Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin

3 Materion a Ffactorau Sbarduno Allweddol

3.1 Cyflwyniad

3.1.1 Mae’r materion a ffactorau sbarduno allweddol mewn perthynas â Sir Gaerfyrddin a’r CDLl wedi cael eu nodi a’u casglu ynghyd trwy’r canlynol:

3.1.2 Mae’r materion a nodir yn y bennod hon yn crynhoi’r rheiny a nodwyd yn y Strategaeth a Ffefrir (Tachwedd 2009) ac a ddatblygwyd ymhellach ym Mhapur Pwnc 1 – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion (Mehefin 2011). Mae’r gwaith o restru’r materion wedi ein galluogi i sylweddoli sut mae materion, polisïau a strategaethau cenedlaethol a rhanbarthol yn perthyn i’r broses o lunio’r Cynllun ac yn gallu cyfrannu at y Cynllun a’r gallu i’w gyflawni.

3.1.3 Cyfranasant hefyd (ar y cyd gyda’r uchod) i’r gwaith o ganfod a deall materion lleol a’u rôl yn y gwaith o lunio’r Cynllun. Dylid troi at y sail dystiolaeth i gael rhagor o fanylion, ac yn fwyaf nodedig Papur Pwnc 1 lle nodir y materion a’r ffactorau sbarduno’n fanwl. Dylid hefyd edrych ar yr Adroddiadau ar yr Ymgynghoriadau sy’n nodi trafodaethau’r Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol. Mae’r wybodaeth hon ar gael ar wefan y Cyngor.

3.2 Materion a Ffactorau Sbarduno

3.2.1 Mae’r isod yn ffrwyth gwaith crynhoi’r materion a ffactorau sbarduno cychwynnol i 14 o ‘faterion pennawd’, sydd i gyd â sylwadau perthnasol yn sylfaen iddynt ac sydd wedi’u cysylltu â’r 16 o Faterion a Ffactorau Sbarduno Cenedlaethol a Rhanbarthol (MFfSCRh) a’r 53 o Faterion a Ffactorau Sbarduno Lleol (MFfSLl). Rhoddwyd blaenoriaeth i’r 14 o faterion pennawd hyn trwy’r Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol i’w cynnwys yng Ngweledigaeth y CDLl, ac maent wedi cael eu defnyddio fel penawdau sy’n cynnwys yr holl Faterion a Ffactorau Sbarduno.

Cymysgedd addas o dai
Sylwadau:
Mae angen i’r CDLl fod yn glir ynghylch y rhan y bydd yn ei chwarae wrth ddiwallu’r angen am gartrefi newydd. Rhaid i’r Cynllun gael ei seilio ar dystiolaeth am nifer a math y cartrefi newydd y mae eu hangen a rhaid iddo ddangos y gall gyflawni er mwyn diwallu’r angen hwn. Rhaid i’r Cynllun hefyd ddangos fframwaith ymarferol ar gyfer cyfrannu at ddiwallu’r angen am gartrefi fforddiadwy heb beryglu’r gwaith o hybu safonau adeiladu cynaliadwy mewn datblygiadau preswyl.
Mater a Ffactor Sbarduno Cenedlaethol, Rhanbarthol neu Leol:
MFfSCRh 12, MFfSLl 3, MFfSLl 19, MFfSLl 20, MFfSLl 21.

Iechyd a Hamdden
Sylwadau:
Mae angen i’r CDLl fod yn glir ynghylch y rhan y bydd yn ei chwarae wrth gyfrannu at leihau gordewdra a mynegeion amddifadedd perthnasol eraill. Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, rhaid i’r Cynllun ddangos y gall warchod (a gwella lle bynnag y bo modd) hygyrchedd i gyfleusterau a gwasanaethau yng nghefn gwlad ac aneddiadau trefol Sir Gaerfyrddin.
Mater a Ffactor Sbarduno Cenedlaethol, Rhanbarthol neu Leol:
MFfSLl 32, MFfSLl 34, MFfSLl 35

Cydraddoldeb
Sylwadau:
Mae angen i’r CDLl fod yn glir ynghylch y rhan y bydd yn ei chwarae wrth gyfrannu at leihau tlodi hygyrchedd ac allgau cymdeithasol; elfen allweddol o hyn fydd hybu Strategaeth Aneddiadau sy’n dosbarthu datblygiadau mewn modd hygyrch a chynaliadwy sy’n adlewyrchu nodweddion gofodol cyferbyniol y Sir. Bydd angen i’r Cynllun gynnwys fframwaith polisi sy’n hybu cyfle cyfartal yn y system gynllunio.
Mater a Ffactor Sbarduno Cenedlaethol, Rhanbarthol neu Leol:
MFfSLl 33, MFfSLl 36, MFfSLl 37, MFfSLl 38, MFfSLl 39, MFfSLl 45, MFfSLl 53.

Denu mewnfuddsoddiad
Sylwadau:
Mae angen i’r CDLl fod yn glir ynghylch ei ran yn y gwaith o ddenu mewnfuddsoddiad. Rhaid i’r Cynllun gael ei seilio ar dystiolaeth am faint o dir cyflogaeth mae ei angen a rhaid iddo ddangos y gall weithredu i ddiwallu’r angen hwn. Mae hybu safonau adeiladau cynaliadwy ar safleoedd strategol yn agwedd bwysig ar y gwaith o wella ansawdd a chynaliadwyedd datblygiadau amhreswyl.
Mater a Ffactor Sbarduno Cenedlaethol, Rhanbarthol neu Leol:
MFfSCRh 6, MFfSCRh 7, MFfSCRh 13, MFfSLl 23, MFfSLl 40, MFfSLl 46, MFfSLl 48.

Digon o seilwaith ar gyfer datblygiadau newydd
Sylwadau:
Mae angen i’r CDLl fod yn glir ynghylch y rhan y bydd yn ei chwarae wrth gyfrannu at ddatblygu economi gynaliadwy, wyrdd a chydnerth. Rhaid i’r Cynllun ddangos y gall hwyluso’r gwaith o adfywio safleoedd tir llwyd, a bydd angen iddo hefyd ddangos y gall fynd i’r afael â phroblemau sy’n gysylltiedig â chyfyngiadau ar ddatblygu megis darparu seilwaith addas neu faterion yn ymwneud â bioamrywiaeth, a/neu liniaru’r problemau hynny.
Mater a Ffactor Sbarduno Cenedlaethol, Rhanbarthol neu Leol:
MFfSLl 13, MFfSLl 41, MFfSLl 42

Cydgysylltu/Integreiddio
Sylwadau:
Mae angen i’r CDLl fod yn glir ynghylch y rhan y bydd yn ei chwarae wrth helpu i gyflawni blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys Cynllun Gofodol Cymru a’i wahanol fframweithiau a chynlluniau gweithredu. Bydd angen i’r CDLl ddangos cydweithio trawsffiniol gydag Awdurdodau cyfagos ar amrywiaeth fawr o faterion, gan gynnwys poblogaeth/tai, mwynau, gwastraff, Arfarniad o Gynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.
Mater a Ffactor Sbarduno Cenedlaethol, Rhanbarthol neu Leol:
MFfSCRh 1, MFfSCRh 2, MFfSCRh 4, MFfSCRh 5, MFfSCRh 8, MFfSCRh 9, MFfSCRh 10, MFfSCRh 11.

Mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus
Sylwadau:
Mae angen i’r CDLl fod yn glir ynghylch sut y gall gyfrannu at hybu trafnidiaeth gynaliadwy yn y Sir fel rhan o strategaeth trafnidiaeth integredig. Bydd angen i’r Cynllun ddangos sut mae’n bwriadu lleihau’r angen am deithiau diangen mewn ceir, a sut y bydd yn hybu mentrau megis cynlluniau teithio a defnyddio dulliau teithio cynaliadwy.
Mater a Ffactor Sbarduno Cenedlaethol, Rhanbarthol neu Leol:
MFfSCRh 3, MFfSCRh 15, MFfSLl 11, MFfSLl 43, MFfSLl 44.

Darparu amgylcheddau diogel
Sylwadau:
Mae angen i’r CDLl fod yn glir ynghylch sut y gall gyfrannu at fynd i’r afael â’r canfyddiad o droseddau ac achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhaid iddo ddangos sut y bydd yn cyflawni safonau dylunio cynhwysol ac o ansawdd da er mwyn cynllunio i atal troseddu, a rhaid iddo hefyd ddangos sut y bydd yn hwyluso’r gwaith o sicrhau cymunedau cymysg a chynaliadwy.
Mater a Ffactor Sbarduno Cenedlaethol, Rhanbarthol neu Leol:
MFfSLl 50, MFfSLl 51, MFfSLl 52.

Amgylchedd o ansawdd da
Sylwadau:
Mae angen i’r CDLl fod yn glir ynghylch sut y gall gyfrannu at sicrhau y caiff yr amgylchedd naturiol ei warchod a’i wella. Rhaid i’r Cynllun ddangos na fydd yn cael unrhyw effeithiau tebygol ac arwyddocaol ar amgylchedd y Sir (e.e. tirweddau, arfordir, cynefinoedd, ansawdd aer a bioamrywiaeth). Dylai’r CDLl warchod cefn gwlad agored rhag datblygiadau amhriodol.
Mater a Ffactor Sbarduno Cenedlaethol, Rhanbarthol neu Leol:
MFfSCRh 14, MFfSLl 1, MFfSLl 2, MFfSLl 18.

Gwyrdd a chynaliadwy
Sylwadau:
Mae angen i’r CDLl fod yn glir ynghylch sut y gall gyfrannu at leihau ôl troed ecolegol y Sir. Mae angen iddo helpu i wneud cymunedau’n gydnerth yn wyneb problemau yn y dyfodol megis rheoli dŵr (gan gynnwys llifogydd a chyflenwad/ansawdd dŵr) a chyflenwadau ynni/bwyd. Yn ogystal â mynd i’r afael ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, bydd angen i’r Cynllun ddangos y gall wneud cyfraniad gweladwy i leihau achosion y newid yn yr hinsawdd (e.e. hybu safonau adeiladu cynaliadwy ynghyd â pholisïau effeithiol ym meysydd trafnidiaeth a rheoli gwastraff).
Mater a Ffactor Sbarduno Cenedlaethol, Rhanbarthol neu Leol:
MFfSLl 6, MFfSLl 9, MFfSLl 10, MFfSLl 12, MFfSLl 14, MFfSLl 15, MFfSLl 16, MFfSLl 22, MFfSLl 49.

Nodweddion unigryw
Sylwadau:
Bydd angen i’r CDLl ddangos sut y gall gyfrannu at warchod a lle bo modd hybu nodweddion unigryw’r Sir. Rhaid iddo sicrhau y caiff treftadaeth ddiwylliannol a naturiol y Sir ei chynnal er mwyn diogelu cymeriad cymunedau a manteisio i’r eithaf ar botensial twristiaeth yr ardal. Mae angen i’r CDLl ddangos y gall reoli dwysedd, maint a lleoliad datblygiadau mewn modd priodol.
Mater a Ffactor Sbarduno Cenedlaethol, Rhanbarthol neu Leol:
MFfSCRh 16, MFfSLl 4, MFfSLl 5, MFfSLl 7, MFfSLl 8, MFfSLl 17, MFfSLl 47.

Mynediad i bawb
Sylwadau:
Mae angen i’r CDLl gyfrannu at gefnogi diwylliant o ddysgu gydol oes ledled Sir Gaerfyrddin. Mae angen i’r Cynllun ddangos sut y gall gyfrannu at leihau tlodi hygyrchedd ac allgau cymdeithasol; elfen allweddol o hyn fydd hybu Strategaeth Aneddiadau sy’n dosbarthu datblygiadau mewn modd hygyrch a chynaliadwy sy’n adlewyrchu nodweddion gofodol cyferbyniol y Sir.
Mater a Ffactor Sbarduno Cenedlaethol, Rhanbarthol neu Leol:
MFfSLl 27, MFfSLl 28, MFfSLl 29.

Cyfleusterau Cymunedol
Sylwadau:
Mae angen i’r CDLl gyfrannu at gefnogi cynaliadwyedd cyfleusterau cymunedol. Bydd angen i’r Strategaeth Ofodol a Hierarchaeth Aneddiadau ddangos y rhoddir i gymunedau gwledig a threfol gyfran briodol o ddatblygiadau gyda golwg ar gefnogi cyfleusterau cymunedol ym mhentrefi a threfi’r Sir. Dylai fframwaith polisi’r CDLl allu dangos y gall warchod (a gwella lle bo modd) y cyfleusterau sy’n bodoli eisoes.  
Mater a Ffactor Sbarduno Cenedlaethol, Rhanbarthol neu Leol:
MFfSLl 26

Diogelu
Sylwadau:
Mae angen i’r CDLl fod yn glir ynghylch sut y gall y Cynllun gyfrannu at ddiogelu gwead cymdeithasol cymunedau. Bydd hyn yn cynnwys datblygu sail dystiolaeth effeithiol, a fframwaith polisi yn sgil hynny, mewn perthynas â’r angen i wneud cyfraniad at sicrhau lles y Gymraeg yn y dyfodol. Rhaid i’r Cynllun hwn gydnabod y newidiadau demograffig yn nhermau dosbarthiad gofodol ac oedran siaradwyr Cymraeg yn y Sir. Fodd bynnag, rhaid i’w ran gael ei deall yn glir gan mai cyfyngedig yw’r mecanweithiau sydd ar gael i ymyrryd o fewn y system gynllunio.
Mater a Ffactor Sbarduno Cenedlaethol, Rhanbarthol neu Leol:
MFfSLl 24, MFfSLl 25, MFfSLl 30, MFfSLl 31

Tabl 1 – Materion a Ffactorau Sbarduno

3.2.2 Mae mwy o fanylion am y ffordd y datblygwyd Materion a Ffactorau Sbarduno’r CDLl i’w gweld yn yr adroddiadau ar ymgynghoriadau’r Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol a Phapur Pwnc y CDLl – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion. Mae’r rhain ar gael ar www.sirgar.gov.uk.

 

Brig y dudalen