Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin

4 Gweledigaeth ac Amcanion Strategol

4.1 Gweledigaeth

4.1.1 Nod y Weledigaeth yw cyfleu’r math o le y rhagwelir y dylai Sir Gaerfyrddin fod erbyn 2021. Mae’r Weledigaeth yn esbonio sut y mae’r CDLl yn ceisio mynd i’r afael â’r materion a’r ffactorau sbarduno a nodwyd ac yn rhoi sylw arbennig i’r materion ‘pennawd’ a nodir ym mhennod 3. Mae wedi cael ei datblygu a’i llunio trwy’r Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol, gwaith ymgysylltu a chyfranogi, gwaith casglu tystiolaeth (gan gynnwys proses yr Arfarniad o Gynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol) a chyfeirio at bolisïau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae’r Weledigaeth yn darparu persbectif gofodol sy’n rhoi i’r Cynllun bwrpas a chyfeiriad mewn ffordd sy’n sicrhau bod modd ei wireddu trwy’r system cynllunio defnydd tir.

4.1.2 Mae’r Weledigaeth hefyd yn rhoi sylw i’r Strategaeth Gymunedol Integredig. Er yn nodi pwysigrwydd y Strategaeth Gymunedol, barnwyd mai amhriodol oedd gwneud dim ond mabwysiadu Datganiad Cenhadaeth y Strategaeth Gymunedol fel Gweledigaeth y CDLl gan nad oedd yn ddigon gofodol berthnasol. Fodd bynnag, rhoddwyd sylw i gynnwys y Strategaeth Gymunedol wrth lunio Gweledigaeth i’r CDLl.

4.1.3 Mae’r Weledigaeth i’r Cynllun Datblygu Lleol fel a ganlyn:

SIR GAERFYRDDIN 2021

Bydd Sir Gaerfyrddin yn sir lewyrchus a chynaliadwy llawn cyferbyniadau. Bydd ganddi gymunedau gwledig, trefol ac arfordirol â nodweddion unigryw a hefyd diwylliant unigryw, amgylchedd o safon dda ac economi bywiog ac amrywiol.

Bydd y Sir yn cynnig ansawdd bywyd da mewn cymunedau diogel, hygyrch a chynhwysol. Bydd pawb yn gallu cael mynediad at gyflogaeth o ansawdd da, cymysgedd addas o dai a chyfleusterau cymunedol a hamdden – i gyd mewn amgylchedd glân a gwyrdd.

MEWN TERMAU GOFODOL NODWEDDIR Y SIR GAN:

• Llanelli yn cyflawni ei photensial fel canolfan gwasanaethau fodern a bywiog gan ddatblygu ar ei lleoliad ar y glannau.

• Caerfyrddin yn parhau i ffynnu fel canolfan gwasanaethau a gweinyddol sy’n llewyrchus ac wedi’i lleoli’n strategol, gan gadw ei chymeriad nodedig fel tref sirol.

• Rhydaman/Cross Hands yn parhau i ddatblygu fel ardal dwf unigryw ac amrywiol yn y Cymoedd Gorllewinol.

• Cymunedau cynaliadwy, cymdeithasol-gynhwysol, ac economïau lleol effeithlon wedi’u canolbwyntio ar drefi marchnad y Sir a’i phentrefi mwy.

• Cymunedau gwledig bywiog fel amgylcheddau byw a gwaith.

• Cefn gwlad sy’n cael ei werthfawrogi a’i fwynhau gan drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Ffigwr 4 – Gweledigaeth y Cynllun Datblygu Lleol

4.2 Amcanion Strategol

4.2.1 Mae’r Amcanion Strategol yn ddatganiadau o gyflwr neu sefyllfa y mae’r Awdurdod yn anelu at ei chyflawni ac maent yn cynrychioli bwriadau bras y bydd y polisïau a chynigion manylach yn y CDLl yn ceisio eu gwireddu. Mae’r Amcanion yn ymhelaethu ar weledigaeth y CDLl ac yn canolbwyntio ar y gallu i gyflawni’r CDLl. Mae’n hanfodol bod yr Amcanion yn berthnasol i’r materion a’r ffactorau sbarduno lleol, cenedlaethol a rhanbarthol, ac yn gallu mynd i’r afael â hwy, er mwyn sicrhau bod modd gwireddu’r Weledigaeth.

4.2.2 Roedd y materion, yr adolygiad o bolisïau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol (yn fwyaf nodedig y Strategaeth Gymunedol a Chynllun Gofodol Cymru) a’r gwaith creu gweledigaeth a’r gwaith strategol a gyflawnwyd gan y Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol i gyd yn ganolog i’r gwaith o ddatblygu’r Amcanion Strategol i CDLl Sir Gaerfyrddin. Mae’r Arfarniad o Gynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol hefyd wedi chwarae rhan ganolog ac ailadroddol yn y gwaith o’u datblygu, a chafwyd tystiolaeth o’u cydnawsedd fel rhan o’r broses honno. Dylid troi at y sail dystiolaeth i gael rhagor o fanylion gan gynnwys y Papur Pwnc – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion, sy’n nodi sut y cawsant eu datblygu, a hefyd yn gwerthuso pa mor gydnaws yw’r amcanion â’i gilydd yn ogystal ag â’r Fframwaith Arfarnu Cynaliadwyedd. Mae’r Papur hefyd yn arfarnu’r cysylltiadau rhwng y Weledigaeth a’r Amcanion Strategol.

4.2.3 Nodir isod Amcanion Strategol y CDLl, wedi’u grwpio o dan ‘golofn’ briodol y Strategaeth Gymunedol. Hefyd rhoddir croesgyfeiriad i’r mater neu ffactor sbarduno allweddol perthnasol.

LLE GWELL:
Yr Amgylchedd – gwella’r byd o’n cwmpas, heddiw ac ar gyfer yfory.
AS1: Gwarchod a gwella cymeriad amrywiol, nodweddion unigryw, diogelwch a bywiogrwydd cymunedau’r Sir trwy sicrhau safonau dylunio cydnaws, cynaliadwy o safon uchel.
MFfSCRh: 2,14,16 a MFfSLl: 1,2,4,5,7,8,9,10,17,18,40,50,52
AS2: Sicrhau bod egwyddorion cynaliadwyedd gofodol yn cael eu cynnal trwy:
(a) alluogi datblygiadau mewn mannau sy’n lleihau’r angen i deithio ac yn cyfrannu at gymunedau ac economïau cynaliadwy a pharchu terfynau amgylcheddol, a
(b) lle bynnag y bo modd, annog datblygiadau newydd ar dir a ddatblygwyd o’r blaen ac sydd wedi cael ei adfer yn addas.

MFfSCRh: 1,8,12,13,14,15,16 a
MFfSLl: 1,2,3,4,5,6,7,8,9,10,11,12,13,14,25,26,31,33,34,35,36,41,42,44
AS3: Darparu ar gyfer cymysgedd priodol o dai o safon dda, y bydd mynediad iddynt wedi’i seilio ar egwyddorion datblygu economaidd-gymdeithasol cynaliadwy a chyfle cyfartal.
MFfSCRh: 2,7,12 a MFfSLl: 2,3,4,16,19,20,21,24,25,26,45,48,49,50,53
AS4: Sicrhau bod yr amgylchedd naturiol, adeiledig a hanesyddol yn cael ei ddiogelu a’i wella a bod cynefinoedd a rhywogaethau’n cael eu gwarchod.
MFfSCRh: 2,14,16 a MFfSLl: 1,2,4,5,7,8,10,12,13,14,15,17,18
AS5: Gwneud cyfraniad sylweddol at fynd i’r afael ag achos ac ymaddasu i effaith y newid yn yr hinsawdd, trwy hyrwyddo defnyddio adnoddau’n effeithlon a’u diogelu.
MFfSCRh: 2,4,5,9,10,14 a MFfSLl: 1,2,5,9,10,11,12,13,14,22,41

AGOR DRYSAU:
Dysgu Gydol Oes – helpu pawb i gyflawni ei botensial, o fore oes hyd ddyddiau henaint.
AS6: Cynorthwyo i ledu a hyrwyddo cyfleoedd am addysg a hyfforddiant sgiliau i bawb.
MFfSCRh: 2,13,15 a MFfSLl: 26,27,28,31,33,36,37,45,53
AS7: Cynorthwyo i warchod a gwella’r iaith Gymraeg a hunaniaeth ddiwylliannol unigryw, asedau a gwead cymdeithasol y Sir.
MFfSCRh: 2,7,12,16 a MFfSLl: 4,24,25,30,47,48,49

TEIMLO’N DDA:
Iechyd a lles – mynd i’r afael ag achosion afiechyd trwy edrych ar fywyd yn ei grynswth.
AS8: Cynorthwyo i ehangu a hybu cyfleoedd i gael mynediad i gyfleusterau cymunedol a chyfleusterau hamdden yn ogystal â chefn gwlad.
MFfSCRh: 1,2,7,12,13,15,16 a MFfSLl: 1,2,5,26,32,33,34,36,45,47,53
AS9: Sicrhau bod egwyddorion cyfle cyfartal a chynhwysiant cymdeithasol yn cael eu cynnal trwy hybu mynediad i gymysgedd da ac amrywiol o wasanaethau cyhoeddus, gofal iechyd, siopau, cyfleusterau hamdden a chyfleoedd gwaith.
MFfSCRh: 1,2,3,12,13,15,16 a
MFfSLl: 7,26,28,29,31,33,34,35,36,37,38,39,42,43,44,45,48,49,52,53

BUDDSODDI AC ARLOESI:
Adfywio – adeiladu adnoddau, creu cyfleoedd a chynnig cymorth.
AS10: Cyfrannu at gyflenwi system drafnidiaeth integredig a chynaliadwy sy’n hygyrch i bawb.
MFfSCRh: 1,2,3,15 a MFfSLl: 1,2,5,6,7,9,11,33,36,37,39,40,41,42,43,44,47,48,49
AS11: Annog buddsoddi ac arloesi (gwledig a dinesig) trwy:
(a) darpariaeth ddigonol o dir i ddiwallu’r angen canfyddedig; a
(b) gwneud darpariaeth ar gyfer anghenion datblygiadol cyflogwyr newydd/cynhenid o ran busnes a chyflogaeth, yn enwedig yn nhermau gofynion o ran seilwaith caled a meddal (gan gynnwys telathrebu/TGCh); ac
(c) gwneud darpariaeth ar gyfer y gofynion seilwaith sy’n gysylltiedig â darparu cartrefi newydd yn enwedig yn nhermau gofynion seilwaith caled a meddal (gan gynnwys dŵr brwnt a dŵr wyneb); ac
(ch) cadw at egwyddorion datblygu cynaliadwy a chynhwysiant cymdeithasol yn nhermau lleoli datblygiadau newydd.

MFfSCRh: 1,2,3,6,7,11,12,13,15 a
MFfSLl: 1,2,4,5,6,7,9,16,27,28,29,36,37,39,40,41,42,43,44,45,46,47,48,49
AS12: Hyrwyddo a datblygu mentrau cysylltiedig â thwristiaeth sy’n gynaliadwy ac o ansawdd uchel ar gyfer y flwyddyn gron.
MFfSCRh: 1,3,7,11,13,16 a
MFfSLl: 1,2,4,5,17,18,24,25,29,30,32,34,40,41,42,43,45,46,47,48,49

TEIMLO’N DDIOGEL:
Cymunedau mwy diogel – cynnig diogelwch, delio â throseddu ac ofn troseddau, ein helpu i warchod ein gilydd.
AS13: Cynorthwyo gyda datblygu a rheoli mannau diogel a bywiog ar draws y Sir.
MFfSCRh: 12,16 a MFfSLl: 1,4,28,29,37,39,40,50,51,52,53
AS14: Cynorthwyo gyda sicrhau a rheoli cymunedau cymysg a chynaliadwy trwy:
(a) hybu mannau diogel, bywiog a chymdeithasol ryngweithiol a
(b) hybu defnyddio gwasanaethau a chynnyrch lleol pryd bynnag y bo modd.

MFfSCRh: 2,6,7,12,15,16 a
MFfSLl: 1,2,3,4,19,25,26,28,31,32,33,36,37,38,39,43,45,48,49,50,51,52,53

Tabl 2 – Amcanion Strategol y CDLl

4.2.4 Mae’r isod yn dangos y Weledigaeth mewn perthynas â’r broses o lunio’r Cynllun. Dylid nodi nad yw’r Weledigaeth yn cynnwys yr agweddau gofodol lleol a nodir uchod.

Ffigwr 5
Ffigwr 5 – Y Weledigaeth a Phroses y CDLl

4.2.5 Mae mwy o fanylion am y ffordd y datblygwyd Gweledigaeth ac Amcanion Strategol y CDLl i’w gweld yn yr adroddiadau ar ymgynghoriadau’r Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol a Phapur Pwnc y CDLl – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion. Mae’r rhain ar gael ar www.sirgar.gov.uk


Brig y dudalen