r môr cyfagos yn gyd-ddibynnol.

6.8.43 Anaml iawn yr ystyrir mai’r arfordir sydd heb ei ddatblygu yw’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer datblygiadau, a bydd unrhyw gynigion yn ddarostyngedig i bolisïau eraill y Cynllun, yn arbennig Polisi GP2 – Terfynau Datblygu. Yn hyn o beth, nid yw EP5 yn berthnasol i gynigion a leolir ar ddyraniadau, ymrwymiadau neu’n wir i gynigion a leolir o fewn terfynau datblygu anheddiad diffiniedig (Polisi SP3).

6.8.44 Dylai cynigion fod yn unol â chynnwys Cynllun Rheoli Traethlin De Cymru (Trwyn Larnog i Bentir St Ann). Mae Cynlluniau Rheoli Traethlin yn darparu asesiad ar raddfa fawr o’r peryglon sy’n gysylltiedig â phrosesau arfordirol ac yn cyflwyno fframwaith polisi i leihau’r peryglon i bobl a’r amgylchedd. Mae’r Cynlluniau’n nodi polisïau strategol sydd wedi’u bwriadu i gynorthwyo â phenderfyniadau ynghylch amddiffyn yr arfordir.

Polisi EP6 Tir Ansefydlog

Mewn mannau lle mae ansefydlogrwydd tir yn hysbys, rhaid cyflwyno adroddiad cwmpasu i ganfod natur yr ansefydlogrwydd gydag unrhyw gynnig datblygu.

Lle na ellir goresgyn ansefydlogrwydd yn foddhaol, bydd rhagdybiaeth yn erbyn datblygu. Lle mae sail i gredu y byddai ansefydlogrwydd gweithredol neu bosibl a fyddai’n effeithio ar ddatblygiad arfaethedig yn gallu cael ei oresgyn mewn modd sy’n dderbyniol yn amgylcheddol, rhaid cyflwyno adroddiad ar sefydlogrwydd gydag unrhyw gais cynllunio.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4, ac AS13
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.8.45 Ceir tir ansefydlog mewn amgylchiadau gwahanol am resymau gwahanol, ond mae achosion ansefydlogrwydd yn dod o dan dri chategori bras:

  1. Effeithiau ceudodau tanddaearol – boed rhai naturiol neu rai sy’n deillio o waith mwyngloddio neu beirianneg sifil;
  2. Llethrau ansefydlog – gall y rhain fod yn naturiol (e.e. arfordiroedd sy’n erydu) neu o waith dyn (megis chwareli, trychiadau neu argloddiau); neu,
  3. Cywasgiad tir – gall hyn fod yn naturiol oherwydd priddoedd mawn, llifwaddodol, aberol neu forol; neu’n ganlyniad i weithgareddau pobl e.e. tir gwneud, tirlenwi neu gloddfeydd brig wedi’u hadfer; a thir sy’n dueddol o symud oherwydd cleiau sy’n crebachu a chwyddo.

6.8.46 Ymdrinnir â chynigion datblygu mewn mannau lle mae ansefydlogrwydd tir yn hysbys fesul achos. Dylai adroddiad cwmpasu rhagarweiniol nodi natur yr ansefydlogrwydd (posibl). Dylai’r adroddiad fod yn ddigon manwl i’r awdurdod lleol ac asiantaethau statudol eraill ganfod a) nad oes unrhyw fygythiad posibl i ddatblygiad fynd rhagddo, b) na ellir goresgyn y problemau o ran ansefydlogrwydd, neu c) y gellid gweithredu mesurau i oresgyn y problemau a nodwyd. Yn achos c, bydd yn ofynnol cyflwyno adroddiad manwl ar sefydlogrwydd gyda’r cais sydd:

  1. wedi’i gynhyrchu gan “berson cymwys”, yn fwyaf priodol arbenigwr geodechnegol a all ddangos profiad arbenigol perthnasol o waith asesu a gwerthuso ansefydlogrwydd ac;
  2. yn nodi’r mesurau sy’n ofynnol i liniaru rhag y perygl/peryglon a nodwyd.

6.9 Hamdden

6.9.1 Mae gan fannau agored y potensial i ddarparu buddion i iechyd a lles a gallant gynorthwyo i liniaru achosion ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Mae mannau agored hefyd yn darparu lleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a gweithgareddau cymunedol, ac mae ganddynt ran allweddol i’w chwarae fel sylfaen i ddogfennau strategol allweddol eraill, megis y Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles. Yn hyn o beth, mae gwarchod a gwella’r ddarpariaeth yn un o’r ystyriaethau allweddol i’r CDLl.

6.9.2 Ynghyd â mannau agored, mae polisi REC1 - Diogelu Mannau Agored hefyd yn cydnabod rôl allweddol rhandiroedd, yn arbennig yn nhermau datblygu cydlyniant cymunedol a hefyd i gydnabod mater diogelu’r cyflenwad bwyd yn y dyfodol. Er mai ei nod yw hybu rhandiroedd, mae’r gwaith o’u rheoli yn y dyfodol yn destun deddfwriaeth benodol (gweler Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7).

6.9.3 Mae tystiolaeth unigryw leol yn sylfaen i bolisïau’r Cynllun mewn perthynas â mannau agored. Mae Astudiaeth Mannau Gwyrdd Sir Gaerfyrddin (Dogfen a Gyflwynwyd CSD122), yn darparu archwiliad o’r ddarpariaeth ar sail safonau a chanllawiau cenedlaethol yn ogystal â gwybodaeth leol am ddarpariaeth sy’n arwyddocaol yn lleol, a gafwyd gan y gymuned leol a/neu swyddogion yr Awdurdod. Dylid nodi y gall fod darpariaethau sy’n arwyddocaol yn lleol na chânt eu cydnabod yn ffurfiol yn yr Astudiaeth Mannau Gwyrdd, nac ar y mapiau cynigion/mewnosod, sy’n gwneud cyfraniad pwysig at fannau gwyrdd, ac felly dylid hefyd ystyried ‘gwybodaeth leol’ wrth benderfynu pa mor arwyddocaol yw’r mannau hyn i’r gymuned leol. Mae’r astudiaeth yn darparu cyd-destun gofodol yn nhermau hygyrchedd y ddarpariaeth ac yn rhoi rhai diffiniadau defnyddiol o fannau agored. At ddibenion y CDLl, mae mannau agored yn cynnwys: mannau gwyrdd naturiol, mannau chwarae a mannau agored cyhoeddus, yn unol â’r arweiniad a gyhoeddwyd yn TAN16. Safonau prosiect yr Astudiaeth Mannau Gwyrdd yw’r rhai mae’r sir yn gweithio tuag atynt, gan fabwysiadu safon o 2.4ha i bob 1000. Fodd bynnag, dylid nodi bod y CDLl yn ceisio hwyluso gwella hygyrchedd mannau agored, ac felly byddir yn cysylltu’n barhaus â’r Gwasanaethau Hamdden y Cyngor er mwyn canfod a yw safon 2.8ha fel y’i nodir yn TAN16 yn gyflawnadwy maes o law. Hefyd, gellir ystyried unrhyw effaith y byddai cynyddu gofynion y safonau’n ei chael ar hyfywedd datblygiadau. Mae’r Astudiaeth hefyd yn rhoi darlun gofodol o ble gallai’r ddarpariaeth fod yn brin ac yn ormod ar draws y sir. Er nad yw safon y CDLl, sef 2.4ha, yn gyson â safon TAN16, sef 2.8ha, dylid nodi bod paragraff 2.7 o TAN16 yn cadarnhau nad yw Polisi Cynllunio Cymru’n rhagnodol ac yn hyn o beth cyfeirir at y cyferbyniad rhwng ardaloedd gwledig a threfol y sir a’r dystiolaeth unigryw leol sy’n bodoli.

6.9.4 Ceir canllawiau cenedlaethol clir mewn perthynas â’r pwnc hwn ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7: Twristiaeth, Chwaraeon a Hamdden ac yn TAN16 – Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored. O ganlyniad, nid oes angen polisïau CDLl ar gyfer y materion canlynol gan eu bod wedi cael ymdriniaeth ddigonol yn y canllawiau cenedlaethol uchod:

6.9.5 Gellir hefyd gweld datganiadau polisi cenedlaethol ychwanegol ar reoli datblygiadau yn y canllawiau uchod, gan gynnwys materion megis effaith llifoleuadau a phryderon ynghylch amwynder. O ran hamdden, dylid rhoi sylw hefyd i SP16 - Cyfleusterau Cymunedol sy’n cadarnhau pwyslais y Cynllun ar warchod a, lle bynnag y bo modd, gwella cynaliadwyedd a bywiogrwydd cyfleusterau hamdden y sir yn unol â’r fframwaith aneddiadau. Er bod deddfwriaeth, ar ffurf Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, yn ymdrin â hawliau tramwy, maent hefyd yn chwarae rhan annatod yn y gwaith o wella iechyd a lles a dylid ystyried eu rôl (ochr yn ochr â llwybrau troed a choridorau cysylltedd anffurfiol) yng nghyd-destun y CDLl. Mae cynorthwyo i wella mynediad i’r rhannau deniadol o Sir Gaerfyrddin ar lan y môr yn ystyriaeth bwysig i’r CDLl, ond ni ddylai unrhyw gynigion datblygu wrthdaro â Pholisïau EP4 ac EP5.

Polisi REC1 Gwarchod Mannau Agored

Gwneir darpariaeth i warchod a, lle bynnag y bo modd, gwella mynediad i fannau agored.

Ni fydd cynigion a fydd yn arwain at golli mannau agored sy’n bodoli eisoes yn cael eu caniatáu ond:

  1. Os dangosir bod yna ddarpariaeth o werth cyfartal o leiaf ar gael yn yr anheddiad neu, lle bo’n berthnasol, y gymuned gynaliadwy, mewn man hygyrch; ac
  2. Os dangosir bod yr angen am y cyfleuster wedi darfod; ac
  3. Os nad yw diffyg mannau agored yn cael ei greu trwy ei golli; neu
  4. Pe bai ailddatblygu rhan fach o’r safle’n caniatáu ar gyfer cadw a gwella’r cyfleuster.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4, AS5, AS6, AS8, AS9, AS12, AS13 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.9.6 Rhoddir diffiniadau o fannau agored ac eglurhad o safonau hygyrchedd y sir yn yr Astudiaeth Mannau Gwyrdd. At ddibenion y Cynllun hwn, diffinnir mannau agored fel mannau sy’n cynnwys meysydd chwaraeon, meysydd chwarae i blant â chyfarpar, cyfleusterau chwaraeon awyr agored, mannau hamdden neu chwarae anffurfiol (h.y. mannau gwyrdd naturiol, mannau chwarae a mannau agored cyhoeddus). Mae hyn yn unol â’r arweiniad a roddir yn TAN16.

6.9.7 Er bod gwarchod y mannau agored presennol yn un o agweddau allweddol y polisi uchod, mae hefyd yn darparu rhywfaint o hyblygrwydd. Mae’n bosibl y bydd ystyried y nodweddion demograffig newidiol, cyflwr a bywiogrwydd y ddarpariaeth bresennol ac unrhyw newidiadau mewn patrymau angen yn golygu nad yw’r mannau agored presennol yn bodloni’r gofynion mwyach, neu efallai y canfyddir bod gormod o ddarpariaeth. Mewn amgylchiadau o’r fath, nod y polisi yw caniatáu ar gyfer gwella neu newid y ddarpariaeth yn yr anheddiad/cymuned gynaliadwy (fel bo’n briodol). Os oes gan gynigion y potensial i gael effaith berthnasol ac andwyol ar y ddarpariaeth bresennol, bydd angen i’r ceisydd ddangos bod darpariaeth arall ar gael er mwyn bodloni’r safonau hygyrchedd. Dylid ystyried ymgynghori â Chyngor Chwaraeon Cymru, yn ogystal ag adran hamdden y Cyngor a darparwyr gwasanaethau eraill, mewn perthynas â newidiadau mewn patrymau cyfranogiad ac angen. Lle bo diffyg tystiolaeth yn bodoli mewn perthynas â mater penodol, yna cyfrifoldeb y datblygwr fydd darparu gwybodaeth i gynorthwyo i benderfynu ar gynnig datblygu.

6.9.8 Mae darparu mannau agored ychwanegol priodol yn cydymffurfio â phwyslais y Cynllun ar hwyluso lefel gynaliadwy o dwf yn y sir dros gyfnod y cynllun. Dylid ystyried cynigion ar gyfer darparu mannau agored newydd yn unol â’r dystiolaeth leol o angen, polisi SP16 a pholisïau eraill y CDLl, yn ogystal â chanllawiau cenedlaethol (gan gynnwys materion yn ymwneud â rheoli datblygu megis amwynder, hygyrchedd a lleoliad amgylcheddol). Bydd datblygiadau ychwanegol (yn arbennig tai) yn creu mwy o bwysau ar y mannau presennol ac felly dylid sicrhau lefel briodol o ddarpariaeth yn unol â’r angen.

Polisi REC2 Darparu Mannau Agored a Datblygiadau Newydd

Bydd yn ofynnol i bob datblygiad preswyl newydd o bump neu ragor o unedau ddarparu man agored ar y safle yn unol â safonau mabwysiedig y Cyngor, sef 2.4ha i bob 1000 o bobl.

Pe na bai modd bodloni’r safonau uchod ar y safle, neu os oes digon o ddarpariaeth ar gael eisoes i wasanaethu’r datblygiad, yna byddir yn gofyn am gyfraniadau ariannol oddi ar y safle fel bo’n briodol.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS3, AS4, AS5, AS6, AS8, AS9, AS11, AS12, AS13 ac AS14.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.9.9 Mae’r polisi uchod yn darparu’r ffordd o fodloni’r safonau a nodir yn yr Astudiaeth Mannau Gwyrdd. Mae enghreifftiau lle na fydd modd bodloni’r safonau ar y safle’n cynnwys achosion lle mae’r safle’n mynd yn gwbl anhyfyw, lle mae tystiolaeth o ddigonedd o ddarpariaeth hygyrchedd eisoes yn unol â safonau mabwysiedig y Cyngor, neu lle mae’n gwbl anymarferol gwneud hynny oherwydd cyfyngiadau ffisegol/dyluniadol. Dylai’r datblygwr ddarparu datganiad ategol i egluro pam na ellir cadw at y safonau ar y safle ac efallai y bydd yr Awdurdod yn gofyn am symiau gohiriedig tuag at gynnal a chadw man agored sy’n bodoli eisoes yn lle hynny. Dylid rhoi sylw i bolisi GP3 mewn perthynas â rhwymedigaethau cynllunio a chyfraniadau datblygwyr.

6.9.10 Os yw darpariaeth mannau agored yn rhan o gais cynllunio, dylai’r ceisydd nodi sut mae rheoli a chynnal a chadw unrhyw ddarpariaeth mannau agored yn y dyfodol wedi cael eu cymryd i ystyriaeth. Dylai hygyrchedd digonol y ddarpariaeth mannau agored gael ei ystyried o gamau cyntaf y dylunio fel y gall fod yn rhan annatod o’r cynllun (yn ddelfrydol ar gam cynllunio amlinellol os yw’n briodol). Bydd ystyriaeth o’r fath yn caniatáu i faterion fel mynediad i bobl anabl, beicio/cerdded a mannau gwyrdd llinellol gael eu cynnwys yn y broses dylunio o’r cychwyn cyntaf. Bydd fframwaith monitro’r cynllun hwn yn caniatáu i’r Cyngor fonitro’r ddarpariaeth mannau agored ac unrhyw bosibilrwydd o golli mannau agored (yn ogystal ag unrhyw newidiadau yn y safonau a ddefnyddir gyda datblygiadau newydd). Bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi Canllawiau Cynllunio Atodol i ymdrin â Mannau Agored a Datblygiadau Newydd.

Polisi REC3 Mannau Agored Newydd Arfaethedig


Gwneir darpariaeth ar gyfer cynigion o ran mannau agored newydd yn y lleoliadau canlynol fel y’u dangosir ar y map cynigion:

Cyf. y. Safle Lleoliad
POS1 I’r de o Picton Terrace, Caerfyrddin
POS2 Tir y tu cefn i Ysgol Gyfun Rhydaman
POS3 Tir y tu cefn i Heol yr Orsaf, Sanclêr
POS4 Tir yn Dylan, Trallwm, Llanelli

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4, AS5, AS6, AS8, AS9, AS12, AS13 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.9.11 Mae Polisi REC3 yn nodi cynlluniau’r Cyngor (a lle bo’n briodol sefydliadau partner) o ran mannau agored arfaethedig.

6.10 Twristiaeth

6.10.1 Mae’r Weledigaeth Twristiaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin 2005-2015 yn nodi rhai gwerthoedd allweddol sy’n mynegi buddion cymdeithasol ac economaidd posibl datblygiadau twristiaeth. Mae hefyd yn cadarnhau pwysigrwydd gwarchod a gwella’r amgylchedd. O ran heriau, dywed y weledigaeth nad yw potensial y sir ar gyfer gweithgareddau/tywydd gwlyb a’r amgylchedd naturiol wedi cael ei gyflawni. Mae’r heriau i’r sector yn cynnwys hwyluso amrywiaeth ac ychwanegu at ansawdd ac amrywiaeth llety a gwella arlwy’r sir fel cyrchfan “gydol y flwyddyn”. Mae’r materion hyn yn hollbwysig wrth nodi safon a natur y datblygiadau twristiaeth y bydd y CDLl yn ceisio cyfrannu at eu cyflawni dros gyfnod y cynllun. Mae tystiolaeth bod diddordeb cynyddol yn nhwristiaeth naturiol ac atyniadau gweithgareddau’r sir a harddwch a phriodweddau naturiol y sir. Dylai mynediad i’r atyniadau hyn gael ei gynnal yn dda gan arlwy priodol o ran llety.

6.10.2 Ceir canllawiau cenedlaethol clir mewn perthynas â’r pwnc hwn ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7: Twristiaeth, Chwaraeon a Hamdden a TAN13: - Twristiaeth, TAN6: Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, TAN16: Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored. O ganlyniad, nid oes angen polisïau CDLl ar gyfer y materion canlynol gan eu bod wedi cael ymdriniaeth ddigonol yn y canllawiau cenedlaethol uchod:

6.10.3 Gellir gweld datganiadau polisi cenedlaethol ychwanegol ar reoli datblygiadau yn y canllawiau uchod hefyd, gan gynnwys materion fel pryderon ynghylch amwynder/tirweddau. Dylid rhoi sylw hefyd i SP15 - Twristiaeth a’r Economi Ymwelwyr, sy’n cadarnhau pwyslais y Cynllun ar gyfrannu at ddatblygu arlwy’r sir o ran twristiaeth gydol y flwyddyn heb beryglu cymeriad cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y sir. Mae’r polisi strategol yn darparu’r fframwaith trosfwaol ar gyfer ystyried datblygiadau twristiaeth a’r egwyddorion allweddol y bydd y Cynllun yn cadw atynt yn nhermau lleoliad, graddfa ac effaith unrhyw gynnig datblygu. Mae hefyd yn darparu’r ffordd o ystyried unrhyw gynigion yng nghyd-destun hierarchaeth twristiaeth y sir. Fodd bynnag, o gofio natur wledig y sir mae’n anochel y bydd yna gynigion nad ydynt yn gwbl unol â’r hierarchaeth, oherwydd bod arnynt angen lleoliad yng nghefn gwlad. Felly mae ar faterion o’r fath angen polisïau sy’n adlewyrchu’r dystiolaeth leol.

6.10.4 Dylid rhoi sylw i’r Cynllun yn gyfan wrth ystyried cynigion twristiaeth, a bydd angen rhoi ystyriaeth ddyledus i faterion allweddol fel dylunio, y dirwedd a hygyrchedd/priffyrdd. Er bod potensial i gynorthwyo i gyflawni amcanion economaidd, dylid nodi bod rhai mentrau twristiaeth yn debygol o arwain at ddatblygiadau ffisegol sydd ag effeithiau posibl ar ddefnydd tir, diwylliant a dwr. Mae hyn yn golygu y gall hybu twristiaeth o bosibl greu gwrthdaro gydag ystyriaethau amgylcheddol pwysig fel ansawdd aer, ffactorau hinsoddol, dwr, pridd, treftadaeth ddiwylliannol, bioamrywiaeth a’r dirwedd. Mae’r CDLl yn lliniaru’r gofynion hyn sy’n gwrthdaro trwy bennu’r amodau y gall twristiaeth barhau i gyfrannu at economi’r sir o danynt, heb roi pwysau annerbyniol ar asedau naturiol, treftadaeth, diwylliant a gwead cymdeithasol Sir Gaerfyrddin. Mae materion o bwys yn deillio o’r newid yn yr hinsawdd, megis hinsawdd gynhesach a chostau cynyddol teithio ymhellach oherwydd problemau o ran gostyngiad yn y cyflenwad olew, yn debygol o effeithio ar yr economi twristiaeth hefyd yn y dyfodol. Dylai datblygiadau twristiaeth ddangos eu bod yn cydymffurfio â GP1 - Cynaliadwyedd a Dylunio o Ansawdd Da, yn nhermau bodloni safonau dylunio cynaliadwy a dylent symud tuag at statws niwtral o ran carbon a dwr, ac ar yr un pryd peidio â chael effaith negyddol ar hydromorffoleg cyrff dwr. Lle bo’n bosibl ac yn briodol, byddir yn annog lleoli datblygiadau twristiaeth ar dir a ddatblygwyd o’r blaen.

6.10.5 Mae gan dwristiaeth ddimensiwn gofodol yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r ardal ôl-ddiwydiannol ar lan y môr (gan gynnwys mynediad i Lwybr Arfordir Cymru) yn gartref i atyniadau rhanbarthol ar raddfa fawr fel Parc Arfordirol y Mileniwm ac, ymhellach i’r tir, Cae Ras Ffos Las. Mae’r ardaloedd gwledig yn y gogledd fel Coedwig Brechfa yn enwog am gyfleusterau gweithgareddau awyr agored o ansawdd da ac ar raddfa fach, megis beicio mynydd. Felly dylid ystyried rhinweddau cynigion twristiaeth yng nghyd-destun nodweddion gofodol y Sir, gyda'r ardaloedd arfordirol ac ôl-ddiwydiannol yn ne’r sir yn cyferbynnu â’r ardaloedd gwledig yn y gogledd a’r gorllewin i gynnig lleoliad cyfoethog ac amrywiol. Mae lleoliadau gofodol cyferbyniol o’r fath yn golygu ei bod yn anochel y bydd rhai cynigion datblygu’n canolbwyntio ar leoliad yng nghefn gwlad agored ac felly mae polisïau TSM3 a TSM5 yn darparu cyd-destun i ystyried rhinweddau cynigion o’r fath, ac mae TSM4 yn ymdrin â chynigion ar gyfer llety i ymwelwyr yng nghefn gwlad agored.

6.10.6 Lle bynnag y bo modd, rhoddir ystyriaeth i ddiogelu llety â gwasanaeth, megis gwestai, tai llety a hosteli, sy’n bodoli eisoes, oni fernir bod y defnydd yn anhyfyw. Mae gan y sefydliadau hyn y potensial i gynorthwyo i ehangu sylfaen sectorol economi’r sir ac i greu a chynnal swyddi lleol. Cydnabyddir eu rôl bosibl yn Astudiaeth Tir Cyflogaeth y sir ac yn fframwaith monitro’r CDLl. Felly caiff y patrymau defnyddiau yn nhermau llety â gwasanaeth eu monitro a chaiff unrhyw broblemau eu codi yn adolygiad cyntaf y cynllun.

6.10.7 Mae’r Cynllun yn darparu lle i adeiladau sy’n bodoli eisoes (gan gynnwys adeiladau afraid) gael eu defnyddio ar gyfer defnyddiau cysylltiedig â thwristiaeth fel bo’n briodol. Dylid troi at bolisi H8 i gael rhagor o arweiniad yn nhermau adnewyddu adeiladau sydd wedi mynd â’u pen iddynt, ac mae Polisi Cynllunio Cymru a TAN6 yn darparu cyngor ar arallgyfeirio yng nghefn gwlad ac addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes y tu allan i derfynau datblygu. Mae Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn darparu arweiniad ar addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes ar gyfer defnyddiau busnes. Dylid rhoi ystyriaeth addas i ddichonoldeb cynnig arallgyfeirio, ac mae cynlluniau busnes yn ffordd bosibl o fesur a ellir cyfiawnhau cynnig yn nhermau angen a galw. Rhoddir sylw hefyd i bolisi TSM4 - Llety i Ymwelwyr.

Polisi TSM1 Safleoedd Carafanau Sefydlog a Chabanau Gwyliau

Ni fydd cynigion ar gyfer safleoedd carafanau sefydlog a chabanau gwyliau newydd yn cael eu caniatáu ond o fewn Terfynau Datblygu anheddiad diffiniedig (Polisi SP3).

Ni fydd cynigion ar gyfer gwella ac estyn safleoedd carafanau sefydlog a chabanau gwyliau sy’n bodoli eisoes yn cael eu caniatáu ond:

  1. Os bydd y datblygiad yn cynyddu bywiogrwydd, cynaliadwyedd ac ansawdd amgylcheddol y safle;
  2. Os na fydd yn arwain at gynnydd annerbyniol yn nwysedd yr unedau a/neu raddfa gyffredinol y safle;
  3. Os bydd yn gwella’r dirwedd a’r drefwedd o’i amgylch;
  4. Os bydd yn darparu (lle bo’n briodol) ar gyfer gwelliant sylweddol i ansawdd, golwg a lleoliad cyffredinol y safle.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS4, AS7, AS8, AS9, AS11 ac AS12
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.10.8 Caiff gwelliannau ac estyniadau ymgorffori amrywiadau priodol a derbyniol yn nhrwydded safle i ganiatáu cynnydd gweddol fach yn nifer y carafanau sefydlog neu’r cabanau gwyliau.

6.10.9 O ran diwallu angen am lety, nid oes unrhyw dystiolaeth bod cynnydd sylweddol yn nifer y safleoedd carafanau sefydlog a chabanau gwyliau’n briodol o gofio eu heffaith bosibl ar amwynder a’r dirwedd a’u prif swyddogaeth fel darpariaeth dymhorol yn unig. Bydd cynigion ar gyfer llety gwyliau a hunan-arlwyo newydd yn cael eu hystyried yn erbyn darpariaethau Polisïau SP15 a TSM4.

6.10.10 Wrth gymhwyso polisïau TSM1, TSM2 a TSM4, bydd amodau meddiannaeth yn cael eu defnyddio i sicrhau y defnyddir yr unedau o lety gwyliau at y diben hwnnw ac nid at unrhyw ddiben arall.

6.10.11 Rhoddir sylw i faterion yn ymwneud â chapasiti seilwaith a chapasiti amgylcheddol. O’r herwydd dylid rhoi sylw i bolisïau SP17 ac EP1. Mae atyniad yr arfordir ar gyfer twristiaeth yn galw am ystyriaeth ddyledus wrth weithredu’r polisi hwn ac o’r herwydd dylid rhoi’r sylw i ddarpariaethau EP5.

6.10.12 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

Polisi TSM2 Safleoedd Carafanau Teithiol a Phebyll

Bydd cynigion ar gyfer safleoedd newydd i garafanau teithiol a/neu bebyll ac am estyniadau/gwelliannau i safle sy’n bodoli eisoes yn cael eu caniatáu:

  1. Os yw’r safle’n gysylltiedig yn uniongyrchol ag Ardal Dwf, Canolfan Gwasanaethau, Canolfan Gwasanaethau Lleol neu Gymuned Gynaliadwy dynodedig sydd â gwasanaethau a chyfleusterau priodol;
  2. Os na fydd y safle’n cael effaith andwyol annerbyniol ar y dirwedd a’r drefwedd o’i amgylch (a lle bo’n briodol yn eu gwella);
  3. Os bydd y safle’n darparu (lle bo’n briodol) ar gyfer gwella’n sylweddol ansawdd, golwg a lleoliad y safle’n gyffredinol;
  4. Os na fydd y safle’n arwain at or-grynodiad o safleoedd yn yr ardal.

Dylai cynigion sy’n cynnwys angen am strwythurau atodol ddangos yr ystyriwyd ymagwedd gymalog gan ddechrau gydag ailddefnyddio adeiladau sy’n bodoli eisoes, wedyn yr angen i godi adeiladau newydd. Ni fydd adeiladau newydd yn cael eu caniatáu ond pan fônt yn briodol yn nhermau eu lleoliad a’u graddfa a’r angen amdanynt.

Ni fydd cynnig i droi safle carafanau teithiol a/neu bebyll sy’n bodoli eisoes yn safle carafanau sefydlog a/neu gabanau gwyliau yn cael ei ganiatáu oni fo’n unol â Pholisi TSM1.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS4, AS7, AS8, AS9, AS11 ac AS12
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.10.13 Mae’r CDLl yn canolbwyntio ar gefnogi llety a all ffitio’n foddhaol i’w leoliad ac sydd hefyd yn cynnal yr economi leol drwy gydol y flwyddyn. Yn hyn o beth, mae polisi TSM2 uchod yn cefnogi safleoedd carafanau teithiol a phebyll lle bo’n briodol. Dylid profi hyfywedd safleoedd newydd, a’r angen amdanynt, gan ddangos sail resymegol glir yn nhermau lleoliad a chydymffurfiaeth â pholisïau ehangach y cynllun.

6.10.14 Rhoddir sylw i faterion yn ymwneud â chapasiti seilwaith a chapasiti amgylcheddol. O’r herwydd dylid rhoi sylw i bolisïau SP17 ac EP1. Mae atyniad yr arfordir ar gyfer twristiaeth yn galw am ystyriaeth ddyledus wrth weithredu’r polisi hwn ac o’r herwydd dylid rhoi sylw i ddarpariaethau EP4 ac EP5.

6.10.15 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

Polisi TSM3 Datblygiadau Twristiaeth ar Raddfa Fach yng Nghefn Gwlad Agored

Bydd cynigion ar gyfer atyniadau/cyfleusterau ar raddfa fach yng nghefn gwlad agored, gan gynnwys estyniadau priodol i gyfleusterau sy’n bodoli eisoes, yn cael eu cymeradwyo:

  1. Os nad oes unrhyw safle addas ar gael o fewn Terfynau Datblygu unrhyw anheddiad diffiniedig cyfagos;
  2. Os yw’r safle’n gysylltiedig yn uniongyrchol ag anheddiad diffiniedig;
  3. Os yw’r lleoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol ac os yw’r cynnig yn ddibynnol iawn ar briodoleddau’r safle;
  4. Os yw’r cynnig yn cynnwys datganiad ategol sy’n dangos angen clir y gellir ei gyfiawnhau am i’r datblygiad gael ei leoli yn y man penodol hwnnw;
  5. Lle bo’n briodol, os bydd y datblygiad yn cynyddu bywiogrwydd, cynaliadwyedd ac ansawdd amgylcheddol y safle;
  6. Os na fydd unrhyw effeithiau andwyol ar y dirwedd/drefwedd o’i gwmpas nac ar leoliad a chyfanrwydd yr amgylchedd hanesyddol.

Dylai cynigion sy’n cynnwys angen am strwythurau atodol ddangos yr ystyriwyd ymagwedd gymalog gan ddechrau gydag ailddefnyddio adeiladau sy’n bodoli eisoes, wedyn yr angen i godi adeiladau newydd. Ni fydd adeiladau newydd yn cael eu caniatáu ond pan fônt yn briodol yn nhermau eu lleoliad a’u graddfa a’r angen amdanynt.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS4, AS7, AS8, AS9, AS11 ac AS12
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.10.16 Mae polisi TSM3 yn darparu hyblygrwydd o ran rhoi’r cyfle i’r sector twristiaeth gweithgareddau awyr agored sy’n dod i’r amlwg gael ei gefnogi heb beryglu cyfanrwydd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y sir.

6.10.17 Dylid ystyried cynigion ar gyfer safleoedd carafanau sefydlog a chabanau gwyliau yn erbyn polisi TSM1, a dylid ystyried cynigion ar gyfer safleoedd carafanau teithiol a phebyll yn erbyn polisi TSM3. Wrth ddehongli polisi TSM3, dylid nodi bod cynigion twristiaeth yn cynnwys cyfleusterau newydd yn ogystal ag estyniadau i gyfleusterau sy’n bodoli eisoes. Dylai estyniadau i gyfleusterau sy’n bodoli eisoes fod yn israddol eu graddfa a’u swyddogaeth i’r cyfleuster sy’n bodoli eisoes a dylai cynigion sy’n golygu estyniadau sylweddol gael eu dehongli fel datblygiadau newydd. Mae cynigion twristiaeth mawr yng nghefn gwlad agored yn ddarostyngedig i TSM5.

6.10.18 Bydd angen i geiswyr ddangos trwy ddull cymalog nad oes unrhyw safleoedd addas o fewn terfynau aneddiadau cyfagos i ddarparu ar gyfer y defnyddiau arfaethedig. Rhaid i geiswyr ddarparu’r dystiolaeth y mae ei hangen i ddangos pam y mae’n rhaid i’r cynnig gael ei leoli yn y lleoliad penodol hwnnw. Pe bai yna dystiolaeth bod lleoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol, byddai angen i’r datblygwr brofi bod y defnydd arfaethedig yng nghefn gwlad yn economaidd hyfyw. Lle bo’n briodol, bydd y Cyngor yn gofyn am i achos busnes gael ei gyflwyno i ategu unrhyw gais. Yn hyn o beth, mae’r polisi’n cynnig cyd-destun unigryw lleol ar gyfer twf parhaus mentrau twristiaeth yn y sir. Dylid rhoi sylw penodol i leoliad, dyluniad, graddfa a mynediad i’r rhwydwaith prif ffyrdd a’r rhwydwaith craidd fel y’u diffinnir trwy TR1.

6.10.19 Dylid rhoi sylw i baragraff 6.6.20 ac effaith cynigion ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop.

Polisi TSM4 Llety i Ymwelwyr

Bydd cynigion ar gyfer llety gwyliau â gwasanaeth neu hunanarlwyo sy’n cael eu hadeiladu o’r newydd yn cael eu caniatáu o fewn terfynau datblygu aneddiadau diffiniedig (Polisi SP3) lle bo’n unol â’r meini prawf perthnasol o dan Bolisi SP15.

Y tu allan i derfynau datblygu aneddiadau diffiniedig (Polisi SP3) bydd cynigion ar gyfer llety â gwasanaeth neu hunanarlwyo parhaol i ymwelwyr yn cael eu caniatáu lle bo’n golygu ailddefnyddio ac addasu (gan gynnwys newid) adeiladau sy’n bodoli eisoes ac yn cydymffurfio â meini prawf d) ac e) a nodir ym Mholisi H5.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS4, AS7, AS8, AS9, AS11 ac AS12
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.10.20 Mae polisi cynllunio cenedlaethol yn cydnabod rôl a chyfraniad addasu adeiladau gwledig wrth leihau’r pwysau ar dai eraill mewn ardal ar gyfer defnydd gwyliau (TAN6 Paragraff 3.6.1). Mae’r polisi’n adlewyrchu canllawiau cenedlaethol ar rôl ailddefnyddio ac addasu adeiladau gwledig sy’n bodoli eisoes i ddarparu llety priodol i ymwelwyr ac ar yr un pryd gwarchod cefn gwlad agored rhag datblygiadau amhriodol.

6.10.21 Bydd y Cyngor yn ystyried cymhwyso amodau’n cyfyngu’r defnydd i lety gwyliau’n unig. Mae’n bosibl y caiff amodau meddiannaeth dymhorol eu defnyddio i sicrhau nad oes neb yn byw yn y llety’n barhaol. Hefyd, mae’n bosibl y bydd amodau meddiannaeth dymhorol yn briodol i leihau unrhyw effaith andwyol ar yr amgylchedd lleol, yn arbennig os yw’r safle’n agos i gynefin bywyd gwyllt y mae angen ei warchod ar adegau penodol o’r flwyddyn.

6.10.22 Wrth ystyried cynigion mewn perthynas â maen prawf d) o bolisi H5, bydd angen i’r Cyngor fod yn fodlon y gellir sicrhau digon o le byw a storio (gan gynnwys cadw cerbydau mewn garej) heb yr angen am estyniadau sylweddol i’r adeilad. Fel arfer ni ystyrir bod cynigion i ehangu unedau yn y dyfodol yn briodol. Yn yr un modd, bydd y Cyngor yn ystyried tynnu’n ôl hawliau datblygu a ganiateir fel arfer i adeiladu estyniadau ac adeiladau atodol.

6.10.23 Os yw’r cynnig yn rhan o gynllun arallgyfeirio ar fferm dylid rhoi sylw i ddarpariaethau Polisi EMP4. Byddir yn ystyried a phenderfynu ar bob cynnig yng ngoleuni, ac yn erbyn polisïau a chynigion perthnasol y Cynllun hwn a chynnwys polisi cynllunio cenedlaethol.

TSM5 Cynigion Twristiaeth Mawr yng Nghefn Gwlad Agored

Bydd cynigion ar gyfer atyniadau/cyfleusterau ar raddfa fawr yng nghefn gwlad agored, gan gynnwys estyniadau priodol i gyfleusterau sy’n bodoli eisoes, yn cael eu cymeradwyo:

  1. Os ydynt yn gydnaws yn nhermau lleoliad, safle, dyluniad a graddfa; ac
  2. Os oes ganddynt fynediad boddhaol i’r rhwydwaith prif ffyrdd a’r rhwydwaith craidd, ac na fyddant yn arwain at greu traffig ar draul (capasiti) y rhwydwaith trafnidiaeth lleol a bod modd eu cyrraedd gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, trwy gerdded a thrwy feicio; ac
  3. Os ydynt yn gynigion economaidd hyfyw sy’n cyfrannu at wella amrywiaeth, ansawdd a chynaliadwyedd economaidd arlwy twristiaeth y sir ac felly yn arwain at fudd economaidd dangosadwy; a
  4. Lle bo’n briodol, y bydd y datblygiad yn gwella bywiogrwydd, cynaliadwyedd ac ansawdd amgylcheddol y safle;
  5. Os na fyddant yn cael effaith sylweddol ac andwyol ar briodweddau a nodweddion cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol y safle a/neu’r sir; ac,
  6. Os dangosir yn llawn nad oes unrhyw safle addas ar gael o fewn terfynau datblygu anheddiad diffiniedig (polisi SP3) a bod y lleoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol am fod y cynnig yn ddibynnol iawn ar briodoleddau’r safle.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS4, AS7, AS8, AS9, AS11 ac AS12
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.10.24 Mae polisi TSM5 yn darparu ar gyfer ystyried cynigion ar raddfa fawr yng nghefn gwlad agored. Er bod y pwyslais yn y CDLl yn canolbwyntio ar sicrhau datblygiadau yn unol â’r hierarchaeth leoliadol (SP15), mae angen hyblygrwydd fel y gellir ystyried cynigion ar raddfa fawr yng nghefn gwlad agored a fydd yn dod â buddion economaidd a buddion ehangach dangosadwy heb arwain at niwed annerbyniol. Dylid nodi bod TSM5 yn berthnasol i gynigion i estyn cyfleusterau sy’n bodoli eisoes a saif yng nghefn gwlad agored yn ogystal ag i gynigion ar gyfer datblygiadau newydd.

6.10.25 Dylai estyniadau i gyfleusterau sy’n bodoli eisoes fod yn israddol eu graddfa a’u swyddogaeth i’r cyfleuster sy’n bodoli eisoes a dylai estyniadau ar raddfa fawr gael eu dehongli fel datblygiadau newydd.

6.10.26 Er gwaethaf yr uchod, mae polisi TSM5 yn rhoi pwyslais clir ar gynigion sy’n dangos yn llawn bod lleoliad yng nghefn gwlad agored yn hanfodol. At hynny, dywedir na ddylai unrhyw niwed cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol dangosadwy ddeillio o’r cynnig ac y dylai fod yn hygyrch i raddau boddhaol.

6.11 Mwynau

6.11.1 Wrth baratoi’r CDLl hwn, mae’r Cyngor yn adlewyrchu ei ymrwymiad i sicrhau bod yna gyflenwad digonol o fwynau i fod yn sylfaen i weithgarwch economaidd ac i reoleiddio’r gwaith o echdynnu, prosesu ac ailgylchu mwynau mewn ffordd mor gynaliadwy ag sy’n ymarferol.

6.11.2 Yn wahanol i fathau eraill o ddiwydiant trwm sydd yn aml â mwy o gyfle i grwydro lle y mynnant, mae’r diwydiant mwynau, yn y bôn, yn dibynnu ar safleoedd – ni ellir cloddio neu chwarela mwynau ond o'r mannau lle y’u ceir. Mae’r ddibyniaeth fawr hon ar leoliad yn achos uniongyrchol gwrthdaro rhwng ystyriaethau datblygu mwynau ac ystyriaethau amgylcheddol a chymdeithasol. Mae’r un prosesau daearegol, er enghraifft, sy’n gyfrifol am ddyddodion mwynau hefyd yn creu llawer o’r pethau sy’n nodweddiadol o dirwedd y sir, fel trumiau calchfaen ac esgeiriau tywodfaen. Yn yr un modd, mae’r ffaith bod llawer o drefi a phentrefi’n agos i ddyddodion mwynau, yn enwedig yn y maes glo, wedi arwain at wrthdaro yn y gorffennol. O ganlyniad, byrdwn a diben polisïau’r Awdurdod ar fwynau yw cael cydbwysedd rhwng sicrhau cyflenwad digonol ac effeithlon a gwarchod yr amgylchedd.

6.11.3 Dylid rhoi sylw i Bolisi Cynllunio Mwynau Cymru ac MTAN 1 ac MTAN 2 wrth ystyried cynigion mwynau. Ceir canllawiau clir mewn perthynas â’r canlynol yn y dogfennau hyn ac felly ni chânt eu hystyried yma:

Cynnal cyflenwad digonol o adnoddau mwynau
6.11.4 Yn ychwanegol at y darpariaethau a nodir ym Mholisi SP10 mewn perthynas â chynnal cyflenwad di-dor o adnoddau mwynau, rhoddir ystyriaeth hefyd i gynigion i fenthyca pyllau dim ond i wasanaethu prosiectau adeiladu dros dro, a gwaith mwynau ar raddfa fach dim ond i ddarparu deunyddiau adeiladu i atgyweirio a/neu newid adeiladau neu strwythurau lleol o bwysigrwydd pensaernïol neu hanesyddol.

6.11.5 Gweithfeydd mwynau tymor byr sy’n cyflenwi prosiectau peirianneg penodol megis ffyrdd newydd yw pyllau benthyg. Er mai dros dymor byr y’u defnyddir, dylid rheoli’r effeithiau posibl o byllau benthyg yr un mor gaeth â’r rheiny sy’n ymwneud â chwareli parhaol, ac ar ôl i’r gwaith ddod i ben dylai’r tir gael ei adfer i safon uchel.

6.11.6 Gallai mathau penodol o greigiau fod yn bwysig i adfer adeiladau hanesyddol neu henebion. Yn aml mae’r garreg hon i’w chael yn lleol yn unig. Bydd gwaith ar raddfa fach i gael yr adnoddau hyn yn cael ei ganiatáu, ar yr amod y rhoddir ystyriaeth angenrheidiol i’r effeithiau posibl y bydd y gwaith echdynnu’n eu cael ar yr amgylchedd ac amwynder lleol.

6.11.7 Cyflenwadau agregau yn y sir – y sefyllfa bresennol Creigiau Caled: 92.85 miliwn o dunelli oedd cronfeydd Creigiau Caled yn Sir Gaerfyrddin ar ddiwedd mis Rhagfyr 2008 (Adroddiad Blynyddol Gweithgor Agregau Rhanbarthol De Cymru). Oddeutu 1.1 miliwn o dunelli’r flwyddyn yw allbwn Sir Gaerfyrddin, sy’n rhoi ffigur banc tir o 84.4 o flynyddoedd. Mae hyn gryn dipyn yn fwy na’r ffigur banc tir 10 mlynedd ar gyfer holl gyfnod y CDLl sy’n ofynnol yn MTAN1.

6.11.8 Cadarnhawyd pum Gorchymyn Gwahardd ar chwareli anweithredol yn 2010. Tynnodd hyn 11.75 miliwn o dunelli o’r ffigur uchod, gan adael cronfa o ryw 81 miliwn o dunelli ac o ganlyniad 73.6 mlynedd o fanc tir ar y dyddiad sylfaen, sef mis Rhagfyr 2008 – sy’n dal i fod tipyn uwchben gofyniad MTAN1. Byddir yn adolygu safleoedd segur ac anweithredol eraill yn rheolaidd a bydd yr Awdurdod yn edrych i weld a fydd angen rhagor o Orchmynion Gwahardd. Mae hyn yn rhoi eglurder a sicrwydd i breswylwyr lleol ac yn cyfrannu at ddarlun mwy cywir a realistig o fanc tir mwynau’r sir.

6.11.9 Mae trafodaethau’n parhau gyda Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ynghylch rhannu a dyrannu cronfeydd. Mae Sir Gaerfyrddin a’i ddau gymydog yn dal cyfanswm o ryw 94.26 miliwn o dunelli o greigiau caled ar y cyd rhyngddynt.

6.11.10 Mae Datganiad Technegol Rhanbarthol De Cymru (2014) yn dweud:

6.11.11 Felly gan ragdybio’r senario gwaethaf, mae hyn yn rhoi gofyniad o 41.5 miliwn o dunelli i gyd, sydd tipyn o fewn ystod y cronfeydd sydd ar gael yn ardaloedd y 3 awdurdod cynllunio lleol. Bydd y trefniant trawsffiniol sy’n datblygu’n cael ei fonitro’n fanwl a phan rhoddir ei wedd derfynol arno caiff ei adlewyrchu yn y Cynllun yn unol â hynny.

6.11.12 Tywod a Graean: Nid yw’r sefyllfa o ran Tywod a Graean sy’n cael eu cloddio ar y tir mor glir. Mae MTAN1: Agregau yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwad 7 mlynedd gael ei gynnal drwy gydol oes y Cynllun. Yn ddamcaniaethol, mae gan Sir Gaerfyrddin fanc tir o bron 250 o flynyddoedd, ond mae hyn wedi’i seilio ar gronfa o 500,000 o dunelli o raean afon (ychydig iawn o dywod) y mae’r gweithredydd yn defnyddio rhyw 2,000 o dunelli ohono bob blwyddyn. Nid yw’r ffigur hwn yn ddigon dibynadwy i fodloni gofynion Sir Gaerfyrddin o ran tywod a graean dros gyfnod y CDLl. Mewn gwirionedd, mae cyfran fawr o’r tywod a ddefnyddir yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd yn dywod sy’n cael ei gloddio o’r môr a’i lanio ym Mhorth Tywyn (neu Lansawel/Abertawe). Mae hyn yn nodweddiadol o Dde Cymru i gyd; yno yn 2005 tywod o ffynonellau morol oedd mwy na 78% o’r tywod a ddefnyddiwyd yn y rhanbarth. Mae’n bosibl bod rhagor o dywod yn cyrraedd y sir o safleoedd mewn awdurdodau cyfagos. Nid yw dibynnu ar ffynonellau yn y môr ac ar y tir y tu allan i Sir Gaerfyrddin yn sefyllfa gynaliadwy. Bydd angen trafodaethau ynghylch dyrannu tywod a graean rhwng awdurdodau yn y dyfodol agos.

6.11.13 At ddibenion cynnal cyflenwad o dywod a graean o’r tir, mae adnoddau tywod a graean seiliedig ar y Map Diogelu Agregau diweddar ar gyfer De-orllewin Cymru a gynhyrchwyd gan Arolwg Daearegol Prydain wedi cael eu nodi ar y Map Cynigion (gweler Polisi MPP3). Mewn perthynas â diddordeb posibl oddi wrth y diwydiant mwynau, argymhellir y map diogelu fel y ddogfen gyntaf i droi ati. Cynghorir trafodaeth gynnar gyda’r Awdurdod mewn perthynas â rhinweddau posibl safleoedd penodol. Penderfynir ar geisiadau i echdynnu tywod a graean mewn perthynas â pholisi MPP1.

Etifeddiaeth y Maes Glo
6.11.14 Cloddiwyd am lo yn y gorffennol mewn rhan helaeth o Sir Gaerfyrddin ac mae hyn wedi gadael etifeddiaeth, sy’n cynnwys mynedfeydd i lofeydd (siafftiau a mynedfeydd) a gweithfeydd bas. Yn y gorffennol bu gwaith cloddio helaeth am lo yn aneddiadau Llanelli a Cross Hands/Rhydaman a’r cylch, ac mae’r ddau hyn wedi’u nodi fel ardaloedd twf allweddol. Bydd yn ofynnol i gynigion datblygu mewn ardaloedd ag etifeddiaeth cloddio am lo roi ystyriaeth lawn i wybodaeth am gloddio am lo a, lle bo angen, gweithredu mesurau lliniaru i foddhad yr Awdurdod Cynllunio Lleol er mwyn sicrhau bod datblygiadau newydd yn ddiogel a sefydlog. Mae angen caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr Awdurdod Glo ar gyfer unrhyw weithgareddau ymwthiol sy’n croestorri neu’n tarfu ar neu’n mynd i mewn i unrhyw wythiennau glo, gweithfeydd cloddio am lo neu fynedfeydd i lofeydd.

6.11.15 Mewn perthynas â hen weithfeydd, mae yna botensial yn ystod cyfnod y CDLl i ddefnyddio nwy mwyngloddiau, sy’n golygu dal methan o fwyngloddiau gweithredol neu segur. Mae’r Awdurdod Glo yn trwyddedu gweithredwyr i gyflawni gweithgareddau o’r fath. Bydd cynigion ar gyfer gweithgareddau o’r fath yn cael eu hystyried mewn perthynas â holl bolisïau perthnasol y Cynllun a bydd hyn yn golygu cysylltu’n agos â’r Awdurdod Glo.

Polisi MPP1 Cynigion Mwynau

Bydd cynigion i echdynnu mwynau’n cael eu caniatáu os na fyddent yn arwain at unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol ar iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd, amwynder lleol a’r rhwydwaith trafnidiaeth lleol. Bydd ceisiadau am gynigion mwynau’n cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

  1. Mae llwybrau mynediad a thrafnidiaeth addas wedi cael eu nodi;
  2. Dangosir y bydd y swn o fewn terfynau derbyniol;
  3. Nodir y ffyrdd ymarferol gorau o reoli llwch, mwg a mygdarth, ac o sicrhau nad yw’r gwaith yn achosi dirywiad yn ansawdd yr aer yn lleol;
  4. Mae ffrwydro’n cael ei reoli o fewn terfynau derbyniol;
  5. Mae effeithiau posibl ar adnoddau dwr daear, adnoddau dwr wyneb a chyflenwadau dwr wedi’u nodi a dangosir eu bod o fewn terfynau derbyniol;
  6. Mae effeithiau andwyol ar safleoedd o bwysigrwydd i gadwraeth natur ac o bwys hanesyddol, diwylliannol a thirweddol wedi’u nodi a dangosir eu bod mor fach ag sy’n bosibl;
  7. Mae mesurau lliniaru effeithiol a gynigir i leihau effeithiau posibl ymsuddiant neu ansefydlogrwydd tir wedi’u nodi a’u dangos i foddhad y Cyngor;
  8. Mae’r effaith ar y dirwedd a’r effaith weledol wedi cael eu lleihau i’r eithaf;
  9. Mae cynigion boddhaol wedi cael eu cyflwyno ar gyfer tirweddu, ôl-ddefnydd ac ôl-ofal o’r safle.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS2, AS4, AS5, AS10 ac AS11
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.11.16 Diben y polisi yw cadw cydbwysedd rhwng bodloni’r galw cenedlaethol am fwynau a lleihau, i’r eithaf, yr effeithiau andwyol posibl a allai ddeillio o weithrediadau o’r fath. Gall gwaith echdynnu mwynau gael effeithiau cadarnhaol ar ardaloedd a chymunedau lleol trwy ddarparu swyddi a chyfrannu at yr economi leol, ond ar yr un pryd rhaid sicrhau mesurau i warchod iechyd ac amwynder lleol a’r amgylchedd rhag unrhyw effeithiau negyddol a all godi. Dylid rhoi ystyriaeth benodol i’r potensial am effeithiau ar ddwr daear ac adnoddau dwr a hefyd ar iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd (gan gynnwys tirwedd/trefwedd a dynodiadau hanesyddol), amwynder lleol, y rhwydwaith trafnidiaeth lleol a pharamedrau amgylcheddol eraill. Dylid rhoi sylw i Bolisi EP2 mewn perthynas â llygredd.

6.11.17 Mae’n hanfodol cynllunio gwaith mwynau sy’n dderbyniol yn amgylcheddol o’r cychwyn cyntaf. Mae defnyddio rheolaethau cynllunio, megis amodau, rhwymedigaethau cyfreithiol a gwaith monitro a gorfodi yn gallu sicrhau rheolaeth effeithiol dros weithrediadau ar safleoedd mwynau. Dylid defnyddio’r rheolaethau lle bônt yn angenrheidiol ac yn berthnasol i’r amgylchiadau unigol dan sylw. Bydd lefelau derbyniol effaith yn amrywio ar wahanol safleoedd mwynau a byddant yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Lle’r Cyngor fydd penderfynu ar y rhain mewn perthynas â phob cais cynllunio unigol. Yn achos ceisiadau olew a nwy ar y tir, y prif bryder fydd diogelu’r amgylchedd dwr, a bydd y Cyngor yn disgwyl, man lleiaf, y cynhyrchir arolygon llinell sylfaen manwl dros ardal astudiaeth a ddiffinnir gan dystiolaeth glir, asesiad sgrinio’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr (man lleiaf, ac asesiad llawn y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr lle bo angen) a Chynllun Monitro ac Ymateb yn ymdrin â’r cyfnod gweithredu a’r cyfnod ar ôl y datblygiad, gan gynnwys strategaeth lliniaru dwr â lefel manylder sy’n briodol i’r peryglon llygredd sy’n bresennol.

Polisi MPP2 Clustogfeydd Mwynau

Gwnaethpwyd darpariaeth ar gyfer Clustogfeydd o gwmpas yr holl safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio mewn grym ar gyfer gweithio mwynau.

Fel arfer ni fydd datblygiadau echdynnu mwynau newydd a datblygiadau sensitif newydd nad ydynt yn ymwneud â mwynau yn cael eu caniatáu yn y clustogfeydd a nodir. Mae’r holl glustogfeydd wedi cael eu nodi ar y map cynigion.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS2, AS4, AS5, AS10, AS11 ac AS13
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.11.18 Mae pellteroedd y clustogfeydd sef 200m (o leiaf) o gwmpas chwareli creigiau caled a 100m (o leiaf) o gwmpas safleoedd echdynnu tywod a graean wedi’u nodi yn MTAN1: Agregau, ac mae’r glustogfa 500m o gwmpas safleoedd gweithio glo wedi’i nodi yn MTAN2: Glo. Bydd eithriadau i’r pellteroedd hyn yn cael eu hystyried yn unol â’r darpariaethau a nodir yn MTAN 1 ac MTAN 2.

Polisi MPP3 Diogelu Mwynau

Ni fydd caniatâd cynllunio’n cael ei roi ar gyfer cynigion datblygu os byddent yn gwneud adnoddau agregau a glo a nodwyd yn yr ardaloedd diogelu mwynau (ardaloedd chwilio) a nodir ar y map cynigion yn anghynhyrchiol, ond:

  1. Os gall y ceisydd ddangos bod echdynnu’r mwynau’n anymarferol, yn aneconomaidd neu’n annerbyniol yn amgylcheddol (gan gynnwys peryglu amwynder ac ystyriaethau cymdeithasol); neu,
  2. Os yw’r adnodd mwynau eisoes wedi cael ei echdynnu; neu,
  3. Os gellir echdynnu’r mwynau’n foddhaol cyn i’r datblygiad ddigwydd; neu,
  4. Os yw’r datblygiad yn un dros dro ac y gellir ei gwblhau ac adfer y safle o fewn y cyfnod y mae’n debygol y bydd angen y mwynau; neu,
  5. Os na fyddai natur a lleoliad y datblygiad yn cael unrhyw effaith arwyddocaol ar y potensial i weithio’r adnodd.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS2, AS4, AS5, AS10, AS11 ac AS13
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.11.19 Mae Polisi Cynllunio Mwynau Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd diogelu’r gallu i gael adnoddau mwynau y mae’n bosibl y bydd eu hangen ar y gymdeithas yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw hyn o angenrheidrwydd yn golygu rhagdybiaeth o blaid gweithio’r dyddodion, dim ond bod lleoliad y mwynau’n hysbys. Mae’r ardaloedd a ddiogelir sy’n cael eu dangos ar y Map cynigion yn cyd-fynd â Map Diogelu Agregau Arolwg Daearegol Prydain ar gyfer De-orllewin Cymru (mewn perthynas ag Agregau – creigiau caled a thywod a graean) a data’r Awdurdod Glo (mewn perthynas â’r adnoddau glo primaidd ac eilaidd).

6.11.20 Ni chaiff datblygiadau mewn mannau a ddiogelir fynd rhagddynt ond os gall y datblygwr fodloni unrhyw un o’r meini prawf uchod. O edrych arnynt gyda pholisïau perthnasol eraill y cynllun (yn arbennig MPP1), mewn llawer o achosion mae’n bosibl y bydd mathau eraill o ddatblygiad yn cael eu caniatáu o fewn terfynau datblygu, neu’n gyfagos iddynt, gan na fydd gwaith echdynnu mwynau ei hun yn briodol mewn mannau o’r fath.

6.11.21 Mewn perthynas ag agregau (creigiau caled a thywod a graean) a nodir ac a ddiogelir ar y map cynigion, fel arfer ni fydd gwaith echdynnu adnoddau mwynau yn dderbyniol o fewn 200 o fetrau i aneddiadau dynodedig yn y CDLl (yn achos creigiau caled) ac o fewn 100 o fetrau (yn achos tywod a graean).

6.11.22 Ar hyn o bryd nid oes unrhyw lanfeydd morol yn y sir. Bydd cynigion posibl yn y dyfodol, os ydynt yn dderbyniol, yn cael eu gwarchod er mwyn diogelu llwybr(au) cyflenwi tywod a graean morol i mewn i’r ardal.

Polisi MPP4 Gweithrediadau Echdynnu Glo

Fel arfer ni fydd gweithrediadau echdynnu glo yn dderbyniol o fewn 500 o fetrau i derfynau datblygu aneddiadau dynodedig yn y CDLl, neu ar safleoedd â dynodiadau rhyngwladol a chenedlaethol sydd o bwysigrwydd amgylcheddol a diwylliannol, onid ydynt yn cael eu hystyried yn eithriadau fel y nodir ym mharagraff 49 o Nodyn Cyngor Technegol Mwynau (MTAN) 2: Glo.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS2, AS4, AS5, AS10, AS11 ac AS13
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.11.23 Caiff adnoddau glo primaidd ac eilaidd eu nodi a’u diogelu ar y map cynigion, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau MPP3. Os mai nod cynigion yw echdynnu’r adnodd o fewn 500 o fetrau i aneddiadau, cyfrifoldeb y datblygwr fyddai profi a yw ei gynnig yn bodloni unrhyw un o’r amgylchiadau eithriadol a nodir yn MTAN 2.

6.11.24 Bydd angen i gynigion ar gyfer echdynnu’r adnodd glo fodloni’r meini prawf a nodir ym Mholisi MPP1 a, lle bo’n briodol, dylid cyflwyno Asesiad o'r Effaith ar Iechyd ynghyd â hwy.

6.11.25 Os cynigir datblygiad nad yw’n gysylltiedig â mwynau mewn man ag adnodd glo, pa un a yw’r adnodd wedi’i ddiogelu ai peidio, yna anogir echdynnu’r adnodd glo ymlaen llaw. Yn ogystal â darparu adnoddau mwynau ac o ganlyniad galluogi datblygiadau nad ydynt yn gysylltiedig â mwynau i fynd rhagddynt, mae echdynnu’r glo ymlaen llaw hefyd yn cynnig y fantais o ddatrys unrhyw broblemau posibl o ran ansefydlogrwydd tir yn y broses.

Polisi MPP5 Dewisiadau Amgen yn lle Agregau

Bydd cynigion ar gyfer gweithrediadau sy’n hwyluso defnyddio agregau eilaidd neu ddeunyddiau wedi’u hailgylchu gan y diwydiannau adeiladu’n cael eu cefnogi.

Dylai cynigion ar gyfer gweithrediadau o’r fath ddangos bod dull cymalog wedi cael ei ystyried gan ddechrau gyda safleoedd mwynau gweithredol neu safleoedd adeiladu priodol sy’n bodoli eisoes, wedyn dyraniadau tir cyflogaeth B2 lle bônt yn rhan o orsaf trosglwyddo gwastraff neu gyfleuster ailgylchu deunyddiau a all ymdrin â gwastraff adeiladu a dymchwel (gweler Polisi SP12).

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS2, AS4, AS5, AS10, AS11 ac AS13
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.11.26 Mae defnyddio deunyddiau amgen neu ddeunyddiau wedi’u hailgylchu yn ei gwneud yn bosibl diogelu adnoddau primaidd. Mae gwastraff adeiladu, dymchwel a chloddio’n arbennig yn ffynhonnell bosibl sylweddol o ddeunydd amgen yn lle agregau. Mae hyn yn cynnwys deunydd mâl neu ddeunydd arall sy’n addas i’w ddefnyddio fel agregau, wedi’i adennill o brosiectau adeiladu, neu o waith dymchwel adeiladau a strwythurau. Efallai y caiff ei falu ar y safle (a’i ailddefnyddio ar y safle neu ei werthu oddi ar y safle) neu ei gludo i ddepo a’i brosesu i gael ei ailddefnyddio. Mae Polisi Cynllunio Mwynau Cymru yn nodi bod diffyg digon o gyfleusterau ailgylchu wedi bod yn ffactor wrth gyfyngu ar ddatblygiadau yn y maes hwn hyd yma. Mae Polisi Cynllunio Mwynau Cymru a’r Cynllun Gwastraff Rhanbarthol ill dau’n pwysleisio’r angen i gynlluniau datblygu hybu ailgylchu gwastraff adeiladu a dymchwel yn ogystal â gwastraff mwynol a diwydiannol, trwy wneud darpariaeth er mwyn storio a phrosesu deunyddiau anadweithiol sy’n deillio o weithrediadau adeiladu a dymchwel.

6.11.27 Rhaid i gynigion ar gyfer ailgylchu gwastraff adeiladu, dymchwel a chloddio ar safleoedd B2 sicrhau eu bod yn gydnaws â’r gweithgareddau diwydiannol a masnachol sy’n bodoli eisoes. Felly byddai priodoldeb i’r defnyddiau o’i amgylch yn ffactor hanfodol wrth asesu unrhyw gynnig.

Polisi MPP6 Adferiad ac Ôl-ofal Safleoedd Mwynau

Bydd yn ofynnol i gynigion ar gyfer gweithio mwynau wneud darpariaeth ar gyfer adferiad ac ôl-ofal y tir ac ar gyfer ei ailddefnyddio mewn ffordd fuddiol a’i wella.

Bydd y Cyngor Sir yn ceisio sicrhau’r gwaith angenrheidiol trwy warantau ariannol wedi’u cynnwys mewn Rhwymedigaeth Gynllunio.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS2, AS4, AS5, AS10, AS11 ac AS13
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.11.28 Dylai cynlluniau adfer priodol nodi sut y bydd ansawdd hirdymor y safle’n cael ei gynnal ar ôl i’r gwaith echdynnu mwynau ddigwydd. Gall cynlluniau adfer ei gwneud yn bosibl gwella’r dirwedd a gallant gynyddu bioamrywiaeth ardal trwy greu cynefinoedd newydd i blanhigion ac anifeiliaid. Bydd defnyddio amodau cynllunio ar y cam cynllunio yn sicrhau y caiff y tir ei adfer i safon uchel yn barod i’w ailddefnyddio yn unol â chytundeb, a ddylai gael ei nodi yn y cais ar ôl trafodaethau ymlaen llaw gyda’r Awdurdod. Mae trafodaethau cynnar yn hanfodol a byddant yn ei gwneud yn bosibl i’r Awdurdod roi arweiniad ar ôl-ddefnyddiau a ffefrir a safonau adfer, gan gymryd i ystyriaeth strategaethau lleol fel y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol.

6.12 Rheoli Gwastraff

6.12.1 Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin fel yr Awdurdod Cynllunio Gwastraff gyfrifoldeb am bolisi a rheoleiddio mewn perthynas â phob ffrwd wastraff. Y prif ffrydiau gwastraff yw:

6.12.2 Mae gwaith rheoleiddio a monitro gweithdrefnau a safleoedd rheoli gwastraff yn cael ei rannu rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Cyngor Sir fel yr Awdurdod Cynllunio Gwastraff. Gan yr Asiantaeth mae’r cyfrifoldeb am safonau gweithredu ar safleoedd, a’u potensial i lygru’r amgylchedd. Yr Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am reoleiddio materion megis defnydd tir, colli amwynder, symudiadau traffig, terfynau amser gweithrediadau, proffiliau tir terfynol, adferiad, ôl-ofal ac ôl-ddefnydd safleoedd ac ati. Eiddo’r Awdurdod Lleol yw’r cylch gwaith sy’n ymwneud â ‘niwed i iechyd pobl’ er ei fod yn fater i’w ystyried gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn ei gylch gwaith a’i swyddogaethau.

6.12.3 Mae canllawiau cynllunio cenedlaethol mewn perthynas â Rheoli Gwastraff yn cael eu nodi ym Mholisi Cynllunio Cymru, Argraffiad 7 a’u hategu gan TAN21: Gwastraff’ (Chwefror 2014) a’r Cylchlythyrau perthnasol. Mae’r dogfennau hyn yn cadw at yr egwyddorion a nodir yn Nogfen y Strategaeth Wastraff Drosfwaol ar gyfer Cymru ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ (Mehefin 2010).

6.12.4 Mae’r agenda genedlaethol mewn perthynas â rheoli gwastraff yn datblygu’n gyflym. Mae ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ yn adeiladu ar lwyddiant ‘Yn Gall gyda Gwastraff’ trwy nodi fframwaith hirdymor ar gyfer rheoli gwastraff a defnyddio adnoddau’n effeithlon, tan 2050.

6.12.5 Yn unol â deddfau Ewropeaidd - dwy o’r pwysicaf yw’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Tirlenwi - mae ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ yn nodi’r fframwaith ar gyfer dull mwy cynaliadwy ac integredig o reoli gwastraff. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio adnoddau naturiol yn fwy effeithlon er mwyn lleihau maint y gwastraff a gynhyrchir, defnyddio cymysgedd o ddewisiadau o ran rheoli gwastraff, ac felly osgoi gorddibynnu ar dirlenwi, a gwarchod yr amgylchedd yn effeithiol. Egwyddor allweddol wrth lywio’r gwaith o reoli gwastraff yn gynaliadwy yw’r hierarchaeth gwastraff, fel y’i diffinnir ym Mholisi SP12.

6.12.6 Mewn perthynas â Pholisi SP12, mae’n bosibl y bydd lleoliadau mewn mannau cyflogaeth B2 yn addas ar gyfer llawer o gyfleusterau gwastraff y dyfodol gan gynnwys cyfleusterau prosesu a thrin gwastraff, gorsafoedd trosglwyddo, triniaeth fiolegol fecanyddol, compostio caeedig a threulio anaerobig. Byddai’r cyfleusterau hyn yn darparu ar gyfer gwastraff diwydiannol a masnachol yn ogystal â gwastraff trefol. Mae’n bosibl y gall safleoedd B2 hefyd ymdrin â phrosesu neu waredu gwastraff peryglus.

6.12.7 Mewn perthynas â gwastraff adeiladu, dymchwel ac adfer, fel arfer cyflawnir y gwaith hwn ar safleoedd adeiladu neu mewn chwareli lle gellir ei falu ar y safle. Fodd bynnag, byddai dewisiadau eraill yn cynnwys ei brosesu mewn depo a allai gael ei ystyried ar dir B2 lle bo’n briodol (gweler Polisi MPP5 – Dewisiadau Amgen yn lle Agregau).

Polisi WPP1 – Cyfleuster Rheoli Gwastraff Nant-y-Caws

Bydd safle rheoli gwastraff Nant-y-caws yn cael ei ddiogelu er mwyn parhau a/neu ddarparu’r ystod ganlynol o gyfleusterau rheoli gwastraff, gan gynnwys y rheiny sy’n darparu ar gyfer cyn-driniaeth i wastraff a thriniaeth i wastraff gweddilliol:

  1. Tirlenwi
  2. Compostio
  3. Ynni o wastraff
  4. Adennill deunyddiau
  5. Safle amwynder dinesig
  6. Gwaith Treulio Anaerobig
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS2, AS4, AS5, AS10, AS11 ac AS13
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.12.8 Mae’r gweithrediadau ar y safle ar hyn o bryd yn cynnwys compostio (rhesgompostio a chompostio caeedig); Safle Amwynder Dinesig, Tirlenwi (Gwastraff nad yw’n beryglus) a Llosgydd Nwy o safle Tirlenwi.

6.12.9 Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu paratoi ar gyfer safle Nant-y-caws gan edrych ar natur y ddarpariaeth yn y dyfodol. Mae darparu ystod o weithrediadau rheoli gwastraff yn pwysleisio ymrwymiad yr Awdurdod i yrru gwastraff i fyny’r hierarchaeth gwastraff (gweler Polisi SP12). Er hynny, bydd defnyddio safle Nant-y-caws i barhau â gweithgarwch tirlenwi’n ddewis pwysig o hyd dros y blynyddoedd i ddod fel rhan o Strategaeth Rheoli Gwastraff Integredig y Cyngor. Byddir yn edrych ar ddewisiadau i ehangu gweithrediadau tirlenwi yn y dyfodol yn y Canllawiau Cynllunio Atodol yn ogystal â nodi dewisiadau yn y dyfodol ar gyfer trin gwastraff gweddilliol. Gallai’r dewisiadau gynnwys ‘Cyfleuster Adennill Deunyddiau Brwnt’ lle mae cymaint ag sy’n bosibl o’r deunydd gwastraff a gesglir yn cael ei ailgylchu, neu Driniaeth Fiolegol Fecanyddol – gan gynnwys o bosibl trin â gwres a chyfleuster adennill deunyddiau.

Polisi WPP2 – Cyfleusterau Rheoli Gwastraff y tu allan i Derfynau Datblygu.

Ni fydd cynigion ar gyfer gweithrediadau rheoli gwastraff nas ystyrir o dan bolisïau SP12 a WPP1 yn cael eu caniatáu ond pe na bai unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol ar yr amgylchedd, iechyd pobl, amwynder lleol a’r rhwydwaith trafnidiaeth lleol. Dylai cynigion, lle bynnag y bo modd, ddangos sut y cadwyd at yr hierarchaeth gwastraff (gweler Polisi SP12). Bydd hefyd yn ofynnol i gynigion fod yn unol â pholisïau a darpariaethau’r Cynllun hwn.

Dylai cynigion nodi’n glir sut y bydd effaith weledol bosibl gweithrediadau’n cael ei lleihau i’r eithaf trwy ddyluniad o ansawdd da.

Dylai cynllun priodol ar gyfer gwelliant ac adferiad buddiol ac ôl-ofal i’r tir fod yn rhan o unrhyw gynnig datblygu.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS2, AS4, AS5, AS10, AS11 ac AS13
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

6.12.10 Nid yw safleoedd cyflogaeth B2 yn lleoliadau addas ar gyfer rhai mathau o weithrediadau gwastraff ‘awyr agored’, yn enwedig tirlenwi neu resgompostio agored. Hefyd mae mathau eraill o gyfleusterau gwastraff, megis safleoedd amwynder dinesig, yn aml yn fwy addas i leoliadau i ffwrdd o ardaloedd adeiledig (fel yn achos y safle amwynder dinesig yn y Wern-ddu, Rhydaman).

6.12.11 Er mai safleoedd cyflogaeth B2 yw’r lleoliadau mwyaf ffafriol fel arfer ar gyfer cyfleusterau gwastraff ‘dan do’, mewn achosion lle cyflwynir cynigion ar gyfer gweithrediadau o’r fath ar safleoedd y tu allan i derfynau datblygu, bydd y polisi hwn yn berthnasol. Byddai’n rhaid i safleoedd gael eu lleoli’n gynaliadwy yn agos i rwydwaith prif ffyrdd (fel yn achos Safle Gwastraff Nant-y-caws). Mae’r diwydiant gwastraff yn cael ei arwain gan y farchnad, at ei gilydd; o ganlyniad bydd ystyried cynigion posibl yn y dyfodol ar gyfer cyfleusterau o’r fath ar safleoedd nad ydynt yn nosbarth B2 yn caniatáu mwy o hyblygrwydd yn nhermau dewis o leoliadau.

6.12.12 Mae’r mapiau Ardaloedd Chwilio yn Adolygiad 1af y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol yn dangos ardaloedd posibl ar gyfer cyfleusterau awyr agored a dan do. Anogir datblygwyr i ddefnyddio’r mapiau hyn i ddechrau er mwyn dod o hyd i fannau addas i gynnig datblygiadau rheoli gwastraff ynddynt.

6.12.13 Mae’n bosibl y caiff cynigion ar gyfer rhesgompostio agored eu hystyried yn addas fel rhan o gynlluniau arallgyfeirio ar ffermydd (gweler Polisi EMP4 Arallgyfeirio ar Ffermydd).

 

Brig y dudalen