Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin

5 Strategaeth a Pholisïau Strategol

Cyd-destun

5.1 Rôl Cynaliadwyedd

5.1.1 Mae fframwaith cyffredin y Deyrnas Unedig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yn dweud mai nod datblygu cynaliadwy yw: “enable all people throughout the world to satisfy their basic needs and enjoy a better quality of life without compromising the quality of life of future generations”. (Cyf: One Future Different Paths – D.E.F.R.A. 2005)

5.1.2 Mae hybu datblygu cynaliadwy wedi’i gorffori yng nghyfansoddiad Llywodraeth Cymru ac o’r herwydd mae dyletswydd statudol arni i ddatblygu Cymru mewn ffyrdd sy’n cyfrannu’n gynaliadwy at les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pobl. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai “Datblygu cynaliadwy yw’r broses a ddefnyddiwn i gyflawni nod cynaliadwyedd” (Cyf: Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned, Llywodraeth Cynulliad Cymru 2009). Yn holl bwysig, yn nhermau cynllunio defnydd tir a’r CDLl, mae’r datganiad hwn yn nodi nad yw datblygiadau’n niweidiol i gynaliadwyedd, ar yr amod bod y datblygiadau dan sylw’n cadw at egwyddorion cynaliadwyedd. Mae hyn yn dangos bod cysylltiad clir rhwng cynllunio defnydd tir a chynaliadwyedd ac yn unol â hynny nid ffrwyno a gwahardd datblygiadau yw rôl y CDLl, ond yn hytrach rheoli a llywio datblygiadau yn unol ag egwyddorion cynaliadwyedd.

5.1.3 Mae Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned (Mai 2009) yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu hybu datblygu cynaliadwy wrth arfer ei swyddogaethau. Mae’r ddogfen hon yn cadarnhau’r rhan flaenllaw sydd gan y system cynllunio defnydd tir i’w chwarae wrth sicrhau datblygu cynaliadwy yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae Cymru’n Un yn cynnig gweledigaeth ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru ac yn nodi sut y gellir gwireddu’r weledigaeth hon, fel a ganlyn:

5.1.4 Yn ôl y weledigaeth bydd Cymru Gynaliadwy yn:

5.1.5 Mae cynaliadwyedd a datblygu cynaliadwy’n ganolog i’r CDLl, ei gyfeiriad strategol a’i bolisïau. Wrth sylweddoli pa mor bwysig yw mynd i’r afael ag achosion ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ac wrth gyflawni strategaeth gynaliadwy, rhaid i’r CDLl gydbwyso’r ddarpariaeth a wneir ar gyfer twf economaidd a chydraddoldeb cymdeithasol yn erbyn yr angen i warchod a gwella’r amgylchedd. Nod y Strategaeth yw sicrhau bod lleoliadau, maint a mathau’r datblygiadau a ganiateir yn dilyn egwyddorion cynaliadwyedd ac yn cyfrannu at gyflawni gweledigaeth ac amcanion y CDLl. Mae’r Arfarniad o Gynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol yn gyfrwng pwysig i gyflawni hyn.

5.2 Y Cyd-destun Sirol

5.2.1 Mae Sir Gaerfyrddin yn sir amrywiol gydag economi a thirwedd amaethyddol yr ardaloedd gwledig yn cyferbynnu â’r ardal drefol a diwydiannol yn y de-ddwyrain. Fodd bynnag, gan ei bod yn sir wledig gan fwyaf, mae’r dwysedd poblogaeth yn isel, sef 75.7 o bobl i bob cilometr sgwâr, o’i gymharu â 140 o bobl i bob cilometr sgwâr yng Nghymru gyfan. Mae’r teneurwydd poblogaeth yn fwy amlwg yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin nag ydyw yn ne a dwyrain y Sir lle mae 65% o’r boblogaeth yn byw ar oddeutu 35% o’r tir.

5.2.2 Mae prif drefi’r sir yn cynnwys Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman ac oherwydd ei lleoliad daearyddol canolog, mae Caerfyrddin fel arfer yn diwallu anghenion ardaloedd gwledig y sir. Mae nifer o aneddiadau amrywiol eu maint yn aml yn gwneud cyfraniadau nodedig at anghenion a gofynion eu cymuned a’r cyffiniau. Mae yna nifer o bentrefi ac aneddiadau gwledig sy’n hunangynhaliol o ran cyfleusterau a gwasanaethau, ond mae aneddiadau eraill sy’n llai heb wasanaethau a chyfleusterau. Mae anghenion preswylwyr yn yr ardaloedd olaf hyn yn cael eu diwallu gan aneddiadau cyfagos fel arfer.

5.2.3 Mae cyfoeth amgylchedd naturiol a diwylliannol Sir Gaerfyrddin yn ystyriaeth ofodol bwysig wrth gynllunio ar gyfer dyfodol y sir, yn arbennig o ran y potensial ar gyfer twf a lleoli datblygiadau. Mae ardal y cynllun yn cynnwys safleoedd sydd wedi’u dynodi ar lefel ryngwladol i warchod a gwella gwerth pwysig o ran cadwraeth natur, yn ogystal â thirweddau trawiadol a threfi a phentrefi hanesyddol â nodweddion unigryw. Mae pwysigrwydd treftadaeth adeiledig y sir yn cael ei danlinellu gan y 27 o ardaloedd cadwraeth, 470 o Henebion Rhestredig (nodweddion o ddiddordeb diwylliannol a hanesyddol sy’n amrywio o rai Cynhanesyddol i rai Ôl-ganoloesol/Modern) a’r nifer fawr o adeiladau rhestredig. Mae hefyd nifer o safleoedd dynodedig o bwysigrwydd cadwraeth natur a bioamrywiaeth, gan gynnwys 7 Safle Cadwraeth Arbennig, 3 Ardal Gwarchodaeth Arbennig, 1 safle Ramsar, 82 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (ac mae 12 arall ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog), 5 Gwarchodfa Natur Genedlaethol, 5 Gwarchodfa Natur Leol a 7 tirwedd gofrestredig.

5.2.4 Yn Sir Gaerfyrddin, amaethyddiaeth yw’r prif ddylanwad ar y dirwedd wledig. Mae’r diwydiant amaethyddol, ac yn arbennig ffermio llaeth a defaid, yn golygu mai’r Sir hon yw un o’r ardaloedd amaethyddol pwysicaf yng Nghymru. Mae oddeutu 203,700 ha o dir yn Sir Gaerfyrddin wedi’i ddosbarthu’n dir amaethyddol. Tir amaethyddol gradd 3a a 4 sydd yma’n bennaf, er bod yna ddarn bach o dir gradd 2 yn ne-ddwyrain y Sir.

5.2.5 Ar ddyddiad sylfaen y CDLl (2006) amcangyfrifwyd mai 178,043 oedd poblogaeth y sir, gyda 78,213 o aelwydydd (amcanestyniad sail-2006 Llywodraeth Cymru). Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd set o amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd sail-2008, ond nododd y data mwyaf diweddar yng Nghyfrifiad 2011 mai 183,777 oedd poblogaeth Sir Gaerfyrddin, gyda 78,829 o aelwydydd.

5.2.6 Rhwng Cyfrifiad 2001 a Chyfrifiad 2011, cynyddodd poblogaeth Sir Gaerfyrddin 11,070, cododd nifer yr aelwydydd 5,781, a chynyddodd y stoc tai 6,969. Mae dosbarthiad presennol y boblogaeth a’r aelwydydd ar draws y sir yn adlewyrchu’n fras y ffurf drefol bresennol a’r cymunedau sefydledig, sydd yn eu tro’n adlewyrchu’r ymagwedd bolisi a nodir yn y CDU presennol a’r fframweithiau aneddiadau yng Nghynllun Gofodol Cymru.

5.2.7 O ran tir a safleoedd cyflogaeth presennol, mae’r rhan fwyaf yn yr Ardaloedd Twf diffiniedig (aneddiadau Haen 1) ac mae mwy na hanner (51%) y 169 o safleoedd a gafodd eu harolygu fel rhan o’r astudiaeth o dir cyflogaeth wedi’u lleoli yn yr ardaloedd hyn. Canfu’r astudiaeth fod 30% arall o’r holl safleoedd wedi’u lleoli yn y Canolfannau Gwasanaethau (aneddiadau Haen 2). Eang yw dosbarthiad safleoedd cyflogaeth ar draws ardaloedd gwledig, ac er bod y rhan fwyaf o’r safleoedd hyn yn fach, yn aml maent yn cyflawni rôl strategol bwysig yn lleol.

Y Strategaeth

5.2.8 Deilliodd y Strategaeth ar gyfer y CDLl o’r gwaith o ffurfio’r materion, y weledigaeth a’r amcanion strategol. Mae’n nodi sut i wireddu’r weledigaeth a’r amcanion strategol, a sut y byddir yn rheoli ac yn cynllunio ar gyfer y newidiadau yn Sir Gaerfyrddin dros gyfnod y Cynllun. Trwy ei bolisïau a’i gynigion mae’r Cynllun yn darparu ar gyfer y newidiadau hyn a’r lefelau twf priodol, boed ym meysydd preswyl, cyflogaeth ac ati, a lle byddai’r fath dwf yn dderbyniol. Gwneir hyn trwy nodi safleoedd ar gyfer defnyddiau tir penodol a thrwy ddynodi mannau sy’n deilwng o gael eu gwarchod.

5.2.9 Cafodd y gwaith o baratoi’r Cynllun ei lywio gan ganllawiau cenedlaethol a rhanbarthol a chyfrannodd cynlluniau a strategaethau ar bob lefel at ddatblygu sail dystiolaeth a gwybodaeth sy’n sylfaen i’r ffordd y’i lluniwyd. Roedd tystiolaeth ychwanegol wedi cael ei defnyddio a ddylanwadodd, yn llawn neu’n rhannol (gan ddibynnu ar berthnasedd) ar y broses o lunio’r cynllun ac a ddefnyddiwyd i ddatblygu’r strategaeth a chynnwys y Cynllun.

5.3 Datblygu Cynaliadwy a’r Newid yn yr Hinsawdd

5.3.1 Wrth gynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy i Sir Gaerfyrddin, mae’r CDLl yn ceisio adlewyrchu a hybu egwyddorion datblygu cynaliadwy. Mewn termau syml, mae datblygu cynaliadwy’n broses lle mae anghenion heddiw o ran datblygiad yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i wneud yr un peth. Wrth hybu datblygu cynaliadwy mae’r system gynllunio’n ceisio gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cymunedau. Er mwyn sicrhau datblygu cynaliadwy, mae angen mynd i’r afael ag achosion ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, gyda’r system gynllunio’n chwarae rhan bwysig yn genedlaethol ac yn lleol.

5.3.2 Wrth gynllunio ymlaen i 2021, mae CDLl Sir Gaerfyrddin yn derbyn effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd trwy gydnabod priodweddau unigryw’r sir a chynorthwyo i’w gwneud hi a’i chymunedau’n fwy cynaliadwy. Mae’r CDLl yn ceisio mynd i’r afael ag achosion ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn ein cymunedau trwy fabwysiadu egwyddorion a datblygu cynaliadwy.

5.3.3 Mae sail dystiolaeth y CDLl, gan gynnwys materion a ffactorau sbarduno allweddol y Cynllun, yn cadarnhau y bydd angen i’r Cynllun gynorthwyo i fynd i’r afael ag achosion y newid yn yr hinsawdd a chynorthwyo i sicrhau bod cymunedau’r sir yn gydnerth ac yn gallu ymaddasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Mae Tai (21%), Bwyd (27%) a Thrafnidiaeth (21%) i gyd â chyfran sylweddol o ôl troed ecolegol Sir Gaerfyrddin. 4.39 yw ôl troed ecolegol cyfartalog pob person yn Sir Gaerfyrddin; 4.41 yw’r cyfartaledd yng Nghymru. Mae Tai (30%) a Thrafnidiaeth (28%) yn gyfran sylweddol o ôl troed carbon y sir. Mae’r rhain i gyd yn faterion y mae CDLl Sir Gaerfyrddin yn ceisio cynorthwyo i fynd i’r afael â hwy trwy hybu Datblygu Cynaliadwy.

5.3.4 Mae Pennod 4 o ‘Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 (2014)’ yn cadarnhau pwysigrwydd bwrw ymlaen â ffordd ddeublyg o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd trwy gydnabod:

  1. achosion y newid yn yr hinsawdd – drwy weithredu ar frys i leihau allyriadau nwyon ty gwydr sy’n achosi’r newid yn yr hinsawdd er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf y newid yn yr hinsawdd; a
  2. sgil-effeithiau’r newid yn yr hinsawdd – effaith y newidiadau yn yr hinsawdd sydd eisoes yn rhan annatod o system yr hinsawdd a fydd yn codi yn sgil allyriadau yn y gorffennol. Mae CDLl Sir Gaerfyrddin mewn sefyllfa dda i gynorthwyo i fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd oherwydd bod egwyddorion datblygu cynaliadwy’n sail iddo.

5.3.5 Bydd y CDLl yn hybu egwyddorion cynaliadwyedd trwy:

5.4 Poblogaeth a Thai

5.4.1 Wrth baratoi’r CDLl roedd angen llunio dewisiadau ymarferol i ddarparu ar gyfer newid a thwf. Rhan bwysig o hynny yw’r gwaith sy’n gysylltiedig â pharatoi amcanestyniadau cadarn a dichonadwy o ran poblogaeth ac aelwydydd.

5.4.2 Wrth baratoi cynllun datblygu, dylai awdurdodau cynllunio lleol ddefnyddio Amcanestyniadau Llywodraeth Cymru o Aelwydydd Fesul Awdurdod Lleol fel man cychwyn ar gyfer asesu’r gofynion o ran tai (Polisi Cynllunio Cymru Paragraff 9.2.2, Argraffiad 7). Fodd bynnag, lle’r awdurdodau cynllunio lleol yw ystyried pa mor briodol yw’r amcanestyniadau i’w hardal hwy, ar sail yr holl ffynonellau tystiolaeth lleol. Caiff awdurdodau cynllunio lleol wyro o amcanestyniadau Llywodraeth Cymru os oes ganddynt dystiolaeth drylwyr a chyd-destun polisi cadarn. Gall awdurdodau cynllunio lleol hefyd lunio eu hamcanestyniadau eu hunain ar sail polisi, ond mae’n rhaid iddynt gyfiawnhau’r rhesymau dros wneud hynny.

5.4.3 Wrth gyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth sail-2006 Llywodraeth Cymru, am y tro cyntaf roedd y Llywodraeth yn cynhyrchu amcanestyniadau ar lefel awdurdodau unedol. Rhoddodd yr amcanestyniad hwn, oedd wedi’i seilio ar dueddiadau, amcangyfrif o faint y boblogaeth yn y dyfodol, ar sail rhagdybiaethau ynghylch genedigaethau, marwolaethau a mudo. Dangosodd amcanestyniad poblogaeth sail-2006 Llywodraeth Cymru mai 199,080 fyddai poblogaeth Sir Gaerfyrddin yn 2021. Wedi hynny cyhoeddwyd amcanestyniadau poblogaeth sail-2008 Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr amcangyfrifon diwygiedig ynghylch poblogaeth a mudo a ddarparwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (Mai 2010) fel rhan o’i rhaglen hirdymor o waith i wella ystadegau mudo a phoblogaeth. Dangosodd amcanestyniadau poblogaeth sail-2008 Llywodraeth Cymru ychydig o ostyngiad ym mhoblogaeth y sir yn 2021, sef 198,330. Dangosodd y trydydd amcanestyniad poblogaeth a gyhoeddwyd yn ystod y broses o lunio’r cynllun (amcanestyniadau poblogaeth sail-2011 Llywodraeth Cymru) boblogaeth o 193,874 yn 2021, sy’n ostyngiad sylweddol o’r amcanestyniadau cynharach. Defnyddiodd amcanestyniadau poblogaethsail-2011 Llywodraeth Cymru y dystiolaeth ddiweddaraf o’r holl ffynonellau oedd ar gael, gan gynnwys data o Gyfrifiad 2011.

5.4.4 Roedd amcanestyniadau aelwydydd sail-2006 Llywodraeth Cymru wedi eu seilio ar amcanestyniadau poblogaeth yr awdurdodau lleol (gweler uchod). Dyma’r tro cyntaf i amcanestyniadau aelwydydd gael eu cyhoeddi ar lefel awdurdodau unedol yng Nghymru. Rhoesant amcangyfrifon o nifer yr aelwydydd yn y dyfodol ar sail rhagdybiaethau ynghylch twf y boblogaeth a chyfansoddiad a maint aelwydydd yn y dyfodol. Mae rhagdybiaethau o’r fath wedi’u seilio ar dueddiadau yn y gorffennol a dangosodd yr amcanestyniadau beth allai ddigwydd pe bai tueddiadau diweddar yn parhau. Rhagwelodd amcanestyniadau aelwydydd sail-2006 Llywodraeth Cymru y byddai nifer yr aelwydydd newydd yn y sir yn cynyddu o 78,000 i 95,900 yn ystod cyfnod y cynllun. Roedd hyn yn gynnydd o ryw 17,900 (23%), sef rhyw 1,193 o aelwydydd bob blwyddyn. Roedd amcanestyniadau aelwydydd Awdurdodau Lleol sail-2008 Llywodraeth Cymru, er eu bod yn dangos gofyniad is o ran aelwydydd, yn dal i ragamcanu y bydd angen rhyw 1,146 o aelwydydd bob blwyddyn.

5.4.5 Ym mis Chwefror 2014 cyhoeddwyd amcanestyniadau aelwydydd Awdurdodau Lleol sail-2011 Llywodraeth Cymru, a ddangosodd gofyniad sylweddol is o ran aelwydydd, gan amcangyfrif y bydd angen 5,500 yn unig dros weddill cyfnod y Cynllun (2011 – 2021), sef 550 o aelwydydd bob blwyddyn ar gyfartaledd.

5.4.6 Wrth ymrwymo i adolygu ac ail-arfarnu’r amcanestyniadau i’r sir, mae’r Cyngor wedi nodi cyfle i roi prawf ar gadernid amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd Llywodraeth Cymru fesul awdurdodau lleol, a’r rhagdybiaethau sy’n sail i’r amcanestyniadau, ac ar yr un pryd caniatáu ar gyfer asesu pa mor addas ydynt i’r sir gyda’i chymysgedd nodweddiadol o’r gwledig a’r trefol.

5.4.7 Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd trwy’r ddogfen Population and Household Projections Report (Edge Analytics Ltd: Awst 2010); y ddogfen wedi’i diweddaru Carmarthenshire Demographic Forecasts 2011-2026 (Edge Analytics Ltd: Ionawr 2014) a chynnwys y Papur Pwnc diwygiedig ar Boblogaeth a Thai, mabwysiadwyd senario diwygiedig ar gyfer newid o ran y boblogaeth ac aelwydydd yn y sir i lywio’r CDLl. Defnyddiodd hwn y dystiolaeth ddiweddar i greu’r rhagdybiaethau am ffrydiau mudo yn y dyfodol, ond sicrhaodd gydbwysedd rhwng y mudo net uchel iawn a welwyd yng nghanol y degawd a’r sefyllfa yn 2009 pan gofnodwyd y mudo net isaf i Sir Gaerfyrddin ers 1993, ynghyd â’r holl ffynonellau data oedd ar gael ac oedd wedi’u cyhoeddi ers amcanestyniadau sail-2008 Llywodraeth Cymru.

5.4.8 Fel rhan o’r archwiliad o’r Cynllun, ystyriwyd goblygiadau amcanestyniadau aelwydydd Awdurdodau Lleol sail-2011 Llywodraeth Cymru. Yn hyn o beth dylid troi at y Papur Egluro Tai (Dogfen Archwilio H2P): Ebrill 2014 a geisiodd ystyried y gostyngiad rhagamcanol a nodwyd yn amcanestyniadau aelwydydd sail-2011 yn erbyn cyd-destun strategol y Cynllun a’i amcanion.

5.4.9 Nododd y dystiolaeth ynghylch CDLl Sir Gaerfyrddin ofyniad o ran tai o 15,197 dros gyfnod y cynllun. Mae dadansoddiad manwl o’r amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd a’r fethodoleg ar gael yn y papur uchod.

5.4.10 Bydd gwaith monitro data sy’n dod i’r amlwg o Gyfrifiad 2011 yn parhau, gyda golwg penodol ar ddatblygu dealltwriaeth o unrhyw newidiadau mewn patrymau poblogaeth a thueddiadau demograffig yn y dyfodol. Fodd bynnag, rhoddwyd sylw i ymddangosiad yr amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd sail-2011 wrth lunio’r CDLl, a thrwy archwilio’r Cynllun. Yn hyn o beth, rhoddwyd sylw dyledus i’w goblygiadau o fewn y sail dystiolaeth a ymatebodd yn unol â hynny.

5.5 Fframwaith Gofodol a Hierarchaeth Aneddiadau

5.5.1 Mae’r CDLl yn adeiladu ar nodweddion gofodol ac amrywiaeth y sir a’i chymunedau ac yn ceisio cyfuno’r patrwm aneddiadau gofodol presennol a fframweithiau cynlluniau datblygu blaenorol, ac ar yr un pryd parhau i adlewyrchu a hybu cynaliadwyedd. Mae hefyd yn rhoi sylw i Gynllun Gofodol Cymru a’i fframweithiau aneddiadau a’i strategaethau gofodol. Mae’n ceisio rhoi ar waith fframwaith defnydd tir sy’n adlewyrchu a hybu hygyrchedd i wasanaethau a chyfleusterau hanfodol, ac felly lleihau’r angen i deithio a chynyddu cynhwysiant cymdeithasol. Mae’n cynrychioli ymagwedd dan arweiniad cynllun sydd wedi’i seilio’n gadarn ar y cyd-destun gofodol presennol gyda’r nod o sicrhau aneddiadau hunangynhaliol hyfyw a chymunedau gwledig cynaliadwy. Mae hyn yn caniatáu ar gyfer y posibilrwydd o gyfuno cyfleusterau sy’n bodoli eisoes, ac yn ei gwneud yn bosibl cefnogi, cadw a pharhau i ddarparu cyfleusterau, gwasanaethau a chyfleoedd cyflogaeth hyfyw mewn lleoliadau hygyrch a phriodol. Mae hefyd yn ei gwneud yn bosibl datblygu economïau lleol cynaliadwy.

5.5.2 Canolbwynt y ffurf ofodol bresennol a dosbarthiad canlyniadol y ddarpariaeth tai a chyflogaeth bresennol yw canolfannau trefol sefydledig Llanelli, Caerfyrddin a grwp aneddiadau Rhydaman/Cross Hands. Mae canolbwyntio ar yr aneddiadau hyn fel ‘Ardaloedd Twf’ dynodedig yn adlewyrchu eu statws a’u priodoleddau o ran cynaliadwyedd a hygyrchedd. Mae hygyrchedd da gan yr Ardaloedd Twf diolch i gysylltiadau â’r rhwydwaith priffyrdd strategol a’r rhwydweithiau rheilffyrdd yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus.

5.5.3 Mae’r tair Ardal Dwf hyn yn cael eu hategu yn yr hierarchaeth gan amrywiaeth o aneddiadau o wahanol feintiau. Mae eu safleoedd yn yr hierarchaeth yn cael eu pennu gan eu rhinweddau yn nhermau cynaliadwyedd a’r gwasanaethau a’r cyfleusterau maent yn eu cynnig. Maent yn adlewyrchu’r dosbarthiad trefol gofodol presennol a’r dylanwadau hanesyddol amrywiol sydd wedi siapio ffurf ofodol y sir. Mae gweddill yr aneddiadau (a nodir yn y cynllun hwn) yn hygyrch i wahanol raddau gan ddibynnu ar eu safleoedd yn yr hierarchaeth. Mae’r hierarchaeth, wrth adlewyrchu’r patrwm aneddiadau presennol, yn mynd ati i ddosbarthu tir ar gyfer tai a chyflogaeth trwy ganolbwyntio ar ardaloedd â phoblogaeth fwy a gwasanaethau a chyfleusterau sefydledig. Mae’r CDLl yn parhau i ganolbwyntio twf a datblygiadau ar yr aneddiadau mwyaf cynaliadwy a hygyrch, gan gyfeirio’r rhan fwyaf o’r twf i’r ardaloedd twf dynodedig a dosbarthu’r gweddill yn gymesur trwy’r hierarchaeth. Bydd hyn yn cyfrannu at leihau nifer a hyd y teithiau mae eu hangen i fanteisio ar gyfleusterau a gwasanaethau allweddol, gyda gostyngiad o ganlyniad yn allyriadau nwyon ty gwydr. Roedd hyn yn elfen bwysig wrth ddiffinio’r hierarchaeth, sydd hefyd wedi cymryd i ystyriaeth elfen cynaliadwyedd, maint, poblogaeth, lleoliad, argaeledd gwasanaethau a chyfleusterau, capasiti a hygyrchedd pob anheddiad.

5.5.4 Mae’r CDLl yn cydnabod amrywiaeth y sir, ei chymunedau a’i haneddiadau (yn arbennig y cyd-destun gwledig) ac yn adlewyrchu’r angen i barchu a chynnal y fath ardaloedd. Un egwyddor greiddiol o gyd-destun gofodol yw cydnabod cyfraniad aneddiadau dynodedig llai. Mae’r fath aneddiadau, lle bo’n briodol ac yn ôl lefelau rhyngddibyniaeth, wedi cael eu grwpio ynghyd i ffurfio un “gymuned gynaliadwy”. Mae grwpiau fel hyn yn ei gwneud yn bosibl dyrannu datblygiadau yng nghyd-destun y gymuned gynaliadwy gyfan, yn hytrach na fesul aneddiadau unigol. Mae hyn yn darparu ar gyfer lefel datblygiadau fwy cynaliadwy. Yn hyn o beth ym mhob cymuned gynaliadwy, câi dyraniadau tir eu nodi yn yr anheddiad neu aneddiadau mwyaf cynaliadwy, gan gymryd ystyriaeth ar yr un pryd o unrhyw Ganolfan Wasanaethau Allweddol ddynodedig gyfagos. Mae presenoldeb gwasanaeth neu gyfleuster allweddol (sef swyddfa bost, siop leol, ysgol gynradd a neuadd gymunedol/gyhoeddus) mewn anheddiad neu grwp o aneddiadau’n ystyriaeth arwyddocaol wrth nodi pa mor briodol yw anheddiad penodol i dderbyn dyraniadau tai’r farchnad agored (safle pump neu fwy). Yn hyn o beth byddai absenoldeb yr holl wasanaethau a chyfleusterau uchod yn golygu o ganlyniad na fyddid yn barnu bod yr anheddiad yn briodol i dderbyn dyraniad tai’r farchnad agored (ac eithrio’r rheiny lle mae caniatâd cynllunio mewn grym eisoes) (gweler Papur Pwnc 9: Terfynau Datblygu).

5.5.5 Mae Polisi Strategol SP3 yn diffinio’r hierarchaeth a’i haneddiadau. Mae’r strategaeth yn cefnogi dosbarthiad twf (neu ddatblygiadau) sydd o faint a natur briodol i bob haen o’r hierarchaeth. Mae’n ceisio darparu ar gyfer twf mewn modd sy’n gyson â’r hierarchaeth, gyda datblygiadau’n cael eu dosrannu yn unol â gallu ac addasrwydd yr aneddiadau i ddarparu ar gyfer twf. Mae ffurf adeiledig aneddiadau yn yr hierarchaeth yn cael ei diffinio trwy ddefnyddio terfynau datblygu sy’n rhoi sicrwydd ac eglurder ynghylch sut a ble y lleolir twf (Polisi GP2).

5.5.6 Bernir bod grwpiau o anheddau nad ydynt wedi’u dynodi fel aneddiadau yn gefn gwlad agored a byddant yn destun y polisïau perthnasol i’r ardal gyfan.

5.5.7 Yn nhermau cyflogaeth, mae’r CDLl yn cydnabod dosbarthiad presennol tir cyflogaeth ac mae safleoedd o’r fath wedi’u diogelu er mwyn sicrhau eu bod ar gael i ddiwallu anghenion o ran cyflogaeth, yn y presennol a’r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys pwyslais ar ddiogelu safleoedd cyflogaeth mewn lleoliadau hygyrch sy’n cael eu gwasanaethu’n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn cydnabod cyfraniad safleoedd sy’n bodoli eisoes at fodloni gofynion o ran cyflogaeth ledled y sir, yn arbennig wrth ddarparu amrywiaeth a dewis. Mae’r Cynllun hefyd yn dyrannu portffolio o safleoedd cyflogaeth arfaethedig sydd, ar yr un pryd â chanolbwyntio ar briodoleddau’r ardaloedd twf o ran cynaliadwyedd, hefyd yn darparu ar gyfer aneddiadau eraill yn yr hierarchaeth. Mae’r ffordd y dosberthir y ddarpariaeth yn atgyfnerthu’r Strategaeth, yn creu cyfleoedd ar gyfer busnesau newydd a thwf ac yn caniatáu ar gyfer rhywfaint o hyblygrwydd o ran faint o dir sydd ar gael ar draws yr hierarchaeth. Mae’r Cynllun hefyd yn darparu ar gyfer anghenion o ran cyflogaeth mewn ardaloedd gwledig mewn ffordd sy’n ymateb i nodweddion ardaloedd gwledig a gofynion posibl busnesau ac yn helpu i gefnogi’r economi wledig.

5.5.8 Mae’r Cynllun yn cydnabod, er mwyn hwyluso twf cyflogaeth ledled y sir, fod angen dynodi safleoedd mewn amrywiaeth fawr o leoliadau fel nad yw busnesau sy’n bodoli eisoes a busnesau posibl yn cael eu llesteirio gan ddiffyg cyfleoedd i ddatblygu. Mae’n ceisio canolbwyntio ar leoliadau hygyrch mewn aneddiadau diffiniedig a’r angen am gysylltiadau â ffyrdd amgen o deithio, er gan dderbyn yr heriau mae amrywiaeth ddaearyddol y sir yn eu creu.

5.5.9 Yn unol ag egwyddorion cynaliadwyedd, mae’r CDLl yn ceisio sicrhau bod amrywiaeth fawr o gyfleusterau manwerthu a chyfleusterau masnachol cysylltiedig yn rhesymol hygyrch i holl breswylwyr y sir trwy ddewis o ffyrdd o deithio.

5.5.10 Mae’r strategaeth manwerthu’n cydnabod y bydd cyfleoedd yn parhau i adlewyrchu hierarchaeth darpariaeth, yn amrywio o’r Ardaloedd Twf lle mae’r canolfannau manwerthu’n gwasanaethu dalgylchoedd ehangach, i’r clystyrau pentrefi lle mae siopau pentref yn darparu nwyddau cyfleus hanfodol i’r ardal union gyfagos.

5.5.11 Felly nod strategaeth manwerthu’r CDLl yw atgyfnerthu cystadleurwydd ac atyniad y canol trefi a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn fywiog ac yn hyfyw. Mae hefyd yn ceisio sicrhau hyfywedd cyfleusterau mewn pentrefi sydd mewn sefyllfa i gael eu cefnogi gan ddosbarthiad arfaethedig tai a thwf poblogaeth ac wrth wneud hynny, hwyluso ffurfio cymunedau ac economïau lleol cynaliadwy. Felly mae’r prif faterion o ran y ddarpariaeth manwerthu yn Sir Gaerfyrddin yn ymwneud â:

5.5.12 Dylid edrych ar y fath ystyriaethau yn erbyn cefndir o newidiadau mewn patrymau siopa, gyda mwyfwy o bwysau am ddatblygiadau y tu allan i’r canol a mwy o ddefnydd o geir gan greu tuedd at ganoli yn y trefi mwy oherwydd bod pobl yn gallu teithio mwy.

5.5.13 Cydnabyddir bod angen llunio cynllun sy’n sicrhau’r cyfle mwyaf posibl i ddarparu system trafnidiaeth effeithlon, effeithiol, diogel ac integredig. Yn hyn o beth, nod y Strategaeth yw cydgysylltu defnydd tir er mwyn:

5.5.14 Mae’r cysylltiadau rhwng trafnidiaeth a chyflogaeth yn glir o ran sicrhau’r hygyrchedd mwyaf posibl. Yn hyn o beth cydnabyddir y byddai gwelliannau i gysylltiadau trafnidiaeth rhwng rhannau o Sir Gaerfyrddin a’r tu hwnt yn cynnig buddion posibl o ran denu busnesau a chyflogwyr newydd i’r ardal. Mae’r Cyngor yn cydnabod rôl y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a strategaethau rhanbarthol eraill gan gynnwys y rheiny trwy’r Ddinas-ranbarth (gan gynnwys y Cynllun Trafnidiaeth Lleol arfaethedig) a bydd yn ceisio, trwy ymagwedd strategol integredig, darparu ar gyfer cyfleoedd o’r fath dros gyfnod y cynllun.

5.6 Ardaloedd i’w Gwarchod

5.6.1 Mae’r CDLl yn canolbwyntio datblygiadau ar aneddiadau sefydledig, gan gydnabod yr angen i warchod cefn gwlad agored, ac ar yr un pryd yn sicrhau darpariaeth briodol ar gyfer rhai defnyddiau penodol (gan gynnwys cynigion ar gyfer eithriadau) os bernir bod lleoliad gwledig yn hanfodol.

5.6.2 Mae’r Cynllun yn ceisio gwarchod a gwella gwerth Sir Gaerfyrddin o ran cadwraeth natur a bioamrywiaeth, gan gynnwys ei chyfuniad gwych o gynefinoedd a rhywogaethau. Mae hefyd yn ceisio gwarchod a gwella amgylchedd adeiledig a hanesyddol y sir, y nodweddion hynny sy’n cyfrannu at ei chymeriad a thirweddau’r ardal sydd o ansawdd mor uchel.

5.6.3 Mae’r Cynllun hefyd yn adlewyrchu’r angen i ddiogelu natur unigryw a chymeriad ardaloedd yn y sir trwy gadw mannau agored a nodweddion sy’n cyfrannu at amwynder a phriodweddau hanfodol ardaloedd lleol ac aneddiadau.

5.6.4 I gloi, wrth ddyrannu safleoedd ar gyfer eu datblygu mae’r CDLl yn cydnabod pwysigrwydd gwarchod a gwella’r amgylchedd, boed yr amgylchedd naturiol neu’r amgylchedd adeiledig hanesyddol. Cydnabyddir gwerth dynodiadau cenedlaethol a rhyngwladol a hefyd y mannau hynny sydd o werth lleol. Mae’r angen i gydbwyso gofynion twf yn erbyn yr angen i warchod a gwella’r priodweddau amgylcheddol yn her ganolog ac yn un mae’r Strategaeth yn ceisio mynd i’r afael â hi.

5.7 Safleoedd Strategol

5.7.1 Er mwyn cefnogi Strategaeth y CDLl, mae rhai safleoedd strategol penodol wedi cael eu dynodi a chânt eu nodi ym Mholisi Strategol SP4. Mae’r safleoedd hyn wedi cael eu dynodi trwy gymryd i ystyriaeth faterion yn ymwneud â’u maint, eu natur a’u lleoliad strategol. Nodir diffiniad safle strategol, a’r dull o benderfynu pa safleoedd sy’n gwneud cyfraniad priodol at y strategaeth, yn y fethodoleg asesu safleoedd.

5.7.2 Mae’r broses o ddethol a gwerthuso pob safle a ddyrennir yn y Cynllun hwn wedi bod yn drwyadl. Wrth benderfynu rhoddwyd ystyriaeth lawn i rinweddau a chydnawsedd strategol safleoedd a hefyd edrychwyd ar gyfyngiadau posibl, ymarferoldeb a phriodoldeb yn nhermau cynllunio.

5.8 Elfennau’r Strategaeth - Crynodeb

5.8.1 Rhoddir crynodeb o elfennau allweddol y strategaeth isod:

Ffigwr 6
Ffigwr 6: CDLl Sir Gaerfyrddin – Diagram Allweddol

5.9 Polisïau Strategol

5.9.1 Mae’r polisïau strategol wedi cael eu llunio gan roi sylw dyledus i weledigaeth ac amcanion strategol y Cynllun ac maent yn gyfrannwr hanfodol at y gwaith o weithredu’r strategaeth. Nid y gyfres lawn o bolisïau strategol yw hyn. Dim ond y rhai o natur strategol ydynt a chânt eu hategu gan y polisïau a chynigion manwl a nodir yn adrannau diweddarach y Cynllun hwn.

5.9.2 Dylid darllen y polisïau strategol ar y cyd gyda’r polisïau penodol a manwl sy’n dilyn. Wrth ystyried y polisïau strategol, rhaid cymryd i ystyriaeth y potensial i effeithio ar y rhwydwaith safleoedd Ewropeaidd a rhywogaethau gwarchodedig. Yn y CDLl caiff effeithiau posibl o’r fath eu lliniaru trwy’r polisïau strategol a phenodol perthnasol. Nid yw hyn yn dileu’r angen am ragor o Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd ar lefel haen cynllunio is (lefel cais cynllunio / prosiect).

Lleoedd Cynaliadwy

5.9.3 Mae’r strategaeth yn adlewyrchu uchelgeisiau ac amcanion y Strategaeth Gymunedol ac egwyddorion cynaliadwyedd. Wrth wneud hynny, mae’n adlewyrchu’r angen i greu cymunedau ac aneddiadau sy’n gynaliadwy. I’r perwyl hwn mae’r strategaeth yn cydnabod y gofyniad i gyfeirio twf a datblygiadau i aneddiadau a lleoliadau lle mae gwasanaethau a chyfleusterau ar gael. Cydnabyddir y cyfraniad y gall datblygiadau newydd ei wneud i sicrhau bod cyfleusterau’n dal i fod yn hyfyw mewn trefi a phentrefi yn y Sir. Bydd y Strategaeth trwy hynny’n hybu cynnydd cymdeithasol trwy ddarparu ar gyfer adeiladu cymunedau cynhwysol sydd â mynediad da i gyfleusterau. Bydd hyn yn lleihau’r angen i deithio ac felly’n sicrhau buddion amgylcheddol cysylltiedig.

5.9.4 Mae polisi SP 1 yn ceisio sicrhau bod cynigion ar gyfer datblygiadau’n adlewyrchu agweddau creiddiol y Strategaeth a bod pob cynnig ar gyfer datblygiad yn rhoi sylw i, ac yn cyfrannu at, y gwaith o gyflawni amcanion y Cynllun.

5.9.5 Mae’r Cynllun yn ceisio creu cymunedau ac amgylcheddau diogel ac mae dylunio da’n ganolog i gyflawni’r amcan hwn. Dylid troi at bolisi GP1 i weld y gofynion o ran dylunio a datblygu a chaiff ei ategu a’i adlewyrchu yn y canllawiau cynllunio atodol ynghylch Dylunio.

5.9.6 Bydd yn ofynnol i bob cynnig fodloni egwyddorion dylunio cyffredinol fel y’u nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru Argraffiad 7 a TAN12: Dylunio. Dylid rhoi sylw penodol i Adran 4.11 o Bolisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7: sy’n rhoi canllawiau ar weithredu’r cynllunio ar gyfer adeiladau cynaliadwy. Caiff Canllawiau Cynllunio Atodol eu cynhyrchu ar ôl i’r Cynllun gael ei fabwysiadu i gynorthwyo ag ystyried materion yn ymwneud â dylunio cynaliadwy o ansawdd da. Dylid rhoi sylw hefyd i bolisi SP2 a pholisïau a chynigion eraill y Cynllun hwn.

SP1 Lleoedd Cynaliadwy

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau’n cael eu cefnogi os ydynt yn adlewyrchu egwyddorion datblygu a dylunio cynaliadwy trwy:

  1. Ddosbarthu datblygiadau i leoliadau cynaliadwy yn unol â’r fframwaith aneddiadau, gan gefnogi rolau a swyddogaethau’r aneddiadau dynodedig;
  2. Hybu, lle bo’n briodol, defnyddio tir yn effeithlon, gan gynnwys safleoedd a ddatblygwyd o’r blaen;
  3. Integreiddio â’r gymuned leol, gan gymryd cymeriad ac amwynder i ystyriaeth yn ogystal ag ystyriaethau diwylliannol ac ieithyddol;
  4. Parchu, adlewyrchu a, lle bynnag y bo’n bosibl, gwella’r cymeriad a’r nodweddion unigryw lleol;
  5. Creu mannau diogel, deniadol a hygyrch sy’n cyfrannu at iechyd a lles pobl ac yn cadw at arferion gorau o ran dylunio trefol;
  6. Hybu seilwaith trafnidiaeth lesol a theithio diogel a hwylus yn arbennig trwy gerdded a beicio;
  7. Defnyddio dulliau adeiladu cynaliadwy, lle bo’n ymarferol;
  8. Gwella lles cymdeithasol ac economaidd;
  9. Gwarchod a gwella gwerth bioamrywiaethol yr ardal a lle bo’n briodol, ceisio integreiddio cadwraeth natur i ddatblygiadau newydd.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS3, AS4, AS7, AS9, AS11, AS13, AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.


Y Newid yn yr Hinsawdd

5.9.7 Mae’r angen i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn her sylfaenol os yw datblygu cynaliadwy i gael ei gyflawni. Bydd ei oblygiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn ddifrifol a bydd peidio â mynd i’r afael ag ef yn golygu y bydd unrhyw ymdrech i gynllunio ar gyfer cynaliadwyedd yn aflwyddiannus (Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 7: Adran 4.2). Mae’r newid yn yr hinsawdd a’r effeithiau ar Gymru a ragwelir gan Raglen Effeithiau Hinsawdd y DU yn creu heriau difrifol i’r system gynllunio. Wrth fynd i’r afael â hwy, mae Polisi Cynllunio Cymru’n nodi cyfres o amcanion y dylid eu cymryd i ystyriaeth wrth baratoi cynllun datblygu.

5.9.8 Mae’r CDLl yn categoreiddio aneddiadau i hierarchaeth sy’n adlewyrchu eu cynaliadwyedd cymharol yn ôl argaeledd gwasanaethau neu gyfleusterau neu drwy fuddion cyffredinol o ran hygyrchedd. Nod un o uchelgeisiau’r Cynllun sef lleihau’r angen i deithio, yn arbennig mewn ceir modur preifat, a’i rôl o gyfrannu at hwyluso strategaeth trafnidiaeth integredig, yw cyfeirio datblygiadau i leoliadau priodol sy’n fodd i gyflawni hynny.

5.9.9 Roedd effaith bosibl perygl llifogydd yn ystyriaeth bwysig wrth asesu pa mor briodol yw safleoedd i gael eu cynnwys yn y CDLl. Yn hyn o beth mabwysiadwyd dull rhagofalus wrth ddynodi safleoedd i’w cynnwys yn y Cynllun (Cyf: Methodoleg Asesu Safleoedd – Dogfen a Gyflwynwyd CSD45). Dylid rhoi sylw i sail dystiolaeth y CDLl ac yn fwyaf nodedig yr Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd (Dogfen a Gyflwynwyd CSD109 – CSD114).

5.9.10 Wrth ystyried unrhyw gynigion mewn perthynas â llifogydd rhoddir sylw i ddarpariaethau Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 - Pennod 13 a TAN15: Datblygu a Pherygl Llifogydd sy’n darparu canllawiau ar asesu datblygiadau sydd mewn perygl o lifogydd. Yn achos cynigion y mae perygl llifogydd yn effeithio arnynt, bydd yn ofynnol cyflwyno Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd fel rhan o unrhyw gais a bydd y Cyngor yn ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru. Os yw perygl llifogydd yn effeithio ar ran o safle, dylai’r datblygwr roi sylw dyledus i effaith y perygl o’i chymharu â pha mor ddatblygadwy yw gweddill y safle a lle bo’n briodol dylai gyflawni’r gwaith tystiolaethol angenrheidiol (gan gynnwys asesiad o ganlyniadau llifogydd a/neu arolwg topograffigol) gan fodloni Cyfoeth Naturiol Cymru. Dylid rhoi sylw i Bolisi EP3 mewn perthynas â Draenio Cynaliadwy.

5.9.11 Disgwylir i ddatblygiadau arddangos egwyddorion dylunio da i hybu defnyddio adnoddau’n effeithlon gan gynnwys lleihau gwastraff a chynhyrchu llygredd a defnyddio ynni mor effeithlon ag sy’n bosibl a defnyddio adnoddau eraill yn effeithlon. Disgwylir i gynigion datblygu wneud defnydd llawn a phriodol o dir. Dylai effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd fod yn ganolog i’r broses dylunio, gan gynnwys y cyfraniad y gall lleoliad, dwysedd, patrwm a ffurf adeiledig ei wneud at ddatblygiadau sy’n ymateb i’r newid yn yr hinsawdd.

5.9.12 Mae Polisi Cynllunio Cymru’n nodi canllawiau clir yn nhermau gofynion o ran datblygiadau sy’n ymateb i’r newid yn yr hinsawdd ac adeiladau cynaliadwy. Dylid cyfeirio at y Canllaw Ymarferol: Cynllunio ar gyfer Adeiladu Cynaliadwy (LlC, 2014).

5.9.13 Dylid rhoi sylw hefyd i bolisïau SP1 a GP1 a pholisïau a chynigion eraill y Cynllun hwn.

SP2 Y Newid yn yr Hinsawdd

Bydd cynigion datblygu sy’n ymateb i achosion ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, yn eu gwrthsefyll, yn ymaddasu iddynt ac yn eu lleihau, yn cael eu cefnogi. Yn benodol bydd cynigion yn cael eu cefnogi os ydynt:

  1. Yn cadw at yr hierarchaeth gwastraff, ac yn benodol lleihau gwastraff;
  2. Yn hybu defnyddio adnoddau (gan gynnwys dwr) yn effeithlon;
  3. Yn adlewyrchu egwyddorion trafnidiaeth gynaliadwy ac yn lleihau’r angen i deithio, yn arbennig mewn ceir modur preifat;
  4. Yn osgoi neu, lle bo’n briodol, yn lleihau perygl llifogydd gan gynnwys ymgorffori mesurau fel SDCau a dylunio sy’n gwrthsefyll llifogydd;
  5. Yn hybu’r hierarchaeth ynni trwy leihau’r galw am ynni, hybu effeithlonrwydd ynni a chynyddu’r cyflenwad ynni adnewyddadwy;
  6. Yn ymgorffori atebion dylunio priodol sy’n ymateb i’r newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys cyfeiriad, patrwm, dwysedd ac atebion carbon isel (gan gynnwys dyluniad a dulliau adeiladu) a defnyddio dulliau adeiladu cynaliadwy os yw’n ymarferol.

Gwrthwynebir cynigion ar gyfer datblygiadau sydd wedi’u lleoli mewn mannau lle ceir perygl llifogydd oni fônt yn gyson â darpariaethau TAN 15.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS2, AS4, AS5 ac AS10
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Fframwaith Aneddiadau

5.9.14 Mae fframwaith aneddiadau’r CDLl yn deillio o ystyriaethau strategol ac yn cydnabod y pwysigrwydd a roddir i gynaliadwyedd. Mae’n cydnabod cyfraniad posibl aneddiadau dynodedig at y gwaith o weithredu’r strategaeth yn ôl ffactorau fel maint, lleoliad a nodweddion eraill sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, yn arbennig argaeledd gwasanaethau a chyfleusterau. (Cyf: y Diagram Allweddol). Dylid darllen y polisi canlynol a’i hierarchaeth aneddiadau ar y cyd gyda’r Strategaeth a’r polisïau a chynigion a geir yn y Cynllun hwn.

Ardaloedd Twf

5.9.15 Mae statws yr aneddiadau Ardaloedd Twf yn adlewyrchu eu poblogaethau mawr ac argaeledd amrywiaeth fawr o wasanaethau a chyfleusterau yn y cyd-destun strategol. Mae’r aneddiadau hyn yn cael eu gwasanaethu’n dda gan y cyfleusterau hynny sy’n hanfodol i gynnal egwyddorion cynaliadwyedd ac yn gallu darparu ar gyfer twf cymesur o fawr. Maent yn ardaloedd trefol mawr a sefydledig a saif ar lwybrau trafnidiaeth cynaliadwy sy’n gwasanaethu ardaloedd y tu hwnt i’w dalgylchoedd lleol. Caiff eu statws rhanbarthol neu isranbarthol ei gydnabod trwy Gynllun Gofodol Cymru. Dylid rhoi sylw i Atodiad 1 mewn perthynas â’r rôl, swyddogaeth ac ystyriaethau eraill ar gyfer aneddiadau Ardaloedd Twf.

Canolfannau Gwasanaethau

5.9.16 Mae aneddiadau Canolfannau Gwasanaethau mewn lleoliadau da ar goridorau trafnidiaeth cynaliadwy ac mae ganddynt amrywiaeth fawr o gyfleusterau a gwasanaethau sy’n diwallu anghenion yr anheddiad a dalgylch lleol ehangach. Caiff eu statws yn y sir a’u cyfraniad rhanbarthol eu hadlewyrchu yng Nghynllun Gofodol Cymru. Dylid rhoi sylw i Atodiad 1 mewn perthynas â’r rôl, swyddogaeth ac ystyriaethau eraill ar gyfer aneddiadau Canolfannau Gwasanaethau.

Canolfannau Gwasanaethau Lleol

5.9.17 Saif yr aneddiadau hyn ar neu’n agos i goridorau trafnidiaeth cynaliadwy ac mae ganddynt gyfleusterau a gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y gymuned leol, sydd yn aml yn cynnwys darpariaeth gofal iechyd sylfaenol ac anghenion siopa lleol. Caiff nifer o’r aneddiadau hyn eu cydnabod hefyd yng Nghynllun Gofodol Cymru. Nodir Canolfannau Gwasanaethau Lleol yn Atodiad 1 ynghyd â disgrifiad o’u nodweddion, rôl a swyddogaeth allweddol.

Cymunedau Cynaliadwy

5.9.18 Mae un agwedd ofodol greiddiol o Strategaeth y CDLl yn ymwneud â chyfraniad aneddiadau llai. Mae’r fath aneddiadau sydd â lefelau o ryngddibyniaeth, sy’n bodoli neu a allai fodoli, wedi cael eu grwpio ynghyd i ffurfio un “Gymuned Gynaliadwy”. Mae’r fath grwpiau’n caniatáu ystyried rhagolygon ar gyfer twf a datblygiadau yng nghyd-destun y Gymuned Gynaliadwy gyfan yn unol â’i swyddogaeth ar y cyd, yn hytrach nag ar sail aneddiadau unigol. Ym mhob cymuned gynaliadwy, nodir dyraniadau tir yn yr anheddiad neu aneddiadau mwyaf cynaliadwy sy’n meddu ar fwy o wasanaethau a chyfleusterau hanfodol, a lle mae cyfleoedd addas i ryddhau tir i’w ddatblygu. Nid oes modd grwpio’r holl aneddiadau’n rhwydd (er enghraifft oherwydd eu lleoliad daearyddol), ac mewn achosion o’r fath maent wedi cael eu dynodi’n aneddiadau unigol. Lle bo’n briodol mae ‘Canolfan Gwasanaethau Allweddol’ wedi cael ei dynodi i gynnal arlwy cynaliadwyedd y gymuned gynaliadwy ymhellach.

SP3 Dosbarthiad Cynaliadwy – Fframwaith Aneddiadau

Bydd y ddarpariaeth ar gyfer twf a datblygiadau mewn lleoliadau cynaliadwy yn unol â’r Fframwaith Aneddiadau canlynol:

Ardaloedd Twf:
Caerfyrddin
(yn cynnwys Abergwili, Llangynnwr, Tre Ioan a Threfychan)
Llanelli
(yn cynnwys Llangennech)
Rhydaman/Cross Hands
(yn cynnwys y Tymbl, Llandybie, Penygroes, Ty-croes, Betws, Blaenau/Cae’r-bryn, Drefach, Capel Hendre, Cefneithin, Gorslas, Saron a Chastell y Rhingyll

Canolfannau Gwasanaethau:
Porth Tywyn/Pen-bre
Llandeilo (yn cynnwys Ffairfach, Rhos-maen a Nantyrhibo)
Llanymddyfri
Castell Newydd Emlyn
Sanclêr (yn cynnwys Pwll Trap)
Hendy-gwyn ar Daf

Canolfannau Gwasanaethau Lleol:
Brynaman
Glanyfferi
Glanaman/Garnant
Hendy
Cydweli
Lacharn
Llangadog
Llanybydder
Pont-iets/Meinciau/Pont-henri
Pontyberem/Bancffosfelen
Trimsaran

Cymunedau Cynaliadwy:

Cymuned Gynaliadwy (CG) Anheddiad Gwasanaethau Allweddol (os nad yw yn y gymuned gynaliadwy)
CG1
Pen-boyr
Drefelin
Cwm-pen-graig
Waungilwen
Drefach/Felindre
 
CG2
Pentre-cwrt
Llangeler
Saron
Rhos
 
CG3
Blaenwaun
Cwmfelin Mynach
Cwmbach
Llanboidy
 
CG4
Efailwen
Croes Glandy
Llanglydwen
 
CG5
Llanfallteg
Cwmfelin-boeth
Hendy-gwyn ar Daf
CG6
Cenarth
Pentrecagal
Castell Newydd Emlyn
CG7
Capel Iwan
 
CG8
Tre-lech
 
CG9
Cynwyl Elfed
Cwmduad
Hermon
 
CG10
Talog
Abernant
Blaen-y-coed
 
CG11
Meidrim
Llanddowror
Llangynin
San-clêr
CG12
Broadway
Cross Inn
Llansadyrnin
Lacharn
CG13
Pentywyn
Llanmilo
 
CG14
Rhos-goch
 
CG15
Bancyfelin
Llangynog
 
CG16
Llansteffan
Llanybri
 
CG17
Llan-saint/Broadway
Pedair-hewl
Mynyddygarreg
Llandyfaelog
Cydweli
CG18
Cwmffrwd
Peniel
Bronwydd
Idole/Pentrepoeth
Whitemill
Bancycapel
Cwmdwyfran
Llan-llwch
Nantycaws
Croesyceiliog
Llan-gain
Caerfyrddin
CG19
Alltwalis
Llanpumsaint
Rhydargaeau
Pont-ar-sais
Nebo
 
CG20
Pencader
Gwyddgrug
Llanfihangel ar Arth
New Inn
 
CG21
Pont-tyweli
Bancyffordd
Llandysul
CG22
Pencarreg
Llanllwni
Llanybydder
CG23
Cwmann
Llanbedr Pont Steffan
CG24
Pumsaint
Ffarmers
Caeo
Crug-y-bar
Ffaldybrenin
 
CG25
Talyllychau
Cwmdu
Abergorlech
Rhydcymerau
Llansawel
 
CG26
Llanwrda
Llansadwrn
Ashfield Row
Felindre
Waunystrad Meurig
Llangadog
CG27
Cilycwm
 
CG28
Cynghordy
 
CG29
Rhandirmwyn
 
CG30
Cwmifor
Gelli-aur
Penybanc
Salem
Derwen-fawr
Maenordeilo
Llangathen
Trap
Llandeilo
CG31
Llanarthne
Dryslwyn
Felindre (Dryslwyn)
Cwrt-henri
 
CG32
Nantgaredig
Pontargothi
Capel Dewi
Felingwm Uchaf
Felingwm Isaf
Llanegwad
 
CG33
Llanddarog
Porthyrhyd
 
CG34
Carmel
Cwmgwili
Foelgastell
Derwydd
Maesybont
Temple Bar
Milo
Pentregwenlais
Heol Ddu
Stag And Pheasant
Pantyllyn
Capel Seion
Llanon
Rhydaman /
Cross Hands
CG35
Ystradowen
Rhosaman
Cefnbrynbrain
Brynaman
CG36
Llanedi
Hendy
CG37
Pump-hewl
Horeb
 
CG38
Penymynydd
Trimsaran
CG39
Crwbin
Mynydd Cerrig
Llangyndeyrn
Pontyberem / Bancffosfelen
CG40
Cynheidre
Pontantwn
Carwe
Pont-iets / Meinciau / Pont-henri
CG41
Llanfynydd
 
CG42
Brechfa
 

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS2, AS10, AS11, AS13 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Safleoedd Strategol

5.9.19 Mae rhai safleoedd wedi cael eu dynodi’n safleoedd sy’n gwneud cyfraniad sylweddol at y gwaith o wireddu’r Strategaeth. Cyflawnwyd y gwaith o’u dynodi’n Safleoedd Strategol yn unol â’r Strategaeth, y fframwaith aneddiadau, a’r fethodoleg asesu safleoedd. Cafodd cyfres o hidlyddion oedd wedi’u seilio ar egwyddorion cynaliadwyedd ac a oedd yn dilyn canllawiau cynllunio cenedlaethol, eu defnyddio i ddynodi safleoedd perthnasol.

5.9.20 Bernir bod y safleoedd hyn yn bwysig, naill ai’n unigol neu gyda’i gilydd, i’r gwaith o weithredu cynigion cynllunio ac adfywio y Cyngor ac i gyflawni amcanion cynaliadwy, strategol y Cynllun. Mae potensial datblygu pob un o’r safleoedd strategol dynodedig wedi’i nodi yn Atodiad 2 – Safleoedd Strategol.

5.9.21 Mae’r safleoedd strategol yn cynnig y cyfle i ddatblygiadau newydd sylweddol ddigwydd mewn lleoliadau pwysig er mwyn gwireddu potensial adfywio’r Cynllun a darparu ar gyfer atgyfnerthu’r Strategaeth a’i hymrwymiad i gynaliadwyedd. Bydd Briffiau Datblygu ar ffurf Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu paratoi i gynorthwyo â’r gwaith o ddarparu’r safleoedd strategol. Dylai cynigion ar safleoedd strategol ystyried y cyfle posibl i ymgorffori safonau adeiladu cynaliadwy uwch. Yn hyn o beth, a lle bo’n briodol, bydd brîff datblygu’n cael ei baratoi mewn perthynas â safle strategol. Bydd y gwaith o baratoi brîff yn cynnig cyfle i ystyried yn llawn faterion yn ymwneud â’r fath safleoedd gan ddarparu mwy o eglurder ynghylch materion, gofynion neu ystyriaethau penodol. Efallai y bydd yn briodol i’r fath friffiau edrych ar ystyriaethau dylunio gan gynnwys cyfeiriad, cyfluniad a phatrwm, ynghyd ag arferion datblygu ac adeiladu cynaliadwy (gan gynnwys integreiddio nodweddion dylunio cynhyrchu ynni ac arbed ynni). Mae’n bosibl y bydd briffiau hefyd yn ystyried rôl technolegau newydd yn y broses o symud tuag at ddatblygiadau di-garbon.

5.9.22 Mae Polisïau SP17 ac EP1 mewn perthynas â seilwaith a chapasiti amgylcheddol yn bwysig i gynigion ar safleoedd strategol oherwydd y raddfa bosibl.

5.9.23 Wrth gydnabod ac ystyried y potensial am effaith arwyddocaol debygol mewn perthynas ag ACA Caeau Mynydd Mawr, mae’r CDLl yn gwneud darpariaeth briodol trwy bolisi EQ7 a’r canllawiau cynllunio atodol mabwysiedig.

SP4 Safleoedd Strategol

Gwneir darpariaeth mewn aneddiadau Ardaloedd Twf ar gyfer y Safleoedd Strategol canlynol sydd, naill ai’n unigol neu ar y cyd, yn cyfrannu at y gwaith o weithredu’r strategaeth ac yn atgyfnerthu egwyddorion cynaliadwyedd y Cynllun.

Safle Strategol Defnydd Arfaethedig Cyf. y Safle
Safle 1 – Gorllewin Caerfyrddin Defnydd Cymysg (Cyf: Polisi EMP5) GA1/MU1
Safle 2 – Pibwrlwyd, Caerfyrddin Defnydd Cymysg (Cyf: Polisi EMP5) GA1/MU2
Safle 3 – Parth Strategol De Llanelli    
Llynnoedd Delta Defnydd Cymysg (Cyf: Polisi EMP5) GA2/MU9
Machynys Preswyl
Preswyl
Defnydd Cymysg (Cyf: Polisi EMP5)
GA2/H12
GA2/H14
GA2/MU3
Y Rhodfa Defnydd Cymysg (Cyf: Polisi EMP5)
Preswyl
Preswyl
GA2/MU9
GA2/h13
GA2/h15
Doc y Gogledd Defnydd Cymysg (Cyf: Polisi EMP5) GA2/MU7
Gwaith yr Hen Gastell Defnydd Cymysg (Cyf: Polisi EMP5) GA2/MU1
Safle 4 – Dafen, Llanelli Cyflogaeth GA2/E1
Safle 5 – Parth Strategol Cross Hands    
Gorllewin Cross Hands Defnydd Cymysg (Cyf: Polisi EMP5) GA3/MU1
Dwyrain Cross Hands Cyflogaeth GA3/E7
Parc Bwyd Gorllewin Cross Hands Cyflogaeth GA3/E8

Tabl 3 – Dyraniadau Safleoedd Tai

Rhaid i gynigion mewn perthynas â’r safleoedd strategol roi sylw i’r defnyddiau dynodedig (gweler Atodiad 2) a pholisïau perthnasol y Cynllun.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS2, AS5, AS9 ac AS11
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Tai

5.9.24 Wrth lunio’r CDLl, rhoddwyd sylw i Bolisi Cynllunio Cymru a’i ystyriaethau mewn perthynas ag asesu’r gofynion o ran tai. Yn benodol mae paragraff 9.2.2 o Bolisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 yn nodi mai’r man cychwyn ar gyfer asesu’r gofyniad o ran tai mewn cynllun datblygu ddylai fod amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd sail-2006 Llywodraeth Cymru. Cafodd yr amcanestyniadau hyn eu hategu wedyn gan amcanestyniadau sail-2008 a sail-2011 ac aseswyd bod gofyniad o ran tai o 15,197 o anheddau ar gyfer cyfnod y Cynllun.

5.9.25 Mae’r CDLl yn darparu cyflenwad tai o 15,778 o unedau preswyl, sef 581 o anheddau ychwanegol i’r gofyniad o ran tai. Mae hyn yn cynnig hyblygrwydd o 3.7% dros y gofyniad o ran tir ar gyfer tai a geir yn y Cynllun. Mae hyn yn cydnabod yr angen am hyblygrwydd a’r priodoldeb i’r Cynllun sicrhau y darperir lefel twf ymarferol pe bai amgylchiadau ac amodau economaidd yn newid.

5.9.26 Yn ogystal â’r angen i’r Cynllun fodloni’r gofyniad dynodedig ar gyfer tai ac i gynnwys rhywfaint o hyblygrwydd y mae ei angen i sicrhau y darperir twf cynaliadwy sy’n gymesur â’r Strategaeth ac yn ei chefnogi, mae’r gwarged arfaethedig hefyd yn cydnabod bod gan nifer o aneddiadau nifer gymharol uchel o safleoedd â chaniatâd cynllunio (ac eithrio’r rheiny lle nad oes cytundeb adran 106 wedi cael ei lofnodi eto).

5.9.27 Mae’r CDLl yn cydnabod statws safleoedd â chaniatâd sy’n cael eu dyrannu’n unol â hynny (ac eithrio lle mae tystiolaeth glir yn rhagnodi fel arall, neu lle nad ydynt yn cyd-fynd â’r strategaeth). Mae’r safleoedd hyn yn cael eu cynnwys yn y cyflenwad tir ar gyfer tai a nodir isod.

5.9.28 Mae’r gofyniad dynodedig ar gyfer tai yn y CDLl yn cael ei ddyrannu yn unol â safle pob anheddiad unigol yn yr hierarchaeth sydd yn ei dro’n adlewyrchu ei allu i ddarparu ar gyfer twf, ei faint cymharol ac argaeledd gwasanaethau a chyfleusterau. Mae ffactorau fel capasiti amgylcheddol, cymeriad, cyfyngiadau o ran seilwaith, hygyrchedd a darpariaeth tir cyflogaeth i gyd yn cyfrannu at raddfa datblygiadau sy’n briodol i’r anheddiad. Felly bydd y rhan fwyaf o’r datblygiadau’n cael eu cyfeirio i’r tair Ardal Dwf, a bydd cyfleoedd datblygu eraill yn cael eu dosbarthu’n gymesur i aneddiadau is i lawr yn yr hierarchaeth.

5.9.29 Er bod y dyraniad mewn cymunedau cynaliadwy a’u haneddiadau’n adlewyrchu eu cymeriad, eu gallu i newid a meini prawf cynaliadwyedd y soniwyd amdanynt ynghynt, dylid nodi bod gan gymuned gynaliadwy mewn cyd-destun mwy trefol, at ei gilydd, y potensial i ddarparu ar gyfer mwy o dwf na chymuned gynaliadwy debyg yng nghefn gwlad.

5.9.30 Mae’r CDLl yn cydnabod y pwysigrwydd a roddir i’r gallu i gyflawni, ac ar yr un pryd yn cydnabod y gallai twf anghymesur sy’n anghyson â’r patrwm gofodol presennol arwain at wrthdaro diangen â’r angen i warchod a gwella cymeriad gwledig a thirweddol y sir. Cydnabyddir rôl ‘tir a ddatblygwyd o’r blaen’ a lle bynnag y bo’n ymarferol ac yn briodol sicrheir y cyfraniad mwyaf posibl ganddo, er yn y nifer fawr o aneddiadau sy’n wledig eu cymeriad, cyfyngedig yw argaeledd tir o’r fath. Mae’n bosibl y bydd gwerth y fath safleoedd o ran bioamrywiaeth hefyd yn eu gwneud yn llai addas.

5.9.31 Mae’r ddarpariaeth tir preswyl ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn cynnwys y gofyniad ar gyfer y rhan o’r sir sydd yn y Parc Cenedlaethol. Bydd cyfraniad y Parc Cenedlaethol yn destun gwaith monitro parhaus a thrafodaethau trawsffiniol. Byddir yn parhau i roi sylw i bolisïau a chynigion awdurdodau cyfagos yn eu CDLlau, gan gymryd unrhyw oblygiadau trawsffiniol i ystyriaeth.

Cyflenwad Tai

5.9.32 Mae’r adran ganlynol yn nodi’r cyflenwad tir ar gyfer tai i’r CDLl. Wrth wneud hynny, mae’n cynnwys y gofyniad aelwydydd amcanestynedig fel y sail ar gyfer nifer yr unedau y mae eu hangen, ynghyd â’r hyblygrwydd (gwarged) y sonnir amdano uchod. Mae hefyd yn cyfrifo cyfraniadau oddi wrth y lwfans hap-safleoedd. Mae’r cyflenwad tai’n cynnwys yr elfennau canlynol:

Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin – Cyflenwad Tai 2006 – 2021

Dyraniadau Tai 13,352
Lwfans Hap-safleoedd 2,426
Elfen Safleoedd Bach (llai na 5 annedd) (1,111)
Elfen hap-safleoedd (5 neu ragor o anheddau) (1,315)
Cyfanswm y Cyflenwad Tai 15,778
Gofyniad ar gyfer Tai 15,197
Hyblygrwydd 581

Dyraniadau Tai

5.9.33 Un ffynhonnell allweddol wrth fodloni’r gofyniad dynodedig o ran tir ar gyfer tai yw trwy safleoedd a ddyrennir ar gyfer datblygiadau preswyl yn y CDLl ar ffurf Dyraniadau Tai fel y’u nodir trwy bolisi H1 neu fel rhan o ddyraniad defnydd cymysg fel y’i nodir ym Mholisi EMP5.

5.9.34 Mae’r CDLl wedi nodi’r cyfraniadau mae safleoedd gyda chaniatâd cynllunio yn ei wneud rhwng 1 Ebrill 2007 a 31 Mawrth 2012. Mae gwybodaeth am safleoedd gyda chaniatâd cynllunio yn dangos bod yna 5,034 o unedau â chaniatâd cynllunio dilys ar draws yr aneddiadau diffiniedig ar safleoedd dyranedig o 5 neu ragor o anheddau. Er y bydd y ffigwr hwn yn cael ei fonitro’n barhaus (o gofio y bydd eu cyfraniad yn amrywio wrth i ganiatadau gael eu rhoi ac wrth iddynt fynd yn ddi-rym) mae’n cynnig awgrym da o’r cyflenwad ar draws y sir ar 31 Mawrth 2012.

5.9.35 At hynny, cydnabyddir hefyd gyfraniad cyflawniadau ar safleoedd dyranedig rhwng 1 Ebrill 2007 a 31 Mawrth 2012 at y gofyniad o ran tir ar gyfer tai preswyl. Defnyddiwyd gwybodaeth am gyflawniadau a gafwyd o’r Gyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai, ynghyd â gwaith arolygu safleoedd, i nodi cyfraniad cyflawniadau at gyfanswm y cyflenwad tai. Dylid nodi, mewn achosion lle mae safle wedi’i gwblhau’n rhannol cyn cyfnod y cynllun, fod yr anheddau sy’n weddill ar y safle hwnnw, os oes 5 neu ragor o unedau, wedi cael eu dyrannu yn y CDLl. Mae’r tabl canlynol yn nodi’r cyfraniad gan ganiatadau a chyflawniadau o’u cymharu â chyfanswm y gofyniad ar draws yr hierarchaeth aneddiadau.

 
Safleoedd Dyranedig H1
Anheddiad
Lwfans hap-safleoedd (safleoedd â llai na 5 uned)
Wedi’u cwblhau
Gyda chaniatâd cynllunio
 
Dyraniadau (heb ganiatâd cynllunio)
Cyfanswm
Caerfyrddin (GA1)
122
162
354
1500
1854
Llanelli (gan gynnwys Llangennech) (GA2)
200
471
1537
2390
3927
Rhydaman / Cross Hands (GA3)
55
501
1219
1333
2552
Cyfanswm (% o’r dyraniad tai yn yr Ardaloedd Twf)
377
1134 (13.61%)
3110 (37.32%)
5223 (62.68%)
8333 (100%)

Anheddiad
Lwfans hap-safleoedd (safleoedd â llai na 5 uned)
Wedi’u cwblhau
Gyda chaniatâd cynllunio
 
Dyraniadau (heb ganiatâd cynllunio)
Cyfanswm
Porth Tywyn a Phen-bre
6
113
207
206
413
Llandeilo (gan gynnwys Ffairfach, Rhos-maen, Nantyrhibo)
8
0
6
257
263
Llanymddyfri
40
0
0
111
111
Castell Newydd Emlyn
17
0
0
89
89
San-clêr (gan gynnwys Pwll Trap)
9
93
184
95
279
Hendy-gwyn ar Daf
12
68
182
23
205
Cyfanswm (% o’r dyraniad tai mewn Canolfannau Gwasanaethau)
92
274 (20.15%)
579 (42.58%)
781 (57.42%)
1360 (100%)

Anheddiad
Lwfans hap-safleoedd (safleoedd â llai na 5 uned)
Wedi’u cwblhau
Gyda chaniatâd cynllunio
 
Dyraniadau (heb ganiatâd cynllunio)
Cyfanswm
Lacharn
10
0
66
16
82
Glanyfferi
10
8
8
24
32
Cydweli
10
45
111
190
301
Trimsaran
21
3
70
94
164
Pont-iets / Pont-henri / Meinciau
29
1
39
200
239
Pontyberem
25
8
13
127
140
Hendy / Fforest
10
21
74
145
219
Glanaman / Garnant
39
29
164
83
247
Brynaman
15
0
8
99
107
Llangadog
10
10
10
27
37
Llanybydder /
Tŷ Mawr
16
0
39
59
98
Cyfanswm (% o’r dyraniad tai mewn Canolfannau Gwasanaethau Lleol)
195
125 (7.5%)
602 (36.13%)
1064 (63.87%)
1666 (100%)

Anheddiad
Lwfans hap-safleoedd (safleoedd â llai na 5 uned)
Wedi’u cwblhau
Gyda chaniatâd cynllunio
Dyraniadau (heb ganiatâd cynllunio)
Cyfanswm
Cyfanswm (% o’r dyraniad tai mewn Cymunedau Cynaliadwy)
447
342 (17.16%)
743 (37.28%)
1250 (62.72%)
1993 (100%)

Tabl 4 – Anheddiad Darpariaeth

Hap-safleoedd

5.9.36 Gellir disgrifio’r lwfans hap-safleoedd mewn dwy ffordd. Mae’r gyntaf yn ymwneud â chyfraniad posibl safleoedd â llai na phum annedd o fewn terfynau datblygu diffiniedig. Nodir nad yw’r fath safleoedd wedi cael eu monitro o’r blaen yn y sir, fodd bynnag bydd nifer yr unedau a gwblheir ar y fath safleoedd yn y cael ei chofnodi yn y dyfodol fel rhan o’r Gyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai flynyddol a’i monitro felly trwy’r CDLl. Ar gyfer y cyfnod 2006-2012 mae’r Gyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai wedi defnyddio lwfans o 77 o anheddau’r flwyddyn, sydd wedi cyfateb i gwblhau rhyw 462 o unedau ar safleoedd bach hyd at 2012. Gwnaethpwyd asesiad yn ddiweddar o gyfraniad y fath safleoedd bach mewn perthynas â’r CDLl ac mae’r asesiad yn dangos bod yna gyfraniad gweddilliol o safleoedd bach o 649 ar gyfer gweddill cyfnod y Cynllun hyd at 2021.

5.9.37 Mae’r fath safleoedd yn gwneud cyfraniad pwysig i’r cyflenwad tai cyfan, gan gyflwyno elfen bwysig o ddewis a hyblygrwydd i’r farchnad dai, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer tai hunanadeiladu. Fodd bynnag, mae eu cyfraniad yn arbennig o nodedig yn yr aneddiadau llai lle mae’r cyfleoedd ar gyfer datblygiadau o fwy na 5 uned yn gyfyngedig.

5.9.38 Mewn perthynas â chyfraniadau hap-safleoedd â phump neu ragor o anheddau, yn draddodiadol mae’r fath safleoedd wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddarparu tai yn Sir Gaerfyrddin. Mae tystiolaeth yn dangos bod 159 o unedau hap-safleoedd wedi cael eu cwblhau yn y cyfnod 2006 – 2007.

5.9.39 Wrth ddyrannu safleoedd ar gyfer tai yn y CDLl, ceisiodd y Cyngor roi sicrwydd trwy ddyrannu’r rhan fwyaf o hap-safleoedd y CDU (lle’r oeddent yn cyd-fynd â’r fethodoleg asesu safleoedd) o dan polisi H1 – Dyraniadau Tai. Gadawodd hyn 76 yn unig o anheddau a gwblhawyd ar hap-safleoedd yn ystod y cyfnod hwn. Gellir ychwanegu’r ffigwr hwn at y lwfans hap-safleoedd ar gyfer y cyfnod 2007-2013.

5.9.40 Wrth asesu’r hap-safleoedd (5 neu ragor) posibl ar gyfer gweddill cyfnod y Cynllun 2013-2021, mae’r Cyngor wedi ceisio defnyddio tystiolaeth hanesyddol i lunio lwfans ar gyfer y cyfnod hwn. Yn ystod y cyfnod 2007-2013, cyfrannodd hap-safleoedd o bump neu ragor o anheddau rhwng 13.5% a 31.9% o’r holl gyflawniadau tai yn ystod y blynyddoedd hynny. Mae’r Cyngor wedi barnu y gallai 12.5%, fel amcangyfrif rhesymol, o’r holl gyflenwad tai ar gyfer gweddill cyfnod y Cynllun ddod o hap-safleoedd. Mae hyn yn cynnwys lwfans ar gyfer safleoedd â phum neu ragor o anheddau â chaniatâd cynllunio, ond nad ydynt yn destun dyraniad. Mae hyn yn cyfateb i 1,029 o anheddau ar gyfer yr 8 mlynedd o’r Cynllun sy’n weddill.

5.9.41 Wrth gyfuno tair elfen hap-safleoedd (5 neu ragor) fel y’u nodir ym Mhapur Egluro Tai y Cyngor (H2r, mae’r CDLl yn barnu bod cyfanswm lwfans o 1,315 o anheddau’n briodol.

SP5 Tai

Er mwyn sicrhau y bodlonir yr holl ofyniad o ran tir ar gyfer tai, sef 15,197, ar gyfer cyfnod y cynllun, 2006-2021, gwneir darpariaeth ar gyfer 15,778 o anheddau newydd. Dyrennir digon o dir (ar safleoedd â 5 neu ragor o anheddau) i ddarparu 13,352 o anheddau yn unol â’r Fframwaith Aneddiadau.

 
Nifer yr Anheddau

Ardaloedd Twf
8,333
Canolfannau Gwasanaethau
1,360
Canolfannau Gwasanaethau Lleol
1,666
Cymunedau Cynaliadwy
1,993

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS2, AS3, AS7, AS13 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Tai Fforddiadwy

5.9.42 Mae Tai Fforddiadwy’n fater allweddol wrth baratoi’r CDLl ac yn elfen bwysig o’r CDLl yn arbennig wrth gyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a chytbwys. Tystir i’r pwysigrwydd hwn trwy’r gydnabyddiaeth a roddir iddo fel mater cenedlaethol a lleol.

5.9.43 Diffinnir Tai Fforddiadwy fel “tai lle mae yna drefniadau diogel er mwyn sicrhau eu bod o fewn cyrraedd i’r rheini sydd heb fod yn gallu fforddio tai ar y farchnad agored, gan gynnwys pobl sy’n eu meddiannu gyntaf a’r bobl sy’n dod ar eu hôl” (TAN2:2006 - Cynllunio a Thai Fforddiadwy, Paragraff 5.1). Er mwyn bod yn gyson â’r diffiniad o dai fforddiadwy, rhaid i’r holl dai o’r fath a ddarperir trwy’r system gynllunio fod ar gael i’r gymuned am byth ac nid yn unig i’r sawl sy’n byw ynddynt gyntaf. Nid yw tai fforddiadwy’n cynnwys tai cost isel.

5.9.44 Wrth asesu’r angen am anheddau fforddiadwy, mae Asesiad Sir Gaerfyrddin o'r Farchnad Dai Leol 2009 wedi nodi diffyg o 743 o anheddau'r flwyddyn am y pum mlynedd nesaf, i’r rheiny sydd angen tai fforddiadwy yn y sir. O gymharu â chyfanswm y gofyniad ar gyfer tai, sef 1,013 o anheddau'r flwyddyn, a nodir yn ystod cyfnod y CDLl, mae’r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yn dangos y byddai angen i 73% o’r holl anheddau arfaethedig fod yn fforddiadwy. Ni ddisgwylir y bydd y system gynllunio ar ei phen ei hun yn darparu ar gyfer y diffyg hwn, nac ychwaith y dylai wneud. Fodd bynnag, cydnabyddir pwysigrwydd rôl y CDLl yn y gwaith o ddiwallu’r angen am dai fforddiadwy.

5.9.45 Mae’r Cyngor wedi cyflawni asesiad hyfywedd er mwyn nodi targed ar gyfer y gyfran o dai fforddiadwy y dylid ceisio ei chael o unrhyw ddatblygiadau tai. Pennwyd y targed tai fforddiadwy fel 30%, 20% a 10% fel y’u cyflëwyd yn y rhestr dyraniadau tai ym Mholisi H1. O ganlyniad, mae’r CDLl wedi defnyddio’r targedau hyfywedd ar yr holl ddyraniadau tai heb ganiatâd, ynghyd â’r niferoedd arfaethedig ar ddyraniadau tai â chaniatâd cynllunio, ynghyd â chyfraniadau eraill, er mwyn nodi cyfanswm targed tai fforddiadwy i’r sir trwy’r system cynllunio defnydd tir. Wrth nodi’r targedau hyfywedd hyn, rhoddwyd ystyriaeth i’r berthynas rhwng darparu tai fforddiadwy a chodi tai ar safleoedd datblygu’n gyffredinol.

5.9.46 Mae’r cyfraniadau tai fforddiadwy trwy safleoedd eithriadau a chaniatadau cynllunio anghenion lleol wedi bod yn gymharol fach ers y dyddiad sylfaen, a chan ddefnyddio data cyfredol amcangyfrifir y bydd 30 o anheddau fforddiadwy ar fân safleoedd eithriadau’n cael eu cyflwyno yn ystod cyfnod y Cynllun.

5.9.47 Ar y cyd gyda’r holl ddulliau o gyfraniadau tai fforddiadwy mae’r Cynllun yn nodi polisïau sy’n ceisio cyrraedd targed o 2,121 o gartrefi fforddiadwy o leiaf, sef yr isafswm y disgwylir ei ddarparu yn y sir yn ystod cyfnod y cynllun trwy’r system gynllunio. Mae Polisïau AH1 i AH3 yn nodi’r mecanweithiau a ddefnyddir i gyrraedd y targed hwn. Mae’r mecanweithiau a nodir ym Mholisi AH1 yn nodi y disgwylir i gynigion preswyl ar gyfer 5 neu ragor o unedau o fewn yr holl aneddiadau diffiniedig gyfrannu at y ddarpariaeth tai fforddiadwy trwy rwymedigaethau cynllunio a chyfraniadau datblygwyr.

5.9.48 Dylai lleoliad tai fforddiadwy fod yn gysylltiedig â’r angen dynodedig a bod yn unol â’r fframwaith aneddiadau. Dylid rhoi sylw hefyd i bolisïau perthnasol ar eithriadau. Dylai cynigion roi sylw i ystyriaethau lleoliadol gan gynnwys hygyrchedd diogel a hwylus addysg, cyflogaeth a gwasanaethau eraill.

5.9.49 Mae’r dystiolaeth ym Mhapur Pwnc Tai Fforddiadwy (Dogfen y Gyflwynwyd – CSD78) a’r Asesiadau Hyfywedd yn nodi bod nifer sylweddol o ddatblygiadau preswyl yn cael caniatâd cynllunio ar safleoedd sydd o dan y targed trothwy tai fforddiadwy o 5 neu ragor o unedau. Mae’r Cynllun yn nodi rôl i’r defnydd o symiau gohiriedig sydd i’w talu o’r safleoedd llai hyn; byddant yn cael eu defnyddio i gyfrannu at ddarparu tai fforddiadwy mewn cynlluniau eraill yn y sir.

5.9.50 Mae’r Cynllun hefyd yn cymryd Datganiad Darparu Tai Fforddiadwy Sir Gaerfyrddin 2008-2012 i ystyriaeth. Mae’r Datganiad yn nodi dyraniadau gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer 575 o gartrefi fforddiadwy yn ystod 2008-2011. Bydd y CDLl yn gwneud cyfraniad sylweddol at y ffigwr hwn.

SP6 Tai Fforddiadwy

Gwneir darpariaeth ar gyfer darparu o leiaf 2,121 o gartrefi fforddiadwy trwy’r CDLl. Bydd darparu cartrefi fforddiadwy’n cyfrannu at greu cymunedau cynaliadwy yn ardal y Cynllun.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS3, AS7, AS13 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Cyflogaeth

5.9.51 Wrth gynnal adolygiad o gyflogaeth ac anghenion cyflogaeth yn y sir, comisiynwyd Astudiaeth Tir Cyflogaeth yn yr awdurdod, ar y cyd gan yr adrannau gwasanaethau cynllunio, datblygu economaidd ac eiddo corfforaethol. Ei diben a’i rôl felly oedd cynnig gwybodaeth a chymorth i nifer o ddefnyddwyr. Mae prif ganlyniad a chynnwys yr Astudiaeth wedi cael eu cymeradwyo gan Fwrdd Gweithredol y Cyngor fel offeryn gwybodaeth i lywio’r gwaith o wneud penderfyniadau yn y dyfodol ledled yr awdurdod.

5.9.52 O ran y CDLl roedd yr Astudiaeth yn canolbwyntio ar ddarparu dealltwriaeth o’r anghenion yn y dyfodol a datblygu methodoleg i lywio lefelau a lleoliad y ddarpariaeth tir cyflogaeth yn y dyfodol. Wrth wneud hynny ceisiodd yr Astudiaeth adolygu’r ddarpariaeth tir cyflogaeth bresennol ac edrych ar safleoedd cyflogaeth posibl er mwyn llywio’r gwaith o ddewis safleoedd ar gyfer y CDLl.

5.9.53 Nododd yr Astudiaeth 753.25ha o dir cyflogaeth ar draws 169 o safleoedd a arolygwyd yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r rhan fwyaf o’r tir cyflogaeth a arolygwyd fel rhan o’r Astudiaeth yn yr Ardaloedd Twf (51%) a’r Canolfannau Gwasanaethau (30%). Er hynny, mae’r Cynllun yn cydnabod bod dosbarthu cyfleoedd i gael cyflogaeth ledled y sir yn hanfodol wrth gefnogi nodau ac amcanion y strategaeth. Gall safleoedd newydd y tu allan i haenau uchaf yr hierarchaeth wneud cyfraniad sylweddol at yr aneddiadau a chymunedau maent yn eu gwasanaethu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle byddai cyfyngiadau difrifol ar y cyfleoedd i fusnesau newydd ymsefydlu neu i fusnesau sy’n bodoli eisoes ehangu pe na bai safleoedd ac adeiladau priodol ar gael.

5.9.54 Nododd yr Astudiaeth gyfradd gwacter ar draws y sir o 20.6%. Fodd bynnag, mae’r ffigwr hwn yn gwrthgyferbynnu â chyfradd meddiannaeth o 92.78% yn stoc y Cyngor, sy’n dangos bod galw am unedau sydd wedi’u targedu i ddiwallu anghenion y farchnad am gost briodol.

5.9.55 Cyfrifodd yr Astudiaeth fod angen darparu 34.1ha o dir cyflogaeth yn Sir Gaerfyrddin erbyn 2031 er mwyn darparu ar gyfer yr angen o ran cyflogaeth ragamcanol. Nododd yr Astudiaeth fod gan 281.23ha o’r cwbl a arolygwyd botensial ar gyfer datblygiadau cyflogaeth. Wrth gasglu ynghyd bortffolio o ddyraniadau tir cyflogaeth diwygiodd yr Astudiaeth y targed hwn o 34.1ha i faint terfynol o ddyraniadau tir cyflogaeth â’r potensial i ddarparu rhwng 237.7 ha a 242.7 ha o dir y gellid ei ddatblygu. Roedd hyn yn sail i’r gwaith o ddewis safleoedd ond wedi’i diwygio i gymryd i ystyriaeth ganlyniadau’r broses dewis safleoedd a’r adolygiad o aneddiadau, gyda chynnwys yr Astudiaeth yn dystiolaeth gyfrannol bwysig wrth ystyried addasrwydd safle i gael ei gynnwys yn y CDLl.

5.9.56 Er bod y dyraniadau terfynol ar gyfer tir cyflogaeth yn adlewyrchu arwynebedd mwy na’r angen rhagamcanol, sef 34.1ha, mae’r Astudiaeth wedi cyfiawnhau’r cynnydd hwn ar y sail y bydd y dewis mwy o safleoedd a all ddarparu ar gyfer anghenion amrywiol, yn enwedig gan gymryd i ystyriaeth natur wledig rhannau o’r sir a’r angen am safleoedd hygyrch. Mae’n cynnig cyfle i ailgyflenwi stoc a gollwyd ac i ymateb i amgylchiadau cyfnewidiol yn y farchnad. Gofynion eraill a gymerir i ystyriaeth yw:

5.9.57 Mae hyn yn darparu ar gyfer amrywiaeth a dewis o safleoedd ac yn cynorthwyo ag anghenion posibl am dir cyflogaeth y tu hwnt i’r Ardaloedd Twf. Mae ymagwedd o’r fath yn adlewyrchu’r Strategaeth a’r uchelgeisiau i gynnal canolfannau gwledig. Mae hefyd yn adlewyrchu cydnabyddiaeth Cynllun Gofodol Cymru o rôl bwysig aneddiadau gwledig, gyda llawer wedi’u nodi’n Ganolfannau Gwasanaethau Lleol yn y CDLl hwn.

5.9.58 Mae’r ddarpariaeth tir cyflogaeth yn cynnig cefnogaeth i’r Strategaeth a’i hamcanion o ran cynaliadwyedd trwy helpu i greu cymunedau ac aneddiadau hunangynhaliol a hyfyw.

5.9.59 Wrth ystyried maint y dyraniadau tir cyflogaeth mewn perthynas â’r CDLl, rhoddwyd rhagor o sylw hefyd i amrywiaeth o ystyriaethau er mwyn sicrhau bod maint y ddarpariaeth yn adlewyrchu nid yn unig amrywiaeth o safleoedd ymarferol ond hefyd eu bod wedi’u seilio ar ddealltwriaeth drylwyr o’u cymeriad ac ardaloedd y safleoedd. Yn hyn o beth, nododd y Papur Diweddaru Tir Cyflogaeth - (Mehefin 2013) (Dogfen y Gyflwynwyd CSD120) a rhagor o dystiolaeth fel rhan o’r broses archwilio, ddyraniad tir cyflogaeth diwygiedig sef 111.13ha ar gyfer ardal y Cynllun.

5.9.60 Mae lleoliad y safleoedd dyranedig yn adlewyrchu pwysigrwydd a statws yr Ardaloedd Twf gyda 95.15 ha. Mae’r 15.98 ha eraill wedi’u dosbarthu ar draws gweddill y fframwaith hierarchaeth aneddiadau. Mae cyfraniad y safleoedd strategol (Polisi SP4) yn y broses o ddiwallu’r anghenion am dir cyflogaeth yn cael ei danlinellu gan gyfanswm eu dyraniad, sef 71.66 ha. Mae’r pwyslais ar yr Ardaloedd Twf yn adlewyrchu nid yn unig eu statws o ran cynaliadwyedd ond hefyd eu hetifeddiaeth hanesyddol. Mae hefyd (yn arbennig mewn perthynas â Llanelli) yn arwydd o’r cyfraddau diweithdra a lefelau amddifadedd cymharol uchel ac o ymrwymiad cadarn i fynd i’r afael â’r problemau.

5.9.61 Mae’r tabl canlynol yn nodi’r ddarpariaeth tir cyflogaeth a geir ym mholisi SP7 ac yn nodi lefelau cwblhau a safleoedd lle mae caniatâd cynllunio dilys.

 
A. Dyraniad yn y CDLl
B. Cwblhawyd
C. Cwblhawyd ond nid yn rhan o’r ffigwr dyranedig.¹
D. Gyda chaniatâd cynllunio
E. Cyflenwad Gweddilliol

(A-B-D=E)
GA1 – Caerfyrddin
25.33
0.34
1.22
0
24.99
GA2 – Llanelli
32.58
2.71
9.88
0
29.87
GA3 – Rhydaman / Cross Hands
37.24
1.9
8.36
11.31
24.03
Canolfannau Gwasanaethau
11.57
0.75
3.5
4.87
5.95
Canolfannau Gwasanaethau Lleol
1.21
0
0
0
1.21
Cymunedau Cynaliadwy
3.2
0
0.69
0
3.2
Cyfanswm
111.13
5.7
23.65
16.18
89.25

Tabl 5 – Darpariaeth Tir Cyflogaeth

1Yn cynnwys y safleoedd hynny sydd wedi cael eu cwblhau yn ystod cyfnod y Cynllun ond a ddynodwyd fel rhai a fodolai yn y CDLl Adneuo ac nad oeddent yn rhan o’r ffigwr tir cyflogaeth.

5.9.62 Mae’r CDLl yn darparu amrywiaeth o safleoedd ar gyfer mewnfuddsoddi ac adleoli posibl trwy’r dyraniadau tir cyflogaeth. Mae’r rhain yn darparu amrywiaeth a dewis priodol i ddiwallu anghenion amrywiaeth o gyflogwyr posibl. Mae hyn yn cynnwys safleoedd posibl i gyflogwyr mwy yn ogystal â safleoedd i gynnig lle ar gyfer defnyddiau ar raddfa lai, gyda’r fframwaith polisi hefyd yn darparu lle ar gyfer busnesau newydd.

5.9.63 Dylid nodi bod y safleoedd cyflogaeth dyranedig ac felly cyfanswm y ddarpariaeth tir (fel y’i nodir yn y polisi canlynol) yn cynnwys tir anweithredol gyda lle ar gyfer tirweddu, clustogfeydd a defnyddiau eraill o’r fath.

5.9.64 Ceir y dyraniadau tir cyflogaeth wedi eu dangos ym Mholisi SP7 isod, a chânt eu darlunio ar y map cynigion.

SP7 Cyflogaeth – Dyraniadau Tir

Dyrennir digon o dir i ddarparu 111.13 o hectarau o dir cyflogaeth ar gyfer cyfnod y cynllun 2006 – 2021 yn unol â’r Fframwaith Aneddiadau.

Cyf. CDLl Enw’r Safle Lleoliad Dosbarth Defnydd Ha
Ardaloedd Twf
GA1/E1 Ystad Ddiwydiannol Cilefwr¹ Caerfyrddin B1,B2,B8 4.38
GA1/MU1 Gorllewin Caerfyrddin Caerfyrddin B1,B2,B8 5.45
GA1/MU2 Pibwrlwyd Caerfyrddin B1,B2,B8 15.50
GA2/MU9 Llynnoedd Delta Llanelli B1 9.78
GA2/E1 Dafen¹ Llanelli B1,B2,B8 22.80
GA3/E1 Parc Busnes Cross Hands² Rhydaman /
Cross Hands
B1,B2,B8 0.79
GA3/E2 Meadows Road, Cross Hands² Rhydaman /
Cross Hands
B1,B2,B8 1.16
GA3/E3 Parc Menter, Cross Hands² Rhydaman /
Cross Hands
B1,B2,B8 1.04
GA3/E7 Dwyrain Cross Hands² Rhydaman /
Cross Hands
B1,B8 9.22
GA3/E8 Parc Bwyd Gorllewin Cross Hands² Rhydaman /
Cross Hands
B1,B2,B8 8.91
GA3/E10 Ystad Ddiwydiannol Capel Hendre, Capel Hendre² Rhydaman /
Cross Hands
B1,B2,B8 4.05
GA3/E11 Parc Hendre, Capel Hendre¹ ² Rhydaman /
Cross Hands
B1,B2,B8 11.73
GA3/E12 Heol Ddu, Tycroes² Rhydaman /
Cross Hands
B1,B8 0.34
Cyfanswm 95.15

Cyf. CDLl Enw’r Safle   Dosbarth Defnydd Ha
Aneddiadau Haen 2-4
T2/1/E1 Dyfaty Porth Tywyn B1,B2,B8 3.28
T2/2/E1 Ystad Ddiwydiannol Beechwood Rhos-maen /
Llandeilo
B1,B2,B8 2.33
T2/4/E1 Sunny Bank Castell Newydd Emlyn B1 1
T2/5/E1 Tir cyfagos i Iard yr Orsaf Sanclêr B1,B8 0.33
T2/5/E2 Tir cyfagos i’r A40 Sanclêr B1,B8 1.23
T2/5/MU1 Hen Ffatri Menyn Sanclêr B1,B8 0.36
T2/6/E1 West Street Hendy-gwyn ar Daf B1,B8 0.27
T2/6/E2 Ystad Ddiwydiannol Hendy-gwyn ar Daf Hendy-gwyn ar Daf B1,B8 1.07
T2/6/MU1 Hufenfa Hendy-gwyn ar Daf Hendy-gwyn ar Daf B1,B8 1.7
T3/8/E1 Tir i’r dwyrain o Heol yr Orsaf Glanaman / Garnant B1 0.7
T3/11/E1 Hen Ffowndri Llanybydder B1,B8 0.51
SC34/E1 Ystad Ddiwydiannol Pant-yr-odyn Cilyrychen B1,B2,B8 1.5
SC34/E2 Ystad Ddiwydiannol Cilyrychen (gogledd) Cilyrychen B1,B2,B8 1.7
Cyfanswm 15.98
Cyfanswm (yr holl safleoedd) 111.13

Tabl 6 Cyflogaeth – Dyraniadau Tir

1Safleoedd sy’n cynnig y potensial i ddarparu Cyfleusterau Rheoli Gwastraff Dan Do. Mae cyfanswm tybiannol o 31.7 ha o dir ar gael ar y safleoedd hyn. Yn ychwanegol at y ffigwr hwn mae’r lle a all fod ar gael ar Safle Rheoli Gwastraff Nant-y-caws, yn ogystal â thir posibl a all fod ar gael ar safleoedd cyflogaeth a gwastraff sy’n bodoli eisoes a safleoedd eraill heb eu dyrannu yn ystod cyfnod y Cynllun.

2Dylid rhoi sylw i ddarpariaethau polisi EQ7 a’r Canllawiau Cynllunio Atodol mewn perthynas ag ACA Caeau Mynydd Mawr.

Caniateir cynigion ar gyfer ymgymeriadau cyflogaeth ar raddfa fach (nad ydynt ar safleoedd dyranedig) os ydynt yn unol â Pholisi EMP2.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS2, AS6 ac AS11
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Manwerthu

5.9.65 Mae amcanion cynllunio cynaliadwy mewn perthynas â darpariaeth siopa a chanol trefi’n gyffredinol yn canolbwyntio ar sicrhau bod safleoedd gwerthu lleol ar gael. Maent yn darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol sy’n hygyrch i breswylwyr yn rhwydd, os yn bosibl trwy ddewis o ffyrdd o deithio, ac ar yr un pryd ar ddarparu’r cyfle i fanteisio ar amrywiaeth fawr o nwyddau a gwasanaethau eraill nad ydynt yn hanfodol, o fewn pellter rhesymol.

5.9.66 Mae’r ymagwedd hon yn cydnabod patrwm cyffredinol y ddarpariaeth mewn hierarchaeth draddodiadol o ganolfannau yn amrywio o siop y pentref, swyddfa’r post a’r dafarn sy’n diwallu anghenion lleol hanfodol, i’r canolfannau mwy ac yn darparu dewis mwy o ystod ehangach o gynhyrchion. Y canolfannau mwy yw lle ceir gweithgareddau cysylltiedig ym maes hamdden ac adloniant, gan gynnwys sinemâu a bwytai ac ati, a defnyddiau swyddfeydd masnachol gan gynnwys cyfreithwyr, cyfrifwyr a gwerthwyr tai ac ati.

5.9.67 Yn gyffredinol, mae’r ddarpariaeth leol yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau y mae eu hangen bob dydd (eitemau cyfleus) ac y mae preswylwyr yn mynd i’w cael yn aml, ac mae’r canolfannau mwy nid yn unig yn darparu cyfleusterau o’r math hwn ond hefyd eitemau mwy arbenigol (nwyddau cymharol) y mae siopwyr yn chwilio amdanynt yn llai aml ac yn barod i deithio ymhellach i’w cael. Yn draddodiadol mae’r ddarpariaeth siopa wedi datblygu mewn hierarchaeth o ganolfannau gyda dalgylchoedd sy’n gorgyffwrdd yn adlewyrchu eu maint a’u pwysigrwydd.

5.9.68 Y patrwm hwn o ddarpariaeth manwerthu sy’n nodweddiadol o Sir Gaerfyrddin. Mae canolfannau mwy Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman yn gwasanaethu dalgylchoedd helaeth gydag amrywiaeth fawr ac arbenigol o nwyddau ac eitemau. Mae gan y trefi marchnad fel, er enghraifft, Castell Newydd Emlyn, Llandeilo a Sanclêr ddalgylchoedd llai ac maent yn diwallu anghenion lleol gyda rhywfaint o ddarpariaeth arbenigol. Yn olaf, mae’r pentrefi mwy’n darparu eitemau hanfodol y mae eu hangen yn fynych. Yn fwy diweddar gwelwyd twf o ran siopa y tu allan i’r canol yn y trefi mawr, gyda warysau manwerthu mawr sydd at ei gilydd yn cynnig nwyddau swmpus a gyda darpariaeth parcio briodol, yn y rhan fwyaf o achosion wedi’u grwpio ynghyd ar barciau manwerthu.

5.9.69 Ochr yn ochr â’r patrwm hwn o ddarpariaeth siopa, mae yna safleoedd gwerthu sy’n gysylltiedig â gorsafoedd petrol a siopau fferm, ac mae siopa ar y rhyngrwyd yn fwyfwy arwyddocaol.

5.9.70 Mae strategaeth manwerthu’r CDLl yn adlewyrchu egwyddorion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol datblygu cynaliadwy sy’n sylfaen i’r Cynllun. Nod y Strategaeth yw:

  1. Gwarchod a gwella rolau’r prif ganolfannau sef Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman/Crosshands wrth wasanaethu dalgylchoedd eang ar gyfer siopa cymharol (dillad, esgidiau, offer trydanol ac ati) ac eitemau arbenigol, er mwyn sicrhau y byddant yn parhau i fod yn ddeniadol fel cyrchfannau siopa ac i gynnal eu cystadleurwydd a’u cyfran marchnad mewn perthynas â chanolfannau eraill gan gynnwys Abertawe a Chaerdydd;
  2. Mewn canolfannau eraill, llai, sicrhau bod gan gymunedau lleol fynediad rhesymol i ystod foddhaol o gyfleusterau a gwasanaethau’r stryd fawr, yn arbennig nwyddau cyfleus (bwyd a gofynion beunyddiol hanfodol eraill) ac,
  3. Yn y pentrefi mwy, sicrhau bod siop y pentref a chyfleusterau lleol eraill yn parhau i fod yn hyfyw.

5.9.71 Mae’r Astudiaeth Manwerthu (2009) ar gyfer Sir Gaerfyrddin wedi edrych ar faterion manwerthu ledled y sir ac wedi asesu’r gallu i dyfu ar draws y sectorau manwerthu a chafodd ei pharatoi i ddarparu gwybodaeth ar gyfer y CDLl. Yn arbennig o berthnasol yw’r lle (neu dwf rhagamcanol) ar gyfer rhagor o arwynebedd llawr cyfleustra a’r potensial i gynyddu annibyniaeth yn unol â strategaeth manwerthu cynaliadwy. Nod hyn yw i sicrhau y lleolir yr arwynebedd llawr cyfleustra sydd ar gael mewn siopau llai mewn canolfannau eilaidd dethol yn agos i ffynonellau lleol twf mewn gwariant prynwyr. Y bwriad yw i safleoedd gwerthu bwyd modern fod yn fwy hygyrch i gyfran fwy o boblogaeth y sir, yn arbennig yn y cymunedau gwledig. Mae’n gyson â Strategaeth y CDLl gan ei bod yn ceisio darparu’r amgylchiadau i gymunedau ddod yn fwy annibynnol a hunangynhaliol o ran darparu cyfleusterau, gan wella cynhwysiant cymdeithasol a lleihau’r angen i deithio gyda’r buddion amgylcheddol sy’n deillio o hynny.

5.9.72 Wrth asesu’r angen manwerthu yn y sir, mae’r CDLl yn cydnabod bod yna derfyn i faint o arwynebedd llawr y gall y twf rhagamcanol mewn gwariant (fel y’i nodir yn yr Astudiaeth Manwerthu) ei gynnal a’i bod yn hanfodol i hwn gael ei ddosbarthu yn unol â’r strategaeth dan arweiniad cynllun. Mae’r strategaeth manwerthu ar gyfer y CDLl yn adlewyrchu hierarchaeth darpariaeth sy’n amrywio o’r prif drefi lle mae’r canolfannau manwerthu’n gwasanaethu dalgylchoedd helaeth, hyd at y cymunedau cynaliadwy lle mae siopau pentref yn darparu nwyddau cyfleus hanfodol i’r ardal union gyfagos.

SP8 Manwerthu

Bydd cynigion yn cael eu caniatáu os ydynt yn cynnal a gwella’r ddarpariaeth manwerthu bresennol yn y sir, ac yn gwarchod a hybu hyfywedd a bywiogrwydd y canolfannau manwerthu diffiniedig. Bydd cynigion ar gyfer cyfleusterau siopa cyfleus bach lleol mewn ardaloedd gwledig a threfol, os ydynt yn gyson â’r fframwaith aneddiadau, yn cael eu cefnogi.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1 ac AS11
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Trafnidiaeth

5.9.73 Mae Sir Gaerfyrddin mewn lleoliad da ar gefnffyrdd yr A40, yr A477 a’r A48. Tua’r gorllewin maent yn darparu cysylltiadau â phorthladdoedd y llongau fferi i ac o Iwerddon sydd, gyda’r M4, yn rhan o’r Rhwydwaith Traws-Ewropeaidd. Mae’r cysylltiad hwn rhwng y dwyrain a’r gorllewin yn cael ei bwysleisio rhagor gan linell reilffordd Gorllewin Cymru sy’n ymestyn o Abertawe (a’r rhwydwaith rheilffyrdd ehangach) i Sir Benfro trwy Gaerfyrddin a Llanelli. Mae llinell Gorllewin Cymru hefyd yn rhan o’r Rhwydwaith Traws-Ewropeaidd sy’n cysylltu â phorthladdoedd y llongau fferi i ac o Iwerddon yn Sir Benfro. Mae llinell reilffordd Calon Cymru sy’n ymestyn o Abertawe trwy rannau dwyreiniol y sir i Amwythig yn cynnig buddion ychwanegol o ran trafnidiaeth, er mai gwasanaeth cyfyngedig a gynigir.

5.9.74 Mae’r prif rwydwaith priffyrdd yn ardal y Cynllun yn cynnwys cefnffordd yr A48 sy’n arwain i ac o draffordd yr M4 a’i chysylltiadau trwy Dde-ddwyrain Cymru a’r tu hwnt. Mae cefnffyrdd yr A40 a’r A483 yn cynnig cysylltiadau trwy’r sir i Ganolbarth a Gogledd Cymru yn ogystal â Chanolbarth a Gogledd Lloegr. Mae’r A484 a’r A485 yn darparu rhagor o gysylltiadau i ran ogleddol y sir a’r tu hwnt i Ganolbarth a Gogledd Cymru. Hefyd mae’r sir yn cael ei gwasanaethu gan nifer o ffyrdd dosbarth A yn ogystal â nifer fawr o ffyrdd dosbarth B, y mae pob un ohonynt yn rhan bwysig o’r rhwydwaith priffyrdd.

5.9.75 Mae’r tabl canlynol yn dangos hyd (Km) y rhwydwaith ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin sydd ynddo’i hun yn cyfateb i ryw 44% o’r rhwydwaith rhanbarthol. Mae hefyd yn dangos faint o’r sir sy’n cael ei gyrraedd ar hyd ffyrdd dosbarth B a dosbarthiadau is, sydd yn rhannol yn adlewyrchiad o faint o’r sir sy’n wledig ac yn pwysleisio’r heriau wrth weithredu strategaeth integredig gynaliadwy i’r ardal.

Rhwydwaith Ffyrdd Sir Gaerfyrddin – Hyd Ffyrdd (Km)
M4 5
Dosbarth A (Cefnffyrdd) 147
Dosbarth A (Ffyrdd Sirol) 247
Dosbarth B ac C 1,579
Is-ffyrdd â wyneb caled 1,496
Cyfanswm 3,474

Tabl 7 – Rhwydwaith Ffyrdd Sir Gaerfyrddin – Hyd Ffyrdd

5.9.76 At ei gilydd mae’r ardal yn cael ei gwasanaethu’n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus trwy’r rhwydwaith bysiau, er bod lefel ac amlder y gwasanaethau’n amrywio gan ddibynnu ar y lleoliad a’r gyrchfan. Hefyd, mae nifer o wasanaethau mewn ardaloedd gwledig sy’n rhai ‘Aros ar Gais’, a ‘Bwcabus’ yn Nyffryn Teifi, yn cynnig buddion ychwanegol o ran hygyrchedd mewn ardaloedd o’r fath.

5.9.77 Mae Strategaeth y CDLl yn adlewyrchu ac yn hyrwyddo egwyddorion cynaliadwyedd a hygyrchedd gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol gyda'r nod o sicrhau aneddiadau a chymunedau cynaliadwy hyfyw a hunangynhaliol, a thrwy hynny cynyddu cynhwysiant cymdeithasol. Mae’r fframwaith aneddiadau’n cyfeirio twf i’r aneddiadau haenau uwch lle ceir gwasanaethau, swyddi a chyfleusterau siopa a hamdden a lle mae mwy o hygyrchedd (gan gynnwys gyda thrafnidiaeth gyhoeddus) naill ai yn yr anheddiad neu rhwng yr anheddiad a chanolfannau gwasanaethau penodol. Gall argaeledd a maint y gwasanaethau hyn amrywio.

5.9.78 Cafodd hygyrchedd trwy lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ei gymryd i ystyriaeth wrth nodi’r hierarchaeth aneddiadau gan ei fod yn ffactor pwysig wrth greu lleoedd a chymunedau cynaliadwy. Yn ei thro dylai Strategaeth y CDLl, trwy ddosbarthu datblygiadau yn unol â’r fframwaith aneddiadau, hwyluso a chynnal y ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol a’r gwaith o greu system drafnidiaeth integredig.

5.9.79 Yn ychwanegol at ei arwyddocâd strategol, cydnabyddir pwysigrwydd lleol y rhwydwaith rheilffyrdd hefyd yn y CDLl, wrth i aneddiadau sydd ag arosfannau rheilffyrdd ynddynt neu’n agos iddynt fanteisio ar fwy o hygyrchedd. Mae dyraniadau tai a chyflogaeth yn cymryd hyn i ystyriaeth ac felly’n cynnal y rhwydwaith a chyfleusterau rheilffyrdd a gwelliannau yn y dyfodol.

5.9.80 Oherwydd natur amrywiol y sir, mae hygyrchedd a’r nod o leihau’r angen i deithio (a lleihau allyriadau CO2) yn dal i fod yn her mewn rhan helaeth o Sir Gaerfyrddin. Mae’r her hon yn arbennig o amlwg wrth fynd i’r afael â’r angen i gynnal ardaloedd gwledig a sicrhau nad yw eu cymunedau’n dioddef allgau cymdeithasol. Rhaid i hyn hefyd arwain at dderbyn yn realistig fod y car modur yn dal i fod yn ffordd bwysig o deithio mewn ardaloedd o’r fath. Efallai bod modd lleihau teithio hefyd trwy strategaeth drafnidiaeth integredig a thrwy ddatblygu cymunedau hunangynhaliol (gan gynnwys argaeledd gwasanaethau a chyfleusterau) ac argaeledd ffyrdd eraill o deithio trwy fentrau priodol fel ‘Bwcabus’.

5.9.81 Mae’r cynlluniau ffyrdd canlynol yn cael eu nodi yn y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a’u mynegi trwy Flaenoriaethau Sir Gaerfyrddin ar gyfer Trafnidiaeth 2009 – 2014. Caiff y cynlluniau hyn eu nodi isod a’u diffinio ar y map cynigion:

5.9.82 Nodir bod angen rhagor o waith dichonoldeb, dylunio a pharatoi yn ystod 2009 – 2014 ar y cynlluniau ffyrdd canlynol ac o ganlyniad nid ydynt wedi’u dangos ar y Map Cynigion. Er nad yw’r CDLl yn ceisio diogelu na nodi’r llwybrau hyn, mae’n cydnabod eu nodi fel rhan o gyd-destun strategol. Fodd bynnag, mae diffyg arwyddion clir ynghylch y gwaith o’u cyflawni ac o aliniad diffiniedig yn ein gorfodi i’w cydnabod yn unig ac nid eu nodi fel polisi neu gynnig yn y Cynllun. Nodir y llwybrau hyn fel a ganlyn:

5.9.83 Mae’r cynlluniau canlynol, er nad ydynt yn destun dyraniadau yn y CDLl, hefyd yn cael eu nodi yn y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a’u mynegi trwy Flaenoriaethau Sir Gaerfyrddin ar gyfer Trafnidiaeth 2009 – 2014, gyda bwriad i ddechrau ar y gwaith adeiladu yn ystod 2009-2014:

5.9.84 Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol hefyd yn nodi polisïau, blaenoriaethau a strategaethau ychwanegol sy’n elfennau ynddo, ac yn cynnwys y prosiectau canlynol (mae’r rhai a nodir naill ai’n generig neu’n benodol i Sir Gaerfyrddin) a basiodd y broses sgrinio blaenoriaethu. O ganlyniad mae tair rhaglen bum mlynedd wahanol yn cael eu cynnwys ac yn dangos beth ellid ei gyflawni o dan broffiliau gwario penodol. Nodir y rhain yn y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Fodd bynnag, rhoddir sylw hefyd i’r Cynllun Trafnidiaeth Lleol datblygol yng ngoleuni’r newidiadau o ran trafnidiaeth ranbarthol trwy’r Ddinas-ranbarth. Yn hyn o beth, bydd y cynlluniau a’r blaenoriaethau a nodir trwy’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn faterion i’w hystyried trwy’r Cynllun Trafnidiaeth Lleol datblygol, a chaiff ei berthynas strategol â’r CDLl ei monitro’n unol â hynny.

5.9.85 Cafodd y Flaenraglen Cefnffyrdd ei chyhoeddi ym mis Mawrth 2002, a’i hailflaenoriaethu yn 2008, pan roddwyd y cynlluniau a’r prosiectau ledled Cymru mewn un o 4 categori mewn trefn (cam 1 yw’r uchaf). Mae’r canlynol yn rhestr o lwybrau wedi’u diogelu a nodir yn ardal y cynllun, a’u safleoedd yn y drefn:

5.9.86 Dylai cynigion ar gyfer seilwaith trafnidiaeth newydd roi sylw i, ac ymgorffori, materion yn ymwneud ag ansawdd aer a gollyngiadau i ddwr. Dylid cyflawni asesiad ecolegol i lywio ystyriaethau dylunio gan gynnwys gwelliannau i gynefinoedd. Byddir yn rhoi sylw i unrhyw faterion rheoli ansawdd aer ac yn fwyaf nodedig yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn Llandeilo. Mae’r goblygiadau sydd gan ddatblygiadau i nodweddion bioamrywiaethol yn galw am ystyriaeth ddyledus, yn arbennig mewn perthynas ag unrhyw effeithiau ar safleoedd Ewropeaidd a rhywogaethau gwarchodedig. Dylid rhoi sylw i SP14 a pharagraff 6.6.20 mewn perthynas â hyn.

SP9 Trafnidiaeth

Gwneir darpariaeth i gyfrannu at gyflenwi system drafnidiaeth integredig effeithlon, effeithiol, diogel a chynaliadwy trwy:

  1. Leihau’r angen i deithio, yn arbennig mewn ceir modur preifat;
  2. Mynd i’r afael â chynhwysiant cymdeithasol trwy well mynediad i gyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau;
  3. Cefnogi a gwella, lle bo’n berthnasol, ddewisiadau heblaw ceir modur, fel trafnidiaeth gyhoeddus (gan gynnwys cyfleusterau parcio a theithio a hybu mabwysiadu cynlluniau teithio), a thrafnidiaeth lesol trwy feicio a cherdded;
  4. Atgyfnerthu swyddogaeth a rôl aneddiadau yn unol â’r fframwaith aneddiadau;
  5. Hybu defnydd effeithlon o’r rhwydwaith trafnidiaeth;
  6. Defnyddio ystyriaethau lleoliadol ar gyfer cynigion arwyddocaol a fyddai’n cynhyrchu teithiau, gydag atebion o ran dylunio a mynediad mewn datblygiadau i hybu hygyrchedd trwy ffyrdd o deithio heblaw ceir.

Bydd llwybrau, gwelliannau a chyfleusterau seilwaith cysylltiedig ym maes trafnidiaeth sy’n cyflawni amcanion a blaenoriaethau’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru’n cael eu cefnogi. At hynny, bydd gwaith cynnal a gwella llifoedd traffig da a gwneud ffyrdd o deithio mwy cynaliadwy, sy’n cefnogi’r strategaeth a’i hamcanion cynaliadwy, yn fwy deniadol a hyfyw hefyd yn cael eu cefnogi. Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau nad ydynt yn peryglu’r gwaith o weithredu’n effeithlon unrhyw welliant neu gynllun a nodir yn cael eu caniatáu.

Bydd y gwelliannau canlynol i’r seilwaith priffyrdd yn cael eu diogelu a chaiff y llwybrau eu nodi ar y map cynigion:

  1. Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands
  2. Ffordd Gyswllt Gorllewin Caerfyrddin

Bydd y gwelliannau canlynol gan Lywodraeth Cymru i’r seilwaith priffyrdd yn cael eu diogelu:

  1. A483 Gwelliant Llandeilo a Ffair-fach – Cam 3
  2. A40 Llanddewi Felffre i Benblewin (Sanclêr i Hwlffordd gynt) – Cam 3
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS2 ac AS10
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Adnoddau Mwynau

5.9.87 Dylai’r CDLl sicrhau bod y sir yn darparu adnoddau mwynau i ddiwallu anghenion y gymdeithas a bod y fath adnoddau’n cael eu diogelu rhag cael eu gwneud yn anghynhyrchiol. Wrth wneud hyn, nod y CDLl yw sicrhau cydbwysedd priodol rhwng y gofyniad sylfaenol hwn, yr angen i sicrhau defnydd darbodus o’r adnoddau hyn y mae pen draw iddynt, a gwarchod amwynder sy’n bodoli eisoes a’r amgylchedd.

5.9.88 Mae gan Sir Gaerfyrddin amrywiaeth fawr o adnoddau mwynau oherwydd ei daeareg gymhleth. Y brif nodwedd yn rhan ddeheuol y sir yw cromlin lydan brigiad y Cystradau Glo, gyda Chalchfaen Carbonifferaidd ar ei hymyl ogleddol. Cloddio am galchfaen yw’r mwyaf o’r diwydiannau echdynnu yn y sir. O dan rannau gogleddol y sir mae is-haen o greigiau hyn o oed Ordofigaidd a Silwraidd, sef tywodfeini, sialau a llechi gan fwyaf. Mae arwyddocâd economaidd y rhain yn amrywio.

5.9.89 Mae Datganiad Technegol Rhanbarthol De Cymru a Gogledd Cymru 2014 yn nodi’r cyfraniad y dylai pob awdurdod lleol ei wneud tuag at fodloni’r galw rhanbarthol am agregau (yn greigiau caled ac yn dywod a graean). Mae Papur Pwnc Mwynau’r CDLl (Dogfen a Gyflwynwyd CSD81) yn nodi bod ffigwr banc tir y sir yn nhermau creigiau caled dipyn yn fwy na’r gofyniad lleiaf, sef 10 mlynedd (a gynhelir drwy gydol cyfnod y Cynllun) a nodir yn Nodyn Cyngor Technegol Mwynau (MTAN) 1: Agregau. Mae’r CDLl yn nodi’r chwarelau creigiau caled sy’n bodoli eisoes yn y sir. Hefyd nodir ar y Mapiau Cynigion yr ardaloedd diogelu ar gyfer adnoddau posibl creigiau caled o ansawdd da. Mae’r wybodaeth olaf hon yn ymwneud â’r Map Diogelu Agregau ar gyfer De-orllewin Cymru a gynhyrchwyd gan Arolwg Daearegol Prydain.

5.9.90 Ceir dyddodion tywod a graean o wahanol faint ac ansawdd ledled y sir, ac mewn cefnennau ym Môr Hafren. Mae eangderau helaeth o dywod chwythedig neu dwyni tywod wedi ymffurfio ar hyd rhannau o’r arfordir fel Pen-bre a Phentywyn. Ar hyn o bryd ychydig o dywod neu raean sy’n cael ei gloddio ar safleoedd yn Sir Gaerfyrddin. Yn nhermau diwallu’r angen rhanbarthol a nodir yn y Datganiad Technegol Rhanbarthol, mae dau safle tywod a graean gyda chaniatâd cynllunio yn bodoli yn y sir a chaiff meintiau bach o raean afon eu cynhyrchu yn un o’r mannau hyn. Ar hyn o bryd, mae cyflenwadau tywod sy’n cael eu cloddio o’r môr yn diwallu llawer o’r galw. Fodd bynnag, gyda’r symudiad yn y dyfodol i ddibynnu mwy ar agregau sy’n cael eu cloddio ar y tir, nodir adnoddau tywod a graean yn y sir gyda'r ardaloedd a ddiogelir wedi’u darlunio ar y Map Cynigion.

5.9.91 Yn unol â MTAN 2: Glo, mae’r CDLl yn nodi darnau o adnodd glo. Mae’r ardal lle ceir y cystradau glo yn fwy na 200 o filltiroedd sgwâr ac yn ymestyn o Ystradowen yn y dwyrain, trwy Ddyffryn Aman, Dyffryn Llwchwr a Chwm Gwendraeth, i’r arfordir ger Cydweli. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw byllau glo yn y sir. Fodd bynnag, mae diddordeb o dro i dro mewn prosiectau glo brig llai dros dymor byrrach, ac mae un gwaith glo brig bach yn weithredol ar hyn o bryd.

5.9.92 Dylai cynigion ar gyfer cloddio ddefnyddio dulliau cludo amgen (gan gynnwys rheilffyrdd), os ydynt yn briodol ac ar gael, i gludo mwynau swmp o unrhyw safle.

SP10 Datblygiadau Mwynau Cynaliadwy

Gwneir darpariaeth ar gyfer cyflenwad di-dor o fwynau trwy:

  1. Gynnal banc tir digonol o gronfeydd agregau a ganiateir drwy gydol cyfnod y Cynllun;
  2. Hybu defnyddio mwynau mewn ffordd effeithlon a phriodol;
  3. Hybu ailddefnyddio ac ailgylchu mwynau addas fel dewis arall yn lle agregau crai.

Nodir Ardaloedd Diogelu Mwynau (Ardaloedd Chwilio) ar y Map Cynigion er mwyn diogelu adnoddau creigiau caled, tywod a graean, a glo lle gellid eu gweithio yn y dyfodol, er mwyn sicrhau na chaiff y fath adnoddau eu gwneud yn anghynhyrchiol yn ddianghenraid gan ddatblygiadau. Byddai angen i gynigion i gloddio’r adnodd gyd-fynd â holl bolisïau perthnasol y Cynllun hwn.

Wrth ddehongli’r polisi hwn, ystyr banc tir yw stoc o ganiatadau cynllunio ar gyfer cloddio a gweithio mwynau. Mae’n cynnwys cyfanswm yr holl gronfeydd a ganiateir ar safleoedd gweithredol ac anweithredol ar unrhyw adeg benodol ar gyfer ardal benodol.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS5
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni

5.9.93 Mae mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn fater mwyfwy pwysig ym mhob agwedd ar lunio polisi. Gall penderfyniadau a wneir yn lleol, yn arbennig mewn perthynas â chynhyrchu ac arbed ynni, ddylanwadu ar yr effaith ar y newid yn yr hinsawdd. Mae polisïau a chanllawiau presennol y llywodraeth yn canolbwyntio ar leihau allyriadau nwyon ty gwydr mewn ymgais i arafu’r newid yn yr hinsawdd. Byddir yn hybu gweithredu hierarchaeth ynni a fydd yn:

  1. Lleihau’r galw am ynni;
  2. Hybu effeithlonrwydd ynni; a
  3. Chynyddu cyflenwad ynni adnewyddadwy.

5.9.94 Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targedau penodol o ran cynhyrchu trydan o ffynonellau adnewyddadwy ar gyfer Cymru, ac mae gan bolisïau’r CDLl ran bwysig wrth gynorthwyo i gyrraedd y targedau hyn. Ystyrir cynhyrchu trydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy yn rhan o’r ffordd i leihau allyriadau nwyon ty gwydr. Bydd polisïau yn hwyluso datblygu pob math o fesurau ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni ac arbed ynni mewn mannau priodol.

5.9.95 Gellir diffinio ynni adnewyddadwy fel ffynonellau ynni sydd ar gael drwy’r amser ac yn gynaliadwy (ac eithrio tanwyddau ffosil neu niwclear). Gall y ffynonellau ynni hyn gynnwys gwynt, dwr, solar, geothermol a thanwyddau biomas. Rhoddir anogaeth i gynnwys gosodiadau ynni adnewyddadwy mewn cynigion datblygu ynghyd â chynigion annibynnol. Wrth asesu ceisiadau, caiff yr angen am y datblygiad ei gydbwyso â’r angen i warchod a gwella amgylchedd y sir, ac ansawdd bywyd ac amwynder preswylwyr ac ymwelwyr.

5.9.96 Wrth weithio tuag at gyrraedd targedau ynni adnewyddadwy, yn ddiweddar rhoddwyd pwyslais ar ddatblygu ynni gwynt ar y tir. Mae TAN8 (2005) yn nodi ardal Coedwig Brechfa fel un addas ar gyfer datblygu fferm wynt fawr (Ardal Chwilio Strategol G). Mae rhan o Ardal Chwilio Strategol E: Pontardawe o boptu ffin y sir tua’r dwyrain. Dim ond yn yr Ardaloedd Chwilio Strategol a nodir y bydd ffermydd gwynt mawr (mwy na 25MW) yn cael eu cefnogi. Caiff Canllawiau Cynllunio Atodol eu cynhyrchu i gefnogi’r polisïau sy’n ymwneud ag Ynni Adnewyddadwy (SP11, RE1, RE2, RE3).

SP11 Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni

Bydd cynigion datblygu sy’n ymgorffori mesurau effeithlonrwydd ynni a thechnolegau cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn cael eu cefnogi mewn ardaloedd lle gellir mynd i’r afael â’r effeithiau amgylcheddol a chronnol yn foddhaol. Ni fydd datblygiadau o’r fath yn achosi niwed dangosadwy i amwynder preswyl a byddant yn dderbyniol yn y dirwedd. Bydd pob cynnig yn cael ei asesu fesul achos unigol.

Dim ond yn yr Ardaloedd Chwilio Strategol y bydd ffermydd gwynt mawr yn cael eu caniatáu.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4 ac AS5
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Rheoli Gwastraff

5.9.97 Mae’r system rheoli gwastraff a chynllunio gwastraff yn newid yn gyflym. Mae deddfwriaeth newydd a gyflwynwyd gan yr Undeb Ewropeaidd yn pennu targedau ar gyfer lleihau ac ailgylchu gwastraff a bydd yn galw am ddulliau newydd o reoli gwastraff, ynghyd â chynnydd sylweddol o bosibl yn nifer y cyfleusterau i alluogi rhoi’r dulliau hyn ar waith ac i’r targedau gael eu cyrraedd.

5.9.98 Bydd y cyngor, yn unol â Dogfen y Strategaeth Wastraff Drosfwaol ar gyfer Cymru ‘Tuag at Gymru Ddiwastraff’ (2010) a Pholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 yn ceisio hybu lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau gwastraff. Mae’n ofynnol iddo ddatblygu dull cynaliadwy o reoli gwastraff, gan gynnwys canfod tir sy’n briodol i hwyluso rhwydwaith integredig a chynaliadwy o gyfleusterau gwastraff, yn unol ag ymrwymiadau cenedlaethol ac Ewropeaidd.

5.9.99 Er bod Adolygiad Cyntaf y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol (2008) wedi canfod y byddai’n rhaid i’r Awdurdod ddarparu hyd at 13.2 hectar o dir hyd at 2013, nid yw fersiwn ddiwygiedig TAN21: Gwastraff, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2014, yn pennu gofyniad mwyach i nodi’n benodol faint y ddarpariaeth ar wahân y mae’n debyg y bydd ei hangen yn y dyfodol ar gyfer cyfleusterau gwastraff. Fodd bynnag, bydd angen o hyd i Gynlluniau Datblygu Lleol nodi lle mae safleoedd addas a phriodol yn bodoli i ddarparu pob math o gyfleusterau rheoli gwastraff. Yn hyn o beth, a gyda datblygiadau technolegol newydd a newidiadau yn y ddeddfwriaeth, polisïau ac arferion, mae gan gyfleusterau rheoli gwastraff dan do modern olwg allanol debycach i unrhyw uned ddiwydiannol arall a cheir ynddynt broses o ddadweithgynhyrchu neu gynhyrchu ynni diwydiannol nad yw’n wahanol i brosesau diwydiannol modern. Felly mae addasrwydd safleoedd diwydiannol B2 mewn egwyddor wedi cael ei dderbyn ac yn caniatáu mwy o safleoedd posibl. Dylid rhoi sylw i Bolisi SP7 - Cyflogaeth – Dyraniadau Tir sy’n nodi’r safleoedd hynny sydd â photensial i gynnig lle ar gyfer cyfleusterau gwastraff dan do. O’r safleoedd a nodir ym Mholisi SP7, mae lle tybiannol o 31.37ha ar gael o bosibl. Mae lle ychwanegol hefyd ar gael o bosibl ar Safle Rheoli Gwastraff Nant-y-caws yn ogystal â thir posibl a fydd efallai ar gael ar safleoedd cyflogaeth sy’n bodoli eisoes yn ystod cyfnod y cynllun.

5.9.100 Mae fersiwn ddiwygiedig TAN 21 yn nodi y bydd angen cydweithredu rhwng awdurdodau cynllunio lleol i fonitro cynnydd tuag at sefydlu rhwydwaith integredig a digonol i waredu gwastraff ac adfer gwastraff trefol cymysg. Mae’r Nodyn yn mynd ymlaen i ddweud y dylai awdurdodau cynllunio lleol, ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, sefydlu cyd-drefniadau gwirfoddol i gyflawni gwaith monitro blynyddol ar sail rhanbarthau (Gogledd, De-orllewin a De-ddwyrain Cymru).

5.9.101 Wrth lunio cynigion datblygu, dylid rhoi ystyriaeth i’r goblygiadau o ran gwastraff. Dylai lleoliad a maint datblygiadau roi sylw i ba gyfleusterau rheoli gwastraff sydd yn yr ardal, ac i’w capasiti. Yn hyn o beth, ni ddylai cynigion arwain at achosi teithiau dianghenraid. Bydd y Cyngor yn parhau i geisio lleihad net ym maint y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi. Dylid rhoi sylw hefyd i bolisïau WPP1 a WPP2 mewn perthynas â’r ddarpariaeth rheoli gwastraff.

SP12 Rheoli Gwastraff

Gwneir darpariaeth i sicrhau bod dull integredig o reoli gwastraff yn darparu ar gyfer:

  1. Dyrannu digon o dir priodol i ddarparu ar gyfer rhwydwaith integredig o gyfleusterau rheoli gwastraff;
  2. Mabwysiadu hierarchaeth o ddewisiadau ar gyfer rheoli gwastraff yn y drefn ganlynol: atal, paratoi i’w ailddefnyddio, ailgylchu, dulliau eraill o adfer (e.e. adfer ynni); a gwaredu;
  3. Rheoli a gwaredu gwastraff yn agos at y man lle cafodd ei gynhyrchu, yn unol ag egwyddor agosatrwydd; dylid rhoi sylw i leoliad cyfleusterau rheoli gwastraff (a’u capasiti) wrth lunio cynigion ar gyfer datblygiadau.

Caiff gweithrediadau rheoli gwastraff dan do eu caniatáu ar safleoedd cyflogaeth B2 sydd wedi’u dyrannu a’u diogelu os gellid darparu lle ar gyfer y defnydd yn ddigonol ac yn amodol ar y canlynol:

  1. Na fyddai unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol ar iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd, amwynder lleol a’r rhwydwaith trafnidiaeth lleol;
  2. Bod y cynnig yn gydnaws â’r gweithgareddau diwydiannol a masnachol sy’n bodoli eisoes.
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS2 ac AS5
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Gwarchod a Gwella’r Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol

5.9.102 Mae gan Sir Gaerfyrddin dreftadaeth adeiledig hanesyddol a diwylliannol cyfoethog ac amrywiol, gyda rhyw 27 o ardaloedd cadwraeth dynodedig, 9 Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol sydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn ffiniau’r sir, 19 o Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig, 470 o Henebion Rhestredig sy’n amrywio o nodweddion o ddiddordeb hanesyddol diwylliannol Cynhanesyddol i rai Ôl-ganoesol/Modern, yn ogystal â 1,853 o adeiladau rhestredig (ym mis Chwefror 2013). Nodau’r CDLl mewn perthynas â’r amgylchedd adeiledig ac adeiladau hanesyddol yw, ar y cyd gyda deddfwriaeth sylfaenol, diogelu cyfanrwydd diwylliannol aneddiadau, nodweddion ac adeiladau hanesyddol yn ardal y Cynllun, a lle bo’n berthnasol, cyfrannu at y gwaith o wella’r amgylchedd hanesyddol ac adeiledig.

5.9.103 Dylid ystyried adeiladau, trefweddau a thirweddau hanesyddol y sir yn gaffaeliad a dylid mynd ati i’w gwarchod a’u gwella er lles preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae cymeriad arbennig ac amrywiol y sir, gyda’i chefn gwlad digyffwrdd, treftadaeth ddiwydiannol a chyfoeth o drefi a phentrefi hanesyddol yn adlewyrchu’r newidiadau a welwyd ar hyd yr oesoedd, gan gysylltu’r gorffennol â’r presennol a chynnal hunaniaeth ddiwylliannol unigryw’r ardal.

5.9.104 Bydd y Cyngor yn parhau i hybu gwaith i wella ei Ardaloedd Cadwraeth presennol a bydd yn adolygu’r posibilrwydd o ddynodi rhagor o Ardaloedd Cadwraeth fel bo’n briodol. Ei nod fydd gwella a gwarchod eu cymeriad hanesyddol neu bensaernïol arbennig. Yn hyn o beth bydd y Cyngor yn parhau i fonitro’r ardaloedd hyn, a bydd yn adolygu ffiniau ac yn dynodi ar yr adegau ac yn y mannau y bernir y bo angen. Caiff cynlluniau rheoli/adroddiadau arfarnu yn nodi’r nodwedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig a/neu eglurhad o baramedrau dylunio eu paratoi fel bo’n briodol.

5.9.105 Caiff unrhyw gynigion mewn perthynas ag ardaloedd cadwraeth eu hasesu o ran eu heffaith ar gymeriad a golwg yr ardal a defnyddir adroddiadau arfarnu cadwraeth (os ydynt ar gael) wrth benderfynu ar unrhyw geisiadau cynllunio. Dylai datblygiadau newydd fod yn gydnaws â nodweddion o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig yr ardal. Ni fydd y CDLl, yn unol â chanllawiau, yn ceisio dynodi ardaloedd cadwraeth newydd. Mae’r ardaloedd cadwraeth dynodedig fel a ganlyn (dangosir yr ardaloedd hyn ar y Map Cynigion):

5.9.106 Ceir canllawiau clir a deddfwriaeth mewn perthynas â’r canlynol ym Mhennod 6: Gwarchod yr Amgylchedd Hanesyddol o Bolisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 5 ac mae polisi SP13 yn cydnabod pwysigrwydd ardaloedd a nodweddion o’r fath i’r sir.

5.9.107 Rhaid cydnabod y potensial ar gyfer datblygiadau newydd ar draws aneddiadau yn y sir ac o’r herwydd mae’n bwysig sicrhau cydbwysedd rhwng gwarchod a gwella’r amgylchedd hanesyddol a’r angen posibl am ddatblygiadau newydd. Bydd y CDLl yn ceisio cyfeirio a rheoli twf posibl mewn ffordd sy’n parchu pwysigrwydd yr amgylchedd adeiledig a hanesyddol. Bydd hefyd angen ystyried effeithiau ehangach datblygiadau. Yn hyn o beth bydd safleoedd lle mae perygl oherwydd ansawdd yr aer yn cael eu monitro gan ddefnyddio’r gofrestr adeiladau mewn perygl. Bydd y canlyniadau’n llywio gofynion yn y dyfodol oddi wrth gynigion datblygu (ar draws ardal ehangach) o ran eu hatgyweirio a’u cynnal a’u cadw. Mae hyn yn adlewyrchu diffyg tystiolaeth fanwl i lywio unrhyw rwymedigaethau cynllunio posibl a byddir yn edrych ar bolisi yn y dyfodol yn dilyn canlyniadau’r gwaith monitro. Bydd y Cyngor yn cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Archaeoleg yn unol â’r Rhestr a nodir yn Atodiad 3 Canllawiau Cynllunio Atodol.

SP13 Gwarchod a Gwella’r Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol

Dylai cynigion datblygu warchod neu wella amgylchedd adeiledig a hanesyddol y sir, ei hasedau diwylliannol, trefweddol a thirweddol (a nodir isod), a, lle bo’n briodol, eu lleoliad. Caiff cynigion sy’n ymwneud â’r canlynol eu hystyried yn unol â chanllawiau cenedlaethol a deddfwriaeth.

  1. Safleoedd a nodweddion o Bwysigrwydd Hanesyddol a Diwylliannol cydnabyddedig;
  2. Adeiladau rhestredig a’u lleoliad;
  3. Ardaloedd Cadwraeth a’u lleoliad;
  4. Henebion Rhestredig a safleoedd eraill o bwysigrwydd archeolegol cydnabyddedig.

Disgwylir i gynigion hybu dyluniad o ansawdd da sy’n atgyfnerthu cymeriad lleol ac yn parchu a gwella’r lleoliad lleol a phriodweddau diwylliannol a hanesyddol ardal y cynllun.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4 ac AS7
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Gwarchod a Gwella’r Amgylchedd Naturiol

5.9.108 Mae ansawdd tirweddau ac amgylchedd naturiol ardal y Cynllun yn cyfrannu’n sylweddol at hunaniaeth, cymeriad a natur unigryw’r sir. Mae gwarchod a gwella’r elfennau hyn yn rhan bwysig o’r Strategaeth, gan adlewyrchu Amcanion Strategol AS1 ac AS4. Mae gan Sir Gaerfyrddin amgylchedd naturiol cyfoethog ac amrywiol gyda nifer o safleoedd wedi’u dynodi oherwydd eu pwysigrwydd o ran cadwraeth natur a bioamrywiaeth. Rhoddwyd sylw i Asesiad Bioamrywiaeth Aneddiadau Sir Gaerfyrddin – 2011 (Dogfen a Gyflwynwyd CSD99) wrth baratoi’r Cynllun hwn. Mae’r astudiaeth wedi cynorthwyo i lywio’r broses gwneud penderfyniadau (yn nodedig mewn perthynas â dewis safleoedd) hyd at fapio ardaloedd o werth bioamrywiaethol posibl mewn aneddiadau dynodedig ac o’u cwmpas.

5.9.109 Mae gwarchod a gwella’r elfennau hynny, rhai naturiol a rhai o waith dyn, sy’n rhyngweithio ac yn cyfrannu at ansawdd tirwedd, amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin yn un o’r materion allweddol i’r Cynllun. Felly mae effaith bosibl y Cynllun a’i bolisïau a’i gynigion ar werth amwynderol, nodweddion o ddiddordeb o ran cadwraeth natur, ansawdd dwr/pridd/aer, a threfnau hydrolegol, daearegol a geomorffolegol wedi llywio’r broses o lunio’r Cynllun (mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd wedi cael ei gyflawni i asesu effeithiau’r Cynllun ar safleoedd dynodedig o Bwysigrwydd Ewropeaidd ar gyfer Cadwraeth Natur). Gwrthwynebir cynigion datblygu a gaiff effaith andwyol ac arwyddocaol. Yn hyn o beth, tynnir sylw at y ffaith y nodir yn yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd y potensial am effaith arwyddocaol debygol ar fetaboblogaeth britheg y gors ar ACA Caeau Mynydd Mawr. Mae’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn mynd ymlaen i argymell cynnwys strategaeth i ddarparu ardal neu rwydwaith o ardaloedd y gellir eu rheoli i ddarparu cynefin mewn cyflwr da i fritheg y gors. Nodir y dewisiadau canlynol:

5.9.110 Wrth gydnabod a chyfrifo ar gyfer y potensial am effaith arwyddocaol debygol mewn perthynas ag ACA Caeau Mynydd Mawr, mae’r CDLl yn gwneud darpariaeth briodol trwy bolisi EQ7 - Datblygiadau yn Ardal Canllawiau CynllunioAtodol Caeau Mynydd Mawr a’r Canllawiau Cynllunio Atodol mabwysiedig.

5.9.111 Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol yn darparu canllawiau ar ofynion o ran lliniaru (gan gynnwys cyflwyno strategaethau lliniaru) a, lle bo’n briodol, gyfraniadau trwy rwymedigaethau cynllunio (wedi’u cysylltu â pholisi GP3) a chaiff goblygiadau yr Ardoll Seilwaith Cymunedol ystyriaeth ddyledus hefyd.

5.9.112 Er bod y Cynllun yn cydnabod yr angen am ddatblygiadau newydd at ddibenion cymdeithasol a dibenion economaidd, bydd y Cyngor yn ceisio diogelu ansawdd amgylcheddol Sir Gaerfyrddin trwy wella ardaloedd o ddiddordeb o ran tirwedd neu gadwraeth natur. Mae Polisi SP14 ceisio sicrhau y caiff yr amgylchedd naturiol ei warchod a’i wella, ac wrth wneud hynny, yn cyfrannu at leddfu effeithiau andwyol posibl polisïau eraill sy’n golygu datblygiadau ffisegol. Dylid nodi hefyd bod angen i’r polisi allu cydbwyso cyfyngiadau posibl gyda’r enillion sy’n deillio mewn rhannau eraill o’r agenda cynaliadwyedd, er enghraifft effeithiau prosiectau ynni adnewyddadwy ar dirwedd. Bydd yr Awdurdod hefyd yn paratoi a chyhoeddi Canllawiau Cynllunio Atodol ar Goed, Tirweddau a Datblygiadau.

5.9.113 Ceir yn y sir lawer o ardaloedd o ansawdd tirweddol da ac eithriadol. Wrth adolygu’r Ardaloedd Tirwedd Arbennig blaenorol, mae’r Cynllun hwn yn nodi ac yn diffinio 18 Ardal o’r fath. Mae’r fethodoleg i’w nodi’n cyd-fynd â Nodyn Cyfarwyddyd 1Gwybodaeth LANDMAP Cyngor Cefn Gwlad Cymru (2008). Mae’r ardaloedd hyn wedi’u dynodi i’w gwarchod rhag datblygiadau amhriodol. Dylid rhoi sylw hefyd i bolisi EQ6 - Ardaloedd Tirwedd Arbennig.

5.9.114 Hefyd, o dan adran 62 (2) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 mae dyletswydd ar bob Awdurdod Unedol i roi sylw i’r dibenion y dynodwyd Parciau Cenedlaethol atynt. Dylid rhoi sylw dyledus i’r dynodiad Parc Cenedlaethol lle y gall effeithio ar y ffordd yr ystyrir cynigion cynllunio.

5.9.115 Mae tair o Forweddau Cymru’n berthnasol i Sir Gaerfyrddin:

5.9.116 Mae diddordeb cyfoethog yr ardal o ran cadwraeth natur yn cael ei bwysleisio trwy’r dynodiadau statudol Ewropeaidd a chenedlaethol canlynol, gan gynnwys 7 Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), 3 Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ac 1 safle Ramsar.

Ardaloedd Cadwraeth Arbennig:

Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig:

Ramsar:

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol:

5.9.117 Ceir yn y sir hefyd 82 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) (ac mae 12 arall yn y rhan o Sir Gaerfyrddin sydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog), a 5 Gwarchodfa Natur Genedlaethol. Mae gan y fath safleoedd warchodaeth statudol, ac o ganlyniad caiff cynigion sy’n effeithio ar y fath safleoedd dynodedig eu hystyried yn unol â pholisi cenedlaethol a geir ym Mhennod 5 o Bolisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 7) a TAN 5: Cynllunio a Chadwraeth Natur.

5.9.118 Ceir yn y sir hefyd 32 o Safleoedd Daearegol a Geomorffaidd Pwysig Rhanbarthol (RIGS) ac mae 5 safle wedi’u dynodi’n Warchodfeydd Natur Lleol yn y mannau canlynol: Twyni Tywod a Morfa Pen-bre, y Pwll Lludw a Merllyn y Pwll, Twyni Doc y Gogledd, Glan-yr-Afon a Choetiroedd Carreg Cennen. Mae Safleoedd o Bwysigrwydd i Gadwraeth Natur (SoBiGN), Gwarchodfeydd Natur Lleol (LNR) a Safleoedd Daearegol a Geomorffaidd Pwysig Rhanbarthol (RIGS) yn nodi ardaloedd sydd o bwysigrwydd lleol i gadwraeth natur, a gallant gynnwys safleoedd ac arnynt amrywiaeth o fathau o gynefin neu sy’n cynnal amrywiaeth o rywogaethau. Dylid rhoi sylw i bolisi EQ3 - Dynodiadau Rhanbarthol a Lleol. Cydnabyddir bod safleoedd neu nodweddion sy’n bwysig yn lleol yn gwneud cyfraniad pwysig at gyfoethogrwydd a chadernid ein hamgylchedd naturiol a hefyd eu bod yn adnodd ar gyfer bioamrywiaeth, er nad ydynt yn destun gwarchodaeth statudol. Ceir yn yr ardal hefyd 7 Tirwedd Gofrestredig yn Sir Gaerfyrddin.

5.9.119 Ceir canllawiau cenedlaethol clir a deddfwriaeth mewn perthynas ag ardaloedd a safleoedd sydd â dynodiadau cadwraeth natur statudol (SoDdGA, safleoedd Ramsar, ACA ac AGA) yn ogystal â rhywogaethau sydd wedi’u gwarchod o dan ddeddfwriaeth Ewrop a deddfwriaeth y Deyrnas Unedig ym Mhennod 5: Gwarchod a Gwella’r Dreftadaeth Naturiol a’r Arfordir o Bolisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 a TAN5. Dylid rhoi sylw hefyd i Bolisi Cynllunio Cymru mewn perthynas â gwarchod a gwella cefn gwlad (Paragraff 4.6.4) a ‘gwarchod y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlddefnydd’ a gwarchod tir o radd 1, 2 a 3a fel adnodd y mae terfyn iddo ar gyfer y dyfodol (Paragraff 4.10.1).

5.9.120 Yn yr ardaloedd hynny lle ceir tir amaethyddol o radd 2 a 3 dylid cyflwyno asesiad pridd manwl gydag unrhyw gynnig. Mewn achosion o’r fath, dylai cynigion osgoi colli neu leihau’r tir amaethyddol gorau a mwyaf amlddefnydd.

5.9.121 Mae’r CDLl yn cydnabod potensial hybu defnyddiau tir ac arferion rheoli tir sy’n helpu i sicrhau a diogelu dalfeydd carbon (gan gynnwys mawn) Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 7 Paragraff 5.4.5.

5.9.122 Dylid rhoi sylw hefyd i ddarpariaethau Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006, Adran 42 Rhestr o Rywogaethau a Chynefinoedd Pwysig Iawn er mwyn Gwarchod Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru. Dylid rhoi sylw i ddarpariaethau TAN5.

SP14 Gwarchod a Gwella’r Amgylchedd Naturiol

Dylai datblygiadau adlewyrchu’r angen i warchod a, lle bynnag y bo modd, gwella amgylchedd naturiol y sir.

Dylid ystyried pob cynnig datblygu yn unol â chanllawiau cenedlaethol/deddfwriaeth a pholisïau a chynigion y Cynllun hwn, gan roi ystyriaeth ddyledus i ardaloedd o werth cadwraeth natur, cefn gwlad, tirweddau ac ardaloedd arfordirol, gan gynnwys y rheiny a nodir isod:

  1. Safleoedd â dynodiad statudol gan gynnwys safleoedd Ramsar, AGA, ACA, SoDdGA a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol;
  2. Bioamrywiaeth a Gwerth Cadwraeth Natur, gan gynnwys rhywogaethau a chynefinoedd gwarchodedig o bwysigrwydd cydnabyddedig yn ogystal â choridorau a llwybrau cysylltedd allweddol; (Polisïau EQ4 ac EQ5)
  3. Safleoedd sy’n bwysig yn lleol ac yn rhanbarthol (a’u nodweddion) gan gynnwys Gwarchodfeydd Natur Lleol a RIGS; (gweler Polisi EQ3)
  4. Ardaloedd o ansawdd tirweddol a morweddol dynodedig; (gan gynnwys ATA)
  5. Nodweddion sy’n cyfrannu at natur unigryw leol, gwerth cadwraeth natur neu’r dirwedd; (gweler Polisi EQ5)
  6. Y Cefn Gwlad Agored; (gweler Polisi GP2)
  7. Y tir amaethyddol gorau a mwyaf amlddefnydd; (Graddau 2 a 3a)
  8. Asedau naturiol: gan gynnwys aer, pridd (gan gynnwys priddoedd â llawer o garbon), dyfroedd a reolir ac adnoddau dwr. (Gweler Polisïau EP1 ac EP2)
Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS4, AS5 ac AS7
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Twristiaeth a’r Economi Ymwelwyr

5.9.123 Mae twristiaeth yn bwysig i economi Sir Gaerfyrddin. Caiff y sir ei marchnata fel Gardd Cymru, ac mae’n gartref i amrywiaeth fawr o atyniadau, gan gynnwys atyniadau a gydnabyddir yn genedlaethol fel y Gerddi Botaneg Cenedlaethol a Chae Ras Ffos Las. Mae nodweddion naturiol a diwylliannol eithriadol y sir yn darparu sylfaen ar gyfer mwy o dwf yn unol â’r dulliau strategol rhanbarthol a nodir yng Nghynllun Partneriaeth Twristiaeth Ranbarthol De-orllewin Cymru a Chynllun Gweithredu Ardal Cynllun Gofodol Cymru.

5.9.124 Mae’r Weledigaeth Twristiaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin 2005-2015 yn pwysleisio buddion cymdeithasol ac economaidd posibl twristiaeth, ac ar yr un pryd yn cadarnhau pwysigrwydd gwarchod a gwella’r amgylchedd. Mae’r heriau i dwristiaeth yn cynnwys hwyluso amrywiaeth, gwella ansawdd a chynyddu amrywiaeth y llety sydd ar gael, a gwella arlwy’r sir fel cyrchfan “gydol y flwyddyn”. Mae’r materion hyn i gyd yn bwysig wrth nodi safon a natur y datblygiadau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth y bydd y CDLl yn ceisio cyfrannu at eu cyflawni yn ystod cyfnod y cynllun.

5.9.125 Mae gan dwristiaeth y potensial i gynorthwyo i ehangu economi’r sir a chreu a chynnal swyddi lleol. Mae lleoliad yn dylanwadu ar yr arlwy twristiaeth yn y sir, gan fod ardal y glannau’n gartref i atyniadau allweddol fel Parc Gwledig Pen-bre a Pharc Arfordirol y Mileniwm yn cynnig math gwahanol o atyniad i’r hyn a gynigir gan ardaloedd mwy gwledig. Disgwylir i gynigion sy’n gysylltiedig â thwristiaeth fod yn gydnaws â’u lleoliad a’r amgylchedd o’u cwmpas, ac i gymryd y rheiny i ystyriaeth.

5.9.126 Lle bo’n briodol, caiff datblygiadau twristiaeth cynaliadwy eu hybu a’u cefnogi os ydynt yn cynyddu ansawdd a hyfywedd ac yn cyfrannu at wella amrywiaeth a chynaliadwyedd economaidd arlwy twristiaeth y sir.

5.9.127 Ni ddylai cynigion gael effaith andwyol ar briodweddau’r ardal o ran y dirwedd, cadwraeth natur neu'r amgylchedd adeiledig, a dylent fod yn gyson â’r hierarchaeth aneddiadau. Caiff graddfa, maint a math unrhyw gynigion eu harfarnu, ynghyd â’u lleoliad a’u heffaith. Dylai cynigion adlewyrchu cymeriad a golwg yr ardal, gan ddefnyddio tirweddu a sgrinio priodol yn ôl y gofyn.

5.9.128 Bydd nodi ac ystyried cynigion yn unol â’r hierarchaeth leoliadol uchod yn cynorthwyo i sicrhau nad yw datblygiadau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth yn cynyddu’r angen i deithio a’u bod yn hygyrch trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd y Cynllun yn ceisio sicrhau y caiff cynigion ar gyfer datblygiadau newydd sy’n gysylltiedig â thwristiaeth eu lleoli mewn mannau cynaliadwy a hygyrch, ac nad oes effaith andwyol ar gymunedau lleol. Wrth ystyried a yw cynigion yn dderbyniol, rhoddir ystyriaeth i leoliad, safle, dyluniad a graddfa, mynediad i’r rhwydwaith prif ffyrdd a chraidd ac effaith unrhyw draffig a gynhyrchir o ganlyniad. At hynny, mae’r graddau y mae modd i’r safle gael ei wasanaethu gan drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio yn ystyriaethau pwysig. Dylai’r pwyslais fod ar gyflwyno cynigion sy’n hyfyw yn economaidd ac sy’n cyfrannu at wella amrywiaeth, ansawdd a chynaliadwyedd economaidd arlwy twristiaeth y sir, ond ni ddylent gael effaith sylweddol ac andwyol ar briodweddau a nodweddion cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol y safle, yr ardal a/neu’r sir. Wrth ddehongli polisi SP15 dylid nodi bod cynigion twristiaeth yn cynnwys cyfleusterau newydd yn ogystal ag estyniadau i gyfleusterau sy’n bodoli eisoes. Dylai estyniadau i gyfleusterau sy’n bodoli eisoes fod yn israddol o ran eu graddfa a’u swyddogaeth i’r cyfleuster sy’n bodoli eisoes a dylid dehongli cynigion sy’n gyfystyr ag estyniadau sylweddol fel datblygiadau newydd.

5.9.129 Dylai cynigion ar gyfer datblygiadau newydd sy’n gysylltiedig â thwristiaeth yng nghefn gwlad agored roi sylw i ddarpariaethau polisi TSM3 - Datblygiadau Twristiaeth ar raddfa fach yng Nghefn Gwlad Agored, a dylai cynigion ar gyfer datblygiadau twristiaeth ar raddfa fawr yng nghefn gwlad agored roi sylw i ddarpariaethau polisi TSM5 - Cynigion Twristiaeth Mawr yng Nghefn Gwlad Agored. Dylai cynigion ar gyfer safleoedd carafanau sefydlog a chabanau gwyliau roi sylw i bolisi TSM1, a dylai cynigion ar gyfer safleoedd carafanau teithiol a phebyll roi sylw i bolisi TSM2.

SP15 Twristiaeth a’r Economi Ymwelwyr

Caiff cynigion ar gyfer datblygiadau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ac ar gyfer estyniadau priodol i gyfleusterau sy’n bodoli eisoes eu cefnogi os ydynt yn unol â’r hierarchaeth leoliadol a nodir yn i, ii a iii isod, ac yn dderbyniol yn nhermau graddfa, math o ddatblygiad, lleoliad ac effaith gyffredinol:

  1. O fewn terfynau datblygu Ardaloedd Twf a Chanolfannau Gwasanaethau – cynigion twristiaeth mawr, gan gynnwys rhai sy’n cynhyrchu llawer o draffig;
  2. O fewn terfynau datblygu Canolfannau Gwasanaethau Lleol a Chymunedau Cynaliadwy – cynigion ar raddfa lai sy’n adlewyrchu cymeriad yr ardal ac sy’n briodol yn nhermau maint, graddfa ac effaith;
  3. Cefn Gwlad Agored – datblygiadau ar raddfa fach sy’n benodol i leoliad ac y mae’n rhaid iddynt fodloni polisi TSM3, ac eithrio os ydynt yn ddarostyngedig i ddarpariaethau TSM2 a/neu TSM5.

Dylai estyniadau i gyfleusterau sy’n bodoli eisoes fod yn israddol o ran eu graddfa a’u swyddogaeth i’r cyfleuster sy’n bodoli eisoes a dylid dehongli cynigion sy’n gyfystyr ag estyniadau sylweddol fel datblygiadau newydd.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS2, AS4, AS7, AS8, AS11 ac AS12
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Cyfleusterau Cymunedol

5.9.130 Mae’r CDLl yn ceisio gwella a gwarchod defnyddiau cymunedol sy’n bodoli eisoes. Mae’r gwaith o lunio’r Strategaeth a’r fframwaith aneddiadau yn cymryd lleoliad ac argaeledd cyfleusterau cymunedol i ystyriaeth ac o ganlyniad yn adlewyrchu eu dosbarthiad cyffredinol. Mae’n rhesymegol y bydd darparu neu estyn cyfleusterau cymunedol yn y dyfodol yn unol â dosbarthiad gofodol datblygiadau fel y’u diffinnir yn Strategaeth y CDLl a’r fframwaith aneddiadau. Bydd y sicrwydd mae’r CDLl yn ei gyflwyno yn nhermau lefelau poblogaeth a thwf aneddiadau yn llywio penderfyniadau ar ddarpariaeth newydd yn y dyfodol, rhesymoli’r ddarpariaeth neu unioni diffygion yn y ddarpariaeth bresennol.

5.9.131 Mae cyfleusterau cymunedol yn cyfrannu’n sylweddol at ansawdd bywyd, mwynhad a chynwysoldeb aneddiadau a chymunedau yn y sir. Yn hyn o beth, dylid ystyried yn ofalus y posibilrwydd o’u colli o gofio’r effeithiau canlyniadol yn nhermau cynaliadwyedd a hunaniaeth gymunedol. Lle bynnag y bo modd dylid ystyried gwarchod a chadw cyfleusterau cymunedol a mabwysiadu dulliau ymatebol i gynorthwyo i’w cadw. Dylid hybu’r potensial ar gyfer defnydd deuol o gyfleusterau, yn arbennig pe bai’r gweithgarwch ychwanegol yn cynorthwyo i ehangu’r ddarpariaeth gwasanaethau a gwella hyfywedd a defnydd. Mae’n bosibl y bydd canfod pa mor hyfyw yw cyfleuster, yng nghyd-destun newidiadau mewn nodweddion demograffig, cyflwr a gwaith cynnal a chadw, a newidiadau ym mhatrymau’r galw, yn golygu na fydd rhai cyfleusterau’n bodloni’r gofynion mwyach. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae’n bosibl y bydd mathau eraill o ddarpariaeth a defnydd yn briodol. Dylai tystiolaeth leol, darparwr y cyfleuster/gwasanaeth a’r gymuned leol ddylanwadu ar benderfyniad o’r fath (lle bo’n briodol).

5.9.132 Mae hybu hygyrchedd hamdden ffurfiol ac anffurfiol yn ystyriaeth bwysig i’r CDLl. Mae meysydd chwaraeon, parciau ac amwynderau naturiol ehangach fel dyfrffyrdd a choetiroedd yn cynnig cyfleoedd i gael buddion iechyd posibl. Mae ganddynt hefyd y potensial i liniaru achosion ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a gallant ddarparu mannau ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol. Mae Astudiaeth Mannau Gwyrdd Sir Gaerfyrddin yn archwilio’r ddarpariaeth ar sail safonau cenedlaethol. Mae’n darparu cyd-destun gofodol yn nhermau hygyrchedd mannau gwyrdd anffurfiol a ffurfiol ac mae’n offeryn allweddol wrth hybu mynediad cynaliadwy i gyfleusterau yn unol â’r hierarchaeth aneddiadau. Dylid rhoi sylw i bolisi REC1 mewn perthynas â Hamdden a Mannau Agored.

5.9.133 Dylai cynigion gael eu lleoli mewn modd sy’n gyson â’r fframwaith aneddiadau ac ni chânt eu caniatáu ond lle’r ydynt o fewn anheddiad cydnabyddedig, yn union gyfagos i un neu’n gysylltiedig yn uniongyrchol ag un (gan gyfeirio at derfynau datblygu aneddiadau a ddiffinnir ym mholisi SP3).

SP16 Cyfleusterau Cymunedol

Bydd y CDLl yn cefnogi darparu cyfleusterau newydd, ynghyd â gwarchod a gwella cyfleusterau sy’n bodoli eisoes, yn unol â’r fframwaith aneddiadau ac ar sail tystiolaeth o angen. Caiff cynigion ar gyfer datblygiadau newydd sy’n gysylltiedig ag addysg a hyfforddiant eu cefnogi os ydynt yn cefnogi’r fframwaith aneddiadau ac yn unol â pholisïau’r cynllun hwn.

Bydd unrhyw gynigion a fydd yn arwain at golli cyfleuster sy’n bodoli eisoes yn cael eu caniatáu os gellir dangos yn glir nad yw’r cyfleuster yn hyfyw mwyach a bod cyfleuster arall addas yn hygyrch o fewn yr anheddiad neu’r gymuned gynaliadwy (lle bo’n berthnasol).

Er mwyn lliniaru effeithiau datblygiadau penodol, a hwyluso’r gwaith o gyflawni amcanion strategol y Cynllun, mae’n bosibl y ceisir cyfraniadau cymunedol trwy rwymedigaethau cynllunio fel sy’n briodol.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS6, AS7, AS8, AS9, AS13 ac AS14
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Seilwaith

5.9.134 Mae bodolaeth gwasanaethau seilwaith priodol gan gynnwys cyflenwad dwr, carthffosiaeth, draenio tir, nwy, trydan a thelathrebu’n hanfodol i sicrhau y cyflawnir polisïau a chynigion y Cynllun. Yn hyn o beth, dylid nodi bod sail dystiolaeth y Cynllun yn pwysleisio nad oes unrhyw rwystrau hysbys ar lefel y Cynllun na ellir eu goresgyn a fyddai’n atal y gwaith o gyflawni ei bolisïau a’i gynigion o fewn cyfnod y Cynllun (gan gynnwys ei safleoedd strategol).

5.9.135 Datblygu cynaliadwy yw’r thema allweddol sy’n sail i bolisïau a chynigion y Cynllun, sy’n ceisio cynnal twf economaidd a sicrhau cynnydd cymdeithasol mewn cydbwysedd â gwarchod a diogelu’r amgylchedd ac adnoddau naturiol. Mae bodolaeth seilwaith priodol wedi bod â phwysigrwydd cydnabyddedig wrth ddylanwadu ar bolisïau a chynigion y Cynllun ar gyfer lleoliad a graddfa datblygiadau a datblygu safleoedd fesul cyfnod. Wrth geisio sicrhau twf cynaliadwy, mae’r Cynllun yn cydnabod cyfraniad seilwaith ac yn rhoi sylw i welliannau yn y dyfodol. Mae Dwr Cymru’n fodlon bod digon o sylw wedi cael ei roi i allu ei seilwaith wrth lunio’r Cynllun a bydd y Cyngor yn parhau i gydweithio’n agos â’r cwmni mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â darparu seilwaith. Yn hyn o beth, bernir bod y dull rhagweithiol a chydweithredol a ddefnyddiwyd wrth lunio’r Cynllun (gan gynnwys casglu tystiolaeth gefndir helaeth ar seilwaith) yn darparu’r sicrwydd gofynnol ynghylch y gallu i gyflawni.

5.9.136 Felly mae’r Cynllun hwn yn gweithio ochr yn ochr â chynlluniau darparwyr cyfleustodau i wella eu rhwydweithiau i sicrhau bod datblygiadau’n cael eu cydgysylltu a’u bod yn ymarferol. Bernir y bydd Strategaeth y CDLl wrth gyfeirio twf i aneddiadau cynaliadwy yn darparu cyfle i wella’r ddarpariaeth gwasanaethau bresennol yn hytrach na strategaethau eraill posibl yn creu aneddiadau newydd neu estyniadau sylweddol i aneddiadau, a fyddai’n galw am fuddsoddiad sylweddol mewn seilwaith newydd. Wrth ddehongli’r polisi hwn, dylid rhoi sylw hefyd i ddarpariaethau Polisi GP4 Seilwaith a Datblygiadau Newydd. Gellid ceisio cyfraniadau gan ddatblygwyr i hwyluso’r gwaith o gyflwyno unrhyw welliannau angenrheidiol i ddarparu ar gyfer datblygiadau. Wrth nodi felly nad oes unrhyw rwystrau hysbys ar lefel y Cynllun a fyddai’n atal y gwaith o’i gyflawni, mae’r Cynllun hefyd yn gwneud darpariaeth (yn fwyaf nodedig trwy bolisi GP4) ar gyfer ymagwedd fesul achos / fesul safle lle gellir cyflwyno datblygiadau unigol yn hwylus fel y bo’n briodol.

5.9.137 Os cynigir datblygiad sy’n galw am welliannau seilwaith nad ydynt eisoes wedi’u hamserlennu, gellir o bosibl ddefnyddio rhwymedigaethau cynllunio sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr gyfrannu at wneud y fath waith. Byddai’r cyfraniadau’n gysylltiedig yn uniongyrchol â maint y budd a gaed o’r ddarpariaeth. Dylai datblygiadau fod yn unol â Chylchlythyr y Swyddfa Gymreig 10/99 Gofynion Cynllunio mewn perthynas â defnyddio systemau carthffosiaeth heb brif gyflenwad a chynnwys Polisi Cynllunio Cymru. Dylid rhoi sylw i bolisi Cyfoeth Naturiol Cymru i beidio â chaniatáu draenio preifat mewn mannau sydd â charthffosiaeth. Nodir rhagor o fanylion am rwymedigaethau cynllunio o dan bolisi GP3.

SP17 Seilwaith

Caiff datblygiadau eu cyfeirio at leoliadau lle mae seilwaith digonol a phriodol ar gael neu y gellir ei ddarparu’n rhwydd. Felly mae’r CDLl yn cefnogi darparu seilwaith mewn modd darbodus trwy ddyrannu safleoedd mewn aneddiadau dynodedig ac yn unol â’r Fframwaith Aneddiadau.

Caiff cynhyrchu ynni adnewyddadwy a chysylltiadau cyfleustodau cysylltiedig eu hybu, mewn lleoliadau priodol, yn ddarostyngedig i bolisïau eraill y Cynllun.

Caiff cynigion ar gyfer datblygiadau atodol i’r seilwaith cyfleustodau eu caniatáu os:

  1. ydynt yn rhoi sylw i’w lleoliad;
  2. ydynt yn ymgorffori gwaith tirweddu;
  3. nad ydynt yn gwrthdaro â phriodweddau’r ardal o ran yr amgylchedd adeiledig, hanesyddol a diwylliannol, cadwraeth natur a’r dirwedd (Polisïau SP13 a SP14)

Mae’n bosibl y ceisir Rhwymedigaethau Cynllunio yn ymwneud â chyfraniadau datblygwyr tuag at welliannau angenrheidiol i seilwaith, yn ddarostyngedig i bolisi GP3.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS5 ac AS9
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

Y Gymraeg

5.9.138 Bydd y Cyngor yn cefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg trwy sicrhau bod yna ddigon o gyfleoedd cymesur i gael swyddi a thai er mwyn cadw siaradwyr Cymraeg ledled Sir Gaerfyrddin.

5.9.139 Mae’r Gymraeg yn chwarae rhan bwysig ym mywyd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd trigolion Sir Gaerfyrddin ac ymwelwyr â’r sir. Mae’r gofynion polisi a nodir ym mholisi SP18 - Y Gymraeg yn berthnasol ledled y sir ac nid ydynt yn gyfyngedig i ardaloedd penodol oni nodir fel arall yn y Polisi.

5.9.140 Cymerir rhestr o gymunedau lle mae 60% neu fwy o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg o ddata Cyfrifiad 2011: Gorslas, Llan-non, Pencarreg, Pontyberem a Chwarter Bach. Lle bo’n berthnasol, bydd datblygu safleoedd fesul cyfnod yn cael ei nodi fel un o amodau caniatadau cynllunio.

5.9.141 Mae’r CDLl yn darparu rhagor o ganllawiau ar ddarparu hysbysebion dwyieithog ym Mholisi GP5 Hysbysebion. Er mwyn hyrwyddo hunaniaeth ddiwylliannol y sir bydd y Cyngor yn hybu marchnata datblygiadau tai a swyddi newydd yn ddwyieithog.

5.9.142 Bydd y Canllawiau Cynllunio Atodol ar y Gymraeg yn nodi’r mesurau lliniaru a gaiff eu defnyddio i gefnogi nodau ac amcanion y Cynllun, ac yn benodol nodau polisi SP18 Y Gymraeg.

Polisi SP18 Y Gymraeg

Caiff buddiannau’r Gymraeg eu diogelu a’u hyrwyddo. Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau preswyl o 5 neu ragor o anheddau mewn Cymunedau Cynaliadwy a 10 neu ragor mewn Ardaloedd Twf, Canolfannau Gwasanaethau a Chanolfannau Gwasanaethau Lleol, ar safleoedd mewn cymunedau lle mae 60% neu ragor o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, yn ddarostyngedig i ofyniad ar gyfer datblygu fesul cyfnod.

Amcanion Strategol sy’n cael eu cefnogi: AS1, AS3, AS6, AS7 ac AS9
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd gyda pholisïau a chynigion perthnasol eraill yn y CDLl hwn.

 

Brig y dudalen