Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin

Rhagair

A minnau'n Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden, mae'n bleser gennyf gyflwyno Cynllun Datblygu Lleol Sir Caerfyrddin fel y'i mabwysiadwyd gan y Cyngor Sir ar 10 Rhagfyr 2014.

Er ei fod yn ystyried rhaglenni, polisïau a chynlluniau cenedlaethol, mae Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin yn darparu modd lleol ac unigryw o lywio’r ffordd y defnyddir tir yn y dyfodol yn ein Sir. Felly, mae'r Cynllun yn ystyried nodweddion a rhinweddau unigryw ein Sir ac mae'n bleser gennyf weld y pwyslais a roddir ar ddatblygu cynaliadwy fel egwyddor ganolog. Rwy'n falch hefyd o nodi fod y Cynllun yn amlygu ei berthynas waith agos â'r Strategaeth Gymunedol Integredig.

Wrth nodi mai'r Cynllun Datblygu Lleol yw un o ddau gynllun yn unig y mae rheidrwydd statudol ar yr Awdurdod i'w cynhyrchu, yn fy marn i mae'r Cynllun hwn yn darparu dull cadarn er mwyn cyflawni uchelgais y Cyngor dros y blynyddoedd sydd i ddod. Yn benodol, rwy'n croesawu'r ffaith fod y Cynllun yn cydnabod pa mor bwysig ydyw fod twf ac adfywio yn cael eu gwasgaru'n gynaliadwy o fewn cyd-destun dulliau o weithio rhanbarthol.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ystyried amrywiaeth eang o faterion ac mae'n cyflwyno gweledigaeth o ddyfodol y Sir. Bydd Strategaeth y Cynllun o gymorth i wireddu'r weledigaeth hon drwy glustnodi lefel a dosbarthiad y twf a'r datblygu sydd eu hangen yn unol â gwahanol gymeriad cymunedau'r Sir. Bydd y Cynllun yn cyflawni'i Strategaeth drwy weithredu amrywiaeth o bolisïau a dyraniadau defnydd tir, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer cyflogaeth a phreswylfeydd newydd dros gyfnod y cynllun. Nodaf hefyd y bu i'r Arfarniad Cynaliadwyedd a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ill dau ran bwysig yn y broses o lunio'r Cynllun ac y cydymffurfiwyd â'r holl ofynion rheolaethol.

Cynhaliwyd Archwiliad annibynnol trwyadl o'r Cynllun Datblygu Lleol ac rwy'n croesawu adroddiad yr Arolygydd yn fawr. Yn ogystal, roedd ymgynghori helaeth yn sail i lunio'r Cynllun Datblygu Lleol, ac i'r perwyl hwn hoffwn nodi fy niolch i'r rhai ohonoch a roddodd gymorth gwerthfawr o ran casglu tystiolaeth, yr adborth a gafwyd i'r ymgynghoriad a chyfranogi yn yr Archwiliad.

Bellach mae fy meddwl yn troi at gyflawni'r Cynllun, ac yn hyn o beth, cyfeiriaf at y gofynion statudol a osodwyd ar yr Awdurdod ynghylch Monitro ac Adolygu ynghyd â chynhyrchu a mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol. Mae Canllawiau o'r fath yn gyfle i atgyfnerthu polisïau a darpariaethau'r Cynllun hwn ac ehangu arnynt. I mi, mae llunio canllawiau ar gyfer safleoedd penodol i ddatblygwyr, ar ffurf brîff datblygu, yn fater o bwys arbennig.

Cllr Meryl Gravell

Y Cynghorydd Meryl Gravell
Yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden

 

Brig y dudalen